Enwi a Chychwyn

1.1 Llunnir y Cynllun Taliadau Tynnu Dŵr hwn (“y Cynllun”) gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhinwedd y pwerau a roddir iddo o dan adrannau 41-41C o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ac yn unol ag adran 42 y Ddeddf honno.

1.2 Mae’r Cynllun yn ymwneud â chyfnodau codi tâl sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024. Mae cyfeiriadau at flynyddoedd ariannol yn golygu cyfnodau o 12 mis yn dechrau ar 1 Ebrill.

1.3 Dylid cyfeirio at y Cynllun fel Cynllun Taliadau Tynnu Dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dehongli

2.1 Ac eithrio lle nodir yn wahanol, bydd i eiriau a chymalau yr un ystyr ag y priodolir iddynt yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991 fel y’i diwygiwyd (“y Ddeddf”) ar gyfer tyniadau a eithriwyd yn flaenorol. Mae rhagor o wybodaeth ar ofynion trwyddedau i’w gael ar ein gwefan.

Cwmpas y Cynllun

3.1 Mae’r Cynllun yn ymwneud â’r canlynol: 

3.1.1 "Y Tâl Ymgeisio" fel y’i diffinnir ym adran 4 isod.

3.1.2 "Y Tâl Gweinyddu Hysbysebion” fel y’i diffinnir ym adran 5 isod.

3.1.3 "Y Tâl Blynyddol” fel y’i diffinnir ym adran 6 isod.

3.2 Ni fydd unrhyw beth yn y Cynllun yn effeithio ar unrhyw un o bwerau CNC i ymrwymo i gytundeb ynglŷn â thaliadau gyda thynwyr dŵr penodol, o dan ddarpariaethau adrannau 126, 127 neu 130 y Ddeddf, neu i ymrwymo i unrhyw gytundeb arall yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â thalu taliadau mewn perthynas â’i swyddogaethau adnoddau dŵr.

3.3 Lle bo CNC yn ymrwymo i gytundeb o dan adran 126 neu 130 y Ddeddf, bydd unrhyw ostyngiad yn berthnasol i’r tâl safonol fel y’i nodir ym mharagraff 6.3.1 isod a’r tâl iawndal (Tâl Uned Gwella’r Amgylchedd (TUGA))  fel y’i nodir ym mharagraff 6.3.2 isod.

3.4 Lle bo CNC yn ymrwymo i gytundeb o dan adran 127 y Ddeddf, bydd unrhyw ostyngiad yn berthnasol i’r tâl sylfaenol fel y’i nodir ym mharagraff 2.1 o Atodlen 2 isod a hefyd i’r tâl atodol fel y’i nodir ym mharagraff 2.2 o Atodlen 2 isod ond nid i’r tâl iawndal (TUGA)  fel y’i nodir ym mharagraff 6.3.2 isod

3.5 Lle bo rhywun yn gofyn am gyngor cyn ymgeisio neu’n cynnal trafodaethau â CNC i ddeall a oes angen caniatâd ar gyfer ei weithgaredd cyn ymgeisio mewn perthynas â chais arfaethedig am drwydded i dynnu neu gronni dŵr neu Gydsyniad Ymchwilio Dŵr Daear arfaethedig neu gais i newid (amrywio) trwydded sydd eisoes yn bodoli, ni chodir tâl am y cyngor sylfaenol canlynol:

  • cadarnhad o'r math o drwydded neu ganiatâd sydd ei angen
  • y ffurflenni cais cywir i'w defnyddio
  • pa ganllawiau y mae'n rhaid i'r ymgeisydd eu dilyn
  • canllawiau i helpu'r ymgeisydd i gyfrifo'i ffi ymgeisio
  • argaeledd dŵr
  • gofynion llif annibynnol
  • meintiau gofynnol ar gyfer sgriniau pysgod/llysywod
  • cadarnhau gofynion llwybrau pysgod/llysywod (gan gynnwys nodi'r math ond heb gynnwys adolygiad o ddyluniadau)

Codir am unrhyw gyngor dilynol ar gyfradd o £125 a TAW yr awr. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio ar gael ar ein gwefan

Y Tâl Ymgeisio

4.1 Bydd y Tâl Ymgeisio yn daladwy mewn perthynas â chais am unrhyw drwydded o dan y Ddeddf i dynnu neu gronni dŵr, neu i newid amodau unrhyw drwydded o’r fath, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 4.2. Dangosir y ffioedd amrywiol ar gyfer blwyddyn weithredol gyfredol y Cynllun, gan gynnwys rhai categorïau codi tâl newydd yn Atodlen 3. Bydd y ffioedd amrywiol ar gyfer blynyddoedd ariannol dilynol yn cael eu pennu yn unol ag Adran 10 isod.

4.2 Nid yw’r Tâl Ymgeisio yn daladwy mewn perthynas â’r canlynol:

4.2.1 trosglwyddo deiliad trwydded o dan adran 59A y Ddeddf;

4.2.2 newid trwydded er mwyn lleihau faint o ddŵr yr awdurdodwyd i’w dynnu yn unol ag adran 51(2) a (4) y Ddeddf;

4.2.3 dirymu trwydded o dan adran 51(1) y Ddeddf, neu

4.2.4 newid trwydded er mwyn gosod cyfyngiad amser arni o dan adran 51(2) y Ddeddf

4.3 Ers 1 Gorffennaf 2023, rydym wedi codi tâl am ddosbarthu trwydded o dan adran 59C neu adran 59D o’r Ddeddf. Gallai trwydded gael ei dosbarthu’n rhad ac am ddim yn flaenorol, ond fe’i codir bellach fel amrywiad syml fel y nodir yn Atodlen 3.

