Dedfrydu tri dyn am droseddau gwastraff yn Wrecsam
Mae tri dyn wedi cael eu dedfrydu am ollwng gwastraff yn anghyfreithlon mewn uned ddiwydiannol yn Wrecsam, gan fygwth yr amgylchedd lleol ac arwain at dros £900,000 o ddifrod.
Canfu ymchwiliadau gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn 2017 fod mwy na 1,600 tunnell o wastraff cymysg, wedi'i gywasgu i giwbiau a'u lapio mewn dalennau plastig, wedi'u gadael yn anghyfreithlon mewn uned ar Ystâd Ddiwydiannol Llai, Wrecsam.
Ddydd Gwener 28 Ebrill, dedfrydwyd Anthony Gordon Park, o Gaerfyrddin, yn Llys Ynadon Caernarfon am weithredu cyfleuster rheoledig mewn ffordd nad oedd yn unol â thrwydded amgylcheddol. Derbyniodd Mr Park ddedfryd o garchar am 14 mis, sydd i gael ei ohirio am 18 mis.
Cafodd y cyd-ddiffynyddion, Gavin Taylor, o Sheffield, a Karl Jones, o Rotherham, eu dedfrydu hefyd am achosi gwastraff a reolir i gael ei ollwng yn fwriadol ar dir mewn ffordd nad oedd yn unol â thrwydded amgylcheddol. Cafodd Taylor hefyd ddedfryd o garchar am 14 wedi’i ohirio am 18 mis, tra derbyniodd Jones orchymyn cymunedol 12 mis gyda 68 awr o waith di-dâl.
Cosbwyd cwmni, FCM Commercial Services Limited, hefyd am gludo gwastraff yn fwriadol a'i ollwng yn yr uned ddiwydiannol. Gorchmynnwyd i’r cwmni dalu cyfanswm o £6,500 mewn dirwyon a chostau.
Yn dilyn archwiliad cychwynnol ym mis Mai 2017, canfu swyddogion CNC fod tri-chwarter yr adeilad yn llawn ciwbiau gwastraff. Roedd y rhain wedi'u pentyrru'n uchel i gael cymaint â phosibl i mewn i'r adeilad.
Roedd gan rai rwygiadau yn y gorchudd plastig a gallai swyddogion CNC weld eu bod yn cynnwys gwastraff cymysg gan gynnwys plastig, pren, carped, gwydr, ffibr ac ewyn.
Ar ôl mynd i mewn i'r uned, gallai'r swyddogion deimlo'r gwres yn cael ei gynhyrchu gan y ciwbiau gwastraff, tra bod arogl cryf a nifer fawr o bryfed yn bresennol.
Yn ogystal, achoswyd difrod helaeth i'r adeilad, a chanfuwyd yn ddiweddarach fod hynny werth tua £934,589.51. Mae ymchwiliadau hefyd yn parhau o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.
Dywedodd David Powell, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru:
“Mae'r erlyniad llwyddiannus hwn yn dangos bod CNC o ddifrif am ei nod o leihau troseddau gwastraff anghyfreithlon ledled Cymru.
“P'un ai chi yw'r cynhyrchydd neu'r cludwr gwastraff, mae dyletswydd gyfreithiol ar bawb i wirio bod y person neu'r cwmni sy'n cymryd ac yn gollwng y gwastraff wedi'i gofrestru ar gofrestr gyhoeddus CNC. Yn yr achos hwn, bu’n rhaid i berchennog y tir dalu i gael gwared ar y gwastraff.
“Roedd y gwres yr oedd y gwastraff yn ei gynhyrchu yn golygu bod perygl gwirioneddol o achos o hunan-losgi neu dân. Pe na bai swyddogion wedi ymyrryd pan wnaethant, gallai hyn fod wedi arwain at drychineb i'r ardal gyfagos, yr amgylchedd lleol a'r cyhoedd.
“Hoffem ddiolch i gydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am eu cydweithrediad yn yr erlyniad llwyddiannus hwn.”
Dylai unrhyw un sy'n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn ei ardal roi gwybod drwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.