Ymgynghoriad ar gynlluniau rheoli perygl llifogydd drafft i gymru

O dan Reoliadau Perygl Llifogydd 2009, mae’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru gynhyrchu a chyhoeddi Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ar raddfa Ardal Basn Afon erbyn mis Rhagfyr 2015. O dan y gofyniad hwn, rydym wedi cynhyrchu tri Chynllun drafft i ymgynghori arnynt sy’n ymdrin â Chymru: Yr Hafren; Y Ddyfrdwy; a Gorllewin Cymru. Cynhyrchwyd Cynlluniau’r Hafren a’r Ddyfrdwy ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae’r cynlluniau’n gosod allan y casgliadau o ran pwy sydd mewn perygl o lifogydd, ynghyd â'r amcanion a’r mesurau ar gyfer mynd i’r afael â’r perygl. Rydym yn ceisio’ch barn ar y mesurau a gynigir yn y cynlluniau.

Mae’r ymgynghoriad ar y Cynlluniau Rheoli Basn Afon drafft a ddiweddarwyd yn cyd-fynd â lansio’r ymgynghoriad hwn ac yn rhedeg tan 10 Ebrill 2015. Gellir gweld y Cynlluniau Rheoli Basn Afon drafft a ddiweddarwyd ar ein tudalen ymgynghori o 10 Hydref 2014.

Bydd cydlynu rheoli perygl llifogydd a chynllunio rheoli basn afon yn ei gwneud yn haws i randdeiliaid sydd â diddordeb yn y ddau beth i rannu eu barn, ac i ni gyd gymryd golwg ehangach ar y cyfleoedd ar gyfer rheoli’r amgylchedd dŵr yn fwy effeithiol. Gyda’i gilydd, bydd y ddau gynllun hyn yn sail i benderfyniadau pwysig, cryn fuddsoddiad a gweithredu uniongyrchol, ac yn dod â buddiannau sylweddol i gymdeithas a’r amgylchedd.

Sut i ymateb

Hoffem i chi ddefnyddio’r ffurflen gwestiynau ar ein gwefan i roi gwybod i ni beth rydych yn meddwl. Gallwch anfon y ffurflen drwy e-bost neu drwy’r post atom yn y cyfeiriadau canlynol.

E-bost:

flood.risk.management.plan@naturalresourceswales.gov.uk neu cynllunrheoliperyglllifogydd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Post:

Rachel Sion,
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Ty Cambria,
29 29 Heol Casnewydd,
Caerdydd, CF24 0T

Cyhoeddi canlyniadau’n hymgynghoriad

Gwnaethom gyhoeddi ein hymateb cryno i ymgynghoriad llawn pob cynllun rheoli perygl llifogydd yng Nghymru ym mis Mehfin 2015. Mae’n cynnwys crynodeb o’r sylwadau a dderbyniwyd a dadansoddiad o’r prif themâu a godwyd gan ymatebwyr. Mae hefyd yn rhoi trosolwg o’r camau gweithredu y bwriadwn eu cymryd wrth ymateb er mwyn dod â’r cynlluniau rheoli perygl llifogydd i ben cyn y dyddiad cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2015. Mae’r ddogfen ymateb cryno i’r ymgynghoriad wedi ei dosbarthu i’r holl ymgyngoreion ac mae ar gael isod.