Cynllun Adnoddau Coedwig Breiddin – Cymeradwywyd 28 Mehefin 2024

Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Breiddin yn cynnwys Coedwig Freiddin, Craig Freiddin, a thri bloc llai o faint o’u hamgylch. Mae gan ardal y Cynllun gyfanswm arwynebedd o 253.2 ha. Yn swatio rhwng ffordd yr A458 o’r Trallwng i’r Amwythig a gorlifdir Afon Hafren, coed conwydd sydd yn ardal y Cynllun Adnoddau Coedwigaeth yn bennaf, ond mae yna hefyd ardaloedd sylweddol o goed llydanddail yn ogystal â thir amaethyddol agored. Mae Coedwig Freiddin ar ochr Cymru o’r ffin rhwng Cymru a Lloegr - yn wir, mae pen dwyreiniol y goedwig yn union ar y ffin. Mae tref Y Trallwng tua 7 cilomedr i'r de-orllewin o ardal y Cynllun.

Mae cynefin amgylchynol y Cynllun yn cynnwys tir pori wedi’i amgáu gan wrychoedd, a darnau llai o goedwigoedd llydanddail a choed conwydd.  Mae Coedwig Freiddin a Chraig Freiddin yn cynnwys rhwydwaith mawr o lwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy'n cysylltu â'r dirwedd o amgylch, ynghyd â maes parcio cyhoeddus a thirnod hanesyddol amlwg – Colofn Rodney – ar y copa.

Mae ardal Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Breiddin yn cynnwys dau gefndeuddwr yn nalgylch Afon Hafren: aber Afon Camlad i aber Nant Bele; ac aber Nant Bele i aber Nant Sundorn. Mae'r ddau wedi'u graddio fel 'Cymedrol' o dan asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Map lleoliad

Map lleoliad cynllun adnoddau coedwig Breddin

Amcanion â blaenoriaeth

Amcan 1: Adfer a gwella coetiroedd hynafol a chynefinoedd

Parhau i nodi nodweddion coetiroedd hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraeth o fewn y cynllun adnoddau coedwig, a’u hadfer. Mae cyfleoedd i’w cael ar draws ardal y cynllun adnoddau coedwig i wella coetiroedd hynafol a lled-naturiol ac adfer planhigfeydd ar goetiroedd hynafol yn raddol. Bydd hefyd gyfle i adfer yn gyflymach a sicrhau mwy o gysylltedd o ran coed llydanddail, a hynny drwy barhau i leihau clystyrau o goed llarwydd. Mae’r fadfall ddŵr gribog yn bresennol yn ardal y cynllun ac mae cyfle yn y cynllun i wella cynefin y rhywogaeth hon. Mae creigiau a sgrïau a’r fflora y maent yn eu cynnal - sy’n rhan o safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Craig Freiddin - dan fygythiad mewn rhai rhannau o’r cynllun, a bydd agor y cynefin hwn yn gwella bioamrywiaeth y safle ymhellach.

Blaenoriaethau Allweddol Ystad Goed Llywodraeth Cymru 2, 4 a 5;  Thema datganiad ardal - “Gwella bioamrywiaeth”

Amcan 2: Gwarchod yr amgylchedd hanesyddol

Nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth ac archaeolegol pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol. Ar adeg llunio’r cynllun hwn, mae CNC yn parhau â gwaith i adfer Piler Rodney a bydd hyn yn parhau i alluogi’r ardal i gael ei hagor eto i’r cyhoedd. Mae ardaloedd cofrestredig a nodweddion archaeolegol heb eu rhestru a fydd yn parhau i gael eu gwarchod yn ystod gwaith a wneir i gadw gwerth hanesyddol y lleoliadau hyn.

Blaenoriaethau Allweddol Ystad Goed Llywodraeth Cymru 5, 7 ac 8; Themâu datganiad ardal - “Adnoddau coedwig”, “Tir, dŵr ac aer cynaliadwy”

Amcan 3: Cynhyrchu pren yn gynaliadwy

Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant pren trwy’r cynllun a ddefnyddir i gwympo coed a’r dewis o rywogaethau wrth ailstocio. Mae potensial da i amrywio’r dewis o rywogaethau o ran conwydd cynhyrchiol o fewn yr ardal cynllun adnoddau coedwig hon er mwyn cynyddu gwydnwch a pharhau i gyflenwi cynhyrchion pren w- a chaiff hyn ei ategu gan briddoedd da a lefelau da o ran amlygiad ar draws llawer o ardal y cynllun.

