Crynodeb gweithredol

Croeso i'n Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2020–2021. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi gweithredu'r polisi ac yn gweithio i wella ein gwasanaethau Cymraeg, yn unol â'r gofynion yn ein Safonau Iaith Gymraeg, dros y cyfnod adrodd.

O ganlyniad i COVID-19, dros y deuddeg mis diwethaf bu angen darparu rhai o'n gwasanaethau yn wahanol, ac roedd hyn yn cynnwys ein gwasanaethau Cymraeg. Yn ffodus, gan fod y rhan fwyaf o'n gwasanaethau ar gael yn Gymraeg ar-lein neu dros y ffôn, effaith gyfyngedig gafodd y pandemig. Gan ddefnyddio technoleg, rydym wedi gallu hwyluso cyfarfodydd ar-lein a darparu cyfleusterau cyfieithu fel y byddem mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb arferol.

Yn dilyn ei gwaith monitro o'n cydymffurfiaeth â’r safonau, derbyniom adborth cadarnhaol gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn ein cyfarfod blynyddol. Roedd meysydd lle nad oeddem yn cydffurfio o hyd ac a gafodd eu hadrodd fel risgiau yn Adroddiad Blynyddol 2019–20; mae'r gwaith rydym wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r meysydd hyn wedi'i gynnwys yn rhan o'r adroddiad hwn.

Diweddarwyd cynlluniau parhad busnes yn sgil y pandemig, er mwyn sicrhau gwydnwch. Ffurfiodd ystyriaethau Cymraeg ran o'r cynlluniau a ddiweddarwyd, gan sicrhau lle bynnag y bo'n bosibl a lle roedd hynny’n rhesymol ein bod yn gallu darparu dewis o iaith i'n cwsmeriaid fel yr arfer ac yn unol â’n gofynion deddfwriaethol.

Symudodd ein holl gyrsiau hyfforddi'r Gymraeg wyneb yn wyneb ar-lein, ac mae methu cael sgyrsiau anffurfiol gyda siaradwyr Cymraeg rhugl ar sail ddyddiol wedi cael effaith ar allu ein staff i ymarfer eu sgiliau Cymraeg. Er mwyn helpu ein dysgwyr, rydym wedi trefnu mentoriaid sy'n cyfarfod â dysgwyr dros Microsoft Teams i ymarfer eu sgiliau iaith.

Deallodd Comisiynydd y Gymraeg fod angen i sefydliadau cyhoeddus ddarparu cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd yn gyflym ar adegau, a gadawodd i sefydliadau wneud penderfyniadau ynglŷn â defnyddio'r Gymraeg wrth rannu gwybodaeth frys, gan ystyried yr amgylchiadau a natur y sefyllfa. Gyda'r cynlluniau oedd gennym ar waith i sicrhau bod gwybodaeth gyhoeddus yn cael blaenoriaeth, roeddem yn gallu darparu'r wybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg fel yr arfer drwy gydol y cyfnod hwn.

Mae'r Gymraeg yn rhan o hunaniaeth CNC ac rydym yn parchu dewis iaith a hunaniaeth ein cwsmeriaid drwy fod yn rhagweithiol wrth gynnig dewis o iaith. Mae gennym siaradwyr Cymraeg yn y rhan fwyaf o'n timau a gweithleoedd, gyda'r rhan fwyaf yn gweithio yn ein timau gweithredol, sy'n delio â'r cyhoedd yn ddyddiol fel rhan o'u gwaith.

Mae 24% o'n staff yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Ein nod yw cynyddu cyfleoedd ar gyfer ein siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith bob dydd, yn allanol ac yn fewnol, a byddwn yn datblygu strategaeth Gymraeg i helpu i hwyluso hyn.

Byddwn yn parhau i weithredu ein gweledigaeth i ddatblygu’n sefydliad naturiol ddwyieithog trwy fanteisio ar gyfleoedd i recriwtio siaradwyr Cymraeg drwy ein proses recriwtio ac annog a chefnogi staff i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith yn “araf bach a phob yn gam” wrth i ni gynyddu ein gallu a galluogrwydd i ddarparu gwasanaeth dwyieithog ar draws y sefydliad.

Cyflwyniad

Daeth Safonau’r Gymraeg i rym ar gyfer CNC ar 25 Ionawr 2017, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac maent yn cael eu rheoleiddio gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016.

Nod y safonau yw:

  • Darparu gwasanaeth Cymraeg gwell a mwy cyson i siaradwyr Cymraeg.
  • Egluro'n glir i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg.
  • Egluro'n glir i sefydliadau cyhoeddus beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg.
  • Sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut rydym wedi gweithredu'r safonau a'r gwaith rydym wedi'i gynnal i wella ein gwasanaethau Cymraeg yn ystod blwyddyn adrodd 2020/21.

Gweithredu safonau’r Gymraeg

Mae'r safonau sy'n ofynnol inni gydymffurfio â nhw mewn pedwar categori:

  • Safonau gwasanaeth – y gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu darparu ar gyfer y cyhoedd.
  • Safonau polisi – sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o'r broses benderfynu trwy gynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau bod y penderfyniad yn cael effaith gadarnhaol yn hytrach nag effaith niweidiol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg neu ei fod yn cynyddu'r cyfleoedd i’w defnyddio.
  • Safonau gweithredol – hyrwyddo a hwyluso'r Gymraeg yn ein prosesau gweinyddol mewnol.
  • Safonau cadw cofnodion – cadw cofnodion er mwyn cydymffurfio â gofynion y safonau mewn meysydd fel sgiliau Cymraeg y staff, hyfforddiant, cwynion a recriwtio.

Gweithredu a gwella ein safonau a gwasanaethau Cymraeg

Diweddariadau rheolwyr

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rheolwyr wedi cael eu gofyn i godi ymwybyddiaeth o'r angen i wneud y canlynol:

  • ystyried gofynion cyfieithu ar ddechrau prosiect, gan ddyrannu digon o amser ar gyfer cyfieithu cyn cyhoeddi gwybodaeth
  • rhoi'r un ystyriaeth i ofynion y Gymraeg ag a wneir wrth gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb
  • sicrhau bod yr holl negeseuon e-bost neu gyfarwyddiadau staff yn ddwyieithog yn unol â'n polisi iaith mewnol
  • cyfeirio at y canllawiau a chymorth ar ohebiaeth, ffonio a chyfathrebu, cyfarfodydd a digwyddiadau, desgiau derbynfa a chyfleusterau, staffio a recriwtio, a chyfieithu
  • ystyried y Gymraeg mewn asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb i sicrhau nad yw ein gwaith yn cael unrhyw effaith ar allu unigolyn i ddefnyddio'r Gymraeg gyda ni yn fewnol ac yn allanol.

Grŵp Pencampwyr

Mae gan ein Grŵp Pencampwyr Iaith Gymraeg gynrychiolydd o bob cyfarwyddiaeth. Mae cyfarfodydd yn digwydd bob chwarter a bydd Pencampwyr yn cysylltu â'r Cynghorydd Iaith Gymraeg yn ôl yr angen. Mae'r cylch gorchwyl wedi'i ddiweddaru dros y flwyddyn fel a restrir isod.

Mae'r Pencampwyr yn gweithredu fel cyswllt rhwng y cyfarwyddiaethau a Chynghorydd Polisi’r Gymraeg, gan helpu i godi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â materion wrth iddynt godi.

Safonau gwasanaeth

Canolfan Gofal Cwsmeriaid

Mae ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid yn delio â'r holl alwadau ffôn a ddaw i'r sefydliad. Dros y flwyddyn ddiwethaf hyd at 31 Mawrth 2021, roedd y ganolfan wedi delio â chyfanswm o 21,255 o alwadau, a 5.7% o'r rhain (1,221) oedd yn alwadau Cymraeg.

Er bod pob un o'n gweithwyr sy'n ateb galwadau yn y ganolfan yn siaradwyr Cymraeg rhugl, mae nifer o alwyr yn dewis yr opsiwn Saesneg i gychwyn ac wrth siarad â'n gweithwyr, sy'n eu cyfarch yn ddwyieithog, byddant wedyn yn parhau gyda'r sgwrs drwy'r Gymraeg. Mae'r patrwm hwn i weld yn debyg i alwyr i’r Llinell Llifogydd.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym yn trafod gyda Chomisiynydd y Gymraeg p'un a allwn gael gwared ar yr opsiwn dewis iaith a ddarperir i gwsmeriaid. Mae pob un o'n gweithwyr sy'n ateb galwadau yn siarad Cymraeg ac yn ateb yn ddwyieithog, a bydd hyn nid yn unig yn cynyddu nifer ein galwadau sy’n cael eu cofnodi fel galwadau cyfrwng Cymraeg ond hefyd yn darparu gwasanaeth dwyieithog naturiol a rhagweithiol i bob un o'n cwsmeriaid. Byddai angen i ni ddod o hyd i ffordd arall o gofnodi dewis iaith at ddibenion ystadegol.

System cofnodi rheoli cysylltiadau cwsmeriaid

Defnyddir ein system cofnodi ar gyfer rheoli cysylltiadau cwsmeriaid i gofnodi dewis iaith ein holl gwsmeriaid. Mae gan feysydd o'r busnes sy'n delio â'r cyhoedd ar sail reolaidd fynediad at y system. Mae gwaith ar gychwyn dros y 12–18 mis nesaf i ddatblygu'r system hon a'i gwneud ar gael i gofnodi cysylltiadau mewn rhagor o rannau o'r busnes.

Cyfarfodydd a digwyddiadau

Gyda chyfyngiadau COVID-19 ar waith, mae'r holl ddigwyddiadau a chyfarfodydd wedi symud ar-lein. Rydym wedi parhau i gynnal sawl cyfarfod a digwyddiad dwyieithog wedi’i drefnu ac wedi sicrhau bod y cyfarfodydd a digwyddiadau yn cael eu rhedeg yn ddwyieithog drwy wneud y canlynol:

  • Cynllunio a thrafod ystyriaethau Cymraeg yn ystod camau cynnar gwaith cynllunio
  • Defnyddio system archebu digwyddiadau ar-lein ddwyieithog Tocyn Cymru a gofyn am ddewis iaith y cyfranogwr
  • Trefnu i'r holl gyflwyniadau fod yn ddwyieithog
  • Sicrhau cadeirydd sy'n siarad Cymraeg i agor a chau y digwyddiad
  • Cael hwyluswyr sy'n siarad Cymraeg ym mhob grŵp trafod
  • Grŵp trafod cyfrwng Cymraeg
  • Cael cwestiynau a ofynnir yn y cyfleuster sgwrsio wedi'u hateb yn ddwyieithog

Tîm Addysg ac Iechyd – Digwyddiadau hyfforddiant

Rhwng mis Hydref 2020 a mis Ionawr 2021, cymerodd 1,223 o bobl o'r sector addysg ran mewn hyfforddiant ar-lein a ddarparwyd gan y tîm, gyda 405 yn derbyn hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg. Diben yr hyfforddiant yw helpu'r rhai sy'n gweithio yn y sector i gael y wybodaeth a'r hyder i addysgu yn yr amgylchedd awyr agored ac i ddefnyddio'r enwau a thermau Cymraeg cywir. Mae'r gwaith hwn yn cyfrannu at gynllun gweithredu strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, i gael mwy o addysgwyr sy'n gallu addysgu'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer y dyfodol.

Roedd adborth gan fynychwyr y digwyddiadau hyn yn gadarnhaol iawn, a gwnaethant nodi faint oeddent yn gwerthfawrogi’r cynnig naturiol rhagweithiol o'r Gymraeg drwy gydol y digwyddiad, gan ganiatáu cyfranogwyr i gymryd rhan yn yr iaith o’u dewis. Roedd sicrhau y rhoddwyd sylw i ystyriaethau Cymraeg o gychwyn y broses gynllunio yn sicrhau bod digwyddiadau yn rhedeg yn llyfn, ond hefyd fod anghenion y cwsmer yn ffurfio rhan o'r ystyriaethau hyn o'r cychwyn cyntaf.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y gwaith mae'r tîm wedi'i wneud mewn perthynas â'r Gymraeg yn Atodiad 1 i'r adroddiad hwn.

Microsoft Teams

Cyflwynwyd Microsoft Teams ar ddiwedd 2020 i gynnal cyfarfodydd ar-lein yn fewnol ac yn allanol.

  • Mae'r holl gynnwys a chanllawiau hyfforddiant ar gyfer staff ar gael yn y Gymraeg.
  • Mae'r system hon yn caniatáu grwpiau trafod yn yr un ffordd â chyfarfodydd wyneb yn wyneb, gan ganiatáu i grwpiau Cymraeg gael eu hwyluso ar-lein.
  • Mae cefndiroedd cynhadledd wedi cael eu creu, sy'n cynnwys y logo Cymraeg ar gyfer staff sy'n siaradwyr Cymraeg i'w ddefnyddio mewn cyfarfodydd ar-lein gydag eraill er mwyn nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg.
  • Mae cefndiroedd cynhadledd Dysgwr Cymraeg hefyd wedi cael eu creu ar gyfer ein staff sy'n dysgu siarad Cymraeg ac yn teimlo'n ddigon hyderus i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn cyfarfodydd gydag eraill ar-lein.

Y nod yw cadw yr holl wybodaeth ynghylch galluoedd Cymraeg ein systemau TGCh mewn un lle. Bydd hyn yn helpu staff i ddeall pa systemau y gellir eu defnyddio yn y Gymraeg.

Arwyddion

Cyhoeddir canllawiau arwyddion a’r iaith Gymraeg ar y fewnrwyd i helpu sicrhau bod yr holl arwyddion parhaol a dros dro yn ddwyieithog ac yn cael eu gwirio gan ein tîm Cyfieithu am gywirdeb o ran ystyr a mynegiant.

Mae'n ofynnol i'r holl arwyddion newydd yn ein safleoedd hamdden gael awdurdodiad gan ein Cynghorydd Arbenigol ar Brofiad Ymwelwyr a’n Harbenigwr Dylunio Graffig, i sicrhau bod yr arwyddion yn unol â'n polisi brandio ac yn ddwyieithog gyda'r testun Cymraeg i'w weld uwchben neu i'r chwith o'r testun Saesneg. Caiff unrhyw seilwaith newydd rydym yn ei greu enw priodol, un ai yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, i adlewyrchu'r seilwaith, y safle, a hanes yr ardal.

Fel sefydliad, rydym yn aml yn cyfeirio at nodweddion topograffig ar arwyddion a phaneli dehongli ar ein safleoedd. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn adolygu ein canllawiau arwyddion i sicrhau bod y ffurf safonol gywir yn cael ei defnyddio ond hefyd i godi ymwybyddiaeth o'r ystyr a sut mae'r iaith ddisgrifiadol a ddefnyddir yn Gymraeg yn cysylltu'n ôl â sut y defnyddiwyd y tir/lle yn y gorffennol, gan ffurfio rhan o dreftadaeth iaith ac elfen bwysig o'n tirweddau i'w gwarchod ar gyfer y dyfodol. Mae'r gwaith hwn wedi'i gynnwys yn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer 2021/22 a geir yn Atodiad 6.

Templedi Microsoft hygyrch

Mae'r templedi Microsoft a ddefnyddir gan staff i ddrafftio llythyrau, cofnodion, adroddiadau, agendâu a phapurau ac ati wedi cael eu diweddaru i sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn ddwyieithog. Fel rhan o'r diweddariad, mae'r templed pennawd llythyr yn cynnwys ystyriaethau Cymraeg i helpu i sicrhau bod staff yn gohebu yn gychwynnol gydag eraill yn ddwyieithog os nad yw'r dewis iaith yn hysbys.

Mae ein canllawiau cyfieithu ar gyfer staff wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

Y cyfryngau cymdeithasol

Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol CNC ar Twitter, Instagram, Facebook a LinkedIn yn cael eu rheoli'n ganolog gan y tîm Cyfathrebu, sy'n sicrhau bod yr holl gynnwys yn cael ei ddiweddaru ar yr un pryd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hefyd nifer o gyfrifon Twitter a weithredir ac a reolir gan aelodau o staff sy'n postio negeseuon yn rhinwedd eu swydd. Yn ystod ein cyfarfod adborth blynyddol gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd rhai o'r cyfrifon hyn bob tro yn bodloni gofynion safonau 54-55, sy'n gofyn i ni gyhoeddi pob neges yn ddwyieithog.

Yn dilyn adolygiad o'r cyfrifon hyn, rydym yn bwriadu nodi y rhai sy'n rhoi negeseuon yn rheolaidd a darparu cymorth cyfieithu. Mae hyn yn rhan o adolygiad arfaethedig ehangach o'n platfformau cyfryngau cymdeithasol, ac un opsiwn sydd o dan ystyriaeth yw bod cyfrifon yn cael eu rheoli a'u gweithredu’n ddwyieithog gan y swyddogion cyfathrebu ym mhob lle a'u cefnogi gan y tîm gweithrediadau lleol. Dros fisoedd yr haf, bydd sesiynau hyfforddi yn cael eu cynnal gyda staff perthnasol i ddatblygu'r cynllun hwn, a bydd gofynion y Gymraeg yn cael eu tanlinellu.

Gwasanaethau rhybuddio a hysbysu ynghylch llifogydd

Mae'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd yn cynnwys y negeseuon rydym yn eu hanfon dros y ffôn, neges destun neu e-bost, yn Gymraeg neu Saesneg fel y gofynnwyd gan y derbynnydd. Mae'r negeseuon rhybudd hyn yn cael eu hategu gan y gwasanaethau canlynol:

  • Llinell Llifogydd 0345 988 1188 – gwasanaeth galwadau cyfradd leol lle gall galwyr wrando ar y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd, gwrando ar gyngor sydd wedi'i recordio ymlaen llaw, a hefyd siarad ag asiant hyfforddedig ar y ffôn i adrodd llifogydd neu gofrestru ar y gwasanaeth rhybuddio am lifogydd
  • Tudalen we Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru – lle rydym yn darparu crynodeb o berygl llifogydd posibl ledled Cymru ar gyfer y pum diwrnod nesaf
  • Tudalen we Rhybuddion Llifogydd – rydym yn darparu manylion pob rhybudd sydd mewn grym ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd
  • Mae pob un o'r gwasanaethau hyn ar gael yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Llinell Llifogydd

Ym mis Gorffennaf 2019, gwnaethom wella cynllun ffonio’r Llinell Llifogydd er mwyn ei gwneud yn haws i alwyr gael mynediad at ein gwasanaethau Cymraeg trwy gynnwys gwasanaeth asiant galwadau Cymraeg yn ystod oriau dydd yn ystod yr wythnos. Y tu allan i'r oriau hyn, neu os nad oes asiantau galwadau sy'n siarad Cymraeg ar gael, caiff galwyr y cynnig o adael neges i ofyn am alwad yn ôl yn Gymraeg, neu i gael eu cyfeirio at asiant galwadau sy'n siarad Saesneg yn lle.

Mae'r tabl isod yn dangos gostyngiad o 3.2% i 2.7% ymhlith y galwyr i'r Llinell Llifogydd sy’n dewis y gwasanaeth Cymraeg. Ar y llaw arall, bu cynnydd o 1.2% yng nghyfran y galwyr sy'n gwrando ar wybodaeth fyw am rybuddion llifogydd yn y Gymraeg.

2019 - 2020

Galwyr i’r Llinell Llifogydd Cymraeg Saesneg
Dewis iaith 276 (3.2%) 8,418
Gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw 87 (1.3%) 6,513
Galwadau i asiantau 0 1,136


2020 - 2021

Galwyr i’r Llinell Llifogydd Cymraeg Saesneg
Dewis iaith 234 (2.7%) 5,504
Gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw 93 (2.5%) 3,680
Galwadau i asiantau 0 1,031

Gwefan CNC – Rhybuddion Llifogydd a Gwasanaethau Perygl Llifogydd

Ym mis Hydref 2020, gwnaethom adnewyddu dyluniad ein gwefan i'w gwneud yn haws a chyflymach i'w defnyddio, gan sicrhau bod y dyluniad yn hollol gydnaws â'r Gymraeg.

Gofynnir i ymwelwyr ein gwefan ddewis eu hiaith ddewisol ac mae'r tabl isod yn dangos y bu cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'n tudalennau gwe rhybuddion llifogydd yn Gymraeg.

2019 - 2020

Golygfeydd gwefan Cymraeg Saesneg
Ymweliadau i dudalen we Rhybuddion Llifogydd 10,257 (0.95%) 1,067,767
Ymweliadau i dudalen we Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru 489 (0.73%) 66,570


2020 - 2021

Golygfeydd gwefan Cymraeg Saesneg
Ymweliadau i dudalen we Rhybuddion Llifogydd 9,362 (1.3%) 698,750
Ymweliadau i dudalen we Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru 784 (0.5%) 154,779

Cynlluniau am y dyfodol

  • Llinell Llifogydd – Rydym yn bwriadu gwella'r gwasanaeth hwn drwy ddatblygu gwasanaeth asiantau galwadau Cymraeg – a fydd ar gael waeth beth yw'r amser neu pa ddiwrnod ydyw trwy gyfeirio galwyr at staff CNC yn ein Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau, gyda gorlif galwadau i asiantau galwadau Saesneg os bydd angen. 
  • Negeseuon a Gwefan Rhybuddion LlifogyddElfen allweddol o'n gwasanaeth yw darparu gwybodaeth amser real i helpu pobl i ddeall eu perygl llifogydd uniongyrchol.  Mae hyn yn gofyn am y gallu i gyfieithu gwybodaeth yn gywir yn Gymraeg. Rydym yn bwriadu archwilio opsiynau am ddatblygu'r galluedd cyfieithu hwn fel y gallwn ddarparu gwybodaeth fwy manwl a defnyddiol – gan nodi nad oes llawer o le ar gyfer camgymeriadau wrth gyfieithu mewn gwasanaeth sydd â’r potensial i achub bywydau. 
  • Gwasanaeth Rhybuddio – Mae llai na 1% o'n derbynwyr rhybuddion wedi cofrestru i dderbyn gwybodaeth yn y Gymraeg.  Ar ôl cwblhau'r gwelliannau i’r Llinell Llifogydd, rydym yn bwriadu cynnal gweithgareddau i hyrwyddo ein darpariaeth Gymraeg i gynyddu defnydd ohoni.

Gwefan

Fel rhan o'n gwaith i sicrhau bod y wefan yn hygyrch i bawb, gyda mwy o gynnwys yn cael ei gyhoeddi fel tudalennau gwe, mae hyn wedi cynyddu'r wybodaeth sydd ar gael ar y wefan yn y Gymraeg.  Mae'r tîm hefyd yn monitro cydymffurfiaeth â'r safonau, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi'n ddwyieithog.

Am y tro cyntaf, rydym wedi cynnal ymchwil benodol i ddefnyddwyr Cymraeg i lywio datblygiad gwasanaethau digidol yn y dyfodol, ac rydym hefyd yn cymryd rhan yn weithredol gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol newydd, sydd wedi datblygu safonau newydd ar gyfer gwasanaethau digidol. Rydym yn rhan o'r gymuned ymarfer, yn rhannu diweddariadau ynglŷn â sut rydym yn cychwyn profi dyluniadau newydd yn y Gymraeg fel y gallwn ddylunio gwasanaethau dwyieithog y mae pobl yn dewis eu defnyddio. Gellir dod o hyd i ystadegau ar niferoedd sydd wedi cael mynediad at ein gwefan drwy'r Gymraeg yn Atodiad 2 i'r adroddiad hwn.

Mae sut yr ydym yn gweithredu a chydymffurfio â safonau’r Gymraeg yn Atodiad 7 i’r adroddiad hwn.

Safonau llunio polisïau

Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae mesurau ein Dangosfwrdd Cynllun Busnes wedi cynnwys adolygu ein Hasesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a chanllawiau. Mae'r Gymraeg yn rhan o'r ystyriaethau o fewn yr asesiad, yn yr un modd â’r hyn sy'n ofynnol yn Safonau 84, 85 ac 86.

Mae cwestiynau a chanllawiau newydd wedi eu drafftio i helpu staff i ddeall yr effaith y gallai'r cynnig ei chael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg wrth gwblhau'r asesiad, drwy:

  • ystyried natur ieithyddol y gymuned a’r ardal leol y gallai y cynnig effeithio arni
  • sicrhau ein bod yn rhagweithiol wrth ddarparu dewis iaith real a sut mae pobl yn cael mynediad at ein holl wasanaethau a'u defnyddio
  • sicrhau bod yr ieithoedd yn cael eu trin yn gyfartal a bod y gwasanaethau bob tro ar gael yn y ddwy iaith i'r un safon
  • ystyried a oes unrhyw gyfleoedd i gadw, hyrwyddo a gwella diwylliant a threftadaeth leol, neu annog pobl i ddysgu'r iaith fel rhan o'r cynnig
  • rhoi'r un ystyriaethau â'r uchod i unrhyw gynigion a wnawn yn ein gweinyddiaeth fewnol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i'n staff weithio drwy gyfrwng y Gymraeg os dymunant

Mae'r gofyniad i gwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb wedi'i ymgorffori o fewn ein Pecyn Cymorth Rheoli Prosiect ac yn ofyniad i unrhyw gynnig newydd neu ddiwygiedig sydd angen cymeradwyaeth y Bwrdd fel rhan o'n gweithdrefnau llywodraethu.

Safonau gweithredol

Mae pob aelod newydd o staff yn mynychu cwrs cynefino ac yn derbyn cyflwyniad i godi ymwybyddiaeth o’r safonau Cymraeg sydd gennym, ein polisi iaith mewnol, a’n rhaglen hyfforddiant Cymraeg, sy’n ofynnol yn ôl Safonau 127, 128 a 129.  Mae'r cyflwyniad yn helpu staff newydd i ddeall beth yw ein dyletswyddau deddfwriaethol, a pha gymorth sydd ar waith i helpu ein holl staff i weithio'n ddwyieithog.

Mae'r cwrs cynefino yn hanfodol ar gyfer pob aelod newydd o staff gyda 257 yn mynychu tri chwrs wyneb yn wyneb a chwech ar-lein o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Mae'n ofynnol i reolwyr llinell fynd drwy restr wirio gyda phob aelod newydd o staff, ac mae ein polisi a chanllawiau ar Safonau'r Gymraeg ar y rhestr.  Gofynnir i reolwyr llinell sicrhau bod gan bob aelod newydd o staff lofnodion e-bost dwyieithog, yn ogystal â neges allan o'r swyddfa ddwyieithog. Gofynnir hefyd i bob aelod newydd o staff hunanasesu ei sgiliau iaith a'u cofnodi yn MyNRW fel rhan o'r broses. Llofnodir y rhestr wirio hon gan yr aelod o staff a'r rheolwr llinell a chaiff ei hanfon at ein Gwasanaethau Pobl i'w ffeilio. Mae Gwasanaethau Pobl yn anfon nodyn atgoffa i reolwyr llinell sydd heb gwblhau'r rhestr wirio bob chwe mis.

Rhaglen Hyfforddiant Cymraeg

O fewn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r diwrnod gwaith wedi newid yn sylweddol wrth i’r rhan fwyaf o staff gael eu cyfarwyddo i weithio gartref o ganlyniad i COVID-19. O ystyried y cynnwrf mae COVID-19 wedi'i greu a'r addasiadau yr oedd yn rhaid i staff eu gwneud, bydd llawer o ddysgwyr yn edrych i ailymuno â'r rhaglen hyfforddiant unwaith y bydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio.

Yn ystod cyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud, cafodd y cyrsiau eu symud ar-lein gennym, gan alluogi staff i barhau i ddatblygu eu sgiliau iaith. Roedd angen ystyried y canolbwyntio ychwanegol oedd ei angen ar-lein, yr hyn oedd yn rhesymol ei ddisgwyl gan ddysgwyr o ystyried rhai cyfrifoldebau ychwanegol, a’r angen am egwyliau mwy rheolaidd yn ystod y gwersi.

Mae adborth gan staff ar yr hyfforddiant ar-lein wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mae cyrsiau ar-lein yn debygol o barhau i gael eu cynnig yn y dyfodol gyda gwersi wyneb yn wyneb o bryd i'w gilydd i helpu staff i atgyfnerthu’r hyn sydd wedi’i ddysgu ganddynt. Bydd hyn yn darparu mwy o opsiynau i staff ynghylch sut maent yn dewis datblygu eu sgiliau iaith i weddu i'w harddull nhw o ddysgu.

Mae 161 o aelodau staff wedi mynychu hyfforddiant Cymraeg ar lefelau amrywiol. Mae hyn 36 yn llai na'r llynedd ond:

  • Mae 56% (90) o'r dysgwyr presennol wedi cychwyn dysgu Cymraeg eleni
  • Mae'r rhan fwyaf o'n dysgwyr wedi'u lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru (24% (38)) a Gwent (24% (38)).
  • Mae 18% (29) o'n dysgwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu bron iawn â bod.
  • Os yw'r 17% (28) sy'n dysgu ar hyn o bryd ar lefel Canolradd yn parhau i ddysgu Cymraeg, byddant yn siaradwyr Cymraeg rhugl mewn tair i bedair blynedd.

Byddwn yn parhau i annog staff i ddatblygu eu sgiliau iaith ar bob lefel.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein hyfforddiant Cymraeg yn Atodiad 3 i'r adroddiad hwn.

MyNRW

Mae Safon 100 yn ei gwneud yn ofynnol fod staff yn gallu cofnodi absenoldebau yn Gymraeg. Rydym erbyn hyn wedi gallu diweddaru'r system i sicrhau bod absenoldebau staff ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Recriwtio

Mae'r polisïau a gweithdrefnau recriwtio wedi cael eu hadolygu i gynnwys ystyriaethau o ran y Gymraeg. Mae'r newidiadau yn egluro ein cyfrifoldebau yn gliriach i reolwyr recriwtio wrth sicrhau bod gan ymgeiswyr hawl i apelio a chael cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod yn rhaid trefnu i aelodau fod yn bresennol ar y panel cyfweliad sy’n siarad Cymraeg i gynnal cyfweliadau cyfrwng Cymraeg yn unol â gofynion Safon 134.  

Templedi Microsoft

Mae gennym lawlyfr brand ar waith sy'n cynnwys templedi Microsoft y mae'n ofynnol i staff eu defnyddio ar gyfer dogfennau a llythyrau ac ati. Mae'r rhain wedi cael eu diweddaru dros y flwyddyn ac mae'r templed pennawd llythyr yn cynnwys ystyriaethau Cymraeg wrth ohebu ag eraill. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod staff yn gohebu yn ddwyieithog pan fyddant yn ansicr o ddewis iaith eraill, sy’n ofyniad Safon 7.

Safonau cadw cofnodion

Cydymffurfio â safonau'r Gymraeg

Mae’r safonau Cymraeg sydd gennym yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi’r canlynol:

1. Nifer y cyflogeion sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â Safon 145

Mae ein cofnodion yn dangos bod 24% (535) o'n staff yn siaradwyr Cymraeg rhugl, a bod 13.9% (310) yn rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig. Dros y flwyddyn, rydym wedi cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl, gan gyflogi 49 o aelodau staff ychwanegol sy’n siaradwyr Cymraeg rhugl drwy recriwtio allanol. Nid yw'r cynnydd canrannol o'r llynedd yn adlewyrchu'r cynnydd hwn o ganlyniad i’r cynnydd yn niferoedd cyffredinol ein staff.

Mae gennym siaradwyr Cymraeg rhugl ar Lefel 4 a 5 ym mhob un o'n cyfarwyddiaethau sy'n gallu darparu gwasanaeth dwyieithog, gyda'r mwyafrif (330) wedi'u lleoli o fewn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Dyma'r maes busnes sy'n dod i gyswllt â'r cyhoedd, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid, ac sy’n delio â nhw, yn rheolaidd. Mae cael siaradwyr Cymraeg rhugl wedi'u lleoli ar draws y gyfarwyddiaeth gyfan yn bwysig wrth adeiladu'r perthnasau pwysig hynny ac ymddiriedaeth, gan barchu dewis iaith y rhai rydym yn delio â nhw.

Canfu ein ystadegau diweddaraf fod sgiliau iaith ein gweithlu wedi cynyddu o'r llynedd fel a ganlyn:

Lefel 1 = 915 (cynnydd o 90)

Lefel 2 = 438 (cynnydd o 26)

Lefel 3 = 153 (cynnydd o 17)

Lefel 4 = 225 (cynnydd o 14)

Lefel 5 = 310 (cynnydd o 35)

Dros y tair blynedd, mae gallu ieithyddol ein gweithlu wedi cynyddu ar bob lefel, gyda 95.1% o staff yn gallu dangos cwrteisi ieithyddol trwy gyfarch eraill yn ddwyieithog. Dyma’r lefel isaf sy’n ofynnol gan ein holl staff o fewn y sefydliad hefyd.

Gellir gweld mwy o wybodaeth am sgiliau Cymraeg y staff yn Atodiad 4 i’r adroddiad hwn.

2. Nifer y staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd drwy'r Gymraeg yn ystod y flwyddyn, ar sail y cofnodion a gadwyd, yn unol â Safon 146. Os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn ystod y flwyddyn, canran cyfanswm y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg, ar sail y cofnodion a gadwyd, yn unol â Safon 124

Dros y flwyddyn ddiwethaf, canslwyd nifer fawr o gyrsiau o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19. Mae cyrsiau technegol ar-lein wedi parhau fel arfer, yn ogystal â'n cyrsiau hyfforddiant corfforaethol gorfodol.  Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, ni wnaethom ddarparu unrhyw hyfforddiant ar gyfer y cyrsiau canlynol, sydd yn ofynion Safon 124, yn Gymraeg nac yn Saesneg, a byddwn yn anelu at gynnal cyrsiau dros y flwyddyn nesaf: -

  • recriwtio a chyfweld
  • rheoli perfformiad
  • cwynion a gweithdrefnau disgyblu
  • cwrs cynefino
  • delio â'r cyhoedd
  • iechyd a diogelwch

Mae'r Tîm Dysgu a Datblygu yn y broses o ddiwygio eu prosesau a gweithdrefnau mewn perthynas â threfnu lle ar gyrsiau.  Bydd y ffurflen newydd ar gyfer trefnu lle ar gyrsiau yn gofyn staff am yr iaith o’u dewis ar gyfer mynychu'r cwrs. Pan ddarganfyddir bod clwstwr o staff yn dymuno mynychu cwrs cyfrwng Cymraeg, bydd y tîm yn ceisio darparu y cwrs penodol hwnnw drwy'r Gymraeg ar yr amod y gellir dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant sy'n siarad Cymraeg.

3. Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn a gafodd eu categoreiddio fel rhai lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, lle maent yn ddymunol, lle mae angen eu dysgu ar ôl cael eich penodi i'r swydd, neu lle nad oeddent yn angenrheidiol, ar sail y cofnodion a gadwyd ac yn unol â Safon 148

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi hysbysebu 569 o swyddi gwag i gyd, gyda 289 ohonynt yn symudiadau mewnol a 280 wedi'u hysbysebu'n allanol. Caiff pob swydd ei hysbysebu yn defnyddio lefelau ALTE Cymraeg o Lefel 1 i Lefel 5, pa bynnag un sydd fwyaf priodol ar gyfer y rôl yn dilyn asesiad.

Mae'r Gymraeg yn cael ei hysbysebu'n hanfodol ar gyfer yr holl swyddi a hysbysebir ar Lefel 1, oherwydd dyma'r lefel iaith isaf sydd ei hangen ar holl staff ein sefydliad i ddangos cwrteisi ieithyddol. Rhoddir hyfforddiant i staff sydd angen cyrraedd y lefel hon o ddealltwriaeth.

Mae'r tîm recriwtio yn sicrhau bod pob swydd newydd neu wag yn cael ei hasesu ar gyfer y lefel Gymraeg sy’n ofynnol cyn iddi gael ei hysbysebu trwy anfon e-bost cadarnhau gan Gynghorydd Polisi'r Gymraeg at y rheolwyr recriwtio.

Mae ein Cydlynydd Hyfforddiant Cymraeg yn cysylltu â staff sydd angen datblygu eu sgiliau iaith fel amod o'u penodiad, gan gysylltu â'r aelod o staff i ddod o hyd i gwrs a dyddiad cychwyn addas. Mae ein cydlynydd yn cadw mewn cysylltiad â'r holl ddysgwyr ac yn rhoi cymorth ychwanegol os bydd angen. Mae gennym dudalen Yammer ar gyfer dysgwyr gydag awgrymiadau i gefnogi eu dysgu, ac awgrymiadau o raglenni Cymraeg i'w gwylio neu wrando arnynt. Mae cyrsiau hefyd wedi'u trefnu dros egwyl yr haf i helpu dysgwyr i gynnal eu sgiliau Cymraeg. Mae gennym hefyd gynllun mentora lle gall ein dysgwyr ymarfer siarad Cymraeg yn anffurfiol gyda chydweithiwr yn rheolaidd.

Dros y flwyddyn nesaf, ein nod yw cefnogi staff nad ydynt yn bodloni’r lefel iaith sy’n ofynnol, sef Lefel 1, i gwblhau'r cwrs deg awr ar-lein a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i'w helpu i gyrraedd y lefel hon.

