Cynnig: beth sy'n mynd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae hyn yn rhan o'r llawlyfr cynnwys a chyhoeddi.


Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Tachwedd 2022.

Mae'r cynnig hwn yn esbonio pa wybodaeth a gwasanaethau ddylai fynd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Dyluniwyd y wefan fel nad oes angen i ddefnyddwyr ddeall strwythurau cymhleth ein sefydliad i gael mynediad at wybodaeth neu gyflawni tasg. 

Beth sy'n mynd ar y wefan 

Rhaid i'r cynnwys helpu defnyddwyr i wneud un o'r canlynol: 

  • cwblhau tasg neu drafodiad 
  • deall yr amgylchedd naturiol 
  • ystyried yr amgylchedd naturiol yn eu cynlluniau 
  • cael gwybodaeth at ddiben tryloywder 
  • gweithio i ni 
  • dod o hyd i adnoddau addysg 
  • mwynhau adnoddau naturiol Cymru yn ddiogel ac yn gyfrifol 

1. Cwblhau tasg neu drafodiad

Rydym yn cyhoeddi cynnwys sy'n dweud wrth ddefnyddwyr sut i wneud rhywbeth - fel cwblhau tasg neu drafodiad - neu sy'n gyngor y mae'n rhaid i ni ei ddarparu oherwydd mai ni yw'r rheoleiddiwr. 

Mae'n mynd ar y wefan oherwydd ei fod yn helpu defnyddwyr i gydymffurfio â'r gyfraith. Er enghraifft:  

  • dod o hyd i ddeliwr metel sgrap trwyddedig 
  • gwneud cais am drwydded ddŵr 
  • gweld fy mherygl llifogydd 
  • gwybod a oes angen i mi gofrestru awdurdodiad 
  • gwneud cais am drwydded neu unrhyw awdurdodiad arall

2. Deall yr amgylchedd naturiol

Rydym yn cyhoeddi cynnwys sy'n helpu dinasyddion i ddeall yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys yn ystod digwyddiadau amgylcheddol mawr, gan fod angen i ddefnyddwyr gadw'n ddiogel.

3. Ystyried yr amgylchedd naturiol yn eu cynlluniau

Rydym yn cyhoeddi cynnwys sy'n helpu gweithwyr proffesiynol i ystyried yr amgylchedd yn eu cynlluniau. Mae angen i ddefnyddwyr ddangos eu bod wedi ystyried yr amgylchedd wrth wneud penderfyniadau.

4. Cael gwybodaeth at ddiben tryloywder

Rydym yn cyhoeddi cynnwys sy'n ein helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau o ran tryloywder gan fod angen i ddefnyddwyr wybod sut mae CNC yn gweithio a dwyn CNC i gyfrif.

5. Gweithio i ni

Rydym yn cyhoeddi'r cynnwys hwn gan fod angen i ddefnyddwyr gael swydd a/neu wybod sut brofiad yw gweithio yn CNC.

6. Dod o hyd i adnoddau addysg

Rydym yn cyhoeddi'r cynnwys hwn gan fod angen i ddefnyddwyr ddefnyddio'r wybodaeth wrth addysgu.

7. Mwynhau adnoddau naturiol Cymru yn ddiogel ac yn gyfrifol

Rydym yn cyhoeddi'r cynnwys hwn gan fod angen i ddefnyddwyr wybod sut i werthfawrogi a gofalu am yr amgylchedd, fel y gall eraill wneud hynny hefyd. 
 

Beth sydd ddim yn mynd ar y wefan 

  1. Gwybodaeth sydd eisoes ar y wefan. Rhaid diweddaru'r cynnwys gwreiddiol er mwyn osgoi dryswch i ddefnyddwyr.
  2. Gwybodaeth am bolisïau mewnol CNC. Dylai’r wybodaeth hon fynd ar y fewnrwyd.
  3. Canllawiau ar bolisi Llywodraeth Cymru Mae'n dyblygu cynnwys sydd eisoes ar wefan Llywodraeth Cymru.
  4. Cyngor ar sefyllfa benodol. Mae cynnal a chadw cynnwys yn ddrud ac mae'n ddryslyd i ddefnyddwyr mewn gwahanol sefyllfaoedd. Ystyriwch ofyn i'r tîm cyfathrebu am help.
  5. Cynnwys sy'n dyblygu gwybodaeth sy'n gyfrifoldeb i sefydliadau eraill gan gynnwys:
  • awdurdodau lleol 
  • cynghorau tref a chymuned 
  • awdurdodau parciau cenedlaethol 
  • awdurdodau tân ac achub 
  • byrddau iechyd lleol 
  • ymddiriedolaethau iechyd 
  • cynghorau iechyd cymuned 
  • deiliaid swyddi statudol annibynnol 
  • Llywodraeth Cymru 
  • Llywodraeth y DU 

neu os yw'n bodoli ar wefan arall lle mae sefydliad anllywodraethol mewn sefyllfa well i ddiwallu anghenion y defnyddiwr.  

Nid yw'n mynd ar y wefan oherwydd: 

  • nid yw yng nghylch gwaith CNC
  • mae cynnal a chadw cynnwys yn ddrud 
  • ceir risg pan fo gwybodaeth yn anghyfredol neu'n anghywir 

Gallwn roi dolenni sy’n arwain at y cynnwys hwn yn lle.  

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf