Annog economi gynaliadwy

Yn y thema hon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn awyddus i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd-orllewin Cymru. Yr her yw datblygu economi leol sy'n darparu swyddi diogel, sy'n talu'n dda ac sy'n gwella'r amgylchedd naturiol. Bydd unrhyw weithgaredd economaidd sy'n difrodi'r amgylchedd yr ydym yn dibynnu arno, yn bygwth yr union beth sy'n gwneud Gogledd-orllewin Cymru'n unigryw. Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni roi natur a chynaliadwyedd wrth wraidd unrhyw adferiad gwyrdd. Rydym am i ymwelwyr a phobl leol wneud y mwyaf o'n tirwedd anhygoel, ond mae'n rhaid i hyn ddigwydd mewn ffordd sy'n diwallu anghenion ffermwyr, cymunedau lleol a'n cynefinoedd rhagorol.

Mae hyn yn cysylltu'n agos â'r thema ar reoli tir yn gynaliadwy lle mae blaenoriaethau'n cynnwys creu marchnadoedd ar gyfer bwyd lleol a phrynu nwyddau a gwasanaethau'r sector cyhoeddus. Gall cynlluniau eraill sydd wedi'u datblygu gan y gymuned hefyd gyfrannu at economi gynaliadwy, er enghraifft: ynni, cludiant a thwristiaeth ar lefel leol.

Mae'r thema hon yn tynnu sylw at yr angen i weithio mewn partneriaeth gydag eraill i wella cydberthnasau a deall rôl yr amgylchedd ac amaethyddiaeth yn ogystal â diwydiannau eraill wrth danategu economi Gogledd-orllewin Cymru. Mae hyn yn cynnwys annog economi gylchol leol, ailgysylltu pobl â bwyd lleol a chynhyrchion eraill a datblygu mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cynlluniau ynni yn y gymuned, lle bo hynny'n briodol. Mae hyn yn cynnwys rôl caffael a chyfleoedd i hwyluso’r broses o brynu bwyd lleol ar gyfer ysgolion ac ysbytai yn y rhanbarth.

Pam y thema hon?

Er mwyn hwyluso datblygiad y Datganiad Ardal, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dri gweithdy yng Ngogledd-orllewin Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2019 yn ogystal â sesiwn ar gyfer staff. Cynhaliwyd sesiwn gweithdy ychwanegol gyda staff ym mis Tachwedd 2020 ar-lein gyda sesiynau ar-lein dilynol gyda rhanddeiliaid ym mis Rhagfyr 2020. Ar sail y trafodaethau hyn, mae'n glir fod cefnogaeth barhaus ar gyfer thema Annog Economi Gynaliadwy ymhlith y rhanddeiliaid. Ceir rhagor o wybodaeth a manylion ynglŷn â hyn yn y ’Cyflwyniad i'r Datganiad Ardal’ ac o fewn y thema ‘Ffyrdd o Weithio’. Rydym ni hefyd wedi sefydlu Grŵp Ffocws Thematig ar-lein i annog cydweithrediad ac i ddatblygu’r Thema hon.

Er mwyn llywio'r thema hon rydym wedi ystyried:

  • Gwybodaeth leol o gyfres o weithdai strwythuredig a gafodd eu hwyluso’n annibynnol ar draws Gogledd-orllewin Cymru

  • Sefydlu Grŵp Ffocws Thematig ar-lein

  • Y blaenoriaethau a nodwyd yn y Polisi Adnoddau Naturiol; Cyflawni datrysiadau sy'n seiliedig ar natur, cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau, defnyddio dull sy'n seiliedig ar le

  • Gwybodaeth o’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol am ecosystemau a'u cydnerthedd, a'r risgiau a'r manteision maent yn eu darparu

  • Yr asesiadau a chynlluniau llesiant, a'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg trwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a Chonwy a Sir Ddinbych

Amlygodd rhanddeiliaid allanol yr angen i wneud y canlynol:

  • Nodi cyfleoedd i liniaru effeithiau posib twristiaeth a deall sut mae niferoedd yr ymwelwyr yn effeithio ar amgylchedd naturiol yr ardal. Mae hyn yn cynnwys ystyried rhinweddau mentrau megis treth twristiaeth werdd ar gyfer ail-fuddsoddi yn yr ardal a rheoli pwysau ymwelwyr yn rhai o'n safleoedd amlycaf a phrysuraf yng Ngogledd-orllewin Cymru

  • Chwilio am gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod safleoedd twristiaeth poblogaidd yn rhannu buddion economaidd gyda'u cymunedau cyfagos e.e. Niwbwrch, a rheoli effeithiau gor-dwristiaeth mewn ffordd weithredol

  • Archwilio'r amrywiaeth o gyfleoedd i ehangu twristiaeth ar draws Gogledd-orllewin Cymru yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys cymorth i fusnesau ehangu eu capasiti i ailgysylltu twristiaid â’n hamgylchedd naturiol fel eu bod hwythau hefyd yn deall ac yn pryderu

  • Deall rôl amaethyddiaeth fel sylfaen i’r economi wledig yng Ngogledd-orllewin Cymru yn benodol i fynd i'r afael â cholli sgiliau gwledig allweddol sy'n gysylltiedig â rheoli tir yn y ffordd draddodiadol. Gweithio gydag eraill i ddeall effeithiau newidiadau mewn ffermio a pha mor hanfodol yw ffermio i'r gymuned wledig a'i heconomi

  • Annog llwybrau i gyflogaeth i bobl ifanc yn yr ardal, gan hefyd gydnabod yr angen am gyfleoedd i bobl leol o bob oedran

  • Cynyddu effeithlonrwydd, hyrwyddo caffael lleol a chefnogi ynni adnewyddadwy

  • Annog cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau lleol a chynaliadwy

  • Yn ogystal â mentrau sy'n annog economi drefol gynaliadwy, mae angen i ni gael mwy o ffocws ar yr economi wledig, gan annog swyddi gwledig sy'n cynnwys pobl yn eu hamgylchedd gwledig lleol, megis: ffermio, coedwigaeth a garddwriaeth. Creu cyfleoedd cyflogaeth lleol i annog pobl ifanc i aros mewn ardaloedd gwledig. Cefnogi’r gwaith o farchnata cynnyrch o safon yn seiliedig ar arferion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Rhannu arfer gorau o'r prosiectau bwyd lleol gorau a marchnata clwstwr

  • Archwilio cyfleoedd i gysylltu datblygiadau uwch-dechnoleg gyda busnesau presennol a fydd yn gwneud y busnesau hynny a'r amgylchedd yn fwy gwydn

  • Sicrhau bod y ffocws ar gyfer cymhorthdal ffermio'n cefnogi busnesau ffermio, cymunedau lleol ac amcanion amgylcheddol

  • Hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu economi sy'n cysylltu â dyheadau, polisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru ynghylch yr economi gylchol e.e. sicrhau bod yr wybodaeth am ffynonellau cynnyrch ar gael, a bod gwybodaeth a chefnogaeth am ddewisiadau gwahanol i blastigion ar gael i fusnesau a diwydiant lleol. Ymgorffori polisi cenedlaethol o "ddefnyddio cyrff angori (sector cyhoeddus) i ariannu a chefnogi economi sylfaenol yr ardal" (a fydd yn cynnwys cynhyrchu bwyd a thwristiaeth)

  • Annog busnesau a chymunedau i gofrestru ar gyfer mentrau megis addewidion gwyrdd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Dinbych

  • Annog a gwobrwyo newid mewn meddylfryd ac ymddygiad drwy ymgyrchoedd addysg, gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a chynllun achredu neu wobrwyo i fusnesau sy'n cefnogi'r economi gylchol

  • Hwyluso arloesedd yn yr economi wledig. Ystyried sut bydd buddsoddiad nawr yn darparu sail ar gyfer economi gynaliadwy yn y dyfodol. Datblygu mentrau sy'n adeiladu ar y gorau o fentrau a ariennir drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru fel rhan o Gronfa Amaethyddol Llywodraeth Cymru ac Ewrop dros Ddatblygu Gwledig. Rhaglen LEADER 2014-2020 (Cynllun Datblygu Gwledig/LEADER)

  • Dylech ystyried caffael y sector cyhoeddus ar draws y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus - pwy allai fod yn prynu mwy o nwyddau a gwasanaethau lleol?

  • Mae angen newidiadau i elfen "angen swyddogaethol" polisi cynllunio ac ystyrir bod hyn yn hanfodol i ddatblygu economi wledig gynaliadwy. Mae polisi cynllunio presennol yn ffafrio symud pobl i gyrion trefol - mae hyn yn rhwystro economïau gwledig cynaliadwy

  • Y seilwaith newidiol sydd ei angen i gefnogi newidiadau mewn tueddiadau ynghylch twristiaeth ceir megis yr angen am bwyntiau gwefru ceir trydanol a dulliau teithio cynaliadwy amgen i mewn i’r ardal ac o’i hamgylch

Pwyntiau allweddol o asesu data a thystiolaeth o broffil yr ardal:

  • Yn 2017, adroddwyd bod gan Gonwy 4,120 o fentrau gweithredol a oedd wedi gostwng i 4,075 erbyn 2008. Adroddwyd bod gan Wynedd 4,530 o fentrau gweithredol a ostyngodd ychydig i 4,460 yn 2018 ac yn 2017, adroddwyd bod gan Ynys Môn 2,095 o fentrau gweithredol a gynyddodd i 2,115 yn 2018

  • Yn 2017, cofnodwyd bod 1226 o fentrau ffermio/garddwriaethol ar Ynys Môn, 1271 yng Ngwynedd a 1074 yng Nghonwy

  • Yn 2009, roedd 3,100 o fentrau twristiaeth ar Ynys Môn, erbyn 2018 roedd hyn wedi cynyddu i 4,000. Yn 2009, roedd 7,700 o fentrau twristiaeth yng Ngwynedd ac erbyn 2018, roedd hyn wedi cynyddu i 9,000. Yn 2009, roedd 7,100 o fentrau twristiaeth yng Nghonwy, erbyn 2018 roedd hyn wedi cynyddu i 8,500

Yn gyffredinol, rhwng 2009 a 2018 mae mentrau twristiaeth wedi cynyddu 20% yng Ngogledd-orllewin Cymru.

Mae angen gwneud mwy o ymchwil a gwaith yn yr holl sectorau, gan gynnwys ymgynghorwyr a phrifysgolion, i archwilio'r potensial o ddatblygu economi wledig gynaliadwy a bywiog ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru yn unol ag adborth rhanddeiliaid.

Tourism hub of Conwy Town with its historic Castle.© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Cyfleoedd sy'n ymwneud â'r thema hon

Dim ond mewn lleoliadau addas yn amgylcheddol y bydd yr holl gyfleoedd a nodir isod yn cael eu cefnogi.

Economi:

  • Gwell dealltwriaeth o rôl amaethyddiaeth a mentrau gwledig eraill fel sail i'r economi wledig

  • Y cyfle i weithio gyda fforymau a rhwydweithiau presennol i gefnogi agenda'r economi wledig

  • Cynyddu cyfleoedd am gyflogaeth drwy ddarpariaeth addysgol o ran sgiliau gwledig

  • Cynyddu cyfleoedd am fentrau ynni gwyrdd lle bo hynny'n briodol

  • Ystyried sut gall y system gynllunio gefnogi economi wledig gynaliadwy

  • Ystyried sut y bydd buddsoddi nawr yn darparu sail ar gyfer economi gynaliadwy yn y dyfodol

  • Datblygu mentrau sy'n adeiladu ar y gorau o'r Cynllun Datblygu Gwledig/LEADER a gweithio gydag eraill i archwilio cyfleoedd ariannu sydd ar gael i fentrau gwledig cynaliadwy

  • Annog swyddi gwledig sy'n cysylltu pobl â'u hamgylchedd gwledig lleol megis ffermio, coedwigaeth a garddwriaeth

  • Cefnogi’r gwaith o farchnata cynnyrch o safon sy'n seiliedig ar fod yn gyfeillgar i'r amgylchedd e.e. rhannu'r gorau o brosiectau bwyd lleol a marchnata clwstwr

  • Datblygu marchnadoedd pren lleol cynaliadwy e.e. datblygu meithrinfeydd coed lleol a phennu ansawdd cywir coetiroedd i fodloni galw marchnadoedd tai lleol

Twristiaeth gynaliadwy :

Creu gweledigaeth a gweithredu cynllun twristiaeth gynaliadwy ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru sy'n nodi cyfleoedd ar gyfer y canlynol:

  • Seilwaith trafnidiaeth twristiaeth werdd

  • Llety teg a lleol sy'n fanteisiol i gymunedau lleol

  • Mannau gwerthu bwyd sy'n defnyddio cynnyrch lleol

  • Deunyddiau marchnata sydd wedi'u hanelu at gynulleidfaoedd tebygol gyda syniadau llawn ysbrydoliaeth a gwybodaeth gywir y gall pobl weithredu arnynt

  • Gweithio gydag eraill i leihau pwysau ymwelwyr ar ein safleoedd eiconig mwy sensitif

  • Cefnogaeth/contractau busnes atodol sy'n cefnogi'r diwydiant twristiaeth pan fo niferoedd ymwelwyr yn isel

  • Gweithio gyda rhwydweithiau a fforymau presennol i gefnogi'r agenda hwn

  • Gweithio gydag eraill i wella mynediad i'r awyr agored a hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy fel bod ymwelwyr yn cael eu hailgysylltu â'r amgylchedd a bod yr economi leol yn cael budd ohono

  • Cysylltu busnesau twristiaeth yn greadigol â’u hamgylchedd lleol, gan gynnwys cyfleoedd dehongli, addysgol a gwirfoddoli sy'n annog mwy o ddealltwriaeth o'r amgylchedd naturiol a'r dirwedd leol

  • Gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu twristiaeth gynaliadwy gan ddefnyddio'n hadnoddau naturiol mewn ffordd wydn a chyfrannu at economi leol iach

  • Gweithio gyda'n gilydd i reoli ac adolygu canolfannau twristiaeth o ran eu cynaliadwyedd yn y dyfodol ac ystyried pa gamau lliniaru sydd eu hangen os asesir nad ydynt yn gynaliadwy mwyach

  • Archwilio cyfleoedd i weithio gyda darparwyr twristiaeth presennol i amlygu a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd lleol

Trafnidiaeth gynaliadwy:

  • Gweithio gydag eraill er mwyn sicrhau nad yw'n heconomi'n parhau i achosi dirywiad amgylcheddol

  • Gweithio gydag eraill i ddatblygu atebion arloesol i leihau lefelau uchel o gludo deunyddiau, pobl a nwyddau ar y ffordd

  • Gweithio gydag eraill er mwyn datblygu system gludiant integredig a reolir a fydd yn sail i economi gynaliadwy. Casglu tystiolaeth ac edrych ar enghreifftiau eraill o arfer gorau e.e. Cynllun yr Wyddfa gyda sefydliadau eraill â diddordeb i wella'n dealltwriaeth ar y cyd o'r ffordd y mae pobl yn ymweld â'u hamgylchedd lleol neu weithgaredd twristiaeth, gan archwilio sut i reoli mynediad i'r amgylchedd yn fwy effeithlon a chynaliadwy i'r dyfodol drwy adolygu'r system trafnidiaeth gyhoeddus, parcio a mynediad ar draws gogledd-orllewin Cymru. Mae angen rhoi ystyriaeth bellach hefyd i gysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer cymudo, yn enwedig gan fod mwy o bobl ifanc nad ydynt yn gallu fforddio prynu car

Darparu nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy:

  • Gweithio gyda rhanddeiliaid sy'n rhan o'r cynllun gweithredu economaidd "Ffyniant i Bawb" i ddod o hyd i atebion cynaliadwy arloesol ar gyfer economi wledig Gogledd-orllewin Cymru

  • Annog economi gylchol leol, cysylltu pobl â phren, bwyd a chynnyrch lleol a cynaliadwy drwy frandio cynnyrch lleol o safon

  • Gweithio gydag eraill er mwyn annog datblygiad cadwyni cyflenwi lleol. Cynyddu effeithlonrwydd, hyrwyddo caffael lleol a chefnogi ynni adnewyddadwy lle bo hynny'n briodol

  • Gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chyrff y sector cyhoeddus i ystyried atebion i lefelau isel o gyflogaeth leol ym mhroses gomisiynu'r sector cyhoeddus

Goresgyn problemau gyda’n gilydd

  • Datblygu Strategaeth Economaidd Gynaliadwy ar gyfer y Rhanbarth – gweithio gyda fforymau a rhwydweithiau presennol i gefnogi’r agenda economaidd gwledig gan gynnwys gwell dealltwriaeth o rôl amaethyddiaeth a mentrau gwledig eraill fel sil i’r economi wledig, ac ystyriaeth o sut y gall y system gynllunio gefnogi economi wledig gynaliadwy.

  • Twristiaeth Gynaliadwy – Creu gweledigaeth a gweithredu cynllun twristiaeth gynaliadwy ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru sy’n ystyried seilwaith trafnidiaeth twristiaid werdd, gweithio gydag eraill i leihau pwysau ymwelwyr ar safleoedd eiconig sensitif yng Ngogledd-orllewin Cymru, mannau gwerthu bwyd sy’n defnyddio cynnyrch lleol a chadwyni cyflenwi byr

  • Nwyddau a Gwasanaethau Cynaliadwy - Gweithio gyda rhanddeiliaid sydd wedi ymgysylltu gyda’r cynllun gweithredu economaidd ‘Ffyniant i Bawb’ i ddod o hyd i atebion arloesol ar gyfer economi wledig Gogledd-orllewin Cymru ac annog economi gylchol leol, cysylltu pobl gyda phren, bwyd a chynnyrch o ffynonellau lleol a chynaliadwy drwy frandio cynnyrch lleol o ansawdd uchel. Gweithio gyda’r Byrddau Gwasanaethau Busnes a chyrff sector cyhoeddus i ystyried atebion i lefelau isel o gyflogaeth leol ym mhroses gomisiynu'r sector cyhoeddus

  • Trafnidiaeth Gynaliadwy – Gweithio gydag eraill i sicrhau nad yw economi Cymru yn parhau i achosi dirywiad amgylcheddol, gan gynnwys gweithio gydag eraill i ddatblygu atebion arloesol ar gyfer lleihau’r lefelau uchel o gludo deunyddiau, pobl a nwyddau ar y ffyrdd. Gweithio gydag eraill i ddatblygu system drafnidiaeth integredig a fydd yn sail i economi gynaliadwy. Gwella ein dealltwriaeth ar y cyd o’r ffordd y mae pobl yn ymweld â’r amgylchedd lleol neu weithgaredd twristiaeth, archwilio sut i reoli mynediad i’r amgylchedd mewn modd mwy effeithlon a chynaliadwy at y dyfodol drwy adolygu’r system drafnidiaeth, parcio a mynediad ar draws Gogledd-orllewin Cymru.

Nodi Bylchau - gan gynnwys datblygiadau Tai Cynaliadwy sy’n gysylltiedig â Theithio Llesol a mannau gwyrdd lleol, ac yn cynnwys cyfleoedd i ddefnyddio trafnidiaeth werdd i edrych ar Fusnesau sydd o Fudd i Natur - rhoi natur wrth wraidd y model busnes.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?

  • Economi leol sy'n darparu swyddi diogel, sy'n talu'n dda ac sy'n gwella'r amgylchedd naturiol

  • Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru'n gweithio'n agos gyda chymuned fusnes gogledd-orllewin Cymru i helpu economi gynaliadwy Gogledd-orllewin Cymru i ffynnu

  • Mae addysg, yr amgylchedd a busnes yn mynd law yn llaw. Caiff cyfleoedd busnes eu datblygu'n gynaliadwy, gan gynnig cyfleoedd da i boblogaeth waith amrywiol

  • Mae sgiliau gwledig allweddol sy'n gysylltiedig â rheoli tir yn gynaliadwy'n ffynnu yng Ngogledd-orllewin Cymru

  • Mae gwasanaethau cyhoeddus a phobl yn cael budd o economi wledig fywiog. Caiff adnoddau naturiol eu defnyddio mewn modd cynaliadwy mewn economi leol gylchol

  • Caiff cynnyrch lleol a chynaliadwy ei werthu'n lleol i amrywiaeth o brynwyr gwahanol ag anghenion a diddordebau gwahanol, o gynnyrch 'wedi'i brisio'n briodol' i gynnyrch premiwm

  • Adolygu a threialu seilwaith trafnidiaeth wyrddach leol hygyrch a mwy dibynadwy gan gefnogi'r gymuned leol a'r sawl sy'n ymweld â'r ardal e.e. Bws Llŷn

  • Caiff anghenion ynni busnesau gwledig lleol eu diwallu o ffynonellau adnewyddadwy cynaliadwy yng Ngogledd-orllewin Cymru

  • Caiff mentrau twristiaeth eu graddio a'u marchnata ar eu cyfraniad cynaliadwy i'r amgylchedd a'r economi leol

Manteision:

Mae manteision lluosog i bobl a bywyd gwyllt sy’n deillio o economi wledig gynaliadwy. Bydd sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy yn cefnogi busnesau gwledig nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gall economi a gwasanaethau cyhoeddus bywiog Gogledd-orllewin Cymru gael perthynas gilyddol lle maent yn cefnogi ei gilydd. Bydd annog economi gylchol leol yn lleihau cadwyni cyflenwi ac yn sicrhau bod arian yn parhau mewn ardaloedd gwledig lleol. Bydd partneriaethau rhwng yr amgylchedd, y sector addysg/dysgu a busnesau'n helpu i sicrhau bod swyddi gwledig yn rhai sy'n gofyn am sgiliau, yn werth chweil ac yn cynnig cyflog da. Bydd hyn yn helpu i gadw pobl ifanc yn yr ardal ac yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth i bawb o bob oed.

Gorsaf bŵer Dinorwig “Electric Mountain” Mae'r orsaf bŵer weithredol hefyd yn cael ei hyrwyddo fel atyniad i dwristiaid.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?

  • Anfonwyd gwahoddiadau at 450 o bobl a chynhaliwyd tri gweithdy, a daeth 100 o bobl iddynt a chyfrannu at y trafodaethau. Rydym wedi datblygu'r thema yn y digwyddiadau hynny ac wedi bod yn rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol o gyfathrebu â rhanddeiliaid i annog cyfranogiad a diddordeb parhaus yn y Datganiad Ardal lleol

  • Cynhaliwyd ail rownd o weithdai rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 i adeiladu ar y trafodaethau blaenorol. Rydym hefyd wedi siarad â phartneriaid ac wedi gwrando ar eu syniadau a'u hadborth, gan gynnwys: Cyfarfodydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, cyfarfodydd undebau ffermio a gweithdai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i helpu i ddatblygu cynnwys y themâu

  • Anfonwyd dros 500 o wahoddiadau ar gyfer yr ail rownd o weithdai ym mis Tachwedd / Rhagfyr 2019 gyda dros 100 yn mynychu

  • Cynhaliwyd cyfres o weithdai ar-lein ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2020 lle bu trafodaethau pellach yn canolbwyntio ar bob thema.

  • Cynhaliwyd ymarfer pellach ar-lein ar gyfer aelodau grŵp ffocws ym mis Chwefror 2022 i helpu i adeiladu ar y wybodaeth.

Beth yw'r camau nesaf?

Rydym ni wedi sefydlu ardal ar-lein ar gyfer aelodau ac is-grŵp thematig i ddatblygu gweledigaeth ardal gyfan ar gyfer y thema hon – gyda chylch gorchwyl a chynrychiolaeth eang. Byddwn yn nodi partneriaid posibl ac unigolion/grwpiau â diddordeb, bylchau mewn gwybodaeth, a chysylltiadau â strategaethau a chynlluniau gweithredu lleol a syniadau ar gyfer datblygu prosiectau.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (allanol, mewnol, gyda phartneriaid megis Grŵp Gorchwyl a Gorffen Economi Ymwelwyr Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) i arwain gweithgareddau'r is-grŵp thematig hwn.

Bydd angen i’r grŵp Ffocws adolygu'r wybodaeth a'r data sydd gennym hyd yn hyn, trefnu  gyda phwy y byddwn yn siarad nesaf, chwilio am theorïau newid, nodi rhwystrau a sut i’w goresgyn ac archwilio cyfleoedd am gamau gweithredu priodol. Bydd y Datganiad Ardal yn ddogfen ailadroddol a fydd yn newid ac yn datblygu dros amser.  Bydd y grŵp yn gyfrifol am benderfynu pryd y bydd angen newid cynlluniau a phwy sydd angen bod yn rhan o'r broses honno.

Ers 2021, rydym ni wedi comisiynu Nearly Wild i weithio ar brosiect yn edrych ar y busnesau presennol sydd o fudd i natur yn ardal Dyffryn Conwy, a’r potensial i weithio gyda’r sector hwn i ddatblygu cyfleoedd mewn perthynas â’r thema economi gynaliadwy yn y Datganiad Ardal a’r adferiad gwyrdd. Bellach, mae gennym ni ddealltwriaeth fwy cynhwysfawr o fusnesau sydd o fudd i natur yn ardal Dyffryn Conwy - ble, pa fath, ar ba raddfa ac ati. Cafwyd ymateb cadarnhaol gan y busnesau y gwnaethom gysylltu â nhw; fe wnaeth y mwyafrif neilltuo amser i dderbyn ein galwadau ffôn ac i siarad gyda ni.

Rydym ni bellach yn deall bod y busnesau hyn eisiau i’r agwedd gyfeillgar i natur tuag at weithgarwch masnachol fod yn fwy gweledol, fel y gallai mwy o bobl ddewis gweithio yn y modd hwn. Mae’r rhwydweithio gweithredol gan Nearly Wild drwy gydol y prosiect wedi adeiladu perthnasau newydd rhwng busnesau, yn ogystal ag atgyfnerthu neu adfywio perthnasau rhwng eraill. Roedd y parodrwydd i gydweithio yn amlwg iawn, yn seiliedig ar y perchnogion busnes yn adnabod meysydd o gyfatebolrwydd yn fuan iawn.

Mae’r cylchgrawn [ dolen ] yn darparu  ‘ffenestr siop’ clir i’r busnesau hyn a’u hagwedd fuddiol i natur tuag at weithgaredd masnachol; dyma’r tro cyntaf, hyd y gwyddwn, fod economi’r ardal wedi cael ei weld o’r safbwynt hwn, ac mae’n ffordd o ddangos ei gadernid, ei amrywiaeth a’i hyfywedd masnachol.

Mae’r gwaith yn dilysu’r modd hwn o ystyried gweithgaredd economaidd ymhellach, gan roi llawer mwy o enghreifftiau o sut mae’r agwedd hon tuag at fusnes yn galluogi pobl i sicrhau bywoliaeth hirhoedlog mewn modd sy’n fuddiol i natur, i gymunedau ac i’r economi.

Gan weithio ar hyn a gwaith arall, byddwn yn gallu ymgysylltu â grŵp ehangach o randdeiliaid y tu hwnt i'r sector amgylcheddol ehangach ac ennyn eu diddordeb mewn modd sydd wedi'i dargedu a chyda ffocws mwy cadarn ar gynnwys ac ymgysylltu â grwpiau ac unigolion lleol.  Gallai hyn olygu amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys: y cyfryngau cymdeithasol, y wasg draddodiadol, cyfarfodydd cymunedol, sesiynau galw heibio a chryfderau'n partneriaid fel ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni gweledigaeth ac uchelgeisiau'r Datganiad Ardal.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Bydd sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy wrth gynllunio a datblygu busnesau yn cefnogi busnesau gwledig nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd economi wledig, fywiog yn sail i wasanaethau cyhoeddus gwledig.  Bydd annog mwy o swyddi gwledig cynaliadwy sy’n gofyn am sgiliau yn helpu i ailgysylltu pobl â'u hamgylchedd lleol. Bydd annog economi gylchol leol yn lleihau cadwyni cyflenwi ac yn sicrhau bod arian yn parhau mewn ardaloedd gwledig lleol. Gallai cyflogaeth wledig fwy amrywiol arwain at lai o gymudo a phwysau ar y seilwaith trafnidiaeth. Dylid cynnwys mentrau trafnidiaeth wyrddach mewn datblygiadau newydd (e.e. cysylltiadau Teithio Llesol gyda mannau gwyrdd yn agos i’r lleoedd y mae pobl yn byw ac yn gweithio). Bydd cysylltedd digidol yn galluogi’r hyblygrwydd i fwy o bobl weithio o gartref mewn ardaloedd mwy gwledig gyda diffyg signal ffonau symudol, gan annog amrywiaeth economaidd.

Pont reilffordd Abermaw, Meirionnydd, cyswllt rheilffordd Arfordir Cambrian rhwng Machynlleth a Pwllheli.

Sut all pobl gymryd rhan?

Rydym yn croesawu cyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu â ni ar unrhyw gam o broses y Datganiad Ardal.

Mae ffurflen adborth a chyfeiriad e-bost hefyd: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk pe byddech am ysgrifennu atom gyda'ch syniadau.

I helpu fel hwyluswyr y broses hon, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Gweithio ar agweddau penodol ar y sgyrsiau’n dilyn yr ymgysylltiad gyda rhanddeiliaid y Datganiad Ardal a oedd yn nodi cyfleoedd a heriau i dreialu dulliau gwahanol a datblygu ffyrdd newydd o weithio.

  • Cefnogi’r Grŵp Ffocws drwy’r ardal ar-lein ar Teams ar gyfer aelodau a chyfarfodydd wyneb i wyneb, e.e. cyfrannu at strategaeth economaidd twristiaeth Gwynedd ac Eryri.

  • Cydweithiwch gydag eraill i fwydo i Gynlluniau a Pholisïau yn seiliedig ar Gyfleoedd Datganiad ardal.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf