Llun gan Peter Lewis

Ynglŷn â'r ardal hon

Mae Canolbarth Cymru yn ardal o dirluniau amrywiol a hanesyddol, sy’n creu ei hunaniaeth unigryw ei hun. Mae’n cynnwys cyfran helaeth o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y de, ucheldir y Berwyn yn y gogledd gyda Mynyddoedd Cambria yn ffurfio’r asgwrn cefn canolog drwy’r canol. Mae bryniau’n disgyn tuag at arfordir garw 50 milltir o hyd Bae Ceredigion yn y gorllewin ac mae tir ffermio yn ymestyn hyd at drefi’r Gororau yn y dwyrain.

Mae’n gartref i rwydwaith o bobl sy’n cyfrannu at amrywiaeth ac economi Canolbarth Cymru, gan fyw a gweithio mewn trefi marchnad gwledig, prifysgolion bywiog, pentrefi clos a chyrchfannau glan y môr traddodiadol. Mae dylanwad y Gymraeg a'i diwylliant i'w gweld yn gryf yn yr ardal hon, ac mae Ceredigion yn un o gadarnleoedd y Gymraeg

Mae afonydd Gwy, Wysg, Efyrnwy, Clywedog a Teifi a’u hisafonydd cysylltiedig, yn llifo drwy Ganolbarth Cymru, gan greu dyffrynnoedd a cheunentydd sydd wedi siapio’r tirlun dros filiynau o flynyddoedd. Mae eu dyfroedd yn cynnwys eog a brithyll ochr yn ochr â rhywogaethau afon amrywiol gan gynnwys glas y dorlan, misglen berlog yr afon, dyfrgwn a chimychiaid afon crafanc wen.

Mae glawiad uchel naturiol yr ardal yn golygu bod llawer o adnoddau dŵr yng Nghanolbarth Cymru. Yn hanesyddol, mae hyn wedi arwain at greu cronfeydd dŵr mawr gan gynnwys Cwm Elan, Clywedog, Llyn Efyrnwy a nifer ohonynt ym Mannau Brycheiniog yn y 19eg a’r 20fed Ganrif. Mae Canolbarth Cymru yn dal i ddarparu cyflenwad hanfodol o ddŵr i rannau o Gymru a Lloegr, gyda galw cynyddol ar adnoddau dŵr o ardaloedd gyda phoblogaeth uchel.

Mae tirlun a thirwedd Canolbarth Cymru yn denu ymwelwyr a phobl leol sy’n dymuno profi mannau agored a gweithgareddau awyr agored. Mae yna filltiroedd lawer o lwybrau cerdded i’w mwynhau gan bawb, ac yn fwyaf nodedig, darn trawiadol o Lwybr Arfordir Cymru a dau Lwybr Cenedlaethol, Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr. Rydym yn ymfalchïo bod gennym rai o’r llwybrau beicio mynydd gorau yn y byd, fel y rhai ym Mwlch Nant yr Arian a Choedwig Irfon. Maent yn denu nifer fawr o ymwelwyr o bell ac agos sy’n awyddus i brofi gwefr cyflymder uchel a thir heriol. Mae llawer o gyfleoedd hefyd i bobl fwynhau heddwch a thawelwch cefn gwlad agored a golygfeydd syfrdanol ar draws yr ardal.

Mae Canolbarth Cymru yn gartref i amrywiaeth o safleoedd bywyd gwyllt a ddynodwyd yn genedlaethol a rhyngwladol. Mae’r lleoliadau pwysig hyn yn cael eu diogelu oherwydd eu planhigion, anifeiliaid, adar a’u daeareg brin. Er enghraifft, y gyforgors yng Nghors Fochno ger Aberystwyth, Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), sy’n bwysig er mwyn storio carbon - sy’n helpu ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae ACA Camlas Sir Drefaldwyn sy’n cefnogi’r boblogaeth fwyaf o’r Llyriad-y-dŵr Arnofiol prin a gwarchodedig ac sydd ond i’w canfod mewn llond llaw o safleoedd ar draws Cymru. Mae’r casgliad o blanhigion a bryoffytau prin (ffurfiad o fwsoglau neu lysiau’r afu) yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Craig Stanner ar y ffin rhwng Powys a Sir Henffordd; yr unig safle yn y DU lle gellir canfod Lili Maesyfed, a’r boblogaeth o Fritheg Berlog ar SoDdGA ger y Trallwng, sydd o bwys cenedlaethol, i enwi dim ond rhai enghreifftiau o’r cynefinoedd a’r rhywogaethau unigryw sydd gennym yng Nghanolbarth Cymru.

Mae Canolbarth Cymru yn enwog am ddiogelu cadarnle olaf y barcudiaid brodorol. Roedd eu niferoedd wedi cyrraedd lefelau isel iawn yn y 1980au a’r 1990au oherwydd erledigaeth dyn. Dim ond drwy ymdrechion diflino pobl leol, cyrff cadwraeth, gwirfoddolwyr a’r Fyddin y mae eu niferoedd wedi cynyddu’n raddol. Mae’r aderyn hwn yn cael ei anrhydeddu bellach fel aderyn sir Powys ac mae’n llenwi’r awyr yn awr, gan ddarparu atyniad prysur i dwristiaid yn ei safleoedd bwydo ger Rhaeadr a Bwlch Nant yr Arian. Stori cadwraeth natur lwyddiannus a chadarnhaol.

Britheg y gors ar ddeilenLlun gan Dafydd Parry

Mae amaethyddiaeth a choedwigaeth gyda’i gilydd yn rhan bwysig o economi Canolbarth Cymru. Mae amaethyddiaeth yr ardal yn cynnwys defaid a gwartheg godro a bîff yn bennaf, gyda nifer cynyddol o unedau dofednod. Mae da byw yn cael eu pori ar laswelltiroedd lled-naturiol yn ogystal ag ardaloedd amaethyddol ‘wedi’u gwella’, ond mae gan y bridiau croes brodorol sydd mor gyffredin yn y rhan yma o Gymru fantais yn y ffaith eu bod yn gallu pori’r ucheldir, rhostir isel a ffriddoedd. Mae’r gweithgaredd pori hwn ar yr ardaloedd mwy llethrog a’r ardaloedd ucheldir lle mae’r borfa rhwng caeau caeedig ac ymylon rhostir, mawndir a glaswellt heb ei wella, yn cynnig buddion i ffermwyr da byw yn ogystal â gwella dulliau o reoli cynefinoedd.

Cynhyrchwyd Datganiad Ardal Canolbarth Cymru fel adnodd i helpu i gydlynu’r prif broblemau a wynebir gan ein hamgylchedd naturiol, i geisio cyfleoedd pellach, ac i gydweithio gyda’n partneriaid a’r cyhoedd i wella ein hadnoddau naturiol ymhellach o fewn yr ardal.

Mae’r Datganiadau Ardal yn broses barhaus a bydd y tudalennau gwe yma’n cael eu diweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu cynnydd a chyfeiriad Datganiad Ardal Canolbarth Cymru.

Themâu Datganiad Ardal Canolbarth Cymru


Datblygwyd y Datganiad Ardal o amgylch pum thema allweddol:

Cafodd Themâu Ardal Canolbarth Cymru eu datblygu gan ddefnyddio tystiolaeth leol a chenedlaethol, gan gynnwys yr Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), Blaenoriaethau Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, a gwybodaeth o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chynlluniau Llesiant Powys a Cheredigion. Yn ogystal, rydym ni wedi cynnal nifer o sesiynau ymgysylltu a gweithdai gyda’n partneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau lleol i ‘brofi’ ein dull ac i sicrhau bod themâu’r ardal yn adlewyrchu’r materion sydd angen sylw yng Nghanolbarth Cymru.

Nod y Datganiad Ardal yw cydlynu mesurau presennol a galluogi mentrau newydd. Mae’n fenter hirdymor, barhaus ac arloesol. Rydym ni’n cadw meddwl agored o ran syniadau a dulliau newydd a fydd yn cyflawni ar ran pobl ac amgylchedd Canolbarth Cymru.

Os hoffech fod yn rhan o’r broses hon, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen adborth ar y wefan neu drwy e-bostio@ mid.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mapiau o’r ardal

Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Map o ffiniau Canolbarth Cymru

Cynefinoedd eang – Canolbarth Cymru (PDF)

Ardaloedd gwarchodedig – Canolbarth Cymru (PDF)

Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol – Canolbarth Cymru (PDF)

Porwch ragor o ddata am amgylchedd naturiol Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf