Moroedd Ffyniannus
Mae ardaloedd mawr o'r moroedd o amgylch Cymru wedi cael eu dynodi yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig dan rwydwaith Natura 2000 oherwydd eu bywyd gwyllt sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.
Mae ein moroedd yn gartref i gynefinoedd pwysig sy'n cefnogi creaduriaid y môr fel môr-ddraenogod, mwydod, pysgod cregyn a sêr môr sydd, yn eu tro, yn darparu ffynhonnell fwyd hanfodol i'r morlo llwyd a'r dolffin trwyn potel.
Mae amgylchedd morol iach yn dda i'r creaduriaid sy'n byw ynddo, ond mae'n hanfodol i'r diwydiant pysgota hefyd, ac mae angen monitro i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn. Mae Rhaglen LIFE Natura 2000 wedi cynhyrchu cynlluniau gweithredu â chostau ar gyfer pob safle Morol Natura 2000 yng Nghymru, gan gynllunio i'r dyfodol a helpu i sicrhau arian hollbwysig.