Beth rydym yn ei wneud?

Hysbysa Cyfoeth Naturiol Cymru y bwriada wneud gwaith hwyluso ymfudiad pysgod yng Nghynllaith yn ymyl Llansilin, yn CGC SJ216282. Golyga’r gwaith arfaethedig adeiladu sianel osgoi er mwyn galluogi pysgod i nofio i fyny uwchlaw’r gored garreg, oleddfog, 3.3m o uchder.

Asesiad ecologol

Barn Cyfoeth Naturiol Cymru yw nad yw’r gwaith gwella’n debyg o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, ac ni fwriada baratoi datganiad amgylcheddol yn ei gylch. Lluniwyd Adroddiad Ymchwil Ecolegol ac Asesiad Rhagarweiniol Cyfarwyddeb Fframwaith Dwr.

Gellir cael copïau o’r dogfennau hyn trwy ysgrifennu at:

Lia Silva
Rheolwr Cynllun
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ty Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Neu yrru neges e-bost at lia.silva@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Os oes gennych unrhyw sylwadau, gyrrwch hwy erbyn 23 Ebrill.