Ysgrifennu ar gyfer y we
Mae hyn yn rhan o'r llawlyfr cynnwys a chyhoeddi
Wrth ysgrifennu ar gyfer CNC, fe ddylen ni:
- ddefnyddio arferion gorau ysgrifennu ar gyfer y we
- dilyn y canllaw arddull a’r canllaw ysgrifennu ar gyfer y we
Sut mae pobl yn darllen ar-lein
Mae pobl yn darllen yn wahanol iawn ar-lein o gymharu ag ar bapur. Nid ydyn nhw o reidrwydd yn darllen o’r top i'r gwaelod, na hyd yn oed o air i air.
Mae pobl ond yn darllen tua 20 i 28% o dudalen we. Pan fo rhywun eisiau cwblhau tasg cyn gynted â phosib, maen nhw'n sgimio drwy’r cynnwys hyd yn oed yn fwy.
Mae astudiaethau tracio llygaid yn dangos bod pobl yn tueddu i 'ddarllen' tudalen we mewn patrwm siâp 'F'. Maen nhw'n edrych ar draws y top, yna i lawr yr ochr, ac yn darllen ymhellach ar draws pan maen nhw'n dod o hyd i'r hyn maen nhw ei angen.
Cynnwys ar-lein da
Mae cynnwys ar-lein da yn hawdd i'w ddarllen a'i ddeall.
Mae'n defnyddio:
- brawddegau byr
- adrannau gydag is-benawdau
- geirfa syml
Mae hyn yn helpu pobl i ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnyn nhw’n gyflym a’i amsugno'n ddiymdrech.
Defnyddiwch iaith blaen
Peidiwch â defnyddio geiriau gor-ffurfiol na geiriau hir pan fyddai rhai hawdd neu rai byr yn gwneud y tro. Defnyddiwch 'prynu' yn lle 'pwrcasu', 'help' yn lle 'cymorth', a 'tua' yn lle 'oddeutu'.
Fe gollwn ni ymddiriedaeth pobl drwy ddefnyddio gormodedd o jargon. Yn gyffredinol, gallwch chi gael gwared ar y math yma o eiriau drwy dorri'r term i lawr a disgrifio beth ry’ch chi’n ei wneud mewn gwirionedd. Byddwch yn agored ac yn benodol.
Ysgrifennwch yn sgyrsiol – dychmygwch eich cynulleidfa ac ysgrifennwch fel petaech chi'n siarad wyneb-yn-wyneb â nhw - gydag awdurdod rhywun sy'n gallu mynd ati i’w helpu.
Byddwch yn gryno
Er mwyn cadw pethau’n ddealladwy, yn gryno ac yn berthnasol, dylai cynnwys fod:
- yn benodol
- yn llawn gwybodaeth
- yn glir a chryno
- yn dreiddgar (gall gor-gyfeillgarwch arwain at ddiffyg manylder a geiriau diangen) – ond dylech geisio bod yn ddynol serch hynny (hynny yw, nid fel peiriant di-wyneb)
- yn ddifrifol heb fod yn hunanbwysig
- yn ddi-emosiwn – gall ansoddeiriau fod yn oddrychol a gwneud i'r testun swnio'n fwy emosiynol ac fel sbin
Cynnwys ar gyfer arbenigwyr
Mae ymchwil yn dangos bod yn well gan bobl sydd â lefel uchel o lythrennedd iaith blaen oherwydd ei fod yn caniatáu iddyn nhw ddeall y wybodaeth cyn gynted â phosibl.
Mae pobl yn deall iaith arbenigol gymhleth, ond ddim eisiau ei darllen os oes dewis arall. Mae hyn oherwydd mai’r bobl sydd â'r lefelau llythrennedd uchaf a'r arbenigedd mwyaf sy’n tueddu i fod â’r mwyaf i'w ddarllen.
Dewis teitlau
Mae pobl sy'n defnyddio ein gwefan yn dechrau gyda pheiriant chwilio, yn aml. Defnyddiwch yr un eirfa â'ch cynulleidfa er mwyn iddyn nhw ddod o hyd i'ch cynnwys. Mae hyn yn dechrau gyda theitl eich tudalen a'ch crynodeb.
Os na all pobl ddod o hyd i'ch tudalen neu ddeall y cynnwys, ni fyddan nhw’n gwybod ei bod ar eu cyfer nhw, ac yna ni fyddan nhw’n gallu gweithredu arno.
Cadwch eich teitl yn fyr, lle bo modd
Dylai eich teitl fod yn 65 nod neu lai (gan gynnwys bylchau).
Gallwch ddefnyddio mwy na 65 o nodau os yw'n hanfodol ar gyfer gwneud y teitl yn glir neu'n unigryw, ond peidiwch â gwneud hyn yn rheolaidd oherwydd:
- mae Google yn torri’r teitl ar ôl tua 65 o nodau
- mae teitlau hirach yn anoddach i'w deall
Gwnewch eich teitlau yn glir ac yn ddisgrifiadol
Dylai'r teitl roi’r cyd-destun yn llawn fel bod defnyddwyr yn gallu gweld yn gyfleus a ydyn nhw wedi dod o hyd i'r hyn maen nhw ei eisiau.
Drwy fod yn gyffredinol am bwnc, ry’ch chi'n gadael y defnyddiwr yn gofyn 'am beth mae hwn?'
Sicrhewch bod eich teitl yn gwneud synnwyr
Rhaid i’r teitl wneud synnwyr:
- ar ei ben ei hun – er enghraifft nid yw 'Rheoliadau' yn dweud llawer, ond mae 'Rheoliadau ar gyfer gwastraff amgylcheddol' yn dweud y cyfan
- mewn canlyniadau chwilio
Does dim rhaid i deitlau adlewyrchu teitl unrhyw ddogfennau swyddogol. Canolbwyntiwch ar ddefnyddwyr - gwnewch deitlau clir a disgrifiadol fel y gall defnyddwyr wybod ai dyma'r cynnwys cywir ar eu cyfer.
Darganfyddwch beth mae'r cyhoedd yn galw eich cynnwys drwy ddefnyddio offer chwilio i chwilio am eiriau allweddol. Efallai nad yw’r cyhoedd yn trafod y mater dan sylw gan ddefnyddio enw’ch cynllun, eich sefydliad neu enw swyddogol neu fewnol y broses. Unwaith y byddwch chi'n gwybod y geiriau allweddol mwyaf poblogaidd gallwch eu blaenoriaethu yn y teitl, y crynodeb, y cyflwyniad a’r is-benawdau.
Tynnwch y dyddiad oddi yno, oni bai ei fod yn gwneud y teitl yn unigryw
Rhowch y dyddiad yn y teitl os yw'r dudalen yn rhan o gyfres sydd â'r un teitl.
Er enghraifft, rhestr o adroddiadau blynyddol:
Teitl: Adroddiad rheoleiddio blynyddol 2020
Teitl: Adroddiad rheoleiddio blynyddol 2019
Teitl: Adroddiad rheoleiddio blynyddol 2018
Mae'n ddefnyddiol cynnwys y dyddiad sydd dan sylw os ydych chi'n cyhoeddi sawl fersiwn o'r un wybodaeth am gyfnodau gwahanol o amser.
Peidiwch â defnyddio cwestiynau
Peidiwch â defnyddio cwestiynau fel penawdau - maen nhw'n anodd i flaen-lwytho (hynny yw, rhoi'r wybodaeth bwysicaf yn gyntaf) ac mae defnyddwyr eisiau atebion, nid cwestiynau.
Rhowch y teitl ar ffurf brawddeg
Peidiwch â rhoi llythyren fawr ar bob gair yn y teitl oni bai bod y teitl yn cynnwys enw priod.
Ysgrifennu crynodebau
Ynghyd â'r teitl, y crynodeb mae’r defnyddwyr fel arfer yn ei weld mewn canlyniadau chwilio felly dylai roi arwydd clir iddyn nhw o beth yw pwrpas y cynnwys. Gwnewch yn siŵr y gall pobl weld yn gyflym a fydd gan y dudalen yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Cadwch grynodebau’n 160 nod o hyd (gan gynnwys bylchau) gan fod Google fel arfer yn dangos dim ond y 160 nod cyntaf mewn canlyniadau chwilio. Os yw eich crynodeb yn hirach, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwmpasu prif bwynt y dudalen yn y 160 nod cyntaf.
Dylai crynodebau ddod i ben gydag atalnod llawn. Gall hyn helpu pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol fel darllenwyr sgrîn.
Defnyddiwch iaith glir i osgoi dryswch
Defnyddiwch iaith glir i wneud pwrpas y cynnwys yn gliriach, ac ysgrifennwch fel petaech chi’n siarad â'ch defnyddiwr wyneb-yn-wyneb.
Osgowch eiriau rhagarweiniol diangen
Peidiwch ag ailadrodd pa fath o gynnwys sydd dan sylw yn y crynodeb - er enghraifft, peidiwch â dweud "mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â..." neu "ffurflen ar gyfer...".
Ceisiwch ddefnyddio cyn lleied o eiriau o'r teitl â phosibl, a cheisiwch gynnwys geiriau allweddol nad ydych wedi'u defnyddio yn y teitl.
Defnyddiwch iaith weithredol
Cadwch grynodebau'n weithredol - hynny yw, defnyddiwch ferfau. Gallwch hefyd ddefnyddio geiriau fel 'Sut...', 'Beth...' ac 'Wrth...' i gyflwyno geiriau gweithredol, er enghraifft: 'Wrth wneud cais am...'.
Brawddegau byr
Mae pobl sydd â rhai anableddau dysgu yn darllen llythyren fesul llythyren - dydyn nhw ddim yn bownsio o gwmpas fel defnyddwyr eraill. Hefyd, dydyn nhw ddim yn deall brawddeg yn gyfan gwbl os yw'n rhy hir.
Gall pobl sydd ag anableddau dysgu cymedrol ddeall brawddegau 5 i 8 gair o hyd yn ddidrafferth. Drwy ddefnyddio geiriau cyffredin gallwn helpu pob defnyddiwr i ddeall brawddegau sydd tua 25 gair o hyd.
Crëwch ffocws ar gyfer corff y cynnwys
Cadwch destun corff eich cynnwys mor benodol â phosibl.
- Peidiwch ag ailadrodd y crynodeb yn y paragraff cyntaf.
- Defnyddiwch y dull -'pyramid ben i waered'. Hynny yw, rhoi’r wybodaeth sydd bwysicaf i'r defnyddiwr ar y brig, gan fynd i lawr i fanylion llai pwysig.
- Torrwch y testun i fyny gydag is-benawdau disgrifiadol. Ond dylai'r testun wneud synnwyr heb yr is-benawdau.
- Ni ddylai paragraffau fod â mwy na 5 brawddeg yr un ynddyn nhw.
- Dylai’r testun gynnwys geiriau allweddol er mwyn i bobl ddod o hyd iddo’n haws wrth chwilio’r we.
Defnyddiwch benawdau
Peidiwch â defnyddio:
- cwestiynau - maen nhw'n anodd i'w blaen-lwytho (hynny yw, rhoi'r wybodaeth bwysicaf yn gyntaf) ac mae defnyddwyr eisiau atebion, nid cwestiynau
- termau technegol, oni bai eich bod eisoes wedi eu hesbonio
- 'cyflwyniad' fel eich adran gyntaf – nid yw defnyddwyr eisiau cyflwyniad, dim ond y wybodaeth bwysicaf
Penawdau ac is-benawdau - lefelau
Defnyddiwch is-benawdau i dorri eich cynnwys i fyny a rhoi strwythur synhwyrol iddo. Mae teitl pob tudalen yn H1 (heading level 1), felly dechreuwch gyda H2 a pheidiwch defnyddio H1 yn eich cynnwys.
O ran penawdau, peidiwch â hepgor lefelau wrth symud o lefel uwch i lefel is, er enghraifft o H2 i H4. Gall pobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin lywio drwy ddefnyddio rhestr o benawdau - a gallai hepgor lefel yn y penawdau wneud hyn yn ddryslyd.
Peidiwch â defnyddio llythrennau bras yn lle defnyddio is-benawdau. Mae hyn yn anhygyrch oherwydd ni fydd darllenydd sgrin yn ei adnabod fel pennawd.
Nid oes angen i chi gael testun rhwng penawdau bob amser. Nid yw cael dim testun rhwng penawdau yn fethiant o ran WCAG (Web Content Accessibility Guidelines), ond weithiau mae ychwanegu testun rhwng penawdau yn ddefnyddiol i roi cyd-destun. Er enghraifft, mae defnyddwyr yn disgwyl mynd o H1, sef tudalen y teitl fel arfer, i H2 heb unrhyw destun esboniadol, ond gall fod yn ddefnyddiol cael cynnwys rhwng H2 a H3 yn enwedig pan nad yw'n glir sut mae'r H3 – a gall fod mwy nag un – yn dilyn o H2.
Gwnewch yn siŵr bod eich is-benawdau wedi’u blaen-lwytho gyda thermau chwilio (hynny yw, geiriau allweddol) - a gwnewch nhw’n rhai gweithredol (digonedd o ferfau).
Penawdau a botymau dechrau
Gwnewch yn siŵr bod botymau dechrau yn dod o dan bennawd priodol. Os yw'r botwm dechrau yn nythu o dan bennawd, rhaid i'r pennawd hwnnw fod yn gysylltiedig â thasg y botwm dechrau (er enghraifft, 'Cofrestrwch ar-lein'). Fel arall ni fydd yn hygyrch. Nid oes angen testun arnoch bob amser rhwng y pennawd a'r botwm dechrau.
Peidiwch â defnyddio ‘Cwestiynau Cyffredin’
Rydyn ni'n annog pobl i beidio â cynnwys ‘Cwestiynau Cyffredin’ oherwydd:
- maen nhw’n dueddol o ddyblygu cynnwys arall ar y safle
- ni ellir eu blaen-lwytho (hynny yw, rhoi'r geiriau pwysicaf y bydd pobl yn chwilio amdanyn nhw’n gyntaf), sy'n gwneud defnyddioldeb yn anodd
- fel arfer nid yw'r cwestiynau’n rhai ‘cyffredin’ ymysg y cyhoedd – maen nhw’n ffordd i sefydliad nodi gwybodaeth bwysig heb lawer o feddwl
- fydd y cynnwys ddim lle mae pobl yn disgwyl iddo fod (mae angen i'r cynnwys fod yn ei gyd-destun)
- maen nhw’n drysu chwiliadau drwy ychwanegu dyblygiadau a thestun ychwanegol at ganlyniadau chwilio
Drwy ysgrifennu cynnwys gan ddechrau gydag anghenion y defnyddwyr, ni fydd angen i chi ddefnyddio ‘Cwestiynau Cyffredin’.
Gall y tîm digidol helpu os yw CNC wir yn derbyn cwestiynau penodol yn aml, felly cysylltwch â ni.
Siaradwch â’r defnyddiwr
Galwch y defnyddiwr yn 'chi' lle bo modd. Mae cynnwys ar y safle yn aml yn galw’n uniongyrchol ar ddinasyddion a busnesau i gymryd rhan neu weithredu - er enghraifft 'Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ac ar e-bost' neu 'Cyflwynwch eich ffurflen adrodd'.
Defnyddio termau technegol
Lle mae angen i chi ddefnyddio termau technegol, gallwch wneud hynny. Nid jargon mo hynny. Does dim ond angen i chi egluro beth maen nhw'n ei olygu y tro cyntaf i chi eu defnyddio.