Data ecolegol wedi’i eithrio rhag cael ei ryddhau'n gyffredinol

O dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, rydym yn darparu mynediad cyhoeddus i wybodaeth amgylcheddol yr ydym yn ei chadw ar Gymru.

Mae gennym yr hawl i gadw data yn ôl o dan eithriad yn y rheoliadau lle:

'y byddai datgelu’n cael effaith niweidiol ar ddiogelu'r amgylchedd y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef'.

Gelwir hyn yn ddata ecolegol sydd wedi’i eithrio rhag cael ei ryddhau'n gyffredinol.

Pam fod rhai data wedi’i eithrio rhag cael ei ryddhau

Mae rhai rhywogaethau, a rhai nodweddion bioamrywiaeth eraill, yn agored iawn i ddifrod, amhariad neu gamddefnydd masnachol os rhyddheir data neu wybodaeth i’r cyhoedd.

Gallai data a gwybodaeth sy'n nodi lleoliad rhywogaethau a chynefinoedd perthnasol gael eu camddefnyddio'n bwrpasol neu ar ddamwain ac mewn ffordd sy'n arwain at ddifrod.

Gall mathau o ddifrod gynnwys y canlynol:

  • casglu, e.e. gallai gwneud lleoliad nythod bodaod tinwyn neu boblogaethau rhedyn Cilarne yn hysbys i gasglwyr arwain at ddifrod i'r rhywogaethau hyn
  • amharu, e.e. gall ffotograffwyr amharu ar waliau dyfrgwn
  • gweithgarwch anghyfreithlon, e.e. gallai pobl ddefnyddio gwybodaeth am leoliad brochfeydd moch daear i gymryd rhan mewn baetio brochod

Rhaid i rywogaethau neu nodweddion ar y rhestrau hyn o eithriadau fod yn destun ffynhonnell bwysau benodol sydd yn eu peryglu. Gelwir hyn yn gyfiawnhad bygythiad. Nid yw prinder neu ddynodiad cyfreithiol yn ddigon i gyfiawnhau eu cynnwys ar ei ben ei hun. Ni chynhwysir nifer o rywogaethau prin.

Graddfa ofodol

Mae gan bob rhywogaeth ar y rhestr raddfa ofodol gysylltiedig. Ystyrir bod data a gwybodaeth sy'n is na’r raddfa hon (ar lefel fwy manwl) yn cynyddu’r perygl posibl o niwed i’r nodwedd honno petai ar gael i’r cyhoedd. Credir bod data a gwybodaeth sy’n uwch na’r raddfa ofodol hon (llai manwl gywir, eglurder ehangach) ar lefel lle mae’r perygl o niwed yn dderbyniol.

Uwchblanhigion ac isblanhigion y tir

Enw Gwyddonol Enw Cyffredin Pa ran o’r cylch bywyd yr ERhRhG? Pa ddata penodol yr ERhRhG? O dan ba raddfa y mae’n ERhRhG? Cyfiawnhad perygl Cyfiawnhad bygythiad

Woodsia alpina

Rhedynen-Woodsia Alpaidd

Pob Un

Union leoliad unigolion a phoblogaethau

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

RDP

Atodlen 8 Wildlife and Countryside Act

Niwed gan ffotograffwyr, casglwyr planhigion, y cyhoedd (yn agos at safleoedd poblogaidd)

Trichomanes speciosum

Rhedynen Cilarne

Sporoffyt (ffurf sy’n cynhyrchu sborau)

Union leoliad unigolion a phoblogaethau

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

RDP

Blaenoriaeth BAP DU

Atodiad II Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau

Atodlen 8 Wildlife and Countryside Act

Niwed gan ffotograffwyr, casglwyr planhigion, y cyhoedd (yn agos at safleoedd poblogaidd)

Woodsia ilvensis

Rhedynen-Woodsia hirgul

Pob Un

Union leoliad unigolion a phoblogaethau

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

RDP

Blaenoriaeth BAP DU

Atodlen 8 Wildlife and Countryside Act

Niwed gan ffotograffwyr, casglwyr planhigion, y cyhoedd (yn agos at safleoedd poblogaidd)

