SoNaRR2020: Angen tystiolaeth
Helpwch ni gyda'n hanghenion tystiolaeth
Hoffem gael eich help gydag anghenion tystiolaeth SoNaRR yn y tabl isod:
- Allwch chi ddod yn bartner i ni i ddatblygu prosiectau i ateb y cwestiynau hyn?
- Ydych chi'n gwybod am unrhyw dystiolaeth nad yw yn SoNaRR 2016 na 2020 a fydd yn helpu gyda'r asesiad?
Sylwch, mae gennym hefyd rai anghenion tystiolaeth morol ac arfordirol ychwanegol a Egwyddorion Ymchwil Cydweithredol Bioamrywiaeth Forol
Diweddaru ein tabl anghenion tystiolaeth
Byddwn yn gweithio gyda chi i ddiweddaru'r tabl anghenion tystiolaeth hwn yn rheolaidd.
Drwy'r broses addasol hon, byddwn yn gwella ein gallu i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) ledled Cymru.
Sut i ddefnyddio'r tabl anghenion tystiolaeth
Mae pob angen wedi'i neilltuo i un neu fwy o’r pedwar nod SMNR sy'n llywio ein hasesiad.
Nod 1: Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a'u gwella
Nod 2: Mae ecosystemau'n wydn yn erbyn newid disgwyliedig ac anrhagweladwy
Nod 3: Mae gan Gymru leoedd iach i bobl, wedi'u diogelu rhag risgiau amgylcheddol
Nod 4: Economi atgynhyrchiol gyda lefelau cynaliadwy o gynhyrchu a defnyddio
Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i gwestiynau am eich diddordebau, er enghraifft "ansawdd aer", "synhwyro o bell" neu "pryfed".
Ni allwch ddefnyddio gweithredwyr chwilio Boole (AC, NEU, NID).
Defnyddiwch y saeth i lawr ym mhob colofn i drefnu eich canlyniadau chwilio yn nhrefn yr wyddor.
Mae llawer o themâu SMNR yn drawsbynciol felly bydd termau chwilio'n ymddangos ar draws gwahanol benodau o SoNaRR.
Sylwer: os nad yw'r rheolyddion chwilio tabl yn ymddangos, naill ai diweddarwch y dudalen neu rhowch gynnig ar ddefnyddio porwr gwahanol.
Gallwch hefyd lawrlwytho taenlen excel (Saesneg)
o'r anghenion tystiolaeth, sy'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol nad yw yn y tabl iso:
Angen am dystiolaeth eang | Angen am dystiolaeth benodol | Nod Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy | Pam mae angen am dystiolaeth yn y maes hwn? | Yr ecosystemau a themâu sy'n rhan o hyn |
---|---|---|---|---|
Beth yw'r tueddiadau ac ysgogwyr o safbwynt cydnerthedd ecosystemau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Beth yw cyflwr y cynefinoedd presennol ar fynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd, mewn unedau rheoli tir, wedi'i fesur yn erbyn y ffon fesur a bennwyd gan Fonitro Safonau Cyffredin? | Nod 1 Nod 2 |
Bach iawn a wyddom am iechyd presennol yr ecosystemau ar draws rhan helaeth o'r adnoddau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd, ac mae'n rhaid allosod o ychydig bach iawn o samplau. Mae angen dilyn dull "eang a bas" i gyd-fynd â'r dull "cul a dwfn" a ddilynir eisoes ar gyfer gwaith monitro daearol. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau ac ysgogwyr o safbwynt cydnerthedd ecosystemau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Beth yw'r tueddiadau ac ysgogwyr o safbwynt cyflwr cynefinoedd mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Nod 1 Nod 2 |
O gael gwybodaeth am y cyflwr, mae angen i ni wybod p'un a yw'r dulliau rheoli presennol yn newid y cyflwr hwnnw a pha ffactorau eraill, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, pori, llygredd a gweithgareddau hamdden, sy'n cael effaith negyddol ar y nodweddion. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth a ellir ei wneud i wella cydnerthedd yr ecosystemau presennol ar fynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Ym mhle y ceir cyfleoedd ar gyfer adfer ecosystemau rhostir? | Nod 1 Nod 2 |
Mae llawer o rostiroedd yr ucheldir wedi'u dirywio i laswelltir asidaidd, ond gellir eu hadfer trwy drefniadau pori priodol. Mae llawer o rostiroedd yr iseldir yn ddarnau o'r hyn a fu yn flaenorol. A allwn dargedu meysydd ar gyfer eu cysylltu a'u hadfer? Pa amodau pridd fyddai'n gwneud hyn yn bosibl, a sut y gallwn eu cyflawni? | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth a ellir ei wneud i wella cydnerthedd yr ecosystemau presennol ar fynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Beth yw'r rhwystrau i waith adfer mawndiroedd o safbwynt tirfeddianwyr? Sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain? | Nod 2 Nod 3 |
Polisi Llywodraeth Cymru yw adfer dulliau rheoli priodol ar bob mawndir yng Nghymru. Efallai y bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol trefnu ymyriadau yn cynnwys eu hailwlychu'n hydrolegol, gostwng y maethynnau ynddynt, a chyflwyno trefniadau pori, torri neu gynaeafu biomas iddynt, neu ymyriadau eraill a all fod yn heriol, yn enwedig lle mae mawndiroedd wedi'u rhannu rhwng sawl daliad tir neu lle mae rheolwyr tir yn anghyfarwydd â'r technegau. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Defnydd tir a phridd Ffermdir caeedig |
Beth yw'r tueddiadau ac ysgogwyr o safbwynt cydnerthedd ecosystemau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Beth yw effeithiau posibl a gwirioneddol "digwyddiadau her", er enghraifft marathonau mynydd, ar gynefinoedd a rhywogaethau'r ucheldir? | Nod 2 Nod 3 |
Gallai digwyddiadau her fel marathonau mynydd achosi effeithiau uniongyrchol fel erydu a chywasgu pridd, effeithiau anuniongyrchol fel tarfu, dadleoli a newidiadau mewn dulliau rheoli tir, ac effeithiau ategol fel allyriadau nwyon tŷ gwydr. Ond bach iawn yr ydym yn ei ddeall o ran natur, graddau ac arwyddocâd unrhyw effaith. Mae angen yr wybodaeth hon arnom er mwyn llywio'r cyngor a roddwn ynghylch gwaith cynllunio'r digwyddiadau hyn er mwyn sicrhau y gellir osgoi a lliniaru unrhyw effaith negyddol ar adnoddau naturiol. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau ac ysgogwyr o safbwynt cydnerthedd ecosystemau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Beth yw'r effaith hirdymor o dorri gorgors ar gydnerthedd ecosystemau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Nod 1 Nod 2 |
Yn aml, mae draenio gorgorsydd wedi arwain at gynnydd mewn gorchudd/uchder rhywogaethau ericoidau, er enghraifft grug, a dirywiad yn y rhywogaethau o adar a fyddai fel arfer yn bridio ar orgorsydd, er enghraifft y gylfinir, y cwtiad aur, a phibydd y mawn. Er gwaethaf gwaith adfer hydrolegol, mae rhywogaethau ericoidau yn parhau i drechu wrth i'r corsydd adfer, a hybir torri fel modd o'u rheoli, gan arwain at wrthdaro posibl rhwng yr arfer hwnnw a datblygiad corsydd trwy brosesau naturiol. Mae angen i ni asesu effaith torri, nad yw'n ddull traddodiadol yn y cynefin hwn, ar yr arfaeth hirdymor ar gyfer adfer. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw'r tueddiadau ac ysgogwyr o safbwynt cydnerthedd ecosystemau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Beth yw'r effaith hirdymor o dorri rhosydd corlwyni ar gydnerthedd ecosystemau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Nod 1 Nod 2 |
Yn draddodiadol, câi rhosydd corlwyni eu pori a'u llosgi, ond gyda newidiadau mewn arferion pori, er enghraifft y ffaith nad oes gwartheg bellach, ac amharodrwydd tirfeddianwyr i losgi oherwydd gofynion rheoliadol, y niwed posibl a achosir i rostiroedd gwlyb a chorsydd, a chanfyddiad y cyhoedd, hybir torri fwyfwy fel modd o chwalu glastiroedd mawr er mwyn creu strimynnau atal tân a hwyluso mynediad i stoc. Mae'n bosibl bod diffyg y broses egino Calluna a ysgogir gan dân, ynghyd â thaenu â thomwellt nad yw wedi'i gynaeafu, yn newid natur y llystyfiant. Mae angen adolygu'r wybodaeth bresennol a chyflwyno newidiadau arbrofol, o bosib, er mwyn ei gwneud yn bosibl darparu cyngor priodol. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw'r tueddiadau ac ysgogwyr o safbwynt cydnerthedd ecosystemau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Beth yw'r duedd hirdymor o safbwynt ffrwythlondeb pridd a statws basau mewn ecosystemau mynyddig, a beth yw'r ysgogwyr newid? | Nod 1 Nod 2 |
Yn yr Oes Neolithig, roedd pridd yr ucheldir yn gallu cynnal amaethyddiaeth, ond ceid anhawster tyfu cnydau ynddo erbyn heddiw. Mae dulliau rheoli tir, y newid yn yr hinsawdd, a glaw asid i gyd yn cael effaith ar esblygiad priddoedd yr ucheldir, ond bach iawn o gofnodion a geir yn eu cylch. Er y gwnaed defnydd helaeth o galch ar borfeydd a ffriddoedd yr ucheldir yn hanesyddol, mae'n anghyffredin bellach. Bydd angen adolygu datblygiad pridd ar yr ucheldir a'r newidiadau tebygol yn sgil opsiynau tirwedd yn y dyfodol er mwyn hwyluso dealltwriaeth o'r adnodd hwn. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw'r tueddiadau ac ysgogwyr o safbwynt cydnerthedd ecosystemau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Sut mae bioamrywiaeth mewn coetiroedd newydd ar yr ucheldir yn cymharu â'r fioamrywiaeth a geir mewn coetiroedd hynafol ar yr ucheldir? Lle ceir gwahaniaethau, beth yw'r ysgogwyr? |
Nod 1 Nod 2 |
Mae'r gwahaniaeth rhwng y fioamrywiaeth mewn coetiroedd hynafol a choetiroedd eilaidd wedi'i gydnabod ers tro byd, er bod llawer o hyn yn seiliedig ar dystiolaeth o goetiroedd ar yr iseldir, ac mae'r sefyllfa ar yr ucheldir ac yn ardaloedd Atlantaidd yn llai eglur. Mae gallu coetiroedd eilaidd ar yr ucheldir i gydweddu ac adfer biota coetiroedd hynafol yn ddibynnol ar lawer o ffactorau, er enghraifft hanes y defnydd tir, agosrwydd i goetir hynafol, ac oedran y gwaith plannu neu waith adfer. Er mwyn cynllunio coetiroedd gwell ar gyfer y dyfodol, bydd angen casglu tystiolaeth o bwysigrwydd cymharol y ffactorau hyn. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Coetir Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth a ellir ei wneud i wella cydnerthedd yr ecosystemau presennol ar fynyddoedd, rhostir a rhosydd? | Sut y gallwn fynd i'r afael ag achosion lle ceir ungnwd o Molinia caerulea neu Juncus squarrosus? A oes mecanweithiau rheoli mecanyddol neu gemegol y gellir eu defnyddio ar y cyd â dulliau rheoli pori? | Nod 1 Nod 2 |
Gall glaswellt y gweunydd, Molinia caerulea, a'r frwynen droellgorun, Juncus squarrosus, ffurfio ungnwd parhaus ar fawndiroedd, gan danseilio mesurau adfer corsydd. Bydd angen adolygu, treialu ac adrodd ar ddulliau ar gyfer mynd i'r afael â hyn. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Defnydd tir a phridd Ffermdir caeedig Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Sut y gallwn ddiffinio a gwerthuso cymhlethdod cynefin ffridd? | Beth yw elfennau allweddol ffridd, a pha ganllawiau y gallwn ni eu hawgrymu ar gyfer sicrhau cydbwysedd priodol o lystyfiant? | Nod 1 | Mae ffridd yn glytwaith arwahanol o borfeydd, rhostiroedd, tyfiant, coetiroedd, porfeydd coediog, rhedyn a chreigiau, sy'n aml yn ddynamig, a geir o boptu terfyn yr ucheldir lle mae newidiadau yn y dulliau rheoli yn adlewyrchu ffawd amaethyddol. Gall sefyllfa lle mae unrhyw gyfansoddyn yn drech na'r gweddill fod yn annymunol. Dylai dealltwriaeth well o gydberthnasau swyddogaethol elfennau cyfansoddol ffridd arwain at ddarparu cyngor gwell ynghylch y dulliau o reoli'r math hwn o dirwedd. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Coetir Glaswelltir lled-naturiol Bioamrywiaeth |
Pa wasanaethau ecosystemau a ddarperir gan fynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Ymhle y ceir ardaloedd o fawn bas (<50 cm) a phriddoedd organig yng Nghymru? | Nod 1 | Mae ardaloedd o fawn dwfn, sydd â dyfnder o fwy na 50 cm, wedi'u mapio yng Nghymru, ond ceir hefyd adnodd carbon sylweddol a swyddogaeth fioamrywiaeth mewn mawn mwy bas a phriddoedd organo-fwynol. Mae pennu lleoliadau'r nodwedd hon gyfystyr â chymryd cam tuag at ddiogelu a rheoli'r adnodd hwnnw. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Defnydd tir a phridd |
Pa wasanaethau ecosystemau a ddarperir gan fynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Beth yw budd cymharol mawn bas a phridd organig neu goedwigaeth gyflym o safbwynt dal a storio carbon, a sut mae hyn yn amrywio yn ôl yr amserlen ar gyfer tyfu cnydau lluosog a'r defnydd canlynol a wneir o dir y tyfwyd coed arno? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae'r cydbwysedd budd, o safbwynt dal a storio carbon, rhwng coedwigo neu gadw mawn bas a phriddoedd organo-fwynol yn gymhleth ac yn amrywio gan ddibynnu ar ragdybiaethau, gan gynnwys amserlenni, cylchoedd cnydau, effeithiau'r hinsawdd, a'r defnydd canlynol a wneir o dir y tyfwyd coed arno (dal a storio carbon). Mae astudiaethau cyfredol yn aml yn ddryslyd a bydd angen gwaith casglu ac adolygu tystiolaeth ddamcaniaethol ac empirig pellach er mwyn llywio polisi. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Coetir Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
Beth a ellir ei wneud i wella cydnerthedd yr ecosystemau presennol ar fynyddoedd, rhostir a rhosydd? | Sut y gellir lleihau'r llygredd gwasgaredig sy'n mynd i wlyptiroedd yr iseldir? | Nod 2 Nod 3 |
Mae llygredd maethynnau'n un o'r prif ffactorau sy'n achosi dirywiad ym mawndiroedd yr iseldir, a hynny trwy ddŵr (dŵr wyneb a dŵr daear) a dyddodiad o'r awyr. A yw clustogfeydd yn effeithiol, a pha mor eang y dylent fod? Mae angen cynnal astudiaethau ffynhonnell–llwybr–derbynnydd er mwyn pennu'r arfer gorau. Mae hyn yn debygol o fod yn benodol i'r safle oherwydd amodau hydrolegol amrywiol, er y gallai cynnal adolygiad cyffredinol o'r arfer mewn lleoedd eraill gynnig mewnwelediadau. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Dŵr croyw Gwastraff Cydnerthedd ecosystemau Ffermdir caeedig |
Beth yw'r tueddiadau ac ysgogwyr o safbwynt cydnerthedd ecosystemau mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Beth sy'n cyfyngu ar adferiad planhigion arctig-alpinaidd? A fu unrhyw atalfeydd genetig, a oes angen hybu neu fudo poblogaethau, neu a oes angen newidiadau yn y dulliau o reoli tir arnom? | Nod 1 Nod 2 |
Mae Cymru'n cynnal cyfres arwahanol o fflora a ffawna arctig-alpinaidd. Er ei bod o dan fygythiad gan y newid yn yr hinsawdd, cyfyngir ar ei chydnerthedd a'i gallu i wrthsefyll newid, neu addasu iddo, gan ddefnydd tir, llygredd a graddau ynysu yn y gorffennol ac yn bresennol. Bydd angen cynnal astudiaethau ecolegol o'r rhywogaethau hyn er mwyn pennu'r ffactorau allweddol i fynd i'r afael â nhw. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Bioamrywiaeth Cydnerthedd ecosystemau |
Beth a ellir ei wneud i wella cydnerthedd yr ecosystemau presennol ar fynyddoedd, rhostir a rhosydd? | Ble mae'r lleoliadau pwysig ar gyfer cennau afon? | Nod 1 | Mae llawer i'w groesawu mewn perthynas ag ymestyn gorchudd coetir ar hyd cyrsiau dŵr. Ond ceir ansicrwydd ynghylch i ba raddau y bydd hynny'n gwneud niwed i gennau afonol ar yr ucheldir, yn enwedig o ganlyniad i'r cynnydd yn y cysgod; ni all llawer ohonynt oddef cysgod. Er y gall cysgod brith o orchudd coed gwasgaredig fod yn llai niweidiol, gallai'r cysgod gan flociau coetir di-dor wneud niwed difrifol i'r adnodd hwn. Y lleoliad sy'n allweddol i'r dull o reoli'r nodwedd hon. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Bioamrywiaeth |
Pa wasanaethau ecosystemau a ddarperir gan fynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd? | Beth yw'r cydbwysedd o safbwynt allyriadau nwyon tŷ gwydr rhwng mignenni pontio a chorsydd crynedig? Sut mae eu gallu i ddal a storio carbon o'i gymharu â'u hallyriadau o fethan? | Nod 1 Nod 2 |
Ceir tystiolaeth dda o'r swyddogaethau dal, storio ac allyrru nwyon tŷ gwydr pwysig a gyflawnir gan gyforgorsydd asidaidd a chorfignenni, ac ychydig o ddealltwriaeth o gyfraniad ffeniau cyffredin i'r swyddogaethau hyn, ond bach iawn o dystiolaeth, os o gwbl, sydd ar gael o'r rhan y mae mignenni pontio neu gorsydd calchog yn ei chwarae yn y newidiadau yn y lefelau o nwyon tŷ gwydr. Mae angen cynnal astudiaethau ar fyrder er mwyn llenwi'r bwlch hwn yn y ddealltwriaeth ac er mwyn ei gwneud yn bosibl ystyried goblygiadau polisi nwyon tŷ gwydr ochr yn ochr â gwerthoedd bioamrywiaeth. | Mynyddoedd, rhostiroedd a rhosydd Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
Pa wasanaethau ecosystemau a ddarperir gan ecosystemau morol? | Sut y gall cyflwr cynefinoedd morol a charbon glas arfordirol gael effaith ar eu potensial i ddal a storio carbon? | Nod 2 Nod 3 |
Byddai'r dystiolaeth yn gwella'n dealltwriaeth o'r newidiadau y mae cyflwr y cynefinoedd yn eu hachosi i'r gwasanaeth ecosystem hwn, ac yn ei gwneud yn bosibl i ni wella'n dealltwriaeth o allu cynefinoedd morol i ddal a storio carbon. | Morol Ymylon arfordirol Bioamrywiaeth Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
Pa dystiolaeth neu ddata sydd ei angen i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun morol? | Pa ddata sydd ar gael ar gyfer diweddaru'r darlun presennol o ddosbarthiad rhywogaethau estron goresgynnol yn nyfroedd Cymru? | Nod 1 Nod 2 |
Byddai hyn yn gwella'r setiau data o ddosbarthiad rhywogaethau estron morol yn nyfroedd Cymru, ac yn llywio'n dealltwriaeth o effaith y pwysau hyn ar ecosystemau morol. | Morol Ymylon arfordirol Rhywogaethau estron goresgynnol Bioamrywiaeth |
Pa dystiolaeth neu ddata sydd ei angen i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun morol? | A allwn lunio mapiau gwell o gynefinoedd islanwol Atodiad I, sef y rhai a geir ar riffiau a banciau tywod yn bennaf, gan ddefnyddio'r data sydd ar gael ar hyn o bryd? | Nod 1 Nod 2 |
Mae data aml-belydr ar gael gan drydydd partïon a fyddai'n gwella'n tystiolaeth a'n mapiau o gynefinoedd Atodiad I a chynefinoedd ar raddfa eang. | Morol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Pa dystiolaeth neu ddata sydd ei angen i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun morol? | Pa wybodaeth sydd ar gael o safbwynt dosbarthiad, helaethrwydd, a strwythur poblogaethau rhywogaethau o bysgod morol yn nyfroedd Cymru? | Nod 1 Nod 2 |
Mae prinder yn y data ar bysgod morol o safbwynt cynnal yr asesiad hwn. Mae angen i ni gael data ar helaethrwydd, dosbarthiad, strwythur poblogaethau, a symudiadau pysgod yn nyfroedd Cymru er mwyn datblygu sylfaen ar gyfer cynnal asesiad yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. Byddai'r angen hwn am dystiolaeth yn adeiladu ar waith Ellis ac eraill (2012), a byddai'n llywio'n gwaith mewn llawer o feysydd. | Morol Dŵr croyw Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Pa dystiolaeth neu ddata sydd ei angen i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun morol? | Beth yw'r morweddau a geir ar arfordir Cymru, a'r gwasanaethau diwylliannol a geir o ecosystemau a ddarperir ganddo? | Nod 3 Nod 4 |
Cwblhau cwmpas llawn yr asesiad o gymeriad morweddau lleol yng Nghymru drwy wneud y canlynol: 1. dadansoddi ardaloedd ar sail ofodol 2. nodi nodweddion cymeriad allweddol ar gyfer pob ardal 3. sicrhau ei fod yn berthnasol i LANDMAP 4. creu teipoleg ar gyfer y gwasanaethau diwylliannol a geir o ecosystemau 5. pennu gwasanaethau perthnasol i forweddau perthnasol. Gwaith yn llenwi bylchau (yn ofodol a fesul pwnc) – bydd hyn yn ofynnol fel y gall CNC ddarparu tystiolaeth ar gyfer yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn fwy effeithiol, cynghori ar waith achos, ac amlygu tueddiadau a materion ar gyfer y broses o ddatblygu polisïau. 65% o'r cwmpas a gyflawnwyd hyd yn hyn, a bydd angen gwneud rhywfaint o waith diweddaru er mwyn sicrhau bod yr asesiad a wnaed eisoes yn gyfredol â'r iaith a ddefnyddir ym meysydd ecosystemau a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. |
Morol Dŵr croyw Ymylon arfordirol |
Beth yw effaith ynni adnewyddadwy ar y môr ar yr ecosystem forol a sut mae lliniaru effeithiau negyddol? | Beth yw effeithiolrwydd dyfeisiau atal acwstig ar famaliaid morol, adar a physgod? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Tystiolaeth bwysig i gydbwyso blaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau ecosystemau trwy adnoddau ynni adnewyddadwy â chynnal a gwella bioamrywiaeth, rhywogaethau symudol yn benodol. I lywio ein cyngor i ddatblygwyr. | Yr ardal forol Ynni Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith ynni adnewyddadwy ar y môr ar yr ecosystem forol a sut mae lliniaru effeithiau negyddol? | Beth yw effaith dyfeisiau ynni adnewyddadwy tonnau a llanw ar ymddygiad rhywogaethau symudol a beth yw'r risg o wrthdrawiad? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Tystiolaeth bwysig i gydbwyso blaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau ecosystemau trwy adnoddau ynni adnewyddadwy â chynnal a gwella bioamrywiaeth, rhywogaethau symudol yn benodol. I lywio ein cyngor i ddatblygwyr. | Yr ardal forol Ynni Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith ynni adnewyddadwy ar y môr ar yr ecosystem forol a sut mae lliniaru effeithiau negyddol? | Pa ddulliau y gellir eu defnyddio i fonitro dyfeisiau tonnau a llanw ar gyfer ymddygiad a gwrthdrawiadau rhywogaethau symudol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Tystiolaeth bwysig i gydbwyso blaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau ecosystemau trwy adnoddau ynni adnewyddadwy â chynnal a gwella bioamrywiaeth, rhywogaethau symudol yn benodol. I lywio ein cyngor i ddatblygwyr. | Yr ardal forol Ynni Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith ynni adnewyddadwy ar y môr ar yr ecosystem forol a sut mae lliniaru effeithiau negyddol? | A all prosiectau ynni adnewyddadwy gael effeithiau ar lefel poblogaethau o rywogaethau symudol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Tystiolaeth bwysig i gydbwyso blaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau ecosystemau trwy adnoddau ynni adnewyddadwy â chynnal a gwella bioamrywiaeth, rhywogaethau symudol yn benodol. I lywio ein cyngor i ddatblygwyr. | Yr ardal forol Ynni Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith ynni adnewyddadwy ar y môr ar yr ecosystem forol a sut mae lliniaru effeithiau negyddol? | Pa mor bosibl yw aflonyddwch sŵn ar famaliaid morol yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Tystiolaeth bwysig i gydbwyso blaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau ecosystemau trwy adnoddau ynni adnewyddadwy â chynnal a gwella bioamrywiaeth, rhywogaethau symudol yn benodol. I lywio ein cyngor i ddatblygwyr. | Yr ardal forol Ynni Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith ynni adnewyddadwy ar y môr ar yr ecosystem forol a sut mae lliniaru effeithiau negyddol? | Beth yw effeithiolrwydd tebygol mesurau lleihau sŵn yn yr amodau hydrograffig yn nyfroedd Cymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Tystiolaeth bwysig i gydbwyso blaenoriaethau ar gyfer darparu gwasanaethau ecosystemau trwy adnoddau ynni adnewyddadwy â chynnal a gwella bioamrywiaeth, rhywogaethau symudol yn benodol. I lywio ein cyngor i ddatblygwyr. | Yr ardal forol Ynni Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Pa mor wydn yw'r ecosystem forol a beth yw’r ysgogwyr newid yng nghydnerthedd yr ecosystem forol? | Beth yw ehangder, difrifoldeb ac effeithiau llygredd dŵr gwasgaredig ar yr ecosystem forol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
I lywio ein dealltwriaeth o adeiladu ecosystemau morol gwydn a'n cyngor arnynt. Byddai hyn yn ymchwilio i ba raddau y mae llygredd dŵr gwasgaredig, o amaethyddiaeth a ffynonellau trefol, gan gynnwys tarddleoedd penodol ac mewn effeithiau cyfunol, yn effeithio ar gyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Gallai hyn hefyd gynnwys astudiaeth achos yn Aberdaugleddau. | Yr ardal forol Dŵr croyw Ymylon arfordirol Trefol Tir fferm caeedig Defnydd tir a phridd Gwastraff Effeithlonrwydd dŵr Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Pa mor wydn yw'r ecosystem forol a beth yw’r ysgogwyr newid yng nghydnerthedd yr ecosystem forol? | Beth yw achosion y dirywiad yng ngwely maerl Aberdaugleddau? | Nod 1 Nod 2 |
I lywio ein dealltwriaeth o adeiladu ecosystemau morol gwydn a'n cyngor arnynt. Mae monitro wedi dangos dirywiad yn iechyd y gwely maerl yn Aberdaugleddau. Mae angen gwaith i nodi achos neu achosion y dirywiad hwn. | Yr ardal forol Dŵr croyw Ymylon arfordirol Bioamrywiaeth Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
Pa mor wydn yw'r ecosystem forol a beth yw’r ysgogwyr newid yng nghydnerthedd yr ecosystem forol? | Beth sy'n ysgogi dirywiad yr wylan goesddu yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 |
I lywio ein dealltwriaeth o adeiladu ecosystemau morol gwydn a'n cyngor arnynt. Mae'r wylan goesddu yn aderyn môr eiconig yng Nghymru ac mae'n nodwedd o nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Sgomer a Sgogwm, a'r moroedd oddi ar Ardal Gwarchodaeth Arbennig Sir Benfro. Yn ôl y canlyniadau mwyaf diweddar o'r cyfrifiad adar môr, bu gostyngiad o 40% ym mhoblogaethau yr wylan goesddu yng Nghymru. Y brif theori yw ei fod yn cael ei yrru gan y newid yn yr hinsawdd, ond mae gwylanod coesddu yn bwyta rhywogaethau ysglyfaethus tebyg i garfilod, sydd wedi dyblu eu poblogaeth dros y 15-20 mlynedd diwethaf. Mae angen prosiect i goladu gwybodaeth bresennol, ynghyd â sefydlu dulliau monitro amrywiol, e.e. trapiau camerâu, a allai roi gwybodaeth am nifer o gytrefi o amgylch Cymru. | Yr ardal forol Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Pa mor wydn yw'r ecosystem forol a beth yw’r ysgogwyr newid yng nghydnerthedd yr ecosystem forol? | Sut i bennu terfynau cynaliadwy ar gyfer cynaeafu gwymon o'r gwyllt? | Nod 1 Nod 4 |
I lywio ein dealltwriaeth o adeiladu ecosystemau morol gwydn a'n cyngor arnynt. Adolygiad o'r dystiolaeth a methodoleg gyfredol ar gyfer rheoli cynaeafu gwymon. Penderfynu a oes unrhyw rywogaethau nad ydynt yn gynaliadwy i’w cynaeafu, a datblygu methodoleg ar gyfer gosod terfynau cynaliadwy ar gyfer casglu/cynaeafu gwymon mewn ardaloedd eraill. Mae'r angen hwn am dystiolaeth wedi'i anelu'n benodol at gynaeafu masnachol, ond gyda chynnydd mewn casglu hamdden, mae'n bwysig amddiffyn rhai ardaloedd sy'n arbennig o bwysig ar gyfer gwymon. | Yr ardal forol Ymylon arfordirol Bioamrywiaeth |
Beth ellir ei wneud i gynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau morol? | Sut i greu cynefin newydd, oni bai am forfa heli. Er enghraifft, gwastadeddau llaid, gwastadeddau tywod, glannau cymysg, gwelyau morwellt? | Nod 1 Nod 2 |
I lywio ein dealltwriaeth o adeiladu ecosystemau morol gwydn a'n cyngor arnynt. Mae angen datblygu dulliau i greu cynefin rhynglanwol ac islanwol newydd. Ar hyn o bryd, mae dulliau dibynadwy ar gael ar gyfer creu cynefin morfa heli yn unig. Mae angen prosiectau ar amrywiaeth o wahanol raddfeydd, o ddatblygu technegau ar raddfa fach fel lluosogi morwellt ac algâu i dreialon creu cynefinoedd ar raddfa fwy. | Yr ardal forol Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth ellir ei wneud i gynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau morol? | Beth yw'r cyfleoedd i gynnal a gwella gwydnwch ecosystemau morol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
I lywio ein dealltwriaeth o adeiladu ecosystemau morol gwydn a'n cyngor arnynt. Dehongli setiau data sydd eisoes yn bodoli i ddarparu trosolwg strategol – er enghraifft, mapiau gofodol – o gyfleoedd allweddol i gynnal neu wella cydnerthedd ecosystemau morol yn nyfroedd Cymru. Mae hwn yn faes gweithredu sy'n deillio o’r Datganiadau Ardal – gweler themâu cynllunio morol a chydnerthedd ecosystemau. | Yr ardal forol Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth ellir ei wneud i wella cydnerthedd coetiroedd yng Nghymru a'r llif o wasanaethau ecosystemau ohonynt? | Beth yw'r rhwystrau yng Nghymru sy'n atal dod â mwy o goetir, yn enwedig coetir brodorol, o dan reolaeth gynlluniedig i wella cydnerthedd a llif gwasanaethau ecosystemau, gan gynnwys buddion llesiant, ohonynt? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae coetiroedd nad ydynt o dan reolaeth gynlluniedig yn debygol o fod yn cynhyrchu cydnerthedd, gwasanaethau ecosystemau a buddion llesiant is-optimaidd. Bydd y dystiolaeth hon yn helpu i lywio dulliau polisi a chyflawni yn y dyfodol. | Coetir Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau |
Beth ellir ei wneud i wella cydnerthedd coetiroedd yng Nghymru a'r llif o wasanaethau ecosystemau ohonynt? | Pa fath o ymyriadau a allai gyflymu dod â mwy o goetiroedd, yn enwedig coetir brodorol, o dan reolaeth gynlluniedig i wella cydnerthedd a llif gwasanaethau ecosystemau, gan gynnwys buddion llesiant, ohonynt? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae coetiroedd nad ydynt o dan reolaeth gynlluniedig yn debygol o fod yn cynhyrchu cydnerthedd, gwasanaethau ecosystemau a buddion llesiant is-optimaidd. Bydd y dystiolaeth hon yn helpu i lywio dulliau polisi a chyflawni yn y dyfodol. | Coetir Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
Beth ellir ei wneud i wella cydnerthedd coetiroedd yng Nghymru a'r llif o wasanaethau ecosystem ohonynt? | Beth ellir ei wneud i annog rheolwyr coetir i gyflymu ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd a phlâu a chlefydau, y tu hwnt i ofynion Safon Coedwigaeth y DU, i wella cydnerthedd ecosystemau coetir? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae angen cyflymu ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd a phlâu a chlefydau. Byddai deall y mecanweithiau sydd ar gael, er enghraifft y rhai sydd wedi'u profi, yn ogystal â rhai arloesol, i gyflymu ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd a phlâu a chlefydau yn helpu i lywio dulliau polisi a chyflawni yn y dyfodol. | Coetir Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
Pa effaith mae plâu a chlefydau yn ei chael ar goetiroedd? | Beth yw dosbarthiad ac effaith brigiadau plâu a chlefydau nad ydynt yn arwain at gyfyngiadau cwarantîn ledled Cymru a sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar hyn? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae dirywiad mewn iechyd coed, oherwydd y newid yn yr hinsawdd a bioddiogelwch dan fygythiad sy'n deillio o fasnach fyd-eang, yn risg sylweddol i ddarpariaeth, cydnerthedd a llesiant gwasanaethau ecosystemau yn y dyfodol. Nid ydym yn gwybod digon am ddosbarthiad ac effaith brigiadau plâu a chlefydau nad ydynt yn arwain at gyfyngiadau cwarantîn ledled Cymru. Byddai mwy o wybodaeth yn helpu i lywio penderfyniadau polisi a rheolaeth weithredol yn y dyfodol. | Coetir Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw cyflwr coetiroedd yng Nghymru? | Beth yw cyfran a chyflwr Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol sydd wedi'u hadfer, neu sy'n cael eu hadfer, ledled Cymru? | Nod 1 Nod 2 |
Mae ymrwymiad i adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol wedi'i gynnwys yn strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru, ond prin yw'r wybodaeth am gyfran a chyflwr Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol sy'n cael eu hadfer, yn enwedig y tu allan i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Byddai'r dystiolaeth hon yn helpu i lywio asesiadau o gydnerthedd yn y dyfodol ac yn cefnogi penderfyniadau polisi a rheolaeth weithredol. | Coetir Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw maint y gorchudd coetir yng Nghymru? | Beth yw'r dulliau mwyaf dibynadwy ar gyfer mesur gorchudd coetir yng Nghymru o ganlyniad i brosesau naturiol, hynny yw, cytrefu naturiol gan goed, sy'n digwydd pan fydd pwysau pori yn cael eu lleihau? | Nod 1 Nod 2 |
Gall cytrefu naturiol gan goed gefnogi a gwella cydnerthedd, a gwella canlyniadau bioamrywiaeth mewn rhai lleoliadau. Byddai gallu nodi pa mor helaeth yw cytrefu naturiol gan goed yn cefnogi gwell asesiadau o'r stociau o adnoddau naturiol. | Coetir Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw maint y gorchudd coetir yng Nghymru? | Beth yw effeithiolrwydd cytrefu naturiol gan goed fel dull o gynyddu gorchudd coetir yng Nghymru, yn benodol i arwain at sefydlu coed aeddfed sy'n gorchuddio mwy nag 20 y cant yn ôl arwynebedd, yn fwy na 0.5 hectar o ran maint, ac o leiaf 20 metr o eang yn unol â'r Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol a'r Comisiwn Coedwigaeth? |
Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Os yw coed yn cytrefu yn naturiol yn effeithiol (gan arwain at sefydlu coetir sy'n bodloni diffiniad y Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol), gallai hyn gynyddu ehangder cyfanswm y gorchudd coetir yng Nghymru, gyda buddion canlyniadol ar gyfer cydnerthedd, darparu gwasanaethau ecosystemau a buddion lles. | Coetir Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw maint y gorchudd coetir yng Nghymru? | Beth yw'r dulliau mwyaf dibynadwy ar gyfer mesur, pennu ac adrodd ar dueddiadau mewn gorchudd coetir net yng Nghymru, hynny yw, creu coetir heb golli coetir yn barhaol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae pryder bod gorchudd coetir net yn lleihau ond ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddata dibynadwy i asesu hyn. | Coetir Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw cyflwr coetiroedd yng Nghymru? | Beth mae setiau data a thystiolaeth presennol yn ei ddweud wrthym am gyflwr coetiroedd hynafol yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Coetiroedd hynafol yw rhai o'n rhai mwyaf gwerthfawr ac amrywiol yn fiolegol. Byddai mwy o wybodaeth am gyflwr coetiroedd statudol ac anstatudol yn helpu i lywio opsiynau polisi a rheoli yn y dyfodol. | Coetir Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw cyflwr coetiroedd yng Nghymru? | Beth yw effaith gorfaethu oherwydd llygredd gwasgaredig a defnydd tir cyfagos ar fflora daear coetiroedd yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 |
Mae fflora daear coetiroedd yn arbennig o sensitif i effeithiau gorfaethu. Byddai asesiad cyfoes o ehangder, effeithiau a risgiau gorfaethu yn helpu i lywio asesiadau yn y dyfodol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. | Coetir Defnydd tir a phridd Ansawdd aer Bioamrywiaeth Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw rôl pren wrth gefnogi economi atgynhyrchiol yng Nghymru? | Beth yw'r ymyriadau y mae eu hangen i gefnogi datblygu marchnad fwy masnachol ar gyfer pren caled a dyfwyd yng Nghymru, er mwyn cefnogi economi atgynhyrchiol a chynyddu buddsoddiad a meithrin hyder yn y sector? | Nod 1 Nod 4 |
Ar hyn o bryd, mae'r farchnad fasnachol ar gyfer pren caled o Gymru'n fach ac yn dameidiog. Dyma ran o adnodd coetir Cymru nad yw'n cael ei defnyddio’n ddigonol. Byddai deall y rhwystrau a chyfleoedd penodol yn cefnogi'r symudiad tuag at economi atgynhyrchiol. | Coetir |
Beth yw rôl pren wrth gefnogi economi atgynhyrchiol yng Nghymru? | Pa ymyriadau y mae eu hangen i gynyddu'r defnydd o bren a dyfwyd yng Nghymru mewn gwaith adeiladu yng Nghymru, er mwyn cefnogi datgarboneiddio ac economi atgynhyrchiol? | Nod 4 | Byddai'r defnydd mwy o bren a dyfwyd yng Nghymru yn y sector adeiladu yn creu nifer o wasanaethau ecosystemau a buddion llesiant. Byddai deall sut yn union y gall pawb sydd â diddordeb ddod ynghyd i gyflawni hyn yn helpu i lywio mecanweithiau polisi a chyflawni yn y dyfodol. | Coetir Ynni Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw rôl pren wrth gefnogi economi atgynhyrchiol yng Nghymru? | Beth yw'r cyfraniad y mae pren a dyfwyd yng Nghymru'n ei wneud i economi atgynhyrchiol a'r defnydd mwy effeithlon o adnoddau naturiol yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae gennym wybodaeth ddibynadwy ar lifoedd pren i'r DU ac oddi yno, ond mae data ar bren a dyfwyd yng Nghymru sy'n cyfrannu at economi atgynhyrchiol yng Nghymru yn ddiffygiol. Byddai'r dystiolaeth hon yn helpu i lywio opsiynau polisi a chyflawni yn y dyfodol. | Coetir Trefol Defnydd tir a phridd Gwastraff Ynni Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw rôl pren wrth gefnogi economi atgynhyrchiol yng Nghymru? | Pa ddatblygiadau cadwyn gyflenwi a allai gael eu datblygu yng Nghymru i gefnogi'r defnydd ehangach o gynhyrchion a grëwyd o bren i gefnogi economi carbon isel ac atgynhyrchiol yng Nghymru. | Nod 4 | Mae yna botensial sylweddol i gynhyrchion a grëwyd o bren gefnogi economi carbon isel ac atgynhyrchiol yng Nghymru ond mae'n debygol y bydd angen datblygiadau yn y gadwyn gyflenwi. Gallai deall beth yw'r rhain helpu i lywio opsiynau polisi a chyflawni yn y dyfodol. | Coetir |
Beth yw rôl pren wrth gefnogi economi atgynhyrchiol yng Nghymru? | Beth yw dichonolrwydd defnyddio lignin, cyfansoddyn cymhleth a geir mewn planhigion coediog sy'n dod fel arfer o wastraff gwasgu papur, i greu plastigion bio yng Nghymru? | Nod 4 | Dyma opsiwn economi atgynhyrchiol sy'n gysylltiedig â rheoli coetiroedd, a gallai gefnogi twf ac adferiad gwyrdd. Byddai deall dichonolrwydd yr opsiwn hwn yn helpu i lywio polisi a chyflawni strategol yn y dyfodol. | Coetir |
Sut gall cyfaddawdau a synergeddau ecosystemau gael eu mesur i gefnogi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy? | Pa ddulliau dibynadwy y gallai gael eu defnyddio i fesur y cyfaddawdau a synergeddau ecosystemau sy'n gysylltiedig â choetiroedd fel rhan o newid defnydd tir i gefnogi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae rheoli synergeddau a chyfaddawdau'n allweddol i ddeall opsiynau newid defnydd tir yn y dyfodol. Mae llawer o asesiadau'n oddrychol ar hyn o bryd: byddai gallu mesur cyfaddawdau a synergeddau yn helpu i lywio penderfyniadau a chyfeiriad polisi yn y dyfodol. | Coetir Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Beth gellir ei wneud i wella cydnerthedd coetiroedd yng Nghymru a'r llif o wasanaethau ecosystemau ohonynt? | Beth yw amrywiaeth enetig rhywogaethau coed yng Nghymru a sut gallwn ddefnyddio'r wybodaeth hon i lywio asesiad o gydnerthedd coetiroedd yng Nghymru, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? | Nod 1 Nod 2 |
Mae amrywiaeth enetig, ynghyd ag amrywiaeth rhywogaethau a strwythurol, yn allweddol wrth asesu cydnerthedd ecosystemau coetiroedd. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o ddata sydd am amrywiaeth enetig coetiroedd Cymru. Byddai rhagor o wybodaeth yn helpu i lywio asesiadau cydnerthedd yn y dyfodol. | Coetir Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth gellir ei wneud i wella cydnerthedd coetiroedd yng Nghymru a'r llif o wasanaethau ecosystemau ohonynt? | Beth yw effaith amrywiaeth rhywogaethau coed ar gynhyrchiant coetir yng Nghymru? | Nod 1 Nod 4 |
Mae tyfu amrywiaeth o rywogaethauau coed yn allweddol i wella cydnerthedd, ond nid yw ei effaith ar gynhyrchiant coetiroedd ar gyfer pren yng Nghymru yn cael ei deall yn dda. Byddai'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol i gefnogi trafodaethau am rôl pren wrth gefnogi economi atgynhyrchiol. | Coetir |
Beth yw cyfraniad economaidd y sector coetir yng Nghymru? | Beth yw cyfraniad gwerth ychwanegol gros y sector coetir, gan gynnwys busnesau sy’n rhedeg gweithgareddau hamdden mewn coetiroedd a busnesau eraill sy'n dibynnu ar goetiroedd? | Nod 3 Nod 4 |
Byddai dealltwriaeth o gyfraniad ehangach (gwerth ychwanegol gros) y sector coetir yn cefnogi asesiad mwy cywir o werth gwasanaethau ecosystemau diwylliannol a buddion llesiant, ac yn llywio opsiynau polisi a rheoli. | Coetir Defnydd tir a phridd |
Beth yw ehangder cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | Beth sydd wedi newid yn ehangder a dosbarthiad glaswelltir lled-naturiol ers Cam 1 arolwg cynefinoedd diwedd y ganrif ddiwethaf? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae stociau adnoddau naturiol yn fesur sylfaenol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae arolwg cynefinoedd Cam 1 yn hen ac mae canfod o bell yn wael gan mwyaf o ran cofnodi ehangder glaswelltir. | Glaswelltir lled-naturiol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Bioamrywiaeth Ymylon arfordirol Ffermdir caeedig Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw ehangder cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | Beth yw ehangder a dosbarthiad cyfredol y ffurfiau gwahanol ar laswelltir lled-naturiol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae stociau adnoddau naturiol yn fesur sylfaenol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae arolwg cynefinoedd Cam 1 yn hen ac mae canfod o bell yn wael gan mwyaf o ran cofnodi ehangder glaswelltir. | Glaswelltir lled-naturiol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Bioamrywiaeth Ffermdir caeedig Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw ehangder cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | A yw mesurau cynlluniau amaeth-amgylcheddol wedi bod yn llwyddiannus wrth greu glaswelltir lled-naturiol newydd yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae stociau adnoddau naturiol yn fesur sylfaenol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae cynlluniau amaeth-amgylcheddol wedi bod yn un o'r prif fecanweithiau ar gyfer creu glaswelltir yng Nghymru. | Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Bioamrywiaeth Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw ehangder cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | A yw prosiectau creu glaswelltir wedi bod yn llwyddiannus wrth greu glaswelltir lled-naturiol newydd yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae stociau adnoddau naturiol yn fesur sylfaenol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae nifer o brosiectau wedi cynnwys creu peth glaswelltir, ond nid yw llwyddiant tymor hir neu fel arall y rhain yn cael ei gofnodi'n aml. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw ehangder cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | A all canfod o bell gael ei fireinio i fapio'r holl ffurfiau gwahanol ar laswelltir lled-naturiol? | Nod 1 Nod 2 |
Mae stociau adnoddau naturiol yn fesur sylfaenol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae canfod o bell wedi bod yn wael gan mwyaf o ran cofnodi ehangder glaswelltir, ond mae'n cael ei fireinio ac yn dod yn fwy cywir. | Glaswelltir lled-naturiol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Ffermdir caeedig Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw ehangder cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | A all y Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol cyfredol ac arolygon eraill gael eu dwyn ynghyd i fapio ehangder glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae data arolwg daearol manwl diweddar ychydig yn dameidiog ac mae angen rheoli ansawdd llawer ohono. | Glaswelltir lled-naturiol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Ffermdir caeedig Bioamrywiaeth |
Beth yw cyflwr cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | Beth yw cyflwr nodweddion glaswelltir Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar safleoedd gwarchodedig statudol? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Cyflwr yw mesur sylfaenol stociau adnoddau naturiol a chydnerthedd. Dim ond ychydig o nodweddion glaswelltir Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sydd wedi bod yn destyn gwaith monitro manwl. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw cyflwr cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | Beth yw cyflwr cynefinoedd glaswelltir y tu allan i safleoedd gwarchodedig statudol? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Cyflwr yw mesur sylfaenol stociau adnoddau naturiol a chydnerthedd. Nid ydym yn gwybod llawer am gyflwr glaswelltir y tu allan i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw cyflwr cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | Beth yw'r rhwystrau sy'n atal cyflawni cyflwr ffafriol neu dda ar safleoedd statudol? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Cyflwr yw mesur sylfaenol stociau adnoddau naturiol a chydnerthedd. Dim ond ychydig o nodweddion glaswelltir Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sydd wedi bod yn destun gwaith monitro manwl. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw cyflwr cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | A yw mesurau cynlluniau amaeth-amgylcheddol wedi bod yn llwyddiannus wrth wella cyflwr glaswelltir lled-naturiol? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Cyflwr yw mesur sylfaenol stociau adnoddau naturiol a chydnerthedd. Mae cynlluniau amaeth-amgylcheddol wedi bod yn un o'r prif fecanweithiau yng Nghymru ar gyfer cynnal a gwella cyflwr glaswelltir lled-naturiol. | Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw cyflwr cyfredol glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | A yw prosiectau glaswelltir wedi bod yn llwyddiannus wrth wella cyflwr glaswelltir lled-naturiol? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Cyflwr yw mesur sylfaenol stociau adnoddau naturiol a chydnerthedd. Mae nifer o brosiectau yng Nghymru wedi cynnwys mesurau ar gyfer cynnal a gwella cyflwr glaswelltir lled-naturiol; nid yw'r canlyniadau wedi cael eu cofnodi'n ddigonol bob tro. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Pa fecanweithiau mae eu hangen i adfer cyflwr glaswelltir lled-naturiol? | Pa fecanweithiau mae eu hangen i adfer cyflwr glaswelltir lled-naturiol o fewn safleoedd statudol? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Cyflwr yw mesur sylfaenol stociau adnoddau naturiol a chydnerthedd. Mae angen ymchwilio i fecanweithiau gwahanol, gan gynnwys ffrydiau ariannu. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Pa fecanweithiau mae eu hangen i adfer cyflwr glaswelltir lled-naturiol? | Pa fecanweithiau mae eu hangen i adfer cyflwr glaswelltir lled-naturiol y tu allan i safleoedd statudol? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Cyflwr yw mesur sylfaenol stociau adnoddau naturiol a chydnerthedd. Mae angen ymchwilio i fecanweithiau gwahanol, gan gynnwys ffrydiau ariannu. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau mewn amrywiaeth rhywogaethau mewn glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | Beth yw'r tueddiadau poblogaeth diweddar mewn planhigion fasgwlaidd glaswelltir anghyffredin, gan gynnwys rhywogaethau Adran 7 â blaenoriaeth? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Amrywiaeth yw mesur sylfaenol rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae dirywiadau ymysg planhigion fasgwlaidd glaswelltir yn y gorffennol wedi'u cofnodi, ond nid yw tueddiadau diweddar yn cael eu deall cystal. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau mewn amrywiaeth rhywogaethau mewn glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | Beth yw'r tueddiadau poblogaeth diweddar mewn infertebratau glaswelltir anghyffredin, gan gynnwys rhywogaethau Adran 7 â blaenoriaeth? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Amrywiaeth yw mesur sylfaenol rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae dirywiadau ymysg infertebratau glaswelltir yn y gorffennol wedi'u cofnodi, ond nid yw tueddiadau diweddar yn cael eu deall cystal. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Pa fecanweithiau mae eu hangen i gynnal neu wella amrywiaeth glaswelltir lled-naturiol? | Pa dystiolaeth mae ei hangen i sicrhau cadwraeth effeithiol rhywogaethau glaswelltir lled-naturiol? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Amrywiaeth yw mesur sylfaenol rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae angen rheolaeth benodol ar rai rhywogaethau er mwyn i boblogaethau fod yn sefydlog neu ehangu, ond mae yna fylchau mewn gwybodaeth i rai rhywogaethau. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau mewn amrywiaeth rhywogaethau a genetig mewn glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | Beth yw effaith dyled difodiant ac amrywiaeth enetig isel a achosir gan golli a darnio glaswelltir lled-naturiol ar rywogaethau glaswelltir lled-naturiol anghyffredin neu sydd dan fygythiad a pha rywogaethau sy'n arbennig o agored i niwed? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Amrywiaeth yw mesur sylfaenol rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Oherwydd dirywiadau yn y gorffennol, mae llawer o boblogaethau o rywogaethau Adran 7 a rhywogaethau anghyffredin eraill yn fach iawn ac yn hynod dameidiog, ac nid yw effeithiau hyn yn glir yn aml. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau mewn amrywiaeth rhywogaethau mewn glaswelltir lled-naturiol yng Nghymru? | Pryd mae'n briodol cyflwyno rhywogaethau glaswelltir lled-naturiol sy’n anghyffredin neu dan fygythiad i safleoedd newydd? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Amrywiaeth yw mesur sylfaenol rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Lle mae rhywogaeth wedi cael ei cholli o safle neu lle mae cydnerthedd glaswelltir wedi’i wella trwy greu safleoedd newydd, efallai na fydd rhywogaethau anghyffredin yn cytrefu neu'n ailgytrefu’n naturiol, ond pryd y dylid ystyried cyflwyniad artiffisial? | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw buddion gwasanaethau ecosystemau glaswelltir lled-naturiol yn cael eu mesur yn gywir? | Sut y caiff dal a storio carbon pridd mewn glaswelltir lled-naturiol eu heffeithio gan 1. trefnau rheoli gwahanol, 2. mathau gwahanol o laswelltir, 3. amrywiaeth rhywogaethau, 4. grwpiau rhywogaethau gwahanol, er enghraifft codlysiau, planhigion porfa a gweiriau? | Nod 3 | Mae glaswelltiroedd yn storio symiau sylweddol o garbon pridd, ond nid yw'r dystiolaeth yn glir o ran sut yr effeithir ar y broses hon gan arferion rheoli penodol, gan gynnwys pori torfol, a faint mae'n amrywio dan fathau gwahanol o laswelltir a lefelau gwahanol o amrywiaeth planhigion neu ffyngau. | Glaswelltir lled-naturiol Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw buddion gwasanaethau ecosystemau glaswelltir lled-naturiol yn cael eu mesur yn gywir? | Beth yw pwysigrwydd dyfnderau gwreiddiau amrywiol a rôl planhigion lluosflwydd â gwreiddiau dwfn ar ddal a storio carbon mewn glaswelltir lled-naturiol? | Nod 3 | Mae glaswelltiroedd lled-naturiol yn cynnal amrywiaeth fwy o rywogaethau gydag amrywiaeth fwy o ddyfnderau gwreiddiau na glaswelltiroedd wedi’u gwella a reolir yn ddwys. Mae gan rywogaethau â gwreiddiau dwfn (mae rhai yn mynd i ddyfnder o fwy na ddau fetr) rôl wrth storio carbon yn ddwfn, ond mae angen gwneud rhagor o ymchwil. | Glaswelltir lled-naturiol Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd |
A yw buddion gwasanaethau ecosystemau glaswelltir lled-naturiol yn cael eu mesur yn gywir? | Beth yw effaith tymor hir plannu coed ar fawn bas a/neu briddoedd organo-fwynol ar ddal a storio carbon yn y pridd ac mewn llystyfiant? | Nod 3 | Tybir bod plannu coed ar briddoedd mawn dwfn yn arwain at golled sylweddol o’r carbon yn y pridd, ond nid yw'r effaith ar y carbon yn y pridd a ddaw yn sgil plannu ar laswelltiroedd dros briddoedd organo-fwynol, gan gynnwys mawn o hyd at 50 cm, ac yn benodol y cydbwysedd carbon cyffredinol yn y tymor hir, yn cael ei deall gymaint. | Glaswelltir lled-naturiol Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd |
A yw buddion gwasanaethau ecosystemau glaswelltir lled-naturiol yn cael eu mesur yn gywir? | Beth yw effaith 1. trefnau rheoli gwahanol, 2. strwythurau glaswellt gwahanol, 3. mathau gwahanol o laswelltir, 4. amrywiaeth rhywogaethau, 5. grwpiau rhywogaethau gwahanol, er enghraifft codlysiau, planhigion porfa a gweiriau, ar reoli dŵr mewn glaswelltir lled-naturiol? | Nod 3 | Gall glaswelltiroedd chwarae rôl bwysig wrth reoli dŵr, ond nid yw'r dystiolaeth yn glir sut yr effeithir ar y broses hon gan arferion rheoli penodol, a faint mae'n amrywio dan ffurfiau gwahanol ar laswelltir a lefelau gwahanol o amrywiaeth planhigion, gan gadw mewn cof bod rhywogaethau'n amrywio yn eu gallu i amsugno a dal dŵr. | Glaswelltir lled-naturiol Effeithlonrwydd dŵr Bioamrywiaeth |
A yw buddion gwasanaethau ecosystemau glaswelltir lled-naturiol yn cael eu mesur yn gywir? | Sut mae cig sy'n cael ei fagu ar laswelltiroedd lled-naturiol yn amrywio o ran ansawdd, blas a buddion iechyd o’i gymharu â chig sy'n dod o laswelltir sy'n cael ei reoli'n ddwys? | Nod 3 | Mae gan gig a gynhyrchwyd ar laswelltiroedd lled-naturiol gynnwys maeth uwch a lefelau braster is na chig a gynhyrchwyd ar laswelltiroedd sydd wedi'u gwella'n amaethyddol, ond lefelau is o brotein ac egni. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o ymchwil, yn arbennig o ystyried buddion iechyd a blas. | Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar laswelltiroedd lled-naturiol? | Beth yw effaith tymor hir y newid yn yr hinsawdd ar y mathau gwahanol o laswelltir lled-naturiol? | Nod 3 Nod 4 |
Effeithir ar laswelltiroedd gan y newid yn yr hinsawdd, megis yn sgil sychder yn ystod yr haf a newidiadau hydrolegol, ond mae angen gwneud rhagor o ymchwil ar yr effeithiau tymor hir ar y cyfansoddiad o rywogaethau mewn mathau gwahanol o laswelltir. | Glaswelltir lled-naturiol Coetir Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar laswelltiroedd lled-naturiol? | Beth yw effaith tymor hir y newid yn yr hinsawdd ar rywogaethau glaswelltir lled-naturiol gwahanol, gan gynnwys rhywogaethau gogleddol ar ochr ddeheuol eu dosbarthiad daearyddol? | Nod 3 Nod 4 |
Effeithir ar laswelltiroedd gan y newid yn yr hinsawdd, megis yn sgil sychder yn ystod yr haf a newidiadau hydrolegol, ond mae angen gwneud rhagor o ymchwil ar yr effeithiau ar rywogaethau penodol. | Glaswelltir lled-naturiol Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar laswelltiroedd lled-naturiol? | Sut bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gyflenwi gwasanaethau ecosystemau glaswelltir, megis lefelau dal a storio carbon mewn hinsawdd sy'n cynhesu? | Nod 3 Nod 4 |
Mae angen gwneud rhagor o ymchwil ar effeithiau tymereddau uwch a glawiad, er enghraifft, ar lefelau carbon yn y pridd a gwasanaethau ecosystemau eraill, gan gynnwys rheoleiddio dŵr. | Glaswelltir lled-naturiol Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith llygredd atmosfferig ar laswelltiroedd lled-naturiol? | A yw llwythau critigol cyfredol nitrogen atmosfferig ar gyfer y ffurfiau gwahanol ar laswelltir lled-naturiol yn gywir? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Caiff lefelau llwyth critigol nitrogen atmosfferig eu gosod ar gyfer y rhan fwyaf o wahanol ffurfiau ar laswelltir, ond mae effeithiau negyddol wedi cael eu cofnodi sy'n is na'r lefelau llwyth critigol hyn. Mae rhai ffurfiau ar laswelltir yn ddiffygiol o ran llwyth critigol ffurfiol. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Ansawdd aer |
Beth yw effaith llygredd atmosfferig ar laswelltiroedd lled-naturiol? | Pa rywogaethau glaswelltir lled-naturiol, gan gynnwys bryoffytau a chennau, sy'n arbennig o agored i niwed oherwydd llygredd nitrogen atmosfferig? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae tystiolaeth o effeithiau negyddol nitrogen ac amonia atmosfferig ar rywogaethau planhigion glaswelltir yn cynyddu, ond mae angen gwneud rhagor o ymchwil. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Ansawdd aer Bioamrywiaeth |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau glaswelltiroedd lled-naturiol? | Lle dylai glaswelltiroedd lled-naturiol newydd gael eu creu i wella cysylltedd glaswelltiroedd a chydnerthedd ecosystemau orau? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Bydd angen creu glaswelltiroedd newydd os ydym am sicrhau bod ecosystemau glaswelltir yn fwy gwydn. Mae angen gwneud rhagor o ymchwil i helpu i benderfynu ar eu lleoliad. | Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Ffermdir caeedig Bioamrywiaeth |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau glaswelltiroedd lled-naturiol? | Lle dylai glaswelltiroedd lled-naturiol newydd gael eu creu i gael y budd mwyaf ar gyfer gwasanaethau ecosystemau, er enghraifft dal a storio carbon, rheoleiddio dŵr ac atal llifogydd, cyflenwi pryfed peillio, addysg, hamdden, tirwedd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Gall glaswelltiroedd lled-naturiol gyflenwi amrywiaeth eang o wasanaethau ecosystemau. Dylai safleoedd newydd gael eu lleoli i gynyddu’r cyflenwad o wasanaethau ecosystemau, er enghraifft i helpu i reoleiddio’r cyflenwad dŵr ar orlifdiroedd a’r cyflenwad o bryfed peillio ger tir âr. | Glaswelltir lled-naturiol Defnydd tir a phridd Effeithlonrwydd dŵr Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau glaswelltiroedd lled-naturiol? | Lle a phryd y dylai glaswelltiroedd asidaidd yn yr ucheldir ac ar gyrion yr ucheldir a) gael eu cadw, b) gael eu trosi’n ffurfiau eraill ar laswelltir, er enghraifft yn cael eu calchu i greu dolydd gwair niwtral, c) gael eu hadfer yn rhostir, ch) gael eu plannu â choed? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Nid yw glaswelltir asidaidd yn yr ucheldiroedd yn gynefin â blaenoriaeth ac mae'n aml yn destun cynigion newid defnydd tir. Mae angen i benderfyniadau cywir gael eu gwneud ar ble i wneud y canlynol: cadw glaswelltir ffridd asidaidd ac yn yr ucheldir ar gyfer bioamrywiaeth (er enghraifft ardaloedd bwydo brain coesgoch neu ffyngau glaswelltir); trosi’n laswelltir sy'n fwy cyfoethog o ran rhywogaethau; trosi'n rhostir; neu blannu coed/coetir. | Glaswelltir lled-naturiol Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Cydnerthedd ecosystemau |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau glaswelltiroedd lled-naturiol? | Beth yw effaith plannu coed yn helaeth ar gydnerthedd glaswelltir lled-naturiol ac ecosystemau eraill mewn ucheldiroedd, gan gynnwys yr effaith ar adar sy'n bridio sydd dan fygythiad? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae angen ystyried goblygiadau plannu coed yn helaeth iawn a gwneud mwy ohono ar laswelltir asidaid yn yr ucheldiroedd yn fwy. | Glaswelltir lled-naturiol Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ein seilwaith gwyrdd trefol yn darparu digon o wasanaethau ecosystemau? | A oes gan ardaloedd trefol ddigon o goed o'r math cywir yn y lleoedd iawn i fod yn gynaliadwy i bobl a natur? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae coed yn darparu sawl gwasanaeth ecosystemau mewn un lle. Mae olrhain tueddiadau yn eu dosbarthiad a'u brigdwf yn dangos a yw ardal drefol yn dod yn fwy neu'n llai cynaliadwy. | Trefol Defnydd tir a phridd Ansawdd aer Coetir Y newid yn yr hinsawdd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r bygythiadau i goed trefol ddarparu eu cyfres lawn o nwyddau a gwasanaethau ecosystemau? Sut mae lliniaru'r bygythiadau hyn? | Pa blâu ac afiechydon sy'n bygwth y rhywogaethau coed trefol mwyaf niferus, a pha wrthfesurau sydd ar gael? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae coed yn darparu sawl gwasanaeth ecosystemau mewn un lle. Efallai y bydd yn cymryd 60 mlynedd i goeden newydd gyflenwi digon o nwyddau a gwasanaethau ecosystemau i dalu am gost ei phlannu, felly mae'n hanfodol cynnal iechyd da coed trefol. | Trefol Coetir Rhywogaethau estron goresgynnol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ein seilwaith gwyrdd trefol yn darparu digon o wasanaethau ecosystemau? | A oes gan ardaloedd trefol ddigon o fannau gwyrdd o'r math cywir yn y lleoedd iawn i fod yn gynaliadwy i bobl a natur? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mannau gwyrdd yw uned sylfaenol seilwaith gwyrdd trefol. Gwybod eu dosbarthiad a'u swyddogaeth yw'r sylfaen ar gyfer asesu ardaloedd trefol o safbwynt gallu byw ynddynt. | Trefol Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw'r aer mewn ardaloedd trefol yn ddigon glân i ganiatáu i bobl gynnal iechyd da? | A yw lefelau PM2.5 ac ocsidau nitrogen (NOx) o fewn terfynau cyfreithiol lle mae pobl, yn enwedig grwpiau agored i niwed fel plant ifanc, yn fwyaf tebygol o fod yn agored iddynt? | Nod 3 | Nid yw bywyd trefol yn gynaliadwy os yw aer llygredig yn gwneud pobl yn sâl. Er bod lefelau cyffredinol o PM2.5 ac ocsidau nitrogen (NOx) yn dderbyniol, rydym yn gwybod eu bod mewn gwirionedd yn amrywio dros bellteroedd o lai nag 1 metr, felly mae angen monitro manylach. | Trefol Ansawdd aer |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd mewn ardaloedd trefol ar iechyd pobl yng Nghymru? | Beth yw effeithiau tebygol tywydd poeth mewn ardaloedd trefol ar iechyd pobl yng Nghymru? | Nod 3 Nod 4 |
Mae'r mapiau peryglon tywydd poeth cyfredol yn rhy fras i asesu’r perygl gorboethi i breswylfeydd bregus yn gywir ac er mwyn gallu cynllunio sut i'w drechu (er enghraifft, trwy blannu coed unigol mewn lleoedd strategol). Mae angen modelu a mapio ar lefel strydoedd unigol. | Trefol Ansawdd aer Y newid yn yr hinsawdd |
A oes gennym ni ddigon o arwynebau athraidd a nodweddion cadw dŵr arwyneb yn ardaloedd trefol Cymru? | Beth yw'r newid ym ehangder arwynebau athraidd a nodweddion cadw dŵr arwyneb yn ardaloedd trefol Cymru? A yw ein harwynebau athraidd presennol a'n nodweddion cadw dŵr arwyneb yn ardaloedd trefol Cymru yn gallu ymdopi â’r glawiad a ragfynegir yn y dyfodol yn sgil y newid yn yr hinsawdd? | Nod 1 Nod 2 |
Bydd cynnydd yn ehangder yr arwynebau sydd wedi'u selio mewn ardal trefol yn arwain at gynnydd yng nghyfaint dŵr ffo stormydd, a chynnydd tebygol mewn perygl llifogydd. Bydd gostyngiadau yn ehangder arwynebau athraidd a nodweddion cadw yn lleihau gallu ailgyflenwi lleithder y pridd ar ôl glawiad a gallai arwain at ragdueddiad uwch i effeithiau sychder. | Trefol Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd |
A yw mannau gwyrdd trefol hygyrch o ansawdd digonol i ddiwallu anghenion pobl o ran iechyd a lles? | Beth yw cyflwr mannau gwyrdd trefol yng Nghymru? Asesiad o ansawdd rheoli mannau gwyrdd sy'n hygyrch i'r cyhoedd nad ydynt wedi'u cynnwys yng nghynlluniau Gwobr y Faner Werdd neu Wobr y Faner Las. | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae angen i bobl gael mynediad i fannau gwyrdd trefol bob dydd i aros yn iach, ond mae mannau gwyrdd trefol a reolir yn wael yn atal pobl rhag eu defnyddio. Maent hefyd yn methu â darparu gwasanaethau ecosystemau eraill fel rheoleiddio gwres a rheoli llygredd aer. Bydd samplu a monitro systematig yn dangos a yw mannau gwyrdd trefol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Ar hyn o bryd, dim ond lleiafrif o fannau gwyrdd trefol sy'n cael eu hasesu ar gyfer ansawdd rheoli (Gwobrau Baner Werdd a Glas). | Trefol Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A oes mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd digonol i ddiwallu anghenion pobl o ran iechyd a lles? | Beth yw effaith barn y cyhoedd ar eu defnydd o fannau gwyrdd lleol yn ardaloedd trefol Cymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae angen i bobl gael mynediad i fannau gwyrdd trefol bob dydd i aros yn iach, ond mae mannau gwyrdd trefol a reolir yn wael yn atal pobl rhag eu defnyddio. Maent hefyd yn methu â darparu gwasanaethau ecosystemau eraill fel rheoleiddio gwres a rheoli llygredd aer. Bydd samplu a monitro systematig yn dangos a yw mannau gwyrdd trefol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. | Trefol Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A oes mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd digonol i ddiwallu anghenion pobl o ran iechyd a lles? | Beth yw effaith newidiadau yng ngwariant llywodraeth leol ar ansawdd rheoli a defnyddio mannau gwyrdd trefol yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae'r rhan fwyaf o fannau gwyrdd sy'n hygyrch i'r cyhoedd yn cael eu rheoli gan awdurdodau lleol ac mae gostyngiadau mewn cyllid ar gyfer rheoli mannau gwyrdd wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â dirywiadau mewn safonau rheoli, gan arwain yn y pen draw at fannau gwyrdd yn dod yn fannau sy’n anhygyrch yn ymarferol i bobl. Mae grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig yn arbennig o ddibynnol ar fannau gwyrdd trefol cyhoeddus, felly gallai dirywiad yn y safonau rheoli gael effaith anghymesur ar y grwpiau hyn. | Trefol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r trywydd ar gyfer bioamrywiaeth mewn ardaloedd trefol o Gymru o'u cymharu ag ardaloedd lled drefol a gwledig? Ble yng Nghymru y mae bioamrywiaeth yn dirywio a beth yw'r sbardun? | Beth yw'r tueddiadau mewn rhywogaethau sydd â chysylltiad cryf ag amgylcheddau trefol o'u cymharu â'r dirwedd ehangach? | Nod 1 Nod 2 |
Gall tueddiadau dosbarthiad a thoreithrwydd rhywogaethau sy'n gysylltiedig ag amgylcheddau trefol a allai ddynodi iechyd yr ecosystem (er enghraifft draenogod, gwenoliaid du) ein helpu i ddeall a yw amgylcheddau trefol yn dod yn well neu'n waeth wrth gynnal y rhywogaethau hyn. Mae'r data cyfredol i raddau helaeth ond yn adlewyrchu lle gwnaed ymdrech i gofnodi rhywogaethau allweddol, yn hytrach na thoreithrwydd y rhywogaethau hynny. Dylai hyn helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd ac i fynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth. | Trefol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw'r trywydd ar gyfer bioamrywiaeth mewn ardaloedd trefol o Gymru o'u cymharu ag ardaloedd lled drefol a gwledig? Ble yng Nghymru y mae bioamrywiaeth yn dirywio a beth yw'r sbardun? | Beth yw'r fioamrywiaeth sylfaenol yn ardaloedd trefol Cymru? A pha wasanaethau ecosystemau y mae bioamrywiaeth drefol yn eu darparu? | Nod 1 Nod 2 |
Er mwyn deall y gwasanaethau ecosystemau a ddarperir gan ecosystemau trefol, mae angen i ni wybod lefelau sylfaenol bioamrywiaeth. Mae bioamrywiaeth mewn ecosystemau trefol yn aml yn cael ei hanwybyddu. Mae angen amcangyfrifon dibynadwy y gellir eu dyblygu yn hytrach na gwybodaeth anecdotaidd er mwyn rhoi'r dystiolaeth i ni allu gwella neu gynnal bioamrywiaeth yn ein hecosystemau trefol. Byddai deall hyn ar bob lefel o fioamrywiaeth (ecosystemau, rhywogaethau, geneteg) yn ddymunol. | Trefol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r trywydd ar gyfer bioamrywiaeth mewn ardaloedd trefol o Gymru o'u cymharu ag ardaloedd lled drefol a gwledig? Ble yng Nghymru y mae bioamrywiaeth yn dirywio a beth yw'r ysgogwr? | Beth yw'r duedd yn nifer ac amrywiaeth pryfed yn yr awyr mewn ardaloedd trefol o'u cymharu â'r dirwedd ehangach? | Nod 1 Nod 2 |
Mae nifer y pryfed yn y dirwedd ehangach wedi dirywio'n sylweddol. Bydd cymharu helaethrwydd pryfed mewn ardaloedd trefol yn dangos a yw ardaloedd trefol yn cael eu rheoli'n fwy neu'n llai cynaliadwy na'r dirwedd ehangach. Gallai hyn helpu i ddatblygu damcaniaethau i brofi pam mae dirywiadau’n digwydd, a sut i'w hatal. Canolbwyntio ar bryfed gan fod hyn yn brin ar hyn o bryd. | Trefol Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw'r tueddiadau o ran defnyddio adnoddau o ardaloedd trefol a chynhyrchu gwastraff ynddynt? | A yw'r diwydiant adeiladu yn dod yn fwy neu'n llai cynaliadwy wrth ddefnyddio deunyddiau a chynhyrchu gwastraff? | Nod 4 | Mae'r diwydiant adeiladu yn ddefnyddiwr mawr o ddeunyddiau ac ynni, ac mae'n cynhyrchu llawer iawn o wastraff. Mae'r rhan fwyaf o'i weithgarwch yn ymwneud ag ardaloedd trefol. Mae data ar hyn ar gael ar lefel y DU, ond mae'n anoddach ei gael yng Nghymru. | Trefol Defnydd tir a phridd Gwastraff Effeithlonrwydd dŵr Ynni Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw'r tueddiadau o ran defnyddio adnoddau o ardaloedd trefol a chynhyrchu gwastraff ynddynt? | A yw'r diwydiant adeiladu yn dod yn fwy neu'n llai cynaliadwy wrth ddefnyddio ynni a chynhyrchu nwyon tŷ gwydr? | Nod 4 | Mae'r diwydiant adeiladu yn un o brif ddefnyddwyr ynni, ac mae'n cynhyrchu cryn dipyn o nwyon tŷ gwydr o'i gadwyn gyflenwi, gan gynnwys wrth gynhyrchu sment a dur. Mae'r rhan fwyaf o'i weithgarwch yn ymwneud ag ardaloedd trefol. Mae data ar hyn ar gael ar lefel y DU, ond mae'n anoddach ei gael yng Nghymru. | Trefol Defnydd tir a phridd Gwastraff Effeithlonrwydd dŵr Ynni Y newid yn yr hinsawdd |
A yw’r holl gynefinoedd wedi'u haddasu yng Nghymru yn wydn? | Pa mor amrywiol yw cnydau amaethyddol a phren ledled Cymru? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Bioamrywiaeth |
A yw’r holl gynefinoedd wedi'u haddasu yng Nghymru yn wydn? | Yng Nghymru, sut mae dosbarthiad defnydd tir wedi newid ers 2010 a beth yw maint a threfniant gofodol cynefinoedd sydd wedi'u haddasu? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Coetir Tir fferm caeedig Defnydd tir a phridd |
A yw'r holl safleoedd gwarchodedig (Natura 2000, SoDdGA, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Ramsar) yng Nghymru yn wydn? | Beth yw maint a threfniant gofodol cynefinoedd cymwys mewn safleoedd gwarchodedig ledled Cymru? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Coetir Yr ardal forol Dŵr croyw Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Tir fferm caeedig |
A yw'r holl safleoedd gwarchodedig (Natura 2000, SoDdGA, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Ramsar) yng Nghymru yn wydn? | Sut mae cyflwr nodweddion, cynefinoedd a rhywogaethau SoDdGAoedd yng Nghymru wedi newid ers yr adolygiad cyflym diwethaf yn 2006? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Coetir Yr ardal forol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Dŵr croyw Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Tir fferm caeedig Bioamrywiaeth |
A yw holl gynefinoedd lled-naturiol Cymru yn wydn? | A yw amrywiaeth, maint a chysylltedd cynefinoedd lled-naturiol yng Nghymru wedi newid ers arolwg cynefinoedd diwethaf Cam 1 yn 1997? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Dŵr croyw Ymylon arfordirol Glaswelltir lled-naturiol Tir fferm caeedig Bioamrywiaeth |
A yw holl gynefinoedd lled-naturiol Cymru yn wydn? | Beth yw cyflwr cynefinoedd lled-naturiol yng Nghymru? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Dŵr croyw Glaswelltir lled-naturiol Ymylon arfordirol Tir fferm caeedig |
A yw ein hadnoddau pridd yn wydn? | Beth yw amrywiaeth, maint, cyflwr a chysylltedd dosbarthiadau pridd ledled Cymru? | Nod 1 Nod 2 |
Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Glaswelltir lled-naturiol Tir fferm caeedig Defnydd tir a phridd Bioamrywiaeth |
A yw cynefinoedd morol Cymru yn wydn? | Beth yw cyflwr cynefinoedd is-lanw o amgylch Cymru? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Yr ardal forol Bioamrywiaeth |
A yw cynefinoedd morol Cymru yn wydn? | Beth yw cyflwr cynefinoedd rhynglanwol o amgylch Cymru? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Yr ardal forol Bioamrywiaeth |
A yw cynefinoedd morol Cymru yn wydn? | Beth yw cyflwr cynefinoedd a rhywogaethau morol Adran 7 yng Nghymru? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Yr ardal forol Bioamrywiaeth |
A yw cynefinoedd morol Cymru yn wydn? | Sut olwg sydd ar gysylltedd cynefinoedd morol yng Nghymru? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Yr ardal forol Bioamrywiaeth |
A yw cynefinoedd afonydd Cymru yn wydn? | A yw amrywiaeth, ehangder, cyflwr a chysylltedd cynefinoedd afonydd wedi newid ledled Cymru ers yr Arolwg Cynefinoedd Afon sylfaenol yn y 1990au? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Dŵr croyw Bioamrywiaeth |
A yw cynefinoedd trefol Cymru yn wydn? | Pa fathau o gynefinoedd trefol sydd i'w cael yng Nghymru a ble maen nhw? | Nod 2 | Mae anghenion tystiolaeth o ran cydnerthedd ecosystemau yn cwmpasu sawl angen o'r penodau eraill ar ecosystemau a themâu. | Cydnerthedd ecosystemau Trefol Bioamrywiaeth |
A yw'r arfer rheoleiddio cyfredol yn cefnogi cydnerthedd ecosystemau? | Beth yw effaith tyniadau dŵr wedi'u hesemptio ar argaeledd dŵr? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Nid oes angen trwydded ar gyfer tyniadau dŵr sydd yn llai nag 20 m3/dydd. Mae angen i ni wybod faint o ddŵr (wedi'i dynnu'n gyfreithiol ond heb drwydded) i nodi mannau problemus posibl. Mae 15,000+ o dyniadau dŵr wedi'u hesemptio yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru gydag awdurdodau lleol a’r Arolygiaeth Dŵr Yfed. | Effeithlonrwydd dŵr Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd Gwastraff Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw'r arfer rheoleiddio cyfredol yn cefnogi cydnerthedd ecosystemau? | Beth yw effaith cynnwys tyniadau dŵr oedd wedi'u hesemptio yn flaenorol ar gyfrifiadau cydbwysedd dŵr lleol? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Yn flaenorol, nid yw pob tyniad wedi'i hesemptio dros 20 m3/dydd wedi'i gynnwys ar fapiau argaeledd adnoddau. Bydd eu cynnwys yn helpu i nodi mannau problemus o ran cyflenwad/galw a methiant posibl i fodloni safonau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. | Effeithlonrwydd dŵr Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd Gwastraff Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw'r cyflenwad/galw yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd? | Beth yw effaith gostyngiadau llif yn yr haf a achosir gan y newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau afonol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae ymchwil gyfredol yn dangos y gallai llifoedd haf naturiol cyfartalog mewn afonydd leihau’n sylweddol rhwng 50% ac 80% ledled Cymru. Fodd bynnag, mae angen astudio effeithiau posibl a chanlyniadau'r newidiadau hyn ar ein hecosystemau afonol a'n hadnoddau dŵr ymhellach. | Effeithlonrwydd dŵr Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd Gwastraff Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw'r cyflenwad/galw yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd? | Beth yw effaith gostyngiadau llif yn yr haf a achosir gan y newid yn yr hinsawdd ar gyflenwadau dŵr preifat? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Nid yw ehangder y cyflenwad dŵr preifat (heb brif gyflenwad) yn hysbys ar hyn o bryd. Gall y newid yn yr hinsawdd beri i'r lefel trwythiad a'r llif leihau, gan orfodi newid i'r prif gyflenwad. | Effeithlonrwydd dŵr Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
A yw'r cyflenwad/galw yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd? | Pa mor gosteffeithiol yw technolegau effeithlonrwydd dŵr newydd, fel y rhai ar gyfer cynaeafu dŵr glaw neu ailgylchu dŵr llwyd? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Gwell dealltwriaeth o synergeddau / cyfnewidiadau ailgylchu dŵr. | Effeithlonrwydd dŵr Ynni Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
A yw'r cyflenwad/galw yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd? | Beth yw effaith defnyddio dŵr yn effeithlon ar leihau biliau ynni? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Yn y DU, mae 89% o ddefnydd ynni cartref ar gyfer gwresogi dŵr. Mae newid ymddygiad i ddefnydd dŵr yn debygol o fod yn fwy llwyddiannus os yw'n gysylltiedig ag arbedion ar filiau ynni. | Effeithlonrwydd dŵr Ynni Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
A yw'r cyflenwad/galw yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd? | Pa newidiadau sy'n ofynnol i sicrhau effeithlonrwydd dŵr yn y sector amaeth? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae'r canllawiau ar y defnydd optimaidd o ddŵr ar draws y sectorau amaeth a busnes wedi dyddio. Mae angen codi ymwybyddiaeth o dechnolegau newydd a all leihau'r defnydd o ddŵr. | Effeithlonrwydd dŵr Dŵr croyw Tir fferm caeedig Defnydd tir a phridd Glaswelltir lled-naturiol Gwastraff Ynni Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
A yw'r cyflenwad/galw yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd? | Pa newidiadau sy'n ofynnol i sicrhau effeithlonrwydd dŵr yn y sector busnes a masnach? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae'r canllawiau ar y defnydd optimaidd o ddŵr ar draws y sectorau amaeth a busnes wedi dyddio. Mae angen codi ymwybyddiaeth o dechnolegau newydd a all leihau'r defnydd o ddŵr. | Effeithlonrwydd dŵr Cydnerthedd ecosystemau |
A yw rheoliadau adeiladu yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd? | Sut y gellir gwella rheoliadau adeiladu i sicrhau effeithlonrwydd dŵr safonol? | Nod 2 Nod 4 |
Mae Cynllun Gweithredu Carbon Isel Cymru a lansiwyd ym mis Mawrth 2019 yn cynnwys camau ar gyfer tai cymdeithasol ond ychydig sydd ynddo o ran effeithlonrwydd dŵr. | Effeithlonrwydd dŵr Trefol Y newid yn yr hinsawdd Ynni Cydnerthedd ecosystemau |
A yw rheoliadau adeiladu yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd? | Beth yw effaith "graddfa'r defnydd" ar gost a budd mesurau effeithlonrwydd dŵr fel draenio cynaliadwy? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Dadansoddiad cost a budd o fesurau draenio cynaliadwy rhaglen ôl-osod Grangetown Werddach Dŵr Cymru. Nodi cost a budd technolegau a graddfa'r defnydd. | Effeithlonrwydd dŵr Trefol Y newid yn yr hinsawdd Ynni Cydnerthedd ecosystemau |
Sut y gellid defnyddio taliad am wasanaethau ecosystemau i annog newid i arferion rheoli tir sy'n darparu defnydd dŵr mwy effeithlon? | Sut y gall cymhellion dros ddefnyddio datrysiadau ar sail natur, fel newidiadau i reoli tir, wella effeithlonrwydd dŵr? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Bydd adfer mawndir i fyny'r afon yn lleihau dŵr ffo ac yn gwella llifoedd sylfaen yn ystod cyfnodau sych. Bydd hyn yn cynyddu gwanhau halogion ac yn lleihau'r effeithiau ar ecoleg ddyfrol a'r angen am driniaeth ddwys mewn gweithfeydd trin dŵr. | Effeithlonrwydd dŵr Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Dŵr croyw Defnydd tir a phridd Tir fferm caeedig Ynni Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau |
Sut gall talu am wasanaethau ecosystemau wella effeithlonrwydd dŵr ar ffermydd? | Sut gallai taliadau wedi'u targedu sicrhau gwell effeithlonrwydd dŵr ar ffermydd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Gall mannau tynnu dŵr trwyddedig ar gyfer dyfrhau ac anghenion amaethyddol eraill gael eu cyfyngu gan amodau llif annibynnol yn ystod cyfnodau o lif isel. Gellir storio dŵr wedi'i dynnu yn ystod llifoedd uwch all-lein i'w ddefnyddio yn ystod y cyfnodau hyn, gan leihau pwysau tynnu dŵr ar gyrsiau dŵr. | Effeithlonrwydd dŵr Mynyddoedd, gweundiroedd, a rhosydd Dŵr croyw Glaswelltir lled-naturiol Defnydd tir a phridd Ynni Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd Tir fferm amgaeedig Cydnerthedd ecosystemau |
Ai'r fethodoleg ar gyfer cyfrifo defnydd dŵr yw'r gorau sydd ar gael? | A yw'r cyfrifiadau dŵr cyfredol fesul pen yn adlewyrchu'r defnydd o ddŵr cartref yn effeithiol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Efallai na fydd y cyfrifiad cyfredol o ddefnydd y pen yn adlewyrchu defnydd dŵr personol yn gywir. | Effeithlonrwydd dŵr Dŵr croyw Trefol Ynni Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw ehangder ac effaith llygredd aer mewn amgylcheddau trefol a gwledig yng Nghymru? | A oes gennym ddigon o dystiolaeth fonitro i ddeall bod ehangder llygredd amonia ledled Cymru yn gywir? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae amonia yn cael effaith sylweddol ar ein hecosystemau ac mae modelu yn dylanwadu ar ein penderfyniadau rheoliadol. Bydd data maes mwy cynhwysfawr yn gwella ein dealltwriaeth o'r effeithiau gwirioneddol ac yn sicrhau bod ein penderfyniadau ar sail tystiolaeth yn parhau i fod yn gadarn. | Ansawdd aer Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw ehangder ac effaith llygredd aer mewn amgylcheddau trefol a gwledig yng Nghymru? | A oes gennym ddigon o dystiolaeth fonitro i ddeall ehangder ac effeithiau llygredd osôn ar lefel y ddaear yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae osôn ar lefel y ddaear yn achosi problemau iechyd, yn lleihau cynnyrch cnwd, ac yn niweidio'r amgylchedd. Mae angen monitro pellach i bennu crynodiadau ac effeithiau mewn amgylcheddau trefol a gwledig.Nid yw osôn ar lefel y ddaear yn cael ei allyrru yn uniongyrchol o unrhyw ffynhonnell mewn symiau sylweddol ond yn cael ei ffurfio gan adweithiau rhwng llygryddion eraill. Mae cynnydd o ran lleihau allyriadau ocsidau nitrogen yn debygol o arwain at gynnydd sylweddol mewn ffurfio osôn. Bydd data maes mwy cynhwysfawr yn gwella ein dealltwriaeth o'r effaith wirioneddol mewn ardaloedd gwledig a threfol. Ar hyn o bryd, dim ond un safle sydd yng Nghymru. | Ansawdd aer Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw effaith rhywogaethau estron goresgynnol sydd o ddiddordeb i Gymru ar ecosystemau’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, eu cydnerthedd, a'r gwasanaethau ecosystemau y maent yn eu darparu yng Nghymru, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? | Beth yw effaith rhywogaethau estron goresgynnol sydd o ddiddordeb i Gymru ar ecosystemau niferus a'r gwasanaethau ecosystemau y maent yn eu darparu yng Nghymru ar hyn o bryd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Adolygu canfyddiadau cyfredol yr ymchwil ar yr effaith gyfredol a'r effeithiau a ragwelir yn y dyfodol ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol ar ecosystemau a'u gwasanaethau ecosystemau. I'w ailadrodd wrth i fwy o rywogaethau gael eu cynnwys.Efallai na fydd ymchwil o ranbarthau neu wledydd eraill yn adlewyrchu'r effaith y mae rhywogaethau estron goresgynnol yn ei chael pan fyddant yn cytrefu yng Nghymru oherwydd gwahaniaethau mewn topograffi, yr hinsawdd ac ati. | Rhywogaethau estron goresgynnol Coetir Morol Mynyddoedd, gweundiroedd, a rhosydd Dŵr croyw Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Tir fferm caeedig Defnydd tir a phridd Effeithlonrwydd dŵr Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Beth yw effaith rhywogaethau estron goresgynnol sydd o ddiddordeb i Gymru ar ecosystemau’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, eu cydnerthedd, a'r gwasanaethau ecosystemau y maent yn eu darparu yng Nghymru, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? | Beth yw'r duedd yn nosbarthiad ac effaith rhywogaethau estron goresgynnol sy'n flaenoriaeth i Gymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Byddai hyn yn sefydlu a allai unrhyw duedd o ran yr effaith ar ecosystemau, eu cydnerthedd, a'r gwasanaethau ecosystemau y maent yn eu darparu ddeillio o'r data dosbarthu a'r wybodaeth sydd gennym am yr effeithiau. | Rhywogaethau estron goresgynnol Coetir Morol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Dŵr croyw Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Tir fferm caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Sut yr eir i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol sydd o ddiddordeb i Gymru yng Nghymru? | Pa gamau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â rhywogaethau estron goresgynnol ar lawr gwlad a pha mor effeithiol a chosteffeithiol yw'r camau hyn? | Nod 3 Nod 4 |
Byddai'r wybodaeth hon yn sicrhau bod darlun mwy cywir o'r gwaith cyfredol sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru. Bydd angen ceisio safoni casglu gwybodaeth (er enghraifft amser gwirfoddolwyr) er mwyn amcangyfrif cost/gwerth y prosiect yn well. Efallai y bydd problemau yn gysylltiedig â'r ffordd anghyson y casglwyd y data gweithrediadau hanesyddol a allai rwystro'r casgliadau y gellir eu canfod ar ei sail. Bydd deall faint o ymdrech ac adnoddau sy'n cael eu gwario i fynd i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru a pham mae'r camau'n cael eu cymryd yn helpu i asesu pa mor dda rydym yn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. | Rhywogaethau estron goresgynnol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw effaith rhywogaethau estron goresgynnol sydd o ddiddordeb i Gymru ar ecosystemau’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, eu cydnerthedd, a'r gwasanaethau ecosystemau y maent yn eu darparu yng Nghymru, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? | Beth yw'r rhwystrau i wella'r data cofnodion presennol ar rywogaethau estron goresgynnol a sut y gallwn ni oresgyn y rhain? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Bydd y dystiolaeth hon yn helpu i gael amlinelliad mwy cywir o'r effaith y mae rhywogaethau estron goresgynnol o ddiddordeb (blaenoriaeth) i Gymru yn ei chael ar ecosystemau a gwasanaethau ecosystemau. | Rhywogaethau estron goresgynnol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw effaith rhywogaethau estron goresgynnol sydd o ddiddordeb i Gymru ar ecosystemau’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, eu cydnerthedd, a'r gwasanaethau ecosystemau y maent yn eu darparu yng Nghymru, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? | Sut rydym yn mesur gwerth effaith rhywogaethau estron goresgynnol o ddiddordeb neu flaenoriaeth i Gymru ar gydnerthedd a gwasanaethau pob ecosystem, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Bydd hyn yn helpu i wella'r dull o asesu'r effaith y mae rhywogaethau estron goresgynnol o ddiddordebau i Gymru yn ei chael ar hyn o bryd ar ecosystemau yng Nghymru, eu cydnerthedd, a'r gwasanaethau ecosystemau y maent yn eu darparu. | Rhywogaethau estron goresgynnol Coetir Morol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Dŵr croyw Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Tir fferm caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Pa mor effeithiol yw rheoli rhywogaethau estron goresgynnol wrth helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy? | Beth yw lefel bresennol ymwybyddiaeth o rywogaethau estron goresgynnol, bioddiogelwch, ac ymgyrchoedd bioddiogelwch ar lefel Prydain Fawr 1) yn y cyhoedd a 2) ymhlith rhanddeiliaid allweddol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae angen i Lywodraeth Cymru gael sylfaen dystiolaeth glir i allu penderfynu a yw'r gweithredu cyfredol yn llwyddiannus a pha gamau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol i geisio dylanwadu ar ymddygiad. Byddai'r dystiolaeth hon yn sefydlu llinell sylfaen a byddai'n helpu i gefnogi penderfyniadau ynghylch pa gamau i'w cymryd i newid ymddygiad ac agweddau pobl tuag at rywogaethau estron goresgynnol a bioddiogelwch. | Rhywogaethau estron goresgynnol Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw effaith rhywogaethau estron goresgynnol sydd o ddiddordeb i Gymru ar ecosystemau’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, eu cydnerthedd, a'r gwasanaethau ecosystemau y maent yn eu darparu yng Nghymru, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? | Beth yw effaith rhywogaethau estron goresgynnol ar economi Cymru ac ar ddarparu gwasanaethau ecosystemau? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae asesiad o effaith economaidd rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru yn ddeg oed, felly nid yw'n gyfredol. Hefyd, mae'r effaith, yn enwedig mewn perthynas â chlymog Japan, yn debygol o fod wedi cynyddu'n sylweddol ac nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr amcangyfrif cyfredol o'r costau. | Rhywogaethau estron goresgynnol Trefol Defnydd tir a phridd Ansawdd aer Gwastraff Effeithlonrwydd dŵr Ynni Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw ehangder y cynefin tir fferm caeedig presennol? | Ble bu newidiadau o ran ehangder cynefinoedd, neu ble mae gostyngiadau parhaus, neu newidiadau yn nosbarthiad cynefin mewn tir fferm caeedig? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae stociau o adnoddau naturiol yn fesuriad sylfaenol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae'r mwyafrif o'r data ar ehangder cynefinoedd yn seiliedig ar arolygon rhannol, megis ar gyfer parcdir, perllannau traddodiadol, tir âr helaeth a gwrychoedd, arolygon nad ydynt yn gyfredol, megis ar gyfer glaswelltir wedi'i wella neu wedi’i led-wella, neu arolygon sy’n cynnwys data llinell sylfaen nad oes modd ei ehangu o gwbl, megis ar gyfer coed pori a choed hynod. | Tir fferm caeedig Coetir Trefol Bioamrywiaeth Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw ehangder y cynefin tir fferm caeedig presennol? | Beth yw ehangder sylfaenol perllannau traddodiadol, parcdir, gwrychoedd, coed hynod a chrynodiadau planhigion âr? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae stociau o adnoddau naturiol yn fesuriad sylfaenol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae'r mwyafrif o'r data ar ehangder cynefinoedd yn seiliedig ar arolygon rhannol, megis ar gyfer parcdir, perllannau traddodiadol, tir âr helaeth a gwrychoedd, arolygon nad ydynt yn gyfredol, megis ar gyfer glaswelltir wedi'i wella neu wedi’i led-wella, neu arolygon sy’n cynnwys data llinell sylfaen nad oes modd ei ehangu o gwbl, megis ar gyfer coed pori a choed hynod. | Tir fferm caeedig Coetir Trefol Bioamrywiaeth Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw ehangder y cynefin tir fferm caeedig presennol? | Beth yw ehangder glaswelltir wedi'i wella ledled Cymru? | Nod 1 Nod 2 |
Ar hyn o bryd, mae ystadegau amaethyddol Llywodraeth Cymru yn cyflwyno data ar laswelltir o dan bum mlynedd a dros bum mlynedd, ynghyd â phorfa arw. Mae'r ffigurau hyn ar gael gan ffermwyr trwy Ffurflen y Cais Sengl i hawlio Gynllun y Taliad Sylfaenol. Fodd bynnag, nid yw'r ffigurau'n dangos gwir ehangder y glaswelltir sydd wedi'i wella fel glaswelltir dros bum mlynedd a gallai porfa arw gynnwys glaswelltir lled-naturiol. | Tir fferm caeedig Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw ehangder y cynefin tir fferm caeedig presennol? | Beth yw ehangder y defnydd o goed y tu allan i goetiroedd a gwrychoedd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Prin yw'r wybodaeth a'r data ar ddefnyddio coed y tu allan i goetiroedd a gwrychoedd a pha mor gyffredin ydyw ledled Cymru. Mae data da ar gyfer coetiroedd. Mae gwiwerod coch a pathewod o bosibl yn defnyddio coed y tu allan i goetiroedd a gwrychoedd yn amlach. | Tir fferm caeedig Coetir Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw cyflwr y cynefin tir fferm caeedig presennol? | Beth yw cyflwr y cynefin lled-naturiol presennol o fewn tir fferm caeedig: gwrychoedd, tir âr llawn rhywogaethau, perllannau, coed pori, glaswelltir wedi’i led-wella, coed hynod? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Prin yw'r data gan Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir / Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig ar gyflwr gwrychoedd a glaswelltiroedd wedi’u lled-wella. Nid oes data ar gyflwr y cynefinoedd eraill ar gael. | Tir fferm caeedig Coetir Glaswelltir lled-naturiol Defnydd tir a phridd Gwastraff Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw cyflwr y cynefin tir fferm caeedig presennol? | Beth yw cyflwr da ar gyfer glaswelltir wedi'i wella a thir âr? Sut y gellid ei fesur? | Nod 2 Nod 4 |
Er mwyn gallu mesur cynnydd tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, mae angen i ni ddeall cyflwr da tir cynhyrchiol a gallu ei fesur. | Tir fferm caeedig Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw cyflwr y cynefin tir fferm caeedig presennol? | Beth yw cyfansoddiad rhywogaethau coed pori a pherllannau traddodiadol ar hyn o bryd? | Nod 1 Nod 2 |
Prin iawn yw'r gwaith arolygu ar gyfansoddiad rhywogaethau coed pori a pherllannau. Mae angen llinell sylfaen ar gyfer cyflwr ynghyd â gwybodaeth i lywio'r rheolaeth orau. | Tir fferm caeedig Glaswelltir lled-naturiol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Pa arferion rheolaeth gynaliadwy sy'n cael eu mabwysiadu ar dir cynhyrchiol iawn? Ym mhle mae'r rhain yn cael eu defnyddio a dros ba arwynebedd? | Nod 2 Nod 4 |
Mae gwybodaeth gyfyngedig eithriadol ar hyn o bryd am ddefnydd y sawl dechneg rheolaeth gynaliadwy. | Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Ansawdd aer Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth Gwastraff Effeithlonrwydd dŵr Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Beth yw'r cyfleoedd a'r rhwystrau i gynnal ac adfer crynodiadau planhigion âr? | Nod 1 Nod 2 |
Cymunedau planhigion âr yw sylfaen ecosystem sawl rhywogaeth arbenigol tir ffermio ac maent yn diflannu'n gyflym o Gymru – ynghyd â'r anifeiliaid maent yn eu cynnal. Gallai dealltwriaeth o beth wnaeth achosi defnydd isel o opsiynau buddiol Glastir gael ei defnyddio i lywio polisi yn y dyfodol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Yn ogystal, byddai archwiliad o fecanweithiau eraill i gefnogi rheolaeth fuddiol yn llywio polisi ehangach. | Ffermdir caeedig Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Beth yw'r dulliau mwyaf effeithiol ar gyfer newid ymddygiad tirfeddianwyr neu gontractwyr i gyflawni cyflwr gwell i wrychoedd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae gennym dystiolaeth ynghylch y rhwystrau i wella rheolaeth gwrychoedd a’r cyfleoedd i wneud hyn. Mae newid mewn ymddygiad wrth wraidd y cyfleoedd hyn ac mae angen dealltwriaeth bellach ar sut i ddylanwadu ar arferion rheolaeth orau. | Ffermdir caeedig Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Beth yw'r dulliau rheolaeth mwyaf effeithiol ar gyfer adfer coed pori wrth gadw rhyw fath o reolaeth pori? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Yn hanesyddol, roedd coed pori yn aml yn ganlyniad damweiniol o gyfnodau o ychydig neu ddim pori. Er mwyn ailadrodd y dull hwn, mae angen cyfnodau hir, rhwng pump a deng mlynedd, gyda chyfraddau isel iawn o bori. Nid yw'r rhain yn economaidd nac ymarferol yn aml yn yr amodau presennol. Nid yw ffensio coed unigol i ganiatáu iddynt ymwreiddio yn gost-effeithiol. Gall plannu llafnau fod yn llwyddiannus ond ar lethrau serth yn unig. Pa ddulliau eraill i sefydlu coed sy'n bosibl? | Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Pa fesurau sydd fwyaf effeithiol o ran lleihau'r gostyngiad sydyn mewn infertebratau yn nhirwedd ffermdir caeedig? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae infertebratau yn hollbwysig i weithrediad ecosystemau, a hebddynt bydd swyddogaethau hanfodol yn methu. Mae sawl achos dros y golled enfawr o fiomas infertebratau yn y dirwedd. Mae angen arnom adolygiad llenyddiaeth o'r ymyriadau sydd wedi'u dangos i gael effaith gadarnhaol ar boblogaethau o infertebratau. Byddai'r camau nesaf i geisio dod o hyd i'r ateb i'r cwestiwn hwn yn dibynnu ar gasgliadau'r adolygiad. | Ffermdir caeedig Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Beth yw'r duedd yn faint o wrtaith, tail a slyri organig sy'n cael eu lledaenu ar laswelltir? Os oes cynnydd wedi digwydd, pa systemau ffermio sy'n gyfrifol am hyn? | Nod 2 Nod 3 |
Mae ychydig o dystiolaeth bod cyfraddau mewnbynnau maethynnau o wastraff anifeiliaid yn cynyddu. Dymunwn i feintioli hyn a nodi'r prif gyfranwyr. Byddai lefelau maethynnau uwch yn cael effaith andwyol bellach ar ansawdd aer a dŵr yn ogystal â bioamrywiaeth. | Ffermdir caeedig Dŵr croyw Defnydd tir a phridd Ansawdd aer Gwastraff Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Faint o wrtaith anorganig sy'n cael ei ledaenu ar laswelltir yng Nghymru? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae'r data yn gyfyngedig iawn ar faint o wrtaith anorganig sy'n cael ei ledaenu ar dir yng Nghymru. Mae'r ffigyrau presennol ar gyfer y DU gyfan. Bydd cael ffigyrau gwrtaith organig ac anorganig yn dangos faint o wrtaith sy'n cael ei roi ar laswelltir. | Ffermdir caeedig Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Beth yw effaith y defnydd o blaladdwyr ar ffawna pridd? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae ffawna pridd yn hanfodol i gyflwr pridd da. Mae gwahaniaethau sylweddol mewn poblogaethau ffawna pridd rhwng tir cynhyrchiol iawn a thir lled-naturiol, gyda thystiolaeth gan Raglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd. Faint mae plaladdwyr yn cyfrannu at ostyngiadau mewn ffawna pridd? Lle mae effaith sylweddol, pa blaladdwyr sy'n gyfrifol yn bennaf? | Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Beth yw gwenwyndra’r plaladdwyr sy'n cael eu defnyddio ar dir a'r amrywiaeth o blaladdwyr a ddefnyddir ar gnwd unigol? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae Fera Science yn darparu data ar y pwysau, a'r ardaloedd sydd wedi’u trin, ond mae data cyfyngedig ar wenwyndra plaladdwyr. Mae pwysau’r plaladdwyr a ddefnyddir ar dir wedi gostwng dros y 25 mlynedd diwethaf ond mae cyfanswm hectar ac amlder y triniaethau wedi cynyddu. Gallai hyn fod yn cael effeithiau ar ecosystemau a'r pridd, yn enwedig os yw'r lefelau gwenwyndra wedi cynyddu. | Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Beth yw cyfraddau erydu'r pridd ac amlder y digwyddiadau erydu o fewn systemau rheolaeth gyffredin ar gyfer glaswelltir a thir âr? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae pridd yn adnodd naturiol hanfodol ac nid oes llawer o wybodaeth ar gael am erydiad pridd yng Nghymru. Tybir yn aml bod y gyfradd o golli pridd yn isel wrth i systemau glaswelltir oruchafu. Ond mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu fel arall. | Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Beth yw amlder cywasgiad pridd yn y prif systemau ffermio? Beth yw'r achosion mwyaf cyffredin o gywasgiad pridd? | Nod 2 Nod 4 |
Mae cyflwr pridd yn elfen bwysig mewn cynhyrchiant a storio carbon. Mae tystiolaeth sy'n gwrthdaro ar gyffredinrwydd cywasgiad pridd yng Nghymru. Mae tystiolaeth o Raglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd yn awgrymu bod amlder cywasgiad yn isel, ond mae tystiolaeth o ffynonellau eraill yn awgrymu bod yr amlder yn ganolig i uchel. Mae angen gwell ddata i feintioli gradd y cywasgiad a nodi'r achosion mwyaf cyffredin. | Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau |
Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yng nghyflwr yr ecosystem? | Beth yw'r dangosyddion mwyaf priodol ar gyfer mesur ac adrodd ar gyflwr pridd? | Nod 2 Nod 4 |
Mae cyflwr pridd yn elfen bwysig mewn cynhyrchu bwyd a storio carbon. Mae angen mesur dibynadwy y cytunir arno'n eang i allu monitro ac adrodd ar gyflwr pridd. | Ffermdir caeedig Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Glaswelltir lled-naturiol Trefol Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau |
Sut y gellir ehangu cydnerthedd ecosystemau wrth gynnal gwasanaethau darparu? | Beth yw'r potensial i gynyddu stociau carbon o fewn priddoedd glaswelltir? | Nod 2 | Mae ardal fawr iawn o Gymru yn laswelltir. Mae'n rhoi'r potensial i allu storio symiau sylweddol o garbon os yw'r priddoedd yn aml yn dal llai na'u lefel uchaf o garbon. | Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd |
Sut y gellir ehangu cydnerthedd ecosystemau wrth gynnal gwasanaethau darparu? | Beth yw'r arwynebedd o gnydau a dyfir ar gyfer biomas neu fiodanwydd? | Nod 4 | Mae'r cnydau hyn yn rhan o argymhellion y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ar gyfer brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Nid oes llinell sylfaen ddibynadwy o'u ehangder ar hyn o bryd. | Ffermdir caeedig Ynni Cydnerthedd ecosystemau |
Sut y gellir ehangu cydnerthedd ecosystemau wrth gynnal gwasanaethau darparu? | Beth yw'r potensial ar gyfer dal a storio carbon mewn systemau amaeth-goedwigaeth traddodiadol? | Nod 2 Nod 4 |
Mae systemau amaeth-goedwigaeth traddodiadol fel coed pori a pherllannau yn cynnig y potensial i ddal a storio carbon wrth gynnal cynhyrchiant bwyd ar yr un darn o dir. Nid oes llawer o ymchwil wedi bod i botensial y cynefinoedd hyn i ddal a storio carbon. | Ffermdir caeedig Coetir Y newid yn yr hinsawdd |
Sut y gellir ehangu cydnerthedd ecosystemau wrth gynnal gwasanaethau darparu? | Beth yw'r buddion a'r effeithiau ar wasanaethau ecosystemau o ddefnyddio cnydau india-corn a dyfir ar gyfer biomas i fwydo treulwyr anaerobig ar gyfer cynhyrchu ynni cynaliadwy? |
Nod 1 Nod 4 |
Mae gan gnydau india-corn effeithiau negyddol a chadarnhaol ar wasanaethau ecosystemau. Mae'r cnwd yn darparu biomas ar gyfer treulwyr anaerobig ond mae ganddo botensial i greu erydiad pridd a phroblemau ansawdd dŵr. A ddylem hyrwyddo'r defnydd tir hwn? A yw'r manteision yn gwrthbwyso'r anfanteision? | Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd |
Beth ellir ei wneud i leihau’r defnydd o / galw am ynni yng Nghymru? | Beth yw'r tueddiadau a'r sbardunau yn nefnydd a galw am ynni yng Nghymru? Ac ar gyfer pa sectorau mae'r wybodaeth hon ar goll? | Nod 4 | Mae data presennol yn seiliedig ar adroddiad cyntaf Llywodraeth Cymru ar ‘Defnydd o Ynni yng Nghymru’, a ellir ei wella drwy ychwanegu manylder pellach, gan fod y data o 2018. Mae yna hefyd ddata ar lefel y DU gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, nid yw'n gynhwysfawr ar gyfer gweinyddiaeth ddatganoledig, ac mae yna'r her hefyd o ddod o hyd i'r data perthnasol a sifftio drwyddo i’w gyflwyno mewn ffyrdd symlach a ellir helpu llunwyr polisi. | Ynni Y newid yn yr hinsawdd |
Beth ellir ei wneud i leihau’r defnydd o / galw am ynni yng Nghymru? | Beth yw'r rhwystrau i leihau’r defnydd o ynni yng Nghymru? Sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain? Beth ac ym mhle mae'r cyfleoedd neu'r ymyriadau a allai helpu i leihau’r defnydd o / galw am ynni yng Nghymru? | Nod 4 | Mae'r dystiolaeth dros hyn yn gyfyngedig ac ysbeidiol. Hoffem wybod yr opsiynau i fynd i'r afael â rhwystrau neu i leihau'r rhwystrau. Effeithiolrwydd ymyriadau a ddefnyddir i leihau’r galw am ynni a’r defnydd ohono. Mewnwelediadau ymddygiadol i hyrwyddo gostyngiad ynni ac effeithlonrwydd ynni mewn ymddygiadau. |
Ynni Gwastraff Effeithlonrwydd dŵr Y newid yn yr hinsawdd |
Beth ellir ei wneud i leihau’r defnydd o / galw am ynni yng Nghymru? | Pa ddulliau y gellir eu defnyddio i fonitro cynnydd i leihau galw am ynni? | Nod 4 | Mae angen asesiad arnom o'r dulliau sydd ar gael i asesu newid yn y defnydd o / galw am ynni i gynnwys newid ymddygiadol ar draws y gymdeithas. | Ynni Y newid yn yr hinsawdd |
Sut y gellir gwella y defnydd o effeithlonrwydd ynni yng Nghymru? | Beth yw'r rhwystrau i gynyddu effeithlonrwydd ynni yng Nghymru? Sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain? | Nod 4 | Nid yw'r cynnydd presennol ar effeithlonrwydd ynni yn adlewyrchu hyn. Mae angen blaenoriaethu polisïau, rhaglenni a chynlluniau gyda mwy o ffocws ar effeithlonrwydd ynni. Mae’r rhan fwyaf o'r data yn canolbwyntio ar adeiladu a thai, ac yn fwy ar dai cymdeithasol a/neu ardal ddaearyddol benodol. | Ynni Gwastraff Effeithlonrwydd dŵr Y newid yn yr hinsawdd |
Sut y gellir gwella y defnydd o effeithlonrwydd ynni yng Nghymru? | Beth yw'r cyfleoedd gorau ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni yng Nghymru yn ogystal â thai? Sut y dylid gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd? | Nod 4 | Nid yw'r cynnydd presennol ar effeithlonrwydd ynni yn adlewyrchu hyn. Mae angen blaenoriaethu polisïau, rhaglenni a chynlluniau gyda mwy o ffocws ar effeithlonrwydd ynni. Mae’r rhan fwyaf o'r data yn canolbwyntio ar adeiladu a thai, ac yn fwy ar dai cymdeithasol a/neu ardal ddaearyddol benodol. | Ynni Gwastraff Effeithlonrwydd dŵr Y newid yn yr hinsawdd |
Sut y dylid gwella rheoleiddio effeithlonrwydd ynni a sut y dylai Cymru ddylanwadu arno? | Ym mhle a sut ddylai Cymru lobïo ar reoleiddio effeithlonrwydd ynni? | Nod 4 | Mae angen tystiolaeth i ddatblygu Nod 4 Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. | Ynni Y newid yn yr hinsawdd |
Sut gallwn ni warchod y gwerth naturiol a diwylliannol wrth ddwysáu ynni adnewyddadwy? | Beth yw effaith gwahanol fathau o ynni adnewyddadwy ar yr amgylchedd naturiol yng Nghymru? | Nod 2 Nod 4 |
Mae tystiolaeth yn gyfyngedig. Gallem gael mwy o fuddion trwy gynhyrchu tystiolaeth ar raddfeydd daearyddol manylach. Mae arnom angen tystiolaeth i adlewyrchu'r cymysgedd ynni adnewyddadwy yng Nghymru, fel gwynt ar y tir, gwynt ar y môr, solar, ynni dŵr, pympiau gwres ffynhonnell aer ac o’r ddaear, geothermol, biomas, a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg fel hydrogen. Mae potensial ar gyfer Cynlluniau Ynni Rhanbarthol Cymru Llywodraeth Cymru i gynnal tystiolaeth sy'n ystyried effaith ynni adnewyddadwy sydd â photensial yn y rhanbarth hwnnw. Byddai’r Datganiad Ardal hefyd yn offeryn defnyddiol i gynorthwyo'r darn hwn o waith. |
Ynni Cydnerthedd ecosystemau Coetir Morol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Dŵr croyw Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig |
Sut y gallwn ni warchod y gwerth naturiol a diwylliannol wrth ddwysáu ynni adnewyddadwy? | Beth yw effaith technolegau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer ynni adnewyddadwy ar yr amgylchedd naturiol yng Nghymru a'i wasanaethau ecosystemau? | Nod 2 Nod 4 |
Dylai ynni adnewyddadwy fod yn ateb sy'n seiliedig ar natur sy'n cefnogi'r ecosystem yn barhaus. Er enghraifft, gallai cynhyrchu hydrogen gwyrdd o ynni gwynt ar y môr gael effaith ar yr amgylchedd morol, yn enwedig ar raddfa fasnachol, er dyma’r ffurf orau o gynhyrchu hydrogen. | Ynni Cydnerthedd ecosystemau Coetir Morol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Dŵr croyw Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig |
Sut y gallwn ni warchod y gwerth naturiol a diwylliannol wrth ddwysáu ynni adnewyddadwy? | Beth yw effaith technolegau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer ynni adnewyddadwy ar lesiant dynol? | Nod 3 Nod 4 |
Byddai hyn yn rhoi safbwynt cyfannol o dechnolegau | Ynni |
Beth yw'r fantais a'r effaith o ddefnyddio a chynhyrchu ynni ar Nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a themâu’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol? | Beth yw synergeddau a chyfaddawdau ynni gyda Nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a themâu’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn cael dealltwriaeth o ba nodau llesiant a themâu’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol sy’n gysylltiedig yn gynhenid ag ynni. 1. Toriadau ynni ledled sawl sector sydd wedi'u cysylltu'n gynhenid â nodau llesiant. Nid oes tystiolaeth ar gael sy'n ystyried y nodau llesiant yn erbyn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol neu themâu allweddol ar gyfer Cymru. 2. Toriadau ynni ledled sawl sector ac ardal, fel a welwyd yn y synergeddau a chyfaddawdau a geir ym maes ynni gyda nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Felly mae'n ddefnyddiol gweld sut mae themâu eraill ynni yn cysylltu â'r nodau llesiant. Byddai hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth asesu datblygiad ynni mewn perthynas â nodau ehangach Cymru. |
Ynni Coetir Morol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Dŵr croyw Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Ansawdd aer Gwastraff Effeithlonrwydd dŵr Rhywogaethau estron goresgynnol Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Beth yw'r fantais a'r effaith o ddefnyddio a chynhyrchu ynni ar Nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a themâu’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol? | Pa nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol sydd angen newid yn y system ynni? | Nod 4 | Beth yw'r synergeddau a chyfaddawdau sy'n effeithio ar y canlynol: 1. Y dyhead o sicrhau mwy o lesiant 2. Adeiladu seilwaith ffisegol a chymdeithasol ar gyfer datblygu cynaliadwy 3. Cyflawni rheolaeth gynaliadwy o'r amgylchedd naturiol Er enghraifft, er mwyn cyflawni 'nod Cymru iachach', edrych ar effaith ynni ar iechyd fel tlodi tanwydd, ansawdd aer – felly beth sydd angen newid yn sylweddol yn y system ynni i helpu i gyflawni Cymru iachach. |
Ynni |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw ehangder presennol a thueddiadau diweddar cynefinoedd twyni tywod tu fewn a thu allan i safleoedd gwarchodedig? | Nod 1 Nod 2 |
Mae stociau o adnoddau naturiol yn fesur sylfaenol o’r rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw ehangder presennol a thueddiadau diweddar cynefinoedd morfa heli tu fewn a thu allan i safleoedd gwarchodedig? | Nod 1 Nod 2 |
Mae stociau o adnoddau naturiol yn fesur sylfaenol o’r rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. Mae'r data ffiniau ar gyfer morfeydd heli yn gymharol hen, yn enwedig wrth ystyried fod hwn yn gynefin dynamig. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw ehangder presennol a thueddiadau diweddar cynefinoedd clogwyni môr (gan gynnwys glaswelltir morol a rhostir morol) tu fewn a thu allan i safleoedd gwarchodedig? | Nod 1 Nod 2 |
Mae stociau o adnoddau naturiol yn fesur sylfaenol o’r rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. Mae'r data ffiniau ar gyfer clogwyni môr yn gymharol hen, ac mewn rhai lleoedd yn anghyflawn. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw ehangder presennol a thueddiadau diweddar graean bras â llystyfiant tu fewn a thu allan i safleoedd gwarchodedig? | Nod 1 Nod 2 |
Mae stociau o adnoddau naturiol yn fesur sylfaenol o’r rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. Mae'r data ffiniau sylfaenol ar gyfer graean bras â llystyfiant yn anghyflawn. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw ehangder presennol cynefinoedd morlynnoedd arfordirol a’r tueddiadau diweddar ynddynt? | Nod 1 Nod 2 |
Mae stociau o adnoddau naturiol yn fesur sylfaenol o’r rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. Mae nifer o forlynnoedd hallt a morlynnoedd hallt posibl wedi'u nodi yng Nghymru yn 2000, ac mae angen adolygu'r rhestr hon erbyn hyn. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Ym mhle mae newidiadau wedi bod yn ehangder cynefinoedd arfordirol? | Nod 1 Nod 2 |
Byddai hyn yn helpu wrth asesu stociau'r cynefinoedd arfordirol. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Ble mae’r cynefinoedd arfordirol sydd fwyaf agored i golli ehangder a chysylltedd ar hyn o bryd ac mewn amcanestyniadau at y dyfodol? | Nod 1 Nod 2 |
Bydd nodi'r ardaloedd mwyaf agored i golled yn helpu i nodi a blaenoriaethu cyfleoedd adfer, helpu i asesu'r lefel o effaith a achosir gan bwysau unigol, a llywio gweithredoedd i wrthdroi gostyngiadau mewn ehangder. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Ym mhle mae enillion mewn cynefin ymylon arfordirol wedi bod o ganlyniad i adfer cynefinoedd? | Nod 1 Nod 2 |
Mae angen tystiolaeth i ddatblygu Nodau 1 a 2 Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Sut y gallwn wella cydnerthedd cynefinoedd arfordirol? |
Ym mhle mae'r cyfleoedd i adfer ac ailgysylltu cynefinoedd arfordirol, cynyddu ehangder i wrthdroi darnio, ac ailgysylltu'r ymylon arfordirol â rhwydweithiau daearol a'r ecosystem forol i wella cydnerthedd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Mae cysylltedd yn fesur sylfaenol o stociau o adnoddau naturiol a chydnerthedd. Byddai nodi ardaloedd agored i niwed yn galluogi nodi a blaenoriaethu cyfleoedd. | Ymylon arfordirol Morol Dŵr croyw Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw cyflwr cynefinoedd ymylon arfordirol o fewn safleoedd gwarchodedig lle nad oes data diweddar? | Nod 1 Nod 2 |
Mae cyflwr yn fesur sylfaenol o stociau o adnoddau naturiol a chydnerthedd. | Ymylon arfordirol Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw ehangder gofodol defnydd hamdden o'r arfordir a'r mathau ohono? | Nod 3 | Byddai'r dystiolaeth hon yn helpu i werthuso pwysigrwydd yr arfordir ar gyfer llesiant ac i'r economi o safbwynt hamdden. | Ymylon arfordirol Morol Defnydd tir a phridd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | A oes 'prif fannau' ar gyfer mynediad at yr arfordir ac a yw pwysau pobl yn effeithio ar y cynefin a'r rhywogaethau? | Nod 1 Nod 2 |
Byddai'r dystiolaeth hon yn helpu i werthuso ehangder y pwysau hyn ac yn nodi ardaloedd ar gyfer rheolaeth. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw effaith aflonyddwch, gan gynnwys gweithgareddau hamdden, mynediad, cychod a cherbydau awyr, ar adar arfordirol? | Nod 1 Nod 2 |
Byddai'r dystiolaeth hon yn helpu i werthuso ehangder y pwysau hyn ac yn nodi ardaloedd ar gyfer rheolaeth. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw dosbarthiad, dwysedd ac amlder gweithgareddau hela hwyaid a gwyddau, saethu adar? | Nod 1 Nod 2 |
Byddai'r dystiolaeth hon yn helpu i werthuso ehangder y pwysau hyn ac yn nodi ardaloedd ar gyfer rheolaeth. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Sut y gallwn wella cydnerthedd cynefinoedd arfordirol? | Ym mhle mae'r cyfleoedd i gyflawni rheolaeth i wella cyflwr? | Nod 1 Nod 2 |
Bydd amlygu lleoliadau o ddata cyflwr yn galluogi blaenoriaethu ar gyfer gweithrediadau i wella cydnerthedd. | Ymylon arfordirol Cydnerthedd ecosystemau |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Sut mae amaethyddiaeth yn effeithio ar gynefinoedd arfordirol yn gadarnhaol ac yn negyddol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Gwerthuso ehangder y pwysau a nodi ardaloedd ar gyfer ymyrraeth. | Ymylon arfordirol Ffermdir caeedig Dŵr croyw Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Beth yw'r lefel o ddarpariaeth o ran gwasanaethau ecosystemau ar gyfer ecosystem yr ymylon arfordirol? |
Beth yw'r gyfradd o ddal a storio carbon ar gyfer glaswelltiroedd arfordirol a rhos arfordirol? | Nod 3 Nod 4 |
Bydd y dystiolaeth hon yn llywio’r gwaith o reoleiddio gwasanaethau ecosystemau o ran dal a storio carbon. Nid oes unrhyw werthoedd ar gyfer glaswelltiroedd arfordirol a rhos arfordirol. | Ymylon arfordirol Morol Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw'r lefel o ddarpariaeth o ran gwasanaethau ecosystemau ar gyfer ecosystem yr ymylon arfordirol? | Sut mae morfeydd heli Cymru yn cael eu defnyddio, gan bysgod er enghraifft, fel ardaloedd meithrin a chwilota am fwyd? | Nod 1 Nod 4 |
Nid oes llawer o ymchwil wedi bod i'r gwasanaeth ecosystemau hwn o fewn Cymru. | Ymylon arfordirol Morol Bioamrywiaeth |
Beth yw'r lefel o ddarpariaeth o ran gwasanaethau ecosystemau ar gyfer ecosystem yr ymylon arfordirol? | Pa gyfraniadau mae morfeydd heli Cymru yn eu gwneud fel cynefin cynhaliol ar gyfer poblogaethau pysgod masnachol ac anfasnachol a beth yw gwerth economaidd y gwasanaeth hwn ar gyfer y rhywogaethau masnachol? | Nod 1 Nod 4 |
Byddai'r dystiolaeth hon yn galluogi gwerthusiad o wasanaeth ecosystemau pwysig o bosibl lle nad oes llawer o wybodaeth ar gyfer cyd-destun Cymru. Nodi cyfleoedd ar gyfer gwella. | Ymylon arfordirol Morol Bioamrywiaeth |
Beth yw'r lefel o ddarpariaeth o ran gwasanaethau ecosystemau ar gyfer ecosystem yr ymylon arfordirol? | Sut y gallwn ni reoli morfeydd heli i'w gwella fel cynefin ar gyfer pysgod? | Nod 1 Nod 4 |
Er mwyn nodi cyfleoedd. | Ymylon arfordirol Morol Bioamrywiaeth |
Beth yw'r lefel o ddarpariaeth o ran gwasanaethau ecosystemau ar gyfer ecosystem yr ymylon arfordirol? | Faint o eiddo mae twyni tywod a gwrymiau graean bras yn ei amddiffyn? | Nod 3 Nod 4 |
Gwerthuso ehangder y gwasanaeth ecosystemau amddiffyn rhag llifogydd y mae cynefinoedd arfordirol yn ei ddarparu. | Ymylon arfordirol Coetir Dŵr croyw Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw'r lefel o ddarpariaeth o ran gwasanaethau ecosystemau ar gyfer ecosystem yr ymylon arfordirol? | Faint o dir amaethyddol mae twyni tywod a gwrymiau graean bras yn ei amddiffyn? | Nod 3 Nod 4 |
Gwerthuso ehangder y gwasanaeth ecosystemau amddiffyn rhag llifogydd y mae cynefinoedd arfordirol yn ei ddarparu. | Ymylon arfordirol Ffermdir caeedig Glaswelltir lled-naturiol Defnydd tir a phridd |
Beth yw'r lefel o ddarpariaeth o ran gwasanaethau ecosystemau ar gyfer ecosystem yr ymylon arfordirol? | Ym mha leoliadau y gellid rheoli cynefin morfa heli i warchod a gwella amddiffynfeydd arfordirol rhag llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol yn ehangach? | Nod 3 Nod 4 |
Mae angen tystiolaeth i ddatblygu Nodau 3 a 4. | Ymylon arfordirol Trefol |
Sut y gallwn wella cydnerthedd arfordirol? | Beth yw barn y cyhoedd ar werth cynefinoedd arfordirol, yn benodol ar gyfer twyni tywod a graean bras fel adeileddau amddiffyn yr arfordir, a hyder cymdeithasol yn y defnydd o ddatrysiadau sy'n seiliedig ar natur? | Nod 3 Nod 4 |
Llywio polisi, penderfyniadau rheoli tir, a chyfathrebu i gynorthwyo dealltwriaeth y gymuned o reolaeth arfordirol. | Ymylon arfordirol Y newid yn yr hinsawdd |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw effaith newidiadau a yrrir gan y newid yn yr hinsawdd mewn amodau hydrolegol – er enghraifft, cynnydd yn lefel y môr, gweithgarwch tonnau wrth y glannau, a digwyddiadau storm – ar draethlinau Cymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Gwerthuso ehangder y pwysau a nodi ardaloedd ar gyfer ymyrraeth. | Ymylon arfordirol Morol Defnydd tir a phridd Dŵr croyw Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Pa mor hir mae cynefinoedd arfordirol yn ei gymryd i adfer ar ôl stormydd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Gwerthuso ehangder y pwysau a nodi ardaloedd ar gyfer ymyrraeth. | Ymylon arfordirol Morol Dŵr croyw Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw statws a thueddiadau tymor hir posibl cyllidebau gwaddod rhanbarthol mewn ymylon arfordirol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Gwerthuso ehangder y pwysau a nodi ardaloedd ar gyfer ymyrraeth. | Ymylon arfordirol Morol Defnydd tir a phridd Dŵr croyw Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw effaith newidiadau mewn tymheredd a glawiad i gynefinoedd ymylon arfordirol yng Nghymru a sut bydd hyn yn effeithio ar eu cydnerthedd o dan senarios newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Gwerthuso ehangder y pwysau a nodi ardaloedd ar gyfer ymyrraeth. | Ymylon arfordirol Morol Defnydd tir a phridd Dŵr croyw Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | A yw ‘adlinio’ cynefinoedd yn digwydd mewn gwirionedd fel ymateb i gynnydd yn lefel y môr ac erydiad ac, os ydyw, ym mhle mae'n digwydd ac i ba raddau? | Nod 1 Nod 2 |
Gwerthuso ehangder y pwysau a nodi ardaloedd ar gyfer ymyrraeth. Llywio cydnerthedd. | Ymylon arfordirol Dŵr croyw Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Ym mhle mae morfeydd heli yn datblygu lle bu achosion o fylchu heb eu cynllunio neu mewn unedau polisi 'Dim Ymyrraeth Weithredol' y Cynllun Rheoli Traethlin? | Nod 1 Nod 2 |
Gwerthuso ehangder y pwysau a nodi ardaloedd ar gyfer ymyrraeth. Llywio cydnerthedd. | Ymylon arfordirol Dŵr croyw Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | A yw morfeydd heli yn datblygu ymhellach i fyny aberoedd na'r dosbarthiad blaenorol ac yn symud i mewn i’r tir lle nad ydynt yn cael eu cyfyngu? | Nod 1 Nod 2 |
Gwerthuso ehangder y pwysau a nodi ardaloedd ar gyfer ymyrraeth. Llywio cydnerthedd. | Ymylon arfordirol Dŵr croyw Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Ble mae cyfleoedd i gael gwared â chyfyngiadau i alluogi ‘adlinio’ cynefin, gan ganiatáu cynefinoedd arfordirol i ymateb yn naturiol i gynnydd yn lefel y môr a chyfraddau uwch o erydiad? | Nod 1 Nod 2 |
Gwerthuso ehangder y pwysau a nodi ardaloedd ar gyfer ymyrraeth. Llywio cydnerthedd. | Ymylon arfordirol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Cydnerthedd ecosystemau Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw effaith tymor hir a chyfunol halogion cemegol ar statws ecolegol cyrff dŵr morlynnoedd a chyrff dŵr aberol sy'n gysylltiedig â morfeydd heli? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Llywio cyflwr a phwysau o ansawdd dŵr gwael. | Ymylon arfordirol Morol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw effaith lefelau maethynnau uwch ar dyfiant algaidd a’r effaith ganlyniadol ar organebau mewn cyrff dŵr aberol ac arfordirol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Llywio cyflwr a phwysau o ansawdd dŵr gwael. | Ymylon arfordirol Morol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Beth yw effaith tymor hir halogion cemegol ar ecoleg morfeydd heli, gan gynnwys yr effeithiau ar lystyfiant, ffawna morol, ac organebau daearol a gefnogir gan y forfa? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Llywio cyflwr a phwysau o ansawdd dŵr gwael. | Ymylon arfordirol Morol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
A yw ecosystem yr ymyl arfordirol yn gydnerth? | Pa halogion newydd ac sy'n dod i'r amlwg sydd â'r potensial i effeithio ar ansawdd dŵr a sut y gellir rheoli a rheoleiddio’r rhain? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Llywio cyflwr a phwysau o ansawdd dŵr gwael. | Ymylon arfordirol Dŵr croyw Morol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth |
Sut y gallwn wella cydnerthedd cynefinoedd arfordirol? | Beth yw'r opsiynau posibl ar gyfer atebion sy’n seiliedig ar natur neu ddarparu mesurau lliniaru lle mae prosesau arfordirol wedi cael eu haddasu, er enghraifft gan amddiffynfeydd arfordirol? | Nod 1 Nod 2 |
Helpu i nodi meysydd ffocws. | Ymylon arfordirol Yr ardal forol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Sut y gallwn wella cydnerthedd cynefinoedd arfordirol? | Beth yw costau a buddion cyflawni mesurau lliniaru a gwella ar gyfer prosesau hydromorffolegol lle mae'r rhain wedi'u haddasu yn y gorffennol? | Nod 1 Nod 2 |
Helpu i nodi meysydd ffocws. | Ymylon arfordirol Yr ardal forol Cydnerthedd ecosystemau Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Sut y gallwn wella ein gwybodaeth am briddoedd yng Nghymru? | Sut y gallwn wella ein gwybodaeth am briddoedd ledled Cymru i gyd-fynd â gwaith monitro cenedlaethol i asesu dosbarthiad gofodol y defnydd cynaliadwy o briddoedd? Pa blatfformau y gellir eu defnyddio i gofnodi hon? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn gwella ein dealltwriaeth ofodol o i ba raddau y mae priddoedd yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy. | Defnydd tir a phridd Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd |
Pa mor wydn yw ein stociau carbon organig sydd yn y pridd? | Beth yw'r tueddiadau mewn stociau carbon mewn pridd mewn priddoedd sy'n gyfoethog o ran carbon ledled Cymru? Sut y gallwn gynnal cydbwysedd a, lle bo'n briodol, cynyddu dal a storio carbon? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Er mwyn olrhain cynnydd o ran y Polisi Adnoddau Naturiol a’r her Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a llywio sut i ddiogelu a chynyddu carbon mewn priddoedd a biomas. | Defnydd tir a phridd Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Effeithlonrwydd dŵr Y newid yn yr hinsawdd |
A gaiff priddoedd eu heffeithio gan lygredd? | Beth yw ehangder y priddoedd sy'n cael eu heffeithio gan halogion ar hen safleoedd diwydiannol sy'n peri risg i iechyd dynol ac ansawdd dŵr? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn asesu'r risg i iechyd dynol ac ansawdd dŵr a gweithredu mesurau adfer priodol. | Defnydd tir a phridd Dŵr croyw Trefol Gwastraff Bioamrywiaeth |
A yw priddoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy? | Beth yw’r gyfradd colli pridd yng Nghymru, pa mor ddifrifol yw’r golled hon, a beth yw’r maint gofodol lle mae’n digwydd? A yw cyfraddau colli pridd yn uwch na chyfraddau ffurfio pridd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Dyma flaenoriaeth er mwyn asesu i ba raddau y mae rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn cael ei gyflawni. Mae hyn yn ymwneud â Nod 1. A yw stociau o adnoddau naturiol yn cael eu cynnal a'u gwella? | Defnydd tir a phridd Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Dŵr croyw Ymylon arfordirol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar briddoedd? | Beth yw sefyllfa a thueddiadau priddoedd yng Nghymru a'u bregusrwydd a chydnerthedd mewn perthynas â defnydd tir, rheoli tir, a phatrymau tywydd sy'n newid ar draws mathau o bridd gwahanol yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Er mwyn asesu effaith y newid yn yr hinsawdd ar briddoedd. | Defnydd tir a phridd Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar briddoedd? | Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar newidiadau cemegol yn y pridd yng Nghymru, ac ar facrofaethynnau a microfaethynnau? | Nod 2 | Mae bylchau mewn tystiolaeth yn parhau ar effaith y newid yn yr hinsawdd ar briodweddau cemegol priddoedd, gyda phwyslais ar faethynnau. | Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith newid yn nefnydd tir ar briddoedd yng Nghymru? | Beth yw effaith selio pridd yn sgil newid yn nefnydd tir yng Nghymru ar swyddogaeth priddoedd a gwasanaethau ecosystemau? | Nod 2 Nod 4 |
Bydd hyn yn helpu llywio ehangder selio pridd, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd. | Defnydd tir a phridd Trefol Glaswelltiroedd lled-naturiol Ffermdir caeedig Bioamrywiaeth |
A gaiff priddoedd eu heffeithio gan lygredd? | Beth yw tueddiadau halogion mewn priddoedd (biffenylau polyclorinedig, deuocsinau, hydrocarbonau aromatig amgylchredol, plaladdwyr ac elfennau hybrin) a'u heffaith bosibl ar wasanaethau ecosystemau? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Arolwg sylfaenol a adroddwyd gan Arolwg Priddoedd a Llysiau'r DU yn 2007. Dim diweddariadau i fiffenylau polyclorinedig, deuocsinau, hydrocarbonau aromatig amgylchredol, plaladdwyr a metelau hybrin mewn priddoedd er mwyn asesu tueddiadau cenedlaethol. Mae hyn yn ofynnol er mwyn asesu unrhyw effaith bosibl ar wasanaethau ecosystemau a llesiant. | Defnydd tir a phridd Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Gwastraff Ansawdd aer Bioamrywiaeth |
A yw priddoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy? | Beth yw dosbarthiad ac ehanger y banc tir (tir amaethyddol) sydd ar gael ar gyfer ailgylchu maethynnau neu ddeunyddiau organig? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn asesu a yw priddoedd yn cael eu rheoli a'u defnyddio yn gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn atal gorddefnyddio deunyddiau a llygredd trwy gynllunio defnydd tir gwell. | Defnydd tir a phridd Dŵr croyw Ffermdir caeedig Gwastraff Bioamrywiaeth |
Beth yw effaith llygredd priddoedd ar gyflenwi gwasanaethau ecosystemau? | Beth yw presenoldeb, ehangder a chrynodiadau plastig a microplastigion mewn priddoedd? Sut mae hyn yn cael effaith ar y gwasanaethau ecosystemau a ddarperir gan briddoedd? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn asesu'r effaith ar wasanaethau ecosystemau priddoedd a llesiant. | Defnydd tir a phridd Ffermdir caeedig Gwastraff Bioamrywiaeth |
A yw priddoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy? | Faint o dir yr effeithir arno gan halogiad hanesyddol sydd wedi'i adfer a'i ddychwelyd i ddefnydd buddiol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn asesu'r defnydd cynaliadwy o dir ar gyfer buddion llesiant. | Defnydd tir a phridd Coetir Dŵr croyw Trefol |
A yw priddoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy? | Beth yw effaith defnydd tir ar faint a chyflwr priddoedd organo-fwynol ledled Cymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Bydd yr asesiad hwn yn helpu i lywio defnydd tir ac arferion rheoli gwell yn y dyfodol a helpu i atal colledion carbon neu'u lleihau. | Defnydd tir a phridd Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw priddoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy? | Beth yw ehangder a difrifoldeb cywasgiad uwchbridd ac isbridd mewn priddoedd ledled Cymru? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn helpu i lywio pa arferion a meysydd a fyddai’n elwa ar reolaeth naturiol o lifogydd neu ddraenio. | Defnydd tir a phridd Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar briddoedd? | Beth yw effaith uniongyrchol y newid yn yr hinsawdd ar lefelau lleithder pridd? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Defnydd tir a phridd Coetir Ymylon arfordirol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Trefol Effeithlonrwydd dŵr Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd |
|
Sut y gallwn wella ein gwybodaeth am briddoedd yng Nghymru? | Beth yw'r mathau o bridd a'u prif swyddogaethau ledled y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Er mwyn rhoi rôl fwy amlwg i briddoedd mewn disgrifyddion safleoedd. | Defnydd tir a phridd Coetir Dŵr croyw Ymylon arfordirol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Trefol Glaswelltir lled-naturiol Bioamrywiaeth |
Sut y gallwn wella ein gwybodaeth am briddoedd? | Beth yw'r pathogenau dynol ac anifeiliaid sy’n peri risg uchel a geir mewn priddoedd? Ble maen nhw ar hyn o bryd a beth yw eu hehangder? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Rhagwelir y bydd clefydau planhigion ac anifeiliaid yn newid yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Er mwyn asesu risg bosibl i iechyd dynol, planhigion ac anifeiliaid. | Defnydd tir a phridd Coetir Dŵr croyw Ymylon arfordirol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ffermdir caeedig Trefol Gwastraff Rhywogaethau estron goresgynnol Glaswelltir lled-naturiol |
Sut y gallwn wella ein gwybodaeth am briddoedd? | Beth yw presenoldeb ac ehangder deunyddiau genetig mewn priddoedd ar gyfer adnoddau biofeddygol a rheoli clefydau posibl yn y dyfodol? | Nod 1 Nod 3 |
Rhagwelir y bydd clefydau planhigion ac anifeiliaid yn newid yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Er mwyn asesu ehangder llawn y gwasanaeth darparu a ddarperir gan briddoedd. | Defnydd tir a phridd Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig |
Sut y gallwn ddal a storio mwy o garbon mewn priddoedd? | Beth yw hyfywedd a chymhwysedd dulliau dal carbon fel hindreuliad uwch i dir yng Nghymru? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn asesu opsiynau ar gyfer gwella a chyflymu, trwy ddefnyddio prosesau naturiol, y broses o gael gwared â charbon deuocsid o'r atmosffer. | Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd |
A yw priddoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy? | Sut mae systemau defnydd tir a rheoli tir wedi newid yng Nghymru a beth yw'r effaith ar briddoedd? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Gan mwyaf, cyflwr pridd yw swyddogaeth y system reoli sydd ar waith, ac felly mae angen monitro unrhyw newidiadau i ddefnydd tir a systemau rheoli tir. Yn ogystal, byddai deall a monitro’n well ddefnyddiau tir a rennir lle mai'r prif ddefnydd yw ar gyfer coetir neu at ddibenion amaethyddol – ond sydd hefyd o bosib yn cefnogi datblygu ynni adnewyddadwy, er enghraifft – yn ddefnyddiol. | Defnydd tir a phridd Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Ynni |
A yw priddoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy? | Beth yw’r gwahanol arferion a systemau reoli pridd a ddefnyddir yng Nghymru ac a yw'r arferion hyn yn gynaliadwy? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn asesu i ba raddau y rheolir priddoedd yn gynaliadwy er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur ac i helpu i lywio newidiadau polisi yn y dyfodol. Mae rheoli pridd yn gynaliadwy yn bryder cynyddol i'r gymdeithas. | Defnydd tir a phridd Coetir Dŵr croyw Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Ansawdd aer Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Pa mor wydn yw ein stociau carbon organig sydd yn y pridd? | Beth yw ehangder a chyflwr glaswelltir a mawndiroedd âr sy'n cael eu rheoli'n ddwys? Sut y gall y rhain gael eu rheoli'n fwy cynaliadwy i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae'r allyriadau nwyon tŷ gwydr dwysaf yn dod o dir âr a glaswelltiroedd sy'n cael eu rheoli'n ddwys, nid cynefinoedd lled-naturiol (Adrodd Carbon Isel Cymru). | Defnydd tir a phridd Ymylon arfordirol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Pa mor wydn yw ein stociau carbon organig sydd yn y pridd? | Pam mae crynodiadau o garbon organig yn y pridd wedi lleihau ar dir cynefin yn yr ucheldiroedd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae gwaith monitro Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig wedi dangos dirywiad tymor byr ac mae angen y dystiolaeth hon er mwyn helpu i lywio arferion rheoli tir cynaliadwy yn y dyfodol. | Defnydd tir a phridd Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Glaswelltir lled-naturiol Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
A yw priddoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy? | Beth yw ehangder cywasgiad pridd o sathru a pheiriannau? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn helpu i lywio arferion rheoli pridd cynaliadwy yn y dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gan lifogydd. | Defnydd tir a phridd Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Bioamrywiaeth |
Sut y gallwn reoli a defnyddio priddoedd yn fwy cynaliadwy? | Allwn ni ddiwallu anghenion bwyd poblogaeth gynyddol heb wneud difrod i'r amgylchedd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn helpu i lywio arferion rheoli tir cynaliadwy yn y dyfodol. | Defnydd tir a phridd Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar briddoedd? | Beth yw'r effaith a ragwelir o lifogydd a chynnydd yn lefel y môr ar briddoedd amaethyddol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn helpu i lywio arferion defnydd a rheoli tir cynaliadwy yn y dyfodol. | Defnydd tir a phridd Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd |
Sut y gallwn reoli a defnyddio priddoedd yn fwy cynaliadwy? | Pa ysgogiadau economaidd y gellir eu defnyddio i alluogi’r defnydd cylchol o faethynnau mewn perthynas â thir sy’n effeithlon o ran adnoddau? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn helpu i gymell defnydd a rheolaeth gynaliadwy o faethynnau mewn perthynas â thir. | Defnydd tir a phridd Ffermdir caeedig Gwastraff Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Sut y gallwn reoli a defnyddio priddoedd yn fwy cynaliadwy? | Beth yw effeithiau i lawr yr afon o leihau faint o faethynnau a ddefnyddir ar y tir? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn asesu'r effaith ar briddoedd a'r amgylchedd ehangach. | Defnydd tir a phridd Morol Dŵr croyw Ffermdir caeedig Ansawdd aer Gwastraff |
A yw priddoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy? | Beth yw cyfraniad ffynonellau maethynnau nad ydynt yn amaethyddol at y tir? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn helpu i lywio arferion rheoli tir yn gynaliadwy yn y dyfodol. | Defnydd tir a phridd Ffermdir caeedig Gwastraff |
Sut y gallwn reoli a defnyddio priddoedd yn fwy cynaliadwy? | Pa arferion rheoli pridd y gellir eu defnyddio i wella’r defnydd o faethynnau? | Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn helpu i lywio arferion rheoli tir yn gynaliadwy yn y dyfodol. | Defnydd tir a phridd Ffermdir caeedig Gwastraff |
Sut y gallwn reoli a defnyddio priddoedd yn fwy cynaliadwy? | Sut mae arferion rheoli tir yn cyfrannu at ddatrysiadau sy'n seiliedig ar natur? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn helpu i lywio arferion rheoli tir yn gynaliadwy yn y dyfodol. | Defnydd tir a phridd Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Sut y gallwn reoli a defnyddio priddoedd yn fwy cynaliadwy? | Pa ddangosiadau y gellir eu defnyddio ar gyfer y defnydd a rheolaeth gynaliadwy o briddoedd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn asesu i ba raddau y cyflawnir defnydd a rheolaeth gynaliadwy o briddoedd. | Defnydd tir a phridd Coetir Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Gwastraff Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Pa mor gynaliadwy yw defnydd a rheolaeth tir yng Nghymru? | Pa ymyriadau sydd fwyaf effeithlon wrth leihau'r allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ffermydd yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
I helpu i lywio defnydd ac arferion rheoli tir cynaliadwy yn y dyfodol. | Defnydd tir a phridd Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Ymylon arfordirol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru ar yr amgylchedd yng Nghymru? | Beth yw effaith gwastraff a gynhyrchir gan y sectorau adeiladu a dymchwel yng Nghymru ar allyriadau nwyon tŷ gwydr a'r ôl troed ecolegol yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae ffynonellau data gwastraff cyfredol o ran darparu sylw cynhwysfawr ar draws holl gynhyrchwyr gwastraff yn rheolaidd yn gyfyngedig. Yn ogystal, mae gan rai ffynonellau data, megis arolygon, gywirdeb cyfyngedig oherwydd eu natur wirfoddol ac nid oes gennym ddata ar yr holl wastraff a reolir yng Nghymru, er enghraifft oherwydd bod rhai gweithgareddau wedi'u hesemptio rhag cael eu hadrodd i'r rheoleiddiwr. Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 wedi gorfod defnyddio amcangyfrifon yr arolwg o wastraff adeiladu a dymchwel, sy’n rhoi darlun o’r sefyllfa wyth mlynedd yn ôl. Roedd y sector adeiladu a dymchwel yn cyfrif am y rhan fwyaf o'r gwastraff a gynhyrchwyd yng Nghymru yn 2012, felly dyma fwlch tystiolaeth sylweddol wrth asesu cynnydd Cymru wrth leihau gwastraff a chynyddu gwaith adfer. |
Gwastraff Trefol Defnydd tir a phridd |
Beth yw effaith gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru ar yr amgylchedd yng Nghymru? | Beth yw effaith gwastraff a gynhyrchir gan aelwydydd yng Nghymru ar allyriadau nwyon tŷ gwydr a'r ôl troed ecolegol yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae ffynonellau data gwastraff cyfredol o ran darparu sylw cynhwysfawr ar draws holl gynhyrchwyr gwastraff yn rheolaidd yn gyfyngedig. Yn ogystal, mae gan rai ffynonellau data, megis arolygon, gywirdeb cyfyngedig oherwydd eu natur wirfoddol ac nid oes gennym ddata ar yr holl wastraff a reolir yng Nghymru, er enghraifft oherwydd bod rhai gweithgareddau wedi’u hesemptio rhag cael eu hadrodd i'r rheoleiddiwr. | Gwastraff Trefol Defnydd tir a phridd |
Beth yw effaith gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru ar yr amgylchedd yng Nghymru? | Beth yw effaith gwastraff a gynhyrchir gan y sector diwydiannol yng Nghymru ar allyriadau nwyon tŷ gwydr a'r ôl troed ecolegol yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae ffynonellau data gwastraff cyfredol o ran darparu sylw cynhwysfawr ar draws holl gynhyrchwyr gwastraff yn rheolaidd yn gyfyngedig. Yn ogystal, mae gan rai ffynonellau data, megis arolygon, gywirdeb cyfyngedig oherwydd eu natur wirfoddol ac nid oes gennym ddata ar yr holl wastraff a reolir yng Nghymru, er enghraifft oherwydd bod rhai gweithgareddau wedi'u hesemptio rhag cael eu hadrodd i'r rheoleiddiwr. | Gwastraff Trefol Defnydd tir a phridd |
Beth yw effaith gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru ar yr amgylchedd yng Nghymru? | Beth yw effaith gwastraff a gynhyrchir gan y sectorau masnachol yng Nghymru ar allyriadau nwyon tŷ gwydr a'r ôl troed ecolegol yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Mae ffynonellau data gwastraff cyfredol o ran darparu sylw cynhwysfawr ar draws holl gynhyrchwyr gwastraff yn rheolaidd yn gyfyngedig. Yn ogystal, mae gan rai ffynonellau data, megis arolygon, gywirdeb cyfyngedig oherwydd eu natur wirfoddol ac nid oes gennym ddata ar yr holl wastraff a reolir yng Nghymru, er enghraifft oherwydd bod rhai gweithgareddau wedi'u hesemptio rhag cael eu hadrodd i'r rheoleiddiwr. | Gwastraff Trefol Defnydd tir a phridd |
Beth yw effaith fyd-eang gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru ar yr amgylchedd? | Beth yw effaith gwastraff a gynhyrchir gan y sectorau adeiladu a dymchwel, aelwydydd, diwydiannol a masnachol yng Nghymru ar allyriadau nwyon tŷ gwydr a'r ôl troed ecolegol y tu allan i Gymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Nid yw union ddata na ffigurau ar gyfer y ffrydiau gwastraff hyn a allforir ar gael. Er mwyn deall cylchred oes lawn gwastraff ac adnoddau, a’r llif ohonynt, mae angen y data allforio canlynol: 1. Tunelledd a mathau o wastraff 'rhestr werdd' a allforiwyd 2. Lleoliad/ailgylchwr terfynol ar gyfer yr holl wastraff a allforiwyd 3. Effaith ecolegol y gwastraff hwn 4. Defnydd terfynol y gwastraff a allforiwyd |
Gwastraff Trefol Defnydd tir a phridd |
Sut y gallwn wella'r defnydd cynaliadwy o briddoedd? | Faint o bridd sydd wedi cael ei ailddefnyddio ar y safle tarddiad neu ar safleoedd eraill, fel a ddiffinnir gan Ddiffiniad Gwastraff: Cod Ymarfer CL:AIRE? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Byddai'r wybodaeth hon yn cael ei chyfuno â ffynonellau ychwanegol o dystiolaeth, megis gwastraff pridd a gynhyrchwyd a datganiadau gweithredwyr safleoedd tirlenwi, i weld a oedd y duedd hon yn gostwng. Gyda'n gilydd, byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth hon i asesu a yw adnoddau pridd yn cael eu defnyddio mewn ffordd effeithlon. | Defnydd tir a phridd Trefol Gwastraff |
Beth yw effaith rheoli gwastraff yng Nghymru ar yr amgylchedd? | Beth yw effaith defnyddio biowastraff ar dir ar iechyd pridd yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Canfod dealltwriaeth ehangach o asesu effeithiau cadarnhaol a negyddol eraill ar iechyd pridd o ddefnydd biowastraff ar dir. Mae biowastraff yn cael ei ddargyfeirio o waredu i’w adfer yn fwyfwy – er enghraifft, gwastraff bwyd – ac mae angen i ni allu asesu a oes gan Gymru'r tir ar gyfer amsugno allbynnau’r broses adfer – er enghraifft, compost neu weddillion treuliad anaerobig – mewn modd buddiol, i gyfoethogi priddoedd yn lle eu gorwrteithio, ac a oes unrhyw ganlyniadau/effeithiau anfwriadol i'r amgylchedd naturiol. Mae angen i ni hefyd asesu a yw'r gwastraff yn addas i gael ei ddefnyddio ar y tir yn y lle cyntaf, er enghraifft er mwyn asesu'r lefel gydymffurfiaeth â phrotocolau ansawdd ac eraill. | Gwastraff Trefol Defnydd tir a phridd |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau dŵr croyw? | Beth yw effeithiau rhagweledig y newid yn yr hinsawdd, o ran maint ac amlder, ar lif afonydd yn ystod cyfnodau o sychder a llifogydd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae rhagfynegiadau’r newid yn yr hinsawdd yn dynodi newidiadau sylweddol i drefnau llif afonydd. Fodd bynnag, nid yw ehangder y newidiadau hynny, a'u heffeithiau a'u canlyniadau posib ar ein hecosystemau, ein hadnoddau naturiol a llesiant pobl, yn cael ei ddeall yn dda. | Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau dŵr croyw? | Beth yw effeithiau rhagweledig y newid yn yr hinsawdd ar dymheredd dŵr afonydd a llynnoedd yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Mae rhagfynegiadau’r newid yn yr hinsawdd yn dynodi newidiadau sylweddol yn nhymereddau dŵr. Fodd bynnag, nid yw ehangder y newidiadau hynny, a'u heffeithiau a'u canlyniadau posib ar ein hecosystemau, ein hadnoddau naturiol a llesiant pobl, yn cael ei ddeall yn dda. | Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau dŵr croyw? | Pa gynefinoedd a rhywogaethau sy'n dibynnu ar ddŵr croyw sy'n agored i niwed oherwydd effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, sut yr effeithir arnynt, a ble maent wedi'u lleoli yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae rhagfynegiadau’r newid yn yr hinsawdd yn dynodi newidiadau sylweddol i lif, lefelau a thymereddau dŵr. Fodd bynnag, nid yw ehangder y newidiadau hynny, a'u heffeithiau a'u canlyniadau posib ar ein hecosystemau, ein hadnoddau naturiol a llesiant pobl, yn cael ei ddeall yn dda. | Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Beth yw effaith y newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau dŵr croyw? | Sut y gallwn fesur gallu ecosystemau sy'n dibynnu ar ddŵr croyw i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd? | Nod 1 Nod 2 |
