Sut rydym yn rheoleiddio safleoedd niwclear

Ni yw’r rheoleiddiwr amgylcheddol ar gyfer safleoedd niwclear yng Nghymru. Rydym yn gwneud yn siŵr bod cwmnïau niwclear a’r safleoedd y maent yn eu gweithredu yn bodloni’r safonau uchel ar gyfer diogelu’r amgylchedd drwy gydol y camau canlynol:

  • dylunio ac adeiladu
  • gweithrediad
  • datgomisiynu

Bydd angen i unrhyw gwmni sydd am adeiladu a gweithredu cyfleuster niwclear newydd yng Nghymru (er enghraifft, gorsaf bŵer niwclear neu gyfleuster gwaredu daearegol) wneud cais i ni am ystod o wahanol drwyddedau a chaniatâd amgylcheddol.

Bydd hefyd angen:

Mae'r trwyddedau amgylcheddol a roddwn i weithredwyr safleoedd niwclear yn cynnwys amodau llym (rheolau) y mae'n rhaid iddynt eu dilyn bob amser. Mae amodau'r drwydded wedi'u cynllunio i sicrhau nad yw gweithgareddau'r gweithredwr yn niweidio pobl na'r amgylchedd. 

Rydym yn sicrhau bod gweithredwyr yn bodloni amodau eu trwyddedau drwy gyflawni’r gweithgareddau canlynol:

  • archwiliadau safle
  • monitro amgylcheddol
  • archwiliadau
  • cysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid lleol

Safleoedd niwclear yng Nghymru

Mae dau safle niwclear yng Nghymru:

Mae'r safleoedd hyn yn cael eu datgomisiynu gan y gweithredwr, Magnox Ltd, is-gwmni i Awdurdod Datgomisiynu Niwclear y DU. 

Datgomisiynwyd trydydd safle niwclear, yng Nghaerdydd, yn 2019. Ni reoleiddiodd glanhad terfynol safle niwclear G.E. Healthcare Caerdydd mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear.

Sut rydym yn asesu cynlluniau gorsafoedd ynni niwclear newydd

Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Reoleiddio Niwclear i wneud yn siŵr bod unrhyw orsafoedd ynni niwclear newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru a Lloegr yn bodloni safonau uchel o ran y canlynol:

  • diogelwch
  • diogeledd
  • diogelu'r amgylchedd
  • rheoli gwastraff

Asesiadau Dyluniad Generig

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear wedi datblygu proses o'r enw Asesiad Dyluniad Generig. Caiff ei ddefnyddio i graffu ar orsafoedd ynni niwclear newydd, a hynny’n gynnar yn y broses.

Mae tri cham i’r Asesiad Dyluniad Generig ac mae’n ein helpu ni i nodi pryderon dylunio neu dechnegol posibl yn gynnar ac yna gallwn ofyn i'r dylunydd eu datrys.

Ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid

Yn ystod yr Asesiad Dyluniad Generig ac unrhyw raglen safle-benodol, byddwn yn ymgynghori â rhanddeiliaid a'r cyhoedd ar ein gwaith. 

Prosiectau niwclear newydd

Adweithydd Modiwlar Bach Rolls-Royce SMR Ltd

Fe wnaethom ddechrau Asesiad Dyluniad Generig ar adweithydd modiwlar bach 470MWe Rolls-Royce SMR (Saesneg yn unig) Ltd ar 1 Ebrill 2022. Rydym yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear yn yr asesiadau hyn.

Cam 1 (Cychwyn)

Darllenwch ddatganiad, adroddiad a chrynodeb cam 1 yr asesiad o Adweithydd Modiwlar Bach Rolls-Royce:

Cam 2 (Asesiad Sylfaenol)

Dechreuodd asesiad technegol lefel uchel o'r dyluniad (cam 2) ym mis Ebrill 2023. Rhaid i'r cwmni dylunio ddarparu gwybodaeth fanwl i wneud yr achos amgylcheddol dros ddyluniad ei adweithydd.

Byddwn yn archwilio'r wybodaeth yn ofalus ac yn gofyn cwestiynau. Gallwn ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen a nodi p’un a fydd angen newidiadau i'r dyluniad o bosibl.

Proses gwneud sylwadau

Dysgwch fwy am ddyluniad yr adweithydd, gwnewch sylwadau neu gofynnwch gwestiynau i Rolls-Royce SMR Ltd am ei gynnig. Rydym yn gweld yr holl sylwadau ac ymatebion y dylunydd a gallwn eu defnyddio i helpu i lywio ein gwaith.

Adweithydd Modiwlaidd Bach SMR-300 Holtec International

Dechreuodd Asesiad Dyluniad Generig Adweithydd Modiwlar Bach SMR-300 Holtec International ym mis Tachwedd 2023. Rydym yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear i gyflawni’r asesiadau hyn.

Cam 1 (Cychwyn)

Mae Cam 1 y prosiect, a ddefnyddir i baratoi ar gyfer y broses asesu dyluniad, bellach wedi dechrau. Bydd unrhyw adroddiadau a chanlyniadau yn cael eu cyhoeddi yma pan fyddant ar gael.

Adweithydd Modiwlaidd Bach BWRX-300 GE Hitachi Nuclear Energy

Dechreuodd yr Asesiad Dyluniad Generig o Adweithydd Modiwlaidd Bach BWRX-300 GE Hitachi Nuclear Energy ym mis Ionawr 2024. Rydym yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear i gyflawni’r asesiadau hyn.

Cam 1 (Cychwyn)

Mae Cam 1 y prosiect, a ddefnyddir i baratoi ar gyfer y broses asesu dyluniad, bellach wedi dechrau. Bydd unrhyw adroddiadau a chanlyniadau yn cael eu cyhoeddi yma pan fyddant ar gael.

Gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol

Mae gwaredu daearegol yn golygu ynysu gwastraff ymbelydrol yn ddwfn o dan y ddaear, y tu mewn i swm addas o graig, i sicrhau nad oes unrhyw symiau niweidiol o ymbelydredd byth yn cyrraedd amgylchedd yr arwyneb.

Bydd cyfleuster gwaredu daearegol yn adeiledd hynod beirianyddol sy'n cynnwys rhwystrau lluosog a fydd yn darparu amddiffyniad dros gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Dysgwch fwy am yr hanes a’r wyddoniaeth y tu ôl i gyfleuster gwaredu daearegol.

Polisi Llywodraeth Cymru ar waredu daearegol

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu polisi o gefnogi gwaredu daearegol er mwyn rheoli gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd dros y tymor hir.

Mae wedi cyhoeddi canllawiau ar y broses i'w dilyn os bydd rhywun â diddordeb (unigolyn neu grŵp o bobl) yn mynegi diddordeb yn y broses dewis safleoedd ac am gynnig ardal i’w hystyried.

Mae hyn yn unol â dull cyffredinol Llywodraeth y DU ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r canllawiau yn dilyn proses debyg i'r cyfleuster gwaredu daearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn Lloegr.

Cyflawni gwaredu daearegol

Bydd y rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU i ddarparu un cyfleuster gwaredu daearegol ar gyfer y gwastraff uchel ei actifedd a gynhyrchir yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael ei darparu gan Nuclear Waste Services, is-gwmni i'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. 

Mae Nuclear Waste Services yn gyfrifol am weithredu dull gwaredu daearegol a bydd yn arwain y broses leoli, gan weithio mewn partneriaeth â chymunedau i nodi lleoliad addas ar gyfer cynnal cyfleuster gwaredu daearegol.

Adeiladu cyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru

Ni fydd cyfleuster gwaredu daearegol yn cael ei adeiladu yng Nghymru oni bai fod cymuned yn fodlon cynnig lleoliad ac y gellir dod o hyd i safle addas a diogel. Mae’r broses o ddewis safle yng Nghymru yn seiliedig ar ganiatâd. 

Ni fyddai’n gyfrifol am reoleiddio unrhyw gyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru gyda’r Swyddfa Reoleiddio Niwclear, gan sicrhau ei fod yn bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen arnom i ddiogelu pobl a’r amgylchedd. 

Ein gwaith ar draws y sector niwclear cyfan

Rydym yn gweithio’n helaeth gyda’n partneriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar faterion sy’n berthnasol ar draws y sector niwclear cyfan yn y DU.

Rydym yn gweithio ar draws llu o fframweithiau polisi, strategaeth a deddfwriaethol, gan weithio gyda:

  • dylunwyr
  • gweithredwyr
  • datblygwyr
  • partneriaid rheoleiddio
  • adrannau’r llywodraeth (Llywodraeth y DU a Chymru) 

Mae hyn yn cynnwys pennu a chynllunio ar gyfer newidiadau i ddeddfwriaeth y DU ac Ewrop ac ystyried sut y gallai hynny effeithio ar reoleiddio’r sector niwclear yng Nghymru. 

Mae’r pynciau’n cynnwys gwaith sy’n ymwneud â’r strategaethau presennol a'r rhai i'r dyfodol ar gyfer storio a gwaredu gwastraff ymbelydrol yn y DU, y defnydd o ynni niwclear a meddygaeth niwclear yn y dyfodol, ymchwil a datblygu ym maes niwclear, monitro amgylcheddol am ymbelydredd, ac agweddau allweddol eraill ar y sector niwclear y mae angen eu hystyried a'u rheoleiddio. 

Ymbelydredd mewn Bwyd a'r Amgylchedd 

Mae ymbelydredd mewn bwyd a'r amgylchedd yn cael ei fonitro ac adroddir ar hynny’n flynyddol yn yr adroddiad Ymbelydredd mewn Bwyd a'r Amgylchedd (Radioactivity in Food and the Environment - RIFE). Cyhoeddir adroddiad RIFE bob blwyddyn gan reoleiddwyr amgylcheddol ac asiantaethau safonau bwyd.  

Mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd holl ganlyniadau monitro ymbelydredd mewn bwyd a’r amgylchedd gan bartneriaid RIFE (sef Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Safonau Bwyd, Safonau Bwyd yr Alban, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban). 

Darllenwch yr adroddiad RIFE blynyddol diweddaraf. 

Diweddarwyd ddiwethaf