Setiau data ecoleg forol ar gyfer datblygiadau morol
Os oes angen data ecoleg morol cyfredol arnoch er mwyn cyflwyno cais am ddatblygiad neu weithgaredd arfaethedig, rydym yn argymell eich bod yn cychwyn gyda'r data hwn.
Mae'r data'n debygol o fod fwyaf defnyddiol yn ystod cyfnod cwmpasu unrhyw broses asesu ecolegol y mae angen i chi ei chynnal. Gall eich helpu i wneud y canlynol:
- deall pa ddata ecolegol sydd ar gael ar gyfer yr ardal ddaearyddol sy’n berthnasol i'ch cynnig
- deall pa gynefinoedd a rhywogaethau morol sy'n bresennol a'r derbynyddion a chyfyngiadau amgylcheddol posib i'ch datblygiad neu weithgaredd arfaethedig
- cynllunio unrhyw arolygon ecolegol y mae'n rhaid i chi ymgymryd â hwy
- dylunio rhaglen fonitro ar gyfer eich datblygiad neu weithgaredd arfaethedig
Sut i wirio perthnasedd y data
Bydd perthnasedd y data hwn yn dibynnu ar raddfa, natur a lleoliad eich datblygiad neu weithgaredd arfaethedig, yn ogystal â'r pwysau sy'n codi o'i herwydd a'r effaith debygol ar dderbynyddion ecolegol.
Mae'r holl ddata wedi cael ei gasglu dros amrywiaeth o amserlenni ac fel rhan o raglenni caffael data amrywiol. Mae peth o'r data a'r setiau data yn dod o arolygon neu gofnodion sy'n gyfyngedig o ran amser neu'n rai untro, ac mae eraill yn gydrannau rhaglenni goruchwylio a monitro parhaus.
Bydd y metadata ac unrhyw wybodaeth ategol sy'n gysylltiedig â phob un o'r setiau data yn helpu i esbonio pam a sut cafodd y data ei gasglu, pryd cafodd ei gasglu, a'r hyn mae'n ymdrin ag ef. Dylech wirio hyn er mwyn helpu i ddeall perthnasedd a defnyddioldeb y setiau data a nodir ar gyfer eich gofynion penodol.
Setiau data ecoleg forol allanol allweddol
Dyma'r setiau data ecoleg forol allanol allweddol:
- NBN Atlas Cymru
- Porth y Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylcheddol Morol (MEDIN)
- Porth data Llywodraeth Cymru MapDataCymru
- Adroddiadau a mapiau ar gyfer Erthygl 17 o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
- Cronfa ddata'r Cofnodwr Morol
Data benthig
Data sylfaenol a nodweddu gwely'r môr
Data tarddle penodol yn bennaf yw’r data hwn o samplau cipolwg, creiddiau, arolygon deifio, fideos gostwng a sefydlog, ac arolygon rhynglanwol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn casglu ac yn defnyddio ffurfiau eraill ar ddata, gan gynnwys data mapio acwstig fel sonar sganio o’r ochr ac aml-belydr.
Gall y data tarddle penodol gynnwys y canlynol:
- cofnodion rhywogaethau
- helaethrwydd rhywogaethau
- data cynefinoedd ffisegol, gan gynnwys data maint gronynnau ar gyfer samplau gwaddodion
- disgrifiadau o gynefinoedd
- cofnodion biotop (sy'n deillio o'r data ar rywogaethau a chynefinoedd ffisegol ar gyfer man samplu)
Gweler data arolygon tarddle penodol o wely'r môr yng nghronfa ddata'r Cofnodwr Morol. Gallwch hefyd weld data tarddle penodol ar NBN Atlas Cymru, ond gall hwn fod ar gydraniad mwy bras. Os oes angen data sensitif ar gydraniad gofodol manylach, bydd angen i chi ofyn amdano gan ddeiliad y data.
Map arolwg o gynefinoedd rhynglanwol
Gweler y set ddata System Gwybodaeth Ddaearyddol ar gyfer map cyflawn o gynefinoedd rhynglanwol yng Nghymru. Mae peth o’r data wedi cael ei dynnu o'r set ddata yn unol â'n canllawiau gweithredol ar ddata ecolegol, sy'n rhoi cyfyngiad ar y cydraniad gofodol y gellir rhyddhau rhai data ar rywogaethau. Gallwch ofyn am y set ddata lawn o gynefinoedd rhynglanwol gennym ni.
Porwch drwy gatalog ein llyfrgell am ragor o adroddiadau sy'n ymwneud â'r arolwg rhynglanwol.
Data morfeydd heli
Rydym yn casglu data monitro ar forfeydd heli i wneud y canlynol:
- asesu cyflwr nodweddion o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dan ofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd
- fel rhan o asesiadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer cyrff dŵr aberol ac arfordirol
Porwch drwy gatalog ein llyfrgell am adroddiadau ar forfeydd heli.
Mae setiau data defnyddiol eraill sy'n ymwneud â morfeydd heli yn cynnwys y canlynol:
- Mapiau cynefinoedd llystyfiant cenedlaethol ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
- Mapiau dangosol ar gyfer cynefinoedd morfeydd heli Atodiad I sy'n nodweddion Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a ddynodwyd dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd drwy wefan MapDataCymru
- Mapiau Erthygl 17 o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, sy'n darparu'r casgliad diweddaraf o ddata gofodol ar gyfer cynefinoedd morfeydd heli Atodiad I
Monitro morfeydd heli dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Gall graddau morfeydd heli yn y data hwn amrywio. Gallai hyn fod oherwydd y canlynol:
- y diben y lluniwyd y map ar ei gyfer
- y dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu’r data a llunio’r map
- a yw'r mapiau'n cynnwys llystyfiant aberol fel glaswelltiroedd gorlif
- y dyddiad y casglwyd y set ddata ar gyfer y map – cynefin deinamig yw morfa heli ac mae disgwyl i’w maint a chymunedau newid dros amser
Chwiliwch am gofnodion o rywogaethau morfeydd heli gan ddefnyddio Online Atlas of the British and Irish Flora ac NBN Atlas Cymru.
Monitro o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd
Rydym yn casglu data monitro ar gynefinoedd a rhywogaethau morol i asesu cyflwr safleoedd a nodweddion morol.
Dewch o hyd i wybodaeth am safleoedd monitro, cynefinoedd a rhywogaethau, lleoliadau arolygon sonar sganio o’r ochr, a metadata am y gwaith hwn ar borth MEDIN.
Porwch drwy gronfa ddata'r Cofnodwr Morol ar gyfer rhagor o ddata monitro benthig.
Monitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Mae asesiadau ecolegol morol yn ffurfio rhan o’n rhaglen fonitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Gweler mapiau sy'n dangos asesiadau statws y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr ar gyfer cyrff dwr yng Nghymru ar Arsylwi Dŵr Cymru. Gellir cael mynediad iddynt hefyd drwy borth data Llywodraeth Cymru MapDataCymru.
Mae elfennau morol ein rhaglen fonitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn canolbwyntio ar gyrff dŵr aberol ac arfordirol. Gofynnwch am setiau data unigol gan unrhyw waith monitro a gynhaliwyd gennym o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr ar ddyfroedd aberol ac arfordirol. Mae'r elfennau yr ymdrinnir â hwy gan ein gwaith monitro biolegol ar ddyfroedd aberol ac arfordirol yng Nghymru'n cynnwys y canlynol:
- Infertebratau benthig
- Macroalgâu
- Angiosbermau
- Angiosbermau – morfa heli
- Pysgod
- Ffytoplancton
Ceir monitro cadw gwyliadwriaeth o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr hefyd o achosion o imposex mewn gwichiaid moch. Mae lluniau o'r awyr ar gael ar gyfer monitro algâu manteisgar, morwellt a morfeydd heli.
Rydym yn casglu data biolegol, ffisio-gemegol, hydromorffoleg ac ar lygryddion yn unol â'r canllawiau Monitro dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Gweler gwybodaeth dechnegol fanwl am safonau monitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Mapiau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd o nodweddion cynefinoedd morol Atodiad I
Gweler mapiau nodweddion cynefinoedd morol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (fel y'u restrir dan Atodiad I o Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE) yng Nghymru gan ddefnyddio Lle. Mae'r rhain yn darparu maint sylfaenol dangosol y nodweddion ar yr adeg dynodi ac maent ond yn cael eu diweddaru pan fydd data newydd y gellir rhoi hyder digonol ynddo ar gael.
Nid yw'r mapiau o nodweddion dangosol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yr un peth â'r mapiau a ddefnyddir ar gyfer adrodd o dan Erthygl 17 (MapDataCymru). Dylech ddefnyddio'r mapiau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig i asesu effaith bosibl eich datblygiad neu weithgaredd arfaethedig ar nodweddion cynefin Ardal Cadwraeth Arbennig. Er mwyn gwneud hyn, dylech gyfeirio hefyd at ein pecynnau cyngor cadwraeth ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol Cymru. Mae'r pecynnau cyngor cadwraeth hefyd yn cynnwys gwybodaeth am rywogaethau arferol sy'n gysylltiedig â chynefinoedd dynodedig.
Gweler ein cyngor ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol trawsffiniol (Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Dyfrdwy ac Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Hafren).
Porwch drwy ein cynlluniau rheoli craidd a mapiau cryno o safleoedd ar gyfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig eraill (nid ydynt i gyd yn forol) sy'n cynnwys nodweddion morfa helo Atodiad I (Ardal Cadwraeth Arbennig Morfa Heli Arfordir Ynys Môn ac Ardal Cadwraeth Arbennig Cynffig.
Mapiau o nodweddion cynefinoedd ar gyfer adrodd o dan Erthygl 17 o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd
Gwelwch a lawrlwythwch fapiau o nodweddion cynefinoedd MapDataCymru sy'n ymwneud ag Erthygl 17 o Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE. Dyma giplun o'r data gofodol diweddaraf ar nodweddion ar adeg adrodd, y tu mewn a'r tu allan i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Cânt eu hadolygu a'u diweddaru fel rhan o gylchred adrodd bob chwe blynedd.
Porwch drwy adroddiadau a mapiau nodweddion ar lefel y DU y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Gall cynefinoedd a rhywogaethau morol rhynglanwol yng Nghymru gael eu diogelu fel nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Rhagor o wybodaeth am nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig unigol.
Parth Cadwraeth Morol Sgomer
Rydym yn casglu data monitro ar gyfer Parth Cadwraeth Morol Sgomer i ddarparu'r dystiolaeth y mae ei hangen i adrodd ar ei gyflwr. Mae hefyd yn cyfrannu at asesu cyflwr a statws cadwraeth Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro, y mae'r Parth Cadwraeth Morol oddi fewn iddi. Gweler yr adroddiad statws prosiect diweddaraf ar gyfer Parth Cadwraeth Morol Sgomer.
Cynefinoedd a rhywogaethau a ddiogelir dan ddeddfwriaeth arall
Rydym yn casglu ac yn cynnal data ar gynefinoedd a rhywogaethau morol sydd wedi'u rhestru dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 neu sydd wedi'u dynodi fel rhai sydd dan fygythiad ac yn dirywio dan Gonfensiwn OSPAR.
Gan ddefnyddio DataMapWales, gwelwch ar haenau map rhyngweithiol rhai cynefinoedd a rhywogaethau Adran 7 ac OSPAR. Mae haenau data unigol mewn setiau data cynefinoedd a rhywogaethau'n dynodi a yw cynefin neu rywogaeth wedi'i chynnwys yn Adran 7 a/neu ar restr OSPAR o gynefinoedd neu rywogaethau sydd dan fygythiad neu sy'n dirywio. I rai cynefinoedd, mae yna haenau data polygon a phwynt.
Gweler mapiau cynefinoedd a rhywogaethau OSPAR EMODnet ar gyfer Ewrop yn ei chyfanrwydd.
Dewch o hyd i gofnodion rhywogaethau a chynefinoedd Cymru ar NBN Atlas Cymru NBN Atlas Cymru.
Rhywogaethau estron goresgynnol
Chwiliwch am gofnodion rhywogaethau estron goresgynnol y deuir o hyd iddynt ac yr adroddir amdanynt yn nyfroedd Cymru ar y porth rhywogaethau estron goresgynnol. Mae'r porth yn ategu Porth Gwybodaeth am Rywogaethau Estron Prydain Fawr.
Ffynonellau data ychwanegol
Gwelwch a lawrlwythwch fapiau cynefinoedd a goladwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae'r mapiau'n cael eu safoni drwy eu trosi i system dosbarthu cynefinoedd EUNIS a’u fformatio yn unol â Fformat Cyfnewid Data Cynefinoedd Trosiedig Cynefinoedd Gwely'r Môr y Rhwydwaith Arsylwi a Data Morol Ewropeaidd (EMODnet).
Map cyflawn a rhagfynegol o gynefinoedd gwely'r môr ar raddfa eang yn nyfroedd y DU yw UKSeaMap 2018, wedi'i lunio drwy gyfuno modelau lluosog o baramedrau ffisegol. Mae EUSeaMap 2016 yr un peth ond ar gyfer dyfroedd Ewrop.
Set ddata System Gwybodaeth Ddaearyddol sy’n cwmpasu pob rhan o’r DU yw Map Cynefinoedd Gwely'r Môr Lefel 3 EUNIS ac mae'n darparu gwybodaeth gyflawn am gynefinoedd islanwol yn y DU. Mae'n integreiddio data o arolygon maes a model cynefinoedd rhagfynegol ar raddfa eang (UKSeaMap).
Gweler Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru a gweddill y DU ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae modd gweld enwau safleoedd unigol drwy glicio ar Ardal Forol Warchoedig ar haen y map rhyngweithiol. Gallwch hefyd weld rhai nodweddion dynodedig drwy ddewis yr haenau perthnasol.
Mamaliaid morol
Atlas Mamaliaid Morol Cymru
Mae Atlas Mamaliaid Morol Cymru yn cynnwys adroddiadau a mapiau o ddosbarthiad mamaliaid morol ac achosion o’u gweld. Mae'n ymwneud â'r chwe rhywogaeth fwyaf cyffredin y deuir o hyd iddynt yn nyfroedd Cymru (llamidyddion, dolffiniaid trwynbwl, dolffiniaid cyffredin, dolffiniaid Risso, morfilod pigfain a morloi llwyd). Porwch drwy gatalog ein llyfrgell am yr adroddiad ar fapiau o'r prosiect hwn.
Morfilod
Monitro dolffiniaid trwynbwl a llamidyddion
Gweler ein data monitro dolffiniaid trwynbwl o Fae Ceredigion 2014–2016.
Gweler ein hadroddiad monitro dolffiniaid trwynbwl mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer Bae Ceredigion a Phen Llŷn a'r Sarnau 2011–2013. Mae hyn hefyd yn cynnwys data digwyddol ar achosion o weld llamidyddion.
Dyma adroddiadau allweddol eraill:
- Abundance and Life History Parameters of Bottlenose Dolphin in Cardigan Bay: Monitoring 2005–2007 (Pesante G, Evans PGH, Anderwald P, Powell D, McMath M (2008a) Connectivity of bottlenose dolphins in Wales: North Wales photo-monitoring. CCW Marine Monitoring Report No. 62. Countryside Council for Wales, Bangor)
- Connectivity of Bottlenose Dolphins in Welsh Waters: North Wales Photo-Monitoring Report (Pesante G, Evans PGH, Baines ME, McMath M (2008b) Abundance and Life History Parameters of Bottlenose Dolphin in Cardigan Bay: Monitoring 2005-2007. CCW Marine Monitoring Report No. 61. Countryside Council for Wales, Bangor)
- Gofyn am ragor o ddata am ddolffiniaid trwynbwl a llamidyddion gennym, gan gynnwys data ymdrech ac ar achosion o’u gweld, lleoliadau arolygon a delweddau adnabod. Mae data ar achosion o’u gweld yn cynnwys rhywogaethau, nifer yr unigolion, rhagamcanion o oedrannau, ac ymddygiad.
Dolffin Risso
Gweler crynodeb o arolygon dolffiniaid Risso rhwng 1997 a 2016 o amgylch Ynys Enlli a Phenrhyn Llŷn. Bydd hefyd angen caniatâd Whale and Dolphin Conservation i ail-greu neu ddefnyddio'r data hwn.
Adroddir am arolygon yr ymgymerwyd â hwy rhwng 1997 a 2000 a wnaeth gyfrannu at yr adroddiad hwn yn:
- Morgan-Jenks, M. 1997. Arolwg dolffiniaid Risso Ynys Enlli 1997: astudiaeth beilot. Cyfeillion Bae Ceredigion, 1997.
- Morgan-Jenks, M. 1999a. Prosiect dolffiniaid Risso ac arolwg morfilod Ynys Enlli 1998. Cyfeillion Bae Ceredigion, 1999.
- Morgan-Jenks, M. 1999b. Prosiect dolffiniaid Risso ac arolwg morfilod Ynys Enlli 1999. Cyfeillion Bae Ceredigion, 1999.
- Morgan-Jenks, M. 2000. Prosiect dolffiniaid Risso ac arolwg morfilod Ynys Enlli 2000. Cyfeillion Bae Ceredigion, 1999.
Data morfilod Cymru a gasglwyd gan sefydliadau eraill
Mae data morfilod ar gyfer dyfroedd Cymru hefyd yn cael ei gasglu a'i gadw gan:
- Sea Watch Foundation
- Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru(yn cynnwys Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion)
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
- Whale and Dolphin Conservation
Dylech ofyn am ragor o wybodaeth a data gan y grŵp neu'r sefydliad yn uniongyrchol.
Data arall ar forfilod
Prosiect ar y cyd a arweinir gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yw'r Protocol Morfilod ar y Cyd (JCP) i roi gwybodaeth ar ddosbarthiad, helaethrwydd a thueddiadau poblogaeth rhywogaethau morfilod yn nyfroedd gogledd-orllewin Ewrop.
Mae Rheoli unedau ar gyfer morfilod yn nyfroedd y DU (IAMMWG, 2015) yn gosod unedau rheoli ar gyfer y saith rhywogaeth fwyaf cyffredin o forfilod yn nyfroedd y DU. Darperir ffigurau helaethrwydd rhagamcanol ar gyfer pob uned reoli.
Mae gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur nifer o adroddiadau sy'n ymwneud â dethol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar sail presenoldeb llamidyddion yn y DU.
Mae'r papur Assessment of risk to marine mammals from underwater marine renewable devices in Welsh waters ar Ynni Môr Cymru yn darparu data ar forfilod a morloi a gofnodwyd mewn ardaloedd dethol o ynni llanw uchel yng Nghymru yn 2009.
Mae nifer o brosiectau a ariennir gan raglen Asesu Amgylcheddol Strategol Ynni ar y Môr ar GOV.UK hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol.
Mae rhaglen arolwg ObSERVE, a sefydlwyd gan Lywodraeth Iwerddon, wedi casglu data ar forfilod ar gyfer Môr Iwerddon.
Morloi llwyd
Data ar ffurf lluniau adnabod
Rydyn ni a'n partneriaid yn cynnal arolygon morloi llwyd ac yn casglu delweddau o forloi ar ffurf lluniau adnabod ledled Cymru. Mae'r delweddau, y set ddata, y gronfa ddata a'r feddalwedd a ddefnyddir i helpu yn y gwaith adnabod yn cael eu harchifo ar hyn o bryd. Mae'r data yn darparu hanes dal ar gyfer morloi unigol, gan roi gwybodaeth am ffyddlondeb tuag at safle, cysylltedd safleoedd a goroesiad. Mae'r data ar gael ar wefan MapDataCymru a gall gael ei gyflenwi dan drwydded. Darperir crynodeb yn Langley ac eraill (2018), EIRPHOT: A critical assessment of Wales’ grey seal (Halichoerus grypus) photo-identification database.
Arolygon morloi llwyd a data ar loi bychain
Chwiliwch am ein hadroddiadau ar nifer a dosbarthiad morloi llwyd yng Nghymru. Mae ein data'n bwydo i raglen ehangach y DU, a gydlynir gan yr Uned Ymchwil i Famaliaid y Môr (SMRU). Caiff hyn ei adolygu gan Bwyllgor Arbennig ar Forloi Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sy'n darparu amcangyfrifon ar gyfer poblogaethau morloi a chynhyrchu lloi bach yn y DU yn ei adroddiadau.
Gweler mapiau dwysedd a defnydd morloi yn y DU ar wefan MarineScotland.
Adroddir ar arsylwi ymddygiad rhyngweithio rhwng morloi llwyd a llamidyddion yn Stringell et al 2015.
Gogledd Cymru
Cynhaliwyd y cyfrifiad diweddaraf ar forloi llwyd yng ngogledd Cymru (rhwng Aberystwyth ac aber afon Dyfrdwy) yn 2017. Mae'r adroddiad ar gyfer yr arolwg hwn yn cael ei lunio ar hyn o bryd.
Gallwch ofyn am ragor o setiau data gan:
- Arsyllfa Adar Hilbre (ar gyfer banciau tywod West Hoyle yn aber afon Dyfrdwy)
- Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (ar gyfer cyfrifon llanw isel wythnosol o forloi llwyd ar Ynys Enlli)
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (cyfrifon llanw isel rheolaidd o forloi llwyd wrth Riwledyn ger Llandudno)
Sir Benfro
Mae Cyfrifiad Morloi Llwyd Gorllewin Cymru 1992–1994 (Baines ME, Earl SJ, Pierpoint CJL, Poole J (1995) The west Wales grey seal census. CCW Contract Science Report No. 131. Countryside Council for Wales, Bangor) yn darparu'r set ddata allweddol ar gyfer y boblogaeth morloi llwyd yng ngorllewin Cymru.
Mae prosiect cysylltiedig â'r gwaith hwn yn dadansoddi deiet morloi llwyd yng ngorllewin Cymru (Strong, P. G. (1996). The West Wales grey seal diet study. CCW Contract Science Report 132. Countryside Council for Wales, Bangor).
Mae Strong ac eraill (2006) (Strong P.G., Lerwill J., Morris S.R. & Stringell, T.B. (2006). Pembrokeshire marine SAC grey seal monitoring 2005. CCW Marine Monitoring Report No: 26; redacted version. 51pp) yn darparu crynodeb o gyfrifon lloi bach yng ngogledd Sir Benfro fel rhan o'n gwaith monitro Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a gomisiynwyd.
Gweler ein hadroddiadau sy'n cyflwyno data o gyfrifon lloi bach o amgylch Sir Benfro, gan gynnwys ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer. Dyma’r adroddiadau cyfrifo lloi bach diweddaraf a mwyaf perthnasol yn Sir Benfro:
- Arolwg morloi llwydion Parth Cadwraeth Morol Sgomer, Penrhyn Marloes 1992–2016
- Cyfrifiad bridio morloi llwyd Ynys Sgomer 2017
- Tueddiadau amserol a ffenoleg mewn cyfrifon lloi bach morloi llwyd (Halichoerus grypus) yn Sgomer, Cymru
- Tueddiadau amserol a ffenoleg mewn cyfrifon lloi bach morloi llwyd (Halichoerus grypus) ym Mhenrhyn Marloes, Cymru
- Ffenoleg cael lloi bach morloi llwyd ar Ynys Dewi, Sir Benfro
Data arall ar forloi – y DU a gogledd-ddwyrain Cefnfor yr Iwerydd
Assessment of risk to marine mammals from underwater marine renewable devices in Welsh waters:Phase 2 – Studies of Marine Mammals in Welsh High Tidal Waters (mae Atodiad 1 yn adrodd ar symudiadau ac ymddygiad plymio morloi llwyd ifanc mewn ardaloedd o ynni llanw uchel).
Asesiad Amgylcheddol Strategol Ynni ar y Môr: Mae nifer o'r prosiectau ynni ar y môr diweddar a ariennir gan yr Asesiad Amgylcheddol Strategol yn darparu gwybodaeth ychwanegol am forloi sy'n berthnasol i'r rhywogaethau hyn yn nyfroedd Cymru.
Data ar famaliaid morol dynodedig ac a ddiogelir
Mapiau a data Ardaloedd Cadwraeth Arbennig o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ar gyfer nodweddion mamaliaid morol Atodiad II
Mae yna dair rhywogaeth mamaliaid morol a restrir dan Atodiad II o Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE sy'n nodweddion dynodedig Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol neu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ymgeisiol yng Nghymru:
- Dolffin trwynbwl (Tursiops truncatus)
- Llamhidydd (Phocoena phocoena)
- Morlo llwyd (Halichoerus grypus)
Gweler ein cyngor cadwraeth mewn perthynas â dolffiniaid trwynbwl a morloi llwyd.
Gweler mapiau o ddosbarthiad y rhan fwyaf o rywogaethau mamaliaid morol yng Nghymru.
Am wybodaeth am ddosbarthiad llamidyddion, ’dylech gyfeirio at ddogfennau'r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig perthnasol ac adroddiadau ategol.
Mae angen ystyried cynefin cynhaliol nodweddion rhywogaethau Atodiad II hefyd mewn unrhyw asesiad o effaith bosib gan ddatblygiad neu weithgaredd arfaethedig. Mae'r pecynnau cyngor cadwraeth yn darparu rhagor o wybodaeth am hyn.
Mapiau nodweddion rhywogaethau Erthygl 17 o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd
Data a mapiau ar famaliaid morol gwarchodedig
Mae yna 14 o rywogaethau mamaliaid morol wedi'u rhestru dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. O'r rhain, dim ond y llamhidydd sydd hefyd wedi’i restru ar restr OSPAR o gynefinoedd a rhywogaethau sydd dan fygythiad neu sy'n dirywio.
Mae adroddiadau a mapiau Erthygl 17 yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhywogaethau hyn ledled y DU.
Adar morol
Data adar morol
Mae Adar Morol Ewropeaidd ar y Môr yn cynnwys data ar helaethrwydd a dosbarthiad adar môr yn y DU ac yng ngogledd-orllewin Ewrop. Mae yna hefyd is-set yng Nghymru o'r data a gynhyrchwyd yn 2010.
Rhaglen fonitro flynyddol barhaus, a sefydlwyd yn 1986, yw'r Rhaglen Monitro Adar Môr (SMP), o 25 o rywogaethau adar môr sy'n bridio'n rheolaidd ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae'r data'n cynnwys gwybodaeth am nythfeydd adar môr yng Nghymru. Mae adroddiadau blynyddol y Rhaglen Monitro Adar Môr yn dogfennu tueddiadau yn niferoedd y boblogaeth a llwyddiant bridio, cynhyrchedd, goroesiad a deiet adar môr sy'n bridio.
Mae'r Rhaglen Monitro Adar Môr hefyd yn cynnwys cyfrifiadau bridio cyfnodol o ran adar môr er mwyn gwneud y canlynol:
- asesu iechyd a statws cadwraeth y boblogaeth adar môr
- effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar amgylcheddau morol
- llywio cynllunio morol
Mae'r cyfrifiad cyfredol, y Cyfrifiad Adar Môr, yn cael ei gydlynu gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur; dechreuodd y gwaith arolygu yn 2015, a disgwylir y canlyniadau yn 2021.
Mae’r Arolwg Adar Gwlyptir (WeBs) a’r Arolwg Adar Dŵr nad ydynt yn Aberol (NEWS) yn cael eu cydlynu gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain. Mae WeBs yn cynnwys cyfrifiadau rheolaidd o adar môr gaeafol nad ydynt yn bridio mewn ardaloedd arfordirol, gwlyptir a rhynglanwol. Mae NEWS yn cwblhau cyfrifiadau cyfnodol (bod degawd yn fras) o adrannau anaberol o arfordir nad ydynt yn cael eu trin gan WeBs.
Gall y setiau data hyn gael eu defnyddio mewn ffordd ddefnyddiol i lywio astudiaethau cwmpasu ar gyfer ceisiadau gwaith achos, er y bydd rhagor o ddata sy'n benodol i safleoedd fel arfer yn angenrheidiol i lywio asesiadau amgylcheddol.
Adar morol dynodedig a gwarchodedig
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig y Gyfarwyddeb Adar
Mae rhai rhywogaethau adar morol ac adar dŵr yn nodweddion dynodedig Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru, fel y sefydlir dan y Gyfarwyddeb Adar.
Gweler ffiniau Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru ar wefan MapDataCymru. Gallwch ganfod enwau safleoedd unigol drwy glicio ar y map rhyngweithiol a gallwch lawrlwytho data ffiniau safleoedd o'r wefan.
Rhagor o wybodaeth am Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig morol ac arfordirol yng Nghymru.
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Gall adar morol yng Nghymru hefyd gael eu diogelu fel nodweddion Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Gweler ffiniau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghymru. Gallwch ganfod enwau safleoedd unigol drwy glicio ar y map rhyngweithiol yn ogystal â lawrlwytho data ar ffiniau'r safleoedd.
Rhagor o wybodaeth am nodweddion gwarchodedig Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig unigol.
Data arall ar adar morol
Rhagor o wybodaeth am boblogaethau adar morol yng Nghymru o'r adroddiad State of Birds in Wales 2018.
Data ar bysgod a physgod cregyn
Pysgod a physgod cregyn mudol dynodedig a gwarchodedig
Nodweddion pysgod mudol Atodiad II o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol
Llysywen bendoll y môr (Petromyzon marinus) a llysywen bendoll yr afon (Lampetra fluviatilis)
- Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Hafren
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion
- Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
- Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Dyfrdwy
- Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol
Herlyn (Alosa alosa)
- Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
- Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol
Gwangen (Alosa fallax)
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Aber Afon Hafren
- Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
- Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol
Cewch ragor o wybodaeth am bysgod a physgod cregyn mudol dynodedig a gwarchodedig ar JNCC.GOV.UK
Er nad yw'r rhywogaeth yn nodwedd ddynodedig llawer o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol neu aberol Cymru (ar wahân i aber afon Hafren), mae unigolion o boblogaethau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol yn mudo drwy ddyfroedd morol Cymru fel rhan o'u cylch bywyd. Mae hefyd wedi'i rhestru yn Atodiad V o’r Gyfarwyddeb, sy'n gofyn i aelod-wladwriaethau sicrhau bod unrhyw achosion o elwa arni neu ei chymryd yn y gwyllt yn cyd-fynd â chynnal y rhywogaeth mewn statws cadwraeth ffafriol.
Mae angen ystyried cynefin cynhaliol nodweddion Atodiad II Ardaloedd Cadwraeth Arbennig hefyd mewn unrhyw asesiad o effaith bosib gan ddatblygiad neu weithgaredd arfaethedig. Mae'r pecynnau cyngor cadwraeth yn darparu rhagor o wybodaeth am gynefinoedd cynhaliol y rhywogaethau dynodedig.
Gall rhywogaethau pysgod mudol hefyd fod yn nodwedd o ddiddordeb gymwys ar gyfer safle Ramsar.
Gallwch ddod o hyd i ddata ar ddosbarthiad rhywogaethau yn NBN Atlas Cymru neu yn y mapiau o ddosbarthiad rhywogaethau yn adroddiadau Erthygl 17.
Am wybodaeth ychwanegol am bysgod ymfudol, gweler ein harolygon stociau eogiaid a brithyllod y môr neu porwch gatalog ein llyfrgell ar y we.
Mae rhywogaethau pysgod a physgod cregyn morol sy'n 'rhywogaethau nodweddiadol' cynefin Atodiad I o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn cael eu diogelu fel cydran hanfodol o Ardal Cadwraeth Arbennig ddynodedig. Gall rhywogaethau o'r fath fod yn rhywogaethau gwarchodedig yn eu rhinwedd eu hun (megis nodwedd rhywogaeth ddynodedig Ardal Cadwraeth Arbennig neu fod yn warchodedig dan ddeddfwriaeth bioamrywiaeth arall) yn ogystal â bod yn 'rhywogaeth nodweddiadol' cynefin gwarchodedig.
Mapiau nodweddion rhywogaethau Erthygl 17 o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd
Gallwch weld adroddiadau a mapiau o adroddiadau Erthygl 17 ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae llawer o'r cofnodion ar gyfer rhywogaethau pysgod safleoedd morol yn seiliedig ar gofnodion sy'n deillio'n bennaf o raglenni monitro dŵr croyw.
Rhywogaethau pysgod a physgod cregyn morol sydd wedi'u diogelu dan ddeddfwriaeth arall
Caiff rhai rhywogaethau pysgod a rhywogaethau pysgod cregyn morol eu rhestru o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae rhai o'r rhain hefyd ar restr OSPAR o rywogaethau sydd dan fygythiad neu sy'n dirywio.
Ni chaiff llawer o'r rhywogaethau pysgod a physgod cregyn morol gwarchodedig eu monitro'n rheolaidd, er y gall rhai rhywogaethau pysgod cregyn gael eu cofnodi gyda data benthig sy'n cael ei gadw yng nghronfa ddata'r Cofnodwr Morol. Gallwch hefyd weld cofnodion rhywogaethau pysgod a physgod cregyn gwarchodedig yng Nghymru ar NBN Atlas Cymru neu gallwch gyfeirio at y mapiau o ddosbarthiad rhywogaethau yn adroddiadau Erthygl 17. Gallwch hefyd gyfeirio at waith monitro pysgodfeydd a gyflawnir gan Gyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr ar gyfer poblogaethau o rywogaethau pysgod asgellog masnachol.
Efallai y bydd angen canfod data arall ar bysgod a physgod cregyn gwarchodedig sy'n berthnasol i'ch datblygiad neu weithgaredd arfaethedig. Gall y ffynonellau gwybodaeth a amlinellir isod fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhai rhywogaethau pysgod morol. Os nad yw'r data hwn yn bodloni eich gofynion data penodol, efallai y bydd angen i chi geisio cyngor arbenigol ar gyfer lleoliad neu rywogaeth benodol a chwilio ffynonellau data eraill megis llenyddiaeth academaidd a llwyd.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am rywogaethau nodweddiadol sy'n gysylltiedig â chynefinoedd dynodedig yn y pecynnau cyngor cadwraeth ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol Cymru:
Efallai y bydd angen ystyried deddfwriaeth pysgodfeydd arall sy'n cyfyngu ar weithgareddau i gynaeafu rhywogaethau penodol. Am gyngor ar bysgodfeydd a physgodfeydd cregyn, e-bostiwch Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru (marineandfisheries@gov.wales).
Pysgod aberol – monitro o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Rydym yn monitro pysgod sy'n byw mewn amgylcheddau aberol fel elfen ansawdd sy'n cyfrannu at asesu statws ecolegol ar gyfer adrodd dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Dyma ran o'n rhaglen fonitro ar gyfer cyrff dŵr aberol ac arfordirol (TraC).
Caiff pysgod aberol eu monitro bob tair blynedd yn ystod mis Medi a mis Hydref mewn saith corff dŵr yng Nghymru. Ymgymerir â gwaith samplu gan ddefnyddio rhwydi sân a fyke, treillrwyd drawst ac, os yw’n bosib, treillrwyd estyllod. Ar gyfer pob safle, nodir a chyfrir pob tacson pysgod, gan fesur cyfanswm hyd y 50 sbesimen cyntaf o bob rhywogaeth. Mae manylion colofnau dŵr ar y safle hefyd yn cael eu mesur, gan gynnwys tymheredd, halwynedd ac ocsigen toddedig. Mae'r fethodoleg hon wedi cael ei gweithredu ers 2018. Mae data blynyddol gan ddefnyddio'r dull monitro blaenorol ar gael ar gyfer 2007–2016.
Lawrlwythwch fapiau asesiadau statws y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Gweler y Gronfa Ddata Poblogaethau Pysgod Genedlaethol ar gyfer cyfrifiadau pysgod aberol ac arfordirol ar gyfer safleoedd trawsffiniol (er bod data ar gael ar gyfer aber afon Hafren yn unig).
Pysgod morol
Ar hyn o bryd, nid ydym yn casglu data ychwanegol ar bysgod pelagig a daear morol yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae yna nifer o setiau data pysgod morol sy'n cael eu cynhyrchu gan bobl eraill, er nad yw'r data hwn yn darparu darlun cyflawn o bysgod morol yng Nghymru, a dylid rhoi ystyriaeth i'r dulliau a ddefnyddiwyd, yr ardaloedd a arolygwyd, ac amseriadau'r arolygon.
Mae gan y Ganolfan ar gyfer yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas) amrywiaeth o gyhoeddiadau, yn ogystal â Chanolfan Archif Data Pysgod Cefas a hwb data Cefas.
Am wybodaeth am silio a lleoliadau magwrfeydd rhywogaethau pysgod penodol yn nyfroedd y DU, mae’r adroddiad Cefas gan Ellis ac eraill (2012) ar gael o o wefan Cefas, ac mae'n darparu rhagor o wybodaeth fwy diweddar i gyd-fynd â gwaith cynharach gan Coull ac eraill (1998).
Ffynonellau data pysgod eraill yw’r Gronfa Ddata o Arolygon Treillio (DATRAS) a phorth data morol MEDIN (gallwch chwilio am setiau data pysgodfeydd a dyframaethu dan 'thema data' yn yr adran chwilio manwl). Ar gyfer synthesis defnyddiol o'r data DATRAS, gweler Heessen, H. J. L., Ellis, J. a Daan, N. (2015), Fish atlas of the Celtic Sea, North Sea, and Baltic Sea, sy’n seiliedig ar arolygon rhyngwladol gan longau ymchwil.
Asesiadau stociau cocos
Rydym yn ymgymryd ag arolygon stociau cocos, neu'n eu comisiynu, yn y gwanwyn a'r hydref yn aber afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn i asesu stociau cocos a llywio penderfyniadau rheoli am gwotâu pysgod cregyn masnachol a gofynion bwyd adar yn y gaeaf. Gofynnwch am ddata cocos gennym ni.
Môr-grwbanod
Mae yna chwe rhywogaeth o grwbanod morol sy'n cael eu cofnodi o ddyfroedd y DU, y mae pump ohonynt wedi'u diogelu'n llym dan Atodiad IV o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd:
- Crwban môr cefn-lledr (Dermochelys coriacea)
- Crwban môr pendew (Caretta caretta)
- Crwban môr gwalchbig (Eretmochelys imbricata)
- Crwban môr pendew Kemp (Lepidochelys kempii)
- Crwban môr gwyrdd (Chelonia mydas)
Y chweched rywogaeth yw'r crwban môr pendew melynwyrdd (Lepidochelys olivacea), gyda chofnod o unigolyn byw o’r rhywogaeth hon yn cael ei dirio ar lan Afon Menai yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd 2016. Nid yw'r rhywogaeth hon wedi'i rhestru yn Atodiad IV o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
Dim ond y crwban môr cefn-lledr sy’n cael ei ystyried yn ymwelydd rheolaidd (ond prin). Nid ystyrir bod y pum rhywogaeth arall yn ymweld â dyfroedd y DU yn rheolaidd.
Mae'r crwban môr cefn-lledr a'r crwban môr pendew hefyd wedi’u rhestru o dan:
- Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Rhestr OSPAR o gynefinoedd a rhywogaethau sydd dan fygythiad ac sy'n dirywio.
Mae'r gronfa ddata TURTLE a reolir gan Marine Environmental Monitoring (MEM) yn cadw cofnod o'r holl achosion o weld môr-grwbanod a môr-grwbanod yn mynd yn sownd ar y lan ym Mhrydain ac yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Caiff yr holl gofnodion o grwbanod morol o'r gronfa ddata eu diweddaru'n flynyddol ar NBN Atlas Cymru (er bod rhaid cofio y bydd rhai cofnodion ar gyfer crwbanod sy'n sownd ar y lan).
Cael mynediad i'n data
Rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i'n data.
Data arall y mae'n bosib y bydd ei angen arnoch
Nid yw hon yn rhestr gyfan o'r setiau data ecoleg morol i Gymru sydd ar gael.
Yn dibynnu ar eich gofynion data a gwybodaeth, efallai y bydd angen i chi wneud y canlynol:
- chwilio am ddata, arolygon ac adroddiadau a gynhyrchir ac a gedwir gan sefydliadau, cwmnïau ac ymchwilwyr eraill
- comisiynu casglu data ychwanegol
Eich cyfrifoldeb chi yw egluro a dod o hyd i'r data a gwybodaeth y mae eu hangen arnoch i gefnogi'ch cais.