Arolwg Dyfrgwn Cymru 2009-10
Mi’r oedd yr arolwg yn dibynnu’n drwm ar waith gwirfoddolwyr ar draws Cymru, a chefnogwyd y gwaith gan arian grant o gyrff etifeddol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ar y cyfan, mi’r oedd 89% o’r safleoedd a archwilwyd yn dangos fod dyfrgwn yn bresennol, sy’n cymharu gyda 20% yn 1977-78, 38% un 1984-85, 53% yn 1991 a 74% yn 2002.
Mae’r fath gynnydd yn dosbarthiad y dyfrgi yn tanlinellu’r cynnydd yn niferoedd y rhywogaeth yng Nghymru o’r lefelau isel iawn yn y 1970au.
Er bod niferoedd y dyfrgwn yn cynyddu, mae nifer sylweddol yn cael ei lladd bod blwyddyn ar rwydwaith ffyrdd Cymru, ac mae bygythiad fel chaethiwo mewn gêr pysgota yn bosibilrwydd.
Mae’r canlyniadau o 2009-10 yn tanlinellu’r gwelliannau mewn safonau dwr yn afonydd a llynoedd Cymru yn y degawdau diweddar.
Mae’r adroddiad yn argymell nifer o fesurau i gynnal adferiad y rhywogaeth yng Nghymru.