Cyflwyniad i De-ddwyrain Cymru
© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.
Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.
Mae amrywiaeth o ffactorau yn llywio ein hiechyd a'n llesiant. Mae'r lleoedd a'r mannau o'n cwmpas (ein hamgylchedd) yn dylanwadu ar ein hymddygiad, y ffordd rydym yn byw, a'n hiechyd corfforol a meddyliol. Mae amgylchoedd gwahanol yn ffactor sy'n effeithio ar ganlyniadau iechyd i unigolion ac yn bytholi anghydraddoldebau iechyd ar draws cymunedau.
Mae amgylchoedd o ansawdd da yn galluogi pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol, i deimlo'n ddiogel, i ddefnyddio cyfleusterau a gwasanaethau, ac i gymdeithasu a chwarae. Mae'r ffactorau hyn yn cefnogi iechyd a llesiant corfforol a meddyliol da. I'r gwrthwyneb, mae'n bosib y bydd gan amgylcheddau o ansawdd gwaeth ddiffyg mynediad i fannau gwyrdd, darpariaeth tai annigonol, mwy o broblemau o ran traffig a llygredd aer, a diffyg mynediad i wasanaethau. Nid yw amgylcheddau o'r fath yn annog ymddygiadau iach a gallent hyd yn oed effeithio'n uniongyrchol ar iechyd corfforol a meddyliol.
Mae mannau gwyrdd yn dod â phobl a chymunedau ynghyd ac yn darparu cyfleoedd i fynd i'r afael â phroblemau o ran allgau cymdeithasol ac unigrwydd. Mae gweithgarwch yn yr awyr agored ar y cyd yn meithrin synnwyr cyffredin o bwrpas ac yn magu hunaniaeth leol a theimlad o falchder mewn lle.
Mae rhagor o dystiolaeth i ddangos y gallai datguddiad i leoliadau naturiol fod yn effeithiol o ran trin rhai cyflyrau iechyd, yn enwedig salwch meddyliol, a bod ymgysylltu â natur o fudd i'r rheini sy'n byw ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, iselder a dementia drwy wella gweithredu gwybyddol a lleihau gorbryder.
Llun gan Prosiect Dewch Allan
Sut mae llwyddiant yn edrych | Y weledigaeth ar gyfer y De-ddwyrain |
---|---|
Nid yw iechyd a gwydnwch ein hecosystemau ar draws pedair nodwedd gwydnwch ecosystemau yn cael ei beryglu ac mae’n cael ei wella lle y bo angen |
Mae partneriaid yng Ngwent yn cydweithio i amddiffyn a gwella iechyd a llesiant drwy gysylltu pobl, cymunedau a chyflenwi gwasanaethau â natur er bydd pobl a'r amgylchedd. Gyda'n gilydd, rydym yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a rhyngweithio parhaus â natur ac yn gwireddu’r manteision lluosog y gall natur eu darparu. Adlewyrchir gwerth natur ar gyfer cymdeithas a'r economi ym mhenderfyniadau a gwariant cyhoeddus. |
Mae adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac mae’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau ecosystemau gwahanol yn cael ei hybu ar gyfer llesiant |
Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang Pan fo pobl ifanc yn cael eu cysylltu â natur, mae'n effeithio'n gadarnhaol ar eu haddysg, iechyd corfforol, llesiant emosiynol, a sgiliau personol a chymdeithasol. Mae dysgu am natur yn helpu i ddatblygu dinasyddion gweithgar, cyfrifol a moesegol. Cymru lewyrchus Mae mannau gwyrdd digonol sy'n gweithio'n dda ac o ansawdd uchel yn llywio buddsoddiad mewnol ac yn cynyddu gwydnwch economaidd lleol. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch a theithio llesol yn bosib. Mae gan bobl wybodaeth dda am eu hamgylchedd lleol, mae cysylltiadau cyhoeddus yn uchel, ac mae asedau gwyrdd cyhoeddus/cymunedol yn cael eu rhannu. Mae mannau naturiol bywiog yn cynyddu'r galw am sgiliau gwyrdd, yn cyflenwi cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes a gwirfoddoli, ac yn hyrwyddo mentrau economaidd cynaliadwy, gan hybu a chefnogi'r economi werdd leol. Cymru iachach Mae ein mannau gwyrdd lleol a dulliau o’u rheoli ac ymyriadau iechyd yn cyfuno i sicrhau bod Gwent yn iachach. Mae byd natur a mannau awyr agored yn rhan o brif ffrwd bywydau pobl a'r 'system' (gofal iechyd, cynllunio, addysg ac ati). Mae atebion seiliedig ar natur yn dod yn ddull arferol. Mae sefydliadau yn cydweithio i weithredu hyn (e.e. y System Iechyd Naturiol). Mae gan bobl fynediad i fannau naturiol diogel lle gallant wneud ymarfer corff, chwarae, tyfu bwyd ac ymlacio. Mae llwybrau gwyrdd ar gyfer teithio llesol ar gael i bawb o oedran cynnar ac ymddygiadau iach yw'r peth normal. Mae llai o geir ac aer glanach. Mae plant yn teimlo’n ysbrydoledig, yn ddiogel, ac wedi’u hannog i chwarae yn yr awyr agored. Mae cymunedau yn elwa ar fwy o weithgarwch corfforol, gwell iechyd meddwl, ac atal cyflyrau iechyd cronig (e.e. gordewdra, diabetes Math 2). Mae hyn yn golygu bod llai o salwch a llai o wahaniaeth mewn disgwyliad oes iach ar draws Gwent. Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu Mae mannau gwyrdd bywiog lleol yn llawn mynegiant a hwyl ac yn greadigol. Maent wedi cael eu cynllunio ar gyfer preswylwyr a chanddynt ac yn adlewyrchu diwylliant a hunaniaeth Cymru, gan gyflenwi cyfleoedd ar gyfer creadigrwydd, y celfyddydau, chwaraeon a hamdden, gan hybu cyfleoedd o ran twristiaeth. Mae ein tirweddau yn gysylltiedig ac yn iach ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at ein treftadaeth naturiol. Cymru o gymunedau cydlynus People feel more connected to the environment and to each other, have access to quality local green spaces and know where they can go and what they can do there. Traffic accidents are reduced. Communities are involved in local green space design and maintenance, creating desirable places to socialise with each other, instilling local pride, safety and community identity. |
Mae'r buddiannau sy'n deillio o adnoddau naturiol yn cael eu dosbarthu mewn modd teg a chyfartal ac mae'r cyfraniad y maent yn ei wneud tuag at lesiant yn diwallu ein hanghenion sylfaenol ac nid yw'n lleihau nawr nac yn yr hirdymor |
Cymru sy'n fwy cyfartal Mae mannau gwyrdd lleol yn fforddiadwy a hygyrch i'n cymunedau mwyaf difreintiedig, sydd hefyd dan berygl mwy o brofi effeithiau gan beryglon amgylcheddol ac allgáu cymdeithasol. Mae mannau gwyrdd lleol yn ddiogel, yn cysylltu pobl, yn mynd i'r afael ag allgáu, ac yn hybu sgiliau a hyder. |
Llun gan Pete Frost
Camau gweithredu:
Camau gweithredu:
Camau gweithredu:
Datblygwyd ymagwedd thematig ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yng Ngwent er mwyn bod mor ddefnyddiol a hygyrch â phosib o ran cynnwys ac integreiddio ac mae’n adlewyrchu trefniadau gwaith y lle. Gwnaeth yr ymagwedd rhwydwaith thematig ddarparu mecanwaith yn gynnar ym mhroses y Datganiad Ardal i ymgymryd â gweithgarwch drwy lens benodol. Roedd hyn yn ddefnyddiol wrth ganiatáu i randdeiliaid ddatblygu llinynnau gwaith heb rwystrau posib o gwmpas mawr neu aneglur.
Mae enghreifftiau nodedig o bartneriaethau strategol yn gweithio yn y thema Iach, Heini, Cysylltiedig yn cynnwys mwy ystyrlon gyda'n partneriaid sector cyhoeddus, fel Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent, Rhwydweithiau Llesiant Integredig yng Ngwent, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a phrosiectau partneriaethau rhanbarthol, gan gynnwys Grid Gwyrdd Gwent a phartneriaeth Gwent Fwyaf Gydnerth. Rydym hefyd wedi gweithio i integreiddio'r ffrwd waith hon â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o’i broses ymgysylltu Meithrin Gwent Iachach. Mae'r ddau sefydliad yn cydnabod bod cyfle sylweddol am synergedd rhwng Strategaeth Meithrin Gwent Iachach a Datganiad Ardal y De-ddwyrain.
Llun gan Prosiect Dewch Allan
Bydd y canlyniadau dan bob un o'r pedair thema strategol yn cyflawni gweledigaeth y Datganiad Ardal ar gyfer y De-ddwyrain. Er bod gan bob thema ei gweledigaeth ei hun ar gyfer y De-ddwyrain, mae pob un yn rhan o'r un dull gweithredu trosfwaol ar gyfer cyflawni Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn y lle.
Mae Datganiad Ardal y De-ddwyrain yn cynrychioli ffyrdd mwy cydweithredol, integredig a chynhwysol o weithio; mae'n cynrychioli'r gwaith rydym wedi'i wneud yng Ngwent dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gryfhau'r ffyrdd rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn wahanol, yn ein sefydliadau ein hunain ac fel partneriaid.
Yn y De-ddwyrain, aethom ati i lunio Datganiad Ardal sy'n llywio cynllunio mewnol ac allanol ar y raddfa briodol ac sy'n helpu rhanddeiliaid i ystyried ffyrdd o weithio gyda'i gilydd wrth wneud hynny. Mae proses y Datganiad Ardal yn ymaddasol a bydd yn helpu i archwilio a llunio ffyrdd uchelgeisiol o weithio.
Bydd rhwydweithiau thematig yn parhau i ganolbwyntio ar weithio gyda'n gilydd yn wahanol i feithrin gwydnwch ecosystemau. Bydd pob rhwydwaith yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin, yn ogystal â hwyluso ymyriadau ataliol dros y tymor hwy.
Os hoffech gymryd rhan mewn cyflwyno'r camau gweithredu a restrwyd yma, cyfrannu at ddatblygu’r rhwydwaith thematig, neu rannu eich delweddau a'ch straeon eich hun o sut mae natur wedi effeithio ar eich iechyd a'ch llesiant eich hunain, cysylltwch â ni.