Cynllun Adnoddau Coedwig Abergynolwyn – Cymeradwywyd 4 Gorffennaf 2024

Lleoliad a safle

Mae Cynllun Adnodd Coedwig Abergynolwyn wedi’i leoli o fewn dyffrynnoedd Tal-y-llyn a Dysynni, wrth droed Cadair Idris ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri. Nodweddir y dyffrynnoedd rhewlifol hyn gan olygfeydd mynyddig dramatig, gydag aneddiadau wedi'u gwasgaru yma ac acw ar hyd gwastatir y dyffryn. Y mwyaf o'r aneddiadau hyn yw pentref Abergynolwyn, ar ochr ogleddol prif floc coedwig Cynllun Adnodd Coedwig Abergynolwyn. Mae ffordd B4405 yn rhedeg i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd gwaelod dyffryn Tal-y-llyn, gan gysylltu'r cynllun adnodd coedwig â Thywyn, ar yr arfordir gorllewinol, a Dolgellau a ffyrdd A487 a A470 yn y Dwyrain.

Mae'r cynllun adnodd coedwig yn cynnwys prif floc coedwig Abergynolwyn (596 ha), bloc y fynwent (10 ha) a bloc Coed y Graig (35 ha), sy'n rhoi cyfanswm o 641 hectar o dir i gyd. Mae bloc y fynwent ac wyneb gogledd-ddwyreiniol prif floc Abergynolwyn yn rhedeg ar hyd wyneb deheuol y dyffryn rhewlifol serth ac wedi’u lleoli'n amlwg uwchben pentref Abergynolwyn. O'r fan hon mae prif floc Abergynolwyn yn dilyn cwrs Nant Gwernol a Nant Llaeron, ar hyd wynebau gogleddol Foel Fawr, Tarrenhendre a Foel y Geifr, sy’n sefyll uwchben hen chwarel lechi Bryneglwys. Mae bloc Coed y Graig tua 3 km i'r gogledd-orllewin o'r blociau eraill, ar wyneb gogleddol Dyffryn Dysynni.

Lleolir y cynllun adnodd coedwig ym mhen gorllewinol coedwig enfawr Dyfi, ac fel sy'n nodweddiadol yn ardal y Ddyfi, conwydd yn bennaf yw blociau cynllun adnodd coedwig Abergynolwyn. Er bod prif floc Abergynolwyn wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â choedwig ehangach Dyfi, mae pen dwyreiniol y bloc rheoli hwn wedi'i ddiffinio gan grib Foel y Geifr, sy'n sefyll yn y tir mynyddig rhwng pentrefi Abergynolwyn a Phantperthog. Mae Biosffer Dyfi hefyd yn ffinio â phen deheuol prif floc Abergynolwyn ar hyd y griblinell hon. Safleoedd eraill sydd wedi’u gwarchod gan Ewrop yng nghyffiniau'r Cynllun Adnodd Coedwig yw ACA Cadair Idris ac AGA Craig yr Aderyn. Mae cynefin cyfagos y blociau Cynllun Adnodd Coedwig yn cynnwys tir pori amaethyddol amgaeedig a mynydd agored, blociau coedwigoedd conwydd masnachol, ac ardaloedd llai o goetiroedd conwydd/llydanddail cymysg ar y llethrau isaf a’r glannau afonydd. Mae'r rhan fwyaf o dir y Cynllun Adnodd Coedwig wedi'i neilltuo ar gyfer mynediad agored ar droed o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ac mae hefyd yn caniatáu mynediad i geffylau a beiciau drwy ganiatâd.

Mae 97.9% o gynllun adnodd coedwig Abergynolwyn yn perthyn i ddalgylchoedd afonydd 'Dysynni - uchaf ac 'Dysynni – isaf', gyda'r gweddill o fewn dalgylchoedd 'Fathew', 'Pennal' a 'Gogledd Dulas'. Mae'r holl ddalgylchoedd hyn yn cael eu categoreiddio fel 'Cymedrol' neu 'Dda' yn ôl asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, er bod pedwar o'r pump hefyd yn cael eu categoreiddio fel rhai sy’n methu cyrraedd trothwyon sensitifrwydd i asid.

Map lleoliad Abergynolwyn

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Cael gwared o larwydd ac amrywio cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig i gynyddu’r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau gan ddatblygu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy ddewis y cynlluniau cwympo a’r rhywogaethau sy’n cael eu hailstocio.
  • Mwy o ardaloedd o goetir olynol/torlannol ar gyfer gwella gwytnwch y cynefin a chysylltiadau rhwng cynefinoedd ar raddfa tirwedd.
  • Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
  • Parhau i nodi ac adfer nodweddion safleoedd coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol.
  • Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd amrywiol diogel a phleserus.

Mapiau

Map 1: Gweledigaeth hirdymor

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf