Paratoi ar gyfer llifogydd
Edrychwch beth yw eich risg llifogydd
Darganfyddwch a oes risg o lifogydd yn eich ardal chi
Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd
Cofrestrwch ar-lein i dderbyn rhybuddion llifogydd am ddim
Cynlluniwch beth i'w wneud mewn argyfwng
Cynlluniwch ble y gallech chi symud pobl, anifeiliaid anwes a phethau gwerthfawr i ddiogelwch.
Rhaid i chi ystyried anghenion pawb ar eich eiddo a gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod beth yw’r cynllun dianc:
- efallai mai’r peth mwyaf diogel fyddai symud i ystafell i fyny'r grisiau - yn ddelfrydol gyda ffenestr a allai fod yn ffordd posibl o ddianc
- os ydych mewn islawr neu fyngalo, meddyliwch am ble arall y gallech symud i fod yn ddiogel
- meddyliwch ble y gallech symud eiddo - i fyny'r grisiau, ar ben darnau o ddodrefn neu yn eich car
- storiwch eitemau gwerthfawr neu sentimental mewn lleoliad uchel yn eich cartref drwy gydol y flwyddyn
Lluniwch gynllun llifogydd
Lluniwch gynllun llifogydd fel eich bod chi, eich teulu, neu'ch gweithlu yn gwybod beth i'w wneud yn ystod llifogydd.
Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio beth i'w wneud gydag eitemau gwerthfawr, ble y byddech yn mynd, a phwy y mae angen i chi eu ffonio mewn argyfwng.
Dewch o hyd i sut i gadw’ch anifeiliaid anwes yn ddiogel drwy'r RSPCA a’r Blue Cross.
Paciwch becyn llifogydd
Paratowch becyn llifogydd o eitemau hanfodol.
Cadwch y pecyn o fewn cyrraedd rhag ofn y bydd angen i chi adael a gwnewch yn siŵr bod pobl yn gwybod ble i ddod o hyd iddo.
Dylai hyn gynnwys:
- copïau o ddogfennau eich yswiriant cartref
- gwefrydd ffôn a phecyn batri
- rhestr o rifau ffôn pwysig
- tortsh gyda batris sbâr
- radio – ar eich ffôn neu’n gweithio ar fatri
- dillad a blancedi cynnes a gwrth-ddŵr
- pecyn cymorth cyntaf a meddyginiaeth presgripsiwn
- potel o ddŵr a bwyd nad yw'n ddarfodus
- bwyd babanod ac eitemau gofal babanod
- bwyd ar gyfer anifeiliaid anwes
- menig rwber ac esgidiau glaw
- masgiau wyneb a hylif diheintio dwylo
Cadwch restr o rifau ffôn pwysig yn eich pecyn llifogydd. Dylai hyn gynnwys:
- Floodline 0345 988 1188
- Llinell gymorth frys yr awdurdod lleol
- rhif 24 awr eich cwmni yswiriant a'ch rhif polisi
- amledd yr orsaf radio leol ar gyfer newyddion a'r tywydd
- teulu a chymdogion
- rhifau ffôn gwaith
- meddygfeydd
- yr orsaf heddlu leol
- milfeddyg/llety cŵn/llety cathod
- gwesty lleol neu lety gwely a brecwast
- cyflenwr nwy a rhif mesurydd
- cyflenwr trydan a rhif mesurydd
- cyflenwr dŵr a rhif mesurydd
- trydanwr
- plymwr
- adeiladwr
Gwiriwch eich yswiriant
- Sicrhewch eich bod wedi'ch diogelu ar gyfer llifogydd (gofynnwch i'ch yswiriwr, landlord neu asiant gosod).
- Edrychwch i weld a yw'r polisi'n cynnwys llety arall rhag ofn na allwch aros yn eich cartref.
- Edrychwch i weld a yw'r polisi'n disodli hen am newydd, ac os oes cyfyngiad ar atgyweiriadau.
- Peidiwch â thanbrisio gwerth eich cynnwys.
- Tynnwch luniau o'ch eiddo a gwnewch restr o'ch eiddo cyn unrhyw lifogydd i helpu gyda hawliadau yswiriant yn y dyfodol.
- Gwiriwch eich yswiriant car a beth mae eich polisi yn ei ystyried fel difrod llifogydd y gellir ei osgoi ac na ellir ei osgoi.
Chwilio am yswiriant llifogydd arbenigol
- cysylltwch â Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain er mwyn cael yswiriant arbenigol ar gyfer llifogydd
- gwiriwch a ydych chi'n gymwys ar gyfer cynllun Flood Re - ar gyfer yswiriant cartref fforddiadwy
Mae gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain ragor o wybodaeth am lifogydd ac yswiriant.
Sut i ddiffodd nwy, trydan a dŵr
Yn ystod llifogydd, dylech ddiffodd nwy, trydan a dŵr.
Dysgwch sut i wneud hyn fel y gallwch weithredu'n gyflym mewn argyfwng:
- mae'r falf nwy fel arfer wedi'i lleoli wrth ymyl eich mesurydd nwy
- switsh coch ar eich blwch ffiws yw eich prif gyflenwad trydan fel arfer
- mae eich tap dŵr (stopcock) fel arfer o dan sinc y gegin neu lle mae'r bibell ddŵr yn mynd i mewn i'ch cartref
Cysylltwch â’ch cyflenwr os nad ydych yn gwybod sut i wneud hyn.
Amddiffyn eich eiddo
Os ydych chi'n byw mewn ardal lle ceir perygl o lifogydd, neu os ydych wedi dioddef llifogydd o'r blaen, ystyriwch ofyn i syrfëwr siartredig gynnal arolwg llifogydd. Bydd hyn yn dweud wrthych ble y gallai dŵr llifogydd fynd i mewn i'ch eiddo, pa mor gyflym y bydd yn llifo a ble y gallai achosi'r difrod gwaethaf.
Yna gall y syrfëwr ddefnyddio'r wybodaeth hon i'ch helpu i ddewis y dull gorau i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd. Gallai gosod y cynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd anghywir olygu eu bod yn aneffeithiol, neu hyd yn oed achosi mwy o ddifrod mewn llifogydd.
Dewiswch gynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd ardystiedig â nod barcud y BSI sy'n bodloni safon Prydain ar gyfer ansawdd a diogelwch.
Gallwch hefyd ddilyn y canllawiau a'r rhestrau gwirio yn y Cod Ymarfer ar gyfer gwytnwch eiddo i sicrhau bod yr arolygon, y gosodiadau neu'r gwaith adeiladu yn cael eu cwblhau i'r safon cywir.
Gosod cynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd
Gall rhai cynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd fod yn eu lle yn barhaol, tra bod angen gosod eraill pan ddisgwylir llifogydd.
Er enghraifft:
- drysau llifogydd
- briciau aer
- hydrosachau
Dysgwch am y gwahanol gynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd a ble i'w cael ar wefan Tudalennau Glas y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol. Nid yw'r holl gynhyrchion a restrir ar y tudalennau glas yn gynhyrchion ardystiedig â nod marc y BSI.
Gwneud newidiadau i'ch eiddo
Gallwch hefyd wneud newidiadau i'ch eiddo a fydd yn ei gwneud yn haws ac yn rhatach i lanhau os byddwch yn dioddef llifogydd:
- gosodwch deils ceramig ar eich llawr gwaelod a defnyddiwch rygiau yn lle carpedi wedi'u gosod
- codwch uchder socedi trydanol i o leiaf 1.5 metr uwchben lefel y llawr gwaelod
- defnyddiwch blastr calch yn lle gypswm ar waliau
- gosodwch geginau dur gwrthstaen neu blastig yn lle rhai bwrdd sglodion, neu defnyddiwch unedau annibynnol y gallwch eu symud
- gosodwch unrhyw brif rannau system wresogi neu awyru, fel boeler, i fyny'r grisiau neu wedi'u codi ymhell uwchlaw'r llawr gwaelod
- gosodwch falfiau unffordd ar bob draen a mewnbibell ddŵr
- newidiwch fframiau ffenestri a drysau pren am rai synthetig am eu bod yn haws eu clirio
Arafu llif y dŵr o amgylch eich eiddo
Ystyriwch sut y gallech chi arafu llif y dŵr o amgylch eich eiddo:
- Osgowch goncritio ardaloedd y tu allan. Defnyddiwch ddeunyddiau athraidd fel graean yn lle hynny.
- Meddyliwch am systemau draenio ar gyfer ardaloedd lle mae dŵr yn dueddol o sefyll.
- Gallai perchnogion tir feddwl am blannu coed a llwyni i helpu i arafu neu leihau glawiad sy'n cyrraedd y ddaear, annog ymdreiddiad a sefydlogi llethrau serth.
- Edrychwch ar Atebion Draenio Cynaliadwy.
Mae rhagor o wybodaeth am leihau'r perygl o lifogydd yn eich cartref neu fusnes ar gael ar wefan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol.
Bagiau tywod
Nid ydym yn darparu bagiau tywod. Defnyddiwch yr adran ‘amddiffyn eich eiddo’ uchod i’ch helpu i ddewis y cynnyrch gorau i amddiffyn eich eiddo.
Os oes angen bagiau tywod, cysylltwch â’ch awdurdod lleol. Efallai bydd ganddynt rai bagiau tywod i’w defnyddio yn ystod llifogydd. Os nad ydynt yn darparu bagiau tywod, gallwch brynu rhai o siopau DIY a chyflenwyr adeiladwyr.
Os ydych chi’n byw ger cwrs dŵr
Dysgwch am hawliau a chyfrifoldebau perchnogion eiddo ar lannau afonydd
Cyngor ar gyfer perchenogion a gweithredwyr meysydd carafanau a safleoedd gwersylla
Dysgwch sut i amddiffyn eich safle gwersylla a’ch ymwelwyr mewn llifogydd.
Rhagofalon ychwanegol ar gyfer ffermydd a thir amaethyddol
Dysgwch am ragofalon ychwanegol i helpu i amddiffyn ffermydd a thir amaethyddol rhag llifogydd.
Amddiffyn gerddi a rhandiroedd
Mae gan Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) wybodaeth am ddyfrlenwi a llifogydd mewn gerddi a pha dechnegau sy'n cynyddu draenio ac yn atal difrod.