Mae rhagfynegiadau’r newid yn yr hinsawdd yn dynodi newidiadau sylweddol i lif, lefelau a thymereddau dŵr. Fodd bynnag, nid yw ehangder y newidiadau hynny, a'u heffeithiau a'u canlyniadau posib ar ein hecosystemau, ein hadnoddau naturiol a llesiant pobl, yn cael ei ddeall yn dda. | Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith addasiadau ffisegol ar ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Beth yw ehangder addasiadau ffisegol afonydd a gorlifdiroedd ledled Cymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Addasiadau ffisegol yw'r prif reswm dros afonydd Cymru'n methu â chyflawni Statws Ecolegol Da. Mae gan addasiadau i orlifdiroedd effeithiau sylweddol ar iechyd ecosystemau a pherygl llifogydd. Fodd bynnag, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am ehangder ac effeithiau penodol yr addasiadau hyn. Mae angen yr wybodaeth hon i lywio cydnerthedd ecosystemau a chyfleoedd adfer. | Dŵr croyw |
Beth yw effaith addasiadau ffisegol ar ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Pa offerynnau dibynadwy y gallwn eu defnyddio i fesur effaith addasiadau ffisegol ar afonydd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Addasiadau ffisegol yw'r prif reswm dros afonydd Cymru'n methu â chyflawni Statws Ecolegol Da. Mae gan addasiadau i orlifdiroedd effeithiau sylweddol ar iechyd ecosystemau a pherygl llifogydd. Fodd bynnag, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am ehangder ac effeithiau penodol yr addasiadau hyn. Mae angen yr wybodaeth hon i lywio cydnerthedd ecosystemau a chyfleoedd adfer. | Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith addasiadau ffisegol ar ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Sut y gallwn fonitro strwythur a geomorffoleg cynefinoedd afonydd yn effeithiol? | Nod 1 Nod 2 |
Addasiadau ffisegol yw'r prif reswm dros afonydd Cymru'n methu â chyflawni Statws Ecolegol Da. Mae gan addasiadau i orlifdiroedd effeithiau sylweddol ar iechyd ecosystemau a pherygl llifogydd. Fodd bynnag, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am ehangder ac effeithiau penodol yr addasiadau hyn. Mae angen yr wybodaeth hon i lywio cydnerthedd ecosystemau a chyfleoedd adfer. | Dŵr croyw |
Beth yw effaith addasiadau ffisegol ar ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Beth yw ehangder ac effaith a fesurwyd addasiadau afonydd heb gydsyniad yng Nghymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Addasiadau ffisegol yw'r prif reswm dros afonydd Cymru'n methu â chyflawni Statws Ecolegol Da. Mae gan addasiadau i orlifdiroedd effeithiau sylweddol ar iechyd ecosystemau a pherygl llifogydd. Fodd bynnag, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am ehangder ac effeithiau penodol yr addasiadau hyn. Mae angen yr wybodaeth hon i lywio cydnerthedd ecosystemau a chyfleoedd adfer. | Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw effaith addasiadau ffisegol ar ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Sawl rhwystr cyflawn neu rannol i bysgod mudol sydd yn afonydd Cymru? Beth yw effeithiau a fesurwyd y rhwystrau hyn (h.y. hyd afonydd â llai o hygyrchedd) i’r rhywogaethau gwahanol o bysgod esgynnol? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Addasiadau ffisegol yw'r prif reswm dros afonydd Cymru'n methu â chyflawni Statws Ecolegol Da. Mae gan addasiadau i orlifdiroedd effeithiau sylweddol ar iechyd ecosystemau a pherygl llifogydd. Fodd bynnag, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am ehangder ac effeithiau penodol yr addasiadau hyn. Mae angen yr wybodaeth hon i lywio cydnerthedd ecosystemau a chyfleoedd adfer. | Dŵr croyw Bioamrywiaeth |
Beth yw effaith addasiadau ffisegol ar ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Beth yw ehangder a lleoliad a fesurwyd hydoedd afonydd yng Nghymru sydd wedi’u datgysylltu o'u gorlifdiroedd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Addasiadau ffisegol yw'r prif reswm dros afonydd Cymru'n methu â chyflawni Statws Ecolegol Da. Mae gan addasiadau i orlifdiroedd effeithiau sylweddol ar iechyd ecosystemau a pherygl llifogydd. Fodd bynnag, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am ehangder ac effeithiau penodol yr addasiadau hyn. Mae angen yr wybodaeth hon i lywio cydnerthedd ecosystemau a chyfleoedd adfer. | Dŵr croyw Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw ffynonellau ac effeithiau llygredd dŵr ar ecosystemau dŵr croyw? | Sut y gallwn nodi ffynonellau llygredd gwasgaredig mewn modd dibynadwy? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Llygredd o ffynonellau gwledig yw'r ail ffactor mwyaf wrth atal afonydd Cymru rhag cyflawni Statws Ecolegol Da. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae angen i ni ddatblygu gallu gwell i nodi ffynonellau llygredd gwasgaredig. | Dŵr croyw Morol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd |
Beth yw ffynonellau ac effeithiau llygredd dŵr ar ecosystemau dŵr croyw? | Sut rydym yn mesur ac yn rhagfynegi lefelau gwaddod mân mewn afonydd a llynnoedd? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Llygredd o ffynonellau gwledig, gan gynnwys dŵr ffo maethynnau a gwaddodion, yw'r ail ffactor mwyaf wrth atal afonydd Cymru rhag cyflawni Statws Ecolegol Da. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae angen i ni wella’n dealltwriaeth o ffynonellau a symiau gwaddodion mân mewn afonydd a llynnoedd. | Dŵr croyw Morol Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd |
Beth yw ffynonellau ac effeithiau llygredd dŵr ar ecosystemau dŵr croyw? | Beth yw effeithiau ecolegol gwaddodion mân ar fisglod perlog a physgod salmonid? | Nod 1 Nod 2 Nod 4 |
Llygredd o ffynonellau gwledig, gan gynnwys dŵr ffo maethynnau a gwaddodion, yw'r ail ffactor mwyaf wrth atal afonydd Cymru rhag cyflawni Statws Ecolegol Da. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae angen i ni wella'n dealltwriaeth o effeithiau gwaddodion mân mewn afonydd. | Dŵr croyw Morol Bioamrywiaeth |
Beth yw ffynonellau ac effeithiau llygredd dŵr ar ecosystemau dŵr croyw? | Beth yw effeithiau unedau dofednod dwys ar ansawdd dŵr? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Llygredd o ffynonellau gwledig yw'r ail ffactor mwyaf wrth atal afonydd Cymru rhag cyflawni Statws Ecolegol Da. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth well o effaith unedau dofednod dwys ar ansawdd dŵr, o ystyried twf y sector amaethyddol hwn yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. | Dŵr croyw Morol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd |
Beth yw ffynonellau ac effeithiau llygredd dŵr ar ecosystemau dŵr croyw? | Beth yw effeithiau halogion a sylweddau cemegol newydd ac sydd ar ddod, megis plaladdwyr neonicotinoid, nanoronynnau a deunyddiau fferyllol, ar ansawdd ac ecoleg dŵr? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae ein dealltwriaeth gyfyngedig o halogion a sylweddau cemegol newydd ac sydd ar ddod yn cyfyngu ar ein gallu i asesu eu heffeithiau. Er enghraifft, ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddangosyddion ar gyfer microplastigion, ac mae'r broses o osod trothwyon ecolegol berthnasol yn cael ei datblygu o hyd. | Dŵr croyw Morol Trefol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Bioamrywiaeth |
Beth yw ffynonellau ac effeithiau llygredd dŵr ar ecosystemau dŵr croyw? | Sut mae llygryddion cemegol yn rhyngweithio a beth yw eu heffaith gronnus ar ecoleg ac iechyd dynol ar eu pennau eu hunain ac ar y cyd â phwysau eraill? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Er mwyn diogelu ein hadnoddau naturiol dŵr croyw a llesiant dynol, mae angen i ni ddeall yn well sut mae cyfuniadau o gemegau'n effeithio ar ecoleg ac iechyd dynol, a'u rhyngweithiad â phwysau amgylcheddol eraill. | Dŵr croyw Morol Trefol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Bioamrywiaeth |
Beth yw ehangder a chyflwr ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Beth yw cyflwr cyfredol yr holl nodweddion Ardal Cadwraeth Arbennig sy'n dibynnu ar ddŵr croyw yng Nghymru? | Nod 1 | Mae hen ddata neu ddata absennol a dadansoddiadau cysylltiedig yn amharu ar asesu ehangder, cyflwr a thueddiadau cyfredol ein hecosystemau dŵr croyw. | Dŵr croyw Bioamrywiaeth |
Beth yw ehangder a chyflwr ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Beth yw cyflwr cyfredol yr holl nodweddion Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy'n dibynnu ar ddŵr croyw yng Nghymru? | Nod 1 | Mae hen ddata neu ddata absennol a dadansoddiadau cysylltiedig yn amharu ar asesu ehangder, cyflwr a thueddiadau cyfredol ein hecosystemau dŵr croyw. | Dŵr croyw Bioamrywiaeth |
Beth yw ehangder a chyflwr ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Beth yw ehangder, cyflwr a thueddiadau cyfredol cynefinoedd gorlifdir yng Nghymru? | Nod 1 | Mae hen ddata neu ddata absennol a dadansoddiadau cysylltiedig yn amharu ar asesu ehangder, cyflwr a thueddiadau cyfredol ein hecosystemau dŵr croyw. | Dŵr croyw Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Bioamrywiaeth Y newid yn yr hinsawdd |
Beth yw ehangder a chyflwr ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Beth yw ehangder, cyflwr a thueddiadau cyfredol pyllau yng Nghymru? | Nod 1 | Mae hen ddata neu ddata absennol a dadansoddiadau cysylltiedig yn amharu ar asesu ehangder, cyflwr a thueddiadau cyfredol ein hecosystemau dŵr croyw. | Dŵr croyw Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Bioamrywiaeth |
Beth yw ehangder a chyflwr ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Beth yw'r dull mwyaf effeithiol o fonitro maint poblogaeth a llwyddiant silio lampreiod? | Nod 1 | Mae hen ddata neu ddata absennol a dadansoddiadau cysylltiedig yn amharu ar asesu ehangder, cyflwr a thueddiadau cyfredol ein hecosystemau dŵr croyw. | Dŵr croyw Bioamrywiaeth |
Beth yw ehangder a chyflwr ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Beth yw statws a thueddiadau cyfredol mewn poblogaethau brogaod a llyffantod dafadennog yng Nghymru, ac a all y rhywogaethau hyn gael eu defnyddio fel dangosydd dibynadwy o iechyd ecosystemau pyllau? | Nod 1 | Mae hen ddata neu ddata absennol a dadansoddiadau cysylltiedig yn amharu ar asesu ehangder, cyflwr a thueddiadau cyfredol ein hecosystemau dŵr croyw. | Dŵr croyw Bioamrywiaeth |
Beth yw ehangder a chyflwr ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru? | Beth yw ehangder a chyflwr graeanau afonydd ledled Cymru? | Nod 1 | Mae hen ddata neu ddata absennol a dadansoddiadau cysylltiedig yn amharu ar asesu ehangder, cyflwr a thueddiadau cyfredol ein hecosystemau dŵr croyw. | Dŵr croyw |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau dŵr croyw? | Beth yw achos y dirywiad cyfredol mewn poblogaethau dyfrgwn ledled Cymru? | Nod 1 Nod 3 |
Mae hen ddata neu ddata absennol a dadansoddiadau cysylltiedig yn amharu ar asesu ehangder, cyflwr a thueddiadau cyfredol ein hecosystemau dŵr croyw. | Dŵr croyw Bioamrywiaeth |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau dŵr croyw? | Pa offerynnau dibynadwy y gallwn eu defnyddio i nodi cyfleoedd a mesurau priodol ar gyfer adfer cynefinoedd dŵr croyw? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae adfer ecosystemau dŵr croyw yn allweddol er mwyn gwella eu gallu i wrthsefyll pwysau lluosog ac er mwyn mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae angen gwybodaeth ac offerynnau i hwyluso gwaith adfer ecosystemau sy’n llwyddiannus a chosteffeithiol. | Dŵr croyw Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd Y newid yn yr hinsawdd |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau dŵr croyw? | Pa gyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer adfer afonydd ledled Cymru ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae adfer ecosystemau dŵr croyw yn allweddol er mwyn gwella eu gallu i wrthsefyll pwysau lluosog ac er mwyn mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae angen gwybodaeth ac offerynnau i hwyluso gwaith adfer ecosystemau sy’n llwyddiannus a chosteffeithiol. | Dŵr croyw Coetir |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau dŵr croyw? | Sut y gallwn fesur mesurau adfer afonydd, ar raddfa hyd a thirwedd, o ran eu canlyniadau, y cilometrau o afonydd sy’n destun ymyriadau a’r manteision o ran bioamrywiaeth, ac arwynebedd y cynefin Ranunculion â gwell strwythur cynefin? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae adfer ecosystemau dŵr croyw yn allweddol er mwyn gwella eu gallu i wrthsefyll pwysau lluosog ac er mwyn mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae angen gwybodaeth ac offerynnau i hwyluso gwaith adfer ecosystemau sy’n llwyddiannus a chosteffeithiol. | Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau dŵr croyw? | Sut y gall manteision systemau draenio cynaliadwy ar ecosystemau dŵr croyw gael eu rhagfynegi a'u mesur? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 |
Mae adfer ecosystemau dŵr croyw yn allweddol er mwyn gwella eu gallu i wrthsefyll pwysau lluosog ac er mwyn mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae angen gwybodaeth ac offerynnau i hwyluso gwaith adfer ecosystemau sy’n llwyddiannus a chosteffeithiol. | Dŵr croyw Trefol Ffermdir caeedig |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau dŵr croyw? | Sut y gall manteision mesurau rheoli llifogydd yn naturiol gael eu rhagfynegi a'u mesur? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae adfer ecosystemau dŵr croyw yn allweddol er mwyn gwella eu gallu i wrthsefyll pwysau lluosog ac er mwyn mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae angen gwybodaeth ac offerynnau i hwyluso gwaith adfer ecosystemau sy’n llwyddiannus a chosteffeithiol. | Dŵr croyw Y newid yn yr hinsawdd Bioamrywiaeth |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau dŵr croyw? | Beth yw achos y dirywiad yn stociau eogiaid? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae adfer ecosystemau dŵr croyw yn allweddol er mwyn gwella eu gallu i wrthsefyll pwysau lluosog ac er mwyn mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae angen gwybodaeth ac offerynnau i hwyluso gwaith adfer ecosystemau sy’n llwyddiannus a chosteffeithiol. | Dŵr croyw Bioamrywiaeth |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau dŵr croyw? | Beth yw gwerth gwyddoniaeth dinasyddion a chamau gweithredu cymunedol wrth reoli rhywogaethau estron goresgynnol? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae adfer ecosystemau dŵr croyw yn allweddol er mwyn gwella eu gallu i wrthsefyll pwysau lluosog ac er mwyn mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae angen gwybodaeth ac offerynnau i hwyluso gwaith adfer ecosystemau sy’n llwyddiannus a chosteffeithiol. | Dŵr croyw Rhywogaethau estron goresgynnol |
Sut mae modd gwella cydnerthedd ecosystemau dŵr croyw? | Sut rydym yn dwyn perswâd ar reolwyr tir i newid arferion a meddylfryd i leihau llygredd maethynnau a gwaddodion mewn ecosystemau dŵr croyw? | Nod 1 Nod 2 Nod 3 Nod 4 |
Mae adfer ecosystemau dŵr croyw yn allweddol er mwyn gwella eu gallu i wrthsefyll pwysau lluosog ac er mwyn mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae angen gwybodaeth ac offerynnau i hwyluso gwaith adfer ecosystemau sy’n llwyddiannus a chosteffeithiol. | Dŵr croyw Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd Trefol Glaswelltir lled-naturiol Ffermdir caeedig Defnydd tir a phridd |
Beth yw cyfraniad ecosystemau dŵr croyw at economi atgynhyrchiol? | Pa ffynonellau gwybodaeth dibynadwy ac offerynnau y gallwn eu defnyddio i asesu cyfraniad ecosystemau dŵr croyw i economi atgynhyrchiol? | Nod 4 | Mae angen data cadarn a hygyrch i alluogi asesiad llawn o Nod 4 Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. | Dŵr croyw Gwastraff Effeithlonrwydd dŵr Ynni |
Beth yw cyfraniad ecosystemau dŵr croyw i leoedd iach? | Beth yw'r tueddiadau yn nifer y bobl sy'n cael mynediad i ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru at ddibenion hamdden awyr agored, er enghraifft nofio gwyllt? | Nod 3 | Mae angen y dystiolaeth hon i alluogi asesiad llawn o Nod 3 Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. | Dŵr croyw |
Sut y gellir gwella cydnerthedd ecosystemau yng Nghymru? | Beth yw'r rhwystrau i'r defnydd a wneir o fesurau rheoliadol a gyflwynwyd er mwyn darparu safonau gofynnol ar gyfer amodau amgylcheddol? | Nod 2 | Gallai archwilio'r buddion a geir o godi'r sylfaen reoliadol fod yn rhan bwysig o unrhyw adolygiad a gynhelir o'r rheoliadau hyn ar ôl ymadael â'r UE. Mae gan y rhan fwyaf o sectorau hefyd ganllawiau a safonau gwirfoddol hirsefydlog ar gyfer arfer da. Gallai'r rhain gyfrannu at feithrin cydnerthedd. | Cydnerthedd ecosystemau |
Sut y gallwn wella ein hasesiad o gydnerthedd ecosystemau yng Nghymru? | Pa waith monitro sydd ei angen i'w gwneud yn bosibl adrodd ar gydnerthedd ar draws y dirwedd gyfan a chefnogi newid rheolaeth trawsnewidiol? | Nod 2 | Mae angen y dystiolaeth hon arnom er mwyn datblygu strategaeth fonitro i Gymru sy'n gallu adrodd ar agweddau ar gydnerthedd ar draws y dirwedd gyfan ac sy'n gallu cefnogi newid rheolaeth trawsnewidiol. | Cydnerthedd ecosystemau |
Sut y gallwn wella ein hasesiad o gydnerthedd ecosystemau yng Nghymru? | Sut y gellir defnyddio technoleg arsylwi'r Ddaear / synhwyro o bell a mesurau sy'n seiliedig ar lawr gwlad i fonitro cyflwr ecosystemau mewn modd mwy cynhwysfawr na'r hyn a wneir ar hyn o bryd? | Nod 2 | Mae angen y dystiolaeth hon arnom er mwyn datblygu strategaeth fonitro i Gymru sy'n gallu adrodd ar agweddau ar gydnerthedd ar draws y dirwedd gyfan ac sy'n gallu cefnogi newid rheolaeth trawsnewidiol. | Cydnerthedd ecosystemau |
Sut y gallwn wella ein hasesiad o gydnerthedd ecosystemau yng Nghymru? | A yw'r mesurau presennol ar gyfer sicrhau amrywiaeth rhywogaethau yn ddigonol ar gyfer mesur cydnerthedd ecosystemau? | Nod 2 | Mae angen y dystiolaeth hon arnom er mwyn datblygu strategaeth fonitro i Gymru sy'n gallu adrodd ar agweddau ar gydnerthedd ar draws y dirwedd gyfan ac sy'n gallu cefnogi newid rheolaeth trawsnewidiol. | Cydnerthedd ecosystemau |
Sut y gallwn wella ein hasesiad o gydnerthedd ecosystemau yng Nghymru? | Sut y gellir sicrhau bod data o ffynonellau agored yn hawdd ei gyrchu ar gyfer ei ddefnyddio gydag offerynnau asesu ar raddfa tirwedd neu forwedd? | Nod 2 | Er mwyn gwella'n dull o asesu cydnerthedd ecosystemau. | Cydnerthedd ecosystemau |
Sut y gallwn hybu iechyd pobl ar y cyd â'n hamgylchedd? | Pa ymyriadau sy'n hybu iechyd mewn perthynas â'r defnydd a wneir o'r amgylchedd? | Nod 3 | Er mwyn gwella'n dull o asesu mannau iach. | Mannau iach |
Sut y gallwn hybu iechyd pobl ar y cyd â'n hamgylchedd? | Sut y gellir defnyddio ymyriadau amgylcheddol i ddwyn budd i iechyd dynol, heb ddwysáu anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol? | Nod 3 | Er mwyn gwella'n dull o asesu mannau iach. | Mannau iach |
Sut y gallwn hybu iechyd pobl ar y cyd â'n hamgylchedd? | Sut y gellir hybu ymddygiad o blaid yr amgylchedd i feithrin cysylltiadau rhwng pobl a natur o adeg eu plentyndod ac ar hyd eu hoes fel oedolion? | Nod 3 | Er mwyn gwella'n dull o asesu mannau iach. | Mannau iach |
Sut y gallwn hybu iechyd pobl ar y cyd â'n hamgylchedd? | Sut y gellir defnyddio'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o'r ymateb i'r pandemig byd-eang COVID-19, a'i effaith, i ddiweddaru'r dulliau presennol yng Nghymru o safbwynt yr ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd? | Nod 3 | Er mwyn gwella'n dull o asesu mannau iach. | Mannau iach |
Beth yw effaith amgylcheddol Cymru ar lwyfan fyd-eang? | Beth yw effaith fyd-eang y swm o fwyd a gynhyrchir ac a ddefnyddir yng Nghymru ar adnoddau naturiol o fewn Cymru a'r tu allan iddi? | Nod 4 | Er mwyn gwella'n dull o asesu ôl troed ecolegol ac ôl troed carbon Cymru. | Economi atgynhyrchiol Stociau adnoddau naturiol |
Beth yw effaith amgylcheddol Cymru ar lwyfan fyd-eang? | Beth yw effaith fyd-eang y drafnidiaeth yng Nghymru ar adnoddau naturiol o fewn Cymru a'r tu allan iddi? | Nod 4 | Er mwyn gwella'n dull o asesu ôl troed ecolegol ac ôl troed carbon Cymru. | Economi atgynhyrchiol Stociau adnoddau naturiol |
Beth yw effaith amgylcheddol Cymru ar lwyfan fyd-eang? | Beth yw effaith fyd-eang y swm o ynni a gynhyrchir yng Nghymru ar adnoddau naturiol o fewn Cymru a'r tu allan iddi? | Nod 4 | Er mwyn gwella'n dull o asesu ôl troed ecolegol ac ôl troed carbon Cymru. | Economi atgynhyrchiol Stociau adnoddau naturiol |
Beth yw effaith amgylcheddol Cymru ar lwyfan fyd-eang? | Beth yw maint ôl troed carbon Cymru gyfan? | Nod 4 | Er mwyn gwella'n dull o asesu ôl troed ecolegol ac ôl troed carbon Cymru. | Economi atgynhyrchiol Stociau adnoddau naturiol |