Nid yw swyddi'n cael eu hysbysebu ar Lefel 2, defnyddir hyn ar gyfer asesu lefelau iaith yn unig.

Roedd nifer y swyddi a hysbysebwyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn fel a ganlyn:

Lefel iaith Hanfodol Dymunol Angen dysgu Cymraeg

Lefel 5 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

5

5

0

Lefel 4 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar

47

53

6

Lefel 3 – Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg gyda hyder mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

8

79

14

Lefel 1 – Y gallu i ynganu enwau, ymadroddion a chyfarchion Cymraeg sylfaenol

352

0

0

Mae dadansoddiad o'r ystadegau uchod a gallu ieithyddol staff a gafwyd rolau o symudiadau mewnol a recriwtio allanol yn ystod y cyfnod adrodd hwn yn dangos y gallu canlynol yn y Gymraeg:

  • 73 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 5
  • 37 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 4
  • 47 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 3
  • 94 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 2
  • 288 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 1
  • Nid oes gan 30 unrhyw sgiliau Cymraeg

4. Nifer y cwynion a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn a oedd mewn perthynas â chydymffurfio â safonau 152, 156, 162 a 164, sef safonau mae gennym ddyletswydd i gydymffurfio â nhw

Derbyniwyd dwy gŵyn gan aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas â'r safonau dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hyn i lawr o bum cwyn a dderbyniwyd y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r cwynion fel a ganlyn:

  • Ym mis Gorffennaf 2020, derbyniwyd cwyn gan aelod o'r cyhoedd a oedd wedi derbyn llythyr gennym yn Saesneg yn unig, ar adeg pan oedd eu hiaith ddewisol yn anhysbys a dylid ei fod wedi'i anfon yn ddwyieithog. Atgoffwyd y tîm a anfonodd yr ohebiaeth i gychwyn o'n dyletswyddau, polisïau a gweithdrefnau wrth gychwyn gohebiaeth gyda'r cyhoedd.
  • Ym mis Tachwedd 2020, derbyniwyd cwyn nad oedd ymateb wedi'i dderbyn ar opsiwn cyfrwng Cymraeg "Llinell Llifogydd y DU" am 1.20am. Rhoddwyd y cwsmer i ddisgwyl am chwarter awr a phenderfynodd ail-ffonio a dewis y gwasanaeth Saesneg, lle derbyniwyd gwasanaeth yn syth.

Ymchwiliodd ein tîm Digwyddiadau Llifogydd i'r mater a darganfuwyd y bu gwall technegol ar y pryd a achosodd i'r neges Gymraeg oedd wedi'i recordio ymlaen llaw yn egluro nad oedd siaradwr Cymraeg ar gael a bod yr alwad yn cael ei throsglwyddo i asiant a oedd yn siarad Saesneg beidio cael ei chwarae i'r cwsmer.

Rydym yn parhau i weithio gyda Llinell Llifogydd y DU i sicrhau bod gwasanaeth Cymraeg ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Rydym yn parhau i dderbyn cwynion gan staff pan mae pob neges e-bost a anfonir i grŵp mawr o staff yn cael eu hanfon yn Saesneg yn unig.  Pan mae hyn yn digwydd, trafodir y mater gyda'r tîm dan sylw a chânt eu hatgoffa o'n polisi iaith mewnol a chefnogaeth ein tîm cyfieithu ac y gall cynllunio ymlaen llaw osgoi amgylchiadau o'r fath yn y dyfodol.

Hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymreig

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dathlu sawl digwyddiad yn rhithwir, gan weithio'n agos gyda'r Tîm Cyfathrebu i hyrwyddo'r Gymraeg a threftadaeth Cymru yn fewnol ac yn allanol.

Eisteddfod Rithiol Awst 2020

  • Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol a digwyddiadau ar-lein yn ystod y digwyddiad eu hyrwyddo ar ein cyfryngau cymdeithasol drwy'r wythnos. Gwnaethom rannu syniadau am weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan i'w hannog i fod yn greadigol ac i ddysgu mwy am yr amgylchedd.

Diwrnod Shwmae/Su’mae ar 15 Hydref 2020:

  • Negeseuon ar Yammer i annog a herio dysgwyr i siarad Cymraeg yn y gwaith / mewn cyfarfodydd, darllen llenyddiaeth neu gylchgronau Cymraeg, a gwrando ar y Gymraeg ar y teledu neu'r radio.

Diwrnod hawliau'r Gymraeg ar 7 Rhagfyr 2020:

  • Neges ar y fewnrwyd yn hysbysu staff CNC am eu hawliau Cymraeg.
  • Cyhoeddwyd fideos a recordiwyd gan aelod o'n Tîm Gweithredol, Tîm Arwain ac Arweinydd Tîm ar y cyfryngau cymdeithasol yn egluro pwysigrwydd y Gymraeg i'w bywydau gwaith a phreifat.

Diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr 2021:

  • Negeseuon ar Yammer yn annog dysgwyr i siarad Cymraeg yn y gwaith neu gartref.
  • Erthygl ar y fewnrwyd yn egluro stori tarddiad/hanes Dwynwen.

Dydd Miwsig Cymru 5 Chwefror 2021

  • Hyrwyddodd staff y diwrnod hwn ar grŵp Yammer yr holl aelodau staff trwy rannu eu hoff gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys staff yn rhannu eu talentau cerddorol, caneuon a cherddoriaeth eu hunain yr oeddent wedi'u recordio eu hunain. Roedd y rhain yn negeseuon poblogaidd a ddaeth â siaradwyr Cymraeg a siaradwyr di-Gymraeg at ei gilydd drwy gerddoriaeth Gymraeg, yn trafod sut oedd y gerddoriaeth yn gwneud iddynt deimlo a'r digwyddiadau yn eu bywydau a oedd y gerddoriaeth a'r caneuon yn eu hatgoffa ohonynt.

Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2021:

  • Negeseuon ar Yammer yn annog dysgwyr i siarad Cymraeg ac archwilio traddodiadau Cymreig.
  • Erthygl ar y fewnrwyd yn egluro tarddiad Dewi Sant a mwy o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg a gefnogir gan CNC.
  • Fideo a grëwyd gan aelod o'n Tîm Cyfathrebu ac a gyhoeddwyd ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo'r neges "gwnewch y pethau bychain" o ran yr hyn y gallwn i gyd ei wneud i helpu i atal y newid yn yr hinsawdd. Dyma un o'r ymadroddion adnabyddus a ddefnyddir yn y Gymraeg a ddefnyddiwyd gan nawdd sant Cymru, Dewi Sant, yn fuan cyn ei farwolaeth.

Cynllun Gweithredu 2020–21

Roedd cyfanswm o 21 o gamau gweithredu gan y Cynllun Gweithredu ar gyfer 2020–21, ac, allan o'r camau, fe gwblhawyd deg, gyda deg ar waith ac un heb ei gwblhau. Mae rhai o'r camau sydd ar waith a heb eu cwblhau o ganlyniad i flaenoriaethau gwaith eraill a chyfyngiadau COVID-19. Bydd y camau sydd ar waith yn rhan o'r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2021–22.

Gellir dod o hyd i'r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2020–21 yn Atodiad 5 i'r adroddiad hwn.

Cynllun Gweithredu 2021–22

Gellir dod o hyd i'r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2021–22 yn Atodiad 6 i'r adroddiad hwn.

Y camau gweithredu â blaenoriaeth fydd:

  • Datblygu proses haws i asesu lefelau iaith swyddi gwag
  • Adolygu ein polisi ar y safonau i gynnwys ein gweithdrefnau monitro
  • Parhau ein gwaith o ddatblygu strategaeth ac adolygu ein polisi iaith mewnol

Strategaeth y Gymraeg

Mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i ddatblygu strategaeth tymor hir ar gyfer y Gymraeg i CNC; nid yw hyn yn ofynnol yn ôl y safonau sydd gennym ond yn rhywbeth rydym yn dymuno ei wneud fel sefydliad sydd yn dangos ein hymrwymiad i'r Gymraeg. Bydd hyn yn ein darparu â gweledigaeth ar gyfer yr iaith a chynllun i ddangos sut byddwn yn datblygu ein hunain i fod yn sefydliad lle caiff y Gymraeg ei siarad, ei chlywed a'i gweld, nid yn ein trafodion gydag eraill yn unig, ond yn naturiol ymhlith ein staff ein hunain. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i staff weithio'n ddwyieithog, cynnal mwy o gyfarfodydd dwyieithog, a mynychu cyrsiau hyfforddi cyfrwng Cymraeg, a bydd yn cefnogi datblygiad staff ar gyfer y dyfodol.

Hyd yn hyn, mae'r gwaith sydd wedi'i gynnal i ddatblygu'r strategaeth fel a ganlyn:

  • Trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a Heddlu Gogledd Cymru ar ddatblygu eu strategaethau ar gyfer y Gymraeg
  • Arolwg Prosiect Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021 ar gyfer staff a rhanddeiliaid, sy’n cynnwys cwestiwn ar sut y gallwn ddatblygu ein hunain i fod yn sefydliad mwy dwyieithog
  • Dechrau gwaith gyda'r Tîm Gwelliant Parhaus ar opsiynau ar sut i asesu lefel iaith pob rôl o fewn y sefydliad yn dilyn canllawiau Comisiynydd y Gymraeg

Y camau nesaf fydd cynnal trafodaethau gyda staff a'r undebau llafur, gan ofyn iddynt am eu barn a'u safbwyntiau ar ddatblygu’r strategaeth.

Y man cychwyn ar gyfer y strategaeth fydd mapio sgiliau ieithyddol presennol ein staff, gan asesu lefel ieithyddol ar gyfer pob rôl gan ddefnyddio canllawiau sydd ar waith. Bydd hyn yn rhoi gwir ddadansoddiad i ni o anghenion ieithyddol y sefydliad a chynllun ar sut i lenwi'r bylchau hynny yn y dyfodol.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ein hanghenion busnes o safbwynt y Gymraeg yn cyfateb i'r gallu ym mhob gweithle ac yn ein helpu i fod yn sefydliad sy'n barod am y dyfodol yn unol ag uchelgais strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050.

Mae ein Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Strategaeth a Datblygu Corfforaethol, Pennaeth Cyfathrebu a Chysylltiadau Allanol, a Phennaeth Datblygu Sefydliadol yn mynychu cwrs Academi Wales ar ddatblygu a thrawsnewid diwylliannau sefydliadau i gefnogi’r defnydd beunyddiol o'r Gymraeg. Bydd y cwrs hwn yn parhau yn 2021–22.

Cymraeg 2050

Drwy ein gwaith yn gweithredu ac yn gwella ein gwasanaethau Cymraeg, dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cyfrannu at gynllun gweithredu strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020–21 drwy wneud y canlynol:

  • Darparu cyfleoedd ar gyfer staff i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol at ddibenion gwaith. Mae hyn yn cynyddu ein gallu i gael mwy o staff sy'n gallu darparu gwasanaethau yn ddwyieithog yn y dyfodol.
  • Annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u gwaith, gan helpu i ddatblygu hyder yn defnyddio sgiliau ieithyddol ar lafar ac ysgrifenedig mewn modd mwy ffurfiol.
  • Sicrhau bod gennym siaradwyr Cymraeg ym mhob un o'n gweithleoedd i allu darparu gwasanaeth dwyieithog.
  • Cyfrannu drwy sicrhau fod gan addysgwyr sgiliau i addysgu pynciau amgylcheddol drwy gyfrwng y Gymraeg yn defnyddio'r termau a'r enwau cywir, drwy ein cyrsiau hyfforddi a ddarperir gan y Tîm Iechyd ac Addysg gyda'r sector addysg.
  • Hyrwyddo diwylliant a digwyddiadau Cymraeg i gynulleidfa eang drwy weithredu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol dwyieithog, gan godi ymwybyddiaeth fod Cymraeg yn iaith fyw sy'n cael ei siarad.

Perygl diffyg Cydymffurfio

Prynu Trwyddedau Pysgota ar Wefan .gov

Mae hwn yn un maes nad yw’n cydymffurfio o hyd a chafodd ei drafod yn ystod ein cyfarfod adborth blynyddol gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Gweinyddir pryniannau trwyddedau pysgota gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar ein rhan, a cynhelir y gwasanaeth ar y wefan .Gov. Mae'r holl wybodaeth ar y wefan yn Saesneg yn unig, ac er bod cwsmeriaid sy'n byw yng Nghymru yn derbyn trwydded bysgota ddwyieithog, nid ydynt yn gallu cael mynediad at wybodaeth neu brynu trwydded yn Gymraeg ar y wefan neu dros y ffôn. Mae trwyddedau pysgota yn parhau i gael eu gwerthu mewn swyddfeydd post lleol.

Mae staff y comisiynydd wedi cynnal trafodaethau gyda .Gov i'w helpu i feithrin dealltwriaeth o'r gofyniad cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae'r comisiynydd hefyd wedi bod yn cydweithio â ni, gan roi cyngor a rhannu arferion gorau i'n helpu ni yn ein hymdrechion i ddod o hyd i ddatrysiad.

Ynghyd â'n Tîm Cyfathrebu Digidol, rydym yn cynnal trafodaethau gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ac ein nod dros y flwyddyn nesaf yw cyfieithu'r tudalennau a sicrhau bod gwasanaeth dwyieithog ar-lein a dros y ffôn ar gyfer cwsmeriaid.

Casgliad

Fel sefydliad, rydym yn falch o'r cynnydd parhaus sy'n cael ei wneud wrth weithredu a gwella ein gwasanaethau Cymraeg. Gyda'r nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl yn cynyddu o fewn y sefydliad bob blwyddyn, mae'n bwysig i ni ein bod yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer staff i weithio yn yr iaith y maent yn teimlo fwyaf cyfforddus a hyderus i'w defnyddio.

Mae'r cyrsiau hyfforddi Cymraeg yn boblogaidd ac, fel sefydliad, byddwn yn parhau i gefnogi ein staff sydd yn datblygu eu sgiliau iaith ac yn gwerthfawrogi'r ymrwymiad personol a roddir ar eu taith i ddod yn siaradwyr Cymraeg. Byddwn yn parhau i gefnogi ein staff i sicrhau bod pawb yn gallu cyfarch ein cwsmeriaid a'r partneriaid rydym yn gweithio gyda nhw yn ddwyieithog i ddangos cwrteisi ieithyddol.

Eleni mae nifer y cwynion wedi gostwng, ac fel sefydliad rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd drwy ystod yr argyfwng COVID-19. Roeddem yn falch o dderbyn adborth cadarnhaol o faint y gwerthfawrogwyd yr ymdrech a roddwyd i sicrhau bod cyfarfodydd a chyrsiau hyfforddi yn cael eu darparu'n ddwyieithog ar gyfer y cyhoedd ar-lein. Trwy flaengynllunio a rhoi ystyriaeth o'r cychwyn, mae'n dangos ei bod yn bosibl gweithio'n ddwyieithog yn naturiol.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i ymgorffori ystyriaethau o safbwynt y Gymraeg yn ein ffyrdd o weithio ac yn edrych am ffyrdd o hyrwyddo, hwyluso ac annog mwy o bobl i ddefnyddio ein gwasanaethau Cymraeg.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yn dilyn cyngor Comisiynydd y Gymraeg i ddatblygu gwasanaeth prynu trwyddedau pysgota dwyieithog ar-lein a dros y ffôn ar gyfer ein cwsmeriaid.

Fel sefydliad, rydym am ddatblygu strategaeth tymor hir ar gyfer y Gymraeg. Edrychwn ymlaen at ddatblygu y strategaeth hon, a fydd yn rhoi gweledigaeth a chynllun i ni o ran sut byddwn yn datblygu ein hunain i fod yn sefydliad lle caiff y Gymraeg ei siarad, ei chlywed a'i gweld yn naturiol yn ein holl waith a thrafodion ag eraill, gan gynnwys darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer ein staff i weithio'n ddwyieithog yn fewnol. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu yn ein gweledigaeth i fod yn sefydliad naturiol ddwyieithog.

Atodiad 1 - Tîm Addysg ac Iechyd

Gwaith iechyd

  • Blogiau dwyieithog i helpu pobl gyda'u hiechyd a lles yn ystod COVID-19 a phwysigrwydd defnyddio amgylchedd yr awyr agored.
  • Creu posteri dwyieithog yn egluro’r hyn y mae gan yr amgylchedd naturiol i’w gynnig o safbwynt bod yn "benderfynydd ehangach iechyd".

Gwaith addysg

Defnyddiwyd Tocyn Cymru gan y tîm i gadw lle yn y digwyddiad ar-lein "Plentyndod Naturiol – Hyfforddiant Blynyddoedd Cynnar yn yr Awyr Agored", a gynhaliwyd fis Ionawr 2021. Gwnaeth defnyddio'r system hon leihau'r gwaith gweinyddol oedd ei angen o ganlyniad i allu dwyieithog y system i gadarnhau apwyntiadau, gyda gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs wedi’i rhestru ar daenlen.

Mae dolen uniongyrchol i'r digwyddiad ar Tocyn Cymru isod:

Tudalen Saesneg

Tudalen Gymraeg

Cynigiwyd hyfforddiant yn un ai'r Gymraeg neu'r Saesneg gan y tîm, a dderbyniodd adborth cadarnhaol fod yr iaith a ddefnyddiwyd yn glir ac yn hawdd i bawb ei deall.

  • Mae grŵp dysgu yn yr awyr agored Casnewydd yn creu pecyn i helpu grwpiau/ysgolion i wneud y mwyaf o'r awyr agored – mae CNC wedi'u cyfieithu. Bydd y rhain ar gael ar wefan Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru.
  • Mae Prifysgol De Cymru wedi creu pecyn dysgu yn seiliedig ar "Y Geiriau Diflanedig" (llyfr barddoniaeth). Mae myfyrwyr Blynyddoedd Cynnar wedi datblygu pecyn cymorth ar gyfer addysgwyr sy’n cynnwys syniadau ar sut i wneud gweithgareddau ynghylch “Y Geiriau Diflanedig” yn yr awyr agored. Gweithiodd CNC mewn partneriaeth a chyfieithodd y pecyn cymorth, sydd ar gael ar wefan Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru.
  • Llyfr DRY: Diary of a Water Superhero, sy’n egluro y mathau o sychder rydym yn eu cael a pha effaith maent yn ei chael ar yr amgylchedd naturiol yn y DU, gan Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, i hybu trafodaeth ar sut y gallwn baratoi ar gyfer cyfnodau o dywydd sych a’r hyn y gall unigolion ei wneud i arbed dŵr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi talu am fersiwn Gymraeg o'r adnodd hwn a nodiadau ar gyfer athrawon.
  • Rhwng mis Mawrth a mis Medi 2020, rhannwyd syniadau am weithgareddau i'w gwneud gartref fel teulu ar wefan Dysgu yn yr Awyr Agored a chyfrifon Twitter a Facebook CNC yn ddwyieithog.
  • Rhoddwyd hysbysiad ar Radio Cymru yn gofyn am jôcs sy'n ymwneud â'r amgylchedd naturiol a'u rhannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Siartr Hawliau Plant CNC ar gael yn y Gymraeg.
  • Siaradodd staff ar Radio Cymru ar bwysigrwydd plant yn cael cyswllt â natur, yn ogystal â thrafod digwyddiadau hyfforddi y mae staff wedi bod yn eu cynnal.
  • Hyfforddiant ar sut mae enwau coed Cymraeg wedi dylanwadu ar enwau lleoedd, e.e. Betws-y-coed, Llwyncelyn, Aberaeron, Pentreffwrndan.
  • Cylchlythyr Addysg a Dysgu dwyieithog.
  • Fideos dwyieithog a grëwyd yn dangos sut i gyflawni gweithgareddau – y rhain ar gael ar restr chwarae Gymraeg ar YouTube.
  • Erthyglau ynglŷn â'r amgylchedd naturiol yn y Cliciadur / Clic It Cymru – cylchlythyr ar gyfer plant ysgol ieuengach.
  • Crëwyd fideo dwyieithog i roi syniadau i rieni ynglŷn â sut i ddefnyddio'r amgylchedd naturiol i ddysgu er mwyn ddathlu'r Eisteddfod rithwir ym mis Awst 2020, ac fe'i rhannwyd ar ein cyfryngau cymdeithasol.
  • Crëwyd fideo Cymraeg gydag is-deitlau Saesneg yn dangos y gall dysgu yn yr awyr agored ddigwydd drwy gydol y flwyddyn gyda'r dillad cywir gyda Chylch Meithrin Sarnau a Llandderfel. Mae hwn wedi'i rannu ar system fewnol Mudiad Ysgolion Meithrin i'r holl aelodau ei weld ac fe'u hybir i fod yn aelodau o Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru.

Atodiad 2 - Ystadegau ar dudalennau Cymraeg y wefan

Cyfanswm ymweliadau â thudalennau: 44,595 (nifer o weithiau mae ymwelydd wedi edrych ar dudalennau ein gwefan)

Cyfanswm yr ymweliadau unigryw: 34,820 (nifer o weithiau mae ymwelydd wedi edrych ar dudalen benodol)

Tudalennau gyda'r mwyaf o ymweliadau yn y Gymraeg 

  • Hafan – 4,892 o ymweliadau / 4,124 o ymweliadau unigryw
  • Tudalen lanio rhestr swyddi – 1,957 o ymweliadau / 1,430 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Gwirio rhybuddion llifogydd – 1,260 o ymweliadau / 885 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Tudalen lanio llifogydd – 813 o ymweliadau / 590 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Tudalen lanio swyddi a lleoliadau – 777 o ymweliadau â'r dudalen / 661 o ymweliadau unigryw â'r dudalen

Y prif atgyfeirwyr at dudalennau Cymraeg

Hafan

  • Uniongyrchol – 2,649 o ymweliadau / 2,296 o ymweliadau unigryw
  • Google – 1,541 o ymweliadau / 1,238 o ymweliadau unigryw
  • Bing – 138 o ymweliadau / 134 o ymweliadau unigryw
  • Yahoo – 40 o ymweliadau / 36 o ymweliadau unigryw

Tudalen lanio rhestr swyddi

  • Uniongyrchol – 760 o ymweliadau / 563 o ymweliadau unigryw
  • Google – 666 o ymweliadau / 496 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Bing – 241 o ymweliadau / 192 o ymweliadau unigryw
  • Twitter – 80 o ymweliadau / 58 o ymweliadau unigryw
  • Gyrfa Cymru – 45 o ymweliadau / 9 o ymweliadau unigryw

Gwirio rhybuddion llifogydd

  • Google – 442 o ymweliadau / 232 o ymweliadau unigryw
  • Uniongyrchol – 420 o ymweliadau / 308 o ymweliadau unigryw
  • Facebook symudol – 138 o ymweliadau / 121 o ymweliadau unigryw
  • Facebook – 107 o ymweliadau / 94 o ymweliadau unigryw
  • BBC – 76 o ymweliadau / 54 o ymweliadau unigryw

Llifogydd

  • Uniongyrchol – 259 o ymweliadau / 188 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Google – 237 o ymweliadau / 174 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Facebook – 89 o ymweliadau / 58 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Twitter – 67 o ymweliadau / 63 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Bing – 31 o ymweliadau / 27 o ymweliadau unigryw â'r dudalen

Tudalen lanio swyddi a lleoliadau

  • Google – 331 o ymweliadau / 255 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Uniongyrchol – 219 o ymweliadau / 201 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Bing – 179 o ymweliadau / 165 o ymweliadau unigryw â'r dudalen
  • Gyrfa Cymru – 9 o ymweliadau / 4 o ymweliadau unigryw
  • Twitter – 9 o ymweliadau / 4 o ymweliadau unigryw â'r dudalen

Atodiad 3 - Hyfforddiant Cymraeg

Cyrsiau

Eleni mae gennym 81 o ddysgwyr yn mynychu un o'r 11 o gyrsiau mewnol sydd wedi'u sefydlu ar gyfer staff CNC ym Maes y Ffynnon, Tŷ Cambria, Maes Newydd, a'r cwrs diweddaraf yn swyddfa Bwcle. Ar ôl cysylltu â darparwyr y cyrsiau, mae cyrsiau wedi'u haddasu ac maent bellach yn cael eu darparu'n rhithwir drwy Microsoft Teams.

Ynghyd â'r hyfforddiant mewnol, mae gennym hefyd 81 aelod o staff yn dysgu Cymraeg yn y brif ffrwd. Golyga hyn eu bod un ai'n dysgu gyda sefydliadau eraill neu'n dysgu o fewn y gymuned. Mae hwn yn gyfle gwych i'n staff rwydweithio ac i gwrdd â dysgwyr eraill o fewn eu rhanbarthau.

Mae'r cyrsiau hyn yn cael eu darparu'n rhithwir gan ddefnyddio systemau fel Microsoft Teams neu Zoom. Mae'r adran TGCh wedi bod yn hynod dda eleni yn ymateb i'r holl geisiadau ychwanegol am gymorth TGCh ar gyfer y sesiynau hyn.

Cwrs Dysgwyr 2020/21 Canran

Mynediad

90

56%

Sylfaen

14

9%

Canolradd

28

17%

Uwch

24

15%

Hyfedredd

5

3%

Cyfanswm

161

100%

 

Rhanbarth Dysgwyr 2020/21 Canran

Caerdydd

10

6%

Sir Gaerfyrddin

10

6%

Ceredigion/Powys

19

12%

Morgannwg

2

1%

Gwent

38

24%

Y Gogledd-ddwyrain

16

10%

Y Gogledd-orllewin

38

24%

Sir Benfro

2

1%

Bae Abertawe

23

14%

Y Fro

3

2%

Cyfanswm

161

100%

Mae'r rhanbarthau yn seiliedig ar ranbarthau y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

O ganlyniad i COVID-19, ni chynhaliwyd unrhyw arholiadau yn haf 2020.

Gobeithir, unwaith y caiff y cyfyngiadau eu llacio, y bydd rhywfaint o hyfforddi wyneb yn wyneb yn ailddechrau. Byddwn yn dal i edrych i ddarparu ein staff gyda'r hyblygrwydd o ddysgu ar-lein hefyd, gan fod hyn wedi profi i fod yn boblogaidd iawn ymysg llawer o'n dysgwyr. Mae llawer o ddysgwyr eisoes wedi gwneud sylw fod symud cyrsiau ar-lein wedi darparu hyblygrwydd a llai o deithio, sydd yn well i'r amgylchedd. Mae rhai dysgwyr yn edrych ymlaen at ddychwelyd i amgylchedd ystafell ddosbarth, hyd yn oed os trefnir hyn yn achlysurol yn unig, gan eu bod yn credu y bydd yn rhoi cyfle pellach iddynt atgyfnerthu’r hyn y maent yn ei ddysgu.

Cynllun mentora

Ym mis Tachwedd 2020, gwnaethom ail-lansio'r cynllun mentora. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i ddarparu cefnogaeth ar gyfer dysgwyr Cymraeg o fewn CNC. Mae hyn hyd yn oed yn fwy hanfodol ar hyn o bryd gan fod y rhan fwyaf o'n dysgwyr yn methu ymarfer yr hyn maent yn ei ddysgu wrth weithio gartref. Mae'r cynllun yn cynnwys aelodau o staff sy'n siaradwyr Cymraeg rhugl neu ddysgwyr uwch yn gwirfoddoli hanner awr o'u hamser bob pythefnos i sgwrsio'n anffurfiol â'u partner sy'n dysgu Cymraeg.

Rydym wedi cael derbyniad gwych hyd yn hyn, gyda 24 mentor a 35 dysgwr yn cofrestru ar gyfer y cynllun. Mae hyn yn galonogol iawn, ac rydym wastad yn agored i fwy o bobl yn ymuno ac yn eu hannog i wneud hyn.

Say Something in Welsh

Bu sawl cais yn y gorffennol gan staff i gyflwyno ‘Say Something in Welsh’ fel dewis arall a dull hyblyg o ddysgu. O ganlyniad, ym mis Ionawr 2021, penderfynom dreialu'r defnydd ohono am chwe mis. Hyd yn hyn, mae'r treial yn mynd yn dda iawn gyda dysgwyr yn mwynhau astudio am 30/40 munud yr wythnos. Mae gennym 15 o bobl yn treialu hyn ar hyn o bryd, gyda mwy yn cael eu hychwanegu bob dydd. Bydd gofyn iddynt roi gwerthusiadau misol er mwyn gweld eu cynnydd a'u hadborth ar y cwrs.

Ar hyn o bryd, rydym yn rhagweld y byddwn yn gallu cynnig y cwrs hwn i staff ar gontractau tymor byr, staff y canolfannau ymwelwyr ac aelodau staff nad ydynt yn gallu ymrwymo i gwrs o ganlyniad i amgylchiadau esgusodol (h.y. cyflyrau iechyd ac ati). Gan fod cyrsiau yn tueddu i fod ar gael i gychwyn ym mis Medi a mis Ionawr, bydd yn rhoi offeryn defnyddiol i ddysgwyr ddechrau/parhau gyda'u hastudiaethau wrth ddisgwyl i gofrestru ar gwrs a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Digwyddiadau

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dathlu sawl digwyddiad yn rhithwir, gan weithio'n agos gyda'r Tîm Cyfathrebu i hyrwyddo'r Gymraeg a threftadaeth Cymru yn fewnol ac yn allanol.

Diwrnod Shwmae/Su’mae ar 15 Hydref 2020:

  • Negeseuon ar Yammer i annog a herio dysgwyr i siarad Cymraeg yn y gwaith / mewn cyfarfodydd, darllen llenyddiaeth neu gylchgronau Cymraeg, a gwrando ar y Gymraeg ar y teledu neu'r radio.

Diwrnod hawliau'r Gymraeg ar 7 Rhagfyr 2020:

  • Neges ar y fewnrwyd yn cynghori staff CNC ar eu hawliau Cymraeg.
  • Fideo a gyhoeddwyd ar gyfryngau cymdeithasol CNC o rai o ddysgwyr CNC yn egluro pwysigrwydd dysgu iddynt.

Diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr 2021:

  • Negeseuon ar Yammer yn annog dysgwyr i siarad Cymraeg yn y gwaith neu gartref.
  • Erthygl ar y fewnrwyd yn egluro stori tarddiad/hanes Dwynwen.

Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2021:

  • Negeseuon ar Yammer yn annog dysgwyr i siarad Cymraeg ac archwilio traddodiadau Cymreig.

Erthygl ar y fewnrwyd yn egluro tarddiad Dewi Sant a mwy o wybodaeth ar gyrsiau Cymraeg a gefnogir gan CNC.

Atodiad 4

Sgiliau Cymraeg y staff Chwefror 2021

Lefel sgiliau Cymraeg Nifer yr aelodau staff Canran yr aelodau staff
Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig 310 13.9%
Siaradwr Cymraeg rhugl 225 10%
Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus 153 6.8%
Gallu llunio brawddegau sylfaenol 438 19.6%
Gallu ynganu ymadroddion a chyfarchion sylfaenol 915 40.9%
Dim sgiliau iaith 87 3.9%
Heb gwblhau datganiad 109 4.9%

Sgiliau Cymraeg y staff ar 11 Mawrth 2020

Lefel sgiliau Cymraeg Nifer yr aelodau staff Canran yr aelodau staff
Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig 275 3.4%
Siaradwr Cymraeg rhugl 211 10.3%
Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus 136 6.6%
Gallu llunio brawddegau sylfaenol 412 20.1%
Gallu ynganu ymadroddion a chyfarchion sylfaenol 820 40.0%
Dim sgiliau iaith 63 3.1%
Heb gwblhau datganiad 134 6.5%

Nifer mis Chwefror 2021 = 2,237

Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Ionawr 2021 = 535 (24%)

Nifer mis Mawrth 2020 = 2,051

Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Mawrth 2020 = 486 (23.7%)

Sgiliau Cymraeg y staff fesul cyfarwyddiaeth ym mis Chwefror 2021

Lefel sgiliau Cymraeg Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Gweithrediadau Cyfanswm

Heb gwblhau datganiad

7

8

18

6

70

109

Dim sgiliau iaith

6

2

20

9

50

87

Gallu ynganu ymadroddion a chyfarchion sylfaenol

23

30

266

72

524

915

Gallu llunio brawddegau sylfaenol

18

22

136

38

224

438

Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

6

4

46

12

85

153

Siaradwr Cymraeg rhugl

11

11

43

19

141

225

Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

35

17

51

18

189

310

Mae gan bob un o'n cyfarwyddiaethau siaradwyr Cymraeg sy'n rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Atodiad 5 - Cynllun Gweithredu Cymraeg 2020–2021

Safonau - Cyflenwi gwasanaeth

Parhau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar brynu trwyddedau pysgota

Prif gam gweithredu

  • Yn dilyn cytundeb ar y ffordd ymlaen, sicrhau bod systemau a gwasanaethau yn cael eu datblygu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg wrth brynu trwyddedau pysgota

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl

Yn gyfrifol

  • Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Statws

  • Parhaus - Trafodaethau yn cael eu cynnal C1 a C2

Adolygu a diweddaru canllawiau cyfieithu yn unol â gofynion hygyrchedd

Prif gam gweithredu

  • Edrych ar safonau'r Gymraeg a gofynion deddfwriaeth hygyrchedd a chydraddoldeb
  • Drafftio diwygiadau a chysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg ar gyfer cymeradwyaeth
  • Hyrwyddo canllawiau newydd a'u cyhoeddi ar y fewnrwyd, yng nghylchgrawn misol y rheolwyr ac mewn cyfarfodydd tîm

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Tîm Cyfathrebu Digidol
  • Tîm Cyfieithu
  • Comisiynydd y Gymraeg

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl
  • Cyfathrebu Digidol

Statws

  • Cwblhawyd

Mwy o ddefnydd o'r Gymraeg ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Prif gam gweithredu

  • Hyrwyddo mwy o ddefnydd o'r Gymraeg ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
  • Annog ein siaradwyr a dysgwyr Cymraeg sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ddefnyddio eu sgiliau ieithyddol

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Tîm Cyfathrebu Digidol

Yn gyfrifol

  • Tîm Cyfathrebu

Statws

  • Parhaus ac i'w gwblhau erbyn C3

Hyrwyddo diwrnodau/digwyddiadau diwylliannol Cymreig

Prif gam gweithredu

  • Edrych am gyfleoedd i hyrwyddo digwyddiadau diwylliannol Cymreig ar ein mewnrwyd, Yammer a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cyfathrebu
  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg
  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl

Yn gyfrifol

  • Cyfathrebu
  • Dysgu a Datblygu
  • Rheoli Pobl

Statws

  • Cwblhawyd

Safonau - Llunio polisïau

Adolygu ystyriaethau Cymraeg wrth asesu’r effaith ar gydraddoldeb 

Prif gam gweithredu

  • Adolygu asesiadau effaith i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau i helpu i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â chymunedau mewn ffordd fwy cyfiawn
  • Datblygu canllawiau a hyfforddiant a hyrwyddo defnydd o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb fel arfer da ledled y sefydliad

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Rheoli Pobl
  • Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Grŵp Pencampwyr
  • Undeb llafur

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • Cwblhawyd

Safonau - Gweithredol

Adolygu cylch gorchwyl ac aelodaeth Grŵp Pencampwyr i oruchwylio a hyrwyddo Safonau’r Gymraeg 

Prif gam gweithredu

  • Adolygu cylch gorchwyl y grŵp
  • Hyrwyddo diben y grŵp drwy gyhoeddiadau ar y fewnrwyd, Yammer, cylchgrawn misol y rheolwyr, cyfarfodydd tîm, ac aelodau grŵp presennol
  • Sicrhau aelod ar gyfer pob cyfarwyddiaeth / maes busnes fel rhan o'r grŵp

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Grŵp Pencampwyr

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • Cwblhawyd

Drafftio Strategaeth Sgiliau Dwyieithog

Prif gam gweithredu

  • Nodi anghenion ieithyddol y sefydliad
  • Nodi sgiliau ieithyddol y gweithlu
  • Cynllunio sut rydym yn cynnal a chynyddu sgiliau i ddiwallu'r anghenion a nodwyd

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Rheoli Pobl
  • Grŵp Pencampwyr
  • Dysgu a Datblygu
  • Datblygu Sefydliadol

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • Parhaus - I'w gwblhau erbyn C4 2021/22

Gweithio i sicrhau bod MyNRW yn cydymffurfio'n llawn â Safon 100

Prif gam gweithredu

  • Archwilio ffyrdd o wneud meysydd absenoldeb o fewn MyNRW yn ddwyieithog

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Tîm Systemau MyNRW

Yn gyfrifol

  • Tîm Systemau MyNRW

Statws

  • Cwblhawyd

Cyrsiau hyfforddi Dysgu a Datblygu – Rheoli Tir

Prif gam gweithredu

  • Rhagweithiol wrth gynnig cyrsiau rheoli tir cyfrwng Cymraeg wrth hysbysebu i staff

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Dysgu a Datblygu

Yn gyfrifol

  • Dysgu a Datblygu

Statws

  • Parhaus - I'w gwblhau erbyn C2 2021/22

Adolygu a diweddaru rhaglen hyfforddi'r Gymraeg a’i hail-lansio 

Prif gam gweithredu

  • Ymchwilio i'r ystod o gyrsiau sydd ar gael ar-lein, Skype, a hunanarweinir, dysgu yn yr ystafell ddosbarth, cyrsiau preswyl, mewn trafodaeth gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Diwygio rhaglen Hyfforddiant Cymraeg
  • Lansio rhaglen hyfforddiant a’i hyrwyddo ar y fewnrwyd, ar Yammer, yng nghylchgrawn misol y rheolwyr ac mewn cyfarfodydd tîm

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg
  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl
  • Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Grŵp Pencampwyr
  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • Cwblhawyd

Ail-lansio'r cynllun mentora

Prif gam gweithredu

  • Gofyn i siaradwyr Cymraeg rhugl ddod yn fentoriaid i ddysgwyr
  • Hyrwyddo cynllun mentora i ddysgwyr ac ar y fewnrwyd, ar Yammer, yng nghylchgrawn misol y rheolwyr ac mewn cyfarfodydd tîm

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cynghorydd Hyfforddi'r Gymraeg
  • Grŵp Pencampwy

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • Cwblhawyd

Opsiwn ‘Dwi'n Dysgu Cymraeg’ ar gyfer dysgwyr yn Outlook

Prif gam gweithredu

  • Cynnig opsiwn ‘Dwi'n Dysgu Cymraeg’ yn Outlook i ddysgwyr
  • Sicrhau bod yr opsiwn yn dod yn weithredol ar gyfer y rhai sydd wedi dewis yr opsiwn hwn

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl
  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg

Yn gyfrifol

  • TGCh

Statws

  • Parhaus, i'w gwblhau erbyn C2 2021/22

​​Trefnu cyrsiau hyfforddi: Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg, manteision gweithlu dwyieithog, cynnal cyfarfodydd dwyieithog ​​

Prif gam gweithredu

  • Codi ymwybyddiaeth a chasglu diddordeb ar gyfer mynychu cyrsiau
  • Trafod a threfnu gofynion cyrsiau gyda darparwyr hyfforddiant
  • Hyrwyddo cyrsiau ar y fewnrwyd a Yammer a thrwy weithdrefnau hyfforddiant arferol

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg
  • Dysgu a Datblygu

Yn gyfrifol

  • Dysgu a Datblygu

Statws

  • Parhaus - i'w gwblhau erbyn C4 2021/22

E-bost croesawu i'r holl ddysgwyr newydd

Prif gam gweithredu

  • Hyrwyddo polisi'r Gymraeg, canllawiau, a'r rhaglen hyfforddiant sydd ar waith

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl
  • Dysgu a Datblygu

Statws

  • Cwblhawyd

Sicrhau bod yr holl staff yn hunanasesu eu sgiliau Cymraeg ac yn eu cofnodi yn MyNRW

Prif gam gweithredu

  • Casglu ystadegau a chysylltu â staff a rheolwyr i ddiweddaru eu cofnodion

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl
  • Dysgu a Datblygu

Statws

  • Parhaus - i'w gwblhau ar ddiwedd pob chwarter

Adolygu a hyrwyddo polisi iaith mewnol

Prif gam gweithredu

  • Sefydlu gweithgor o bob rhan o’r busnes, gan gynnwys undebau llafur, i adolygu polisi mewnol
  • Edrych ar sefydliadau eraill am arferion gorau
  • Trafod gyda Chomisiynydd y Gymraeg
  • Hyrwyddo a lansio polisi wedi'i adolygu

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Grŵp Pencampwyr
  • Cynrychiolwyr ledled y busnes
  • Undeb llafur
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • Parhaus - i'w gwblhau erbyn C4 2021/22

Safonau - Cadw cofnodion

Hunan-reoli ein cydymffurfiaeth â safonau'r Gymraeg

Prif gam gweithredu

  • Cynnal arolwg ar ein gwasanaethau Cymraeg ar y wefan a thrwy ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid a’n canolfannau ymwelwyr

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl
  • Canolfan Gofal Cwsmeriaid
  • Tîm Hamdden

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • Parhaus - i'w gwblhau erbyn C4 2021/22

Drafftio Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg

Prif gam gweithredu

  • Cysylltu â’r busnes i gasglu gwybodaeth ar y gwaith o weithredu a gwella ein gwasanaethau Cymraeg
  • Casglu ystadegau ar ein cydymffurfiaeth yn unol â'r Safonau Cadw Cofnodion

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl
  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • Cwblhawyd

Atodiad 6 - Cynllun Gweithredu Cymraeg 2021–2022

Safonau - Cyflenwi gwasanaeth

Parhau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar brynu trwyddedau pysgota

Prif gam gweithredu

  • Yn dilyn cytundeb ar y ffordd ymlaen, sicrhau bod systemau a gwasanaethau yn cael eu datblygu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg wrth brynu trwyddedau pysgota

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl

Yn gyfrifol

  • Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Statws

  • I'w gwblhau erbyn C3/C4

Adolygu gofynion y Gymraeg ar blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol

Prif gam gweithredu

  • Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
  • Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu rheoli yn ganolog
  • Sesiwn hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys gofynion y Gymraeg

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Tîm Cyfathrebu

Yn gyfrifol

  • Tîm Cyfathrebu
  • Rheoli Pobl

Statws

  • I'w gwblhau erbyn C3

Hyrwyddo diwrnodau/digwyddiadau Cymraeg a diwylliant Cymreig

Prif gam gweithredu

  • Edrych am fwy o gyfleoedd i hyrwyddo digwyddiadau/diwrnodau Cymraeg a diwylliant Cymreig ar ein mewnrwyd, Yammer a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg
  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl
  • Tîm Cyfathrebu

Yn gyfrifol

  • Cyfathrebu
  • Dysgu a Datblygu
  • Rheoli Pobl

Statws

  • I'w gwblhau erbyn C4

Ymwybyddiaeth llifogydd

Prif gam gweithredu

  • Llinell Llifogydd - Rydym yn bwriadu gwella'r gwasanaeth hwn drwy ddatblygu gwasanaeth asiantau galwadau Cymraeg – sydd ar gael unrhyw adeg o'r dydd
  • Negeseuon a Gwefan Rhybuddion Llifogydd - Archwilio opsiynau i ddatblygu'r gallu cyfieithu hwn fel y gallwn ddarparu gwybodaeth gyfoethocach a mwy defnyddiol, darparu gwybodaeth amser real i helpu pobl ddeall eu perygl llifogydd uniongyrchol
  • Gwasanaeth rhybuddio - Cynnal gweithgareddau i hyrwyddo ein darpariaeth o'r Gymraeg, gan obeithio i gynyddu defnydd ohoni

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Tîm Ymwybyddiaeth Llifogydd

Yn gyfrifol

  • Tîm Ymwybyddiaeth Llifogydd

Statws

  • I'w gwblhau erbyn C4

Cynyddu nifer y galwyr sy'n dewis yr opsiwn Cymraeg ar gyfer y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid

Prif gam gweithredu

  • Cynnal arolwg
  • Cynnal arolwg o'n gwasanaethau Cymraeg ar y wefan, drwy ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid a’n canolfannau ymwelwyr

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Canolfan Gofal Cwsmeriaid

Yn gyfrifol

  • Canolfan Gofal Cwsmeriaid
  • Rheoli Pobl

Statws

  • I'w gwblhau erbyn C4

Adolygu Canllawiau Arwyddion y Gymraeg

Prif gam gweithredu

  • Sicrhau bod ffurfiau safonol enwau lleoedd a nodweddion topograffig yn cael eu hesbonio a'u defnyddio ar arwyddion a phaneli dehongli

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Tîm Cynllunio Safleoedd Hamdden

Yn gyfrifol

  • Tîm Cynllunio Safleoedd Hamdden

Statws

  • Disgwylir iddo gwblhau C3

Safonau - Llunio polisïau

Traciwr adolygu asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb

Prif gam gweithredu

  • Sicrhau bod yr holl asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cofnodi

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Ar draws y sefydliad

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • I'w gwblhau erbyn diwedd pob chwarter

Monitro cynnwys y Gymraeg yn ein prosesau ymgynghori

Prif gam gweithredu

  • Codi ymwybyddiaeth o'r gofyniad
  • Monitro cynnwys yn ein prosesau ymgynghori

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Ar draws y sefydliad

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • I'w gwblhau erbyn diwedd pob chwarter

Safonau - Gweithredol

Drafftio Strategaeth Sgiliau Dwyieithog ac adolygu polisi iaith mewnol

Prif gam gweithredu

  • Nodi anghenion ieithyddol y sefydliad
  • Nodi sgiliau ieithyddol y gweithlu
  • Cynllunio sut rydym yn cynnal a chynyddu sgiliau i ddiwallu'r anghenion a nodwyd
  • Adolygu polisi mewnol yn seiliedig ar drafodaethau gyda staff ac arferion gorau
  • Cydweithio â'r Rhaglen Datblygiad Parhaus i ddatblygu proses symlach newydd ar gyfer asesu lefelau iaith swyddi

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Rheoli Pobl
  • Grŵp Pencampwyr
  • Dysgu a Datblygu
  • Datblygu Sefydliadol

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • I'w gwblhau erbyn C4

Codi ymwybyddiaeth o'r Rhaglen Hyfforddiant Cymraeg

Prif gam gweithredu

  • Hyrwyddo'r Rhaglen Hyfforddiant Cymraeg drwy'r fewnrwyd a Yammer
  • Cyhoeddi erthyglau i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a diwrnodau diwylliant Cymreig
  • Darparu cefnogaeth i ddysgwyr
  • Hyrwyddo cynllun mentora
  • Trefnu sgyrsiau grŵp anffurfiol ar gyfer dysgwyr
  • Trefnu hyfforddiant ymwybyddiaeth o'r Gymraeg

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg
  • Datblygu Sefydliadol

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • Parhaus pob chwarter

Opsiwn ‘Dwi'n Dysgu Cymraeg’ ar gyfer dysgwyr yn Outlook

Prif gam gweithredu

  • Hyrwyddo'r defnydd o Mail Tip gyda dysgwyr a'i weithredu yn Outlook fel y gofynnwyd gan staff

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg
  • TGCh

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl
  • TGCh

Statws

  • I'w gwblhau erbyn C2

Trefnu cyrsiau hyfforddiant cyfrwng Cymraeg

Prif gam gweithredu

  • Manteision gweithlu dwyieithog
  • Cynnal cyfarfodydd dwyieithog

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Dysgu a Datblygu

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • I'w gwblhau erbyn C4

E-bost i bob dechreuwr newydd a sicrhau bod yr holl staff yn hunanasesu eu sgiliau Cymraeg ac yn eu cofnodi yn MyNRW

Prif gam gweithredu

  • E-bost croesawu yn codi ymwybyddiaeth o safonau, canllawiau a'r Rhaglen Hyfforddiant Cymraeg
  • Cynnwys yr angen i asesu sgiliau ieithyddol a darparu canllawiau yn yr e-bost uchod
  • Monitro People Finder ac anfon nodiadau atgoffa

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg
  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • Parhaus ar ddiwedd pob chwarter

Safonau - Cadw cofnodion

Diweddaru Polisi Safonau'r Gymraeg 

Prif gam gweithredu

  • Cynnwys adran ar ein monitro o'r safonau sydd gennym

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • I'w gwblhau erbyn C4

Drafftio Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg

Prif gam gweithredu

  • Cysylltu â’r busnes i gasglu gwybodaeth ar y gwaith o weithredu a gwella ein gwasanaethau Cymraeg
  • Casglu ystadegau ar ein cydymffurfiaeth yn unol â'r Safonau Cadw Cofnodion

Cysylltu â / gweithio gyda

  • Cynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl
  • Cydlynydd Hyfforddi'r Gymraeg

Yn gyfrifol

  • Rheoli Pobl

Statws

  • I'w gwblhau erbyn C4

Atodiad 7 - Rhoi safonau’r Gymraeg sydd gennym ar waith

Isod ceir y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth â'n polisi ar safonau'r Gymraeg.

Gofynnir i reolwyr drwy Nodyn Misol Reolwyr drafod gofynion y Safonau gyda'u staff. Cynhaliwyd ymarfer monitro ym mis Ionawr 2020 i sicrhau bod staff yn ymwybodol o'r gofyniad sylfaenol y dylai pawb fod yn ei wneud fel rhan o'u gwaith o ddydd i ddydd. Mae monitro hefyd yn rhan o'n gwaith o hunanreoleiddio ein cydymffurfiaeth â'r safonau. Bydd yr ymarfer monitro nesaf yn cael ei gynnal yn hydref 2021 ac yn cael ei adrodd yn ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22.

Camau gweithredu a gymerwyd i gydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau (1 – 83)

  • Canllawiau ar waith i ddelio â gohebiaeth cyfrwng Cymraeg, galwadau ffôn, Trefnu cyfarfodydd, asesu gofynion cyfieithu, recriwtio, desgiau derbynfeydd, arwyddion a chyfathrebu mewnol, a'r hyn a welir ar y fewnrwyd.
  • Mae canllawiau ar gyfer ystyriaethau Cymraeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ar waith gan y tîm Cyfathrebu.
  • Mae ystyriaethau Cymraeg sydd angen eu cynnwys mewn contractau trydydd parti ar gael ar y tudalennau canllawiau caffael ar y fewnrwyd.
  • Mae ystyriaethau Cymraeg wedi'u hymgorffori yn y canllawiau ar gyfer grantiau.
  • Mae'r rhyngwyneb a phob tudalen ar y wefan ar gael yn Gymraeg.
  • Cynhyrchir yr holl ddogfennau cyhoeddus, hysbysebion, hysbysiadau, arwyddion a deunydd hyrwyddo yn ddwyieithog gyda'r testun Cymraeg ar yr ochr chwith neu uwchben y Saesneg.
  • Arddangosir arwyddion ym mhob un o'n desgiau derbynfeydd cyhoeddus sy'n nodi y croesawir y Gymraeg, ac mae staff derbynfa sy'n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodynnau neu laniardiau "Cymraeg" fel bod siaradwyr Cymraeg yn gallu eu hadnabod.
  • Gofynnir i staff sy'n siaradwyr Cymraeg wisgo bathodyn neu laniard "Cymraeg" i ddangos eu bod yn siaradwyr Cymraeg. Rhoddir y dewis i ddysgwyr i wisgo laniard neu fathodyn "Dysgwr Cymraeg".
  • Cofnodir dewis iaith y cwsmeriaid hynny rydym yn ymdrin â nhw yn aml gan ein meddalwedd gyfrifiadurol ar System Cofnodi Digwyddiadau Cymru er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol.
  • Mae cyrsiau Croeso Cymraeg Gwaith wedi'u trefnu i helpu ein holl staff i gyfarfod, cyfarch ac ateb y ffôn yn ddwyieithog er mwyn dangos cwrteisi ieithyddol.
  • Mae templedi pennawd llythyron, agendâu, adroddiadau, nodiadau cyfarfod a chyflwyniadau dwyieithog ar gael at ddefnydd y staff ar y fewnrwyd.
  • Mae pob un o'n tudalennau Facebook yn dudalennau dwyieithog cyfunol.
  • Mae cyfrifon Twitter corfforaethol yn ddwyieithog.
  • Mae'r Tîm Cyfathrebu yn rheoli tudalennau cyfryngau cymdeithasol ac yn cefnogi staff ym mhob Tîm Seiliedig ar Le i sicrhau bod hynny'n cael ei bostio'n ddwyieithog.
  • Mae mesuryddion parcio hunanwasanaeth yn ein meysydd parcio yn cynnig dewis iaith.
  • Gellir gweld cyrsiau hyfforddi cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i staff ar y dudalen Dysgu a Datblygu ar y fewnrwyd.
  • Mabwysiadodd y sefydliad hunaniaeth ddwyieithog o’i ddiwrnod breinio ymlaen.
  • Mae tîm cyfieithu mewnol yn weithredol er mwyn cynnal a threfnu gofynion cyfieithu ar gyfer y sefydliad.

Camau gweithredu a gymerwyd i gydymffurfio â safonau polisi (84-93)

  • Rhaid i staff gwblhau asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer pob polisi newydd neu bolisi a ddiwygir, sy'n cynnwys ystyriaethau o'r Gymraeg. Mae'r ystyriaethau hyn wedi'u hysgrifennu mewn asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, ac maen nhw'n cofnodi pa effaith, os o gwbl, y bydd y polisi'n ei chael ar y gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ac yn sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Caiff y rhain eu llofnodi gan Gynghorydd Arbenigol, Rheoli Pobl.
  • Rhannwyd cwestiynau ystyried y Gymraeg yn ein prosesau ymgynghori gyda'r holl staff yn Nodyn Misol Rheolwyr ac wedi cael eu cynnwys fel rhan o'n hardal Hwb Ymgynghori a Syniadau ar y fewnrwyd.

Camau gweithredu a gymerwyd i gydymffurfio â safonau gweithredol (94-140)

  • Gofynnir i bob aelod o staff newydd a phresennol am ei ddewis iaith o ran derbyn gohebiaeth bapur sy'n ymwneud â'i gyflogaeth ac sydd wedi'i chyfeirio ato’n bersonol.
  • Mae ein holl bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau poblar gael i'r staff ar y fewnrwyd yn Gymraeg a Saesneg.
  • Mae polisïau yn caniatáu staff i wneud cwynion a thynnu sylw at faterion yn Gymraeg, gan gynnwys cyfarfodydd wyneb yn wyneb sy'n perthyn i'r gŵyn.
  • Mae meddalwedd Windows 10 a ddefnyddir gan bob aelod o staff ar gael yn Gymraeg.
  • Mae pecyn gwirio sillafu/gramadeg Cymraeg Cysill/Cysgeir ar gael i bob aelod o'r staff gael ei ddefnyddio.
  • Mae’r fewnrwyd yn ddwyieithog.
  • Ceir tudalen polisi Cymraeg benodol ar y fewnrwyd gyda pholisi a chanllawiau ar y safonau i helpu pob aelod o'r staff i weithio'n ddwyieithog a hunanasesu sgiliau Cymraeg, gan gofnodi'r wybodaeth yn system ganolog MyNRW.
  • Ceir tudalen hyfforddiant Cymraeg benodol sy'n cynnal canllawiau ar y rhaglen hyfforddiant iaith Gymraeg, sut i drefnu hyfforddiant, adnoddau dysgu i helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith, cynllun mentora, apiau rhad ac am ddim i ddysgwyr, geiriau ac ymadroddion Cymraeg defnyddiol, hanes y Gymraeg a diwylliant Cymru.
  • Mae rhaglen hyfforddiant Cymraeg ar waith i roi cyfle i'r holl staff i ddatblygu eu sgiliau iaith at ddibenion gwaith.
  • Mae llofnod corfforaethol dwyieithog ar gael at ddefnydd pob aelod o staff.
  • Asesir pob swydd newydd a gwag o ran gofynion sgiliau Cymraeg ac fe'i
  • ofnodir at ddibenion archwilio gan Gomisiynydd y Gymraeg.
  • Prawfddarllenir y testun ar arwyddion gan ein tîm cyfieithu.
  • Mae polisi iaith mewnol ar waith er mwyn hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn fewnol. Mae'r polisi yn cynnwys:
    • Yr angen i'r holl staff asesu eu sgiliau Cymraeg
    • Bod staff yn nodi eu dewis iaith wrth dderbyn gohebiaeth sydd wedi'i chyfeirio atyn nhw'n bersonol
    • Bod cynlluniau rheoli perfformiad a hyfforddiant ar gael yn ddwyieithog fel y gall staff eu cwblhau yn eu dewis iaith
    • Dylai eitemau a anfonir at yr holl staff neu at grŵp mawr o staff fod yn ddwyieithog
    • Anogir y staff i ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg ysgrifenedig wrth anfon gohebiaeth yn fewnol
    • Annog staff i ddefnyddio Cymraeg mewn cyfarfodydd mewnol
    • Pa gyrsiau y gall staff ofyn amdanynt yn Gymraeg
    • Bod croeso i staff leisio cwyn yn Gymraeg ac y gallant ymateb i honiadau a wneir yn eu herbyn yn Gymraeg yn ystod y broses ddisgyblu fewnol

Camau gweithredu a gymerwyd i gydymffurfio â safonau cadw cofnodion a safonau atodol (141 –168)

  • Cofnodir pob cwyn a dderbyniwyd mewn perthynas â'r Gymraeg ac fe'i hadroddir yn ein Hadroddiad Blynyddol. Mae gweithdrefn gwyno ar waith sy'n esbonio sut yr ymdrinnir â phob cwyn a dderbyniwyd gan ein sefydliad a chyhoeddir y weithdrefn ar ein gwefan. Mae staff sy'n delio â chwynion yn cwblhau modiwl hyfforddiant Gwasanaeth Sifil ar-lein.
  • Cyhoeddir polisi safonau'r Gymraeg ar y fewnrwyd a'r wefan ac mae'n nodi pob safon y mae gofyn i ni gydymffurfio â hi, gan esbonio sut rydym yn  bwriadu cydymffurfio â phob un. Mae'r polisi ar gael trwy gais ym mhob un o'n swyddfeydd.
  • Mae gan Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol gyfrifoldeb cyffredinol dros bolisi safonau'r Gymraeg.
  • Mae'r cynllun corfforaethol yn egluro sut mae'r cynllun busnes yn cysylltu â'n cynllun corfforaethol, ac mae'n nodi'r hyn y byddwn yn ei gyflawni i helpu i gryfhau ein gallu dwyieithog a gwella ein gwasanaethau i gwsmeriaid a'n perthynas â rhanddeiliaid a phartneriaid – a hynny drwy ddarparu gwasanaeth yn eu dewis iaith. Mae ein rhaglen hyfforddiant iaith Gymraeg ar waith er mwyn sicrhau bod gennym nifer ddigonol o siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol.
  • Cyhoeddir ymwybyddiaeth o'r safonau yn rheolaidd ar y fewnrwyd ac yn y Canllaw Misol i Reolwyr, lle gofynnir i reolwyr drafod eu gofynion gyda'u timau.
  • Fel rhan o'r broses ymsefydlu gyda staff newydd, gofynnir i reolwyr drafod gofynion y safonau, ynghyd â pholisïau a gweithdrefnau corfforaethol eraill. Caiff y rhestr wirio ymsefydlu ei llofnodi gan y gweithiwr a'r rheolwr a'i chadw ar ffeil.
  • Cynhelir y gwaith o fonitro cydymffurfiaeth â’r safonau gan Gynghorydd Polisi'r Gymraeg –amlygir unrhyw beryglon i'r Tîm Gweithredol, rheolwyr a'r Grŵp Pencampwyr.
  • Defnyddir offeryn Asesu'r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer pob polisi neu brosiect newydd sydd ar waith, er mwyn asesu'r effeithiau cadarnhaol neu niweidiol y byddai'n eu cael ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg. Cofnodir yr wybodaeth at ddibenion archwilio.
  • Gofynnir i'r holl staff hunanasesu eu sgiliau Cymraeg a chofnodi eu canfyddiadau ar ein system ganolog MyNRW. Anfonir e-bost at y staff hynny nad ydynt eisoes wedi cwblhau'r cam hwn i'w hatgoffa nad ydynt wedi’i gwblhau. Gofynnir yn ogystal i reolwyr llinell sicrhau bod staff yn cwblhau'r dasg hon.
  • Trefnir cyrsiau cyfrwng Cymraeg trwy gais gan grŵp o staff.
  • Cytunir ar asesiad sgiliau Cymraeg ar gyfer pob swydd newydd neu wag gan y rheolwr recriwtio a Chynghorydd Polisi'r Gymraeg, gan ystyried natur, lleoliad y swydd a gallu siaradwyr Cymraeg oddi fewn y tîm, i weld a yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu ddymunol neu fod angen eu dysgu ar gyfer pob swydd. Cofnodir yr wybodaeth at ddibenion archwilio a chofnodi.
  • Mae Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg yn cofnodi sut mae'r safonau wedi'u gweithredu, unrhyw welliannau a wnaed i'n gwasanaethau Cymraeg, a sut rydym wedi cydymffurfio â'n safonau ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Cyhoeddir yr adroddiad ym mis Medi bob blwyddyn ac fe'i hamlygir ar ein cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan a'r fewnrwyd ym mhob un o'n swyddfeydd sy'n agored i'r cyhoedd trwy gais. Cyflwynir yr adroddiad drafft gerbron y Pwyllgor Pobl a Chyflogau a'r Tîm Gweithredol cyn cael ei gymeradwyo'n derfynol gan ein Bwrdd Rheoli.  Caiff ei gyhoeddi wedyn yn unol â gofynion y safonau.
  • Darperir gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg yn ôl y gofyn.​

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf