Asesiad canlyniadau llifogydd: rhestr wirio model llifogydd
Os ydych yn darparu model hydrolig i gefnogi eich asesiad canlyniadau llifogydd, bydd hefyd angen i chi gynnwys rhestr wirio model llifogydd.
Defnyddiwch ein templed neu ysgrifennwch un eich hun gan ddefnyddio'r rhestr wirio isod.
Cyffredinol
1.1 A fu cyswllt â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y gwaith modelu? Os bu, rhowch fanylion
1.2 A yw'r adroddiad yn cynnwys manylion digonol am wneuthuriad y model a phenderfyniadau a rhagdybiaethau a wnaed?
1.3 A yw cyfyngiadau'r model wedi'u trafod/adrodd?
1.4 A ofynnwyd Cyfoeth Naturiol Cymru am ddata?
1.5 A oes model gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar y safle?
1.6 A ddefnyddiwyd model Cyfoeth Naturiol Cymru ac a gafodd ei drwyddedu?
1.7 A yw'r newidiadau wedi'u cofnodi yn yr adroddiad model?
Asesiad hydrolegol
2.1 A gynhaliwyd yr asesiad hydroleg yn unol â Nodyn Cyfarwyddyd 008 (GN008)?
2.2 A yw'r profforma hydroleg wedi'i gwblhau?
Methodoleg
3.1 A oes tystiolaeth o ymweliad(au) â'r safle?
3.2 A yw amcanion y dadansoddiad wedi'u nodi'n glir?
3.3 A yw'r dadansoddiad yn briodol er mwyn cyflawni'r amcanion hyn?
Data arolygon
4.1 A yw ffynhonnell y data wedi'i nodi?
4.2 A yw'r dull wedi'i nodi?
4.3 A yw'r arolwg yn gyfredol? Os nad yw, gweler 4.4
4.4 A yw'r arolwg gwirio wedi'i gynnal?
4.5 A yw gorsafoedd E wedi'u rhestru?
4.6 Oes data digonol wedi'i gasglu?
4.7 A roddir lefelau yn unol â’r datwm ordnans?
4.8 A yw'r data ar ffurf electronig?
4.9 A yw'r data wedi'u geogyfeirnodi? Os nad yw, darparwch gynllun o'r lleoliad
4.10 A yw'r data LiDAR yn gyfredol?
4.11 A yw cydraniad y LiDAR yn addas?
Gwybodaeth hanesyddol
5.1 A yw'r data a ddefnyddir yn gyfredol?
5.2 A yw'r data a ddefnyddir yn briodol?
Model hydrolig
6.1 A oes ‘model gwaelodlin’ a ‘model datblygu’ wedi'u cyflwyno i Cyfoeth Naturiol Cymru?
6.2 Gwneuthuriad
6.3 A yw'r model o'r math cywir?
6.4 A yw'r lleoliadau mewnlif yn y lle cywir o fewn parth y model?
6.5 A yw'r mewnlifau yr un fath a'r rheini a nodir yn yr adroddiad?
6.6 A yw ffeiliau cofnodi/gwirio’r model wrth redeg wedi'u cynnwys?
6.7 A yw'r strwythur rheoli data a argymhellir ar gyfer y pecyn meddalwedd wedi'i ddefnyddio?
6.8 A yw'r bylchau trawstoriad ar gyfer y model yn briodol?
6.9 A yw'r model yn ymestyn yn ddigon pell i fyny'r afon ac i lawr yr afon?
6.10 A yw hyd y rhannau afon yn cyfateb â data'r arolwg a/neu gynrychiolaeth 2D?
6.11 A yw maint y grid/rhwyll yn briodol?
6.12 A yw cam amser y model yn briodol?
6.13 A yw'r adeiladau wedi'u cynrychioli'n briodol?
6.14 A oes unrhyw osodiadau nad ydynt yn ddiofyn wedi'u defnyddio, mewn 1D a 2D?
6.15 A yw gwerthoedd garwedd (Mannings) yn synhwyrol?
6.16 A yw'r ffin i lawr yr afon yn briodol?
6.17 A yw adeileddau a nodweddion y gorlifdir wedi'u modelu'n briodol?
6.18 A yw'r ystod briodol o lifoedd/llanwau wedi'i modelu?
6.19 A yw dadansoddiadau sensitifrwydd wedi'u cynnal?
6.20 Model 1D
6.21 A yw lledau trawstoriadau enghreifftiol yn briodol?
6.22 A yw adrannau sydd wedi'u rhyngosod wedi'u cadw at leiafswm?
6.23 Model cyswllt 1D-2D
6.24 A yw lled a lefelau'r trawstoriad 1D yn cyd-fynd â'r cynrychiolaeth 2D?
6.25 Canlyniadau
6.26 A yw'r effeithiau ar drydydd partïon wedi'u cyfrifo'n gywir?
6.27 A yw canllawiau newid yn yr hinsawdd Llywodraeth Cymru wedi'u mabwysiadu?
6.28 A yw dadansoddiad o doriadau/rhwystrau wedi'i ystyried?
6.29 A oes unrhyw broblemau o ran sefydlogrwydd y model?
Mapio
7.1 A yw amlinelliadau wedi'u mapio wedi cael eu cyflenwi?
7.2 A yw'r allbynnau/canlyniadau sydd wedi'u mapio yn realistig?
Graddnodi a dilysu’r model
8.1 A oes data graddnodi ar gael?
8.2 A yw'r model yn graddnodi?
8.3 A yw'r graddnodi wedi'i ddilysu?
8.4 A yw'r model yn pasio gwiriad realiti?
Hawliau eiddo deallusol
9.1 A fwriedir defnyddio'r model er mwyn diweddaru mapiau Cyfoeth Naturiol Cymru neu gynhyrchion perygl llifogydd?
9.2 A yw'r hawliau eiddo deallusol priodol wedi'u rhoi i Cyfoeth Naturiol Cymru?
9.3 Gofynion herio'r map llifogydd
9.4 A yw'r adeiladau wedi'u cynrychioli'n gywir?
9.5 A yw rhediadau nad ydynt wedi'u diogelu wedi'u darparu?
Gofynion herio'r map llifogydd
10.1 A yw'r adeiladau wedi'u cynrychioli'n gywir?
10.2 A yw rhediadau nad ydynt wedi'u diogelu wedi'u darparu?