Storfa silwair, slyri a thail da byw arall

Gadewch i ni wybod

Rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau sylweddol a wnaed i'ch storfa, a hynny o leiaf 14 diwrnod cyn cychwyn unrhyw waith adeiladu.

.

Ffurflen hysbysu cyn-adeiladu ar gyfer storfeydd slyri a silwair

Rhaid i chi ddilyn y rheolau hyn os ydych yn storio silwair neu slyri. Efallai y bydd yn ofynnol i chi lynu wrth y rheolau hyn hefyd yn achos mathau eraill o ddeunydd organig, fel gweddillion treuliad anaerobig.

Mae angen i chi wybod y rheolau cyffredinol sy'n berthnasol os ydych yn storio unrhyw un o'r mathau o dail organig neu silwair a ddiffinnir yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, ynghyd â'r rheolau penodol ar gyfer storio a thrin pob un ohonynt.

Mae cyfnodau trawsnewid ynghlwm wrth fesurau penodol yn y rheoliadau ar hyn o bryd. Gellir cael rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru.

Darllenwch ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr

Ffermydd sydd wedi'u lleoli mewn Parthau Perygl Nitradau a ddynodwyd yn flaenorol

Os yw eich fferm wedi'i lleoli mewn a ddynodwyd yn flaenorol Parth Perygl Nitradau, a ddynodwyd cyn 1 Ebrill 2021, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r gofynion ar unwaith – nid yw'r cyfnodau trawsnewid yn y rheoliadau yn gymwys.

Disodlodd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ofynion y Parthau Perygl Nitradau.

Gallwch wirio a gafodd eich fferm ei dynodi'n NVZ

Rheolau cyffredinol

Pwy sy'n gyfrifol?

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn glynu wrth y rheolau. Mae'r rheolau'n berthnasol i chi os ydych yn rheoli neu'n gofalu am fferm neu osodiad ar safle – fel un o'r canlynol, er enghraifft:

  • ffermwr neu reolwr tir
  • ffermwr tenant – oni bai y gallwch brofi bod rhywun arall, er enghraifft y tirfeddiannwr, yn gyfrifol ar y cyd, neu'n llwyr gyfrifol

Storfa newydd, neu storfa sydd wedi'i newid yn sylweddol

Rhaid sicrhau'r canlynol yn achos storfa newydd, neu storfa sydd wedi'i newid yn sylweddol:

  • ei bod yn cydymffurfio â'r rheolau penodol ar gyfer y sylwedd yr ydych yn ei storio
  • bod ganddi hyd oes disgwyliedig o 20 mlynedd o leiaf, o'i chynnal a'i chadw (rhaid i unrhyw ran o system elifion silwair danddaearol fod wedi'i chynllunio a'i hadeiladu i bara 20 mlynedd o leiaf heb unrhyw waith cynnal a chadw)
  • nad yw o fewn deg metr i unrhyw ddyfroedd mewndirol neu arfordirol, e.e. nentydd, ffosydd, pyllau, neu unrhyw bibellau neu gwlferi
  • nad yw o fewn 50 metr i unrhyw dwll turio, ffynnon neu darddell
  • nad yw o fewn parth gwarchod tarddiad dŵr daear 1 (SPZ1) oni chytunwyd mesurau lliniaru safle penodol â Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n lleihau'r perygl i'r cyflenwad dŵr yfed cymaint â phosib

Lleoliadau sensitif

Mewn lleoliadau sensitif, lle ceir perygl o achosi llygredd i ddŵr daear a dŵr wyneb, bydd angen cynyddu'r pellteroedd isaf y nodir uchod.

Cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru i geisio cyngor

Mae newidiadau sylweddol yn cynnwys cynyddu maint y storfa, neu unrhyw waith sy'n arwain at addasiadau adeileddol, ond nid yw'n cynnwys mân atgyweiriadau. 

Storfeydd sydd wedi’u heithrio

Mae eich gosodiad wedi'i eithrio o'r rheolau ar gyfer storfeydd newydd os cafodd ei adeiladu cyn mis Mawrth 1991, neu y cytunwyd ar gontract adeiladu cyn mis Mawrth 1991, ac y cafodd ei gwblhau cyn mis Medi 1991. Fodd bynnag, os ydych wedi ei newid yn sylweddol, er enghraifft trwy wneud newidiadau adeileddol iddo, cynyddu ei faint, neu ei symud, yna nid yw eich storfa wedi'i heithrio rhag cydymffurfio â'r rheolau mwyach.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd gyflwyno hysbysiad unrhyw bryd sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi sicrhau bod y storfa'n cyrraedd y safonau cyfredol os yw o'r farn bod perygl sylweddol o achosi llygredd i ddyfroedd a reolir.

Cyn i chi ddechrau gwaith

Darganfyddwch ba ganiatadau y bydd angen i chi eu cael. Eich cyfrifoldeb chi yw hyn. Mae angen i chi fod yn glir ynghylch pa waith sydd angen ei wneud, a pha ganiatadau sy'n ofynnol o ba awdurdodau.

Rhaid i chi wirio a fydd angen i chi gael caniatâd cynllunio.

Cyn i chi wneud cais cynllunio neu gyflwyno eich hysbysiad cyn adeiladu, gallwch geisio cyngor rhagarweiniol gennym.

Yn achos lleoliadau sy'n sensitif i allyriadau o amonia i'r aer, sy'n tarddu o storfeydd silwair neu slyri, bydd angen darparu gwybodaeth ychwanegol.

Bydd gofyn i chi gynnal asesiad o lefelau amonia.

Lluniwch gynllun dylunio a'i gyflwyno i ni o leiaf 14 diwrnod cyn i chi ddechrau adeiladu storfa newydd ar gyfer slyri neu silwair, gan gynnwys safleoedd silwair ar gaeau, neu cyn i chi wneud newidiadau sylweddol i storfa sydd eisoes yn bodoli.

Llunio cynllun dylunio a'n hysbysu

Y ffordd orau o ddangos cydymffurfiaeth â gofynion y rheoliadau yw defnyddio pobl sy'n meddu ar gymwysterau priodol (er enghraifft, peiriannydd siartredig) i gynllunio, goruchwylio a dilysu'r gwaith adeiladu ar gyfer pob agwedd ar seilwaith y storfa.

Dylai cynllun dylunio gynnwys y canlynol:

  • cymwysterau pawb sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o lunio'r dyluniad ac a fydd yn goruchwylio ac yn dilysu'r gwaith adeiladu
  • lluniadau o'ch storfa arfaethedig, sy'n dangos lleoliad, dimensiynau a thrawstoriadau'r adeiledd
  • disgrifiad manwl o'r dyluniad, gan gyfeirio at unrhyw asesiadau o sefydlogrwydd
  • manylion ar gyfer y deunyddiau arfaethedig y byddwch yn eu defnyddio i adeiladu'r storfa, gan gynnwys copïau o fanyleb a gwarant y gweithgynhyrchwr, ynghyd ag unrhyw ardystiadau a chanlyniadau profion cydymffurfiaeth sy'n ofynnol gan y canllaw
  • os yw'r adeiledd wedi'i adeiladu o bridd, rhaid cynnwys dadansoddiad o'r math o bridd, ei ddyfnder a'i hydreiddedd, ynghyd â disgrifiad o'r beirianneg y tu ôl i'r gwaith adeiladu
  • yn achos tanciau tanddaearol, neu danciau sy'n rhannol danddaearol, bydd angen i chi gael ardystiad gan y gosodwr – rhaid i chi gyflwyno hwn i Cyfoeth Naturiol Cymru oherwydd y mae angen i'r tanc bara a gweithio am o leiaf 20 mlynedd heb unrhyw waith cynnal a chadw
  • disgrifiad o sut fyddwch yn dilysu bod yr adeiledd wedi'i adeiladu yn unol â'r cynllun dylunio
ERROR: - CTA Title MAX 50 Characters

Rheolau sy'n benodol i silwair

Ceir rheolau penodol y mae'n rhaid i chi eu dilyn ar gyfer gwneud a storio silwair.

Nid yw'r rheolau'n berthnasol i silwair yr ydych yn ei storio dros dro mewn cynhwysydd neu ar drelar er mwyn ei gludo.

