Contractau CNC sy’n dod – Piblinell caffael 2024-25

Categori Teitl y contract Disgrifiad byr o'r gofyniad Math o Gontract Dyddiad Dyfarniad Disgwyliedig
Peirianneg Sifil Prynu contractwyr llwybrau beicio mynydd arbenigol Mae angen adfer dau lwybr beicio mynydd cyfredol ym Mharc Coedwig Afan. Contract   I’W GADARNHAU
Peirianneg Sifil Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Archwilio Safleoedd Peryglon, Tirlithriadau a Hen Domenni Glo yn Ne Cymru  Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Archwilio Safleoedd Peryglon, Tirlithriadau a Hen Domenni Glo yn Ne Cymru Fframwaith I’W GADARNHAU
Peirianneg Sifil Fframwaith yn ôl y Galw Pympiau Symudol - Gogledd Ddwyrain Cymru Gofyniad am bympiau annibynnol ar gyfer pwmpio dŵr llifogydd allan yn ystod digwyddiadau mawr. Mae hyn yn cynnwys cyflenwad y tu allan i oriau o bympiau ‘mewnol’ symudol ynghyd â'r ategolion sydd eu hangen i'w rhedeg.  Fframwaith 30/01/2025
Gwasanaethau Corfforaethol Ymgynghori ac Ymgysylltu Cymorth Trydydd Parti  Datblygu cynllun rheoli Categori ar gyfer caffael cymorth trydydd parti ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws CNC. Yn y tymor hir, bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i greu fframwaith pwrpasol os na ellir canfod fframwaith cyfredol addas.  Contract   01/12/2024
Gwasanaethau Corfforaethol Fframwaith Asiantau Seneddol Y gallu i gyfarwyddo Asiantau Seneddol mewn perthynas â dehongliadau Seneddol, deddfwriaethol a materion cysylltiedig, yn enwedig ond nid yn gyfan gwbl mewn perthynas â deddfwriaeth sy'n benodol i Gymru. Contract   02/01/2025
Gwasanaethau Amgylcheddol a Morol Gwelliannau i gynefinoedd, rheoli mincod ac adroddiad prosiect Dyma drydydd cam prosiect sy’n bwriadu ailgyflwyno llygoden bengron y dŵr i Afon Ddawan. Gwella cynefinoedd, rheoli mincod a llunio adroddiad cryno ar y prosiect i gynnwys cynllunio ar gyfer y dyfodol. Contract   28/02/2026
Gwasanaethau Amgylcheddol a Morol Ymgynghorydd pysgodfeydd: Tynnu, difa a gwaredu pysgod o Barc Dŵr y Sandy, Llanelli Contractwr i dynnu, difa a gwaredu pysgod o Barc Dŵr y Sandy, Llanelli
• Rhwydo sân i dorri'r llyn ac electrobysgota darnau llai i dynnu'r pysgod o'r llyn. 
Contract   09/01/2024
Gwasanaethau Amgylcheddol a Morol Fframwaith Trwyddedu Morol a Chyngor Arbenigol Mae angen i MLT CNC ddarparu cyngor technegol arbenigol ar effeithiau ceisiadau am drwyddedau morol ar yr amgylchedd.  Fframwaith 01/07/2025
Gwasanaethau Amgylcheddol a Morol Casglu olew a gwastraff mewn argyfwng Wrth ymateb i ddigwyddiad, efallai y bydd angen casglu gwastraff (drymiau olew) ar unwaith er mwyn osgoi niwed i'r amgylchedd. Fframwaith I’W GADARNHAU
Rheoli Fflyd NPAP - UTV Pwysedd Tir Isel a threlar ar gyfer cludo Mae'r Tîm Rhaglen Gweithredu Mawndiroedd Cenedlaethol angen Cerbyd UTV pwysedd tir isel i helpu i gludo offer (a staff) allan i safleoedd mawndir mawr/anghysbell. Contract   I’W GADARNHAU
Gweithrediadau Coedwig: Arolygon Coedwig - Cynhyrchu, Teneuo, Arolygon Dwysedd Plannu a Phriodoleddau Coed Arolygon Coedwig - Mesurlen ar gyfer 4 math gwahanol o arolwg ar draws Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Arolygon Cynhyrchu a Theneuo - Prisio cnydau llwyrgwympo ar gyfer gwerthu pren gan gynnwys marcio ffiniau.
Arolwg dwysedd plannu coed - monitro ailstocio ym mlwyddyn 1 a 5.
Arolwg Priodoleddau - arolwg treigl o gnydau blwyddyn 20 ar draws Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Fframwaith 04/01/2025
Gweithrediadau Coedwig: Gwasanaethau Cymorth Hofrennydd (Tanau Gwyllt) Prynu darpariaeth o wasanaethau hofrennydd Cymru gyfan i gynorthwyo i frwydro yn erbyn Tanau Gwyllt ar y Tir yn ein Gofal (Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol o dan ein rheolaeth). Bydd y cyflenwr ar gael yn ystod y prif gyfnod tân gwyllt a bydd ganddo offer priodol i anelu dŵr at flaen y tân.  Fframwaith 01/03/2025
Gweithrediadau Coedwig: Cyflenwi a Defnyddio Sternerma Carpocapse (Nematodau) Rheolaeth fiolegol anghemegol o widdonyn Hylobius Abietis.   Contract   01/01/2025
Gweithrediadau Coedwig: Chwistrellu Cemegol - Cynnal a Chadw Safleoedd Ailstocio Mae angen i ni allu amddiffyn ein hasedau sydd wedi'u plannu er mwyn sicrhau bod clystyrau coedwigaeth yn cael eu sefydlu'n llwyddiannus.  Defnyddio cemegion i amddiffyn rhag chwyn a phlâu. Fframwaith 30/11/2024
Gweithrediadau Coedwig: Ailosod a Glanhau - Cynnal a Chadw Safleoedd Ailstocio Ailosod a glanhau safleoedd ailstocio yn fecanyddol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.  Sefydlu cellïoedd coedwigaeth i gwrdd ag amcanion gweithredol a strategol. Fframwaith 01/12/2024
Gweithrediadau Coedwig: Gwasanaethau sy'n gysylltiedig â llinellau pŵer uwchben Rheoli llinellau pŵer dros lwybrau cludo pren mewn coedwigaeth Fframwaith I’W GADARNHAU
Offeryniaeth, Offer Monitro a Gwasanaethau Amnewid asedau offerynnau dadansoddol Tendr am 1 x dadansoddwr dadansoddol anorganig ac 1 x dadansoddwr metelau Contract   01/12/2023
Gwasanaethau Labordy Gwasanaethau Dadansoddol Arbenigol i CNC Dadansoddiad wedi'i gontractio'n allanol i labordy trydydd parti. Dadansoddiad sy'n ofynnol gan raglenni Monitro Dŵr Croyw a Morol, na ellir eu cyflawni gan NRWAS oherwydd maint neu gymhlethdod. Contract   28/02/2025
Rheoli tir Gwella mawndiroedd  Datblygu fframwaith prynu ar gyfer gwaith tir i adfer mawndiroedd.  Fframwaith 01/01/2025
Rheoli tir Gweithredu, Storio, Trwsio a Chynnal a Chadw PistonBully  Gweithredu, Storio, Trwsio a Chynnal a Chadw PistonBully  Contract   30/11/2024
Rheoli tir Fframwaith Coedyddiaeth, Gwasanaethau Llif Gadwyn a Diogelwch Coed 2024 i 2028 Fframwaith i ddarparu pob agwedd ar waith trin coed o fewn y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru Fframwaith 12/01/2024
Rheoli tir Fframwaith Galluogi Coetiroedd Cymunedol Cynnal gwasanaeth i gefnogi grwpiau rheoli tir cymunedol sy’n rhedeg prosiectau ar ystâd CNC. Mae hyn yn dilyn ymlaen o gontract presennol. Fframwaith I’W GADARNHAU

Fel rhan o’n safonau tryloywder a data agored rydym yn cyhoeddi piblinell gaffael i gynorthwyo cyflenwyr i gynllunio a pharatoi at ymarferion caffael sy’n dod.

Bydd yr holl ofynion yn cael eu hysbysebu drwy wefan Sell2Wales.

Adolygir y biblinell bob 6 mis a gallai dyddiadau a gyhoeddwyd newid ac mae’r gwybodaeth yn ddangosol yn unig.

Diweddarwyd ddiwethaf