Adroddiad ar berfformiad 2021-22

Mae Clare Pillman, ein Prif Weithredwr, yn cynnig ei safbwynt ar ein perfformiad eleni ac rydym yn amlinellu diben ein sefydliad, ein prif rolau a chyfrifoldebau, a’r risgiau a'r problemau rydym yn eu hwynebu, yn ogystal ag esbonio sut rydym wedi rheoli’r gwaith o gyflawni ein hamcanion eleni.

Datganiad y Prif Weithredwr

Mae sefyllfa'r byd wedi newid eto, ac wrth i ni ddysgu byw gydag effeithiau parhaus y pandemig Covid, mae'r byd wedi troi ei olygon tuag at bobl Wcráin ac ymosodiad Rwsia. Rydym yn llwyr gefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddynodi Cymru'n genedl noddfa, ac rydym wrthi'n archwilio sut mae CNC yn gallu cefnogi ymdrechion dyngarol i ddarparu cysgod diogel a chyfleoedd i ffoaduriaid o Wcráin.

Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd y gwrthdaro'n para am gyfnod hir, ac rydym wrthi'n monitro effeithiau ehangach y rhyfel ledled y byd, a sut y byddant yn effeithio arnom ni yng Nghymru. Rydym yn dadansoddi'r sbardunau a'r risgiau cysylltiedig, gan gynnwys newidiadau i gyflenwadau ynni a bwyd, defnydd tir a rheoleiddio tir, a'r effaith ar gostau byw sydd eisoes yn codi - i gyd yn erbyn cefnlen goblygiadau parhaus ymadawiad Prydain â'r UE.

Mae'r gwaith hwn wedi ein helpu i ganolbwyntio'n well ar gyflawni. Ni all y materion byd-eang pwysig hyn dynnu ein sylw oddi ar realiti newid yn yr hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i osod yr argyfwng hinsawdd a natur wrth wraidd ei phenderfyniadau yn ei Rhaglen Lywodraethu, a buom yn gweithio'n agos gyda Gweinidogion a swyddogion i gytuno ar bum blaenoriaeth gyffredin er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb llawn o safbwynt disgwyliadau a darparu gwasanaethau. Mae'r meysydd ffocws hyn yn adlewyrchu gwaith archwiliadau dwfn gweinidogion, ac maent yn cynnwys ansawdd dŵr, bioamrywiaeth, atal llifogydd a thomennydd glo, galluogi plannu coed, a chaniatâd morol ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy.

Buom yn gweithio'n ddiwyd gyda Llywodraeth Cymru i amlinellu ac adolygu gweithgareddau sylfaenol CNC. Mae ffrydiau gwaith wedi'u diffinio ac maent yn cynnwys lefelau gwasanaeth, blaenoriaethu cyffredin a'n cyllideb ar gyfer y dyfodol. Hefyd, rydym yn defnyddio'r cyfle hwn i archwilio'r potensial ar gyfer buddsoddi i arbed ac arbedion effeithlonrwydd gwasanaethau. Cyflwynir y gwaith hwn i'r Gweinidog yn ystod haf 2022.

Eleni rydym wedi gwneud cynnydd da ar lawer iawn o'n rhaglenni gwaith yng nghanol heriau parhaus Covid-19 a nifer o lifogydd difrifol. Mae hyn wedi cynnwys cyrraedd ein targed o leihau'r perygl llifogydd ar gyfer 800 o eiddo trwy ein gwaith cyfalaf erbyn mis Rhagfyr 2021. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i wella'r sefyllfa ar gyfer mwy o eiddo erbyn diwedd 2022/23 gan gynnwys, er enghraifft, prosiect mawr i sicrhau diogelwch hirdymor llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid. Mae'r llyn naturiol yn gwneud cyfraniad hanfodol at y gwaith o reoleiddio llifoedd a rheoli llifogydd yn Nyffryn Dyfrdwy. Mae'r gwaith yn cynnwys cryfhau'r gwrthgloddiau ac adnewyddu’r amddiffynfeydd cerrig ar hyd glannau’r llyn yn ei gyfanrwydd ac fe'i rheolir o dan ddeddfwriaeth cronfeydd dŵr gan fod gwrthgloddiau'r llyn yn diogelu tref y Bala rhag llifogydd.

Lansiwyd ein sgwrs genedlaethol, Natur a Ni, ym mis Ionawr gyda'r nod o annog pobl Cymru i siarad am sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar yr amgylchedd naturiol, a pham y mae angen i berthynas cymdeithas â byd natur newid. Bydd y gwaith hwn yn llywio'r broses o ddatblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer 2050 ac mae'n ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud yn arwain at 2030 a 2050, fel unigolion ac fel cenedl.

Mae ein partneriaeth adfer rhywogaethau flaenllaw, 'Natur am Byth!', yn parhau i ddatblygu’n gyflym, ac rydym yn ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru am eu cyllid i gefnogi'r gwaith hwn. Nod y bartneriaeth, sy'n cynnwys naw corff anllywodraethol amgylcheddol a CNC, yw atal dirywiad 62 o rywogaethau sydd dan fygythiad yng Nghymru, ac mae 40 ohonynt mewn perygl o ddiflannu os nad ydym yn gweithredu ar unwaith. Fel rhan o'r rhaglen, rydym yn gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr, cymunedau ac ystod amrywiol o bobl a fyddai'n elwa fwyaf ar gael mwy o gysylltiad â byd natur.

Mae dau brosiect a fydd yn diogelu, yn gwella ac yn helpu i adfer natur a'r amgylchedd wedi'u lansio eleni hefyd. Bydd y prosiectau, a ariennir trwy Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, yn sicrhau y bydd cyfanswm o £13.8 miliwn yn rhoi hwb sylweddol i heriau cadwraethol dybryd dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd mwy na naw miliwn o bunnoedd yn cael eu buddsoddi i sicrhau bod pedair afon mewn cyflwr da - afon Teifi, afon Cleddau, afon Tywi ac afon Wysg. Amcangyfrifir y bydd 500km o afonydd yn cael eu gwella.

Hefyd, bydd ychydig dros £4.5 miliwn yn cael ei wario ar warchod corsydd crynedig. Y mwyaf o'r corsydd crynedig sydd ar ôl yng Nghymru yw Cors Crymlyn, ar gyrion Abertawe. Mae ardaloedd eraill sy'n rhan o'r prosiect yn cynnwys Tyddewi yn Sir Benfro ac ym Mhen Llŷn. Mae angen gofal dwys ar bob un ohonynt oherwydd y difrod a wnaed yn y gorffennol o ganlyniad i ddraenio, llygredd neu esgeulustod. Yn ogystal â bod o ddiddordeb o safbwynt dal carbon, mae rhywogaethau prin iawn yn llechu yno o hyd – gan gynnwys pry cop mwyaf Prydain, sef corryn arnofiol y gors galchog yng Nghrymlyn, a glöyn byw brith y gors yn Sir Benfro a Gwynedd.

Bydd y pum mlynedd nesaf yn hollbwysig i'r broses o wneud cynnydd pendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Wrth i ni edrych ymlaen at yr hyn a fydd yn flwyddyn bontio i raddau helaeth wrth symud o un cynllun corfforaethol i'r llall, rydym yn paratoi ein hunain i ymateb i'r heriau o’n blaenau ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n cydweithwyr, ein partneriaid a'n rhanddeiliaid i lunio ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Mae ein staff wedi gweithio'n ddiflino dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n hynod ddiolchgar iddynt am eu hymrwymiad, wrth iddynt rannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd i ddiogelu natur a chymunedau Cymru.

Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu - 13 Gorffennaf 2022

Cyflwyno CNC

Rydym yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Ein diben craidd yw Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a chymhwyso egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy fel y’u nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i greu un sefydliad sy’n cyfuno llawer o’r dulliau sydd eu hangen i helpu i reoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd integredig. Mae adnoddau naturiol Cymru yn wych – mynyddoedd a choetiroedd garw, tirweddau a morlinau hardd, a bywyd gwyllt anhygoel. Maent yn hanfodol i'n goroesiad ac yn rhoi i ni’r pethau sylfaenol sydd eu hangen arnom i fyw: aer glân, dŵr glân, a bwyd. Maent yn creu swyddi ar gyfer llawer o filoedd o bobl, gan gynnwys ffermwyr, coedwigwyr a gweithredwyr twristiaeth – gan greu cyfoeth a ffyniant.

Mae gennym un cais ar gyfer darllenwyr yr adroddiad blynyddol hwn a’r cyfrifon - wrth ddarllen yr adroddiad hwn, os ydych chi'n credu y dylem wneud newidiadau i'n hadroddiad blynyddol a chyfrifon nesaf, cysylltwch â ni i rannu'ch syniadau. Rydym yn ymrwymo i fyfyrio ar yr holl adborth, a byddwn yn parhau i wneud newidiadau i'r adroddiad yn y dyfodol – gan sicrhau bod yr adroddiad blynyddol a chyfrifon yn parhau i fod yn deg, yn gytbwys ac yn hawdd i'w deall ar gyfer darllenwyr.

Swyddogaethau a chyfrifoldebau

Fel y corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, mae gennym ystod eang o swyddogaethau a chyfrifoldebau rydym yn eu cyflawni mewn ffordd integredig er mwyn cyflawni ein diben cyffredinol. Mae'r swyddogaethau a chyfrifoldebau hyn yn cynnwys:

  • Cynghorydd i Lywodraeth Cymru, diwydiant, ffermio, tirfeddianwyr, rheolwyr, a'r sector cyhoeddus a gwirfoddol ehangach, gan gyfathrebu ar faterion yn ymwneud â'r amgylchedd a'i adnoddau naturiol
  • Rheoleiddiwr ar gyfer diwydiant, gwastraff, ynni, y môr, coedwigoedd a safleoedd dynodedig i amddiffyn pobl a'r amgylchedd naturiol a chefnogi busnesau cyfreithlon
  • Dynodwr Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), Parciau Cenedlaethol a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Ymatebwr i fwy na 7,000 o adroddiadau o ddigwyddiadau amgylcheddol fel ymatebwr brys Categori 1
  • Ymgynghorydd statudol ar fwy nag 8,000 o ymgynghoriadau cynllunio
  • Rheolwr mwy na 7% o arwynebedd tir Cymru (ac yn dylanwadu ar arwynebedd ehangach), gan gynnwys Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, amddiffynfeydd rhag llifogydd, asedau, cyfleusterau hamdden, deorfeydd, a labordy dadansoddol
  • Partner, addysgwr a galluogwr sy'n cefnogi ac yn hwyluso gwaith sefydliadau eraill ac yn helpu pobl i ddysgu yn yr amgylchedd naturiol, dysgu ar ei gyfer a dysgu amdano
  • Casglwr tystiolaeth, gan fonitro'r amgylchedd, dylanwadu, comisiynu a gwneud gwaith ymchwil, datblygu a rhannu gwybodaeth, a chadw cofnodion cyhoeddus
  • Cyflogwr tua 2,100 o staff, yn ogystal â chontractwyr, ac yn gweithio gyda gwirfoddolwyr

Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn dangos beth rydym am i CNC fod a sut rydym yn gweithio:

  • Rydym yn angerddol am amgylchedd naturiol Cymru
  • Rydym yn gofalu am ein gilydd a'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw
  • Rydym yn gweithio â gonestrwydd
  • Rydym yn gwneud gwahaniaeth nawr ac ar gyfer y dyfodol
  • Rydym yn falch o wasanaethu pobl Cymru

Ein hamcanion llesiant a blaenoriaethau strategol

Adlewyrchir sut rydym am gyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2023. Dyma ein hamcanion llesiant:

  • Hyrwyddo amgylchedd Cymru a rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy
  • Sicrhau bod tir a dŵr yng Nghymru’n cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy ac integredig
  • Gwella gwydnwch ac ansawdd ein hecosystemau
  • Lleihau'r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol megis llifogydd a llygredd
  • Helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy boddhaus
  • Hyrwyddo busnes llwyddiannus a chyfrifol sy’n defnyddio adnoddau naturiol heb eu difrodi
  • Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol, sy'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf

Ar gyfer y flwyddyn 2021/22, roeddem yn parhau i ganolbwyntio ar weithio i gyflawni ein hamcanion llesiant trwy'r un pum blaenoriaeth strategol a nodwyd ar gyfer 2020/21:

  • Ymateb i'r argyfwng hinsawdd
  • Ymateb i'r argyfwng natur
  • Datblygu a defnyddio ein tystiolaeth gyda phartneriaid i eirioli dros reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a'i gyflawni
  • Datblygu CNC i fod yn sefydliad rhagorol sy'n cefnogi cymunedau Cymru
  • Ymateb i’r pandemig COVID-19 ac i’r DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, gan fanteisio ar gyfleoedd i sicrhau adferiad gwyrdd

Ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae ein blaenoriaethau strategol wedi'u diweddaru. Gweler ein Cynllun Busnes 2022/23 am ragor o wybodaeth. I gael gwybodaeth am sut y mae ein sefydliad wedi'i strwythuro i gyflawni, gweler ein Hadroddiad atebolrwydd

CNC mewn rhifau

Dyma rai ffigurau yn ymwneud â'n gweithgarwch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys rhywfaint o waith gydag eraill:

Hyrwyddo amgylchedd Cymru a rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy

Sicrhau bod tir a dŵr yng Nghymru’n cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy ac integredig

  • Rydym yn rheoli mwy na 7% o dir Cymru
  • Rydym yn cynnal a chadw tua 4,030 o asedau rheoli perygl llifogydd
  • Rydym wedi prosesu 1,292 o geisiadau am drwyddedau

Gwella gwydnwch ac ansawdd ein hecosystemau

  • Rydym yn rheoli 56 Gwarchodfa Natur Genedlaethol (rhai mewn partneriaeth ag eraill)
  • Rydym yn gyfrifol am y 12 milltir forol o’r morlin
  • Rydym wedi cyhoeddi 1,874 o drwyddedau rhywogaethau

Lleihau’r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol megis llifogydd a llygredd

  • Rydym yn cynnal a chadw 455 o gilometrau o amddiffynfeydd perygl llifogydd
  • Roedd 220 o ddigwyddiadau amgylcheddol wedi cael effaith ddifrifol (mawr neu sylweddol)
  • Mae 113,732 o adeiladau wedi cofrestru i dderbyn ein rhybuddion llifogydd

Helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy boddhaus

Hyrwyddo busnes llwyddiannus a chyfrifol, sy'n defnyddio adnoddau naturiol heb eu difrodi

  • Fe wnaethom ymateb i 8,862 o ymgynghoriadau cynllunio
  • Fe wnaethom sicrhau 59 o erlyniadau am droseddau amgylcheddol yn 2021
  • Fe wnaethom greu £37m mewn incwm pren

Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol, sy’n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf

  • Fe wnaethom dderbyn dros 28,000 o ymholiadau cyffredinol dros y ffôn neu drwy e-bost
  • Nodwyd bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 2% (2.5% yn 2020/21)
  • Gwariwyd £255 miliwn gennym

Crynodeb o risgiau allweddol

Fel sefydliad â swyddogaethau a chyfrifoldebau amrywiol, rydym yn rheoli sawl risg a mater allweddol er mwyn lliniaru eu heffaith ar gyflawni ein gwaith. Fel yr amlinellwyd yn ein Hadroddiad Atebolrwydd, mae'r risgiau i gyflawni'n hamcanion wedi'u nodi, eu hasesu, eu rheoli, eu hadolygu a'u cofnodi drwy gofrestrau risg ar lefelau amrywiol o'r busnes. Roedd ein cofrestr risg strategol yn cynnwys y risgiau allweddol canlynol:

Methiant Asedau

Mae ein hasedau yn cynnwys seilwaith mawr megis cronfeydd dŵr ac asedau llifogydd, yn ogystal â rhannau helaeth o ystâd goetir Llywodraeth Cymru. Gallai methiant yn yr asedau hyn gael effaith fawr ar y cyhoedd, felly rydym yn rhoi llawer o ymdrech i reoli ein hasedau i'r safonau gofynnol. Mae systemau wedi'u sefydlu ar gyfer arolygu ac atgyweirio asedau perygl llifogydd, ac er bod perfformiad yn parhau i fod yn uchel, mae gwelliannau i'n prosesau'n cael eu gwneud ac eraill yn cael eu cynllunio. Bydd y rhain yn gwella ein gwaith o ganolbwyntio gwaith cynnal a chadw ar asedau a lleoliadau risg uchel ac yn adnewyddu ein strategaethau sefydliadol ar reoli asedau. Rydym mewn sefyllfa well o lawer o safbwynt rheoli'r risg i gronfeydd dŵr gan ein bod yn cydymffurfio â 'Mesurau i'w Cymryd er Budd Diogelwch’. Gweler Amcan Llesiant 4 i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Cyllid

Rydym yn dibynnu ar gymorth grant Llywodraeth Cymru am ychydig dros hanner ein cyllid, yn ychwanegol at incwm masnachol ac incwm o daliadau rheoliadol. Cwblhawyd darn sylweddol o waith i sicrhau bod yr arian sydd ei angen i fodloni ein gofynion statudol yn cael ei sicrhau yn ogystal â'r blaenoriaethau diffiniedig sy'n mynd y tu hwnt i'n hymrwymiad statudol gofynnol. Rydym yn parhau i geisio cynyddu ein dulliau o greu incwm er mwyn ein helpu i gyflawni. Gweler ein Crynodeb o gyllid am ragor o wybodaeth am hyn.

Ymateb i ddigwyddiadau

Mae gennym ddyletswyddau statudol i reoli digwyddiadau fel ymatebwr categori 1 o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl gyda chyfrifoldebau i gydweithio â'n partneriaid i reoli a lliniaru effeithiau digwyddiadau amgylcheddol fel llifogydd, sychder a llygredd amgylcheddol ar bobl a'r amgylchedd. Rydym yn dibynnu ar ein staff medrus, ein systemau a’n gweithdrefnau i gynnal ein hymateb i ddigwyddiadau, ac oherwydd newidiadau i rai contractau staff, mae adnoddau ychwanegol wedi'u hychwanegu at y system rota. Roedd hwn yn ddarn o waith sylweddol a gyflwynwyd yn llwyddiannus, a phan fydd staff wedi'u hyfforddi'n llawn (22/23), bydd gan y system rota adnoddau llawn. Gweler Ymateb i ddigwyddiadau drwy'r pandemig am fwy o wybodaeth am ein gweithgarwch ymateb i ddigwyddiadau.

Recriwtio

Mae'r farchnad recriwtio allanol wedi newid yn sylweddol yn ddiweddar. Mae nifer sylweddol o swyddi'n cael eu hysbysebu ledled y farchnad, ac mae'r sefyllfa bresennol yn ffafrio'r rhai sy'n chwilio am waith. Mae methu â recriwtio yn risg sylweddol ledled y busnes, ac mae'r broblem yn ddifrifol iawn mewn rhai meysydd. Mae'r risg wedi datblygu ac wedi dwysáu'n gyflym, ac erbyn hyn mae wedi'i chofnodi yn ein cofrestr risg Strategol fel un o'r risgiau mwyaf arwyddocaol sy'n ein hwynebu. Gweler Hadroddiad Atebolrwydd - Effeithiolrwydd rheolaethau mewnol am fwy o wybodaeth am hyn.

Cyflawni

Mae cysylltiad agos iawn rhwng y risg hon a'r risgiau Cyllid a Recriwtio. Er mwyn i ni ddarparu ein holl wasanaethau a chyflawni ein holl swyddogaethau, mae angen sicrwydd cyllid arnom ac adnoddau staff digonol. Roedd hon yn risg gynyddol yn ystod y flwyddyn ac er bod cyllidebau a Chynlluniau Busnes wedi'u cytuno, byddwn yn parhau i fonitro'r risg hon yn ofalus nes ein bod yn hapus bod y risg wedi'i lleihau'n ddigonol. Gweler ein 'Crynodeb o gyllid' am ragor o wybodaeth am hyn.

Cydymffurfiaeth

Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar y risg hon trwy gydol y flwyddyn, ac mae wedi bod yn destun craffu rheolaidd gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Roedd sawl darn o waith sylweddol wedi dechrau tuag at leihau’r risg hon, gan gynnwys sicrwydd sefydliadol, llywodraethu a gwelliannau i’r ail linell a rheoliadau cysylltiedig, a bydd y gwaith hwn yn parhau gydol y flwyddyn gyda’r nod o gryfhau rheolaethau mewnol. Gweler Hadroddiad Atebolrwydd - Effeithiolrwydd rheolaethau mewnol am fwy o wybodaeth am hyn.

Crynodeb o gyllid

Cyllid a sut y gwnaethom wario ein harian

Cyfanswm ein hincwm ar gyfer y flwyddyn oedd £88 miliwn. Yn ogystal, darparodd Llywodraeth Cymru Gymorth Grant gwerth £130 miliwn a grantiau eraill tuag at ganlyniadau amrywiol, a dyrannwyd £38 miliwn o'r cyllid hwn i reoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Yn y datganiadau ariannol, caiff Cymorth Grant ei ystyried yn gyfraniad gan awdurdod â rheolaeth ac nid yn ffynhonnell incwm.

Yn 2021/22, cynyddodd ein gwariant o £225 miliwn i £255 miliwn. Mae'r newid mewn gwariant yn deillio o sawl rheswm gan gynnwys cynnydd mewn costau staff oherwydd pensiynau yn bennaf, cyflwyno ein rhaglenni cyfalaf a phris ein coed a gwympwyd yn ystod y flwyddyn. Dyma ddosbarthiad cyfanswm ein cyllid a gwariant:

  • Cyllid yn ôl math: Grant Llywodraeth Cymru (60% / £130m), Taliadau (17% / £37m), Incwm masnachol ac incwm arall (22% / £48m), Ewropeaidd ac allanol arall (1% / £2m)
  • Gwariant yn ôl math: Costau staff (47% / £119m), Gwaith cyfalaf y talwyd amdano yn ystod y flwyddyn (10% / £26m), Gwariant arall (43% / £110m)

Rheoli ein harian

Yn 2021/22, arhosodd ein cyllid 'craidd' gan Lywodraeth Cymru ar yr un lefelau arian parod â'r flwyddyn flaenorol (cyn i hynny gael ei leihau oherwydd yr ymateb i’r pandemig Covid-19). Yn ogystal, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid arall yn ystod y flwyddyn er mwyn ymateb i bwysau ar y gyllideb y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru. Hefyd, parhaodd Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid grant penodol i ni ar gyfer rhaglenni sydd wedi'u creu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Cynyddodd ein hincwm pren oherwydd y farchnad fywiog, ac mae'r holl incwm hwn wedi'i ailfuddsoddi mewn coedwigaeth. Rydym wedi llwyddo i gadw ein lefelau incwm taliadau ar lefel debyg i flynyddoedd ariannol blaenorol. Cafodd y gyllideb ei chraffu a'i chymeradwyo gan y Tîm Gweithredol a'r Bwrdd.

Edrych i'r dyfodol

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23, sy'n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod. Mae ein Cynllun Corfforaethol presennol yn parhau tan 2023. Rydym wedi gosod ein cynlluniau yn seiliedig ar adnoddau disgwyliedig, gan gynnwys Cymorth Grant, taliadau, a dyraniadau ac amcangyfrifon incwm masnachol. Mae incwm taliadau'n dueddol o fod yn weddol sefydlog, ond gall ein hincwm masnachol fod yn llai rhagweladwy gan ei fod yn sensitif iawn i newidiadau i'r gyfradd gyfnewid, sy'n effeithio ar brisiau pren. Mae gennym ddyraniadau Cymorth Grant dangosol ar gyfer 2023/24 ymlaen a fydd yn helpu gyda'n gwaith cynllunio. Hefyd, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'r lefelau cymeradwy o gyllid a fydd ar gael, gan gynnal adolygiad parhaus o’r cyllid a’r lefelau gwasanaeth cysylltiedig a allai ddenu cyllid ychwanegol neu arwain at newidiadau derbyniol i lefelau gwasanaeth.

Asedau anghyfredol

Roedd ein hasedau anghyfredol yn werth £2,535miliwn ar 31 Mawrth 2022, sef 21% (£434 miliwn) yn fwy o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf. Y gydran fwyaf arwyddocaol yw gwerth yr ystad goedwig ac asedau biolegol, sy'n cyfrif am £2,181 miliwn o'r cyfanswm, a phrisiad cryf y cnydau ar yr ystad oedd y prif reswm dros y cynnydd mawr.

Taliadau masnach a thaliadau eraill

Rydym wedi ymrwymo i dalu 95% o gyflenwyr o fewn 30 diwrnod ac rydym yn ceisio mynd y tu hwnt i'r targed hwn pan fo'n bosibl. Disgynnodd y perfformiad ar gyfer y flwyddyn gyfan ychydig o dan hynny (83.7%). Fe wnaethom fynd i'r afael â'r mater hwn ac erbyn mis Mawrth 2022 roeddem yn uwch na'r trothwy o 95%.

Perfformiad dyledwyr

Mae ein rheolaeth barhaus o ddyled fasnachol wedi gweld cynnydd bach mewn dyled fasnachol, gyda nifer y diwrnodau ar gyfartaledd i gwsmeriaid dalu yn gostwng i 1 diwrnod o'i gymharu â 3 diwrnod yn 2020/21.

Mae ein rheolaeth o ddyled reoleiddiol wedi gweld gostyngiad yn lefel y ddyled o 5.6% yn 2020/21 i 2.91% ar ddiwedd 2021/22.

Disgwylir i CNC golli credyd gwerth £0.1 miliwn ar 31 Mawrth 2022.

Busnes gweithredol

Mae'r datganiad o'r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2022 yn dangos ecwiti trethdalwyr cadarnhaol o £2,437 miliwn. Bydd ein rhwymedigaethau yn y dyfodol yn cael eu hariannu gan Gymorth Grant Llywodraeth Cymru a thrwy ddefnyddio incwm y dyfodol. Rydym wedi cymeradwyo Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23. Felly, mae'n briodol mabwysiadu dull busnes gweithredol wrth baratoi'r Datganiadau Ariannol.

Pensiynau

Datgelir y rhwymedigaeth pensiwn yn y Datganiadau Ariannol ar sail Safon Cyfrifyddu Ryngwladol 19. Mae'r rhwymedigaeth ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi gostwng o £106.6 miliwn i £54.4 miliwn yn ystod y flwyddyn.

Mae hyn yn wahanol i'r sylfaen a ddefnyddir ar gyfer cyfrifiadau cyllido. Mae Cronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd wedi amcangyfrif bod ganddi ddigon o asedau i fodloni 110% o'i rhwymedigaethau disgwyliedig yn y dyfodol ar 31 Mawrth 2022.

Archwilwyr

Caiff ein cyfrifon eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Y ffi archwilio ar gyfer 2021/22 oedd £193,000.

Adroddiadau eraill

Fel sefydliad, rydym yn cyhoeddi nifer o adroddiadau yn rheolaidd, gan gynnwys adroddiad blynyddol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Adroddiad Amgylcheddol Corfforaethol, a Datganiadau Ardal; mae llawer ohonynt ar gael yn Gwybodaeth gorfforaethol. Gellir cael mynediad at adroddiadau tystiolaeth ac ymchwil a gyhoeddwyd yn Ymchwil ac adroddiadau (gan gynnwys Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 ar gyfer Cymru).

Crynodeb o berfformiad

Mae pob mesur yn ein fframwaith perfformiad yn ymwneud â'n Hamcanion Llesiant. Mae adrodd a chraffu ar adroddiadau pynciau ac adroddiadau mesurau yn ein dangosfwrdd Cynllun Busnes blynyddol yn digwydd mewn sesiwn gyhoeddus agored mewn cyfarfodydd o Fwrdd CNC bedair gwaith y flwyddyn, gyda chraffu pellach ar yr adroddiadau hyn drwy Lywodraeth Cymru.

Ar ddiwedd blwyddyn 2021/22, roedd ein dangosfwrdd Cynllun Busnes yn cynnwys 30 o fesurau , ar draws 20 pwnc. Ar ddiwedd y flwyddyn, o'r mesurau hynny:

  • roedd 22 yn Wyrdd (h.y. wedi cyflawni’r targed neu’r garreg filltir)
  • roedd 6 yn Felyn (h.y. yn agos at y targed neu’r garreg filltir)
  • roedd 2 yn Goch (h.y. wedi methu'r targed neu’r garreg filltir)

O gymharu perfformiad â'r flwyddyn flaenorol (2020/21), ar ddiwedd 2021/22 roedd gennym un mesur gwyrdd ychwanegol, a chwech yn llai o fesurau melyn neu goch (ac roedd dangosfwrdd 2021/22 yn adlewyrchu pump yn llai o fesurau yn gyffredinol ). Gellir gweld adroddiadau ar gyfer blynyddoedd blaenorol ar ein tudalen we Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.

Yn ystod y flwyddyn i ddod byddwn yn datblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd – gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant a'r dangosyddion cysylltiedig.

Dadansoddi Perfformiad

Nod y rhan hon o'r adroddiad ar berfformiad yw cofnodi rhai o'r pethau a gyflawnwyd eleni, gan gynnwys enghreifftiau sy'n adlewyrchu uchafbwyntiau penodol a meysydd her sylweddol.

Yn ôl Amcan Llesiant, rydym yn amlinellu:

• sefyllfa diwedd blwyddyn ar gyfer pob un o fesurau dangosfwrdd ein Cynllun Busnes (I weld ein sefyllfa yr adroddwyd arni yn ystod y flwyddyn ar gyfer yr holl fesurau hyn, gweler ein papurau Bwrdd CNC)
• rhywfaint o'n gweithgarwch blaenoriaeth arfaethedig ar gyfer y flwyddyn i ddod;
• nifer o enghreifftiau cyflawni yn ymwneud â'r Amcan Llesiant (y mae rhai ohonynt yn ymwneud â nifer o Amcanion Llesiant)

Hefyd, mae rhai myfyrdodau ehangach ar ein dull o baratoi ein hadroddiadau blynyddol wedi'u cynnwys mewn perthynas â: Nodau Llesiant Cymru, Datganiadau Ardal; Bioamrywiaeth a Gwytnwch Ecosystemau.

Nodau Llesiant Cymru: Yn y rhan ganlynol o'r adroddiad blynyddol a chyfrifon, rydym wedi nodi nifer o eitemau sy'n ymwneud â Nodau Llesiant Cymru - gyda Nodau cysylltiedig dethol wedi'u rhestru.​

I ddysgu mwy am Nodau Llesiant Cymru, gweler Nodau Llesiant Cymru. Neu, i gael rhagor o wybodaeth am berthnasedd y Nodau â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, gweler perthynas y Nodau Datblygu Cynaliadwy â Dangosyddion Cenedlaethol Cymru a Nodau Llesiant Cymru.

Amcan Llesiant 1: Hyrwyddo amgylchedd Cymru a rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy

Ein nod yw hyrwyddo'r amgylchedd naturiol yn ein holl waith – yn y wybodaeth a ddarperir gennym, wrth gefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac wrth fynd ati i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ein holl waith – er mwyn helpu pobl i fanteisio i'r eithaf ar y manteision y mae'r amgylchedd naturiol yn eu cynnig yn ogystal â'i werthfawrogi er ei fwyn ei hun – nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Nodau cysylltiedig:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gan fyfyrio ar gynnydd yn erbyn dangosfwrdd Cynllun Busnes 2021/22, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Cwblhau camau gweithredu ar Warchodfeydd Natur Cenedlaethol ar dir a reolir gan CNC, gyda 365 o gamau blaenoriaeth a gynlluniwyd wedi'u cwblhau ar ddiwedd y flwyddyn. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Dilysu ceisiadau am grantiau coetir Glastir, gyda thros 200 o geisiadau bellach wedi'u dilysu ar draws cylchoedd creu ac adfer y cynllun grant. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Cefnogi'r Cynllun Morol Cenedlaethol, gan gymeradwyo canllawiau ar egwyddorion gwella ac adfer. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Hyrwyddo'r defnydd o'r Adroddiad diweddaraf ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, gan wrando ar adborth gan ddefnyddwyr a gweithredu i gefnogi'r newidiadau angenrheidiol i'r systemau. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Defnyddio Datganiadau Ardal yn ein sefydliad, gan lunio ein cynlluniau lle ar gyfer y dyfodol ar sail blaenoriaethau a chyfleoedd Datganiadau Ardal. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Parhau i weithio gydag eraill i ddatblygu gweledigaeth 2050 a rennir ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru (Natur a Ni), gan lansio'r ymgyrch a'r cynllun ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Statws y mesur: Gwyrdd

Wrth edrych ymlaen, mae ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23 yn cynnwys ein hymrwymiadau blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan gynnwys y canlynol ar gyfer y flwyddyn nesaf:

  • Cyflwyno ein Rhaglen Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio
  • Datblygu a dechrau gweithredu ein Strategaeth Fonitro, gan wella ansawdd ein data a'n prosesau monitro amgylcheddol
  • Cyfrannu at Asesiadau Llesiant a Chynlluniau Llesiant gan ddefnyddio ein Datganiadau Ardal fel canolbwynt ar gyfer materion amgylcheddol lleol
  • Hwyluso Natur a Ni - datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd hyd at 2050 a chamau gweithredu ar gyfer y 10 mlynedd nesaf

Rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion am nifer o'r sefyllfaoedd mesur terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2021/22 sy'n dilyn:

Sefyllfa adnoddau naturiol a'n ffocws ar gyfer y dyfodol

Amlinellodd yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yr angen i drawsnewid y systemau y mae cymdeithas yn effeithio ar yr amgylchedd drwyddynt er mwyn galluogi Cymru i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn adroddiad pum mlynedd statudol sy'n ceisio llywio gwaith datblygu polisi Llywodraeth Cymru, cynlluniau awdurdodau lleol a Datganiadau Ardal. Yn ogystal â'r angen am gamau gweithredu parhaus trwy ddulliau rheoleiddio a rheoli amgylcheddol traddodiadol, daeth yr adroddiad i'r casgliad bod angen i ni drawsnewid sut rydym yn byw a'r systemau sy'n cynnal ein ffordd o fyw er mwyn sicrhau bod Cymru yn rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Wrth alw am drawsnewid y systemau ynni, trafnidiaeth a bwyd (y tri dylanwad mwyaf ar yr amgylchedd byd-eang) roedd yr adroddiad yn adleisio adroddiadau IPCC y Cenhedloedd Unedig ac IPBES . O ystyried bod llawer o bobl yn cefnogi'r angen am ddull systemau o'r fath, mae'n anodd nodi union effaith yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. Fodd bynnag, rydym wedi clywed bod awdurdodau lleol, grwpiau cymdeithas sifil, megis TUC Cymru, a Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i’r adroddiad a'u bod yn ei ddefnyddio i lywio eu syniadau ar gyfer camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur.

Sut rydym yn defnyddio’r Datganiadau Ardal

Rydym yn defnyddio Datganiadau Ardal trwy adlewyrchu'r themâu sy'n codi o'r rhain yn y cynllun Lle ar gyfer pob un o ardaloedd gweithredol ein sefydliad (Gogledd-ddwyrain Cymru, Gogledd-orllewin Cymru, Canolbarth Cymru, De-ddwyrain Cymru, Canol De Cymru, a De-orllewin Cymru).

Er enghraifft, mae gan Ddatganiad Ardal y De-ddwyrain bedair thema (Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd; Cysylltu ein Tirweddau; Iach Heini Cysylltiedig; Ffyrdd o Weithio), ac mae chwe thema Cynllun Lle y De-ddwyrain yn cynnwys y themâu hyn. Mae adlewyrchu Datganiadau Ardal yn ein Cynlluniau Lle fel hyn yn sicrhau bod y Datganiadau Ardal yn cael eu hymgorffori'n wirioneddol yn ein Gweithrediadau. Mae'r Datganiad Ardal ar gyfer y Môr hefyd yn sylfaen i Gynllun Morol blynyddol Cymru.

Mae Cynlluniau Gwasanaeth wedi ystyried Datganiadau Ardal hefyd. Felly, er enghraifft, cafodd y Cynllun Gwasanaeth Stiwardiaeth Tir ei ddatblygu'n ailadroddus ac roedd yn cyfuno blaenoriaethau'r Datganiadau Ardal mewn fframwaith cenedlaethol.

Nid yw Datganiadau Ardal yn ddigyfnewid a byddant yn esblygu'n ailadroddus trwy'r broses o gynyddu ymgysylltiad a chasglu tystiolaeth newydd, gan arwain at syniadau newydd a gweithio ar draws ffiniau.

Nodau cysylltiedig:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth (prif nod cysylltiedig)
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Nodweddion gwella ecolegol mewn strwythurau amddiffyn arfordirol

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn datblygu dogfennau canllaw a phecynnau cymorth hyfforddi y gellir eu defnyddio i gefnogi cynnydd yn y defnydd o nodweddion gwella ecolegol (fel pyllau creigiau artiffisial a phaneli morwaliau byw) o fewn strwythurau amddiffyn yr arfordir.

