Asesiadau amonia ar gyfer datblygiadau sydd angen trwydded neu ganiatâd cynllunio

Pam rydym yn bryderus ynghylch amonia? 

Gall amonia gael effaith sylweddol ar iechyd dynol a'r amgylchedd. Mae'r rhan fwyaf o allyriadau amonia, er nad pob un, yn dod o amaethyddiaeth (dros 90%) ac maent yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd gerllaw'r man rhyddhau. Mae planhigion sy'n sensitif i amonia wedi esblygu mewn amgylchedd â lefelau isel o faethynnau ac maent yn gallu defnyddio crynodiadau bach o faethynnau.

Pan mae'r planhigion hyn yn dod i gyswllt â lefelau uwch o amonia, nid ydynt yn gallu tyfu ac maent yn tueddu i farw. Mae colli'r planhigion sensitif hyn yn arwain at newid yn y ffordd y mae’r ecosystem yn gweithredu, gan effeithio ar y bwyd sydd ar gael o fewn yr ecosystem honno. O ganlyniad, mae hyn yn cael effaith andwyol ar y we fwyd gyfan, gan arwain at golli rhywogaethau. 

Mae amonia yn nwy adweithiol iawn ac mae'n ffurfio cyfansoddion eraill yn yr aer sy'n troi'n llygryddion i ffwrdd o'r tarddle. Mae hyn yn cynnwys y llygredd a berir gan ddeunydd gronynnol mân iawn sy'n ffurfio mewn ardaloedd trefol o ganlyniad i'r rhyngweithio rhwng ocsidau nitrogen ac amonia.

Beth i'w wneud os yw eich datblygiad yn debygol o ryddhau amonia

Os yw eich datblygiad wedi'i restru isod, neu rydych yn meddwl bod posibilrwydd y gallai ryddhau amonia, yna bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth i'n helpu ni, neu awdurdodau cynllunio, i asesu a all eich datblygiad weithredu heb achosi niwed i'r amgylchedd. 

Bydd y tudalennau hyn yn helpu i'ch tywys drwy'r broses ofynnol ar gyfer darparu'r wybodaeth honno. 

Pa fathau o ddatblygiad sy'n rhyddhau amonia i'r aer? 

Rhestrir y prif fathau o ddatblygiad sy'n rhyddhau amonia isod. Os yw eich math o ddatblygiad chi wedi'i restru yma, rydym yn eich cynghori i ddefnyddio'r arweiniad hwn yn eich cais, rhag peri bod eich cais yn cael ei wrthod.

  • Ffermio dofednod: mae hyn yn cynnwys ieir, twrcïod, ieir gini, hwyaid, gwyddau, soflieir, colomennod, ffesantod a phetris sy'n cael eu magu neu'u cadw'n gaeth ar gyfer eu bridio, ar gyfer cynhyrchu cig neu wyau i’w bwyta, neu ar gyfer ailstocio cyflenwadau o adar hela 
  • Ffermio moch: pob math
  • Ffermio llaeth: pob math
  • Ffermio cig eidion: pob math
  • Treulio anaerobig a gweithgarwch cysylltiedig: storfeydd agored o borthiant a gweddillion treuliad anaerobig (nid oes angen cynnal asesiad o'r peiriant treulio nac o danciau amgaeedig os yw eu cyfaint storio'n llai na'r hyn a restrir yn y meini prawf sgrinio isod)
  • Storfeydd slyri: pob math
  • Defnyddio wrea ar gyfer rhydwytho ocsidau nitrogen: mae hyn ar gyfer tarddleoedd penodol o amonia; nid yw ffactorau allyrru'n addas a rhaid i chi felly fynd yn uniongyrchol i ddefnyddio dull modelu manwl
  • Taenu ar dir: os oes angen i chi gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd neu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, neu fod eich datblygiad yn agos iawn i safle sensitif, yna mae'n rhaid cynnwys taenu ar dir yn yr asesiadau o'r effeithiau

Unwaith y byddwch wedi penderfynu a yw eich datblygiad yn allyrru amonia, yna, gan ddibynnu ar grynodiadau lefel gefndirol, gallwch benderfynu p'un a chynnal asesiad sgrinio ynteu symud yn uniongyrchol i gynnal asesiad sy'n seiliedig ar ddull modelu manwl.

Dull sgrinio neu fodelu manwl?

Mewn rhai ardaloedd o Gymru, mae'r swm o amonia a nitrogen eisoes wedi cyrraedd y lefelau sy'n niweidiol i rai o'r rhywogaethau yn y safleoedd sensitif, neu wedi mynd y tu hwnt iddynt. Os yw'r lefel gefndirol ar y lefel gritigol, neu'n rhagori arni, rhaid i chi wneud gwaith modelu manwl.  

Os yw'r lefel gefndirol o amonia o dan y lefel gritigol, rhaid i chi gynnal asesiad sgrinio. 

Gwerthoedd cefndirol o amonia 

Bydd angen i chi wybod faint o amonia a nitrogen sydd eisoes yn bresennol ar safle sensitif. Adnabyddir y rhain fel y gwerthoedd cefndirol. 

Gallwch ddod o hyd i werthoedd cefndirol o wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth Llygredd Aer.

Beth sy'n digwydd os wyf yn gwella pethau?

Os ydych yn gwneud newidiadau a fydd yn arwain at leihau allyriadau o amonia neu leihau'r perygl o achosi llygredd, nodwch hyn yn glir yn eich cais ac ewch i ‘Ceisiadau sy'n lleihau effaith llygredd neu'n lleihau'r perygl o achosi llygredd’ er mwyn deall yr hyn y bydd angen i chi ei wneud i sicrhau bod gan yr awdurdod lleol ac CNC y wybodaeth gywir er mwyn ystyried hyn. 

Darllenwch Asesiadau o amonia: asesiadau sgrinio a chasglu tystiolaeth cychwynnol

Diweddarwyd ddiwethaf