Y trwyddedau sy'n ofynnol o bosib ar gyfer echdynnu glo
Rydym yn darparu sawl math o ganiatâd sy'n ymwneud â gwastraff o fwyngloddio ac echdynnu glo.
Er nad ydym yn rhoi caniatâd i echdynnu'r glo ei hun, mae gennym rôl reoleiddiol weithredol i'w chwarae o ran helpu i reoli rhai o'r effeithiau amgylcheddol a ddeillia o gloddio glo.
Rydym yn penderfynu ar geisiadau ar gyfer gollyngiadau i ddŵr wyneb a dŵr daear, ac mewn perthynas â'r dull o reoli gwastraff echdynnol, fel sy'n ofynnol yn ôl cyfraith y DU o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, a ddaeth â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a'r Gyfarwyddeb Gwastraff o Fwyngloddio i rym.
Gwastraff o fwyngloddio
Mae'n bosibl y bydd yn ofynnol cael trwydded gwastraff o fwyngloddio ar gyfer y gwaith o reoli gwastraff echdynnol o ganlyniad i gloddio glo. Fodd bynnag, nid oes angen trwydded os gorffennodd y safle gynhyrchu gwastraff cyn 1 Mai 2006 neu os cafodd y gwaith o gau'r safle ei gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2010.
Gall gwastraff echdynnol gynnwys y canlynol:
- solidau gwastraff neu slyrïau sy'n weddill ar ôl defnyddio nifer o dechnegau i drin mwynau
- cerrig a phridd neu ddeunydd arall ar ben y graig a symudir fel rhan o'r gweithrediadau echdynnu yn ystod y broses o asesu mwyn neu gorff mwyn, gan gynnwys yn ystod y cam cyn-gynhyrchu
- pridd, er enghraifft haen uchaf y ddaear, gan gynnwys yr isbridd.
Gwneud cais am drwydded gwastraff o fwyngloddio
Gwneud cais am drwydded gwastraff o fwyngloddio
Canllawiau ychwanegol ar ein tudalen Canllawiau i'ch helpu i gydymffurfio â thrwydded amgylcheddol
Gollwng dŵr
Trwyddedau ar gyfer rheoli gollyngiadau dŵr. Gall gollwng dŵr fod yn rhan hanfodol o weithrediad gwastraff o fwyngloddio neu gall fod yn ollyngiad dŵr ar ei ben ei hun os yw'n deillio o safle echdynnu a lle nad yw'n rhan o weithrediad gwastraff o fwyngloddio.
Mae mwyngloddiau segur yn ffynhonnell sylweddol o lygryddion peryglus, yn nodedig metelau fel haearn, plwm, sinc, cadmiwm a chopr, ac anionau fel clorid a sylffad.
Mae angen mynd i'r afael â mwyngloddiau segur er mwyn i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau a'n hamcanion o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Ni ellir dwyn i gyfrif berchnogion na gweithredwyr mwyngloddiau a gafodd eu gadael yn segur cyn 31 Rhagfyr 1999 am ganiatáu gollyngiadau o fwyngloddiau ar ôl iddynt gau a lle nad yw unigolyn yn achosi i ddŵr ollwng.
Gan nad oes unigolyn atebol, nid yw'r gollyngiadau hyn yn ddarostyngedig i reoleiddio drwy'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Ni ellir felly wneud gwelliannau i ansawdd y dyfroedd mwynglawdd hyn drwy fodd rheoliadol yn unig.
Ar gyfer y mwyngloddiau hyn, mae'r Awdurdod Glo'n cynnal rhaglen sylweddol o weithgareddau trin dŵr mwynglawdd mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill.
Gwneud cais am drwydded gollwng dŵr
Gwneud cais am drwydded gollwng ddŵr
Tynnu dŵr
Ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr ar gyfer dihysbyddu mwyngloddiau, chwareli a gweithfeydd peirianneg, mae'n ofynnol cyflwyno adroddiad sy'n cynnwys manylion am y prawf pwmpio ac asesiad o'r effaith y câi'r gwaith tynnu dŵr arfaethedig ar yr amgylchedd lleol.
neu
Mae'n bosibl y bydd trwyddedau tynnu dŵr hefyd yn ofynnol ar gyfer gweithgareddau dihysbyddu parhaus ar ôl i fwyngloddiau gael eu gadael yn segur. Mae gweithgareddau dihysbyddu goddefol, yr ystyrir eu bod â risg isel, a gweithgareddau dihysbyddu â phwmp yn weithgareddau y gellir eu trwyddedu, a hynny yn ystod cyfnod gweithredol mwyngloddiau yn ogystal â phan maent wedi'u gadael yn segur.
Fodd bynnag, gall gweithgareddau dihysbyddu dros dro fod yn esempt o dan Reoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017.
Gwneud cais am drwydded tynnu dŵr
Rhagor o wybodaeth am dynnu dŵr a gwneud cais am drwydded.
Trwyddedau ar gyfer adfer cyfleusterau echdynnu glo
Yn aml, caiff gwastraff ei ddefnyddio i adfer cyfleusterau echdynnu glo. Gellir gwneud hyn drwy'r llwybrau rheoliadol canlynol sy'n seiliedig ar adfer:
- trwyddedau gwaith symudol a gosodiadau gwaith symudol
- trwyddedau safle – dyddodi gwastraff at ddibenion adfer
Fel arall, os yw'n bosibl dangos nad yw'r deunydd a ddefnyddiwyd ar gyfer gwaith adfer wedi'i daflu i ffwrdd, ac felly nad ystyrir ei fod yn wastraff, caniateir ailddefnyddio deunyddiau a gloddiwyd trwy'r Cod Ymarfer Diffiniad Gwastraff.
Darllenwch am y Cod Ymarfer Diffiniad Gwastraff ar wefan CL:AIRE
Mae'r cod ymarfer yn darparu proses eglur, cyson ac effeithlon sy'n ei gwneud yn bosibl ailddefnyddio deunyddiau a gloddiwyd ar y safle, neu'n hwyluso'r weithred o'u symud rhwng safleoedd, ac mae'n galluogi'r canlynol:
- trosglwyddiad uniongyrchol, ac ailddefnyddio deunyddiau pridd a geir yn naturiol rhwng safleoedd
- yr amodau i gefnogi gwaith sefydlu/gweithredu cyfleusterau trin pridd sefydlog
- ailddefnyddio deunyddiau halogedig/anhalogedig ar eu safle gwreiddiol a rhwng safleoedd o fewn prosiectau clwstwr diffiniedig.
Trwyddedau gwaith symudol a gosodiadau gwaith symudol
Mae CNC yn cynnig dwy drwydded rheolau safonol ar gyfer gwaith symudol y gellir eu defnyddio ar gyfer adfer cyfleusterau echdynnu glo. Mae'r ddwy drwydded hyn yn cynnwys y canlynol:
- SR2010 Rhif 4 – Ar gyfer gwaith symudol ar gyfer taenu ar dir lle mae triniaeth y tir yn arwain at fudd i amaethyddiaeth neu welliant ecolegol
- SR2010 Rhif 5 – Ar gyfer gwaith symudol ar gyfer adennill, adfer neu wella tir.
Os na all gweithredwr gydymffurfio â'r meini prawf ar gyfer y rheolau safonol neu eu bod yn rhy gyfyngol, gellir
Gwneud cais am drwydded bwrpasol ar gyfer gwaith symudol
Pan weithredir o dan drwydded gwaith symudol, bydd angen gwneud cais i osod gwaith symudol hefyd.
Trwyddedau safle – dyddodi gwastraff at ddibenion adfer
Fel arall, gellir defnyddio trwyddedau safle ar gyfer dyddodi gwastraff at ddibenion adfer. Gall hyn fod naill ai ar ffurf trwydded rheolau safonol (SR2017 Rhif 1 – Defnyddio gwastraff mewn gweithrediad dyddodi gwastraff at ddibenion adfer – adeiladu, adennill, adfer, neu wella tir heb ddefnyddio gwaith symudol), neu drwydded bwrpasol.
I ddefnyddio'r opsiwn rheoliadol hwn, rhaid i weithredwr allu dangos bod ei weithgareddau'n ymwneud â gwaith adfer.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y cynlluniau a thrwyddedau ar gyfer adfer gwastraff ar GOV.UK.
Byddwn yn parhau i ddarparu cyngor cyn ymgeisio i ddatblygwyr ynghylch yr effeithiau posibl ar yr amgylchedd a'r dirwedd ar safle penodol, yn unol â'n cynllun codi tâl.
O safbwynt unrhyw safle y rhoddir trwydded iddo, mae ein rôl fonitro a sicrhau cydymffurfiaeth yn sicrhau y caiff y risgiau amgylcheddol eu rheoli'n gywir drwy gynnal archwiliadau, archwiliadau safle, gwaith monitro hapwiriol, a thrwy adolygu cofnodion a gweithdrefnau'r gweithredwr.
Trwyddedau ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig
Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau am drwyddedau a chydsyniadau er mwyn penderfynu ar effaith bosibl cynnig ar Safleoedd a Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop.
Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedu rhywogaethau ar ein tudalen.