Mae defnyddio nodweddion o'r fath yn rhan annatod o thema'r Datganiad Ardal Forol i godi ymwybyddiaeth o atebion sy'n seiliedig ar natur ar yr arfordir a chynyddu'r defnydd ohonynt. Mae nodweddion fel pyllau creigiau artiffisial a phaneli morwaliau byw yn helpu i gefnogi gwelliannau mewn bioamrywiaeth ar strwythurau amddiffyn yr arfordir drwy ddynwared priodweddau a chymhlethdod yr arwyneb ar draethau naturiol.

Mae'r deunyddiau canllaw wedi'u bwriadu ar gyfer timau rheoli perygl llifogydd a rheoli asedau yn ein sefydliad a rhanddeiliaid ehangach sydd â gweithrediadau amddiffyn yr arfordir neu sy'n berchen ar asedau ar hyd yr arfordir megis awdurdodau lleol, Network Rail a Dŵr Cymru. Maent yn rhoi crynodeb o'r sylfaen dystiolaeth yn ymwneud â defnydd y nodweddion hyd yn hyn, prosesau dangosol fesul cam i gynorthwyo ymarferwyr i gwblhau'r camau amrywiol sy'n gysylltiedig â phrosiectau, ac astudiaethau achos o'u defnydd yng Nghymru.

Yn ystod y broses, buom yn gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid i nodi rhai o'r rhwystrau a'r heriau allweddol i ddefnyddio'r nodweddion yn eu gweithrediadau, ac rydym wedi nodi cyfres o gamau gweithredu i helpu i'w goresgyn. Bydd llwyddiant llawer o'r prosiectau hyn yn dibynnu ar gydweithio rhwng sefydliadau gwahanol (gan gynnwys ein sefydliad, Prifysgolion, diwydiant a chyflenwyr) sydd wedi sefydlu arbenigedd mewn agweddau gwahanol ar y prosesau. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn sefydlu prosiect prawf i ddefnyddio nodweddion gyda thimau yn fewnol neu randdeiliaid ehangach.

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth (prif nod cysylltiedig)
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Natur a Ni

Mae Natur a Ni yn sgwrs genedlaethol rydym wedi'i chynnal. Y nod yw cynnig cyfleoedd i bobl yng Nghymru feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar yr amgylchedd naturiol, ystyried sut mae angen i berthynas cymdeithas â natur newid nawr a thros y 30 mlynedd nesaf.

Mae'r rhaglen Natur a Ni yn ceisio cynnwys pawb yng Nghymru mewn sgwrs genedlaethol am ddyfodol yr amgylchedd naturiol. Nodau deuol y fenter yw cynyddu ymwybyddiaeth o natur a'r argyfwng hinsawdd, a chreu llwyfan i feithrin cydweithrediad rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector (i dreialu syniadau newydd, lansio arbrofion a chefnogi arloesedd ar gyfer gweithredu).

Wrth gynllunio ein dull gweithredu rydym yn ymgorffori egwyddorion Datblygu Cynaliadwy ac SMNR – gan feddwl yn yr hirdymor drwy ddefnyddio adnoddau Dyfodol, archwilio ymgysylltiad, cyfranogiad a chydweithio. Rydym wedi gorfod ystyried yr ystod o adnoddau cyfathrebu ac ymgysylltu sydd ar gael i ni, a sut y gallwn wneud y fenter mor ddiddorol â phosibl i ystod eang o gynulleidfaoedd. Buom yn siarad ag amrywiaeth o sefydliadau sy'n cynrychioli lleisiau nas clywir yn aml er mwyn deall eu hanghenion, ac o ganlyniad, aethom ati i ddatblygu dulliau gwahanol o gynnwys pobl ac adnoddau ychwanegol fel bod modd i grwpiau bach gymryd rhan. Hefyd, aethom ati i gomisiynu dau 'awdur preswyl' er mwyn helpu pobl i ymgysylltu.

Rydym wedi derbyn y nifer fwyaf o ymatebion ar gyfer ymarferiad ymgysylltu CNC hyd yma, a bydd cyfle i ni ddatblygu llawer o elfennau cadarnhaol sy'n deillio o'r ymarferiad. Fodd bynnag, mae bylchau o hyd o safbwynt amrywiaeth demograffig yr ymatebwyr. Mae angen i ni weithio hyd yn oed yn galetach i ennyn diddordeb pobl ifanc a lleisiau nas clywir yn aml. Mae angen i ni fod yn fwy lleol neu bersonol yn ein dull o drafod "materion pwysig" gan ganolbwyntio ar hygyrchedd yr iaith a ddefnyddir gennym.

Bydd y gwaith hwn yn parhau yn 2022-23 wrth i ni geisio atgyfnerthu'r cysylltiadau rydym wedi'u datblygu hyd yn hyn.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amcan Llesiant 2: Sicrhau bod tir a dŵr yng Nghymru’n cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy ac integredig

Gall dull cwbl integredig o reoli tir a dŵr yng Nghymru mewn modd cynaliadwy ddod â manteision lluosog ym mhob sector – ffermio, coedwigaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd trefol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd eto. Ein nod yw rhoi'r dull hwn ar waith ar y tir ac yn y dŵr a reolir gennym, ac annog pob rheolwr tir a dŵr i fabwysiadu dull Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gan fyfyrio ar gynnydd yn erbyn dangosfwrdd Cynllun Busnes 2021/22, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Gweithredu i adfer Mawndiroedd Cymru, gyda 785 hectar o weithgarwch adfer mawndiroedd wedi'i gwblhau ledled Cymru. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Creu coetir newydd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, gan nodi/caffael 157 hectar a phlannu 27 hectar. Statws y mesur: Melyn
  • Cynnal Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig, gan gadw ardystiad yn dilyn yr archwiliad allanol diweddaraf. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Cyflwyno ymchwiliadau ac ymatebion sy'n gysylltiedig â dŵr, gyda 2,268 o ymchwiliadau wedi'u cynnal o gyfanswm o 2,597 gofynnol, ac adolygu ac ymateb i ymgynghoriadau ar gynlluniau . Statws y mesur: Coch
  • Datblygu camau gweithredu rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru, gyda'r holl brosiectau perthnasol wedi'u cwblhau. Statws y mesur: Gwyrdd

Wrth edrych ymlaen, mae ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23 yn cynnwys ein hymrwymiadau blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan gynnwys y canlynol ar gyfer y flwyddyn nesaf:

  • Cyflwyno'r Rhaglen Creu Coetiroedd (gan gynnwys Argymhellion 'Archwiliad Dwfn' Llywodraeth Cymru) a gwasanaethau cysylltiedig
  • Cyflwyno'r 3ydd cylch o Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, gan sicrhau gwelliannau
  • Cyflwyno cam nesaf y Rhaglen Adfer Mwyngloddiau Metel i fynd i'r afael â gwaddol tir halogedig, effeithiau ar ansawdd dŵr a pheryglon mwyngloddiau

Rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion am nifer o'r sefyllfaoedd mesur terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2021/22 sy'n dilyn:

Amgylchedd dŵr Cymru – cyflwr, heriau a mesurau

Mae Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn amlinellu cyflwr amgylchedd dŵr Cymru a’r camau sydd eu hangen i’w gynnal a’i wella. Rydym wedi ymgynghori ar Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd diwygiedig i’w cyhoeddi yn ddiweddarach eleni a fydd yn dylanwadu ar flaenoriaethau ar gyfer gwella yn y dyfodol.

Mae dŵr ac amgylcheddau dŵr yn hanfodol i fywyd a bywoliaethau. Mae dŵr yn adnodd hanfodol i fusnesau ac amaethyddiaeth, ac yn hollbwysig i sicrhau y bydd yr economi yn ffynnu. Yn unol â gofynion Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr , mae Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn defnyddio dull gweithredu holistaidd, o’r dalgylch i’r arfordir, er mwyn rheoli’r pwysau ar yr amgylchedd dŵr a’r camau gweithredu gofynnol i’w warchod a’i wella. Yn ôl yr asesiad diweddaraf o statws cyrff dŵr Cymru (yn 2021), roedd gan 40% ohonynt statws da (neu well).

Yn 2021/22 cwblhawyd 664 o ymchwiliadau gennym yn ymwneud â gwella neu gynnal statws dyfroedd o gwmpas Cymru, ac erbyn hyn rydym wedi cwblhau cyfanswm o 2,268 fel rhan o raglen o 2,597. Mae’r ymchwiliadau hyn yn gwella dealltwriaeth o’r rhesymau pam nad oes gan rai cyrff dŵr statws da. Mae camau gweithredu sy’n gysylltiedig ag ymchwiliadau blaenorol wedi arwain at ragor o welliannau yn yr amgylchedd dŵr. Er bod llai o ymchwiliadau na’r disgwyl wedi’u cwblhau yn ystod 2021/22, bydd yr ymchwiliadau a gwblhawyd yn helpu i wella a chynnal amgylcheddau dŵr o gwmpas Cymru yn y dyfodol. Gan fod Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn cael eu diweddaru ar sail cylch 6 blynedd, rydym wedi ymgynghori ar gynlluniau newydd a’u datblygu, a disgwylir i’r cynlluniau ar gyfer y Dyfrdwy a Gorllewin Cymru gael eu lansio yn haf 2022/23.

Er mwyn dylanwadu ar fuddsoddiad cwmnïau dŵr yn y dyfodol, buom yn gweithio hefyd gyda Llywodraeth Cymru, Ofwat (yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr) a chwmnïau dŵr. Bydd rhywfaint o’r buddsoddiad hwn yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddalgylchoedd ACA (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig), gorlifoedd stormydd, a Chynlluniau Rheoli Basnau Afonydd. Fodd bynnag, bydd pob maes deddfwriaethol amgylcheddol sy’n berthnasol i gwmnïau dŵr yn cael ei ystyried.

Trwyddedau cwympo coed yn y dyfodol

Roedd yr ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2020 yn cynnwys cynnig i roi’r pwerau i ni ddiwygio trwyddedau cwympo coed ac ychwanegu amodau atynt. Ar ôl cael ei basio’n ddeddf, bydd y cynnig hwn yn ein helpu i sicrhau bod pob trwydded coedwigaeth a gyhoeddir gennym yn helpu’r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Trwyddedau cwympo coed yw’r unig drwyddedau a gyhoeddir gennym na allwn eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu maes o law os oes angen. Ni allwn ychwanegu rhagor o amodau cyffredinol atynt y tu hwnt i’r rhai sy’n cael eu diffinio’n fanwl iawn gan Ddeddf Coedwigaeth 1967 ychwaith. Fe wnaeth Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ddatganiad ar arwyddocâd y sefyllfa hon yn ystod Cyfarfod Llawn o’r Senedd ym mis Rhagfyr 2021, gan gyfeirio’n benodol at wiwerod coch ond gan gydnabod y defnydd ehangach hefyd. Bydd newid deddfwriaethol arfaethedig i fynd i’r afael â’r mater hwn yn cael ei gynnwys yn y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) sydd i’w ystyried gan y Senedd yn gynnar yn hydref 2022 yn barod i dderbyn Cydsyniad Brenhinol tua dechrau haf 2023.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, buom yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru yn rhinwedd ein rôl gynghori, gan egluro sut y gellir defnyddio’r pwerau newydd arfaethedig a darparu tystiolaeth o effeithiau posibl. Cafwyd diddordeb mawr gan randdeiliaid, yn enwedig cyrff anllywodraethol amgylcheddol a’r diwydiant coedwigaeth. Mae is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru CNC dan gadeiryddiaeth Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyfranogiad y rhanddeiliaid hyn.

Mae’r diwydiant coedwigaeth wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ei berfformiad amgylcheddol trwy fabwysiadu Safon Coedwigaeth y DU ym 1998, a bydd y broses o dderbyn y pwerau ychwanegol hyn yn ein galluogi i ystyried ffactorau pwysig sy’n berthnasol i safleoedd penodol. Bydd hyn yn cyd-fynd â’r Safon ac yn helpu i ddiogelu adnoddau naturiol Cymru.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru gydnerth (prif nod cysylltiedig)
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gwella hyfywedd a chynaliadwyedd hirdymor ffermydd da byw

Roedd Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn cefnogi menter ymchwil dan arweiniad ffermwyr yn Ne Powys i fynd i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth leol a nodwyd gan ffermwyr da byw sydd am wella hyfywedd a chynaliadwyedd hirdymor eu ffermydd.

Mae cynhyrchu da byw, sy'n dibynnu ar gynhyrchiant glaswelltir, yn gwneud cyfraniad pwysig at gynhyrchu protein yn gynaliadwy, yn ogystal ag amsugno mwy o garbon a rheoli bioamrywiaeth ar gyfer gwasanaethau ecosystemau lluosog.

Yn aml, mae gwaith ymchwil ar effaith pori ar ecosystemau wedi canolbwyntio ar gymariaethau cymharol syml rhwng tir pori a thir nad yw'n cael ei bori – dull sy'n gallu hepgor mân wahaniaethau arwyddocaol, yn enwedig ar lefel leol. Er mwyn llenwi'r bwlch hwn, ymchwiliodd y prosiect i sut mae gwybodaeth leol – am y math o bori a'r dwysedd – yn hanfodol wrth nodi effeithiau ar iechyd pridd a stociau carbon pridd. Ariannwyd y prosiect gan bartneriaeth sero net AHDB/BBSRC a'i nod oedd nodi'r dull gorau o reoli pori sy'n berthnasol i'r amodau lleol a mesur eu manteision i fioamrywiaeth pridd, cynnwys carbon pridd a chynaliadwyedd glaswelltir.

Hefyd, nododd y prosiect ddulliau o gyfleu'r pwnc cymhleth hwn i ffermwyr eraill er mwyn cymell newid posibl mewn ymddygiad a datblygu arferion ffermio mwy cynaliadwy. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Swydd Gaerloyw, y Brifysgol Amaethyddol Frenhinol, a Cynidr Consulting gyda chymorth CNC a Lantra wedi cydweithio â phartneriaid o blith ffermwyr i gyd-ddylunio egwyddorion er mwyn lleihau effeithiau pori da byw ar ecosystemau. Roedd y prosiect yn cyflawni yn erbyn themâu a blaenoriaethau amrywiol Datganiad Ardal Canolbarth Cymru ac mae'n enghraifft o weithio mewn partneriaeth ac o ddiddordeb cyffredin y partneriaid perthnasol mewn Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth (prif nod cysylltiedig)
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Atal llygredd i fyny'r afon

Mae ein prosiect Llaeth wedi helpu ffermwyr i wneud y gorau o'r maethynnau yn y slyri a gynhyrchir gan eu stoc trwy roi cyngor ac arweiniad ar storio a defnydd buddiol, cefnogi eu busnes fferm, a diogelu ansawdd ein hafonydd.

Mae ein prosiect Llaeth wedi bod yn cefnogi ffermwyr i wneud y defnydd gorau o'r maethynnau yn eu slyri a diogelu ansawdd ein hafonydd yn ystod 21/22.

Mae'r prosiect wedi ymweld â mwy nag 80 o ffermydd newydd yn ystod y flwyddyn ac wedi gwneud ymweliad dilynol â mwy na 140 o ffermydd a oedd wedi cael ymweliad blaenorol. Yn ystod yr ymweliadau dilynol, cofnodwyd mwy na 70 o welliannau sylweddol, yn ogystal â llawer o fân atgyweiriadau megis cafnau glaw wedi'u hatgyweirio.

Cofnodwyd bod nifer o ffermydd wedi cynyddu eu lle storio slyri hefyd drwy osod lagwnau slyri pridd a thanciau storio uwchben y ddaear. Mae nifer o geisiadau cynllunio ar gyfer ffermydd amrywiol ledled Cymru ar y gweill hefyd. Mae'r gwaith pwysig hwn ar ffermydd yn helpu i ddiogelu ein cyrsiau dŵr ac yn cynorthwyo busnesau fferm i wneud y gorau o'r maethynnau sydd ar gael iddynt.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth

Amcan Llesiant 3: Gwella gwydnwch ac ansawdd ein hecosystemau

Nododd ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol na fydd llawer o ecosystemau'n gallu addasu’n ddigon da i ddelio â’r newid yn yr hinsawdd a phwysau eraill yn y dyfodol, ac felly na fyddant yn gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom o bosibl – fel aer a dŵr glân. Rydym yn dynodi safleoedd arbennig fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, er enghraifft – ond mae ein gwaith yn llawer ehangach na hynny. Ein nod yw ystyried bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau yn ein holl swyddogaethau, gweithgareddau a phenderfyniadau a helpu cyrff cyhoeddus eraill i wneud yr un peth.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gan fyfyrio ar gynnydd yn erbyn dangosfwrdd Cynllun Busnes 2021/22, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Gweithredu ar yr Argyfwng Hinsawdd, gan adrodd ar gyflawni blaenoriaethau a sefydlu Tîm Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio newydd. Statws y mesur: Melyn
  • Gweithredu ym maes bioamrywiaeth, gan gyflawni dros Natur Hanfodol a rhoi bioamrywiaeth wrth wraidd ein gwaith, gan greu rhaglen waith bioamrywiaeth ar draws ein holl swyddogaethau. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Gwella cyflwr nodweddion safleoedd gwarchodedig, gyda'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu wedi'u cwblhau neu ar y gweill ar ddiwedd y flwyddyn. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Cynorthwyo rhywogaethau sy'n dirywio, neu sydd ar fin diflannu, gan gynnwys rhai o'n rhywogaethau mwyaf prin, er nad ydym wedi adrodd ar y broses o ddatblygu blaenoriaethau yn unol â'r bwriad. Statws y mesur: Melyn

Wrth edrych ymlaen, mae ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23 yn cynnwys ein hymrwymiadau blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan gynnwys y canlynol ar gyfer y flwyddyn nesaf:

  • Cyflwyno'r Rhaglen Rhywogaethau sy'n Prinhau i dargedu rhywogaethau sy'n prinhau neu'r rhai sydd ar fin diflannu
  • Cyflwyno Rhaglenni Adfer Cynefinoedd, gan gynnwys datblygu Cynllun Gweithredu Glaswelltir Cenedlaethol
  • Cyflwyno ein prosiectau LIFE yr UE
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr 'Archwiliad Dwfn' o fioamrywiaeth a helpu i roi'r argymhellion ar waith

Rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion am nifer o'r sefyllfaoedd mesur terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2021/22 sy'n dilyn:

Ein swyddogaeth wrth fynd i'r afael â'r argyfwng Hinsawdd a Natur

Mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur yn hanfodol er mwyn rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, felly mae'n allweddol i gyflawni ein Hamcanion Llesiant. Ers datgan Argyfwng Hinsawdd yn 2019, rydym wedi bod yn gweithio i brif ffrydio ystyriaeth o newid yn yr hinsawdd yn ein holl raglenni gwaith, ac mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol.

Mae Rheoli ein Hystâd yn hanfodol, yn enwedig y broses o adfer mawndiroedd ac ehangu coetiroedd er mwyn cynyddu lefelau storio carbon ar y 7% a mwy o dir Cymru a reolir gennym. Mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn enghraifft wych o brosiect lle rydym yn adfer tua 700 hectar o fawndir bob blwyddyn ledled Cymru gan arwain at fanteision bioamrywiaeth a lleihau allyriadau carbon. O safbwynt ein hadeiladau a'n fflyd, rydym wedi bod yn modelu goblygiadau gweithio hybrid ar ôl Covid a'r potensial sylweddol sy'n deillio o hynny i leihau ein hôl troed carbon sefydliadol drwy leihau cymudo.

Rydym wedi datblygu cyfres o egwyddorion a safonau a fydd yn llywio'r adolygiad presennol o'n hadeiladau er mwyn lleihau eu defnydd o ynni a'u gwneud yn fwy gwydn i dywydd eithafol yn y dyfodol. Yn ogystal â chynllunio ar gyfer gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn eang ar ein safleoedd, rydym wedi cyflwyno Olew Llysiau Hydrogenaidd fel tanwydd pontio ar gyfer cerbydau a pheiriannau na ellir eu disodli eto gan gerbydau trydan cyfatebol, gan arwain at ostyngiad o tua 90% mewn allyriadau.

Mae rhannu ein profiad gyda'r sector cyhoeddus yng Nghymru drwy weithdai rhanbarthol a grwpiau cydweithredol yn helpu i gyflymu camau gweithredu ehangach. Gwnaethom arwain brosesau cydweithio rhwng asiantaethau amgylcheddol y DU er mwyn cyflwyno'r achos o blaid defnydd ehangach o atebion sy'n seiliedig ar natur yn CoP26 yn Glasgow a thrwy ddigwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru. Roedd CoP26 yn gyfle i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r heriau newid yn yr hinsawdd sy'n ein hwynebu a chyflwyno'r achos o blaid camau gweithredu cyflym ledled Cymru – dylai'r gynhadledd bioamrywiaeth gyfatebol (CoP15) yn ddiweddarach yn 2022 fod yn achlysur tebyg ar gyfer byd natur.

Datblygu Natur am Byth

Trwy weithio mewn partneriaeth â naw elusen amgylcheddol, mae ‘Natur am Byth’ yn gweithredu i achub rhywogaethau rhag diflannu ac ailgysylltu pobl â natur – gan wella tirweddau ac ardaloedd arfordirol ledled Cymru.

Mae partneriaeth Natur am Byth wedi bod yn datblygu un o raglenni treftadaeth naturiol ac allgymorth mwyaf Cymru i achub rhywogaethau rhag diflannu ac ailgysylltu pobl â natur.

Rydym yn disgwyl ysbrydoli pobl o bob cefndir yng Nghymru i weithredu – gan ysgogi cymunedau amrywiol i ofalu am y bywyd gwyllt ar eu stepen drws. Rydym yn cydweithio yn y bartneriaeth â naw elusen amgylcheddol, ac mae’n darparu modd pwysig iawn yn y sector treftadaeth naturiol o achub rhywogaethau sydd o dan fygythiad.

Wrth ddatblygu’r rhaglen, mapiodd y bartneriaeth 62 o rywogaethau dan fygythiad yn erbyn themâu a nododd y tirweddau a’r ardaloedd arfordirol i dargedu gwaith cadwraeth ac ymgysylltu. Rydym yn canolbwyntio ar naw ardal o gwmpas Cymru.

Mae Natur am Byth yn bartneriaeth unigryw sy’n cyfuno materion rheoli’r tir a’r môr - gan gefnogi rhywogaethau morol sy’n agored i niwed yn ogystal â rhywogaethau ar y tir ac mewn dŵr croyw. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, byddwn yn defnyddio dull integredig ar draws cynefinoedd i sicrhau manteision lluosog ar gyfer rhywogaethau prin. Mae rhai ardaloedd yn cynnwys poblogaethau ynysig o rywogaethau sydd ar fin diflannu, ac mae angen camau penodol i sicrhau eu bod yn parhau i oroesi.

Ym mis Mehefin 2021, dyfarnodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri dros £900,000 i ddatblygu’r prosiect yn wreiddiol, a bydd y cam gweithredu yn cael ei gyflawni yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf. #naturambyth

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru gydnerth (prif nod cysylltiedig)
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amcan Llesiant 4: Lleihau’r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol megis llifogydd a llygredd

Rydym yn cynghori ar y tebygolrwydd o lifogydd ac yn rhagweld ac yn monitro'r tebygolrwydd o lifogydd ac, yn ogystal â datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd, rydym yn cefnogi cymunedau lleol i leihau eu risgiau. Yn yr un modd, rydym yn cynghori ac yn rheoleiddio safleoedd diwydiant a safleoedd gwastraff er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y bydd llygredd yn cyrraedd yr amgylchedd naturiol ehangach. Hefyd, rydym yn darparu ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol sy'n codi er gwaethaf ein hymdrechion gorau. Rydym yn ceisio gweithredu yn gadarn ond yn deg, gan ymchwilio i ddigwyddiadau a defnyddio ein hystod lawn o bwerau i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol pan fydd angen.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gan fyfyrio ar gynnydd yn erbyn dangosfwrdd Cynllun Busnes 2021/22, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Cynnal a chadw asedau perygl llifogydd, gan sicrhau bod 98.1% o asedau perygl llifogydd mewn systemau risg uchel yn y cyflwr targed ar ddiwedd y flwyddyn. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Ymateb i ddigwyddiadau, gan ymateb i 98% o ddigwyddiadau a aseswyd yn wreiddiol fel categori uchel o fewn pedair awr. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Diogelu mwy o eiddo rhag llifogydd, gan ddarparu llai o amddiffyniad neu amddiffyniad parhaus i 1,081 eiddo yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gan ragori ar ein targed. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Gweithredu argymhellion yr Adolygiad o Lifogydd, a bydd nifer nad oeddent wedi'u cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn yn cael eu gweithredu dros y misoedd nesaf. Statws y mesur: Melyn.
  • Parhau â gwaith i leihau llygredd o fwyngloddiau metel, gan gynnwys gwaith yng Nghwm Rheidol ac Abbey Consols. Fodd bynnag, nid yw'r holl waith a gynlluniwyd wedi'i gwblhau, ac mae gwaith arall wedi'i ddwyn ymlaen. Statws y mesur: Melyn

Wrth edrych ymlaen, mae ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23 yn cynnwys ein hymrwymiadau blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan gynnwys y canlynol ar gyfer y flwyddyn nesaf:

  • Cyflawni ein rhaglenni cynnal a chadw er mwyn sicrhau bod ein hamddiffynfeydd rheoli perygl llifogydd yn parhau i ddarparu amddiffyniad parhaus ar gyfer cymunedau sydd mewn perygl
  • Ymchwilio a darparu opsiynau i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau drwy'r Rhaglen Gyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd
  • Cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd wedi'u diweddaru ar gyfer Cymru, sy'n cynnwys y blaenoriaethau a'r cynlluniau strategol ar gyfer pob dalgylch ledled Cymru
  • Cwblhau adolygiad o'n dull o ymdrin â digwyddiadau amgylcheddol yn ein cylch gwaith

Rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion am nifer o'r sefyllfaoedd mesur terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2021/22 sy'n dilyn:

Ymateb i ddigwyddiadau yn ystod y pandemig

Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol pwysig i ymateb yn uniongyrchol i ddigwyddiadau sydd o fewn ein cylch gwaith, ac i gefnogi swyddogaethau rheoli digwyddiadau sefydliadau eraill fel y gwasanaethau brys, er mwyn helpu i leihau'r risg i bobl a chymunedau sy'n deillio o beryglon amgylcheddol megis llifogydd a llygredd.

Hefyd, rhaid i ni roi cynlluniau ar waith i sicrhau y gallwn barhau i gyflawni ein swyddogaethau, i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol, yn ystod cyfnod o amharu.

Arweiniodd y pandemig Covid-19 at yr amhariad mwyaf ar arferion gwaith a welwyd gennym erioed. Fe wnaethom reoli ein hymateb i hyn drwy sefydlu ein grwpiau ymateb i ddigwyddiadau strategol a thactegol, ar sail ein cynlluniau ar gyfer y pandemig ac ymateb cynharach y sefydliad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Llwyddwyd i drosglwyddo'n gyflym i drefn lle'r oedd y rhan fwyaf o bobl yn gweithio gartref gan ganolbwyntio ar ddiogelu llesiant, iechyd a diogelwch ein staff ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau craidd, gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau.

Cynyddodd nifer y digwyddiadau amgylcheddol a adroddwyd i ni yn ystod y pandemig, o 6,270 yn 2019/20 i 7,350 yn 2020/21 a 7,670 yn 2021/22, sydd, yn ein barn ni, yn rhannol adlewyrchu'r ffaith bod mwy o bobl yn treulio amser yn yr awyr agored yng nghefn gwlad Cymru ac felly'n fwy tebygol o arsylwi ac adrodd am ddigwyddiadau. Gwnaethom barhau i ymateb i'r adroddiadau hyn am ddigwyddiadau, gan gynnwys trwy fynychu digwyddiadau os oedd hynny'n angenrheidiol yn unol â'n canllawiau ac ar ôl rhoi asesiadau risg priodol ar waith. Hefyd, buom yn ymgysylltu ag Ymatebwyr Categori 1 eraill, trwy'r Fforymau Lleol Cymru Gydnerth, er mwyn helpu i reoli ymateb ehangach y sector cyhoeddus i'r pandemig, gan ddarparu cymorth ar y cyd lle gofynnwyd amdano.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru o gymunedau cydlynus

Rheoleiddio yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae ein gwaith rheoleiddio yn bwysig wrth ddiogelu'r amgylchedd, iechyd pobl, a llesiant. Er bod cyfyngiadau wedi'u rhoi ar waith i ymateb i bandemig y Coronafeirws, fe aethom ati i roi mesurau ar waith i gynnal ein gwasanaeth i’r graddau posibl, gan sicrhau bod ein staff ac eraill yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn iach.

Yn gynnar yn ystod y pandemig, fe aethom ati i gysylltu â'n holl weithredwyr diwydiant, gwastraff a dŵr a reoleiddir i'w hysbysu am ein disgwyliadau mewn perthynas â diogelu'r amgylchedd. Er ein bod yn awyddus i sicrhau bod pob gweithredwr yn parhau i fodloni amodau ei drwyddedau, esboniwyd ein bod yn cydnabod na fyddai modd gwneud hynny o bosibl oherwydd y sefyllfa anarferol. Felly, gofynnwyd i weithredwyr ymgysylltu'n rhagweithiol â ni er mwyn trafod unrhyw faterion o ddiffyg cydymffurfiaeth fesul achos.

Gwnaethom 19 o benderfyniadau rheoleiddio dros dro i hwyluso rheoleiddio yn unol â'r canllawiau cadw pellter cymdeithasol gan adlewyrchu'r newid cyflym mewn amgylchiadau. Un enghraifft o benderfyniad a wnaed i hwyluso rheoliad cadw pellter cymdeithasol oedd llacio'r gofyniad am lofnodion personol ar ddogfennau Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff a dogfennau cludo traws-ffiniol.

Cafodd cyfyngiadau Covid-19 effaith fawr ar y gwaith cydymffurfio a oedd gennym mewn golwg; fodd bynnag, rhoddwyd blaenoriaeth i ymweliadau â safleoedd ac ymateb i faterion a oedd yn peri'r risg fwyaf i’r amgylchedd a’r chyhoedd.

Datblygwyd dulliau newydd o weithio i barhau ag asesiadau cydymffurfio, gan ddefnyddio galwadau ffôn, ymweliadau ffocws â safleoedd â blaenoriaeth ac amrywiaeth o ddulliau amgen er mwyn casglu gwybodaeth. Mewn rhai achosion, fe wnaethom lwyddo i ddefnyddio dulliau arolygu o bell neu ddull hybrid lle archwiliwyd dogfennau o bell cyn ymweld â safle. Mae adborth gan weithredwyr ar y dulliau hyn wedi bod yn gadarnhaol yn gyffredinol, ac rydym wedi dysgu hefyd bod angen gwaith paratoi ychwanegol i sicrhau bod gwaith cydymffurfio o bell yn llwyddiannus.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth

Rhaglen Adolygu Llifogydd – dysgu gwersi a rhoi gwelliannau ar waith

Mae'r Rhaglen Weithredu Adfer ac Adolygu Llifogydd yn canolbwyntio ar wella ein gwasanaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau proffesiynol i Gymru, a fydd yn ei dro yn sicrhau dyfodol gwell i bobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru sydd mewn perygl oherwydd llifogydd ac i staff CNC sy'n ymwneud â gwaith rheoli ac adfer yn dilyn digwyddiadau.

Ym mis Chwefror 2020, dioddefodd Cymru rai o'r llifogydd mwyaf dinistriol a welwyd mewn cenhedlaeth. Roedd rhai o'n gwasanaethau o dan bwysau sylweddol yn ystod y digwyddiadau eithafol hyn, a chynhaliwyd adolygiad gennym i asesu'r gwersi a ddysgwyd. Cyhoeddwyd ein hadroddiad Adolygiad o Lifogydd ym mis Hydref 2020, gan nodi 74 o gamau i wella gweithrediadau CNC yn ystod llifogydd. Rydym wedi mynd ati i roi'r camau gweithredu ar waith drwy'r Rhaglen Weithredu Adfer ac Adolygu Llifogydd, a gwnaethom gynnydd da yn 2021/22, gyda 46 o'r 74 o gamau gweithredu wedi'u cwblhau ar ddiwedd y flwyddyn. Rydym yn gwneud cynnydd ar y camau gweithredu sy'n weddill, ac mae angen rhoi llawer ohonynt ar waith dros yr hirdymor.

Mae'r heriau sy'n deillio o gael tywydd eithafol yn amlach sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn sylweddol, a bydd yr heriau hyn yn cynyddu yn y dyfodol. Bydd gweithredu argymhellion yr Adolygiad o Lifogydd yn gwella ein gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru yn ystod llifogydd, ac yn helpu i gyflawni ein hamcan llesiant. Byddant yn helpu ein staff hefyd, trwy roi mesurau ar waith i wella gwydnwch ein hymateb. Rydym wedi adolygu ein harferion rheoli tir hefyd, gan sicrhau gwelliannau yn y maes hwn. Mae dysgu o ddigwyddiadau a rhoi gwelliannau ar waith yn elfen allweddol o ddull hyblyg sy'n defnyddio tystiolaeth i helpu i atal risgiau yn yr hirdymor.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru gydnerth (prif nod cysylltiedig)
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Dulliau Rheoleiddio ac Iechyd

Mae 36 o drwyddedau amgylcheddol ar gyfer gosodiadau trin gwastraff wedi'u hadolygu a'u huwchraddio er mwyn sicrhau bod y gosodiadau hyn yn perfformio yn unol â'r safonau amgylcheddol uchaf. Roedd hyn yn cynnwys adolygu trwyddedau presennol yn erbyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant – Dogfen Gyfeirio Technegau Gorau sydd ar Gael (BREF) yr UE.

Roedd yr adolygiadau o drwyddedau hyn yn un o ofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol ac maent yn sicrhau bod yr holl gyfleusterau cysylltiedig yn parhau i ddefnyddio'r technegau gorau ar gyfer atal neu leihau allyriadau ac effeithiau ar yr amgylchedd. Gall technegau gynnwys y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio a sut mae gosodiad yn cael ei gynllunio, ei adeiladu, ei gynnal, ei weithredu a'i ddatgomisiynu.

Roedd cyfleusterau mawr sy'n defnyddio ystod eang o dechnolegau i drin gwastraff wedi'u cynnwys yn yr adolygiad - gan gynnwys cyfleuster trin gwres i ddiheintio gwastraff clinigol peryglus, prosesau Treulio Anaerobig biolegol, ac adfer oergelloedd ar ddiwedd eu hoes. Lle mae gwelliannau wedi'u nodi a’u gweithredu, bydd hyn yn arwain at berfformiad amgylcheddol gwell a llai o allyriadau.

Roedd amodau newydd ar gyfer safleoedd treulio anerobig yn cynnwys gwelliannau i fesurau cadw eilaidd a gofynion ychwanegol ar gyfer monitro a rheoli paramedrau gwastraff a phrosesau allweddol. Mae hyn yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd yn y gosodiad treulio a lleihau'r posibilrwydd o niwsans oherwydd arogleuon. Hefyd, mae'n darparu rhybudd cynnar am unrhyw fethiant yn y system, gan leihau'r risg o ffrwydradau a cholli rheolaeth. Bydd gan safleoedd sy'n derbyn ac yn adfer oergelloedd ar ddiwedd eu hoes derfyn llymach ar gyfer rhyddhau'r llygrydd niweidiol clorofflrocarbonau (CFCs).

Mae'r trwyddedau wedi'u hailgyhoeddi erbyn hyn ac mae'r amodau wedi'u diweddaru er mwyn gwella systemau rheoli'r amgylchedd, gan ddarparu lefel uwch o berfformiad amgylcheddol ac ymrwymiad i welliant parhaus.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth

Amcan Llesiant 5: Helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy boddhaus

Yn ogystal â darparu ystod eang o gyfleoedd ar gyfer hamdden ar y tir sy'n cael ei reoli gennym ein hunain, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i annog pawb i fwynhau'r awyr agored ledled Cymru a gwella eu hiechyd a'u llesiant. Rydym yn cefnogi prosiectau cymunedol ac yn helpu pobl i ddysgu am werth yr amgylchedd naturiol, ei bwysigrwydd mewn bywyd bob dydd a'i ran yn niwylliant a threftadaeth Cymru.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gan fyfyrio ar gynnydd yn erbyn dangosfwrdd Cynllun Busnes 2021/22, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Darparu hyfforddiant iechyd ac addysgwyr, gan gynnwys ar gyfer Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru 2022 ac atgyfnerthu ein syniadau ym maes polisi iechyd. Statws y mesur: Gwyrdd

Wrth edrych ymlaen, mae ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23 yn cynnwys ein hymrwymiadau blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan gynnwys y canlynol ar gyfer y flwyddyn nesaf:

  • Gwella ein darpariaeth ar gyfer ymwelwyr lleol neu ymwelwyr o leoedd eraill yn y coetiroedd a'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gennym
  • Cynghori Llywodraeth Cymru ar ei rhaglen diwygio mynediad a chyfrannu at yr adolygiad o Lwybr Arfordir Cymru a'r broses o integreiddio â rhwydweithiau llwybrau ehangach

Rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion am nifer o'r sefyllfaoedd mesur terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2021/22 sy'n dilyn:

Pobl yn mwynhau eu hamgylchedd lleol

Hyrwyddo a hwyluso gweithgareddau iach ar draws yr Ystad a reolir gennym – gan helpu i wella iechyd meddwl a chorfforol. Fel rhan o'r broses o annog pobl i fynd allan i wella eu hiechyd corfforol a'u hiechyd meddwl, rydym wedi gwneud gwelliannau ledled Cymru ar gyfer safleoedd a reolir gennym. Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Gwella arwyddion, dulliau dynodi llwybrau a dehongli ochr y llwybr ar gyfer y 266 o lwybrau ag arwyddbyst ar yr ystad a reolir gennym - gan wella profiad ymwelwyr yn y coetiroedd hyn a'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Arddangos dehongliad treftadaeth newydd yn ein canolfannau ymwelwyr, gan gynnwys esbonio arwyddocâd diwylliannol y nodweddion safle hyn
  • Ffilm hyrwyddo am ymweld â'n coetiroedd a'n gwarchodfeydd
  • Gwella'r stoc ffotograffiaeth sy'n adlewyrchu ymweliadau â safleoedd sy'n gysylltiedig â hamdden
  • Darparu gwybodaeth newydd am hygyrchedd safleoedd a llwybrau i ymwelwyr – gan alluogi pobl i benderfynu pa lwybrau fyddai orau iddynt ymweld â nhw
  • Cynnal 47 o lwybrau beicio
  • Y nifer uchaf erioed o ymweliadau â'r prif safleoedd ymwelwyr (ar ôl Covid)
  • Diweddariadau statws gwefan mewn perthynas â safleoedd – gan sicrhau bod ymwelwyr yn derbyn y newyddion diweddaraf am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar yr ymweliadau.

Hefyd, fe wnaethom barhau i groesawu ceisiadau am ganiatâd ar gyfer digwyddiadau hamdden, gan gynnwys beicio, rhedeg, marchogaeth a thriathlonau – gan hybu a chefnogi ymarfer corff yn yr awyr agored ar y safleoedd a reolir gennym. Hefyd, rydym yn gweithio ar system TG newydd i gefnogi'r ceisiadau hyn a'r ymgynghoriad arnynt yn y dyfodol.

Buom yn cynllunio rhagor o welliannau i'n cefnogaeth ar gyfer prosiectau coetiroedd cymunedol, ac mae Llais y Goedwig yn cefnogi prosiectau newydd a phrosiectau sy'n bodoli eisoes gan gynnwys: Coed y Bont, Coetir Ysbryd Llynfi, Llyn Parc Mawr a Golygfa Gwydyr. Rydym yn cydnabod y manteision niferus sy'n deillio o brosiectau o'r fath, e.e. meithrin tîm, ymarfer corff mewn 'campfeydd gwyrdd', cyfle i gyfarfod â phobl eraill yn eich cymuned, gwneud ffrindiau a bod yn rhan o rywbeth cadarnhaol – a'r cyfan yn cyfrannu at iechyd meddwl ac iechyd corfforol gwell.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru iachach (prif nod cysylltiedig)
  • Cymru o gymunedau cydlynus

Dysgu am oes – Dysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu am ein hamgylchedd naturiol a dysgu ar ei gyfer

Rydym wedi darparu deunyddiau ac adnoddau i’w defnyddio ledled Cymru, gan gynnwys rhai sy’n berthnasol i ehangder y Cwricwlwm newydd i Gymru ac sy’n cefnogi cynnydd naturiol i bawb.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ehangu ein cynnig i’r sector addysg i gynnwys amrywiaeth o adnoddau newydd a dull cyfunol o hyfforddiant wyneb yn wyneb a hyfforddiant trwy weminarau. Mae’r argyfwng natur ac hinsawdd a’r angen i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ganolog i’n hadnoddau addysg – sy’n cynnwys cynlluniau gweithgareddau, cardiau adnoddau, gemau a nodiadau gwybodaeth i gynorthwyo pob addysgwr a lleoliad i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r pynciau yn cynnwys Mawndiroedd, Llwybr Arfordir Cymru a Newid Hinsawdd, a dywedodd un addysgwr:

Mae’n gwrs gwych, ac rwy’n gadael gyda neges gadarnhaol sy’n ysbrydoli rhywun i weithredu

Mae sesiynau eraill yn ystyried plentyndod cynnar a sut mae natur yn gallu ein helpu i fod yn hapus ac yn iach, gan roi cyfle i gyfranogwyr fel gwarchodwyr plant a staff Meithrin, ymhlith eraill, i ddechrau sefydlu agweddau cadarnhaol at yr amgylchedd o oedran cynnar.

Mae dau brosiect strategol wedi dechrau yn Sir y Fflint a Sir Gaerfyrddin gyda’r nod o gynyddu’r oriau addysgu yn yr awyr agored a datblygu gwybodaeth staff a dysgwyr am yr amgylchedd. Gan ddefnyddio dull ‘Mantell yr Arbenigwyr’ dangoswyd sut y gellir defnyddio digwyddiad llygredd ffug i addysgu ar draws y cwricwlwm. Yn ôl un athrawes, roedd y broses o roi’r dull hwn ar waith ar gyfer ei dysgwyr yn

un o’r wythnosau mwyaf cofiadwy ac ANHYGOEL yn fy ngyrfa fel athrawes!

Erbyn hyn, mae ein cynnig ehangach yn cynnwys cylchlythyr misol sy’n llawn enghreifftiau o ymarfer da, ein hadnoddau diweddaraf, ymgyrchoedd diddorol a diweddariadau ar gyllid, ac rydym yn chwilio o hyd am astudiaethau achos i amlygu arfer da. Hefyd, mae gan bob lleoliad addysg y cyfle i ymgysylltu â Miri Mes a Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru, dwy ymgyrch sy’n hyrwyddo cysylltiad â natur ac ymddygiad amgylcheddol cadarnhaol.

Amcan Llesiant 6: Hyrwyddo busnes llwyddiannus a chyfrifol sy'n defnyddio adnoddau naturiol heb eu difrodi

Rydym am i Gymru gael ei chydnabod yn lle gwych i wneud busnes, sy'n croesawu twf gwyrdd, sectorau newydd, ymchwil ac arloesi. Yn ogystal â datblygu ein gweithgareddau masnachol ein hunain, rydym am annog busnesau i ddefnyddio adnoddau'n effeithlon a gweithio tuag at economi gylchol. Rydym yn defnyddio ein pwerau rheoleiddio – trwyddedu, monitro i gadarnhau cydymffurfiaeth a gorfodi – er mwyn diogelu'r amgylchedd naturiol a sicrhau nad yw busnesau cyfreithlon yn cael eu tanseilio.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gan fyfyrio ar gynnydd yn erbyn dangosfwrdd Cynllun Busnes 2021/22, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Rheoleiddio safleoedd, ac ansawdd gollyngiadau dŵr, gan sicrhau ymateb rheoleiddiol priodol i 100% o achosion torgydymffurfiaeth categori 1 a 2. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Cynigiwyd 809,000m3 o bren i'r farchnad. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Mynd ati i roi ein Strategaeth Fasnachol ar waith, gan baratoi ein hadolygiad blynyddol. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Diweddaru ein cyfraniad yn dilyn yr ymadawiad â'r UE, gan barhau i gyfrannu at ddeddfwriaeth amgylcheddol newydd a gweithio gydag eraill. Statws y mesur: Gwyrdd

Wrth edrych ymlaen, mae ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23 yn cynnwys ein hymrwymiadau blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan gynnwys y canlynol ar gyfer y flwyddyn nesaf:

  • Cyflawni ein rhwymedigaethau statudol i drwyddedu, sicrhau cydymffurfiaeth a chymryd camau gorfodi
  • Sicrhau y gallwn gyflawni ein swyddogaethau rheoleiddio a chynghori mewn ymateb i'r newidiadau cyflym sydd eu hangen i gyflawni'r amcan Sero Net gan ymateb i bryderon amgylcheddol cyffredinol yn unol â Chod y Rheoleiddwyr
  • Cefnogi Llywodraeth Cymru i ddelio â gwaddol canrifoedd o fwyngloddio, gan sicrhau bod gwaith ar domennydd sy’n peri perygl yn cael ei wneud yn gyflym

Rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion am nifer o'r sefyllfaoedd mesur terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2021/22 sy'n dilyn:

Gweithio gydag eraill i gefnogi adferiad (gwyrdd)

Mae angen cydgynhyrchu cadarn yn awr yn fwy nag erioed. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i hwyluso gwaith y Grŵp Adferiad Gwyrdd.

Mae'r grŵp yn canolbwyntio ar adfer o'r pandemig, gan gyflawni yn erbyn blaenoriaethau cyfunol a fydd yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ar gyfer pobl a byd natur. Mae camau gweithredu yn cael eu hysgogi drwy'r Grŵp Adfer Gwyrdd aml-asiantaeth a Grŵp y Sector Galluogi’r Amgylchedd.

Cafodd y Grŵp Adferiad Gwyrdd amlsector ei gynnull ym mis Mai 2020 i nodi blaenoriaethau ar gyfer camau gweithredu i sicrhau adferiad gwyrdd, ac roedd cyfiawnder cymdeithasol yn un o'i egwyddorion arweiniol. Un o dasgau eraill y Grŵp oedd datblygu cynllun ar y cyd i sefydlogi trydydd sector yr amgylchedd. Mae'r Grŵp yn cydweithio i ddatblygu a chefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau ar y cyd, a fydd yn rhoi camau gweithredu ar waith ac yn sicrhau canlyniadau ar gyfer yr argyfwng hinsawdd a natur ar gyfer pobl a byd natur. Fel rhan o'r gwaith Adferiad Gwyrdd, mae 'Grŵp y Sector Galluogi’r Amgylchedd' wedi'i sefydlu sy'n cynnwys cynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol amgylcheddol a chyllidwyr er mwyn sbarduno camau gweithredu strategol cydweithredol yn ymwneud â chyllid grant yng Nghymru a chyfleoedd ariannu ehangach mewn perthynas â chanlyniadau amgylcheddol/natur yng Nghymru.

Drwy waith y bartneriaeth mae cyllid gwerth £5.3m wedi'i ddyrannu, trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn bennaf, i awdurdodau lleol a detholiad o brosiectau llai. Hefyd, mae'r Grŵp wedi helpu i sicrhau cyllid gwerth £900,000 trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn cefnogi cynaliadwyedd sectorau mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys cymorth ar gyfer datblygiad sefydliadol fel hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae'r cynnig ar gyfer Gwasanaeth Natur Cenedlaethol wedi deillio o allbynnau'r grŵp hefyd. Bydd y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol yn system i Gymru gyfan sy'n ysgogi pobl i gefnogi adferiad natur, gan weithredu fel dolen sy'n cysylltu pobl â hyfforddiant seiliedig ar natur, prentisiaethau, cyflogaeth, mentergarwch a gwirfoddoli.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth (prif nod cysylltiedig)
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gwerthiant Pren Cynaliadwy

Rydym wedi llwyddo i gyflwyno rhaglen gwerthu coed fawr gan ennill £37 miliwn eleni er mwyn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Yn 2021/22 cynhaliwyd pedwar digwyddiad gwerthiant cystadleuaeth agored a gwahoddwyd cynigion ar gyfer 290 lot o bren, sef cyfanswm o dros 652,000 tunnell. Mae hyn yn cyfateb i 809,000m3 o goed sy'n sefyll, ac fe wnaethom lwyddo i gyrraedd 97% o'n targed ar gyfer y flwyddyn. Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gallu cynnal y lefel hon o gynhyrchu yn rhwydd.

Cynyddodd y farchnad goed am ran helaeth o'r flwyddyn nes iddi sefydlogi yn gynnar yn 2022. Incwm diwedd y flwyddyn o werthiant coed oedd £37 miliwn, o ryw 25,000 swp o goed, sef cyfanswm o 625,000 tunnell. Mae'r prisiau cyfartalog ar hyn o bryd wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed. Yn ôl y rhagolygon ar gyfer 2022/23, bydd y farchnad yn parhau i fod yn gyfnewidiol wrth i gyfyngiadau Covid gael eu codi ac wrth i'r rhyfel yn Wcráin greu ansicrwydd yng Ngorllewin Ewrop o safbwynt cyflenwadau.