Potentilla rupestris

Pumnalen y graig

Pob Un

Union leoliad unigolion a phoblogaethau

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

RDP

Atodlen 8 Wildlife and Countryside Act

Niwed gan ffotograffwyr, casglwyr hadau, y cyhoedd (planhigyn deniadol)

Cotoneaster cambricus

Cotoneaster y Gogarth

Pob Un

Union leoliad unigolion a phoblogaethau

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

RDP

Blaenoriaeth BAP DU

Atodlen 8 Wildlife and Countryside Act

Niwed gan ffotograffwyr, casglwyr planhigion, y cyhoedd (yn agos at safleoedd poblogaidd)


Adar

Enw Gwyddonol Enw Cyffredin Pa ran o’r cylch bywyd yr ERhRhG? Pa ddata penodol yr ERhRhG? O dan ba raddfa y mae’n ERhRhG? Cyfiawnhad perygl Cyfiawnhad bygythiad

Recurvirostra avosetta

Cambig

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar

Bridiwr prin

Aflonyddu a chasglwyr wyau

Tyto alba

Tylluan wen

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Aflonyddu

Panurus biarmicus

Titw barfog

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Bridiwr prin

Aflonyddu

Botaurus stellaris

Aderyn y bwn

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar Blaenoriaeth

BAP DU

WAG Adran 42

Ar hyn o bryd wedi darfod fel rhywogaeth sy’n bridio yng Nghymru, ond gallai ddechrau nythu eto’n fuan

Aflonyddu

Tetrao tetrix

Grugiar ddu

Bridio

Union leoliad mannau paru (‘lek’)

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Blaenoriaeth BAP DU

WAG Adran 42

Aflonyddu

Cepphus grylle

Gwylog ddu

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Bridiwr prin

Aflonyddu

Cettia cetti

Telor Cetti

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Bridiwr prin

Aflonyddu

Pyrrhocorax pyrrhocorax

Brân goesgoch

Bridio a gaeafu

Union leoliad safleoedd nythu a chlwydfannau gaeaf

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cfarwyddeb Adar, WAG Adran 74

Aflonyddu a chasglwyr wyau.

Somateria mollissima

Hwyaden fwythblu

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Bridiwr prin

Aflonyddu

Coturnix coturnix

Sofliar

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Bridiwr prin

Aflonyddu

Calidris alpina

Pibydd y mawn

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Bridiwr prin

Aflonyddu

Regulus ignicapillus

Dryw penfflamgoch

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Bridiwr prin

Aflonyddu

Anas querquedula

Hwyaden addfain

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Bridiwr prin

Aflonyddu

Accipiter gentilis

Gwalch marthin

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Aflonyddu ac erlid

Circus cyaneus

Boda tinwyn

Bridio a gaeafu

Union leoliad safleoedd nythu a chlwydfannau gaeaf

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar, WAG Adran 42

Aflonyddu ac erlid

Falco subbuteo

Hebog yr ehedydd

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Bridiwr prin

Aflonyddu

Pernis apivorus

Boda'r mêl

Bridio

Presenoldeb parau sy’n bridio ac union leoliad safleoedd nythu

100 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar

Bridiwr prin

Aflonyddu a chasglwyr wyau

Charadrius dubius

Cwtiad torchog bach

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Aflonyddu

Sterna albifrons

Môr-wennol fechan

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar

Ar hyn o bryd dim ond un safle nythu yng Nghymru

Aflonyddu a chasglwyr wyau

Asio otus

Tylluan gorniog

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Bridiwr prin

Aflonyddu

Circus aeruginosus

Boda'r gwerni

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar. Nid yw’n bridio’n rheolaidd yng Nghymru ar hyn o bryd, ond ceir cofnodion o’r adar hyn yn ystod yr haf o bryd i’w gilydd, gyda phosibilrwydd o fridio yma yn y dyfodol

Aflonyddu a chasglwyr wyau

Falco columbarius

Cudyll Bach

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar

Aflonyddu

Pandion haliaetus

Gwalch y pysgod

Bridio

Presenoldeb parau sy’n bridio ac union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar

Cytrefu o’r newydd yn 2004, bridiwr prin

Aflonyddu a chasglwyr wyau

Falco peregrinus

Hebog tramor

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar

Aflonyddu ac erlid

Aythya ferina

Hwyaden bengoch

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Bridiwr prin

Aflonyddu

Milvus milvus

Barcud

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar

Aflonyddu a chasglwyr wyau

Sterna dougallii

Môr-wennol wridog

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and COuntryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar

Blaenoriaeth BAP DU

WAG Adran 42

Ar hyn o bryd dim ond 1 safle nythu yng Nghymru

Aflonyddu a chasglwyr wyau

Asio flammeus

Tylluan glustiog

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar

Bridiwr prin

Aflonyddu

Porzana porzana

Rhegen fraith

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Atodiad 1 Cyfarwyddeb Adar

Bridiwr prin

Aflonyddu

Carduelis flavirostris

Llinos y mynydd

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

WAG Adran 42

Bridiwr prin

Aflonyddu

Numenius phaeopus

Coegylfinir

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Atodlen 1 Wildlife and Countryside Act

Bridiwr prin

Aflonyddu

Anas penelope

Chwiwell

Bridio

Union leoliad safleoedd nythu

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Bridiwr Prin (<30 pâr)

Aflonyddu


Creaduriaid asgwrn cefn eraill y tir

Enw Gwyddonol Enw Cyffredin Pa ran o’r cylch bywyd yr ERhRhG? Pa ddata penodol yr ERhRhG? O dan ba raddfa y mae’n ERhRhG? Cyfiawnhad perygl Cyfiawnhad bygythiad

Pob rhywogaeth ystlum

Pob rhywogaeth ystlum

Pob Un

Union leoliad clwydfannau ar eiddo preifat. Lleoliad safleoedd clwydo tanddaearol.

Enwau clwydfannau sy’n datgelu union gyfeiriadau neu gyfeiriadau personol

Cyfeirnod grid 4 ffigur neu 1 km sgwâr

Atodlen 5 Wildlife and Countryside Act

Atodiad II a IV Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau

Blaenoriaeth BAP DU

Aflonyddu ar ystlumod a dieithrio’r tirfeddiannwr

Meles meles

Mochyn daear

Pob Un

Union leoliad y daearau

Cyfeirnod grid 4 ffigur neu 1 km sgwâr

Deddf Moch Daear 1992

Baetio a chloddio am foch daear

Lutra lutra

Dyfrgi

Pob Un

Union leoliad y gwalau

Cyfeirnod grid 4 ffigur neu 1 km sgwâr

Atodlen 5 Wildlife and Countryside Act

Atodiad II a IV Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau

Blaenoriaeth BAP DU

Aflonyddu

Castor fiber

Afanc Ewrasiaidd

Pob un

Unrhyw wybodaeth sy'n cynnwys manylion am ddeyerydd/gwalau, niferoedd, tystiolaeth o weithgarwch fel llystyfiant wedi'i dorri, ac arwyddion o fwydo

Cyfeirnod grid 2 ffigwr y sgwâr 20 km

Wedi'i dosbarthu'n rhywogaeth frodorol a ailgyflwynwyd ym Mhrydain Fawr. Ddim yn warchodedig yng Nghymru ar hyn o bryd, ond yn warchodedig yn yr Alban ac yn destun adolygiad fel rhan o’r Adolygiad Pum-mlynyddol 7 (QQR7) cyfredol (2021) o Atodlen 5 o'r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad. Niferoedd bach iawn a geir yng Nghymru o ganlyniad i anifeiliaid a ryddhawyd yn anghyfreithlon a/neu anifeiliaid dof sydd wedi dianc

Aflonyddu ac erlid


Ceaduriaid di-asgwrn-cefn ar y tir ac mewn dŵr croyw

Enw Gwyddonol Enw Cyffredin Pa ran o’r cylch bywyd yr ERhRhG? Pa ddata penodol yr ERhRhG? O dan ba raddfa y mae’n ERhRhG? Cyfiawnhad perygl Cyfiawnhad bygythiad

Margaritifera margaritifera

Misglen dŵr croyw

Llawn dwf

Union leoliad a chofnodion o niferoedd (dwysedd) y rhywogaeth.

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

Blaenoriaeth BAP DU,

Atodiad II Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau

Atodiad I Cytundeb Berne

Atodlen 5 Wildlife and Countryside Act

Poblogaethau eisoes ar fin darfod

Mae pysgota perl anghyfreithlon yn lladd y misglod yn ddieithriad.