Y Tâl Gweinyddu Hysbysebion 

5.1 Bydd y Tâl Gweinyddu Hysbysebion yn daladwy, lle bo’n berthnasol, ar gyfer talu costau gweinyddol y gwaith y bydd CNC yn ei wneud er mwyn hysbysebu cais am drwydded (ac eithrio trwyddedau dros dro a Chydsyniadau Ymchwilio Dŵr Daear) o dan y Ddeddf i dynnu neu gronni dŵr, neu i newid amodau unrhyw drwydded o’r fath ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 4.2.4 uchod.

5.2 Gwelir swm y Tâl Gweinyddu Hysbysebion ar gyfer blwyddyn weithredu gyfredol y Cynllun yn Atodlen 3. Pennir y swm ar gyfer blynyddoedd ariannol dilynol yn unol â pharagraff 10 isod.

5.3 Ers 1 Gorffennaf 2023, mae’r ymgeisydd wedi bod yn gyfrifol am dalu am gost yr holl hysbysebu yn Gymraeg a Saesneg.

Y Tâl Blynyddol

6.1 Bydd y Tâl Blynyddol yn daladwy mewn perthynas â thrwydded o dan y Ddeddf, sydd mewn grym ar hyn o bryd, ar gyfer tynnu dŵr ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 6.2 isod.

6.2 Nid yw’r Tâl Blynyddol yn daladwy mewn perthynas â dŵr yr awdurdodwyd i’w dynnu:

6.2.1 i’w ddefnyddio’n uniongyrchol wrth gynhyrchu trydan neu unrhyw ffurf arall ar bŵer mewn gorsaf neu waith cynhyrchu nad yw’n gallu cynhyrchu mwy na phum megawat; neu

6.2.2 o ddyfroedd mewndirol y mae CNC neu’i ragflaenwyr wedi tystio eu bod yn cynnwys mwy nag 8,000 miligram y litr o glorid ar gyfartaledd;

6.2.3 o dan drwydded dros dro; neu

6.2.4 o dan drwydded drosglwyddo.

6.3 Mae’r Tâl Blynyddol yn cynnwys dwy elfen, y Tâl Safonol a’r Tâl Iawndal (TUGA).

6.3.1 Y Tâl Safonol yw elfen gyntaf y Tâl Blynyddol, a dyma sut y mae CNC yn adfer ei gostau rheoli a rheoleiddio tyniadau dŵr, yn gymesur ag effaith y drwydded honno ar adnoddau dŵr.

6.3.2 Y Tâl Iawndal (TUGA) yw ail elfen y Tâl Blynyddol, sef y swm sy’n cael ei ychwanegu at y Tâl Safonol ar gyfer adfer costau iawndal sy’n gysylltiedig â dirymu neu newid trwyddedau.

6.4 Y Tâl Blynyddol yw cyfanswm y Tâl Safonol a’r Tâl Iawndal (TUGA) sy’n cael eu cyfrifo o’r canlynol:

6.4.1 y Cyfaint fel y’i disgrifir ym mharagraff 6.6 isod;

6.4.2 y Ffactor Tâl priodol fel y’i pennir drwy gyfeirio at baragraff 6.7 isod;

6.4.3 y Tâl Uned Safonol ar gyfer pob Rhanbarth fel y’i disgrifir ym mharagraff 6.8 isod; a’r

6.4.4 Tâl Uned Gwella’r Amgylchedd fel y’i disgrifir ym mharagraff 6.9 isod.

6.5 Disgrifir y dull o gyfrifo ym mharagraff 7.1 isod.

6.6 Cyfaint

6.6.1 Y Cyfaint yw’r swm o ddŵr yr awdurdodwyd i’w dynnu’n flynyddol a bennir yn y drwydded. Caiff symiau mewn galwyni eu trosi’n fetrau ciwbig drwy’r fformiwla:

1 miliwn galwyn = 4,546 metr ciwbig

6.6.2 Os nad yw trwydded yn pennu swm blynyddol a awdurdodwyd, caiff ei gyfrifo gan CNC o’r cyfraddau tynnu dŵr a bennir yn y drwydded.

6.7 Ffactor Tâl

6.7.1 Caiff y Ffactor Tâl ei gyfrifo drwy luosi’r ffactorau pwysoli canlynol:

(i) Ffactor Ffynhonnell fel y’i pennir drwy gyfeirio at baragraff 6.7.2 isod.

(ii) Ffactor Tymhorol fel y’i pennir drwy gyfeirio at baragraff 6.7.3 isod.

(iii) Ffactor Colled fel y’i pennir drwy gyfeirio at baragraff 6.7.4 isod.

(iv) Ffactor Ffynhonnell wedi’i Addasu fel y’i pennir drwy gyfeirio at baragraff 6.7.5 isod

6.7.2 Y Ffactor Ffynhonnell

(i) Mae’r Cynllun yn gwahaniaethu rhwng tri math o ffynhonnell, sef:

(a) Heb ei chynnal – Pob ffynhonnell, yn cynnwys dŵr daear, na chânt eu cynnwys yn unrhyw un o’r categorïau eraill.

