Llwybrau cerdded hydrefol

Dewiswch eich llwybr

Rydym wedi dewis pum coetir a gwarchodfa natur lle gallwch fwynhau cerdded yng nghanol lliwiau’r hydref.
 
Mae’r llwybrau cerdded wedi eu harwyddo o’r dechrau i’r diwedd a cheir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
 
Mae pob llwybr cerdded wedi’i raddio i roi syniad o’i anhawster. Dysgwch fwy am raddau llwybrau cerdded.

Coedwig Mynwar, ger Hwlffordd

Ymlwybrwch drwy liwiau disglair y derw coch a’r ffawydd

Bydd eich llygaid yn cael gwledd o liwiau llachar yng nghanol y derw coch a’r ffawydd ar y llwybr cylchol hwn mewn hen goetir. Edrychwch am adar fel y titw cynffon-hir, y gnocell fraith fwyaf a’r dringwr bach. Cofiwch fynd at yr olygfan dros Aber Afon Cleddau – cadwch lygad am y crëyr glas ac adar eraill y glannau fan hyn. Cymerwch fflasg ac ymlaciwch yn un o’r ardaloedd picnic ar hyd y llwybr.

  • Enw y llwybr: Llwybr Mynwar
  • Hyd: 1½ milltir/2.6 cilomedr
  • Gradd: Hawdd
  • Tir dan draed: Mae’r daith yn cychwyn ar hyd llwybr cerrig llydan drwy’r goedwig sy’n dringo’n raddol. Daw’n gulach mewn mannau a gall fod yn fwdlyd. Ceir rhywfaint o risiau a dwy ardal bicnic ar y llwybr.
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Coedwig Mynwar, 8 milltir i’r dwyrain o Hwlffordd

Dysgu mwy

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Dringwch drwy’r grug a’r llus at garnedd lle mae golygfeydd o Ben y Fan

Mae’r hydref yn amser gwych i ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan fod llai o ymwelwyr ac mae’r tywydd yn aml yn ddelfrydol i gerdded. Cychwynnwch ar ein llwybr ag arwyddbyst, sy’n fyr ond yn serth, i brofi tirwedd greigiog y mynydd ychydig gannoedd o fetrau yn unig o’r A470. Mae’r llwybr cylchol hwn yn dilyn afon ac yna’n dringo’n serth drwy rug a llus at garnedd. Mae yna olygfeydd gwych o Ben y Fan o’r fan hon ac wrth ddychwelyd i lawr llethr glaswelltog.

  • Enw y llwybr: Llwybr y Cerrig Gleisiad
  • Hyd: 2 filltir/3.4 cilomedr
  • Gradd: Anodd
  • Tir dan draed: Mae’r llwybr yn culhau ac yn dod yn fwy serth a cheir cerrig rhydd a thir anwastad dan draed. Mae’n dychwelyd i lawr ar hyd llethr glaswellt serth a cheir cerrig sarn i groesi nant. Mae gwartheg, defaid a merlod mynydd yn pori yn y warchodfa – cofiwch gadw cŵn dan reolaeth ac yn agos atoch.
  • Dechrau a gorffen: Cilfan gerllaw'r A470, tua 7 milltir i'r de o Aberhonddu

Dysgu mwy

Whitestone, ger Cas-gwent

Sefwch yng ngogoniant lliwiau’r hydref o’n golygfannau dros Ddyffryn Gwy

Mwynhewch y golygfeydd dros afon a cheunant dramatig Gwy drwy’r coed lliwgar o’r tair golygfan ar y llwybr hwn. Mae Dyffryn Gwy wedi bod yn denu ymwelwyr am ganrifoedd ac mae’r hydref yn adeg ragorol i ymweld â’r coetiroedd hyn sydd ymysg y rhai harddaf ym Mhrydain. Mae’r cymysgedd o goed - o goed derw a choed ffawydd urddasol i goed ynn, ceirios a phisgwydd dail bach - yn arddangos amrywiaeth gyfoethog o liwiau hydrefol.

  • Enw y llwybr: Rhyfeddodau Whitestone
  • Hyd: 1¼ milltir/2 cilomedr
  • Gradd: Hawdd
  • Tir dan draed: Llwybr cylchol. Tir gwastad yn bennaf, un darn caregog. Mae pob golygfan â mainc.
  • Cychwyn a gorffen: maes parcio Whitestone, 10 milltir i'r gogledd o Gas-gwent

Dysgu mwy

Coedwig Crychan, ger Llanymddyfri

Ymhyfrydwch yn lliwiau cyfoethog yr hydref ar ein llwybr drwy Goedwig Crychan

Ewch i ymestyn eich coesau ac ymgolli yn lliwiau’r hydref ar ein llwybr byr drwy Goedwig Crychan o faes parcio y gallwch ei gyrraedd yn rhwydd oddi ar yr A40. Mae’r llwybr cylchol hwn yn dilyn glan Nant y Dresglen cyn croesi pont dros yr afon er mwyn dychwelyd. Mae yna lwybr arall ag arwyddbyst yma os ydych chi awydd taith fymryn yn bellach – gweler ein gwefan neu’r panel gwybodaeth yn y maes parcio i gael y manylion.

  • Enw y llwybr: Llwybr Nant y Dresglen
  • Hyd: 1¼ milltir/2.1 cilomedr
  • Gradd: Hawdd
  • Tir dan draed: Byddwch yn dilyn llwybrau drwy’r coetir a ffordd goedwig sy’n wastad ar y cyfan. Mae rhai rhannau mwy garw ac anwastad a gallai’r llwybr fod yn fwdlyd ar ôl tywydd gwlyb. Mae meinciau picnic o amgylch y maes parcio ac wrth yr afon.
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Halfway ar y A40, 5 milltir i’r dwyrain o Lanymddyfri

Dysgu mwy

Coedwig Gwydir, Parc Cenedlaethol Eryri

Mwynhewch olygfeydd o Ddyffryn Conwy dan fantell o liwiau hydrefol

Cymerwch saib i fwynhau golygfeydd o hen dref farchnad Llanrwst a Dyffryn Conwy, dan fantell o liwiau’r hydref, o olygfannau ar hyd y llwybr hwn drwy goetir ysblennydd. Edrychwch am y cerfluniau gyda phaneli gwybodaeth wedi’u gosod ymysg y coed. Crëwyd y cerfluniau gan artistiaid lleol, ac mae un ohonynt yn gofeb drawiadol i hen neuadd y dref yn Llanrwst. Mae’r llwybr hwn wedi’i enwi ar ôl yr Arglwyddes Fair – ei theulu hi ddatblygodd ystad hanesyddol Gwydir nid nepell oddi yma.

  • Enw y llwybr: Llwybr Arglwyddes Fair
  • Hyd: 1¼ milltir/2.1 cilomedr
  • Gradd: Cymedrol
  • Tir dan draed: Mae'r llwybr yn eich arwain drwy gyfuniad o ffyrdd coedwig llydan a llwybr gydag arwyneb anwastad garw lle gallwch ddisgwyl rhywfaint o fwd, cerrig a gwreiddiau coed. Ceir rhwystr igam ogam ar ddechrau'r llwybr, ac ar ben y bryn cyntaf, gyda bwlch o tua 60 cm i gerdded drwyddo. Byddwch yn mynd drwy rwystr igam ogam arall, gan ddilyn llwybr anwastad garw i ailymuno â ffordd y goedwig lle byddwch yn dilyn y llwybr i'r Llain Fowlio Duduraidd, lle ceir bwrdd picnic a mainc cyn gweld yr olygfa olaf i lawr Dyffryn Conwy ar y ffordd i'r maes parcio.
  • Cychwyn a gorffen: Maes parcio Mainc Lifio, filltir i'r gorllewin o Lanrwst

Dysgu mwy

Cynlluniwch eich taith

Weithiau bydd angen inni gau cyfleusterau ymwelwyr neu lwybrau tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw - cynlluniwch ymlaen llaw a darllenwch dudalen we'r coetir neu'r warchodfa cyn cychwyn.

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn rhoi cyngor defnyddiol i chi ar sut i baratoi eich taith, gofalu eich bod chi ac eraill yn ddiogel a sut i helpu i sicrhau bod cefn gwlad yn parhau i fod yn lle hardd y gall pawb ei fwynhau.

Ydych chi’n chwilio am rywle arall i fynd iddo? 

Ewch i’n tudalen Lleoedd i ymweld â hwy.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Llwybr Mynwar PDF [4.6 MB]
Rhyfeddodau Whitestone PDF [884.5 KB]
Llwybr Nant y Dresglen PDF [4.2 MB]
Llwybr Arglwyddes Fair PDF [4.9 MB]
Diweddarwyd ddiwethaf