Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Map Cyngor Datblygu
Gwaith cynnal a chadw critigol parhaus
Rydym yn cynnal gwaith cynnal a chadw ar ein gwasanaethau mapio. Mae’n bosib na fydd ein mapiau yn ymddangos yn iawn dros y cyfnod hwn.
Ceisiwch ail-lwytho'r dudalen (F5 ar eich allweddell)
Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra.
Map Cyngor Datblygu
Y Map Cyngor Datblygu a pholisi cynllunio cysylltiedig Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd yw'r fframwaith presennol ar gyfer asesu pergyl llifogydd ar ddatblygiadau newydd ac oddi wrthynt.
Mae'r Map Cyngor Datblygu yn offeryn sgrinio i awdurdodau lleol er mwyn deall lle y gallai fod angen asesiad pellach o lifogydd.
(Cliciwch fotwm dde eich llygoden ar y botwm uchod i'w agor mewn tab newydd)
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio
Bydd Nodyn Cyngor Technegol 15 yn cael ei weithredu ym Mehefin 2023. Bydd y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cefnogi hwn. Mae'r map yn cynnwys gwybodaeth am newid hinsawdd i ddangos sut bydd hyn yn effeithio ar yr ardaloedd sydd mewn pergyl o lifogydd dros y ganrif nesaf. Mae'n dangos yr ardaloedd all gael eu heffeithio gan lifogydd, heb ystyried effaith amddiffynfeydd.
Does gan y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ddim statws swyddogol ar gyfer dibenion cynllunio tan Fehefin 2023. Fodd bynnag, bydd rhaid i awdurdodau lleol adolygu eu Hasesiadau Goblygiadau Llifogydd Strategol erbyn Tachwedd 2022, yn unol â'r TAN15 a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio'r data hefyd fel y 'wybodaeth orau sydd ar gael' ar risg llifogydd er mwyn hysbysu ein cyngor cynllunio.
Mae mwy o wybodaeth ar weithrediad ffurfiol Nodyn Cyngor Technegol 15 a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn Natganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.
Mae dwy olyfga gan y map:
- Sylfaenol - mae hwn yn cynnwys digon o ddata ar gyfer sgrinio lefel uchel yn erbyn Nodyn Cyngor Technegol 15
- Manwl - mae hwn yn cynnwys manylion ychwanegol a all gael eu defnyddio ar gyfer Asesiadau Canlyniadau Llifogydd
(Cliciwch fotwm dde eich llygoden ar y botwm uchod i'w agor mewn tab newydd)
Gweler ein Map Asesu Pergyl Llifogydd Cymru ar gyfer y risg presennol, sy'n ystyried effaith amddiffynfeydd presennol. Does gan y map hwn ddim statws swyddogol ar gyfer dibenion cynllunio, gan nad yw'n ystyried effaith newid hinsawdd yn y dyfodol. Gyda'i gilydd mae'r ddau fap yn ffurfio Map Llifogydd Cymru.
Beth mae'r haenau map yn ei feddwl?
Mae gan y Map Llifogydd ar gyfer Cyllunio yr haenau canlynol sy'n dangos ystod posibl llifogydd, gan gymryd bod dim amddiffynfeydd rhag llifogydd yn bodoli:
Afonydd - Parth Llifogydd 2
Ardaloedd gyda 0.1% i 1% (1 mewn 1000 i 1 mewn 100) o gyfle llifogydd o afonydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithio newid hinsawdd.
Afonydd - Parth Llifogydd 3
Ardaloedd gyda mwy na 1% (1 mewn 100) o gyfle llifogydd o afonydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd.
Afonydd a Môr - Parth Llifogydd 2
Risg 0.1% o haenau Parth Llifogydd Afonydd a Môr gyda'i gilydd.
Afonydd a Môr - Parth Llifogydd 3
Risg 1% o haenau Parth Llifogydd Afonydd a Môr gyda'i gilydd.
Môr - Parth Llifogydd 2
Ardaloedd gyda 0.1% i 0.5% (1 mewn 1000 i 1 mewn 200) o gyfle llifogydd o'r môr mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd.
Môr - Parth Llifogydd 3
Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach - Parth Llifogydd 2
Ardaloedd gyda 0.1% i 1% (1 mewn 1000 i 1 mewn 100) o gyfle llifogydd o ddŵr wyneb a/neu gyrsiau dŵr bach mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd.
Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach - Parth Llifogydd 3
Ardaloedd gyda mwy na 1% (1 mewn 100) o gyfle llifogydd o ddŵr wyneb a/neu gyrsiau dŵr bach mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd.
Parthau Amddiffynol TAN15
Ardal sy'n elwa o amddiffynfeydd llifogydd Awdurdodau Rheoli Risg gydag isafswm Safon Diogelu:
- 1 mewn 100 mlynedd (amser presennol) ar gyfer afonydd
- 1 mewn 200 mlynedd (amser presennol) ar gyfer y môr
Ar gyfer amddiffynfeydd a adeiladwyd o 2016, rhaid cael lwfans ar gyfer newid hinsawdd a bwrdd rhydd dylunio.
Llifogydd hanesyddol
Ardaloedd lle mae llifogydd wedi'u cofnodi.
Lleoliadau amddiffynfeydd llifogydd
Mwy o wybodaeth am leoliad a safon diogelu amddiffynfeydd llifogydd ffurfiol.
Risg llifogydd o gronfeydd
Mwy o wybodaeth am risg llifogydd o gronfeydd.
Prif afonydd
Mwy o wybodaeth am brif afonydd. Os ydy cynnig cynllunio wrth ymyl prif afon, efallai bod rhaid i chi gael trwydded, yn ychwanegol i ganiatâd cynllunio.
Rheolwr Model Lleol CNC
Ardaloedd lle mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru fodelau llifogydd lleol manwl, sy'n gallu bod yn ddefnyddiol i hysbysu asesiad canlyniadau llifogydd i gefnogi cais cynllunio. Cysylltwch â datadistribution@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i ofyn am fynediad at y data hyn.
Cynlluniau Rheoli'r Traethlin ac erydu arfordirol
Mwy o wybodaeth am Gynlluniau Rheoli'r Traethlin ac erydu arfordirol. Rhaid i chi ystyried y cynlluniau hyn ar gyfer ceisiau datblygu arfordirol. Mae cyfraddau erydu ar y map ar gyfer cyfnodau byr, canolig a thymor hwy. Mae'r rhain ar sail 'cyfraddau hyder' (o 5%, 50% a 95%) ac yn dilyn polisiau cyfredol y Cynllun Rheoli'r Traethlin.
Herio ein mapiau llifogydd
Dysgwch fwy am ein gwybodaeth risg llifogydd, gan gynnwys canllawiau ar:
Datblygu eich modelau hydrolig eich hunain
Modelu ar gyfer Asesiadau Canlyniadau Llifogydd
Data GIS
Os oes angen i chi lawrlwytho data GIS, gellir lawrlwytho nifer o haenau’r map o MapDataCymru.
Cydnabyddiaeth
Mae'n cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Natural Resources Wales a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae cyfran o’r wybodaeth wedi’i seilio ar ddata gofodol digidol sydd wedi’u trwyddedu gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg © NERC (CEH). Mapio Daearegol: Arolwg Daeareg Prydain © NERC. DEFRA a’r Swyddfa Dywydd © hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Cynnwys data OS data © Hawlfraint y Goron a hawl sylfaen-data 2017. Gwasanaethau Tir ac Eiddo Land © Hawlfraint y Goron a hawl sylfaen-data.