Blaenoriaethau Allweddol Ystad Goed Llywodraeth Cymru 2, 3 a 9; Themâu datganiad ardal - “Adnoddau coedwigaeth”, “Tir, dŵr ac aer cynaliadwy”

Amcan 4: Coetiroedd i bobl

Cynnal a gwella profiad ymwelwyr trwy ddarparu amgylchedd amrywiol diogel a phleserus. Mae hawliau tramwy cyhoeddus a mannau mynediad agored eraill yn y cynllun yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, a dylai hyn barhau. Bydd rheolaeth barhaus o dan systemau coedamaeth bach eu heffaith, gyda mwy o ardaloedd yn cael eu recriwtio yn y dyfodol, ac adfer coetir hynafol yn raddol mewn ardaloedd eraill, yn gwella estheteg y goedwig yn y tymor hir. Bydd y coetiroedd yn cael eu hymgorffori yn rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Blaenoriaethau Allweddol Ystad Goed Llywodraeth Cymru 7 a 8; Themâu datganiad ardal - “Adnoddau coedwigaeth”, “Ailgysylltu pobl a lleoedd”

Amcan 5: Gwella dŵr, cysylltedd a chynefin

Mwy o ardaloedd coetir olynol/torlannol i wella gwydnwch cynefinoedd a chysylltiadau rhwng cynefinoedd ar raddfa’r dirwedd. Mae rhai ardaloedd da o goetir torlannol eisoes o fewn ardal y cynllun, ond mae cyfleoedd yn dal i fodoli i wella hyn ymhellach trwy deneuo coed conwydd gerllaw cyrsiau dŵr ar ffin ddeheuol y safle i sicrhau cydymffurfedd â Safon Coedwigaeth y DU a chysylltu â chynefin y tu allan i ffin y cynllun.

Ar adeg ysgrifennu’r cynllun adnoddau coedwig, mae gweithdrefnau yn cael eu datblygu ar gyfer rheoli rhwydweithiau natur y gellir eu gweithredu maes o law.

Blaenoriaethau Allweddol Ystad Goed Llywodraeth Cymru 2, 3, 4 a 5; Themâu datganiad ardal - “Adnoddau coedwigaeth”, “Gwella bioamrywiaeth”

Amcan 6: Gwydnwch Coedwig

Cynyddu amrywiaeth strwythurol trwy weithredu systemau coedamaeth bach eu heffaith. Mae angen canolbwyntio ar gynnal lefel dda o deneuo ar draws ardal y cynllun hwn i sicrhau’r opsiynau parhaus ar gyfer systemau coedamaeth bach eu heffaith a fydd yn gwella amrywiaeth strwythurol ymhellach ac, yn ei dro, yn gwella gwerth amwynder, ansawdd pren a gwydnwch, wrth leihau’r effeithiau ar bridd a dŵr. Amrywio cyfansoddiad rhywogaethau ymhellach drwy ailstocio gan ddewis yn ofalus ac adfywio naturiol i gynyddu’r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau gan ddatblygu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Amcan 7: Gwella’r dirwedd

Ymdoddi ymhellach effeithiau gweledol y coetiroedd i’r dirwedd ehangach, gan helpu i wella nodweddion tirwedd cenedlaethol yr ardaloedd y maent yn eistedd ynddynt. Addasu’r coetiroedd yn raddol i wella amwynder tirwedd ymhellach: ar y cyd â’r defnydd o systemau coedamaeth bach eu heffaith ac arallgyfeirio, mae hyn yn golygu lleihau’n araf y toriadau caled/artiffisial yn y dirwedd, gan annog coetir cymysg ar ffiniau ac ystyried nodweddion cyfagos. Dylid osgoi cwympo coed lle bo modd, a lle bo angen dylid ailstocio mewn modd sy’n sensitif i’r dirwedd.

Blaenoriaethau Allweddol Ystad Goed Llywodraeth Cymru 3, 5, 7 ac 8; Themâu datganiad ardal - “Adnoddau coedwigaeth”, “Tir, dŵr ac aer cynaliadwy”, “Ailgysylltu pobl a lleoedd”.

Mapiau

Breiddin Gweledigaeth Hirdymor

Y Strategaeth Rheoli Coedwigoedd a Chwympo Coed

Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannu

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf