Gorlifoedd Stormydd yng Nghymru

Erbyn 1 Gorffennaf bydd y Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell yn cyhoeddi map ffordd a fydd yn nodi amcanion a chanlyniadau mesuradwy ar gyfer cyflawni gwelliannau i reoli a rheoleiddio amgylcheddol gorlifoedd stormydd yng Nghymru.

Cyd-destun

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru (2021-2026) yn nodi'r weledigaeth a'r uchelgais i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'n ymrwymo i sicrhau bod natur a'r hinsawdd ar agenda pob gwasanaeth cyhoeddus a busnesau yn y sector preifat. Mae hyn yn gofyn am reoli adnoddau naturiol yn integredig er mwyn sicrhau'r manteision economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl mewn ffordd deg, tra'n diogelu pob ecosystem a'r amgylchedd.

Mae amgylchedd dŵr ffyniannus yn hanfodol ar gyfer cefnogi cymunedau iach, busnesau llewyrchus a bioamrywiaeth. Rhaid inni weithredu'n awr i sicrhau bod rheoli ein hamgylchedd dŵr yn gynaliadwy o fudd i bobl a chymunedau Cymru heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol.

Yr angen i weithredu

Mae'r seilwaith sy’n ddelio â'n carthion yng Nghymru o dan bwysau oherwydd newid yn yr hinsawdd, newidiadau o ran dwysedd a dosbarthiad y boblogaeth, a datblygiadau newydd. Heb weithredu, bydd y pwysau hyn yn cyfrannu at gynnydd yn y llifau mewn gwaith trin, gan beryglu cynnydd yn nifer y gollyngiadau gorlifoedd stormydd (y cyfeirir atynt fel gorlifoedd) sydd â’r potensial i gael effaith andwyol ar ein hamgylchedd dŵr .

Mae gweithredu cyd gysylltiedig ar draws sefydliadau yn hanfodol os ydym am sicrhau newid a gwelliant i'r ffordd y rheolir a rheoleiddio'r amgylchedd ar orlifoedd yng Nghymru.

Y  Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Ofwat, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy (y sefydliadau partner) yn cydnabod yr angen hwn i weithredu ac wedi sefydlu Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell (y tasglu) i werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym. Mae Afonydd Cymru a'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn rhoi cyngor annibynnol i'r tasglu, gan gynnig mewnwelediad allweddol a her o safbwynt rhanddeiliaid a chwsmeriaid.

Gwell Ansawdd Afonydd yng Nghymru

Mae'r tasglu'n cydnabod mai dim ond un o nifer o elfennau y mae angen mynd i'r afael â hwy yw gweithredu ar orlifoedd os ydym am wella ansawdd afonydd yng Nghymru.  Gan gymryd data a ddefnyddiwyd ar gyfer y Cynlluniau Basn Afon ym mis Ionawr 2022, nodwyd bod gorlifoedd wedi bod yn rheswm dros beidio â chyflawni Statws Da mewn 3.7% o'r cyrff dŵr ledled Cymru. Gyda 4 o'r methiannau wedi'u cadarnhau fel rhai sy'n cyfrannu a 27 yn cael eu hasesu fel rhesymau tebygol dros fethu a 4 corff dŵr arall yn cael eu hamau.

Bydd CNC yn parhau i  adolygu'r rhesymau dros beidio â sicrhau statws da yn erbyn dosbarthiad  Cyfarwyddeb Fframwith Dwr 2021 a diweddaru ac adrodd ym mis Gorffennaf 2022 ochr yn ochr â chyhoeddi'r Cynlluniau Basn Afon.

Dyma pam mai ffocws uniongyrchol y Tasglu ar orlifoedd fydd y cam pwysig cyntaf ar y daith tuag at weithredu cyd-gysylltiedig a phenodol mewn meysydd eraill  a fydd yn sicrhau gwelliannau o ran rheoli'r amgylchedd dŵr yn  gynaliadwy  yng Nghymru, gan sicrhau gwelliannau hirdymor a chynaliadwy i ansawdd afonydd.

Caiff yr uchelgais hwn ei  gefnogi  yn yr un modd gan gynlluniau gweithredu cyd-gysylltiedig i fynd i'r afael â meysydd a sectorau eraill sy'n effeithio ar ansawdd dŵr yng Nghymru.

Ein Nodau

Er mwyn sbarduno ein camau i sicrhau  newid a gwelliant cyflym i'r ffordd y rheolir a rheoleiddio'r amgylchedd ar orlifoedd yng Nghymru , rydym am:

  • Roi cymorth di-dor i Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni eu huchelgeisiau o ran natur a newid yn yr hinsawdd
  • Lleihau effaith andwyol unrhyw ollyngiadau gorlifoedd ar yr amgylchedd drwy dargedu buddsoddiad a chymryd camau rheoleiddio lle bo angen i sicrhau gwelliannau
  • Gweithio i ddatblygu'r fframwaith rheoleiddio presennol i sicrhau bod  cwmnïau dŵr a gwastraff dŵr yn rheoli ac yn gweithredu eu rhwydwaith o garthffosydd yn effeithiol.  Bydd rheoleiddwyr yn defnyddio eu pwerau presennol i yrru'r canlyniadau cywir a dwyn cwmnïau i gyfrif.
  • Casglu mwy o dystiolaeth o'r effaith ar ein hafonydd drwy fonitro'r gollyngiad a'r dŵr sy'n derbyn yn well a, thrwy hyn, gyrru tuag at rwydweithiau gwirioneddol glyfar gan wneud y defnydd gorau o dechnoleg a rheoli amser real.
  • Gweithio gyda chwsmeriaid dŵr i fynd i'r afael â chamddefnyddio carthffosydd.
  • Gweithio gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid i wella dealltwriaeth a rôl gorlifo yng Nghymru

Ble rydyn ni nawr?

Mae gwella ansawdd dŵr yn elfen allweddol o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ac mae gan sefydliadau partner y Tasglu rôl allweddol i'w chwarae wrth gyfrannu at gyflawni'r nod hwn ar ran pobl Cymru.


Yng Nghymru, mae'r cwmnïau dŵr wedi bod yn gweithio dros nifer o flynyddoedd i wella asedau sy'n perfformio'n wael. Mae hyn yn cynnwys gwella monitro i nodi lle mae angen cymryd camau pellach.

Ein map ffordd ar gyfer gweithredu, newid a gwella

Er bod gwaith eisoes ar y gweill i wella gorlifiadau yng Nghymru, mae'r Tasglu wedi nodi 5 maes ar gyfer newid a gwella, a  nodir isod, lle mae angen cymryd camau ychwanegol er mwyn sbarduno newid, gwelliant a buddsoddiad cyflym i gyflawni ein nodau. 

Erbyn 1 Gorffennaf 2022 bydd y Tasglu yn cyhoeddi map ffordd gorlifoedd stormydd i Gymru ar y cyd â'n Cynlluniau Basn Afon ehangach.  Bydd  y map hwn yn cael ei lywio gan 5 cynllun gweithredu manwl sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan yr aelod(au) Tasglu perthnasol.  Mae'r cynlluniau hyn yn nodi amcanion clir a chanlyniadau mesuradwy ar gyfer cyflawni gwelliannau i reoli gorlif  o'r cychwyn cyntaf hyd at y tymor hir.

Y Tasglu fydd yn goruchwylio'r gwaith o  ddarparu'r map ffordd, gydag atebolrwydd am gyflawni camau gweithredu unigol/penodol sy'n gorwedd gyda'r aelod(au) Tasglue priodol. Bydd  yr holl randdeiliaid  perthnasol yn cael eu gofyn i gynorthwyo lle bo hynny'n briodol.

5 maes ar gyfer newid a gwella

Ail-greu effaith weledol (Gosod Sgriniau)

Wrth fynd i'r afael â'r effeithiau gweledol a welir yn ein hafonydd, mae angen  rhaglen o  asesu gorlifoedd lle nad yw sgrinio ar waith ar hyn o bryd neu, lle mae ar waith, efallai na fydd yn ddigonol ar gyfer defnydd amwynder modern.

Bydd y cwmnïau dwr yng Nghymru yn gweithio gyda'r rheoleiddiwr amgylcheddol i bennu meini prawf asesu ac yna'n cynnal asesiadau o fewn y cyfnod AMP7 presennol. Bydd yr asesiadau hyn yn nodi lle mae angen gosod sgrin  bellach ac yn llywio achos cwmnïau dros fuddsoddi mewn AMP8 a rhaglenni buddsoddi  dilynol.  Gan weithio gyda rheoleiddwyr a Llywodraeth Cymru, disgwylir i gwmniau dŵr nodi a blaenoriaethu camau gweithredu ar yr asedau hynny yr ystyrir bod angen rhoi sylw brys ac uniongyrchol iddynt, gan ail-flaenoriaethu gwariant y cytunwyd arno eisoes ar gyfer Cynlluniau Busnes AMP7.

Ansawdd elifiant ac ansawdd afonydd

Er mwyn llywio'r gwaith o ddarparu atebion dalgylch sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae angen gwell gwybodaeth  am  ansawdd rhyddhau o orlifoedd a'r effaith ar ansawdd y dŵr sy'n eu dderbyn. Bydd monitro elifiant gwell ar safleoedd wedi'u targedu, ynghyd â monitro hyd digwyddiadau sydd eisoes ar waith,  yn gwella'r dystiolaeth sydd ar gael ac yn galluogi targedu a blaenoriaethu camau gweithredu'n effeithiol.  Rhaid i fonitro gorlifoedd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol hefyd weithio ochr yn ochr â rhaglenni monitro ar gyfer ffynonellau llygredd o amaethyddiaeth, ffynonellau gwasgaredig a sectorau eraill.

Bydd rhaglen monitro ymchwiliol yn cael ei sefydlu rhwng CNC a'r cwmniau dwr  i bennu gofynion hirdymor ar gyfer monitro gorlifo ledled Cymru. Bydd yr angen i fonitro ar gyfer ystod ehangach o lygryddion gan gynnwys micro-blastigau, cynhyrchion fferyllol a pharamedrau iechyd y cyhoedd hefyd yn cael ei asesu.

Bydd cwmnïau dŵr hefyd yn ymchwilio ac yn hyrwyddo'r defnydd o fonitro a thystiolaeth o ffynonellau eraill gan gynnwys atebion a thechnoleg arloesol.  Gall dinasyddion a grwpiau lleol chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i daclo llygredd ansawdd dŵr gan ddarparu gwybodaeth fonitro ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.  Byddwn yn gweithio'n galed gyda gwyddonwyr dinasyddion i ddeall sut mae eu gwaith yn rhan o'n rhaglen waith derfynol.

Rheoleiddio amgylcheddol y gorlifoedd  

I sicrhau bod cwmnïau dŵr yn rheoli ac yn gweithredu eu rhwydwaith o garthffosydd yn effeithiol, mae angen newidiadau i'r dulliau rheoleiddio presennol a chryfhau rheoleiddio amgylcheddol.

Bydd y rheoleiddiwr amgylcheddol yn adolygu ac  yn gweithredu newidiadau lle y bo'n briodol i'r fframwaith rheoleiddio presennol er mwyn sicrhau  canllawiau, prosesau ac offer rheoleiddio clir ar gyfer gwella asedau sy'n perfformio'n wael.  Dylid profi a mireinio mesurau caniatáu ac adrodd yn ôl  yr angen.

Bydd y rheoleiddiwr amgylcheddol a'r cwmnïau dŵr yn sicrhau bod data gorlifoedd yn hawdd ei gyrraedd ac yn ddealladwy i ystod eang o randdeiliaid a'r cyhoedd, gan adeiladu ar y dulliau presennol o adrodd data.  Yr uchelgais yw monitro gorlifoedd mewn amser real, gan ganiatáu i rheini sydd â diddordeb gael gafael ar ddata yn ôl yr angen.

Byddwn yn cydweithio â’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr i gyflawni ei raglen Pobl a'r Amgylchedd, er mwyn gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cysylltiad rhwng ein gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ac iechyd ein hafonydd a'n hamgylchedd dŵr.

Capasiti'r rhwydwaith – cynllunio ar gyfer y tymor hir

Er mwyn sicrhau rhwydwaith sy'n addas i'r diben, yn awr ac yn y dyfodol, mae  angen inni gryfhau'r gofynion cynllunio hirdymor ar gyfer seilwaith carthffosiaeth.

Mae Cynlluniau Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr (DWMP) yn rhoi cyfle i gwmnïau dŵr a'r holl randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu neu broses gynllunio strategol 25 mlynedd a gynlluniwyd i edrych ar ddalgylchoedd carthffosiaeth. Felly, rhaid i aelodau Tasglu weithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r fframwaith  rheoleiddio i gefnogi DWMPs yng Nghymru.

Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu DWMPs, mae angen i ni ystyried sut y gellir mynd i'r afael â rheoli ffynonellau ac ymddygiad cwsmeriaid drwy addysg, ymgyrchoedd atal llygredd neu ddeddfwriaeth well. Mae atal dŵr glaw a phlastig rhag mynd i mewn i'r system garthffosiaeth yn hanfodol ar gyfer y tymor hwy os ydym am fynd i'r afael â phroblemau.

Dealltwriaeth ac ymgysylltiad cyhoeddus

Mae angen i ni ddatblygu a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o orlifoedd a'u cyswllt â materion ansawdd dŵr eraill. Dylid hefyd ddefnyddio ymgysylltiad â chwsmeriaid a rhanddeiliaid i lywio dealltwriaeth o sut mae pobl yn ymwneud â'u hafonydd a'u hamgylchedd a sut y cânt eu hysgogi i gymryd camau i leihau eu heffeithiau eu hunain ar ansawdd dŵr.

Mae angen cyfathrebu cyd-gysylltiedig ac amlwg gan reoleiddwyr, y Llywodraeth, cwmnïau dŵr a rhanddeiliaid i wella dealltwriaeth o'r swyddogaeth y mae gorlifoedd yn eu chwarae wrth atal llifogydd i eiddo mewn system garthffosiaeth gyfun.  Rhaid i'r cyfathrebu hwn hefyd amlygu sut mae ymddygiad cwsmeriaid a rhanddeiliaid yn effeithio'n uniongyrchol ar effeithiolrwydd y rhwydwaith – ac y gall camddefnyddio carthffosydd arwain at niwed amgylcheddol.

Byddwn yn ceisio datblygu'r pecyn o gyngor ac offer sydd ar gael ynghylch camddefnyddio carthffosydd,  camgysylltu carthffosydd a  lleihau rhwystrau.  Byddwn hefyd yn ystyried datblygu ymgyrch integredig ar draws sefydliadau partner ar 'Wella Ansawdd Dŵr' ehangach gan gyfeirio'n benodol at orlifoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf