Gweithio i leihau perygl llifogydd yn y Bontnewydd
Mae cam diweddaraf y gwaith i leihau'r risg o lifogydd i drigolion mewn pentref yng ngogledd Cymru yn dechrau'r wythnos nesaf.
Cafodd naw eiddo yn y Bontnewydd ger Caernarfon eu heffeithio'n ddrwg gan lifogydd ym mis Tachwedd 2015.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwella ac yn cryfhau'r wal sy'n helpu i ddiogelu eiddo yn ystad Glanrafon o’r Afon Gwyrfai.
Mae'r gwaith yn rhan o welliannau parhaus gan Gyngor Gwynedd, Dŵr Cymru a CNC yn gweithio gyda Grŵp Afon Gwyrfai.
Ers y llifogydd, mae rhwystrau yn yr afon wedi cael eu clirio, waliau llifogydd wedi eu hatgyweirio a gwnaed gwelliannau i reoli dŵr wyneb.
Mae’r bartneriaeth yn ddiolchgar i Grŵp Dalgylch Gwyrfai am eu cydweithrediad.
Meddai Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau CNC:
“Mae'r gwaith yn gam sylweddol ymlaen o ran ymdrechion parhaus i leihau perygl llifogydd ar gyfer y gymuned ym Mhontnewydd.
“Er na allwn atal perygl llifogydd yn llwyr, bydd y gwaith hwn yn lleihau'r risg yn sylweddol, gan ddod â thawelwch meddwl i bobl stâd Glanrafon.”
Mae'r gwaith, a wneir gan gontractwyr CNC William Hughes Civil Engineering Ltd, yn un rhan o'r gwaith i leihau perygl llifogydd yn y gymuned hon.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Gwynedd yn cwblhau gwaith modelu'r dalgylch cyfan i ystyried pob agwedd ar faterion perygl llifogydd gan gynnwys llifogydd o afonydd a dŵr wyneb.
I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau llifogydd, neu rybuddion llifogydd, ewch i cyfoethnaturiol.cymru/llifogyddg Neu cysylltwch â Floodline: - 0345 988 1188.