(b) Wedi’i chynnal – Y ffynonellau, neu rannau o’r ffynonellau a nodir yn Atodlen 1.

Gall CNC wneud newidiadau i Atodlen 1 o bryd i’w gilydd gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Bydd y Ffactor Ffynhonnell wedi’i Chynnal hefyd yn berthnasol i dyniadau uniongyrchol o gronfeydd a neilltuwyd drwy gytundeb i CNC a hefyd i dyniadau eraill y gallai eu defnyddio i chwyddo’r ffynonellau a nodir yn Atodlen 1.

Ni fydd y Ffactor Ffynhonnell wedi’i Chynnal yn berthnasol i drwyddedau sy’n caniatáu tynnu dŵr o ffynhonnell wedi’i chynnal sy’n cynnwys amodau ‘dim ymyrryd â’r llif’ sy’n gwahardd tyniadau ar unrhyw adeg y bydd afon yn cael ei chynnal ac ni all yr amodau hynny effeithio ar faint y gynhaliaeth honno.

(c) Llanwol - Y rhannau o ddyfroedd mewndirol sydd islaw’r terfyn penllanw arferol fel y nodir ar fap OS 1:25,000 a rhannau o ddyfroedd mewndirol a bennir o bryd i’w gilydd gan CNC gyda chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru mewn mapiau a adneuwyd ym Mharc Cathays, prif swyddfa CNC.

Bydd tyniad o unrhyw ddarn o ddŵr mewndirol sy’n Ffynhonnell Lanwol ac yn Ffynhonnell wedi’i Chynnal, fel y disgrifiwyd ym mharagraff 6.7.2(i)(b) uchod, yn cael ei ystyried yn dyniad o Ffynhonnell wedi’i Chynnal.

(ii) Lle bo dŵr yn cael ei dynnu o dan drwydded o ffynhonnell cyflenwad, bydd y rhan honno o’r tyniad trwyddedig sy’n ddibynnol ar ddŵr a drosglwyddwyd o ffynhonnell arall (y ffynhonnell wreiddiol) yn derbyn y Ffactor Ffynhonnell cymwys ar gyfer y ffynhonnell wreiddiol honno.

(iii) Y Ffactor Ffynhonnell ar gyfer pob math o ffynhonnell yw:

Heb ei chynnal 1.0

Wedi’i chynnal 3.0

Llanwol 0.2

6.7.3 Y Ffactor Tymhorol

(i) Ceir tri chategori o Ffactor Tymhorol sy’n seiliedig ar yr adeg o’r flwyddyn yr awdurdodir i’r dŵr gael ei dynnu.

Yn amodol ar ddarpariaethau paragraffau 6.7.3(ii) a 6.7.3(iii) isod, dyma’r tri chategori:

(a) Haf – awdurdodir y tyniad rhwng 1 Ebrill a 31 Hydref yn gynwysedig.

(b) Gaeaf – awdurdodir y tyniad rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth yn gynwysedig.

(c) Trwy’r Flwyddyn – Awdurdodir y tyniad ar gyfer pob adeg o’r flwyddyn, neu nid yw wedi’i gynnwys yn y naill neu’r llall o’r categorïau uchod.

(ii) Diffinnir tyniad ar gyfer dyfrhau drwy chwistrellu a diferynnu fel tyniad Haf oni bai bod y dŵr yn dod

(a) o bwll neu gronfa, neu wedi’i gynnal gan bwll neu gronfa, nad yw’n gorwedd ar lwybr ac sy’n cael ei lenwi gan fewnfa a reolir o ffynhonnell cyflenwad yn ystod y gaeaf yn unig, neu

(b) ei fod o bwll o gronfa, neu wedi’i gynnal gan bwll neu gronfa sy’n gorwedd ar lwybr afon, gyda threfniant rhagnodedig yn y drwydded i ryddhau neu ddargyfeirio llifoedd yn ystod tymor yr Haf.

Yn y sefyllfaoedd hyn, dosberthir swm sy’n cyfateb i gapasiti’r gronfa fel tyniad Gaeaf a dosberthir unrhyw dyniad a awdurdodwyd sy’n fwy na chapasiti’r gronfa fel tyniad Haf.

Bydd deiliad y drwydded yn darparu unrhyw wybodaeth a fo’n rhesymol i CNC ofyn amdani er mwyn dangos bod digon o le ar gael iddo mewn gwirionedd i storio dŵr, neu fel arall, dosberthir y tyniad a awdurdodwyd fel tyniad Haf.

(c) ar gyfer chwistrellu rhag rhew yn unig, a ddosberthir fel tyniad Trwy’r Flwyddyn.

(iii) Lle bo trwydded yn awdurdodi symiau penodedig o ddŵr i’w dynnu yn ystod yr Haf ac yn ystod y Gaeaf fel y diffiniwyd ym mharagraff 6.7.3(i) uchod, cyfrifir taliadau ar wahân ar gyfer pob cyfnod, yn unol â darpariaethau’r Cynllun, a’u cyfuno yn y Tâl Blynyddol.

(iv) Y Ffactor Tymhorol ar gyfer pob categori yw:

Haf 1.6

Gaeaf 0.16

Trwy’r Flwyddyn 1.0

6.7.4 Y Ffactor Colled

(i) Mae’r Ffactor Colled yn ymwneud â pha ddiben sydd i’r dŵr y mae’r drwydded yn ei awdurdodi ac mae’n cynnwys pedwar categori. Rhennir y  tyniadau yn bedwar categori fel a ganlyn:

(a) Colled Fawr

Mae hyn yn cynnwys tynnu dŵr ar gyfer:

dyfrhau drwy chwistrellu a diferynnu; dyfrhau garddwriaethol; atal llwch a dibenion eraill, lle nad yw dŵr yn cael ei ddychwelyd i ffynhonnell y cyflenwad yn uniongyrchol na’n uniongyrchol oherwydd anweddiad.

(b) Colled Ganolig

Mae hyn yn cynnwys tynnu dŵr ar gyfer:

cyflenwadau dŵr cyhoeddus a phreifat; dibenion masnachol nas nodwyd yn unman arall; dibenion diwydiannol nas nodwyd yn unman arall; boeleri; defnydd fel modd o gludo deunydd; potelu a defnydd sy’n cynnwys dŵr yn y cynnyrch; tyniadau at ddibenion amaethyddol (ac eithrio dyfrhau garddwriaethol, dyfrhau drwy chwistrellu a diferynnu, dyfrleidio, llifddolydd, ffensys gwlyb, ffermydd pysgod a thyfu berwr dŵr), a chwistrellu rhag rhew.

(c) Colled Fach

Mae hyn yn cynnwys tynnu dŵr ar gyfer:

golchi mwynau; golchi llysiau, ac oeri an-anweddol.

(d) Colled Fach Iawn

Mae hyn yn cynnwys tynnu dŵr ar gyfer:

cynhyrchu mwy na 5 megawat o bŵer; llif trwy byllau amwynder; profion hydrolig; ffermydd pysgod, tyfu berwr dŵr; trosglwyddo dŵr o unrhyw ffynhonnell cyflenwad i systemau dŵr a weithredir gan awdurdodau mordwyaeth, harbwr neu gadwraeth; trosglwyddiadau dŵr o un ffynhonnell cyflenwad i un arall; cael gwared ar ddŵr at ddibenion draenio; ffensys gwlyb; llifddolydd; dyfrleidio a gwanhau elifion, a phob system ddyfrhau drwy orlif sy’n ddibynnol ar lefel naill ai gyda’r llif neu fel arall.

(ii) Caiff tyniadau at ddibenion nas nodwyd ym mharagraff 6.7.4(i) uchod eu hystyried fel Colled Fawr oni phennir fel arall gan CNC ar ôl ystyried gwybodaeth a ddarperir gan y tynnwr dŵr.

(iii) Y Ffactor Colled ar gyfer pob categori yw:

Uchel 1.0

Canolig 0.6

Isel 0.03

Isel Iawn 0.003

6.7.5 Y Ffactor Ffynhonnell wedi’i Addasu

(i) Er mwyn cyfrifo elfen Tâl Iawndal (TUGA) y Tâl Blynyddol, bydd y Cynllun ond yn gwahaniaethu rhwng ffynonellau llanwol a di-lanw. Bydd tyniad o unrhyw ddŵr mewndirol, a ddosbarthwyd naill ai fel ffynhonnell wedi’i chynnal neu heb ei chynnal fel y disgrifir ym mharagraff 6.7.2(i)(a) a (b) uchod, yn cael ei ystyried yn ffynhonnell di-lanw. Bydd y ffactor ffynhonnell lanwol yn dal yn gymwys i dynwyr dŵr sydd â thrwyddedau’n awdurdodi tynnu o ardaloedd llanwol fel y’u disgrifir ym mharagraff 6.7.2(i)(c) uchod.

(ii) Y ffactor ffynhonnell wedi’i addasu ar gyfer pob math o ffynhonnell yw:

Di-lanw (wedi’i chynnal/heb ei chynnal) 1.0

Llanwol 0.2

6.8 Y Tâl Uned Safonol

Mae'r Tâl Uned Safonol ar gyfer pob rhanbarth codi tâl yng Nghymru, ar gyfer blwyddyn weithredol gyfredol y Cynllun, i'w weld yn Atodlen 3. Mae'r Tâl Uned Safonol ar gyfer pob rhanbarth yn cael ei bennu ar gyfer blynyddoedd dilynol yn unol ag adran 10 isod. Dangosir y Tâl Uned Safonol mewn punnoedd sterling fesul mil metr ciwbig. Yr ardaloedd sydd wedi’u cynnwys ym mhob rhanbarth yw’r rhai a ddynodwyd gan CNC ac a nodir ar y Map o dan y pennawd “Map y cyfeirir ato yn y Cynllun Talu Echdynnu Dŵr” sydd wedi’i adneuo ym Mharc Cathays, prif swyddfa CNC, ac sydd â theitl i’r diben hwnnw.

6.9 Tâl Uned Gwella’r Amgylchedd (TUGA)

Mae TUGA ar gyfer y flwyddyn gyfredol yng Nghymru i’w weld yn Atodlen 4. Nodwch nad oes tâl ar gyfer y flwyddyn yma. Pennir TUGA ar gyfer blynyddoedd dilynol yn unol â adran 10 isod. Dangosir TUGA mewn punnoedd sterling am bob mil o fetrau ciwbig. Yr ardaloedd sydd wedi’u cynnwys ym mhob rhanbarth yw rhai a ddynodwyd gan CNC a’u nodi ar y map fel y sonnir ym mharagraff 6.8 uchod.

Dull o Gyfrifo

7.1 Y Tâl Blynyddol yw cyfanswm y Tâl Safonol a’r Tâl Iawndal (TUGA), a chaiff ei gyfrifo fel a ganlyn:

Tâl Blynyddol = Tâl Safonol + Tâl Iawndal

= V x A x B x C x TUS + V x B x C x D x TUGA

lle: V = cyfaint trwyddedig blynyddol (‘000 metr ciwbig)

A = ffactor ffynhonnell

B = ffactor tymhorol

C = ffactor colled

D = ffactor ffynhonnell wedi’i addasu

TUS = Tâl Uned Safonol (£/1000 metr ciwbig)

TUGA = Tâl Uned Gwella’r Amgylchedd (£/1000 metr ciwbig)

7.1.1 Cyfrifir y Tâl Safonol o’r Cyfaint, y Ffactor Tâl (ffactorau ffynhonnell, tymhorol, a cholled) a’r Tâl Uned Safonol fel a ganlyn:

(i) lluosi’r Cyfaint a’r Ffactor Tâl perthnasol.

(ii) lluosi canlyniad y cyfrifiad yn 7.1.1(i) a’r Tâl Uned Safonol ar gyfer y rhanbarth

7.1.2 Cyfrifir y Tâl Iawndal o’r Cyfaint, y Ffactor Tâl (ffactorau tymhorol, colled a ffynhonnell wedi’u haddasu), a TUGA fel a ganlyn

(i) lluosi’r Cyfaint a’r Ffactor Tâl perthnasol.

(ii) lluosi canlyniad y cyfrifiad yn 7.1.2(i) a Thâl TUGA.

7.1.3 Adio canlyniadau’r cyfrifiadau yn 7.1.1(ii) a 7.1.2 (ii) i gael cyfanswm y tâl blynyddol

7.2. Os delir trwydded am ran o flwyddyn ariannol yn unig, neu os caiff ei newid yn ystod blwyddyn ariannol, bydd faint sy’n daladwy neu faint sy’n daladwy ar ôl ei newid, fel y bo’n digwydd, yn cael ei gyfrifo drwy rannu’r tâl ar gyfer y flwyddyn ariannol yn gymesur (neu, os yw’n llai, y cyfnod o’r flwyddyn sy’n destun y drwydded dynnu dŵr). 

Lle bo trwydded yn pennu symiau a awdurdodwyd ar wahân sy’n denu Ffactorau Tâl gwahanol, cyfrifir cyfanswm y tâl o’r gwahanol daliadau. Os nad yw’r drwydded yn pennu symiau blynyddol ar wahân, cyfrifir y tâl drwy ddefnyddio’r Ffactorau Tâl uchaf a fo’n gymwys oni bai bod CNC wedi cytuno i rannu’r swm a awdurdodwyd.

7.3 Cyfrifo taliadau mewn amgylchiadau arbennig:

(i) lle bo amodau dwy neu fwy o drwyddedau yn golygu y dylai swm cyfanredol y dŵr y gellir ei dynnu fod yn llai na’r cyfanswm a awdurdodwyd gan bob trwydded, seilir y Tâl Blynyddol ar y swm cyfanredol. Y Tâl Blynyddol mewn achosion o’r fath fydd y tâl uchaf y gellir ei gyfrifo o’r drwydded unigol neu’r trwyddedau sy’n awdurdodi’r swm cyfanredol.

(ii) gall deiliad y drwydded sy’n awdurdodi tyniad ar gyfer dyfrhau drwy chwistrellu, neu ymgeisydd am drwydded o’r fath, wneud cais yn gofyn i CNC gyfrifo’r Tâl Blynyddol drwy gyfeirio at Atodlen 2 i’r Cynllun.

(iii) lle bo swm llawn trwydded wedi’i werthu am gyfnod o dros 28 diwrnod yna bydd trwydded y gwerthwr wedi’i heithrio rhag taliadau blynyddol yn ystod cyfnod y masnachu. Os yw’r prynwr yn dirymu’r drwydded a roddwyd iddo fel rhan o’r masnachu cyn diwedd cyfnod y masnachu, yna ni fydd trwydded y gwerthwr wedi’i heithrio mwyach rhag taliadau blynyddol a bydd y gwerthwr yn gyfrifol am dalu taliadau o’r dyddiad dirymu trwydded y prynwr.

Isafswm Tâl

8.1 Mewn unrhyw achos lle bydd y Tâl Blynyddol a gyfrifir ar gyfer pob trwydded yn llai na’r Isafswm Tâl bydd angen talu’r Isafwswm Tâl.

8.2 Os delir trwydded am ran o flwyddyn ariannol yn unig, neu os caiff ei newid yn ystod blwyddyn ariannol, ni fydd y swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r drwydded honno yn y flwyddyn honno, neu dros weddill y flwyddyn honno yn ôl fel y bo’n digwydd, yn is na’r Isafswm Tâl.

8.3 Gwelir yr Isafswm Tâl ar gyfer blwyddyn weithredu gyfredol y Cynllun yn Atodlen 3. Pennir yr Isafswm Tâl ar gyfer blynyddoedd dilynol yn unol â adran 10 isod.

Talu Taliadau

9.1 Y Tâl Ymgeisio:

9.1.1 mae’r Tâl Ymgeisio yn daladwy gan y person sy’n ymgeisio am drwydded o dan y Ddeddf neu’n ymgeisio i newid unrhyw drwydded o’r fath, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 4.2 uchod.

9.1.2 bydd y tâl yn ddyledus ar y dyddiad y gwneir cais am drwydded, neu am newid trwydded o’r fath.

9.2 Y Tâl Gweinyddu Hysbysebion

9.2.1 mae’r Tâl Gweinyddu Hysbysebion yn daladwy gan y person sy’n gwneud cais am  drwydded o dan y Ddeddf neu gais i newid trwydded o’r fath lle mae angen hysbysebu.

9.2.2 bydd y tâl yn ddyledus ar y dyddiad y bydd yr ymgeisydd yn derbyn cydnabyddiaeth gan CNC ei fod wedi derbyn y cais am drwydded, neu gais i newid trwydded o’r fath, a phan fydd CNC wedi cadarnhau bod angen hysbysebu.

9.2.3 O 1 Gorffennaf 2023 ymlaen, cyfrifoldeb yr ymgeisydd hefyd yw talu am gost yr hysbyseb gyfan yn Gymraeg ac yn Saesneg.

9.3 Y Tâl Blynyddol:

9.3.1 bydd y tâl a ragnodir gan y Cynllun yn daladwy gan ddeiliad trwydded gyfredol i dynnu dŵr.

9.3.2 bydd y tâl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol yn ddyledus ar 1 Ebrill, neu,

(i) yn achos trwydded a roddir yn ystod y flwyddyn ariannol honno ar y dyddiad y caiff y drwydded ei rhoi, neu,

(ii) o ran newid trwydded, bydd unrhyw dâl a addaswyd neu ad-daliad, fel y bo’n briodol, yn ddyledus ar y dyddiad y newidir y drwydded, neu

(iii) o ran trosglwyddo trwydded i drosglwyddai yn rhinwedd adrannau 59A-C y Ddeddf, neu yn yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan Reoliadau a wnaed o dan adran 59D y Ddeddf, fel y’i diwygiwyd, bydd y taliadau’n ddyledus ar y dyddiad y daw’r trosglwyddai yn ddeiliad y drwydded.

9.3.3 Pan fo cais wedi’i wneud am daliadau arbennig yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 2, bydd y taliadau fel a ganlyn:

(i) bydd y tâl sylfaenol mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol yn ddyledus ar 1 Ebrill, neu fel y pennir fel arall ym mharagraff 9.3.2 uchod.

(ii) daw’r tâl atodol yn ddyledus ar gais.

9.3.4 Os na thelir y Ffi Flynyddol sy'n daladwy o dan y Cynllun o fewn wyth diwrnod ar hugain ar ôl i hysbysiad ysgrifenedig yn mynnu taliad gael ei gyflwyno i ddeiliad y drwydded, yna gall CNC ddiddymu'r drwydded yn unol â darpariaethau adran 41 (6) Deddf yr Amgylchedd 1995.

Pennu taliadau

10.1 Pennir taliadau am gyfnodau sy’n dilyn blwyddyn gyntaf gweithredu’r Cynllun hwn gan CNC mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru fel y darperir ar ei gyfer gan adran 42 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ac Erthygl 12A Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.

Penderfyniadau o dan y Cynllun

11.1 Lle ceir darpariaeth o dan y Cynllun i CNC gydnabod, asesu, cytuno, pennu neu ardystio unrhyw beth neu wneud penderfyniad mewn unrhyw fodd arall, gall y Prif Weithredwr neu swyddog a enwebir ganddo ef neu hi i’r diben hwnnw wneud penderfyniadau o’r fath ar ran CNC, ac ardystio mai felly y gwnaed.

Ffynonellau wedi’u Cynnal Atodlen 1

Ystyrir bod y canlynol yn Ffynonellau wedi’u Cynnal at ddibenion y Cynllun.

Ffynhonnell Gyflenwi   Cyfeirnodau Arolwg Ordnans -
Terfyn at i fyny
Cyfeirnodau Arolwg Ordnans -
Terfyn at i lawr
Aled SH 915 599 SH 957 703
Clwyd SJ 122 593 SJ 057 721
Alwen SH 974 527 SJ 061 425
Brenig SH 974 539 SH 974 527
Dyfrdwy SH 929 351 SJ 408 658
Tryweryn SH 881 399 SH 933 354
Cwmystradllyn SH 558 440 SH 515 428
Dwyfor SH 515 428 SH 508 430
Tywi SN 791 485 SN 487 204
Elan SN 924 644 SN 966 656
Gwy SN 966 656 SO 516 131
Clywedog SN 912 870 SN954 847 o fewn TUS Hafren
Hafren SN 954 847 SO 822 182 o fewn TUS Hafren SO 818 216

