Datblygiadau ynni gwynt ar y môr
Ynni gwynt ar y môr
Mae ynni gwynt ar y môr yn dechnoleg ynni adnewyddadwy sefydledig a phrofedig.
Yng Nghymru, mae gennym dair fferm wynt ar y môr weithredol ger arfordir gogledd Cymru, Gwynt y Môr, Gwastadeddau'r Rhyl a North Hoyle, yn ogystal â cheblau trawsyrru o ddatblygiadau cyfagos.
Gall ffermydd gwynt ar y môr gael effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys ar adar, mamaliaid morol, ecoleg fenthig a physgod, yn ogystal ag effeithiau gweledol. Mae cynllunio a lleoli safleoedd yn ofalus yn hanfodol er mwyn osgoi a lleihau effeithiau.
Canllawiau, Tystiolaeth a Data
Dewch o hyd i gyngor, data a thystiolaeth ar gyfer eich datblygiad ynni gwynt ar y môr.
Canllawiau ar roi caniatâd ac asesiadau
Dewch o hyd i ddata a thystiolaeth ar gyfer eich gweithgarwch tynnu agregau morol:
- Gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer trwyddedau morol a chyflwyno cais o’n gwasanaeth trwyddedu
- Canllawiau ar ddefnyddio rheolaeth addasol ar gyfer datblygiadau morol
- Canllawiau ar gwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol
- CNC ac Asesiadau Amgylcheddol
Canllawiau ar gyfer derbynyddion
- Canllawiau ar ddeddfwriaeth cadwraeth fertebratau morol yng Nghymru
- Canllawiau ar sut i gynnal asesiadau ar gynefinoedd benthig
- Canllawiau ar brosesau ffisegol morol ac AEA
- Adroddiadau tystiolaeth ar forwedd a sensitifrwydd gweledol i ffermydd gwynt ar y môr
- Cam 1 - Y berthynas rhwng pellter tyrbin ar y môr oddi wrth dderbynnydd sensitif a maint yr effeithiau gweledol
- Cam 2 - Canllawiau ar leoli a dylunio ffermydd gwynt ar y môr mewn perthynas â morweddau
- Cam 3 - Sensitifrwydd gweledol lleoliadau morol Tirweddau Dynodedig Cymru i ffermydd gwynt ar y môr
Canllawiau ar ddata ar gyfer asesiadau
Blaenoriaethau, ymchwil ac adroddiadau tystiolaeth CNC
Ffynonellau gwybodaeth eraill
- Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
- Mae Ystad y Goron yn rheoli'r rhan fwyaf o wely'r môr ac yn dyfarnu prydlesi ar gyfer datblygiadau
- Y Gyfnewidfa Data Morol a gynhelir gan Ystad y Goron lle gallwch gael mynediad at ddata gwynt
- Hyb Adnoddau JNCC lle gallwch gael gafael ar adroddiadau tystiolaeth a data
- Cyd-fforwm Datblygiadau Gwynt ar y Môr ORJIP a gydlynir gan yr Ymddiriedolaeth Garbon
- Mae Ynni Morol Cymru yn dod â rhanddeiliaid ynghyd gan gynnwys datblygiadau ynni gwynt sy'n arnofio ar y môr
- Tethys lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac ymchwil ar ddatblygiadau gwynt ar y môr o bob rhan o’r byd.
Mae adnoddau naturiol Cymru'n cynnig cyfle gwych i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o'r gwynt, y tonnau a'r llanw. Drwy reoli'r adnoddau hyn yn gynaliadwy, gallwn sicrhau bod y datblygiad cywir yn y lle cywir yn helpu i fodloni targedau datgarboneiddio a galluogi twf glas yng Nghymru.
Cysylltwch â ni
Os ydych yn ystyried prosiect ynni gwynt ar y môr neu brosiect ynni gwynt ar y môr arnofiol yn nyfroedd Cymru, cysylltwch â ni yn gynnar yn eich cynlluniau drwy e-bost: marine.area.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk