SoNaRR2020: Ecosystemau gwydn yn erbyn newid disgwyliedig ac annisgwyl

Mae lles pobl o amgylch y blaned yn cael ei fygwth gan ddirywiad ecolegol ac amgylcheddol. Mae amser yn brin i ymateb i'r argyfwng hwn ac osgoi sefyllfa drychinebus i Gymru a'r byd.

Rhaid i adeiladu gwydnwch ecosystemau fod yn sail i ymateb cyflym ac uniongyrchol.

Ecosystem wydn yw:

Amgylchedd sy'n gallu ymateb i bwysau drwy wrthsefyll, adfer neu addasu i newid; ac sy'n gallu parhau i ddarparu adnoddau naturiol a manteision i bobl.

Asesiad o wydnwch ecosystemau

Mae asesu gwydnwch ecosystemau yn gymhleth, mae ein hasesiad wedi ceisio canfod patrymau sy'n dod i'r amlwg ar draws y dirwedd genedlaethol drwy goladu barn arbenigol ar gyfer pob ecosystem. Nid oes dull o fesur gwydnwch sylfaenol neu absoliwt, felly rhoddwyd sgoriau isel, canolig ac uchel i bob priodoledd yn seiliedig ar feini prawf amrywiaeth, maint, cyflwr a chysylltedd.

Gweld fersiwn sgrin lawn

Amrywiaeth

Materion amrywiaeth ar bob lefel a graddfa, o enynnau i rywogaethau, ac o gynefinoedd i dirweddau. Mae'n cefnogi cymhlethdod swyddogaethau a rhyngweithiadau ecosystemau sy'n darparu gwasanaethau a manteision.

Mae'r rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd wedi gweld gostyngiad mewn amrywiaeth dros y 100 mlynedd diwethaf, gyda chyfradd y dirywiad yn cynyddu o'r 1970au ymlaen.

Mae hyn yn dangos nad yw ecosystemau'n wydn, ac nad yw llawer o rywogaethau'n adfer. Os bydd amrywiaeth yn parhau i gael ei cholli, yna gallai arwain at fethiant ecosystemau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Maint

Bydd maint ecosystem yn effeithio ar ei gallu i addasu, adfer neu wrthsefyll aflonyddwch. Gall llai o rywogaethau oroesi mewn ardal lai, ac mae nifer y rhywogaethau'n newid pan gollir cynefin, gan arwain at golli rhywogaethau a dirywiad ecosystemau.

31% o Gymru sy'n cael ei ystyried yn gynefin lled-naturiol. Mae o leiaf 40% o gynefinoedd Cymru wedi'u gwasgaru mewn lleiniau mor fach eu bod yn awgrymu gwydnwch isel.

Cyflwr

Asesir cyflwr ecosystem gan ddefnyddio ffactorau biolegol ac amgylcheddol sy'n gysylltiedig â chynefinoedd a rhywogaethau.

Ychydig iawn o gynefinoedd yng Nghymru sydd mewn cyflwr da oherwydd nifer o fathau gwahanol o bwysau. Effeithir yn bennaf ar gynefinoedd dŵr croyw, er enghraifft, gan orfaethu ac addasiadau ffisegol.

Cysylltedd

Cysylltedd yw'r cysylltiad rhwng ac o fewn cynefinoedd. Ar gyfer bywyd gwyllt, mae'n gysylltiedig â'r pellter y gall anifail symud i fwydo, magu a chwblhau cylchoedd bywyd a allai fod angen amgylcheddau gwahanol. Gall fod ar ffurf coridorau naturiol, cerrig camu neu ddarnau rhwng yr un mathau neu fathau cysylltiedig o lystyfiant.

Mae ffactorau amgylcheddol fel daeareg, math o bridd neu symudiad dŵr yn effeithio ar gysylltedd tirwedd.

Yng Nghymru mae cysylltedd ar ei isaf mewn cynefinoedd iseldir lle mae'r dirwedd wedi'i symleiddio drwy golled cynefinoedd lled-naturiol a lle rheolir y tir yn ddwys.

Cyfleoedd i weithredu

Er mwyn cyflawni nod SMNR o gael ecosystemau gwydn, mae angen i Gymru roi natur wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Rydym wedi nodi pum cyfle blaenoriaethol ar gyfer gweithredu:

Datblygu'r gwaith o asesu gwydnwch ecosystemau

Mae asesu gwydnwch ecosystemau yn gymhleth, a prin yw'r offer neu'r dulliau cyhoeddedig perthnasol sydd ar gael i fesur gwydnwch ecosystemau ar raddfa genedlaethol.

Rheoli ecosystemau'n effeithiol

Gellir gwella gwydnwch ecolegol drwy gynnal a gwella cynefinoedd a rhywogaethau er mwyn helpu i adfer bioamrywiaeth a galluogi ecosystemau i weithio fel y dylent unwaith eto.

Adeiladu ar fframwaith polisi Cymru

Mae gan Gymru eisoes y fframwaith polisi i hyrwyddo lle iach a gwydn i bobl a natur. Wrth weithredu Deddfau Cenedlaethau'r Dyfodol, yr Amgylchedd a Chynllunio mae llawer o gyfleoedd i ddilyn uchelgais Cymru ar gyfer datblygu cynaliadwy.

Gwneud y gorau o reoleiddio

Mae gwydnwch ecosystemau yn dibynnu ar reoleiddio gweithgareddau sy'n gweithredu fel pwysau ar yr amgylchedd. Mae rheolaethau ar waith i reoleiddio'r gweithgareddau hyn, ond mae angen sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu'n gyson â'r amcan o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Ymgysylltu'n ehangach

Mae angen ymrwymiad i newid trawsnewidiol oddi wrth bob rhan o gymdeithas. Gellir cyflawni hyn drwy ymgysylltu'n ehangach a chydweithio ar bwysigrwydd atebion sy'n seiliedig ar natur, hyrwyddo a mabwysiadu arferion da, ac ymyriadau polisi mwy integredig.

Lawrlwythwch bennod lawn SoNaRR rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, nod 2 - ecosystemau gwydn

Darllenwch ein canllaw byr ar sut rydym yn diffinio ac yn asesu gwytnwch ecosystem

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf