Fandaliaid yn gwneud Aberteifi yn fwy agored i lifogydd
Mae fandaliaid wedi gwneud rhannau o Dref Aberteifi yn fwy agored i lifogydd drwy ddifrodi offer a ddefnyddir i fonitro amddiffynfeydd llifogydd hanfodol, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Cafodd camera teledu cylch cyfyng a ddefnyddiwyd i fonitro Cynllun Lliniaru Llifogydd Mwldan ei rwygo o'i leoliad a'i ddwyn ym mis Tachwedd. Mae’r mater wedi cael ei adrodd i’r heddlu.
Mae'r camera teledu cylch cyfyng yn caniatáu i staff CNC nodi'n gyflym os yw llifddorau – fel gorchuddion metel mawr - ar agor pan fyddant yn cael eu defnyddio. Mae'r llifddorau ar agor i ganiatáu i ddŵr gael ei ddargyfeirio rhag ofn bod yna lif trwm yn Afon Mwldan.
Mae'r camera wedi'i ddisodli ers hynny ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad yw'r Cynllun Lliniaru mewn cyflwr gwaith da.
Dywedodd Gareth Richards, Arweinydd Tîm Perfformiad Asedau CNC, "Dw i ddim yn credu bod y person na'r bobl sydd wedi gwneud hyn yn deall y risg bosibl maen nhw'n rhoi'r dref o dan. Heb os, mae Cynllun Lliniaru Llifogydd Mwldan wedi achub rhannau o'r dref rhag llifogydd difrifol dros y blynyddoedd.
"Er bod Cynllun Lliniaru Llifogydd Mwldan mewn cyflwr da ac yn barod i gael ei roi ar waith yn gyflym, mae'n hanfodol ein bod yn gallu ei fonitro o bell. Pe bai problem yn codi tra bod y cynllun llifogydd yn cael ei ddefnyddio ac nad oedd gennym allu monitro, gallai llifogydd ddinistrio rhannau o'r dref yn yr amser y byddai'n ei gymryd i ddatrys y mater."
Mae CNC yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i roi gwybod i Heddlu Dyfed Powys, gan ddyfynnu'r cyfeirnod trosedd DPP/5601/24/11/2021/02/C.