Taliadau Arbennig mewn perthynas â Dyfrhau drwy Chwistrellu, Atodlen 2

1. Mae’r Atodlen hon ond yn berthnasol ar gyfer trwyddedau sy’n awdurdodi dyfrhau drwy chwistrellu.

2. Lle bo deiliad y drwydded yn mesur faint o ddŵr sy’n cael ei dynnu drwy ddefnyddio mesurydd dŵr cymeradwy wedi’i osod a’i gynnal a’i gadw er boddhad CNC, ac yn cyflwyno i CNC, o fewn 28 diwrnod i gais ysgrifenedig, ddarlleniadau mesurydd(ar amlder y cytunwyd arno yn ysgrifenedig gan CNC) o’r mesurydd yn nodi faint o ddŵr sy’n cael ei dynnu a manylion y cyfarpar pwmpio a dyfrhau, dylid cyfrifo’r Tâl Safonol fel a ganlyn:

2.1 tâl sylfaenol o 50% o’r swm sy’n daladwy wedi’i gyfrifo gan y Cynllun lle ystyrir mai’r Cyfaint yw’r swm blynyddol a awdurdodir gan y drwydded i’w ddefnyddio ond at ddibenion dyfrhau drwy chwistrellu, ynghyd â

2.2 thâl atodol o 50% o’r swm sy’n daladwy wedi’i gyfrifo gan y Cynllun lle ystyrir mai’r Cyfaint yw’r cyfanswm a dynnir mewn gwirionedd yn ystod y flwyddyn at ddibenion dyfrhau drwy chwistrellu.

3. Os yw deiliad y drwydded yn methu â chydymffurfio â’r amodau a nodir uchod, cyfrifir y Tâl Blynyddol drwy gyfeirio at baragraffau 6.1 i 6.9 y Cynllun ac ni roddir unrhyw ostyngiad.

4. Lle bo amodau dwy neu ragor o drwyddedau yn golygu bod swm cyfanredol y dŵr y caniateir ei dynnu at ddibenion dyfrhau drwy chwistrellu yn llai na chyfanswm y symiau a awdurdodir gan bob trwydded, y tâl sylfaenol fydd 50% o’r swm sy’n daladwy, wedi’i gyfrifo yn unol â pharagraff 7.3(i) y Cynllun a’r tâl atodol ar gyfer pob trwydded fydd 50% o’r swm sy’n daladwy yn unol â’r Cynllun, lle cymerir mai’r Cyfaint yw’r swm a dynnir mewn gwirionedd o dan y drwydded honno.

5. Bydd yr Isafswm Tâl yn daladwy mewn unrhyw achos lle bo’r tâl a gyfrifir yn llai na’r Isafswm Tâl.

Taliadau Tynnu Dŵr ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 Atodlen 3.

Mae’r cyfraddau tâl ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 fel a ganlyn:

Mae’r cyfraddau tâl ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 fel a ganlyn

2024/2025
Tâl Uned Safonol
(£/1000m3)

Cymru (ac eithrio dalgylch Hafren)

18.18
Dalgylch Hafren 14.95

(Sylwer: yr ardaloedd codi tâl rhanbarthol a ddangosir yn y tabl hwn yw'r rhai sydd wedi'u marcio ar y map y cyfeirir ato ym mharagraff 6.8 y Cynllun Ffioedd Tynnu Dŵr ac nid ffin sefydliadol bresennol CNC).

Tâl Uned Gwella’r Amgylchedd Atodlen 4

Mae’r cyfraddau talu ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 fel a ganlyn:

2024/2025
Tâl Uned Gwella’r Amgylchedd i rai nad ydynt yn Ymgymerwyr Dŵr (£/1000m3)

2024/2025
Tâl Uned Gwella’r Amgylchedd i Ymgymerwyr Dŵr
(£/1000m3)

Cymru (ac eithrio dalgylch Hafren) 0.00 0.00
Dalgylch Hafren 0.00 0.00

Yr isafswm tâl blynyddol yw £25.00

Ceisiadau am drwydded bwrpasol newydd

Y ffi yw £6,517 ac mae’n berthnasol i:

  • trwydded lawn newydd i dynnu dŵr wyneb, gan gynnwys cynlluniau pŵer trydan dŵr
  • trwydded lawn newydd i dynnu dŵr daear
  • trwydded newydd i gronni dŵr gan gynnwys cynlluniau pŵer trydan dŵr
  • trwydded dros dro
  • trwydded drosglwyddo newydd.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Y ffi yw £945. Mae hwn yn gategori newydd o ffi am waith Asesu Rheoliadau Cynefinoedd ychwanegol ar gyfer rhai ceisiadau (newydd ac amrywiadau) lle gallai lleoliadau tynnu neu gronni dŵr effeithio ar safleoedd a ddynodwyd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Ceisiadau am gydsyniadau ymchwilio dŵr daear (cydsyniadau a32 y Ddeddf Adnoddau Dŵr)

Y ffi yw £1,961. Mae hwn yn gategori talu newydd.

Amrywiadau llawn

Y ffi yw £4,955 ar gyfer amrywiadau mwy cymhleth a bydd hefyd yn cynnwys adnewyddiadau mwy cymhleth â thelerau gwahanol fel categori talu newydd.

Codir am geisiadau i drwyddedu ar gyfer cael gwared ar gyfleuster cronni dŵr a dirymu'r drwydded cronni dŵr wedi hynny fel un amrywiad llawn.  Mae hyn yn cynnwys ceisiadau lle mae angen amrywio trwydded cronni dŵr bresennol neu lle mae angen trwydded cronni dŵr newydd.

Mae rhagor o wybodaeth am amrywiadau llawn ar gael ar ein gwefan.

Amrywiadau syml

Y ffi yw £1,398. Mae hwn yn gategori talu newydd ar gyfer amrywiadau llai cymhleth a bydd hefyd yn cynnwys ceisiadau am adnewyddiadau ar yr un telerau, adnewyddu telerau gwahanol llai cymhleth a cheisiadau am ddosrannu trwydded.

Pan fydd deiliad trwydded yn gwneud cais i amrywio trwydded i leihau faint o ddŵr yr awdurdodir ei dynnu, bydd y ffi amrywio'n cael ei hepgor.

Mae rhagor o wybodaeth am amrywiadau syml ar gael ar ein gwefan.

Amrywiadau gweinyddol

Yn gyffredinol, nid ydym yn codi tâl am amrywiadau gweinyddol ac felly hepgorir y ffioedd ymgeisio ar gyfer y gweithgareddau canlynol:

  • Newid manylion cyswllt
  • Dirymu trwydded tynnu dŵr
  • Dirymu trwydded cronni dŵr
  • Trosglwyddo trwydded i ddeiliad trwydded newydd.

Gweithgaredd sydd o Fudd i'r Amgylchedd

Mae gweithgaredd sydd o fudd i'r amgylchedd yn weithgaredd anfasnachol sy'n cael ei wneud yn gyfan gwbl er budd amgylcheddol ym maes adnoddau dŵr (ac eithrio gweithgareddau i gyflawni Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol y cwmnïau dŵr), er enghraifft tynnu dŵr neu gronni dŵr yn benodol ar gyfer cadwraeth natur, dolydd dŵr a thynnu coredau. 

Mae ceisiadau ar gyfer gweithgareddau sydd o fudd i'r amgylchedd yn cael ffi ymgeisio is:

  • Mae ceisiadau am drwydded lawn newydd i dynnu dŵr wyneb neu drwydded lawn newydd i dynnu dŵr daear yn £140
  • Mae ceisiadau am amrywiad syml neu lawn i drwydded tynnu dŵr wyneb neu drwydded tynnu dŵr daear yn £140
  • Mae ceisiadau am adnewyddiad ar yr un telerau neu delerau gwahanol ar gyfer trwydded tynnu dŵr wyneb neu drwydded tynnu dŵr daear yn £140
  • Mae ceisiadau am drwydded cronni, trosglwyddo neu drwydded dros dro newydd yn £1,545
  • Mae ceisiadau am amrywiad syml i drwydded cronni dŵr neu drosglwyddo yn £1,398
  • Mae ceisiadau am amrywiad llawn i drwydded cronni dŵr neu drosglwyddo yn £1,545
  • Mae ceisiadau am ganiatâd ymchwiliad dŵr daear yn rhad ac am ddim
  • Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn rhad ac am ddim
  • Mae gostyngiadau aml-weithgaredd yn berthnasol fel y nodir yn yr adran ar ddisgowntiau aml-weithgaredd.

Gostyngiadau Aml-Weithgaredd

Bydd gostyngiadau yn berthnasol pan fydd mwy nag un cais (trwydded lawn i dynnu dŵr, trosglwyddo neu gronni dŵr, newydd neu amrywiad) yn cael ei wneud ar yr un pryd gan yr un ymgeisydd ar gyfer yr un safle a diben. Mae'r gostyngiad yn adlewyrchu'r amser a arbedwyd yn ystod y cyfnod penderfynu.

Byddwn yn codi'r ffi ymgeisio lawn am y ffi uchaf, ac yna'n trefnu:

  • Disgownt o 90% ar gyfer pob cais ychwanegol sy'n rhan o'r un safle a diben ac o'r un ffynhonnell gyflenwi
  • Gostyngiad o 50% ar gyfer pob cais ychwanegol sy'n rhan o'r un safle a diben ac o ffynhonnell gyflenwi wahanol.

Ceisiadau heb ddigon o fanylion i symud ymlaen

Pan fydd angen i ni ddychwelyd cais sydd heb ddigon o wybodaeth i'w ddilysu, byddwn yn cadw cyfran o'r ffi ymgeisio i dalu am y gwaith a wnawn yn ystod y cam 'dilysu'. Dim ond ar ôl i'r ymgeisydd gael cyfle i ddarparu'r wybodaeth sydd ar goll y caiff ceisiadau eu dychwelyd. 

Byddwn yn cadw 10% o'r gost ar gyfer pob math o gais.

Ceisiadau wedi'u tynnu'n ôl

  • os caiff cais ei dynnu'n ôl gan yr ymgeisydd cyn cyrraedd y cam dilysu, byddwn yn cadw 10% o'r ffi ymgeisio
  • os tynnir cais yn ôl gan yr ymgeisydd ar ôl cyrraedd y cam dilysu, byddwn yn cadw 100% o'r ffi ymgeisio.

Y Tâl Gweinyddu Hysbysebion

Y Tâl Gweinyddu Hysbysebion yw £103

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd hefyd yw talu am gost yr hysbyseb gyfan yn Gymraeg a Saesneg (mae hyn ar wahân i'r Tâl Gweinyddu Hysbysebion).

Diweddarwyd ddiwethaf