Roedd yr Adroddiad SoNaRR interim ym mis Rhagfyr 2019 yn nodi'r dull rydym wedi'i ddefnyddio i asesu llwyddiant neu fethiant Cymru o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn SoNaRR2020 fe'i cymhwyswyd drwy ddwy lens, sef ecosystemau a themâu trawsbynciol.

 

Y man cychwyn ar gyfer SoNaRR2020 oedd cwblhau'r penodau technegol a oedd yn nodi'r wybodaeth a'r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch cyflawni SMNR mewn perthynas ag ecosystemau eang a themâu trawsbynciol.

 

Mae pob pennod yn dogfennu'r ysgogwyr, y pwysau a'r effeithiau sy'n rhwystrau i gyflawni SMNR ac yn argymell cyfleoedd i weithredu i'w rheoli.

 

Mae'r dystiolaeth honno wedi'i dwyn ymlaen i'r cofrestrau adnoddau naturiol a'i defnyddio i wneud yr asesiadau yn erbyn pedwar nod SMNR gan ychwanegu tystiolaeth ehangach sydd ar gael megis adroddiadau a chyhoeddiadau rhyngwladol.

 

Dangosir llif y dystiolaeth drwy SoNaRR2020 yn y ffigur isod.

Ffigur 1 - Ffigur sy'n dangos sut y defnyddiwyd tystiolaeth yn asesiadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 fel y disgrifir yn y testun.

 

Fel yn SoNaRR2016, mae'r dystiolaeth yn SoNaRR2020 yn parhau i ddilyn y Dull DPSIR a gydnabyddir yn rhyngwladol, sef: ysgogwyr newid, pwysau, cyflwr, effaith ac ymateb.

 

Mae SoNaRR yn adeiladu ar DPSIR ac yn defnyddio'r strwythur hwnnw i asesu cynnydd tuag at SMNR a nodau llesiant Cymru.

 

Nodir y dull pum cam a gymerwyd o fewn SoNaRR isod.

 

Mae'n dangos sut yr eir i'r afael â phob elfen o DPSIR er mwyn asesu pedwar nod SMNR.

 

Cam 1: Beth sydd ei angen? Cwmpas yr adroddiad


Casglu gwybodaeth am sut mae Cymru'n symud tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy; gan gynnwys nodi ysgogwyr newid a'r hyn sy'n cefnogi datblygu cynaliadwy.

 

Cam 2: Cyflwr a thueddiadau adnoddau naturiol a rheolaeth bresennol, o fewn yr ecosystemau eang a'r themâu trawsbynciol.


Nodi pwysau a chyflwr adnoddau naturiol ac ecosystemau - y cam mwyaf traddodiadol. Perthnasol i nodau 1 a 2.

 

Cam 3: Gwydnwch: Beth yw effaith cyflwr adnoddau naturiol a'r modd y'u rheolir ar wydnwch yr ecosystem?


Asesiad o wydnwch ecosystemau – gan ddefnyddio priodoleddau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) – ochr yn ochr â modelu swyddogaethau ecolegol, gwydnwch a chyflenwad a galw am wasanaethau ecosystemau yn ofodol. Perthnasol i nod 2.

 

Cam 4: Gwasanaethau ecosystemau: Beth yw effaith cyflwr adnoddau naturiol a'r modd y'u rheolir ar gyflenwad gwasanaethau ecosystemau i bobl?


Asesiad o'r cysylltiadau rhwng cyflwr ecosystemau a lles pobl yng Nghymru, a chyflwr ac ansawdd adnoddau naturiol mewn perthynas â'r manteision sy'n deillio o hynny. Y cam hwn yw'r rhyngwyneb allweddol rhwng tystiolaeth ecolegol ac economaidd-gymdeithasol. Perthnasol i nodau 1, 3 a 4.

 

Cam 5: Cyfleoedd i weithredu ar gyfer rheolaeth fwy cynaliadwy


Defnyddio dull cofrestr risg y Pwyllgor Cyfalaf Naturiol i nodi'r dystiolaeth ar effeithiau'r materion a nodwyd a manteision cymryd gwahanol opsiynau rheoli wrth ymateb.

 

Cydweithio


Mae SoNaRR yn ymwneud â Chymru, nid CNC, ac roedd angen i ni sicrhau bod barn eang am y pwnc yn cael ei chynrychioli. Defnyddiwyd gweithdai, ymgynghoriadau ac adolygiadau cenedlaethol yn seiliedig ar themâu. Cyfathrebwyd yn uniongyrchol â rhanddeiliaid wrth ddatblygu'r penodau technegol ar ecosystemau a themâu trawsbynciol er mwyn cyflwyno tystiolaeth a chynrychioli eu barn.

 

Rydym wedi dilyn ein proses adolygu tystiolaeth drwy gydol yr adroddiad. Mae'r holl benodau technegol ar yr ecosystemau a'r themâu trawsbynciol wedi bod drwy broses adolygu gan gymheiriaid academaidd.

 

Mae'r cofrestrau adnoddau naturiol wedi'u hadolygu drwy weithdy rhanddeiliaid ac mae'r asesiadau yn erbyn y pedwar nod wedi'u hadolygu gan banel allanol, sy'n cynnwys aelodau o grŵp rhanddeiliaid SoNaRR ac sy'n cynnwys aelodau o bwyllgor cynghori amgylcheddol newydd CNC.