Biffenylau polyclorinedig (PCBs): cofrestru, dadgofrestru, labelu a gwaredu

Caniatâd i ddefnyddio PCBs ac offer, cynhyrchion neu ddeunyddiau sy'n eu cynnwys, a sut i'w cofrestru, eu labelu a'u gwaredu (Cymru)

Rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych chi'n berchen ar biffenylau polyclorinedig (PCBs), neu unrhyw sylwedd a elwir ar y cyd yn PCBs, fel terffenylau polyclorinedig
  • rydych chi'n gweithredu neu’n berchen ar offer neu ddeunydd sy'n cynnwys unrhyw un o'r PCBs hyn mewn crynodiad uwch na 50 rhan y filiwn (0.005%).

1. Eithriadau i'r gwaharddiad ar PCBs

Gwybodaeth am y deunyddiau sydd wedi'u heithrio o'r gwaharddiad ar PCBs.

2. Offer halogedig

Gwiriwch beth sy'n cael ei ystyried yn 'offer halogedig'.

3. Offer perthnasol

Mae offer perthnasol yn cynnwys y canlynol:

  • unrhyw offer (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd neu lestr sydd â stociau gweddilliol) sy'n cynnwys PCBs
  • offer a oedd yn cynnwys PCBs ond nad yw wedi'i ddihalogi

Nid yw offer perthnasol yn cynnwys offer sy'n cynnwys cyfanswm cyfaint o PCBs sy'n fwy na 0.05dm3.

Ar ôl i chi roi'r gorau i ddefnyddio offer perthnasol, rhaid i chi ei ddihalogi neu ei waredu yn unol â'r wybodaeth yn yr adran 'Gwaredu PCBs'.

4. Cofrestru offer halogedig PCB

Mae'n rhaid i chi gofrestru unrhyw offer halogedig rydych chi’n berchen arno, gan gynnwys:

  • os oes ganddo ddefnydd cyfreithiol (er enghraifft newidyddion sydd â chrynodiad PCB o lai na 0.05%)
  • nid oes ganddo ddefnydd cyfreithiol, ond nad ydych wedi'i waredu eto (rhaid i chi ddweud wrthym sut rydych chi'n bwriadu ei waredu cyn gynted â phosibl)

Mae'n rhaid i chi gofrestru offer erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn nes eich bod chi'n rhoi'r gorau i'w gadw.

Gwybodaeth am sut i gofrestru eich offer halogedig PCB.

5. Dadgofrestru offer halogedig PCB

Gallwch dynnu offer halogedig oddi ar y gofrestr PCB ar unrhyw adeg.

Dylech chi wneud hyn os ydych chi wedi gwneud un o'r canlynol:

  • gwaredu'r offer
  • tynnu hylif sy'n cynnwys PCBs ohono a'i ddisodli â hylif nad yw'n cynnwys PCB
  • profi offer ac wedi nodi bod y crynodiad PCB yn llai na 0.005% yn ôl pwysau
  • gwerthu'r safle lle mae’r offer
  • symud yr offer i ran wahanol o'ch safle

Ni chodir tâl am ddadgofrestru offer.

Gwybodaeth am sut i ddadgofrestru eich offer halogedig PCB.

6. Labelu ac arwyddion safle

Mae'n rhaid i chi osod label ar unrhyw offer halogedig gan nodi ei fod wedi'i halogi â PCBs.

Hefyd, rhaid i chi osod arwydd ar y safle lle mae'r offer yn cael ei ddefnyddio sy'n nodi bod y safle’n cynnwys offer sydd wedi'i halogi â PCBs.

Mae'n rhaid i chi sicrhau bod y labeli a'r arwyddion i'w gweld yn glir ac na ellir eu tynnu'n hawdd.

Ar gyfer newidyddion lle mae gan yr hylif gynnwys PCB o lai na 0.05%, gall eich label a'ch arwydd ddatgan, 'PCBs halogedig <0.05%’.

7. Gwaredu PCBs

Mae'n rhaid i chi waredu PCBs a deunyddiau sy'n cynnwys PCBs fel llygrydd organig parhaus a gwastraff peryglus.

Mae hyn yn golygu y gallwch chi naill ai:

  • waredu'r PCBs neu'r offer mewn ffordd sy'n dinistrio'r cynnwys PCB 
  • gwneud cais i storio'r offer o dan y ddaear yn barhaol os na allwch chi ddinistrio'r cynnwys PCB

Rhaid i chi gadw cofnodion i ddangos eich bod chi wedi defnyddio un o'r ddau ddull hyn i waredu'r PCBs.

Gwybodaeth am sut i adnabod a gwaredu gwastraff sy'n cynnwys llygryddion organig parhaus .

E-bostiwch PCB-Registrations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os ydych chi angen trafod sut i wneud hyn.

Diweddarwyd ddiwethaf