Yn unol ag argymhellion yr 'archwiliad dwfn'18 o goed a phren, a'n Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren, sefydlwyd prosiect gennym i ddatblygu dulliau amgen o werthu pren (hyd at 30% ohono) - gan geisio sicrhau ystod o werthoedd a buddion ar wahân i incwm yn unig.

Ledled y DU roedd 13 o farwolaethau yn gysylltiedig â gwaith coed yn ystod y flwyddyn, sy'n sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, ac arweiniodd hyn at drafodaeth ar lefel Bwrdd ar rôl arweinyddiaeth CNC ym maes Llesiant, Iechyd a Diogelwch. Fe aethom ati i ddarparu rhagor o hyfforddiant staff ar reoli contractau gwerthu, a phenderfynwyd terfynu ein holl gontractau gwerthu gydag un cwsmer a oedd ag arferion iechyd a diogelwch annerbyniol.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus (prif nod cysylltiedig)
  • Cymru gydnerth

Newid gweithgarwch masnachol

Rydym yn rhoi prosiectau masnachol ar waith ar yr ystad a reolir gennym mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar werth economaidd da a sicrhau manteision cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol.

Mae Strategaeth Fasnachol 2021-2026 yn nodi'r weledigaeth ar gyfer sut y bydd gweithgarwch masnachol yn ein sefydliad yn newid - gan gyd-fynd yn well â Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a gweithredu mewn ffordd gadarnhaol ar yr argyfyngau Hinsawdd a Natur. Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu prosiectau masnachol sy'n cyflawni ym meysydd Pobl, Planed a Ffyniant. Rydym eisiau bod yn hyblyg wrth arallgyfeirio ac arloesi ar draws ein portffolio, gan greu dulliau gwell o weithio mewn partneriaeth a mesur ein perfformiad.

Mae'r broses o integreiddio'r dulliau hyn wedi bod yn datblygu drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gweithio'n agos gyda'n partneriaid ar draws y sector ynni adnewyddadwy i chwilio am ddulliau newydd o wella ein gwasanaeth Cyflenwi Ynni. Mae ein tîm Gwerthu a Marchnata Pren wedi cychwyn prosiect sy'n adolygu sut y gallwn ddarparu dulliau amgen o brynu hyd at 30% o'n pren. Rydym wedi datblygu Rhaglen Arloesi Masnachol sy'n ystyried sut i ddarparu amrywiaeth o brosiectau masnachol newydd gan gynnwys claddedigaethau naturiol, nwyddau e-fasnach, cyllid gwyrdd, ynghyd â chysylltu â chyfleoedd ymchwil a datblygu academaidd yn y cyfnod cynnar. Hefyd, rydym yn parhau i archwilio cyfleoedd masnachol eraill mewn sectorau fel y celfyddydau, diwylliant, hamdden a thwristiaeth.

Rydym wedi canolbwyntio o'r newydd ar ddarparu gwasanaeth masnachol mwy cydlynol i bartneriaid yn ein sefydliad, ac i'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw mewn sectorau eraill. Mae ein digwyddiad Rhwydwaith Masnachol cyntaf wedi rhoi cyfle i ni rannu ein cynnydd gyda mwy o randdeiliaid allanol, ac rydym yn bwriadu parhau â'r digwyddiadau hyn yn y dyfodol. Hefyd, mae gweithgarwch mewnol diweddar wedi arwain at welliannau mewn cymorth masnachol ar gyfer meysydd fel hawliau a chaniatâd ffilmio - ac mae cyfleoedd eraill yn yr arfaeth i ddatblygu'r cynnydd hwn yn fasnachol yn 22/23.

Cefnogi ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Un o'n prif feysydd ffocws o safbwynt helpu i ddarparu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yw gwaith ymchwil manwl ynni adnewyddadwy. Roedd y gwaith ymchwil manwl yn ceisio mynd i'r afael â chyfleoedd a rhwystrau i gynhyrchu ynni adnewyddadwy er mwyn diwallu ein hanghenion ynni yn llawn, gan gyflymu camau gweithredu i leihau'r galw am ynni a manteisio i'r eithaf ar berchnogaeth leol gan gadw manteision economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Gwnaethom gyfrannu'n weithredol at y gwaith ymchwil manwl gan helpu i lunio argymhellion, ac ers hynny rydym wedi bodyn gweithio'n rhagweithiol i gyflawni argymhellion sy'n berthnasol i ni. Rydym wedi bod yn cyfrannu at y canlynol, er enghraifft: adolygu dulliau rhoi caniatâd yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o drwyddedu morol; datblygu'r sylfaen dystiolaeth amgylcheddol ategol i lywio datblygiad ynni adnewyddadwy cynaliadwy; nodi adnoddau ar gyfer caniatâd a chynghori gan gynnwys sicrhau adnoddau hirdymor ar gyfer ein Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr; symleiddio cyngor ar ynni ar y môr; cefnogi gwelliannau caffael; ac ymgysylltu â'r gymuned. Hefyd, rydym yn parhau i gyflawni ein swyddogaethau rheoleiddio a chynghori presennol yn effeithlon er mwyn helpu i ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac rydym wedi darparu cyngor ar nifer o ymgynghoriadau'r Llywodraeth, fel Datganiadau Polisi Cenedlaethol y DU ar Ynni.

Mae ein tîm Masnachol wedi bod yn gweithio gyda thimau Cyflawni i gefnogi'r gwaith o gwblhau fferm wynt Clocaenog; ymgysylltu â datblygwyr ar gyfer ffermydd gwynt Alwen a Bryn er mwyn cwblhau'r dyluniadau (cyn cynllunio); trafod telerau prydlesu ffermydd gwynt Pant y Wal a Lluest y Gwynt a chwblhau trafodaethau ar gyfer cytundebau Mynediad Trydydd Parti ar gyfer Foel Trawsnant ac Ogwr Uchaf.

Hefyd, buom yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i helpu i sefydlu'r rhaglen Datblygwr Ynni Adnewyddadwy, gwneud gwaith dichonoldeb ar gyfer prosiect Brechfa dau a chynnal adolygiad bwrdd gwaith o'r ystad ehangach i nodi llif o gyfleoedd datblygu ffermydd gwynt.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang (prif nod cysylltiedig)

Amcan Llesiant 7: Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol, sy’n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf

Rydym am fod y sefydliad gorau y gallwn fod, i'n staff, ein cwsmeriaid, a'r amgylchedd naturiol. Mae hyn yn golygu ein bod wedi newid yn sylweddol fel sefydliad. Ar ôl cwblhau ein proses ailstrwythuro staff, roedd modd i ni ganolbwyntio ar ddatblygu ein sefydliad er mwyn cefnogi staff a chwsmeriaid i gyflawni amcanion personol a busnes.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Gan fyfyrio ar gynnydd yn erbyn dangosfwrdd Cynllun Busnes 2021/22, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Gweithredu ym meysydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gyda’n Bwrdd yn cymeradwyo ein strategaeth sefydliadol newydd ar gyfer Amrywiaeth a Chynhwysiant. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Datblygu a gweithredu Strategaeth Pobl, gyda chamau blaenoriaeth ar waith neu wedi'u cwblhau yn unol â'r cynllun gweithredu. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Canolbwyntio ar Brofiad Cwsmeriaid, er nad yw'r gweithgarwch a gynlluniwyd yn ymwneud â mapio teithiau cwsmeriaid wedi datblygu fel y rhagwelwyd yn wreiddiol, a bydd yn symud ymlaen yn 2022/23. Statws y mesur: Coch
  • Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, ac mae archwiliad cysylltiedig o ganfyddiadau rhanddeiliaid yn cael ei ddadansoddi. Statws y mesur: Melyn
  • Gweithredu ein Rhaglen Adfywio Covid-19, gan gynnwys gweithgarwch i hwyluso neu gefnogi dulliau gweithio hybrid. Statws y mesur: Melyn

Wrth edrych ymlaen, mae ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23 yn cynnwys ein hymrwymiadau blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan gynnwys y canlynol ar gyfer y flwyddyn nesaf:

  • Cyflwyno Adfywio – ein rhaglen adnewyddu yn dilyn pandemig Covid-19
  • Meithrin cysylltiadau ac ymddiriedaeth gyda'n cymunedau
  • Darparu cyllid i bartneriaid sy'n cyflawni canlyniadau blaenoriaeth ar gyfer yr amgylchedd a phobl Cymru
  • Marchnata hyd at 750,000m3 o bren o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio dulliau amgen i farchnata hyd at 30% ohono

Rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion am nifer o'r sefyllfaoedd mesur terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2021/22 sy'n dilyn.

Adfywio – ein rhaglen adnewyddu yn dilyn pandemig Covid-19

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi sefydlu Adfywio - ein rhaglen adnewyddu yn dilyn y pandemig Covid-19. Mae Adfywio yn ceisio dysgu gwersi o'n hymateb i’r pandemig Covid-19, a thrawsnewid y ffordd rydym yn darparu rhai o'n gwasanaethau - gan fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, yn ogystal â chynorthwyo pobl ac economi Cymru i adfer yn gynaliadwy o effeithiau Covid-19.

Mae'r meysydd ffocws yn cynnwys adeiladau, teithio a thechnoleg, ac rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Amlinellu'r egwyddorion craidd ar gyfer ein hadeiladau a fydd yn llywio'r newidiadau sydd eu hangen i leihau allyriadau, addasu i'r newid yn yr hinsawdd, a mynd i'r afael â'r argyfwng natur
  • Nodi'r offer sydd eu hangen i hwyluso dulliau gweithio hybrid o leoliadau ledled Cymru
  • Cyflwyno nifer o welliannau gan gynnwys gwelliannau i systemau TGCh, offer a chymorth ar gyfer gweithio o bell ac archebu ystafelloedd.
  • Nodi'r bobl, y polisïau a'r gweithdrefnau y mae angen eu newid er mwyn cefnogi a galluogi gweithio hybrid
  • Ymgysylltu â staff er mwyn gwella dealltwriaeth o agweddau at ddulliau gweithio hybrid

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth

Gwella ein gwasanaeth i gwsmeriaid pan fydd nifer yr ymholiadau yn uchel

Rydym wedi gwella sut rydym yn ymateb i ymholiadau cwsmeriaid eleni, ar sail adborth gan gwsmeriaid a staff. Diolch i’n dull gweithredu wedi'i ddiweddaru, rydym wedi llwyddo i wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid a lleihau pwysau ar staff drwy ddarparu ymatebion cyson ac amserol i geisiadau cwsmeriaid.

Derbyniodd Hwb Cwsmeriaid ein sefydliad dros 28,0000 o ymholiadau cyffredinol y llynedd dros y ffôn neu drwy e-bost. Fel rhan o'n strategaeth cwsmeriaid, ac yn unol â'n hegwyddorion SMNR, rydym wedi cydweithio ac ymgysylltu mewn ffordd ragweithiol â staff a chwsmeriaid er mwyn gwella sut rydym yn ymateb pan fydd nifer uchel o ymholiadau gan gwsmeriaid.

Roedd y gweithgarwch yn cynnwys sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth cwsmeriaid i fod yn sylfaen i'n penderfyniadau, a gwelliannau dilynol i sut rydym yn defnyddio technoleg er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf.

Mae pryderon penodol gan gwsmeriaid (e.e. hela, a thrwyddedau adar cyffredinol) yn arwain at gynnydd sylweddol ym mhob math o gyswllt â chwsmeriaid, o ymholiadau syml a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol i geisiadau rhyddid gwybodaeth mwy cymhleth. Gall hyn effeithio ar ein gallu i fodloni safonau gwasanaeth cwsmeriaid disgwyliedig, yn ogystal ag effeithio ar staff ledled y sefydliad sy'n ymateb i'r ceisiadau hyn. Rydym wedi bod yn fwy rhagweithiol wrth ymdrin â materion o bwys. Mae hyn yn cynnwys datblygu ymatebion safonol sy'n glir ac yn gyson - gan ein galluogi i ymateb yn gyflymach i'n cwsmeriaid a darparu gwybodaeth amserol a chywir ar adegau pan fyddwn yn derbyn nifer sylweddol o geisiadau gan gwsmeriaid.

Nodau Cymru cysylltiedig: 

  • Cymru lewyrchus

Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu - 13 Gorffennaf 2022

Yn ôl at yr Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2021/22

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf