Grwpiau Pysgodfeydd Lleol

Mae gennym naw grŵp pysgodfeydd lleol yng Nghymru (Gwy, Wysg, Taf, Gŵyr, Gorllewin Cymru, De Ceredigion, Gogledd Ceredigion, Gwynedd, a Dyfrdwy a Chlwyd). Fel arfer, mae'r grwpiau anstatudol hyn yn cwrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn.

Diben Grwpiau Pysgodfeydd Lleol

  • Gweithredu fel dolen gyswllt â physgodfeydd a chyrff pysgota cynrychiolaidd ac unigolion ar reoli pysgodfeydd, gorfodi a materion cysylltiedig
  • Darparu fforwm er mwyn cyfnewid gwybodaeth am reoli pysgodfeydd
  • Cywain barn a chyngor gan aelodau'r grŵp ynghylch rheoli pysgodfeydd a materion cysylltiedig
  • Ystyried effaith ecolegol, fiolegol ac economaidd materion newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg sy'n effeithio ar ein pysgodfeydd
  • Cynyddu ymwybyddiaeth yn y gymuned pysgodfeydd ac ymhlith grwpiau eraill â diddordeb ynghylch datblygu adnoddau pysgodfeydd a rhannu arfer da
  • Hwyluso gwaith partneriaeth

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Papur Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru Cyfeiriad Strategol y Polisi Amaethyddol a gwaith is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol ar amaethyddiaeth PDF [121.2 KB]
Cynigion rheoli pysgota 16-03-18 (Saesneg yn unig) PDF [185.1 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf