Y Cod Cerdded Cŵn

 

Er mwyn mynd â’ch ci am dro mewn modd diogel a hapus, ac er mwyn peidio ag achosi problemau i eraill:

1. Gwnewch yn siŵr fod eich ci dan reolaeth effeithiol, sy’n golygu:

  • bod gennych dennyn byr gyda chi, a’ch bod yn ei ddefnyddio pan fo angen (e.e. pan fo da byw gerllaw, ger clogwyni neu pan fo arwyddion yn gofyn ichi wneud hynny)

  • na fyddwch yn rhyddhau eich ci oddi ar ei dennyn, oni bai eich bod yn ei gadw o fewn golwg ac yn ddigon agos fel y gall ddychwelyd atoch wrth ichi alw arno

2. Rhwystrwch eich ci rhag mynd yn ddiwahoddiad at farchogwyr, beicwyr neu bobl eraill a’u cŵn.

3. Cadwch eich ci gyda chi ar lwybrau neu dir mynediad, a pheidiwch â gadael iddo grwydro at gnydau, gan gynnwys caeau glaswellt, ffrwythau neu lysiau.

4. Rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, mae’n rhaid i’ch ci fod ar dennyn ar dir mynediad agored. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol.

5. Peidiwch byth â chaniatáu i’ch ci boeni neu redeg ar ôl bywyd gwyllt neu dda byw. Dilynwch y cyngor a geir ar arwyddion lleol er mwyn amharu cyn lleied ag y bo modd ar blanhigion ac anifeiliaid.

6. Gwnewch yn siŵr eich bod yn SAFF pan fo anifeiliaid a cheffylau gerllaw:

  • S - stopiwch, edrychwch a gwrandewch cyn mynd i gae; byddwch yn ymwybodol o’r anifeiliaid sydd yn y cae

  • A - anelwch at adael eich ci ar dennyn byr bob amser

  • F - ffeindiwch y ffordd fwyaf diogel o fynd o amgylch anifeiliaid, gan roi digon o le iddynt a chan ddefnyddio llwybrau neu dir mynediad pan fo modd

  • F - ffoi yw’r peth doethaf i’w wneud os cewch eich bygwth – gadewch y cae yn ddigynnwrf ac yn ddi-oed, gan ryddhau eich ci er mwyn ei gwneud yn haws i’r ddau ohonoch gyrraedd lle diogel

7. Cofiwch roi baw eich ci mewn bag ac yna yn y bin, ble bynnag y byddwch. Gallwch ddefnyddio unrhyw fin gwastraff cyhoeddus, neu’r bin sydd gennych gartref.

8. Peidiwch byth â gadael bagiau’n llawn baw ci o gwmpas y lle, hyd yn oed os ydych yn bwriadu eu casglu’n nes ymlaen. Gall cynhwysydd neu fagiau diarogl ei gwneud hi’n haws ichi ei gario.

9. Gwnewch yn siŵr fod eich manylion ar goler eich ci a bod gan eich ci ficrosglodyn, fel y gellir dod o hyd ichi’n ddidrafferth pe bai eich ci’n mynd ar goll.

10. Cofiwch roi brechiadau a thriniaeth ddilyngyru i’ch ci’n rheolaidd. Gofynnwch i’ch milfeddyg am fwy o wybodaeth.

11. I gael mwy o wybodaeth am bethau i’w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw yn eich ardal, cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu chwiliwch am arwyddion.

Dyma gyngor cyffredinol ar gyfer pobl sy’n mynd â’u cŵn am dro, a ddatblygwyd gyda chyfraniadau gan:

  • Natural England
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Kennel Club
  • Forestry Commission
  • National Farmers’ Union
  • NFU Cymru
  • Ramblers
  • Ramblers Cymru
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad
  • Cyngor Hampshire
  • British Horse Society
  • British Mountaineering Council

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (24 awr).

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf