Ymgynghoriad ar newidiadau i fap prif afonydd Cymru
Drwy'r ymgynghoriad hwn, rydym yn gofyn am eich barn ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i fap prif afonydd Cymru drwy israddio rhan o Nant Morfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ein bwriad yw clywed eich barn a chanfod a ydych yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig.
O dan Ddeddf Dŵr 2014, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gynnal a diweddaru map prif afonydd Cymru. Diffinnir prif afon fel yr un a gynhwysir ar y map prif afonydd, y gellir ei gweld yma: Mapiau perygl llifogydd. Os yw cwrs dŵr wedi'i ddynodi'n brif afon, bydd yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i arfer pwerau yn uniongyrchol arno.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 5yp ar 21 Mehefin 2019, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
E-bost:
main.river.enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
neu trwy'r
Post:
Cydlynydd Prif Afonydd
Rheoli Risg Llifogydd a Gweithredol
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Caerdydd, CF24 0TP
Cyhoeddi canlyniadau ein hymgynghoriad
Byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad yn dilyn yr ymgynghoriad ar ein gwefan erbyn 2 Awst 2019.