Ble i storio silwair

Ni ddylech wneud na thynnu deunydd lapio oddi ar fyrnau o silwair o fewn deg metr i unrhyw ddyfroedd mewndirol neu arfordirol, e.e. nentydd, ffosydd, pyllau, neu unrhyw bibellau neu gwlferi.

Yn ogystal, ni ddylech storio silwair ar gaeau ar safle sydd o fewn 50 metr i ffynhonnell cyflenwad dŵr gwarchodedig neu o fewn parth gwarchod tarddiad dŵr daear 1. Diffinnir y rhain fel mannau y tynnir dŵr oddi wrthynt at unrhyw un o'r dibenion canlynol:

  • i'w ddefnyddio gan bobl
  • i'w ddefnyddio mewn llaethdai ar ffermydd
  • i'w ddefnyddio i baratoi bwyd i bobl

Gofynnwch i ni ynghylch ffynonellau cyflenwad dŵr gwarchodedig neu barthau gwarchod tarddiad dŵr daear

neu

Gallwch ddod o hyd i fanylion am barthau gwarchod tarddiad dŵr daear ar wefan Lle

Seilos

Dylai fod gan eich seilo'r nodweddion canlynol:

  • sylfaen anathraidd sy'n ymestyn y tu hwnt i unrhyw furiau
  • sianeli anathraidd o gwmpas y tu allan, y maent yn llifo i mewn i danc elifiant, ar gyfer casglu dŵr draenio
  • rhaid i bob rhan o seilo allu gwrthsefyll ymosodiad gan yr elifion silwair

Mae'n rhaid i'r sylfaen gydymffurfio â:

  • BS EN 1992-1-1:2004+A1:2014 Eurocode 2: Dyluniad adeileddau concrit (ar gyfer sylfeini concrit)
  • BS EN 1992-3:2006 Eurocode 2: Dyluniad adeileddau concrit (adeileddau sy'n cynnal ac yn cynnwys hylif)
  • BS EN 13108-4:2016 Cymysgeddau bitwminaidd. Manylion deunyddiau. Asffalt a rolir yn boeth (ar gyfer sylfeini asffalt a rolir yn boeth)

Os oes gan eich seilo furiau, mae'n rhaid iddynt allu gwrthsefyll y llwythau mur a bennir yn Safon Brydeinig 5502-22:2003+A1:2013.

Er mwyn sicrhau bod eich dyluniad a'ch gwaith adeiladu'n bodloni'r safonau gofynnol hyn, dylech geisio cadarnhad ysgrifenedig gan y gosodwr neu'r gweithgynhyrchwr, neu wirio'r llawlyfr a ddaeth gyda'ch cyfarpar.

Tanciau elifiant

Rhaid i'ch seilo gynnwys system casglu elifion.

Os yw pob rhan o danc elifion uwchben lefel y ddaear, rhaid i’r tanc fod wedi'i adeiladu i wrthsefyll ymosodiad gan elifion am o leiaf 20 mlynedd gyda gwaith cynnal a chadw. Os yw unrhyw ran ohono o dan lefel y ddaear, mae'n rhaid iddo barhau i fod yn anathraidd am o leiaf 20 mlynedd heb unrhyw waith cynnal a chadw. Bydd yn ofynnol i chi brofi bod eich tanc yn addas, er enghraifft trwy gyflwyno gwarant gan y gweithgynhyrchwr.

Gallwch storio elifion silwair a slyri gyda'i gilydd os yw eich tanc yn ddigon mawr a'i fod wedi'i adeiladu i wrthsefyll y ddau fath o elifiant. Fodd bynnag, gall cymysgu elifion silwair gyda slyri ryddhau nwyon sy'n angheuol i bobl a da byw, ac ni ddylech byth rhoi elifion silwair mewn storfa slyri danddaearol.

Gallu storio

Dylai'r rheolau ar gyfer y gallu storio lleiaf ar gyfer tanciau elifion roi lwfans storio o ddau ddiwrnod o leiaf i chi, ar frig y llif. Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod digon o allu storio gennych i osgoi'r perygl o achosi llygredd. Os yw dŵr glaw hefyd yn casglu yn y tanc elifion silwair, rhaid ei gyfrif yn y gallu storio.

Gallu storio seilos Gallu storio lleiaf ar gyfer tanciau elifion

Hyd at 1,500 metr ciwbig

20 litr ar gyfer pob metr ciwbig

Dros 1,500 metr ciwbig

30 metr ciwbig, ynghyd â 6.7 litr fesul pob metr ciwbig o allu storio'r seilo dros 1,500 metr ciwbig

Silwair wedi'i fyrnu

Rhaid sicrhau bod silwair wedi'i selio mewn pilen anathraidd neu ei fod mewn bagiau. Nid oes angen sylfaen a adeiladwyd yn benodol ar gyfer storio silwair, ond dylech sicrhau nad yw unrhyw silwair a storir ar y llawr yn arwain at ryddhau elifion sy'n achosi llygredd i ddŵr wyneb neu ddŵr daear.

Ni ddylid storio silwair wedi'i fyrnu o fewn deg metr o unrhyw ddŵr wyneb neu ddyfroedd arfordirol.

Silwair cae a silwair heb ei fyrnu mewn bagiau

Er mwyn storio silwair fel ‘silwair cae’, ni ddylai fod unrhyw waith adeiladu, e.e. waliau neu gloddiau pridd, ac ni ddylid amharu ar uwchbridd.

Os ydych yn gwneud silwair cae neu silwair heb ei fyrnu mewn bagiau, mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • dewis safle addas, gan sicrhau ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol: llethr, hydreiddedd y pridd, y perygl o achosi llygredd i ddŵr wyneb, dŵr daear neu safleoedd gwarchodedig, e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • bod y safle o leiaf deg metr o unrhyw ddyfroedd mewndirol neu arfordirol, e.e. nentydd, ffosydd, pyllau, neu unrhyw bibellau neu gwlferi
  • bod y safle o leiaf 50 metr o'r pwynt tynnu dŵr agosaf ar gyfer ffynhonnell cyflenwad dŵr gwarchodedig, y gallai unrhyw elifion silwair ffo fynd iddo
  • nad yw'r safle o fewn parth gwarchod tarddiad dŵr daear 1 oni chytunwyd mesurau lliniaru â Cyfoeth Naturiol Cymru
  • eich bod yn rhoi rhybudd o 14 diwrnod o leiaf i Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i chi ddefnyddio'r safle am y tro cyntaf (dolen i'r ffurflen ddiwygiedig)

Rheolau sy'n benodol i slyri

Diffinnir slyri fel deunydd hylifol neu led-hylifol sy'n cynnwys y canlynol:

  • tail a gynhyrchir gan dda byw (heblaw dofednod) mewn iard neu adeilad (gan gynnwys tail a geir mewn corlannau dan sglodion coed); neu
  • gymysgedd sy'n cynnwys yn gyfan gwbl neu'n bennaf dail da byw, deunydd gorwedd da byw, dŵr glaw, a golchion o adeilad neu iard a ddefnyddir gan dda byw sydd o dewdra sy'n caniatáu iddo gael ei bwmpio neu ei ollwng trwy ddisgyrchiant ar unrhyw gam o'r broses drin.

Ceir rheolau penodol ar gyfer storio slyri y mae'n rhaid i chi lynu wrthynt, yn enwedig yn achos storfeydd â chloddiau pridd.

Diffinnir unrhyw hylif ffo o storfeydd tail â muriau diferu, storfeydd tail solet, corlannau dan sglodion pren neu â deunydd gorwedd o wellt, neu o iardiau llocio da byw fel slyri.

Mae'n rhaid i chi gasglu unrhyw slyri mewn storfa neu storfeydd sydd wedi'u hadeiladu'n briodol.

Nid yw'r rheolau'n berthnasol i slyri yr ydych yn ei storio dros dro mewn cynhwysydd neu drelar yn barod ar gyfer ei gludo.

Ble i storio slyri

Ni ddylech leoli unrhyw ran o'ch system storio slyri (tanciau, tanciau elifion, sianeli neu bydewau derbyn) o fewn:

  • 10 metr i ddyfroedd mewndirol neu arfordirol
  • 50 metr i unrhyw dwll turio, ffynnon neu darddell
  • parth gwarchod tarddiad dŵr daear 1

oni bai fod mesurau lliniaru penodol i'r safle, sy'n lleihau'r risg o lygredd i ddŵr, wedi'u cytuno'n ysgrifenedig â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Pob storfa slyri

Rhaid i danciau slyri, pydewau derbyn, pibellau a sianeli fod yn anathraidd a bodloni'r safonau gwrthgyrydu a bennir yn Safon Brydeinig 5502-50:1993+A2:2010. Dylent bara am o leiaf 20 mlynedd gyda gwaith cynnal a chadw.

Rhaid i sylfaen a muriau eich tanc slyri, ac unrhyw bydew derbyn, allu gwrthsefyll y llwythau mur a bennir yn y safon.

Mewn rhai amgylchiadau, bydd y canlynol hefyd yn ofynnol gan CNC:

  • bod gorchuddion arnofiol neu orchuddion llawn wedi'u cynnwys er mwyn cyfyngu ar yr amonia a ryddheir. Gallai'r gofyniad hwn gael effaith ar eich dewis neu gyfyngu ar faint y storfa
  • mesurau storio eilaidd ar gyfer lleoliadau â risg uchel

Gallu storio

Wrth gyfrifo gallu storio gofynnol eich storfa ddur neu goncrit, bydd angen i chi gynnwys bwrdd rhydd o 300 milimetr o leiaf. Yn achos storfeydd â chloddiau pridd, bydd angen i chi sicrhau bod bwrdd rhydd o 750 milimetr o leiaf, a bydd yn rhaid i chi gynnal y bwrdd rhydd hwn wrth ddefnyddio'r storfa. Y bwrdd rhydd yw'r pellter fertigol rhwng brig eich tanc, neu'r pwynt isaf ar glawdd eich lagŵn, ac wyneb y slyri.

Bydd angen i chi gael digon o allu storio i ddarparu ar gyfer yr holl slyri a gynhyrchir a dŵr glaw halogedig ar gyfer y cyfnodau storio a ddiffinnir yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, sef pum mis ar gyfer gwartheg a chwe mis ar gyfer moch a dofednod.

Bydd effaith hyn arnoch yn dibynnu ar y canlynol:

  • pryd a ble rydych yn defnyddio'ch slyri
  • faint o allu storio sydd ar gael ar ddechrau'r cyfnod storio, h.y. sut rydych yn defnyddio'ch slyri cyn dechrau'r cyfnod storio
  • maint eich tanciau a'r glawiad a ragolygir dros y cyfnod storio

Mae data am y glawiad cyfartalog (1 Hydref i 31 Mawrth) ar gael drwy borth mapio MapDataCymru gan Lywodraeth Cymru, sy'n seiliedig ar gyfnod pennu cyfartaledd y Swyddfa Dywydd rhwng 1981 a 2010. Ffigurau glawiad cyfartalog (1 Hydref i 31 Mawrth) | MapDataCymru (llyw.cymru). Darperir y data ar grid 1 km er mwyn adlewyrchu daearyddiaeth eang Cymru ac i ddarparu data lleol.

Os ydych mewn ardal sydd â glawiad sydd uwchlaw'r cyfartaledd, bydd angen mwy o allu storio arnoch. Siaradwch â swyddog o Cyfoeth Naturiol Cymru neu ymgynghorydd os nad ydych yn siŵr faint o allu storio y bydd ei angen arnoch.

Os ydych yn gweithredu gyda llai o allu storio na'r hyn sy'n ofynnol, gall Cyfoeth Naturiol Cymru wrthod derbyn eich cynnig.

Rhaid sicrhau bod unrhyw gyfleusterau storio dros dro sydd gennych – fel pydew derbyn – yn ddigon mawr i storio cyfuniad o'r slyri a gynhyrchir a'r glawiad tebygol ar gyfer dau ddiwrnod o leiaf.

Pibellau draenio o storfa slyri

Os oes gan eich tanc slyri, tanc elifion neu bydew derbyn bibell ddraenio, rhaid sicrhau bod ganddi ddau falf â phellter o un metr o leiaf rhyngddynt. Dylai pob falf allu diffodd llif y slyri a'i bod yn bosibl eu cloi pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

Yr eithriad i'r rheol hon yw os yw eich tanc slyri yn draenio trwy'r bibell i danc arall sydd ar yr un lefel ac sydd naill ai o'r un faint neu'n fwy.

Storfeydd slyri â chloddiau pridd

Rhaid sicrhau bod storfa â chloddiau pridd wedi'i adeiladu â phridd anathraidd i drwch o un metr o leiaf er mwyn ffurfio rhwystr effeithiol rhag gollyngiadau. Efallai y bydd angen i chi drefnu dadansoddiad mewn labordy a chael cadarnhad gan beiriannydd sifil bod eich pridd yn addas. Fel arall, gallwch fewnforio pridd anathraidd addas neu leinio'r storfa â deunydd synthetig.

Er mwyn iddynt fod yn addas yn y man a'r lle, mae'n rhaid bod gan briddoedd (a phriddoedd cywasgedig sy'n ffurfio'r haen leinio) hydreiddedd o 1 x 10-9 metr fesul eiliad (0.000001 mm fesul eiliad). Dylid cynnal profion yn unol â BS EN ISO 17892-11:2019 neu BS EN 1997-2:2007.

Ceir canllawiau pellach ar sut i asesu addasrwydd lleoliad ar gyfer lagŵn â chloddiau pridd yn y ddogfen C759F, ‘Livestock manure and silage storage infrastructure for agriculture’, gan CIRIA. CIRIA C759F

Storfeydd â muriau diferu

Rhaid sicrhau bod sylfaen storfa â muriau diferu yn ymestyn y tu hwnt i'w muriau a'i bod yn cynnwys draeniau ar hyd ei pherimedr sy'n ddigon llydan i gynnwys yr holl slyri sy'n draenio o'r storfa, y mae'n rhaid sicrhau ei fod yn llifo i system slyri sydd wedi'i dylunio a'i hadeiladu i fodloni gofynion y rheoliadau.

Ar ôl adeiladu eich storfa silwair neu slyri

Cyn defnyddio'ch siop, dylech ddarparu adroddiad ysgrifenedig i CNC i ddangos ei bod wedi'i hadeiladu yn unol â'r cynllun dylunio y gwnaethoch ei gyflwyno gyda'ch hysbysiad cyn adeiladu (dolen i'r ffurflen) a'i bod yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol. Mae'r adroddiad dilysu hwn yn darparu’r manylion adeiladu a pheirianyddol ‘fel y'i hadeiladwyd’ terfynol ar gyfer seilwaith y storfa. Rhaid iddo fod wedi'i lofnodi gan unigolyn cymwys sy'n meddu ar gymwysterau priodol (peiriannydd siartredig, er enghraifft).

Rhaid sicrhau bod y cadarnhad ysgrifenedig hwn yn cynnwys y canlynol:

  • tystiolaeth y cafodd y cynllun dylunio ei ddilyn
  • cyfiawnhad ar gyfer unrhyw newidiadau neu wyro oddi wrth y cynllun dylunio gwreiddiol
  • lluniau o'r adeiledd wedi'i gwblhau, gan gynnwys lluniau yn ystod y broses adeiladu yn achos lagwnau â chloddiau pridd
  • copïau o unrhyw gofnodion dyddiol gan beiriannydd y safle
  • cofnodion o'r holl ganlyniadau prawf a gafodd eu cyflawni, gan ddangos cydymffurfiaeth â'r safonau gofynnol
  • unrhyw wybodaeth benodol i'r safle perthnasol arall er mwyn profi cyfanrwydd yr adeiladwaith

Camau gweithredu posibl yn dilyn achos o fynd yn groes i'r rheoliadau

Os ceir cadarnhad o fynd yn groes i reoliadau, cymerir camau gweithredu yn unol â pholisi a gweithdrefnau gorfodi ac erlyn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r camau gweithredu posibl yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr achos o fynd yn groes i'r rheoliadau ac ar yr effaith ar yr amgylchedd. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • cyngor ar ddatrys achos bach o fynd yn groes i reoliadau
  • llythyr rhybuddio sy'n nodi'r achos o fynd yn groes i reoliadau, y gellir ei ystyried yn achos arall o fynd yn groes i reoliadau yn y dyfodol
  • hysbysiad cyfreithiol
  • rhybuddiad ffurfiol
  • erlyniad

Os cewch eich erlyn a'ch dyfarnu'n euog, naill ai yn Llys yr Ynadon neu yn Llys y Goron, gallech wynebu dirwy ddiderfyn. 

Os ydych yn hawlio taliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol neu unrhyw Raglen Datblygu Gwledig, rhaid i chi hefyd lynu wrth safonau traws-gydymffurfiaeth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), gan gynnwys y cyflyrau amaethyddol ac amgylcheddol da, sydd â'r nod o ddiogelu dŵr wyneb a dŵr daear rhag llygredd.

Bydd cydymffurfiaeth â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ffurfio rhan o'r trefniadau arolygu traws-gydymffurfiaeth.

Bydd yn rhaid i chi gydymffurfio â'r rheoliadau er mwyn cael yr hawl i dderbyn y taliad llawn. Gallai methu â chydymffurfio arwain at ddidyniadau.

Os cyflwynir rhybudd i chi

Mewn achosion lle mae CNC o'r farn y ceir perygl sylweddol o achosi llygredd i ‘ddyfroedd a reolir’, gallwn gyflwyno rhybudd i chi sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi gymryd camau i wella gosodiadau sydd eisoes yn bodoli. (Gall hyn gynnwys safleoedd silwair cae a gosodiadau sydd “wedi’u heithrio” fel arall.)

Mae'n rhaid i'r camau sy'n ofynnol gan y rhybudd fod yn briodol i'r dasg o leihau, cymaint ag sy'n bosibl, unrhyw berygl sylweddol o achosi llygredd i ddŵr wyneb neu ddŵr daear (er enghraifft, gofyniad i sicrhau bod maint y storfeydd slyri yn ddigonol).

Bydd gennych 28 diwrnod i gydymffurfio â'r rhybudd.

Gallwn ymestyn y cyfnod hwn er mwyn ystyried yr amser y mae'n ei gymryd, er enghraifft, i gael caniatâd cynllunio, i drefnu i gontractwyr wneud y gwaith, ac i gynllunio ar gyfer y tywydd neu amodau'r safle.

Sut i apelio

Efallai y byddwch am apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn rhybudd a gyflwynwyd i chi gan CNC.

Os byddwch am apelio yn erbyn rhybudd a gyflwynwyd gennym, bydd yn rhaid gwneud hynny o fewn 28 diwrnod o'r diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd y rhybudd ei gyflwyno.

Mae gennych chi ac CNC hawl i wneud cais am wrandawiad llafar gan yr unigolyn a benodwyd i benderfynu canlyniad eich apêl.

Dylid anfon apeliadau yng Nghymru i'r cyfeiriad canlynol:

Is-adran Amaethyddiaeth a Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru

Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR

ac anfon copi i Cyfoeth Naturiol Cymru i'r cyfeiriad a nodwyd ar y rhybudd.

Penderfyniadau ynghylch apeliadau

Os bydd apêl yn llwyddiannus, gellir tynnu'r rhybudd yn ôl neu ei addasu, neu gellir ymestyn y cyfnod cydymffurfiaeth. Os, yn dilyn yr apêl, na thynnir y rhybudd yn ôl ac na chaiff y cyfnod cydymffurfiaeth ei ymestyn, ystyrir bod y cyfnod cydymffurfiaeth yn dod i ben ar ddyddiad penderfyniad yr apêl, oni bai fod Gweinidogion Cymru'n penderfynu ymestyn y cyfnod cydymffurfiaeth. Gallai Gweinidogion Cymru ystyried, wrth benderfynu p'un a ddylid ymestyn y cyfnod cydymffurfiaeth, p'un a fydd yn rhesymol, yn ddichonadwy, neu'n ymarferol i'r hawlydd gydymffurfio â'r penderfyniad cyn gynted ag y mae wedi'i gyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf