Adroddiad Blynyddol Rheoli Perygl Llifogydd 2022 - 2023

Rhagair

Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn crynhoi’r ystod o weithgareddau a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth reoli perygl lifogydd yng Nghymru yn 2022/23.

Mae perygl llifogydd yn cynyddu. Mae’r dystiolaeth am newid yn yr hinsawdd ac amlder a dwyster cynyddol digwyddiadau tywydd eithafol yn glir. Gall effeithiau llifogydd fod yn drychinebus i bobl, cymunedau, busnesau, seilwaith, yr amgylchedd a'r economi. Mae gweld a phrofi cymaint o ddigwyddiadau tywydd eithafol a dinistriol ar draws y byd mor gyson erbyn hyn yn ddigon er mwyn gallu deall bod yr argyfwng hinsawdd yn digwydd nawr.

Mae’n amlwg hefyd ein bod yn profi argyfwng natur - mae bioamrywiaeth yn dirywio ac mae cynefinoedd yn prinhau, gyda rhai rhywogaethau’n cael eu colli a llawer o rai eraill dan fygythiad difrifol. 

Mae angen inni gydnabod bod yr argyfyngau hinsawdd a natur yn mynd law yn llaw: er enghraifft, mae angen i natur ffynnu er mwyn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd (a pherygl llifogydd), ond mae byd natur ei hun yn cael ei heffeithio’n andwyol gan y newid yn yr hinsawdd. Mae angen ymyriadau sy'n mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur fel ei gilydd.

Mae CNC wedi cyhoeddi Cynllun Corfforaethol newydd yn ddiweddar sy’n canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd sy’n wynebu Cymru, a’r byd. Mae'r Cynllun Corfforaethol hwn yn cydnabod bod angen i ni gyflawni o ran newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio, ond mae angen i ni hefyd werthfawrogi bod newid yn digwydd nawr, a bod y newid hwnnw’n digwydd yn gyflym. Mae'n rhaid i ni weithio’n gyflymach i gyflawni mesurau addasu i atal niwed a hyrwyddo gwytnwch a chynaliadwyedd hinsawdd a natur.

Ysgrifennwyd yr Adroddiad Blynyddol hwn yng nghyd-destun yr heriau hirdymor hyn. Mae’n drosolwg o’r gwaith y mae CNC yn ei wneud o ran rheoli perygl llifogydd dros gyfnod o flwyddyn, ond mae wedi cael ei ysgrifennu yng nghyd-destun y cynlluniau a’r mentrau hirdymor angenrheidiol. Mae llawer i’w wneud – ond mae llawer yn cael ei wneud hefyd, ac mae’n bwysig cymryd cam yn ôl a chydnabod hynny. At hynny, mae’n wir dweud fy mod i’n wirioneddol falch o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan fy nghydweithwyr ar draws CNC i reoli perygl llifogydd. Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn disgrifio rhywfaint o'r gwaith hwnnw. 

 

Jeremy Parr
Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau
Cyfoeth Naturiol Cymru

Crynodeb gweithredol

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, a'n diben craidd yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.

Mae gennym amrediad o rolau a chyfrifoldebau, gan amrywio o reoleiddiwr i gynghorydd, tirfeddiannwr, gweithredwr ac ymatebwr mewn argyfwng. Mae gennym drosolwg strategol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy'n golygu goruchwylio a chyfathrebu gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn gyffredinol yng Nghymru. Mae gennym bwerau hefyd i reoli llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr.

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 245,118 o adeiladau mewn perygl o lifogydd. Mae hyn yn golygu tua un adeilad ym mhob wyth yng Nghymru. Rydym yn dilyn dull sy'n seiliedig ar risg o reoli perygl llifogydd drwy'r gweithgareddau a gyflawnir gennym. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r buddsoddi a wnaed, gweithgareddau allweddol, a chyflawniadau CNC o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol o Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023. Mae'n seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael ar adeg ei ysgrifennu (Gwanwyn 2023). 

Rydym yn bwriadu defnyddio'r adroddiad blynyddol hwn i ffurfio rhan o'r adroddiad statudol y mae'n ddyletswydd arnom i’w gwblhau (o dan adran 18 o'r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr) ar gynnydd gweithredu Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y strategaeth ym mis Hydref 2020, a bydd llawer o'r gweithgareddau a ddisgrifir yn yr adroddiad blynyddol hwn yn cyfrannu at ddull cyflwyno'r amcanion a mesurau y mae'r strategaeth honno'n eu cynnwys.

Mae rhai o uchafbwyntiau allweddol 2022/23 yn cynnwys:

  • Buddsoddiad gwerth £42 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru gan CNC dros y flwyddyn mewn gweithgareddau rheoli perygl llifogydd allweddol yng Nghymru.
  • Cynnydd nifer o gynlluniau llifogydd, gan gynnwys cwblhau cynlluniau yn Llanfair Talhaiarn (Conwy), Llyn Tegid (Y Bala) a’r Bont-faen (Bro Morgannwg) a Chronfa Ddŵr Wydden (Conwy). Yn ogystal, datblygwyd prosiectau sylweddol yn Rhydaman a Stryd Stephenson (Casnewydd). Mae hyn ochr yn ochr â llawer o gynlluniau eraill sydd ar wahanol gamau datblygu mewn lleoliadau ledled Cymru, nifer o brosiectau ar raddfa lai, a rhaglen gynnal a chadw gynhwysfawr.
  • 1,680 eiddo yn elwa'n uniongyrchol naill ai o ostyngiad yn y perygl o lifogydd neu'r lefel barhaus o amddiffyniad rhag llifogydd a ddarperir gan ein gwaith cynnal a chadw. Bwriedir i dros 3,000 yn fwy o eiddo elwa o waith datblygu’r prosiect a wnaed eleni a fydd yn arwain at gyflawni’r prosiect ac felly’n lleihau risg yn y blynyddoedd i ddod.
  • Gwelliant parhaus i’n gwasanaethau data gan gynnwys prosiect rheoli data, cynnal a diweddaru setiau data perygl llifogydd allweddol o fewn Asesiadau Perygl Llifogydd Cymru a gwelliannau i’r Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol gan ychwanegu cofnodion asedau o 20 o’r 22 Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol.
  • Cyflawni mesurau Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru gan gynnwys cyhoeddi ein map risg arfordirol ar ein gwefan sy’n dangos data Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol a chynnal asesiad o’r gofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli ein hasedau rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol.
  • Cyflawni gwelliannau i’r gwasanaeth rhagweld llifogydd a’r rhwydwaith hydrometrig sy’n arwain at welliannau i’n gwasanaeth rhybuddion llifogydd.
  • Parhau i ddatblygu prosiectau TGCh allweddol i gymryd lle ein System Rhybuddion Llifogydd a'n system Telemetreg.
  • Cyflawni gwelliannau i’n systemau rheoli asedau, gan gynnwys gwella ein rhestrau asedau a datblygu’r Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg newydd.
  • Symud gwaith yn ei flaen er mwyn cwblhau a gweithredu camau a argymhellwyd a nodwyd fel rhan o’n Hadolygiad o Lifogydd ym mis Chwefror 2020.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl uchafbwyntiau hyn, ynghyd â chyflawniadau allweddol eraill, wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys manylion am ein cyflawniadau allweddol a’n hamcanion o safbwynt rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23. Ceir manylion ynddo am y gweithgareddau sy'n cyfrannu at reoli perygl llifogydd yng Nghymru ac mae hefyd yn rhoi sylw i fetrigau ac ystadegau allweddol sy'n dangos y lefel o ymdrech sydd ynghlwm wrth reoli perygl llifogydd ynghyd â graddfa'r her a wynebir.

Nid yw'r adroddiad hwn yn cwmpasu pob gweithgaredd neu faes gwasanaeth yn fanwl, a bwriedir iddo fod yn grynodeb o uchafbwyntiau blwyddyn ariannol 2022/23. Mae'r wybodaeth a’r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar y data a oedd ar gael ar adeg llunio'r crynodeb hwn (gwanwyn 2023). Bydd yr adroddiad hwn yn gyhoeddiad blynyddol parhaol a bydd yn cyd-fynd â chyflwyno'r adroddiad cynnydd nesaf ar Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru (sef ‘adroddiad adran 18’ sy'n ofynnol o dan adran 18 o'r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr).

Stormydd a llifogydd a brofwyd dros y flwyddyn ddiwethaf (Ebrill 2022 – Mawrth 2023)

Bob blwyddyn, rydym yn cynllunio'r gwaith rydym am ei gyflawni er mwyn rheoli perygl llifogydd. Ar ben hynny, rhaid i ni ymateb i ddigwyddiadau llifogydd pan fônt yn digwydd. Gallai ein gwaith fod yn ymatebol a ddilynwn er mwyn rheoli'r digwyddiad llifogydd ar y pryd, neu fe allai achosi gwaith ychwanegol y bydd angen i ni ei gyflawni. Mae'r adran hon yn grynodeb o'r digwyddiadau llifogydd mwy nodedig y gwnaethom ymateb iddynt yn ystod y flwyddyn – y rhai a achosodd aflonyddwch neu ddifrod sylweddol i gymunedau.

Rydym yn monitro ac yn ymateb i lifogydd pryd bynnag y maent yn digwydd – 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, bob dydd o’r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys monitro rhagolygon, rhoi rhybuddion, sicrhau bod asedau llifogydd a hydrometreg yn gweithio’n gywir, gwaith atgyweirio, postio gwybodaeth gyfredol ar ein gwefan, ymdrin â chyfweliadau ac ymholiadau'r cyfryngau, a chefnogi sefydliadau eraill sy'n ymatebwyr i ddigwyddiadau. Pan fo digwyddiad yn codi, ceir effaith amlwg ar ein gallu i gyflawni gwaith arall a gynlluniwyd wrth i ni ymateb i'r heriau y mae pob digwyddiad tywydd difrifol yn ei gyflwyno, a hynny yn ystod y digwyddiadau hyn a'r cyfnod sy'n eu dilyn, wrth i ni ddelio â'r effeithiau a'r canlyniadau.

Ni fu unrhyw stormydd wedi’u henwi yn y DU yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Er hynny, mae cyfnodau o dywydd ansefydlog iawn wedi effeithio ar Gymru. Yn dilyn hanner cyntaf digon tawel o fis Ebrill hyd fis Hydref, cafwyd cyfnodau cyson o wyntoedd cryfion a glaw trwm ym mis Tachwedd. Cyhoeddwyd rhybuddion llifogydd - byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd sawl gwaith yn ystod y mis gyda llifogydd dŵr wyneb yn effeithio ar Gastell-nedd a Saundersfoot.

Roedd Ionawr hefyd yn fis ansefydlog iawn gyda sawl cyfnod o dywydd ansefydlog. Roedd y cyfnod rhwng 10 a 15 Ionawr yn arbennig o ddrwg gyda lefelau afonydd ar draws Cymru yn uchel yn dilyn cyfnod hir o dywydd gwlyb, gyda nifer o ardaloedd yn profi glawiad ymhell uwchlaw’r cyfartaledd misol hirdymor. Roedd Llyn Efyrnwy yn un lleoliad o'r fath a brofodd 289.4mm o law yn y cyfnod rhwng 1 a 15 Ionawr o'i gymharu â'r cyfartaledd misol hirdymor o 193mm ym mis Ionawr. Roedd ein timau ymateb gweithredol yn gweithio bob awr yn ystod y cyfnod hwn a chyhoeddwyd cyfanswm o 50 o rybuddion llifogydd byddwch yn barod a 95 o rybuddion llifogydd. Nodwyd effeithiau seilwaith eang gyda ffyrdd ynghau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Mynwy, Crucywel a'r Fenni, ond ychydig iawn o adroddiadau a gafwyd am lifogydd mewn eiddo o ganlyniad i effeithiolrwydd ein hamddiffynfeydd. Dim ond chwe eiddo yr adroddwyd eu bod wedi profi llifogydd yn nalgylchoedd Taf ac Elái.

Adolygiad o Lifogydd Mis Chwefror 2020

Ym mis Chwefror 2020, gwelwyd rhai o’r llifogydd mwyaf dinistriol y mae Cymru wedi’u gweld ers cenhedlaeth. Ar ôl gaeaf eithriadol o wlyb, cyrhaeddodd y glawiad a'r llifau afon mwyaf erioed yn sgil Storm Ciara, Storm Dennis a Storm Jorge ym mis Chwefror 2020, ac, o ganlyniad iddynt, achoswyd y digwyddiad llifogydd mwyaf difrifol ac eang eu gwasgariad a welwyd yng Nghymru ers 1979. Yn gyfan gwbl, cafwyd adroddiadau bod llifogydd mewn 3,130 eiddo ledled Cymru. 

Gwnaethom gynnal adolygiad sylweddol o'n hymateb i'r stormydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar ein gweithrediadau rheoli digwyddiadau llifogydd a myfyrio ar sut y gellid addasu'r arferion cyfredol rydym yn eu mabwysiadu o ran rheoli ystâd tir CNC er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd. Gwnaethom gyhoeddi'r adolygiadau hyn ar ein gwefan ym mis Hydref 2020.

Yn ystod 2022/23, fe wnaethom barhau i gyflawni’r 74 o gamau gweithredu a nodwyd yn yr adolygiad llifogydd i wella ein gweithrediadau rheoli llifogydd ynghyd â’r 20 cam gweithredu sy’n weddill o’r adolygiad Adfer. Rheolir yr holl gamau gweithredu trwy'r Rhaglen Gweithredu Adfer ac Adolygu Llifogydd. Rydym bellach wedi cwblhau 59 o'r 74 o gamau gweithredu adolygiad llifogydd a phob un o'r 20 o gamau Adfer. Bwriedir cwblhau'r 15 o gamau gweithredu adolygu llifogydd sy'n weddill dros y tair blynedd nesaf. Mae'r rhain i gyd yn gamau gweithredu hirdymor sy'n cymryd amser i'w gweithredu.

Mae allbynnau allweddol yr adolygiad hyd yn hyn yn cynnwys:

  • Gwelliannau i'n gwefan gan gynnwys gwell gwybodaeth cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd a gwella gwytnwch y wefan.
  • Gwelliannau i’n rotâu digwyddiadau, gan gynyddu’r gronfa o bobl y gellir eu hyfforddi i gyflawni rôl rota digwyddiad (mae hyfforddiant ar waith)
  • Gweithredu dros 14 o nodiadau canllaw a datganiadau polisi newydd, sy'n gwella ein prosesau a'n gweithgareddau.
  • Cyflwyno cyrsiau hyfforddi ar gyfer ystod eang o staff rota digwyddiadau gan gynnwys hyfforddiant 4x4, hyfforddiant gelyniaethus a hyfforddiant diogelwch dŵr ymhlith eraill.
  • Gwelliannau i'n hystafelloedd digwyddiadau, gan gynnwys darparu cyflenwad pŵer di-dor yn Swyddfa Bwcle gyda generadur wrth gefn.

Trafodir canlyniadau a buddion pellach o brosiectau a gyflawnwyd o ganlyniad i'r adolygiad llifogydd o dan y penodau pwnc perthnasol yn yr adroddiad hwn.

Y Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd

Mae ein gwasanaeth Rheoli Perygl Llifogydd yn ceisio lleihau’r perygl o lifogydd i gymunedau Cymru drwy amrywiaeth o weithgareddau ar draws y busnes sy’n cwmpasu gwaith gweithredol a gwaith sy’n cael ei lywio gan bolisïau. Er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, sefydlwyd y Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd strategol ym mis Ionawr 2020. Mae’r rhaglen gwella wedi’i strwythuro i sicrhau bod yr holl waith prosiect a wneir y tu allan i brosiectau adeiladu neu weithgareddau ‘busnes fel arfer’ yn cael ei ganoli o fewn un rhaglen gan sicrhau tryloywder, cysondeb ac effeithiolrwydd o ran nodi a chyflawni gwelliannau ac arbedion effeithlonrwydd ar draws y gwasanaeth. Nod ein rhaglen yw gwella’n barhaus er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2023 roedd 60 o brosiectau o fewn y rhaglen. Mae llawer o'r prosiectau hyn i'w gweld yn y penodau pwnc perthnasol yn yr adroddiad blynyddol hwn.

Deall a dadansoddi perygl llifogydd

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl ymdrechion i gynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd yng Nghymru, a hynny'n bennaf drwy ein gweithgareddau dadansoddi hydrolegol a modelu perygl llifogydd. Mae hefyd yn cynnwys sut yr ydym yn cyfleu'r perygl llifogydd hwnnw i randdeiliaid drwy ein cynhyrchion mapio llifogydd a'n gwasanaethau gwefan. Ei ddiben yw cynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd, llywio pob un o'n gweithgareddau eraill, a'u cyfarwyddo, ac i hysbysu ein rhanddeiliaid am eu perygl llifogydd perthnasol.

Mae gennym bwerau i reoli llifogydd o brif afonydd, o'n cronfeydd dŵr, ac o'r môr. Mae gennym hefyd rôl oruchwylio strategol gyda goruchwyliaeth gyffredinol dros yr holl faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn golygu cael dealltwriaeth gyson, ar draws Cymru gyfan, o bob ffynhonnell llifogydd ac erydu arfordirol, a'r risgiau sy'n gysylltiedig â nhw, er mwyn darparu cyngor i Lywodraeth Cymru yn ogystal â helpu i hysbysu'r Awdurdodau Rheoli Perygl a'r cyhoedd. Fel rhan o'n rôl drosolwg strategol, rydym yn gwneud gwaith mapio perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer pob ffynhonnell o berygl llifogydd.

Beth sydd mewn perygl o lifogydd?

Ym mis Ebrill 2022, roedd cyfanswm yr adeiladau yng Nghymru heb eu hamddiffyn ac felly mewn perygl o lifogydd yn 291,070. Gall rhai adeiladau fod mewn perygl o lifogydd o fwy nag un ffynhonnell, ac felly gan osgoi cyfri’r adeiladau sydd mewn perygl o ffynonellau lluosog fwy nag unwaith, amcangyfrifir bod 245,118 o adeiladau mewn perygl o lifogydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae Tablau 1-3 isod yn dangos y dadansoddiad yn ôl ffynhonnell llifogydd, math o eiddo a band perygl llifogydd. Mae’r rhain yr un fath â’r ffigurau yn adroddiad 2021-22. Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym wedi cynnal prosiect rheoli data sy’n ein galluogi i ddangos y ffigurau sy’n wynebu perygl o lifogydd yn flynyddol. Bydd y broses hon yn dechrau yn ddiweddarach yn 2023/24 ac felly gallwn ddisgwyl gweld y niferoedd yn newid mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol.

Mae'r tablau canlynol yn dangos dosbarthiad yr adeiladau fesul lefel perygl a ffynhonnell, ar sail ffigurau cywir ym mis Ebrill 2021.

Tabl 1: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o afonydd.

Categori perygl llifogydd Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd Cyfanswm mewn perygl o lifogydd
Afonydd Uchel 21,958 2,670 508 25,136
Afonydd Canolig 14,936 2,020 326 17,282
Afonydd Isel 40,984 5,814 954 47,752
Cyfanswm yr Afonydd 77,878 10,504 1,788 90,170

 

Tabl 2: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o’r môr.

Categori perygl llifogydd Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd Cyfanswm mewn perygl o lifogydd
Môr Uchel 42,229

4,424

808 47,461
Môr Canolig 11,764 1,835 318 13,917
Môr Isel 8,288 1,154 222 9,664
Cyfanswm y Môr 62,281 7,413 1,348 71,042

 

Tabl 3: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain.

Dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd Cyfanswm mewn perygl o lifogydd
Uchel 31,192 3,347 740 35,279
Canolig 16,425 1,892 344 18,661
Isel 68,113 6,428 1,377 75,918
Cyfanswm 115,730 11,667 2,461 129,858

Prosiect rheoli data Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW)

Cwblhawyd prosiect Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW) yn 2019 gan ddarparu’r map FRAW a’r setiau data cysylltiedig. Rydym wedi dilyn hyn gyda phrosiect rheoli data sydd wedi creu cyfres o offer i'n galluogi i reoli, cynnal a diweddaru setiau data perygl llifogydd allweddol a grëwyd gan y prosiect Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW) gwreiddiol. Cwblhawyd y prosiect rheoli data ym mis Ebrill 2022, ac rydym bellach yn gweithio ar ddefnyddio’r rhain ar gyfer diweddariadau a gwelliannau data. Un enghraifft o allbynnau’r gwaith yw’r gallu i weld ffigurau o ran faint o eiddo sydd mewn perygl o brofi llifogydd a’u diweddaru bob blwyddyn. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer adroddiadau blynyddol yn y dyfodol.

Prosiect gwylwyr perygl llifogydd

Rydym wedi ailgyhoeddi map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru gyda gwelliannau i’r rhyngwyneb defnyddiwr i helpu defnyddwyr i gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Mae gwelliannau allweddol yn cynnwys darparu mapiau iaith Gymraeg, symleiddio profiad y defnyddiwr a gwelliannau i ddata arfordirol.

Ffigur 1. Sgrinlun o'n gwefan yn dangos y dangosydd perygl llifogydd gwell gydag ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghaerdydd.

Cyhoeddi map Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol (NCERM)

Cwblhawyd gwaith i wella delweddu data erydu arfordirol yn ein cynhyrchion mapiau trwy gyhoeddi ein map 'Risg arfordirol' ar ein gwefan. Mae’r map yn dangos data Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol (NCERM) fel bandiau gofodol sy’n rhoi rhagamcan o’r erydiad a ragwelir dros y senarios tymor byr, canolig a hir gydag ystod hyder canrannol. Bydd hyn yn galluogi perchnogion tai a’n partneriaid i ddeall lefel y risg i’r arfordir yn sgil erydu arfordirol.

Ffigur 2. Sgrinlun o'n gwefan yn dangos cyfradd yr erydiad arfordirol heb unrhyw ymyrraeth weithredol yn Nhywyn.

Gwelliannau i waith modelu lleol

Rydym wedi datblygu nifer o welliannau i waith modelu lleol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau i wella gwaith modelu yn y lleoliadau canlynol: Rhondda, Pensarn, Ynysybwl, Afon Adda (Bangor), Bala, Llandinam, Gele, Severn Vyrnwy Confluence a Bryncrug.

Rheoli asedau perygl llifogydd

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl weithgareddau sy’n ymwneud â rheoli ein hasedau perygl llifogydd. Mae hyn yn cynnwys gwaith adeiladu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd newydd, gwaith cynnal a chadw strwythurau sydd eisoes yn bodoli a deall eu cyflwr, rheoli data asedau, a chynllunio ar gyfer gofynion gwaith yn y dyfodol. Ei ddiben yw sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn cael eu rheoli mewn modd effeithiol ac effeithlon, ceisio cyfleoedd i leihau perygl llifogydd drwy adeiladu asedau newydd, a sicrhau bod ein hasedau'n barod i berfformio fel y disgwylir yn ystod llifogydd, a bod y gallu ganddynt i wneud hynny.

Asedau newydd

Yn ystod 2022/23, rydym wedi cynnal a lleihau lefel y perygl llifogydd i 1,680 o eiddo drwy gwblhau cynlluniau Cyfalaf yn Llanfair Talhaiarn (Conwy), Llyn Tegid (Y Bala), Y Bont-faen (Bro Morgannwg), Cronfa Ddŵr Wydden (Cyffordd Llandudno, Conwy) ynghyd â nifer o brosiectau cynnal a chadw cyfalaf eraill.

Mae buddsoddi yn ein hasedau perygl llifogydd presennol yn hanfodol er mwyn cynnal y lefel bresennol o amddiffyniad y maent yn eu darparu i'r cymunedau sy'n elwa arnynt. Fel rheol, mae angen y buddsoddiad er mwyn ymestyn neu gyflawni oes bywyd dylunio'r ased, ac mae fel arfer yn golygu gwaith atgyweirio ac adfer sylweddol ar adeileddau sydd eisoes yn bodoli.

Ochr yn ochr â chwblhau'r cynlluniau hyn, roedd gennym nifer o gynlluniau mawr ar gamau gwahanol yn eu datblygiad yn ystod 2022/23. Bydd y cynlluniau hyn yn gyfrifol am y mwyafrif o'n gwariant cyfalaf dros y blynyddoedd nesaf, ac maent yn cynnwys lleoliadau ledled Cymru fel Pwllheli a Phorthmadog (Gwynedd), Aberteifi (Ceredigion), afon Ritec, Dinbych y Pysgod (Sir Benfro), Rhydaman (Sir Gaerfyrddin), Stryd Stephenson, Llyswyry (Casnewydd) a Chynllun Rheoli Llifogydd Strategol Dalgylch Taf (Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd). Dros y tymor hir, pan fyddant wedi'u cwblhau, disgwylir i'r rhain fod o fudd i 3,000 eiddo.

Astudiaeth achos - Llanfair Talhaiarn

Cwblhawyd cam olaf cynllun amddiffyn rhag llifogydd newydd ym mhentref Llanfair Talhaiarn, i leihau'r perygl llifogydd i 29 eiddo preswyl a 4 busnes. Cyflwynwyd y cynllun mewn dau gam. Cwblhawyd y cam cyntaf ym mis Ionawr 2019, gan gynyddu cynhwysedd cwlfertau allweddol yng nghanol y pentref, gan eu galluogi i gludo mwy o lifau yn ystod stormydd. Roedd yr ail gam yn cynnwys gwella'r trefniant sgrin malurion presennol gan gynnwys gwella mynediad, symleiddio gweithrediadau clirio ar gyfer ein staff, a gosod daliwr coed newydd i fyny'r afon o'r pentref.

Ffigur 3. Delwedd yn dangos y sianel wedi’i gwella yn Llanfair Talhaiarn (llun chwith) a daliwr coed (llun dde)

Delwedd yn dangos y sianel wedi’i gwella yn Llanfair Talhaiarn (llun chwith) a daliwr coed (llun dde)

Rheoli asedau

Rydym yn ymgymryd â rhaglen archwilio a chynnal a chadw rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn addas i'r diben. Rydym yn cynnal dros 4,030 o asedau (455km) ledled Cymru, ac yn ystod 2022/23, cynhaliwyd 13,571 o arolygiadau o’r strwythurau hyn.

Erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2022/23, roedd 90.6% o'r archwiliadau ased arferol wedi'u cwblhau o gymharu â'r archwiliadau y cynlluniwyd eu cyflawni. Rydym yn ymdrechu i wella, ac wedi recriwtio mwy o arolygwyr asedau i wella hyn yn 2022/23.

Ar ddiwedd y flwyddyn, canfu ein harchwiliadau fod 98.3% o'n hasedau llifogydd mewn systemau sydd mewn perygl uchel o lifogydd wedi cyrraedd neu'n rhagori ar eu cyflwr gofynnol i gyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol. Mae hyn yn well na tharged ein dangosydd perfformiad allweddol corfforaethol o 98%. Mae hwn yn darged treigl, sy'n adlewyrchu’r ffaith ei bod yn anochel na fydd ansawdd rhai asedau gystal â’u cyflwr targed; caiff gwaith atgyweirio neu wella ei amserlennu ar gyfer asedau nad yw eu hansawdd gystal â’u cyflwr targed.

Ochr yn ochr â'n rhaglen cynnal a chadw rheolaidd, mae gennym nifer o brosiectau sy'n mynd rhagddynt i helpu i wella gwaith rheoli asedau o fewn CNC ac awdurdodau rheoli perygl eraill, a disgrifir y rhain isod.

Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg (RBRAM) - parodrwydd ar gyfer defnyddio’r hyn a ddyrennir

Rydym wedi datblygu meddalwedd Model Dyrannu Refeniw Seiliedig ar Risg (RBRAM) a fydd yn ein galluogi i flaenoriaethu gwaith cynnal a chadw arferol ar asedau a dyrannu cyllid yn unol â pherygl llifogydd. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i brofi'r system wrth baratoi i'w defnyddio ynghyd â chynhyrchu dogfennau canllaw a chynnal hyfforddiant i ddefnyddwyr. Yn ystod 2022/23, fe wnaethom ni redeg y model fel prawf ar gyfer proses ddyrannu 2023/24 er mwyn bod yn barod i’w ddefnyddio fel prif offeryn ar gyfer dyrannu cyllid refeniw ar gyfer 2024/25. 

Gwelliannau i’r gronfa ddata rheoli asedau (AMX Flood)

AMX (Asset Management eXpert) yw ein cronfa ddata rheoli asedau llifogydd. Dyma'r ystorfa ar gyfer yr holl wybodaeth am asedau llifogydd, gan gynnwys lleoliad, math, cyflwr targed, dyddiadau archwilio, y cyflwr ar adeg yr arolygiad (cyfredol) diwethaf a gwybodaeth cynnal a chadw.

Rydym wedi parhau â'n gwaith gwella ar y gronfa ddata eleni trwy ddatblygu a gosod gwell proses ar gyfer diffygion asedau a pharatoi i symud y wybodaeth 'Mecanyddol, Trydanol, Offeryniaeth, Rheoli ac Awtomeiddio’ (MEICA) i'r offeryn rheoli asedau AMX.

Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â gwelliannau i ansawdd data ac i roi dangosfyrddau defnyddwyr ar waith ar gyfer gwybodaeth reoli megis adroddiadau ar arolygiadau a chynnal a chadw.

Adolygiad o systemau rheoli asedau

Rydym yn cynnal prosiect System Rheoli Asedau Perygl Llifogydd i wella polisi a rheolaeth ein hasedau perygl llifogydd. Rydym wedi datblygu Polisi Rheoli Asedau Perygl Llifogydd drafft a byddwn yn dechrau datblygu Strategaeth Rheoli Asedau ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd dros y flwyddyn ariannol nesaf.

Rheoliadau cynnal a chadw asedau a Dylunio a Rheoli Adeiladu (CDM)

Rydym wedi datblygu canllawiau newydd ar gyfer rheoli risgiau Lles, Iechyd a Diogelwch (WHS). Mae hyn yn galluogi ein Gweithlu Peirianneg Integredig i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth adeiladu a chynnal asedau. Gwnaed hyn drwy adolygu’r canllawiau presennol, y ddeddfwriaeth a’r arferion amrywiol a ddefnyddir ar draws CNC. Canllawiau newydd sy’n esbonio’r hyn y dylai staff ei wneud a sut y cafodd ei ddatblygu a’i fabwysiadu, sy’n egluro’r gofynion cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau CDM (2015) ar gyfer cynnal a chadw asedau.

Diweddariad i’r gronfa ddata asedau cenedlaethol

Mae’r Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol yn system Cymru gyfan ar gyfer storio ac arddangos gwybodaeth am yr holl asedau perygl llifogydd sylweddol yng Nghymru, gan gynnwys nodi pwy sy’n gyfrifol am eu cynnal a’u cadw. Trefnwyd bod hwn ar gael i’r cyhoedd ar ein gwefan yn ystod 2021/22 gyda gwybodaeth am ein hasedau. Rydym wedi gwneud gwelliannau pellach i’r set ddata hon drwy ychwanegu cofnodion asedau gan 20 o’r 22 awdurdod llifogydd lleol arweiniol yng Nghymru sydd wedi cytuno i arddangos eu data o dan y cytundeb Trwydded Llywodraeth Agored.

Mae’r data hwn ar gael i’w weld ar Fap Llifogydd Cymru, ein mapiau Asesiad Perygl Llifogydd Cymru a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Mae hyn yn galluogi'r defnyddiwr i droshaenu data asedau ar y mapiau risg i gael gwell dealltwriaeth o asedau perygl llifogydd. Gellir hefyd defnyddio neu lawrlwytho’r data o Borth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru neu Fap Data Cymru ochr yn ochr â’n setiau data Agored eraill.

Cronfeydd dŵr

Ni yw'r rheoleiddiwr ar gyfer cronfeydd dŵr yng Nghymru, a ni yw'r awdurdod o safbwynt cofrestru, sicrhau cydymffurfedd, a gorfodi'r 397 o gronfeydd dŵr ledled Cymru (ffigwr ar gyfer 2022/23) sydd wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr (1975) a'r rheoliadau a’r diwygiadau cysylltiedig. Fel rhan o'r rôl reoleiddio hon, rydym hefyd yn aelod o Bwyllgor Cronfeydd Dŵr Sefydliad y Peirianwyr Sifil, sy'n cynghori llywodraethau ar briodoleddau peirianwyr yn unol â'r hyn sy'n ofynnol gan y sector hwn yn y DU. Rydym hefyd yn weithredwr cronfeydd dŵr (neu ‘ymgymerwr’ yn iaith y Ddeddf Cronfeydd Dŵr). Ceir disgrifiad o'r gweithgareddau allweddol sy'n rhan o'r ddwy rôl hyn yn yr adran hon.

Rôl rheoleiddio cronfeydd dŵr

Ni yw’r awdurdod gorfodi ar gyfer Deddf Cronfeydd Dŵr 1975. Mae’r gyfraith hon yn gosod y safonau gofynnol i sicrhau diogelwch cronfeydd dŵr, yn bennaf i sicrhau bod ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn penodi ac yn gweithredu ar gyngor peirianwyr sifil cymwysedig arbenigol.

Ar 31 Mawrth 2023, roedd 397 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi’u cofrestru yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 2 ers y flwyddyn flaenorol. 

Mae gennym ddyletswydd i ddynodi cronfa ddŵr yn gronfa ddŵr â risg uchel os ydym o’r farn y gallai bywydau pobl fod mewn perygl pe bai’r argae’n methu. Y brif ffynhonnell dystiolaeth ar gyfer hyn yw trwy gynhyrchu mapiau llifogydd cronfeydd dŵr sy’n dangos canlyniadau llifogydd pe bai argae’n methu.

Mae Tabl 4 isod yn dangos statws dynodiad y cronfeydd dŵr yng Nghymru ar 31 Mawrth 2023. Nid oes dynodiad o'r fath â 'risg isel'. Mae cronfa ddŵr nad yw wedi’i dynodi’n gronfa ddŵr risg uchel yn dal i fod yn gyforgronfa ddŵr fawr fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Mae'r statws dynodiad yn pennu lefel goruchwyliaeth ac arolygu gan beirianwyr.

Tabl 4: Statws cronfeydd dŵr yng Nghymru

Statws dynodiad Nifer y cronfeydd dŵr
Cronfeydd dŵr risg uchel 266
Cronfeydd dŵr nad ydynt yn risg uchel 76
Dynodiad heb ei benderfynu 55

Cronfeydd dŵr amddifad

Cronfeydd yw'r rhain lle na ellir pennu'r ymgymerwr (perchennog). Mewn amgylchiadau o’r fath, gall CNC fel y rheoleiddiwr gamu i mewn i wneud gwaith diogelwch, er budd diogelwch y cyhoedd. Dim ond ar ôl ymdrechion helaeth i nodi partïon cyfrifol y byddwn yn gwneud hyn, ac mae'r risgiau diogelwch yn golygu bod angen ymyrryd, yn ein barn ni. Rydym yn defnyddio’r pwerau priodol o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, i wneud gwaith mewn dwy gronfa ddŵr o’r fath yng Nghymru. Mae mapio peryglon cronfeydd dŵr yn y ddwy gronfa hon wedi darparu tystiolaeth sy’n cadarnhau eu dynodiad fel cronfeydd dŵr risg uchel, lle gallai methiant beryglu bywyd i lawr yr afon. Bydd gwaith i gynnal diogelwch y cronfeydd dŵr hyn yn parhau drwy gydol 2023/24.

Digwyddiadau mewn cronfeydd dŵr

Gwnaethom gofnodi digwyddiadau mewn 4 cronfa ddŵr yn ystod 2022/23. Mae ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn gyfrifol am ymateb i ddigwyddiadau o dan arweiniad eu peiriannydd, ac am ddarparu adroddiadau i ni am yr achos a'r gwersi a ddysgwyd. Roedd y digwyddiadau hyn yn “gamau rhagofalus” dosbarth 3. Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ni ymyrryd o dan bwerau brys.

Datblygu rheoleiddio

Rydym wedi bod yn gweithio gyda DEFRA, Llywodraeth Cymru a rheoleiddwyr eraill y DU ar gyfer diogelwch cronfeydd dŵr wrth asesu’r angen am ddiwygio rheoleiddio yn y sector yn dilyn yr adroddiad Independent Reservoir Safety Review Report (publishing.service.gov.uk).

Rheoli cronfeydd dŵr CNC

Ni yw perchennog 37 o gronfeydd dŵr a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Mae hyn yn gynnydd o 2 ers y llynedd o ganlyniad i nodi cronfeydd dŵr lle mae tirfeddiannwr preifat ac Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn berchen ar y cyd. Mae 13 o'n cronfeydd dŵr wedi'u hadeiladu'n bennaf at ddibenion rheoli perygl llifogydd ac yn cael eu rheoli a'u hariannu drwy gyllidebau Llifogydd.

Mae ein holl gronfeydd dŵr yn cael eu harolygu a'u goruchwylio gan beirianwyr sifil cymwys, ac rydym yn cynnal rhaglen waith i fynd i'r afael â'r argymhellion a wnânt. Rydym hefyd wedi parhau i hyfforddi 'ceidwaid cronfeydd dŵr' i gyflawni ein dyletswyddau cynnal a chadw, monitro a chadw cofnodion.

Gwelliannau i Gronfeydd Dŵr

Ardystiwyd bod y mesurau diogelwch a argymhellwyd yn Llyn Tegid, Crafnant Loop, Y Bont-faen a Wydden (Pob Strwythur Rheoli Perygl Llifogydd) wedi’u cwblhau, yn ogystal â chronfeydd dŵr eraill fel New Pool a Llyn Llewelyn (a reolir ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru)

Cynghori cynllunwyr, gwaith cydsynio a gwaith gorfodi

Mae'r maes gwaith hwn yn ymwneud â phob cyngor yn ôl disgresiwn a phob cyngor statudol mewn perthynas â pherygl llifogydd a'n rôl fel ymgynghorai o fewn y broses gynllunio. Y nod yw rhoi cyngor effeithiol er mwyn dylanwadu ar ddatblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a'i reoli, gan atal mwy o bobl ac eiddo rhag bod yn agored i berygl cynyddol o lifogydd. Mae hefyd yn cynnwys ein trefniadau trwyddedu. Gyda'i gilydd, nod y rolau hyn yw rheoli datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a gweithgareddau perygl llifogydd mewn prif afonydd neu o'u cwmpas. Rydym hefyd yn cymryd camau gorfodi mewn achosion lle gallai gweithgareddau perygl llifogydd achosi perygl llifogydd neu ei waethygu.

Cyngor ar gynllunio datblygiadau

Rydym yn ymgynghorai statudol ar berygl llifogydd ar gyfer pob cynnig o fewn Parth Llifogydd C2 (ardaloedd heb amddiffynfeydd sydd â siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd), ac ar gyfer datblygiadau sy'n agored iawn i niwed a datblygiadau gwasanaethau brys ym Mharth Llifogydd C1 (ardaloedd gydag amddiffynfeydd sydd â siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd). Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein cyngor wedi helpu i atal datblygiadau amhriodol rhag cael eu cymeradwyo mewn lleoliadau lle byddai'r perygl o lifogydd yn anodd ei reoli. Mewn achosion lle mae datblygiadau wedi'u caniatáu er gwaethaf y perygl llifogydd, rydym wedi darparu cyngor ar fesurau atal llifogydd a mesurau gwytnwch llifogydd y gellid eu hymgorffori er mwyn helpu i leihau'r perygl yn awr ac yn y dyfodol. 

Yn ystod 2022/23, darparwyd 2,414 o ymatebion cynllunio sylweddol lle mae perygl llifogydd yn gyfyngiad. O blith y rhain, roedd 1,149 ym mharth C2.

Diweddaru Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15)

Yn Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, roedd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddiweddaru TAN15 erbyn 2021. Bu oedi cyn cyhoeddi oherwydd ystyried y newid yn yr hinsawdd ar nodau cynllunio strategol. Rydym wedi parhau i gydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi diwygiadau i'w polisi cynllunio (Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad, Llifogydd ac Erydu Arfordirol). Mae hyn yn cynnwys disodli’r Map Cyngor Datblygu gyda Map Llifogydd CNC ar gyfer Cynllunio a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021, sy’n ystyried newid yn yr hinsawdd am oes 100 mlynedd unrhyw ddatblygiad.

Rheoleiddio gweithgarwch perygl llifogydd

Rydym yn rheoleiddio gweithgareddau a gyflawnir ar brif afonydd, neu gerllaw iddynt, ar adeileddau amddiffyn rhag llifogydd, neu gerllaw iddynt (gan gynnwys amddiffynfeydd morol), neu o fewn gorlifdir, o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016. Rydym yn gwneud hyn drwy roi Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd (FRAP) er mwyn sicrhau nad yw'r gweithgaredd yn achosi unrhyw gynnydd yn y perygl llifogydd, yn cael effaith niweidiol ar ddraenio tir yn yr ardal, neu'n achosi difrod amgylcheddol i'r amgylchedd, pysgodfeydd, neu fywyd gwyllt lleol. Gellir cyflawni rhai gweithgareddau perygl llifogydd heb drwydded ond mae’n bosibl y bydd angen cofrestru gweithgareddau o’r fath gyda ni fel rhai sy’n ‘esempt’ o’r gofyniad i gael trwydded bwrpasol.

Dros flwyddyn ariannol 2022/23, fe wnaethom ni gyhoeddi 241 o Drwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd ledled Cymru, a chofrestrwyd 22 o esemptiadau.

Camau gorfodi

Rydym yn cyflawni gwaith gorfodi perygl llifogydd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae'r gwaith hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod perygl llifogydd yn cael ei reoli'n effeithiol ac er mwyn cefnogi mesurau i warchod yr amgylchedd. Os na cheisir ein cyngor rheoleiddio, neu os caiff ei anwybyddu wrth wneud gwaith ar brif afonydd neu amddiffynfeydd rhag llifogydd, neu gerllaw iddynt, gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol. Yn ogystal â rheoli perygl llifogydd, mae ein gweithgarwch gorfodi yn sicrhau y gallwn gynnal mynediad i seilwaith amddiffynfeydd rhag llifogydd / y môr ac yn ein galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw a gwella pwysig. Gallwn hefyd ddefnyddio camau gorfodi i unioni gwaith anghyfreithlon a niweidiol neu waith a allai fod yn niweidiol, a allai fod wedi’i wneud yn groes i amodau a nodir mewn Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd, neu heb Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd ofynnol. Mae enghreifftiau’n cynnwys difrod i amddiffynfeydd rhag llifogydd a strwythurau rheoli, cael gwared ar rwystrau sy’n effeithio ar lif o fewn afonydd, gan gynyddu’r perygl o lifogydd o bosibl, a gwaith sydd wedi achosi niwed i’r amgylchedd.

Yn ystod 2022/23, gwnaethom gynnal ymchwiliadau a gweithredu ar 41 achos o weithgareddau heb eu trwyddedu ar brif afonydd.

Astudiaeth achos – Apêl cynllunio, Sir y Fflint

Gwnaed apêl gan yr ymgeisydd yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio i godi chwe thŷ yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint. Y prif bryder dros wrthod oedd yr effaith ar berygl llifogydd mewn mannau eraill. Mae'r safle wedi ei leoli ym mharth llifogydd C1 (mewn perygl o ddigwyddiad llifogydd 1 mewn 1000) ar y Map Cyngor Datblygu. Roedd yr Asesiad Canlyniad Llifogydd (FCA) a baratowyd i gefnogi'r cais yn cynnig cynyddu lefelau'r safle i liniaru risg llifogydd ar y safle. Fodd bynnag, dangosodd yr Asesiad Canlyniad Llifogydd y byddai codi lefel y safle yn arwain at fwy o ddyfnder llifogydd i eiddo mewn mannau eraill, a dyma oedd y sail ar gyfer gwrthod caniatâd cynllunio.

Gwrthodwyd yr apêl ar ôl i’r Arolygydd Cynllunio nodi cyngor CNC ar y cynnig a chydnabod y cynnydd yn nyfnder llifogydd ar gyfer eiddo ar draws ardal fawr pe bai’r datblygiad yn mynd yn ei flaen. Daeth yr Arolygydd i'r casgliad nad oedd y cynnig yn bodloni meini prawf penodol yn TAN15, a'i fod felly'n gwrthdaro â gofynion TAN15.

Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir ein gwasanaeth darogan llifogydd a'n gwasanaeth rhybuddio am lifogydd i'r cyhoedd ac i bartneriaid proffesiynol. Ei ddiben yw darparu rhybuddion a gwybodaeth effeithiol i bobl sydd mewn perygl o lifogydd, gan eu galluogi i gymryd camau uniongyrchol i warchod bywyd ac eiddo cyn i lifogydd ddigwydd.

Mae’n cynnwys canfod a rhagweld llifogydd mewn amser real yn y cyfnod cyn ac yn ystod digwyddiadau llifogydd, a chyhoeddi rhybuddion llifogydd i’r rhai sydd mewn perygl uniongyrchol. Mae hefyd yn cynnwys darparu gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf a rhybuddion sydd mewn grym trwy ein gwefan, Floodline a'n porth data byw.

Mae ein timau hefyd yn sicrhau bod data, systemau, gweithdrefnau gweithredol, hyfforddiant ar gyfer staff ar ddyletswydd a rheoli rotâu dyletswydd eisoes yn eu lle - ac yn cael eu profi a’u gwella - fel eu bod yn barod ac yn gwbl weithredol pan fo llifogydd yn digwydd. Darperir y gwasanaethau drwy nifer o rotâu swyddogion arbenigol ar ddyletswydd, gan ddefnyddio staff o'n timau. Mae ein swyddogion ar ddyletswydd ar alwad 24/7 bob diwrnod o'r flwyddyn, ac maent yn barod i ymateb i lifogydd posibl a llifogydd gwirioneddol ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.

Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23

Amlygir perygl llifogydd uwch drwy Ddatganiad y Canllawiau Llifogydd sy'n darparu rhagolwg perygl llifogydd dyddiol dros bum niwrnod i'r llywodraeth a phartneriaid proffesiynol er mwyn cynorthwyo â phenderfyniadau cynllunio strategol, tactegol a gweithredol mewn perthynas â pherygl llifogydd sy’n datblygu. Mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu â'r cyhoedd hefyd drwy ein gwefan. Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, cafwyd perygl llifogydd uwch ar 75 o ddiwrnodau (rhagolygon am effeithiau bach a mwy) ac, o blith y rheini, cafwyd perygl llifogydd dwys ar 15 niwrnod (rhagolygon am effeithiau sylweddol a mwy). Mae Adran 1 o'r adroddiad hwn yn disgrifio'r prif ddigwyddiadau llifogydd a welwyd yn ystod y flwyddyn a arweiniodd at berygl llifogydd uwch a'r effeithiau cysylltiedig.

Gwnaethom ddosbarthu cyfanswm o 472 o negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, a 118 o rybuddion llifogydd yn ystod 2022/23 mewn ymateb i'r perygl o lifogydd. Derbyniodd Floodline 468 o alwadau ffôn a chyfeiriwyd at ein gwefan rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod 904,013 o weithiau. Mis Tachwedd 2022 a mis Ionawr 2023 oedd y misoedd pan gyfeiriwyd at y wefan fwyaf, sef 466,676 o weithiau yn ystod y misoedd hyn.

Ffigur 4: Nifer y rhybuddion llifogydd a’r negeseuon llifogydd – byddwch yn barod a gyhoeddwyd yn ystod 2022/23

Prosiect uwchraddio’r System Darogan Llifogydd

Cwblhawyd uwchraddiad mawr i'n System Darogan Llifogydd a fydd yn ein galluogi i wneud gwell defnydd o'r datblygiadau ym maes rhagfynegi. Mae'r gwaith hwn yn gwneud y system yn fwy cadarn a gwydn sy'n lleihau'r risg o fethiant y system yn ystod digwyddiad llifogydd mawr. Mae gwaith yn mynd rhagddo i uwchraddio fersiynau meddalwedd i leihau’r risgiau sy'n gysylltiedig â methiant y system a gwella gwytnwch.

Gwelliannau i'r Gwasanaeth Darogan Llifogydd

Rydym wedi gweithio eleni i ddatblygu modelau rhagweld newydd a gwella modelau presennol ar gyfer ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd a’r môr.

Rydym wedi gwella ein gallu a’n systemau rhagweld ar gyfer saith lleoliad ledled Cymru o ran llifogydd o’r môr, gan gynnwys y Rhyl, Doc Penfro a De Glanyfferi, lle mae rhwng 400 a 500 eiddo yn elwa.

Rydym wedi lansio dau fodel rhagweld gweithredol newydd ar gyfer dalgylchoedd Clwyd a Glaslyn ar gyfer llifogydd afonydd. Bydd y rhain yn cynyddu ein cwmpas i 3700 eiddo ychwanegol mewn ardaloedd Rhybuddion Llifogydd dalgylchol a 650 eiddo mewn ardaloedd Rhybudd Llifogydd cymunedol manylach. Bydd y gallu hwn i ragweld yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau, gan wella prydlondeb a chywirdeb y negeseuon a anfonir. Yn ogystal, rydym wedi gwneud gwelliannau i saith model rhagweld afonydd presennol ar gyfer dalgylchoedd fel afonydd Dyfi, Tefeidiad, Ogwr, ac afon Taf. Bydd y rhain yn gwella ein gallu rhagweld yn y dalgylchoedd hyn gan ddod â gwelliannau i sawl cymuned.

Darparu gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg sy'n casglu, dadansoddi ac yn adrodd data sy'n sail i amrediad o wasanaethau rheoli llifogydd a dŵr ar draws CNC. Mae hyn yn cynnwys gwaith modelu a mapio perygl llifogydd, gwaith arfarnu a dylunio cynlluniau perygl llifogydd (safonau diogelu), diogelwch cronfeydd dŵr, darogan a rhybuddio am lifogydd, rheoleiddio afonydd, a chynnal asesiadau ôl-lifogydd o safbwynt swm y glawiad, lefelau afonydd a gofnodwyd, a'u difrifoldeb (e.e. yn ôl trefn hanesyddol neu'r cyfnod rhwng digwyddiadau).

Yn ogystal â chasglu, prosesu ac archifo'r data hwn ar gyfer CNC, mae'r maes gwaith hwn hefyd yn adrodd ar y data ac yn ei rannu â chwsmeriaid mewnol ac allanol drwy ymholiadau penodol am ddata, trosglwyddo data, a darparu gwasanaethau digidol ar ein gwefan, gan gynnwys ein gwasanaeth byw ar gyfer lefelau afonydd, glawiad a data môr.

Y rhwydwaith hydrometreg

Mae’r rhwydwaith hydrometreg ledled Cymru yn cynnwys 255 o orsafoedd mesur glawiad, 344 o orsafoedd monitro lefelau afonydd neu lif a 140 o orsafoedd monitro lefelau dŵr daear. Mae Ffigur 5 yn dangos lleoliadau’r holl orsafoedd monitro ar draws ein rhwydwaith Hydrometreg a Thelemetreg (H&T) yng Nghymru.

Ffigur 5: Safleoedd hydrometreg ledled Cymru

Prosiect adolygu’r rhwydwaith hydrometreg

Mae ein gwaith ar adolygu’r Rhwydwaith a Gwasanaeth Hydrometreg a Thelemetreg (H&T) a ddechreuodd yn 2021/22 wedi symud ymlaen i ganolbwyntio ar asesu gallu gorsafoedd monitro allweddol i wrthsefyll amodau hydrolegol a meteorolegol eithafol, fel y rhai a brofir yn ystod llifogydd. Ar gyfer unrhyw orsafoedd bregus yn y rhwydwaith H&T, byddwn yn ceisio gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau a fydd yn lleihau’r risg o ddiffyg gwasanaeth ar adegau hollbwysig.

Bydd y gwaith hwn yn parhau yn 2023/24, a bydd allbynnau allweddol ar gael ar gyfer ymgynghori a gweithredu arnynt wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

Rhaglen raddio Hydrometreg a Thelemetreg a’r offeryn olrhain

Rydym wedi datblygu offeryn sy'n ein galluogi i reoli ein safleoedd data llif afonydd yn well. Rydym eisoes yn cynnal adolygiadau blynyddol o bob un o’r safleoedd hyn, ond rydym bellach wedi datblygu system y gallwn ei defnyddio i sgorio pob safle yn ôl pa mor gyflym y mae angen adolygu’r safle i sicrhau bod y wybodaeth llif a gawn mor gywir â phosibl. Mae hyn yn helpu i gynhyrchu data llif o ansawdd da a ddefnyddir ar gyfer cyhoeddi rhybuddion llifogydd ac yn helpu ein staff i flaenoriaethu llwyth gwaith ac anghenion adnoddau yn effeithlon.

Map Trywydd Hydroleg Llifogydd y DU

Buom yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddechrau gweithredu’r Map Ffordd Hydroleg Llifogydd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. Mae’r map ffordd yn cwmpasu Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, pob ffynhonnell o lifogydd mewndirol a’r holl weithgareddau hydroleg mewndirol. Datblygwyd y map ffordd gan gymuned hydroleg llifogydd y DU ac mae’n nodi gweledigaeth 25 mlynedd ar gyfer hydroleg llifogydd yn y DU. Mae angen arweinyddiaeth gref, gwell gwaith partneriaeth a chydweithio ar draws y gymuned hydroleg llifogydd gyfan i gyflawni'r weledigaeth newydd. Er mwyn cefnogi’r weledigaeth newydd, rydym wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chytundeb cydweithredol ac wedi creu swydd newydd a fydd yn arwain ar ein mewnbwn technegol i brosiectau sy’n cyflawni’r rhaglen fapio. 

Gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol

Drwy'r maes gwaith hwn, darperir gwasanaethau gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ledled Cymru. Mae'n cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor i'r bobl hynny sydd mewn perygl o lifogydd o safbwynt y camau ymarferol y gallant eu cymryd i baratoi yn well cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd. Rydym yn darparu'r cyngor hwn yn ddigidol drwy ein gwefan ac yn uniongyrchol i gymunedau, gan gynnwys drwy ddarparu templedi o gynlluniau llifogydd er mwyn iddynt eu defnyddio, a hwyluso digwyddiadau rhwydweithio i wirfoddolwyr er mwyn rhannu gwybodaeth, profiadau a'r arferion gorau.

Digwyddiadau rhwydwaith gwirfoddolwyr llifogydd

Ym mis Hydref, fe wnaethom ni gynnal dau ddigwyddiad rhwydwaith yn Llandudno a Chasnewydd i alluogi’r rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol i ailgysylltu wyneb yn wyneb yn dilyn y pandemig. Fe wnaethom gynnwys ein Hawdurdod Lleol a Phartneriaid Gwasanaethau Brys yn y digwyddiadau i gymunedau gyda chwestiynau am lifogydd i ddod o hyd i gymorth a chyngor mewn un lle. Cynrychiolwyd 15 o gymunedau, gyda 23 o aelodau’r gymuned yn bresennol, ynghyd â 23 o Bartneriaid o sefydliadau eraill sydd â rhan i’w chwarae ym maes llifogydd.

Nod y digwyddiadau oedd gwella dealltwriaeth o wytnwch i lifogydd, cynyddu dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau sefydliadau sy'n paratoi ar gyfer llifogydd ac yn ymateb iddynt, a chynyddu cyfleoedd rhwydweithio i bawb sy'n mynychu.

Cynlluniau llifogydd cymunedol

Mae cynlluniau llifogydd cymunedol yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr a'r gymuned. Rydym yn helpu i gynnal y 74 cynllun llifogydd cymunedol sydd ar waith ar draws Cymru ar hyn o bryd er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac yn gwasanaethu'r cymunedau sy'n berchen arnynt ac yn eu defnyddio.

Er mwyn helpu i gefnogi ein cymunedau, fe wnaethom ddiweddaru ein tudalen we Cynllun llifogydd Cymunedol gyda thempled cynllun newydd, adnoddau ategol a chyngor i grwpiau llifogydd cymunedol.

Meddalwedd synhwyro cymdeithasol

Mae gennym bellach offeryn ar gyfer casglu cynnwys cyfryngau ar-lein o Twitter yn ystod ac ar ôl llifogydd. Mae hyn yn golygu bod gennym fynediad at ystod ehangach o wybodaeth yn ymwneud â llifogydd nad yw bellach mor amserol i’w chasglu yn ystod llifogydd neu ar ei ôl. Mae'r wybodaeth a gesglir gan yr offeryn yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o effeithiau llifogydd a gellir defnyddio tystiolaeth ffotograffig neu fideo wrth gyfathrebu i ddangos effeithiau llifogydd. 

Asedau cyfryngau cymdeithasol

Rydym wedi gwneud gwaith i wella’r negeseuon a ddefnyddiwn cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd i sicrhau ein bod yn targedu’r negeseuon a’r camau cywir i bobl eu cymryd wrth ymateb i bob lefel o berygl llifogydd, ffynhonnell y llifogydd a hyder yn y rhagolwg.

Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru (21 – 25 Tachwedd), fe wnaethom achub ar y cyfle i greu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol fach yn canolbwyntio ar ein rhybuddion llifogydd newydd a negeseuon hysbysu. Dros gyfnod yr ymgyrch, cyrhaeddodd ein negeseuon dros 20,000 o bobl ar draws pob platfform.

Ffigur 6: Neges Twitter a ddefnyddiwyd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r hyn i’w gynnwys mewn pecyn llifogydd

Cronfa wybodaeth llifogydd

Lansiwyd cronfa ddata newydd i alluogi CNC a Floodline i roi’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd i gwsmeriaid a gwella taith y cwsmer. Mae hwn yn cydgasglu’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am lifogydd i dimau ar draws CNC ac yn darparu cyngor amserol a chyson gan CNC a Floodline 24/7.

Cyhoeddiadau

Rydym wedi gwella’r wybodaeth a’r canllawiau sydd ar gael i staff eu cario gyda nhw pan fyddant yn y maes mewn cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd. Gall cwsmeriaid bellach elwa ar gyngor ac arweiniad cyson o nifer gynyddol o ffynonellau CNC, gan gynnwys wyneb yn wyneb. 

Rydym wedi datblygu Cerdyn Z newydd, sy'n ddigon bach i'n staff ei gario tra byddant yn gweithio mewn cymunedau. Mae'n cynnwys cyngor defnyddiol ac ymarferol ar beth i'w wneud os ydych wedi profi llifogydd i sicrhau bod cymunedau sydd wedi’u heffeithio yn gallu aros yn ddiogel ac yn iach a gwybod ble i gael cymorth. Rydym hefyd wedi gwella ffyrdd o rannu ein taflenni cyngor ac arweiniad gyda'r cyhoedd. Bellach mae modd gwneud cais am gopïau papur, copïau lluosog a fformatau neu ieithoedd eraill.

Ffigur 7: Y cerdyn gwybodaeth y mae ein staff yn ei gario wrth weithio mewn cymunedau sydd mewn perygl o brofi llifogydd.

Gwaith rheoli perygl llifogydd yn gynaliadwy wrth wynebu newid arfordirol

Mae cymunedau arfordirol yng Nghymru yn wynebu heriau oherwydd perygl llifogydd o’r môr, heriau ffisegol parhaus a’r pwysau y mae newid yn yr hinsawdd yn debygol o’i roi arnynt yn y dyfodol. Rydym ni’n chwarae rhan bwysig o ran rheoli asedau perygl llifogydd arfordirol, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i gynllunio ar gyfer newidiadau yn y dyfodol ynghyd â'r gofynion i addasu dros y tymor hir. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau mewn perthynas â Chynlluniau Rheoli Traethlin.

Cynllunio addasiadau arfordirol

Crëwyd y Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd, sy’n cael ei chynnal gan CNC ar ran Llywodraeth Cymru, i fodloni gofynion statudol i ddarparu cynefinoedd amgylcheddol cydadferol ar gyfer cynlluniau a phrosiectau arfordirol, lle na ellir osgoi effeithio ar gynefinoedd. Gwnaethom barhau i ymchwilio i gyfleoedd a’u datblygu ar gyfer eu cyflawni yn ystod 2022/23. 

Mae’r ffocws a’r dull o gyflawni gofynion strategol yr NHCP wedi esblygu i gael eu cynnwys fel rhan o’r Rhaglen Ymaddasu Arfordirol ehangach mewn ymateb i flaenoriaethau newidiol rheoli perygl llifogydd, deddfwriaeth y DU, a pholisi Llywodraeth Cymru ar fesurau cydadferol. 

Mae nifer o ardaloedd bregus o amgylch arfordir Cymru yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd o ran eu rheolaeth gynaliadwy o berygl llifogydd, y posibilrwydd o addasu a chreu cynefinoedd cydadferol. Mae'r prosiectau fel arfer yn cynnwys safleoedd â blaenoriaeth sy'n cael eu gwerthuso ac sy'n destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn i ddod o hyd i'r opsiwn a ffefrir ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn gynaliadwy. Caiff y prosiectau eu cyflawni mewn dull cam wrth gam, a’u harwain gan yr adnoddau sydd ar gael, cyflwr asedau Rheoli Perygl Llifogydd diffygiol a thrwy ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol.

Mae gennym brosiectau ar y gweill yn Aber Afon Dyfi, Porthmadog a Phwllheli, gyda nifer o brosiectau posib eraill dan ystyriaeth. 

 

Cynllunio strategol

Rydym yn arwain ar faterion polisi llifogydd strategol, yn datblygu cynlluniau hirdymor ac yn sicrhau bod y tîm Rheoli Perygl Llifogydd yn darparu rhaglenni gwaith mewn ffyrdd effeithiol ac effeithlon.

Sgiliau a gallu

Fe wnaethom gydnabod yr angen i wneud mwy o ymdrech i feithrin sgiliau a gallu o fewn y tîm Rheoli Perygl Llifogydd, ac fe wnaethom ni greu rôl newydd yn benodol ar gyfer hynny ym mis Gorffennaf 2020. Diben y rôl yw sicrhau bod y tîm Rheoli Perygl Llifogydd yn y sefyllfa orau bosibl o ran sgiliau a datblygiad fel y gallwn fynd i'r afael â'r heriau a wynebwn yn y dyfodol.

Yn ystod 2022/23, fe wnaethom ni symud ymlaen gyda’n Fframwaith Datblygu Technegol yn dilyn y peilot llwyddiannus yn ystod y flwyddyn flaenorol drwy benodi ymgynghorwyr partner i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Rydym hefyd wedi parhau i fuddsoddi yn y rhaglen hyfforddiant technegol Rheoli Perygl Llifogydd gyda nifer o staff y tîm yn cwblhau ystod eang o gyrsiau hyfforddi gan gynnwys cyfraith amddiffyn rhag llifogydd ac achrediad archwilio asedau.

Gofynion buddsoddi tymor hir

Cwblhawyd cam cyntaf ein hasesiad o’r gofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli’r sylfaen asedau amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru yn ystod 2022/23. Roedd yr asesiad a'r canlyniadau'n canolbwyntio ar waith cyfalaf ar gyfer asedau sydd wedi'u cynnwys yn Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW). Mae'r asesiadau a wnaed yn defnyddio'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o berygl llifogydd yng Nghymru ar sail genedlaethol i fodelu gwahanol sefyllfaoedd. Defnyddiwyd y wybodaeth Asesu Perygl Llifogydd Cymru newydd sydd ar gael, a’r Offeryn Economaidd newydd yn benodol, a ddatblygwyd fel rhan o brosiect Asesu Perygl Llifogydd Cymru.  

Mae adroddiad sy’n crynhoi’r asesiad hwn wedi’i gyflwyno i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Rydym yn y broses o gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y ffordd orau o gyhoeddi canlyniadau’r asesiad. Yn dilyn hyn, bydd camau nesaf yn edrych ar waith posibl i ddatblygu achos cryf am fuddsoddiad yn ymwneud â phob agwedd ar Reoli Perygl Llifogydd.

Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd drafft diwygiedig ddechrau mis Mawrth 2023. Mae'r cynllun diwygiedig yn cwmpasu Cymru gyfan ac yn darparu gwybodaeth, blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer rheoli peryglon llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr. Wrth lunio'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd drafft diwygiedig ar gyfer Cymru, rydym yn bodloni gofynion Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009). Yn dilyn yr ymgynghoriad 12 wythnos, bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn ystod ail hanner 2023/24.

Ymchwil a datblygu ym maes Rheoli Perygl Llifogydd

Mae gennym raglen ymchwil a datblygu strategol sydd â'r nod o gyflwyno tystiolaeth allweddol i lywio a gwella ein hanghenion gweithredol a'n hanghenion polisi mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd. Er mwyn helpu i ddiwallu ein hanghenion ymchwil a thystiolaeth, rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra ar raglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) ar y cyd. Nod y rhaglen yw gwasanaethu anghenion yr holl awdurdodau gweithredu llifogydd ac arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Rhaglen Ymchwil a Datblygu ar y Cyd ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol wedi cyhoeddi nifer o brosiectau allweddol y mae CNC wedi bod yn rhan ohonynt a gellir dod o hyd i’r rhain ar safle prosiectau ymchwil a datblygu FCERM.

Mae’r rhaglen ehangach yn cynnwys 63 o brosiectau wedi’u rhannu’n 3 thema: 1) Polisi, Strategaeth a Buddsoddiad, 2) Rheoli Asedau a 3) Rheoli Digwyddiadau a Modelu. Mae ein staff yn ymwneud yn uniongyrchol â 25 o'r prosiectau hyn naill ai fel aelod cyfatebol neu'n cymryd rhan weithredol ar lefel bwrdd prosiect.

Atebion sy'n seiliedig ar natur

Mae atebion sy'n seiliedig ar natur yn cyfeirio at ddefnyddio nodweddion a phrosesau naturiol i fynd i'r afael â materion cymdeithasol-amgylcheddol. Ystyrir bod rheoli llifogydd yn naturiol (NFM) yn ateb sy’n seiliedig ar natur i helpu i fynd i’r afael â llifogydd drwy ddefnyddio neu adfer prosesau naturiol i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Gall rheoli llifogydd yn naturiol hefyd gynnig llawer o fuddion ehangach gan gynnwys gwella bioamrywiaeth, cynyddu gwytnwch ecosystemau, gwella ansawdd dŵr a storio carbon.  

Un o flaenoriaethau allweddol Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru yw cyflwyno mwy o ymyriadau naturiol a dulliau dalgylch er mwyn lleihau perygl llifogydd yng Nghymru. Mae’n ofynnol i awdurdodau rheoli perygl llifogydd yng Nghymru ystyried y defnydd o arferion rheoli llifogydd yn naturiol wrth ddatblygu opsiynau ar gyfer cynlluniau llifogydd newydd a gweithgareddau cynnal a chadw. Ein nod yw integreiddio arferion rheoli llifogydd yn naturiol o fewn gweithgareddau rheoli perygl llifogydd ac arfordirol lle bo hynny’n ymarferol ac yn briodol i leihau’r perygl ac effeithiau llifogydd, addasu i newid yn yr hinsawdd, cyfrannu at yr amcan o gydnerthedd ecosystemau a chefnogi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydym yn datblygu ein hymagwedd tuag at Reoli Llifogydd yn Naturiol, gan gydnabod yr angen i ddefnyddio’r holl offer sydd ar gael i reoli risgiau hinsawdd yn y dyfodol.

Datblygu ein hymagwedd at Reoli Llifogydd yn Naturiol

Fel sefydliad rydym am arwain trwy esiampl, gan gyflawni ein hamcanion corfforaethol i ddiogelu a gwella natur, ymateb i'r argyfwng hinsawdd, a lleihau llygredd. Mae gweithredu mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn cynnig potensial i gyflawni’r amcanion hyn, ac mae ganddynt rôl bwysig o safbwynt gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae rheoli llifogydd yn naturiol yn cyd-fynd â’n gweithgareddau rheoli risg llifogydd eraill a bydd ar ei fwyaf effeithiol pan gaiff ei gyflawni fel rhan o gynllun neu mewn meysydd lle mae’n bosibl gwneud gwahaniaeth mesuradwy. Mae'r ardaloedd hyn yn debygol o fod yn ddalgylchoedd llai neu mewn ardaloedd lle ceir llifogydd amlach gyda llai o effaith. Er mwyn sicrhau bod llifogydd yn cael ei reoli’n gynaliadwy ac yn llwyddiannus, mae angen ymrwymiad a chyfranogiad ystod o bartneriaid, rhanddeiliaid, cymunedau a rheolwyr tir gyda chamau gweithredu wedi’u cydgysylltu ar draws dalgylch. Rydym yn archwilio ffyrdd o wneud hyn a hefyd yn cydnabod bod angen cael cymorth priodol. 

Rydym yn cefnogi ac yn dylanwadu ar ddatblygiad polisi a strategaeth rheoli tir yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym yn darparu cyngor a chymorth i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol, gan annog cynnwys rheoli perygl llifogydd gyda chymorth priodol. Rydym hefyd wedi cefnogi datblygiad canllawiau’r DU ar gyfer dylunio a rheoli coedwigoedd a choetiroedd i leihau perygl llifogydd. Bydd y rhain yn galluogi ac yn hwyluso dulliau gweithredu’r tîm rheoli llifogydd yn naturiol yn y dyfodol ac rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ystyried opsiynau ar gyfer mecanweithiau cyflawni yng Nghymru. 

Prosiectau Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ledled Cymru i hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol lle bo’n briodol. Rydym yn parhau i weithio gyda chymuned Dinas Powys drwy adolygu trefn cynnal a chadw sianeli Afon Tregatwg, datblygu achos busnes ar gyfer mesur llif afonydd a gwerthuso’r opsiynau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn y dalgylch. Gyda'i gilydd, mae'r gweithgareddau hyn yn darparu cwmpas llawn yn y dalgylch i lywio opsiynau rheoli perygl llifogydd tymor byr, canolig a hir.

Tystiolaeth ac ymchwil ym maes rheoli llifogydd yn naturiol

Rydym yn parhau i ymgysylltu a gweithio gyda phartneriaid i ddeall effeithiolrwydd rheoli perygl llifogydd yn naturiol. Roedd cyfeiriadur ‘Working with Natural Processes Evidence Directory’ a gyhoeddwyd yn 2017 yn coladu a chyfosod y dystiolaeth oedd ar gael ar effeithiolrwydd gweithio gyda phrosesau naturiol i leihau perygl llifogydd, ynghyd â’r manteision ehangach i wasanaethau ecosystemau. Mae gwaith i adolygu a diweddaru’r Cyfeiriadur Tystiolaeth hwn wedi dechrau ac yn cael ei gyflawni drwy Raglen Ymchwil a Datblygu ar y Cyd ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cael ei reoli gan Asiantaeth yr Amgylchedd a’i gefnogi gan CNC, Llywodraeth Cymru, Defra, Natural England ac Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban. Bydd y prosiect yn cydgasglu’r hyn a ddysgwyd o waith ymchwil academaidd ynghyd â chanfyddiadau’r cynllun peilot Rheoli Llifogydd yn Naturiol yng Nghymru a Lloegr.

Lle mae ein harian yn cael ei wario

Rydym yn cael ein hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gyflenwi gwaith rheoli perygl llifogydd, a hynny ar ffurf cyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Daw hyn ar ffurf cyllid refeniw sy'n cefnogi gweithgareddau a gwasanaethau gweithredol arferol a “busnes fel arfer”, yn ogystal â chyllid cyfalaf a ddefnyddir i gyflawni gwaith prosiect.

Yn ystod 2022/23, derbyniodd CNC gyfanswm o £42 miliwn o gyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd, a oedd yn cynnwys £22.5m o gyllid refeniw a £19.5m o gyllid cyfalaf. Defnyddiwyd y cyllid hwn yn llawn yn y flwyddyn ariannol hon i gyflawni canlyniadau Rheoli Perygl Llifogydd, cynnal y gwasanaethau y mae CNC yn eu darparu a llawer o’r llwyddiannau a amlinellir yn yr adroddiad hwn.

Cyllid cyfalaf

Ein cyllideb gyfalaf wreiddiol ar gyfer 2022/23 oedd £22m. Rydym yn monitro ein rhaglen gyfalaf yn agos wrth i brosiectau fynd rhagddynt ac rydym yn ymateb i newidiadau yn ein rhagolygon ariannol i sicrhau ein bod yn defnyddio ein cyllid yn effeithiol. O ganlyniad i rai o’r newidiadau yn ein rhaglen, cytunwyd gyda Llywodraeth Cymru i ryddhau rhywfaint o gyllid yn ystod y flwyddyn, gan arwain at gyllideb gyfalaf derfynol o £19.5m ar ôl ei haddasu. Fe wnaeth y cyllid hwn ein galluogi i gyflawni 147 o brosiectau o fewn ein Rhaglen Gyfalaf, gan gynnwys nifer o’r prosiectau a amlygir yn yr adroddiad hwn, a nifer o enghreifftiau o waith parhaus a fydd yn cael ei gwblhau dros y blynyddoedd i ddod. Mae Ffigur 8 isod yn cynnwys dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect.

Ffigur 8: Siart yn dangos dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect

Mae gweithgareddau craidd yn cynnwys costau cyflog cyfalaf (£2.2 miliwn), gorbenion corfforaethol (£0.6 miliwn) a phryniant fflyd, peiriannau ac offer (£850 mil). Mae costau cyfalaf TGCh yn ymwneud â gwaith datblygu systemau rheoli perygl llifogydd penodol, neu gyfraniadau at waith datblygu systemau sydd er budd i wasanaethau rheoli perygl llifogydd. Yn 2022/23 roedd hyn yn cynnwys gwelliannau i’n systemau rhybuddion llifogydd, y mapiau llifogydd ar ein gwefan, ein system telemetreg a’n cronfa ddata rhestr asedau (AMX).

Cyllid refeniw

Cefnogodd y setliad refeniw o £22.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yr ymdrech sylweddol sy'n ofynnol o ran cynnal a darparu'r gwasanaethau, cyngor, offerynnau a gweithgareddau y mae CNC yn ymgymryd â nhw er mwyn helpu i reoli perygl llifogydd yng Nghymru. Yn bennaf, mae'r cyllid hwn yn cynnal costau staff, gwaith cynnal a chadw arferol, gwasanaethau galluogi amrywiol sy'n cefnogi ein gwaith, a gweithgareddau arferol eraill. Mae Ffigur 9 isod yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd.

Ffigur 9: Siart yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd

Mae pob un o’r meysydd gwaith hyn yn rhyngweithio ac yn gorgyffwrdd â’i gilydd i ddarparu gwasanaethau allweddol, felly mae rhai meysydd lle mae timau’n cefnogi gweithgareddau ehangach a all gamliwio graddfa’r ymdrech yn rhai o’r gweithgareddau uchod gan fod llawer o feysydd yn ddibynnol ar ei gilydd i sicrhau canlyniadau. Er enghraifft, mae gwaith Hydrometreg a Thelemetreg yn cefnogi rhagolygon a chyhoeddi rhybuddion llifogydd.

Mae Gorbenion Corfforaethol a’r Gwasanaeth Galluogi yn cynnwys cyfraniad y tîm rheoli perygl llifogydd i weithrediad gwasanaethau busnes allweddol sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni gweithgareddau rheoli perygl llifogydd. Mae'r rhain yn cynnwys Cyfathrebu, Caffael, Llywodraethu ac Arwain, Cynllunio Corfforaethol, Gwasanaethau Cyfreithiol, Rheoli Pobl, Cyfleusterau, Rheoli Fflyd a Chyllid. Mae costau Darparu Gwasanaeth yn gysylltiedig â gweithredu a chynnal systemau, offer a gwasanaethau allweddol a gefnogir gan eraill, er enghraifft Asiantaeth yr Amgylchedd.

Defnyddiwyd y gyllideb refeniw o £22.5 miliwn yn llawn yn ystod y flwyddyn 2021/22, a helpodd i gefnogi llawer o'r mentrau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, ynghyd â sicrhau bod ein gwasanaethau “busnes fel arfer” wedi parhau i gael eu darparu yn effeithiol.

Niferoedd staff

Yn fras, gellir dosbarthu'r ymdrech sy'n ofynnol o ran cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd yn CNC i'r meysydd gwaith a strwythurau canlynol:

  • Timau gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol sy'n atebol i'r Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau o fewn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.
  • Gwasanaethau technegol rheoli perygl llifogydd uniongyrchol sy'n atebol i reolwyr perygl llifogydd a dŵr o fewn y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau.
  • Timau cyflawni gweithredol integredig sy'n atebol i reolwyr tir ac asedau o fewn y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau.
  • Mae Gwasanaethau Galluogi sy’n darparu cymorth canolog i holl swyddogaethau CNC hefyd yn cael eu hariannu’n rhannol yn gymesur gan gyllid rheoli llifogydd yn naturiol er mwyn gallu cyflawni’r gwasanaethau.

Yn y sefyllfa sydd ohoni ym mis Mawrth 2023, rydym yn amcangyfrif bod nifer y staff mewn swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn meysydd sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd fel y nodir yn y tabl canlynol, (nid yw’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar nifer y staff sy’n gweithio o fewn y gwasanaethau galluogi gan ei fod yn rhy gymhleth i allu adnabod rolau a chyfraniadau penodol).

Tabl 5: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn sy'n gweithio'n uniongyrchol ym maes rheoli perygl llifogydd

Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn* Maes Gwaith Sefydliadol
67 Timau gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol
120 Gwasanaethau technegol rheoli perygl llifogydd uniongyrchol
200 Timau cyflawni gweithredol integredig
387 Cyfanswm amcangyfrif o'r staff cyfwerth ag amser llawn yn CNC a ariennir o gronfeydd rheoli perygl llifogydd

Edrych i’r dyfodol

Er mai diben yr adroddiad hwn yw canolbwyntio ar ganlyniadau a llwyddiannau blwyddyn ariannol 2022/23, mae rhan helaeth o'r hyn a wnaed eleni yn cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a chanlyniadau a fydd yn dod i ben yn y blynyddoedd i ddod.

Isod, rhestrir rhai o uchafbwyntiau allweddol y gwaith rydym yn bwriadu ei gwblhau neu ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn ariannol i ddod (2023/24).

Cynllun lliniaru llifogydd yn Llyswyry, Casnewydd

Rydym yn cynnal cynllun lliniaru llifogydd mawr newydd yn Llyswyry, Casnewydd, a fydd yn lleihau perygl llifogydd i dros 800 eiddo (dros 2,000 wrth ystyried newid yn yr hinsawdd). Mae cartrefi a busnesau yn Llyswyry, Casnewydd yn agored i lifogydd o afon Wysg yn ystod adegau o lawiad trwm a llanw uchel. Mae cyfleusterau a seilwaith hamdden fel yr A48, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Stadiwm Casnewydd a Pharc y Ddraig hefyd mewn perygl. Mae'r ystâd ddiwydiannol yn gyfrannwr allweddol i gyflogaeth ac economi Casnewydd. Gallai llifogydd ar raddfa fawr yn yr ardal hon gael effaith drychinebus ar yr economi a'r gymuned leol. Amcangyfrifir y byddai llifogydd sylweddol yn effeithio ar yr ardal yn costio £230m.

Cynllun lliniaru llifogydd yn Rhydaman, Sir Gâr

Rydym yn adeiladu cynllun newydd yn Rhydaman a fydd yn rheoli perygl llifogydd o afonydd Llwchwr, Marlas a Lash. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd yn diogelu dros 200 o eiddo yn y dref sydd ar hyn o bryd mewn perygl o lifogydd. Mae angen cyfuniad o fesurau gan gynnwys adeiladu cyfres o argloddiau a waliau amddiffyn rhag llifogydd, yn ogystal â gosod mesurau Gwrthsefyll Llifogydd Eiddo mewn rhai tai. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwaith i wella llwybr pysgod yn ogystal â gwelliannau amgylcheddol ehangach eraill.

Prosesau dyrannu cynhaliaeth newydd

Byddwn yn paratoi ar gyfer defnyddio’r offeryn Model Dyrannu Refeniw Seiliedig ar Risg (RBRAM) newydd i flaenoriaethu gwaith cynnal a chadw arferol ar asedau a dyrannu cyllid yn ôl perygl llifogydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Mae hwn yn arf newydd sylweddol yn ymwneud â TGCh sy’n defnyddio sawl set data allweddol i ddyrannu’r cyllid sydd ar gael ar sail perygl llifogydd (costau yn erbyn buddion) ac mae’n nodi newid mawr o’r drefn o gario dyraniadau hanesyddol drosodd.

Adolygu systemau rheoli asedau

Yn dilyn gwaith dadansoddi bylchau i bennu ein perfformiad yn erbyn safonau’r diwydiant, byddwn yn datblygu Cynllun Rheoli Asedau Strategol ar gyfer asedau rheoli perygl llifogydd. Hon fydd y dasg gyntaf i lunio system rheoli asedau yn unol â’r hyn a ddisgrifiwyd gan y Sefydliad Rheoli Asedau ac ISO 55001.

Asedau sy'n wynebu newidiadau arfordirol

Rydym yn ystyried pa newidiadau sydd eu hangen i reoli ein hasedau arfordirol, yn enwedig lle bu newid ym mholisïau’r Cynllun Rheoli Traethlin. Rydym wedi cwblhau'r cam cyntaf, lle ystyriwyd graddfa'r newidiadau sy'n ofynnol o ran y dull o reoli er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r Cynlluniau Rheoli Traethlin, a'r newid cyfnod sydd ar y gweill sydd ar ddod yn 2025. Byddwn yn symud ymlaen i’r ail gam sy’n cynnwys dadansoddi’r wybodaeth hon yn fanylach a phennu ein strategaethau rheoli yn y dyfodol yn y meysydd hyn.

Datblygu map llifogydd ar gyfer cynllunio – gwelliannau pellach

Fel rhan o'r diwygiadau i TAN15, rydym yn cyflwyno Map Llifogydd newydd ar gyfer Cynllunio yn lle’r map cyngor datblygu presennol. Cafodd hwn ei gyhoeddi ym mis Medi 2021 i ddechrau, a dyma’r map cyntaf i ddangos y perygl o lifogydd yn y dyfodol yn sgil y newid yn yr hinsawdd, gan dybio nad oes unrhyw amddiffynfeydd yn eu lle. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fireinio’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ymhellach gyda modelau llifogydd lleol wedi'u diweddaru a thystiolaeth a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ar berygl llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin a dŵr wyneb. Caiff y map ei ddiweddaru bob chwe mis ym mis Mai a mis Tachwedd.

Lwfansau Newid Hinsawdd

Rydym yn cynnal prosiect i asesu newidiadau mewn llif afonydd brig a glawiad eithafol oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar y rhagfynegiadau mwyaf diweddar o newid a bydd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o effeithiau llifoedd a glawiad cynyddol ar berygl llifogydd ledled Cymru. Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi diwygiadau i’w canllawiau ar y newid yn yr hinsawdd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ac at ddibenion cynllunio datblygiadau. Byddwn hefyd yn ystyried sut y gellir ymgorffori'r newidiadau yn ein cynnyrch Mapiau Llifogydd.

Prosiect Adnewyddu System Rhybuddion Llifogydd

Bydd prosiect adnewyddu’r system rhybuddion llifogydd yn parhau yn 2023/24, a disgwylir i’r system newydd gael ei chyflwyno yn ystod haf 2024. Y gwariant a ragwelir yw £5m sy'n golygu bod hwn yn brosiect TGCh sylweddol iawn a fydd yn gwella'r system yr ydym yn ei defnyddio i roi rhybuddion llifogydd i'r cyhoedd a phartneriaid proffesiynol. 

Prosiect amnewid telemetreg

Byddwn yn parhau â'n prosiect buddsoddi £5m i ddarparu System Telemetreg newydd. Bydd y system hon yn darparu gwybodaeth agos at amser real ar gyfer afonydd, glawiad a pheiriannau gweithredol sy’n hanfodol i’n hymateb i lifogydd. Byddwn yn darparu system delemetreg newydd, datrysiad cyfathrebu symudol newydd sy’n seiliedig ar y we, a phorth data byw newydd er mwyn rhannu data mewn modd mwy effeithlon gyda chwsmeriaid, yn ogystal â gosod Unedau Telemetreg o Bell (RTU) mewn dros 250 o safleoedd monitro telemetreg ledled Cymru.

Cyhoeddi Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd

Byddwn yn cyhoeddi ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn 2023/24 sy’n nodi pa gamau rheoli perygl llifogydd rydym yn bwriadu eu cymryd dros y chwe blynedd nesaf.

Mentrau sgiliau a chapasiti

Byddwn yn parhau i ddatblygu ein dulliau o fynd i'r afael â'r risgiau a'r heriau a achosir gan gyfyngiadau cyflenwi a chapasiti ar draws y sector rheoli perygl llifogydd cyfan. Mae hyn yn cynnwys datblygu mentrau cynllunio gweithlu strategol, a gweithgareddau i 'feithrin’ ein staff ein hunain.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf