Adroddiad Interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 (2024) – Crynodeb
Mae adnoddau naturiol Cymru yn sail i’n llesiant ac ansawdd ein bywyd. Maent yn darparu’r ynni a deunyddiau crai ar gyfer ein diwydiannau, yn darparu ein bwyd, aer a dŵr glân, yn creu swyddi a chyfoeth, ac yn cyfrannu at ein hiechyd a’n llesiant personol. Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn archwilio sut mae Cymru yn rheoli ei hadnoddau naturiol.
Mae’n casglu ynghyd y dystiolaeth orau sydd ar gael i asesu a ydym yn defnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a sut y gallwn wella ein rheolaeth ohonynt. Ysgrifennir yr adroddiad gan arbenigwyr o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, gyda chydweithrediad a chyngor gan arbenigwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Rydym nawr yn gweithio ar y trydydd adroddiad llawn, sydd i’w gyhoeddi ar ddiwedd 2025. Mae’r ‘Adroddiad Interim (2024)’ hwn yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 ac yn amlygu tystiolaeth newydd allweddol ar yr hyn sydd wedi newid ers adroddiad 2020 a’r prif negeseuon sy’n dod i’r amlwg o’r dystiolaeth honno. Mae’n dangos ein bod yn wynebu heriau brys i fynd i’r afael â cholli byd natur, newid hinsawdd a llygredd. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud ar ymateb i'r heriau hyn, mae llawer i'w wneud o hyd. Fodd bynnag, os gweithredwn gyda’n gilydd a gweithredu nawr, gyda’r ymatebion cywir gallwn atgyweirio’r difrod i’n hadnoddau naturiol er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.
Cefndir
Yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yw ein hasesiad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru. Mae’n sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr ac unedig a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a grwpiau eraill i lywio polisi a chynllunio a’r broses ehangach o wneud penderfyniadau.
Nodir yng nghyfraith Cymru fod yn rhaid i CNC gyhoeddi Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol llawn yn y flwyddyn cyn etholiad Senedd, gydag Adroddiad Interim yn y flwyddyn cyn hynny.
Rydym wedi cyhoeddi dau adroddiad llawn hyd yn hyn: Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2016 ac Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020. Disgrifiodd yr adroddiad cyntaf sefyllfa ein hadnoddau naturiol, ac archwiliodd sut mae pwysau ar ein hadnoddau naturiol yn effeithio ar ein llesiant. Cyflwynodd yr ail adroddiad ffordd newydd o feddwl am reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy ei rannu'n bedwar nod cydgysylltiedig. Mae’r pedwar nod hyn gyda’i gilydd yn ceisio cynnal a gwella adnoddau naturiol, adeiladu gwydnwch ecosystemau, a chyflawni lleoedd iach i bobl ac economi adfywiol sy’n mynd i’r afael â cholli byd natur. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod yn rhaid inni wneud newidiadau trawsnewidiol i’n systemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth er mwyn cyflawni’r nodau hyn ar gyfer rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Sut byddwn yn cyflwyno Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025
Byddwn yn strwythuro'r adroddiad mewn tair lefel i helpu pobl i gyrraedd y math o wybodaeth sydd ei angen arnynt. Bydd yr adroddiad yn nodi'n glir y cysylltiadau rhwng ein negeseuon allweddol a'r data a thystiolaeth sylfaenol. Bydd ffeithluniau i ddelweddu negeseuon allweddol, a bydd graffigwaith rhyngweithiol yn galluogi defnyddwyr i archwilio manylion pellach lle dymunant wneud hynny.
- Crynodeb – negeseuon allweddol a chrynodebau o’r prif gasgliadau.
- Asesiadau a thystiolaeth – asesiadau ein harbenigwyr o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a’r dystiolaeth sy’n sail i’w hasesiadau. Bydd y rhain yn cwmpasu pedwar nod rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar lefel Cymru gyfan ac ar gyfer tri adnodd naturiol allweddol (aer, pridd, dŵr) a’r wyth ecosystem eang yng Nghymru (ymylon arfordirol; tir ffermio amgaeedig; dŵr croyw; yr ardal forol; mynyddoedd, rhosydd a rhostir; glaswelltir lled-naturiol; ardaloedd trefol a choetiroedd). Bydd hefyd asesiad bioamrywiaeth a thystiolaeth ar ysgogwyr newid amgylcheddol megis newid yn yr hinsawdd, rhywogaethau estron goresgynnol, a newid yn y defnydd o dir a’r môr.
- Ffynonellau data a thystiolaeth – cysylltiadau â ffynonellau data penodol, llenyddiaeth gynradd berthnasol, ac adroddiadau syntheseiddio tystiolaeth.
Sut rydym yn asesu rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru
Dywed Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 mai amcan rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yw cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r buddion a’r gwasanaethau ecosystemau y maent yn eu darparu. Rhaid inni wneud hyn mewn ffordd a all ddiwallu anghenion y cenedlaethau presennol o bobl heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwy. Yn y modd hwn, mae rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni saith nod llesiant Cymru.
Mae’r amcan rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wedi’i rannu’n bedwar nod, fel y dangosir yn Ffigur 1. Yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, rydym yn defnyddio’r pedwar nod i asesu’r ffordd y mae Cymru’n rheoli adnoddau naturiol ac i nodi cyfleoedd ar gyfer cyflawni rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Ffigur 1: Nodau rhyng-gysylltiedig rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy sy’n dangos y cysylltiadau rhwng llesiant amgylcheddol, cymdeithasol / diwylliannol ac economaidd
Er mwyn asesu sut mae Cymru yn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn erbyn y pedwar nod hyn, mae angen inni allu mesur y pwysau ar adnoddau naturiol, a chyflwr adnoddau naturiol, gan gynnwys gwydnwch ecosystemau. Mae angen inni hefyd ddeall y manteision, neu’r gwasanaethau, a gawn ohonynt a sut mae newidiadau yng nghyflwr adnoddau naturiol yn effeithio ar lesiant. Ac mae angen inni fesur a deall yn well pa gamau (neu ymatebion) sy'n gweithio i helpu i wella sut rydym yn rheoli adnoddau naturiol.
Heriau
Mae’r dystiolaeth yn glir ein bod yn wynebu tair her amgylcheddol fawr a rhyng-gysylltiedig: colli natur, newid yn yr hinsawdd, a llygredd a gwastraff.
Yn fyd-eang, mae tua 1 miliwn o rywogaethau blanhigion ac anifeiliaid bellach dan fygythiad diflannu. Gan adlewyrchu’r duedd fyd-eang hon, mae bywyd gwyllt Cymru yn parhau i ddirywio, yn bennaf oherwydd y ffordd yr ydym yn rheoli ein tir ar gyfer amaethyddiaeth, effeithiau newid yn yr hinsawdd, llygredd, gor-ecsbloetio a rhywogaethau. Mae’r golled hon ym myd natur yn bygwth gwydnwch ecosystemau a gallu byd natur i gefnogi ein cymdeithas a’n llesiant, a’i gallu i addasu i newid hinsawdd a lliniaru yn ei erbyn.
Rydym bellach wedi cyrraedd 1.1 gradd Celsius o gynhesu byd eang, a achosir yn ddiamwys gan weithgareddau dynol yn bennaf. Er mwyn cyfyngu’r cynhesu hwnnw i 1.5 gradd Celsius, mae’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) wedi rhybuddio bod yn rhaid inni gyflawni gostyngiad o 43% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang erbyn 2030, o gymharu â 2019, a sero net erbyn 2050. Er gwaethaf yr angen dybryd i leihau allyriadau, mae'r cynlluniau cenedlaethol presennol yn llawer is na'r hyn sydd ei angen. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif y bydd cynlluniau gweithredu cenedlaethol ond yn sicrhau gostyngiad o 2.6% mewn allyriadau byd-eang erbyn 2030. Mae Cymru yn gwneud cynnydd o ran lleihau allyriadau (gweler dangosydd 41), ond mae angen i ni hefyd gymryd camau gweithredu i addasu i’r risgiau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd.
Mae llygredd yn ein haer a’n hatmosffer, a’n dyfroedd a’n priddoedd, yn peri risgiau sylweddol i iechyd dynol a natur ledled y byd ac yng Nghymru. Mae llygredd aer yn cael effaith sylweddol ar iechyd y cyhoedd ac ar ecosystemau. Mae llygredd hefyd yn broblem sylweddol i fasnau afonydd yng Nghymru, yn enwedig o ddŵr gwastraff, trefi a dinasoedd, trafnidiaeth, ardaloedd gwledig a mwyngloddiau segur. Gall halogi a rheoli gwastraff yn amhriodol hefyd lygru ein priddoedd a bygwth iechyd pobl ac ecosystemau.
Yn y pen draw, mae gan y tair her hyn ysgogwr cyffredin: economi echdynnol a dirywiol sy'n defnyddio adnoddau ac yn creu gwastraff ar gyfradd na all ein planed ei chynnal. Er gwaethaf gostyngiadau i’n hôl troed amgylcheddol byd-eang yn yr ugain mlynedd diwethaf, mae Cymru’n parhau i ddefnyddio mwy na’i chyfran deg neu gynaliadwy o adnoddau byd-eang. Pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel Cymru, byddai angen 2.08 Daear i gynnal dynoliaeth.
Ymateb i'r heriau
Gallwn ymdrechu i wynebu'r heriau hyn os gallwn weithio gyda'n gilydd ar draws sectorau, ar raddfa, a gweithredu nawr. Oherwydd bod yr heriau’n cydblethu, rhaid inni weithredu mewn ffordd integredig sy’n mynd i’r afael ag iechyd yr amgylchedd ac iechyd dynol. Rhaid i bob un ohonom yng Nghymru sydd â dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd, a phob un ohonom yng Nghymru sy’n malio am neu’n dibynnu ar adnoddau naturiol (hynny yw, pob un ohonom yng Nghymru) weithredu gyda’n gilydd a gweithredu nawr i newid sut mae ein heconomi a’n cymdeithas yn gweithio fel y gall ein hadnoddau naturiol ddechrau adfer er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni ymgorffori gwerth byd natur wrth wneud penderfyniadau a thrawsnewid i economïau natur-bositif sy’n ariannu adfer byd natur. Ymrwymodd y DU a Chymru i fod yn natur-bositif erbyn 2030 drwy Addewid Natur yr Arweinwyr (2020), ac i gymryd camau brys i atal a gwrthdroi colledion bioamrywiaeth erbyn 2030 drwy Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD GBF). Er mwyn cyflawni’r ymrwymiadau hyn, mae Cymru wedi nodi ystod o argymhellion drwy ei Harchwiliad Dwfn Bioamrywiaeth. Bydd Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn cefnogi dull gweithredu Cymru at adfer byd natur, yn cyd-fynd â Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, ac yn hysbysu defnyddwyr statudol megis y Polisi Cenedlaethol ar Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal.
Yn 2021, ymrwymodd Cymru i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. Mae disgwyl i hyn gael ei gyflawni drwy gymysgedd o leihau allyriadau ac atafaelu, er enghraifft drwy atebion ar sail natur megis plannu coed. Mae sector cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo’n fwy uchelgeisiol i gyrraedd sero net erbyn 2030, drwy amrywiaeth o feysydd blaenoriaeth, gan gynnwys defnydd tir a chaffael. Mae Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran addasu i’r risgiau y mae’n eu hwynebu yn sgil newid hinsawdd ac, ym mis Hydref 2024, cyhoeddwyd y Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Cymru.
Mae camau gweithredu yn cael eu cymryd ledled Cymru i fynd i'r afael â llygredd a gwastraff. Ym mis Chwefror 2024, daeth deddf newydd i rym yng Nghymru sy’n ceisio gwella ansawdd aer a seinweddau, a thrwy hynny leihau niwed i iechyd dynol, byd natur a’r economi. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gosod targedau i leihau gwastraff 33% yn gyffredinol, heb anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi a gostyngiad o 60% mewn gwastraff bwyd erbyn 2030.
Mae'r angen am ymateb integredig yn cael ei gydnabod un gynyddol. Mae’r sector iechyd yn faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu integredig o’r fath, gan ddefnyddio’r dull ‘Iechyd Cyfunol’, sy’n atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng iechyd ein planed a llesiant dynol. Mae integreiddio gwerth natur wrth wneud penderfyniadau yn un o ddeg amcan llesiant Llywodraeth Cymru ac yn rhan o ymrwymiadau Cymru o dan Gonfensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol y Cenhedloedd Unedig (CBD). Mae llawer o’r ymrwymiadau hyn yn pwysleisio’r angen i ddeall nad yw gwerth natur yn nhermau punnoedd a cheiniogau yn unig a bod natur yn ased sy’n cyfrannu at ein llesiant cymdeithasol a diwylliannol mewn sawl ffordd.
Mae angen inni drawsnewid ein system economaidd fel ei bod yn gweithio’n well i adfywio natur a ffyniant dynol. Mae Adolygiad Dasgupta ar Economeg Bioamrywiaeth, a gomisiynwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi (2021), yn nodi ystod o newidiadau systemig sydd eu hangen ar gyfer trawsnewidiad o’r fath. Mae'r rhain yn cynnwys atebion ar sail natur, cyllid gwyrdd, grymuso dinasyddion, addysg, a llywodraethu cyfiawn, yn enwedig o ran mynediad teg at amgylchedd iach a phontio teg. Mae busnesau a’r sector cyllid yn cydnabod yn gynyddol yr angen i reoli’n well y risgiau sy’n ymwneud â natur drwy integreiddio byd natur yn well wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau. Enghraifft o hyd yw'r Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol Cysylltiedig â Natur (TNFD).
Gobeithiwn allu dangos tystiolaeth o newidiadau mwy cadarnhaol yn adroddiad terfynol 2025, gan ddangos ein bod ni yng Nghymru wedi cyflymu camau gweithredu yn ystod y degawd mwyaf brys hwn. Dyna pa mor gyflym y mae angen i’n camau gweithredu ar y cyd fod os ydym am gyflawni ein dyheadau a’n hymrwymiadau ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Anghenion tystiolaeth
Bydd Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn cynnwys tystiolaeth newydd o bob rhan o Gymru ac o bob rhan o’r gwyddorau, y gwyddorau cymdeithasol, ac economeg. Lle nad oes gennym y dystiolaeth sydd ei hangen arnom ar gyfer ein hasesiad, byddwn yn gwneud hyn yn glir yn yr adroddiad. Roedd y rhan fwyaf o’r anghenion tystiolaeth a nodwyd gennym yn yr adroddiad diwethaf (Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020) o fewn y themâu gwydnwch ecosystemau, bioamrywiaeth, defnydd tir a phridd, newid hinsawdd, mannau iach, ac economi adfywiol. Mae tua hanner anghenion tystiolaeth Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 wedi gweld rhywfaint o gynnydd. Bydd yr anghenion hyn o adroddiad 2020 yn cael eu blaenoriaethu ochr yn ochr â’r anghenion tystiolaeth newydd y mae ein harbenigwyr yn eu nodi. Bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu cyhoeddi yn yr adroddiad llawn yn 2025, gan ein helpu i weithio o fewn CNC a chyda phartneriaid i geisio gwella ein sylfaen dystiolaeth a gwneud cynnydd tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.