Rhywogaethau a chynefinoedd morol

Enw Gwyddonol Enw Cyffredin Pa ran o’r cylch bywyd yr ERhRhG? Pa ddata penodol yr ERhRhG? O dan ba raddfa y mae’n ERhRhG? Cyfiawnhad perygl Cyfiawnhad bygythiad

Palinurus elephas

Cimwch yr afon

Pob Un

Union leoliad a chofnodion o niferoedd (dwysedd) y rhywogaeth.

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

BAP DU

WAG Adran 42

Dirywio yng Nghymru ers 1980 (Hunter 1999)

Pysgota masnachol a hamdden yn bygwth stociau.

Ostrea edulis

Wystrysen

Pob Un

Union leoliad a chofnodion o niferoedd (dwysedd) y rhywogaeth.

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

BAP DU

WAG Adran 42

Pysgota masnachol a hamdden yn bygwth stociau.

IMX.Ost (cod biotop)

Cynefin gwely wystrys

Amh

Union leoliad y biotop a chofnodion niferoedd (dwysedd) y rhywogaeth.

20 km sgwâr

BAP DU

WAG Adran 42

Pysgota masnachol a hamdden yn bygwth stociau.

Hippocampus guttulatus

Morfarch

Pob Un

Union leoliad a chofnodion o niferoedd (dwysedd) y rhywogaeth.

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

BAP DU

WAG Adran 42

Rhywogaeth sy’n flaenoriaeth yng nghytundebau Berne, CITES, OSPAR

Ychydig iawn a gofnodwyd yn nyfroedd Cymru, ond gall y niferoedd godi wrth i dymheredd y môr godi

Casglu ar gyfer acwaria.

Hippocampus hippocampus

Morfarch trwyn byr

Pob Un

Union leoliad a chofnodion o niferoedd (dwysedd) y rhywogaeth.

Cyfeirnod grid 2 ffigur neu 10 km sgwâr

BAP DU

Rhywogaeth sy’n flaenoriaeth yng nghytundebau Berne, CITES, OSPAR

Ar hyn o bryd nid oes cofnodion yng Nghymru ond gallai gynyddu wrth i dymheredd y môr godi

Casglu ar gyfer acwaria.


Ystlumod y mae gwybodaeth amdanynt wedi’i hesemptio rhag ei rhyddhau’n gyffredinol (ERhRhG)

Mae hon yn rhestr o rywogaethau ystlumod a chreaduriaid morfilaidd y gwyddys eu bod i’w cael yn y DU neu'n rhywogaethau crwydrol. Sylwer nad yw'r rhestrau yn y canllaw hwn yn gyflawn ac y bydd rhywogaethau eraill o ystlumod neu greaduriaid morfilaidd crwydrol neu nad ydynt ar y rhestr hefyd yn cael eu dosbarthu fel wedi eu Hesemptio Rhag eu Rhyddhau’n Gyffredinol dan y canllaw hwn.

Enw Gwyddonol Enw Cyffredin

Myotis alcathoe

Ystlum Barfog Alcathoe

Barbastella barbastellus

Ystlum Du

Myotis bechsteinii

Ystlum Bechstein

Myotis brandtii

Ystlum Brandt

Plecotus auritus

Ystlum Hirglust

Pipistrellus pipistrellus

Ystlum Lleiaf

Myotis daubentonii

Ystlum Daubenton

Rhinolophus ferrumequinum

Ystlum Pedol Mwyaf

Plecotus austriacus

Ystlum Hirglust Llwyd

Nyctalus leisleri

Ystlum Leisler

Rhinolophus hipposideros

Ystlum Pedol Lleiaf

Pipistrellus nathusii

Ystlum lleiaf nathusius

Myotis nattereri

Ystlum Natterer

Nyctalus noctula

Ystlum Mawr

Eptesicus serotinus

Ystlum Adain-Lydan

Pipistrellus pygmaeus

Ystlum Lleiaf Meinlais

Myotis mystacinus

Ystlum Barfog

Myotis Myotis

Ystlum Clustlydan Mawr (Ystlumod crwydrol posibl)

 

Diweddarwyd ddiwethaf