Dedfrydu tri dyn am weithrediadau gwastraff anghyfreithlon gwerth sawl miliwn yng Nghastell-nedd
Mae tri dyn a chwmni a oedd wedi’u cyhuddo o gyfres o droseddau gwastraff anghyfreithlon wedi’u dedfrydu am gynnal gweithrediadau gwastraff anghyfreithlon gwerth sawl miliwn mewn dau safle yn Resolfen a Sgiwen, Castell-nedd.
Rhwng y tri ohonynt, cafodd Dennis Brian Connor o The Barn, Pantlasau, Treforys, Howard Geary Rees o Dŷ Rheola, Resolfen ac Eurid Huw Leyshon, o Fferm Pentwyn, Sgiwen gyfanswm o 52 mis o ddedfrydau carchar gohiriedig, 280 awr o waith di-dâl, a gorchymyn i dalu dros £353,000 yn ôl o fewn tri mis o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.
Hefyd, gorchmynnwyd i gwmni Connor, DBC Site Services 2005 Ltd, dalu £75,411 yn ychwanegol.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y pedwar diffynnydd wedi gwneud elw anghyfreithlon o bron i £5m rhyngddynt, drwy osgoi costau cyfreithlon.
Mae’r dedfrydau’n benllanw ymchwiliad cymhleth a thrylwyr dros bedair blynedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cymerodd ddwy flynedd i yrru’r ymchwiliad yn ei flaen drwy’r llys, yn rhannol oherwydd oedi yn sgil COVID-19.
Roedd Dennis Connor eisoes wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad i’w gwmni, DBS Site Services 2005 Ltd, ganiatáu neu ymoddef troseddau drwy adael i wastraff rheoledig gael ei waredu heb drwydded amgylcheddol yn y ddau safle, a hynny’n fwriadol. Cafodd Mr Connor ddedfryd o 20 mis yn y carchar, wedi’i gohirio am 18 mis, yn ogystal â 100 awr o wasanaeth cymunedol.
Dygwyd achos Enillion Troseddau i’w derfyn yn erbyn Mr Connor, hefyd. Dysgodd y llys mai cyfanswm ei elw yn sgil ei weithgareddau troseddol oedd £1,121,554.75. Gwerth ei asedau oedd ar gael i’w hatafaelu oedd £177,908.13, ac fe’i gorchmynnwyd i dalu’r swm hwn o fewn tri mis. Rhoddwyd dedfryd diffygdalu o 21 mis o garchar iddo pe bai’n methu â thalu o fewn y cyfnod hwn.
Cafodd y cwmni, DBC Site Services 2005 Ltd, a wnaeth elw o £1,121,554.75 hefyd, orchymyn i dalu £65,411.78 o fewn tri mis, a chafodd ddirwy ychwanegol o £10,000.
Roedd Howard Rees wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o waredu gwastraff mewn modd a oedd yn debygol o achosi llygredd yn yr amgylchedd neu niwed i iechyd pobl, a gweithredu cyfleuster gwastraff heb drwydded amgylcheddol, yn Rheola. Cafodd ddedfryd o 16 mis o garchar wedi’i gohirio am 18 mis, a chafodd orchymyn cymunedol i gwblhau 100 awr o waith di-dâl.
Datgelodd yr achos Enillion Troseddau a ddygwyd i’w derfyn yn erbyn Mr Rees mai £1,405,933 oedd cyfanswm ei elw yn sgil ei weithgareddau troseddol ond mai dim ond £66,841.77 oedd ar gael i’w atafaelu; gorchmynnwyd iddo dalu’r swm hwn o fewn tri mis. Cafodd orchymyn diffygdalu o wyth mis o garchar pe bai’n methu â thalu.
Roedd Huw Leyshon wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o weithredu safle gwastraff heb drwydded yn Fferm Pentwyn, Sgiwen. Cafodd ddedfryd o 16 mis o garchar, wedi’i gohirio am 18 mis am y ddwy drosedd, a chafodd orchymyn cymunedol i gwblhau 80 awr o waith di-dâl.
Datgelodd yr achos Enillion Troseddau a ddygwyd i’w derfyn yn erbyn Mr Leyshon mai £1,296,197.80 oedd cyfanswm ei elw yn sgil ei weithgareddau troseddol. £108,313.14 oedd y swm oedd ganddo ar gael i’w atafaelu, a gorchmynnwyd iddo dalu hwn o fewn tri mis. Cafodd orchymyn diffygdalu o 12 mis o garchar pe bai’n methu â thalu.
Meddai Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer De Orllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr achos hwn yn anfon neges gadarnhaol i’r rhai sy’n ceisio elwa drwy dorri’r gyfraith, na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n goddef niwed i gymunedau lleol na difrod i’r amgylchedd.
“Aeth effaith y gweithgareddau hyn y tu hwnt i ffiniau tir y diffynyddion, gan effeithio ar yr ardal ehangach.
"Mae gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yn tanseilio busnesau sy’n buddsoddi yn y mesurau gofynnol ac felly mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu mewn achosion o’r fath i warchod pobl a’r amgylchedd, yn ogystal â diogelu’r farchnad ar gyfer gweithredwyr cyfreithlon.”
Yn ystod gwanwyn 2016, derbyniodd CNC adroddiad yn nodi bod lorïau mawr yn cludo gwastraff yr amheuwyd ei fod yn wastraff rheoledig i safle Hen Waith Rheola yn Resolfen.
R M Rees Contractors Ltd oedd yn berchen ar y safle ac mae’n agos at yr ystad restredig Gradd II yn Nhŷ Rheola, sy’n eiddo i Howard Geary Rees, cyfarwyddwr R M Rees Contractors Ltd.
Rhoddodd CNC y safle dan wyliadwriaeth a gwelwyd cerbydau mawr yn gollwng gwastraff ar y safle. Gwelwyd peiriannau cloddio mawr yn claddu’r gwastraff mewn ffosydd dwfn, ac yna’n gwastatáu’r ddaear er mwyn ei guddio o’r golwg. Roedd un o’r lorïau hyn wedi’i chofrestru â DBC Site Services 2005 Ltd, a dangosodd ymchwiliadau mai Dennis Brian Connor oedd unig gyfarwyddwr y cwmni hwn.
Nid oedd unrhyw drwyddedau amgylcheddol nac eithriadau gwastraff mewn grym yn unrhyw un o’r lleoliadau hyn.
Yn dilyn hyn, cynhaliwyd chwiliadau gan swyddogion CNC, gyda Heddlu De Cymru, ym mhreswylfa Howard Rees, Tŷ Rheola, lle cafodd dogfennau a ffôn symudol eu hatafaelu, a lle arestiwyd Mr Rees.
Ar yr un pryd, cynhaliwyd chwiliad yn swyddfa DBC Site Services 2005 Ltd yng Nghlydach, a phreswylfa breifat Dennis Connor yn Nhreforys, a gafodd ei arestio hefyd. Atafaelwyd nifer o ddogfennau gan swyddogion CNC a oedd yn gweithio ar y cyd â’r heddlu.
Ar safle Hen Waith Alwminiwm Rheola, canfuwyd bod llawer o bentyrrau enfawr o wastraff wedi'u gollwng ar y ddaear yn ddiweddar. Roedd y pentyrrau hyn yn cynnwys gwahanol fathau o wastraff, gan gynnwys gwastraff cartref oedd yn pydru a oedd yn amlwg o ardaloedd Abertawe a Chaerfyrddin, plastigau wedi'u darnio’n fân, a rhannau olewog ar gyfer cerbydau wedi'u darnio’n fras.
Comisiynwyd arolwg geoffisegol electromagnetig ar safle Rheola gan CNC, a gadarnhaodd arsylwadau’r gwaith gwyliadwriaeth bod gwastraff wedi'i gladdu yno. Yna, cloddiodd CNC dyllau neu ffosydd prawf, i ddatgelu'r gwastraff hwn. Darganfuwyd cryn dipyn o wastraff wedi'i gladdu hyd at bedwar metr o ddyfnder. Roedd hwn yn cynnwys llawer iawn o wastraff trefol o Abertawe, gwastraff olewog o iardiau sgrap, a gwastraff clinigol peryglus.
Cafodd y gwastraff clinigol ei olrhain gan ymchwilwyr i un o ymddiriedolaethau ysbyty'r GIG yn Ne Ddwyrain Cymru, ac roedd yn cynnwys chwistrellau gyda’r nodwyddau yn dal ynghlwm, a bagiau gwastraff heintus oren wedi'u darnio. Dosbarthwyd y gwastraff hwn yn wastraff peryglus a dim ond drwy ei losgi ar dymheredd uchel y gellir ei waredu'n gyfreithlon. Roedd ymddiriedolaeth yr ysbyty wedi trosglwyddo'r gwastraff yn ddidwyll i gwmni arall i'w waredu'n gyfreithlon. Cafodd siom ofnadwy o glywed am y darganfyddiad, a chydweithiodd yn llawn ag ymchwilwyr CNC.
Roedd rhywfaint o'r gwastraff oedd yn y ddaear hefyd yn cynnwys asbestos, a chlywodd y llys fod hyn a'r sylweddau yn y gwastraff clinigol peryglus yn peri risg i iechyd pobl a'r amgylchedd. Cyfaddefodd Howard Rees ei fod wedi cadw cofnod o'r lorïau a'r llwythi a ddaeth i'w dir, a dangosodd dogfennau a atafaelwyd y talwyd 'ffioedd tipio' iddo gan Mr Connor am waredu’r gwastraff. Dangosodd cofnodion ffôn fod Mr Rees hefyd wedi bod mewn cysylltiad â gyrrwr lori oedd yn dod â gwastraff i Reola o Rotherham.
Cyfaddefodd Dennis Connor iddo gael gwared ar y gwastraff trefol o ardaloedd Abertawe a Chaerfyrddin yn Rheola, a chyfaddefodd yn ddiweddarach ei fod wedi gwaredu 2,676 tunnell ychwanegol o Danwydd Sy'n Deillio o Sbwriel (gwastraff cartref wedi'i ddarnio’n fân) yn Nhŷ Rheola, ac am hynny'n unig talwyd £208,000 iddo.
Datgelodd archwiliad o'r dogfennau a atafaelwyd oddi wrth DBC Site Services fod symiau anferth o wastraff, mewn cannoedd o lwythi lori, wedi'u cludo o iardiau sgrap yn Birmingham i Fferm Pentwyn, Sgiwen. Teithiodd swyddogion CNC i Birmingham ac archwilio'r iardiau sgrap gyda chydweithwyr o Asiantaeth yr Amgylchedd. Canfuwyd bod Dennis Connor wedi cael ei gontractio gan y cwmni iardiau sgrap i waredu eu gronynnau mân olewog dros nifer o flynyddoedd. Cloddiodd CNC dyllau prawf ar Fferm Pentwyn a chanfuwyd bod llawer iawn o'r gwastraff olewog mân wedi'i gladdu hyd at 11 metr o ddyfnder. Meddiannydd y fferm oedd Huw Leyshon, a gawsai ei dalu gan Connor am waredu’r gwastraff.
Nid oedd unrhyw drwyddedau amgylcheddol nac unrhyw eithriadau gwastraff cofrestredig mewn grym ar Fferm Pentwyn, ac roedd natur olewog y gwastraff yn golygu ei fod yn debygol o fod yn beryglus ac yn risg i'r amgylchedd.