Safonau ein Gwasanaeth Rheoleiddio – Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym

I ni, mae ‘Da’ yn golygu:

  • cael ein harwain a’n rheoli’n dda, gyda staff â sgiliau a phrofiad addas a systemau a phrosesau creiddiol effeithiol;
  • bod yn gwbl glir yn ein penderfyniadau a gwella ein gwasanaeth i’n cwsmeriaid a’n partneriaid yn barhaus, gan osod meincnod uchel i ni ein hunain

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a chynnig gwasanaeth rhagorol i bob un o’n cwsmeriaid, gan ymfalchïo mewn gwneud gwaith da. Byddwn yn gwneud hyn trwy fod:

Yn angerddol ac yn uchelgeision

  • Rydym yn chwilio o ddifrif amsyniadau a dulliau, oddi mewnac oddi allan i CNC
  • Rydym yn ceisio bod yn arloesol yn ein gwaith, a chanfod atebion creadigol i broblemau
  • Rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu’n hyderus, mewn modd amserol, ynglyˆn â’n gwaith

Yn ddibynadwy ac yn broffesiynol

  • Rydym yn agored a chlir wrth esbonio ein camau a’n penderfyniadau
  • Rydym yn seilio ein camau a’n penderfyniadau ar yr wybodaeth orau sydd ar gael
  • Rydym yn parchu barn pobl eraill ac yn trin eraill yn y ffordd y disgwyliem gael ein trin ein hunain
  • Rydym yn annog adborth adeiladol ac yn ymateb iddo

Yn defnyddio synnwyr cyffredin

  • Rydym yn gweithio gyda’n gilydd a chydag eraill i ddod o hyd i atebion ymarferol a phragmatig, oddi mewn ac oddi allan i’r sefydliad
  • Rydym yn canolbwyntio ar y canlyniadau ac yn defnyddio’r broses fyrraf bosibl

Bod yn gyfrifol ac yn atebol

  • Pan wnawn gamgymeriadau, rydym yn dysgu yn eu sgîl ac yn gwella,lle gallwn
  • Rydym yn atebol am ein camau a’n penderfyniadau

Er mwyn ceisio cyflawni hyn, rydym yn anelu at gyflwyno gwybodaeth glir ynghylch y canlynol:

Sut i gysylltu â ni

Cynllun Iaith Gymraeg

Ein safonau ar gyfer gwasanaethau penodol

Lefelau Gwasanaeth Trwyddedu

Trwyddedu Amgylcheddol – Sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd

Sut i gael gafael ar ein cyngor a’n canllawiau

Ein Cyngor a’n Canllawiau Cyhoeddedig

Canllawiau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Sut rydym yn monitro ac yn cynorthwyo gyda chydymffurfiaeth, a’n dull o wirio cydymffurfiaeth

Gwerthuso Risgiau Gweithredol – OPRA

Sut y byddwn yn ymateb i beidio â chydymffurfio â rheoliadau – ein polisi gorfodi

Polisi Gorfodi ac Erlyn

Beth yw ein ffioedd a’n taliadau a sut y cânt eu cyfrifo

Taliadau

Sut i gwyno neu apelio yn erbyn ein penderfyniadau

Sut i Gwyno neu Roi Adborth

Diweddarwyd ddiwethaf