Amddiffynfeydd rhag llifogydd
Mae'r llinell goch yn ddangos yr amddiffynfeydd rhag llifogydd sydd wedi'u hadeiladu i ddiogelu rhag llifogydd o afonydd a'r môr. Sut bynnag, nid yw amddiffynfeydd rhag llifogydd yn cael gwared â'r perygl o lifogydd a gallant orlifo neu fethu.
Mae gan yr amddiffynfeydd hyn lefelau gwahanol o amddiffyn, a ddangosir yn haen Ardaloedd sy'n elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ein map. Adlewyrchir y diogelwch yn ardaloedd risg Uchel, Canolig, ac Isel ar ein map.
Ychwanegwn ni amddiffynfeydd rhag llifogydd ac ardaloedd sy'n elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd i'r map, wrth iddyn nhw ddod i law.
Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd fel arfer yn eiddio i berchennog y tir ac yn cael eu cynnal:
- yn breifat
- gan Gyfoeth Naturiol Cymru
- gan Awdurdod Rheoli Risg, megis eich awdurdod lleol
Bydd blaenoriaeth cynnal a chadw ar gyfer yr amddiffynfeydd sy'n diogelu rhag y lefel uchaf o risg neu a gaiff y goblygiadau mwyaf difrifol tasent yn methu.
Am fwy o wybodaeth am amddiffynfeydd rhag llifogydd, cysylltwch â ni.