Buddion plannu coed a chreu coetir
Mae plannu coed yn gallu cynnig buddion ar gyfer eich tir neu’r gymuned leol ac ar gyfer bywyd gwyllt a’r amgylchedd.
Nid oes rhaid i chi fod yn berchen ar fferm neu ardal eang o dir i blannu coed. Gall un goeden neu grŵp bach o goed wneud gwahaniaeth positif i’ch gweithle, cartref, ysgol neu gymuned.
Buddion coetir i’ch fferm ac i’ch busnes
Gall plannu coed gynnig buddion i’ch fferm a’ch tir gan gynnwys:
- ynysu rhag sŵn
- darparu preifatrwydd
- creu cysgod ar gyfer da byw ac adeiladau
- gwella systemau cynhyrchu da byw
- lleihau effaith y gwynt
- rheoli perygl llifogydd
- lleihau eich ôl troed carbon
- darparu cynnyrch pren fel pyst ffensio, giatiau a thanwydd
- lleihau erydiad pridd
- helpu i atal tir rhag mynd yn ddwrlawn
Os ydy'ch fferm hefyd yn fusnes, gall creu coetir hefyd gynnig cyfleoedd newydd trwy:
- werthu pren, cynnyrch pren neu goed tân
- saethu adar hela / anifeiliaid hela
- twristiaeth ar y fferm
Y Cod Carbon Coetiroedd
Mae'r Cod Carbon Coetiroedd yn safon wirfoddol ar gyfer prosiectau creu coetiroedd.
Dim ond trwy blannu coetir newydd a chofrestru eich prosiect cyn i unrhyw waith ddechrau y gellir cynhyrchu unedau carbon coetir.
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai ffermwyr, tirfeddianwyr a rheolwyr tir yng Nghymru sy'n dymuno cynhyrchu a gwerthu unedau carbon mewn coetiroedd ddefnyddio'r Cod Carbon Coetiroedd.
Os gallwch ddangos eich bod yn cyrraedd y safon hon, gallwch werthu'r carbon sydd yn eich coetir ar ffurf Unedau Carbon Coetiroedd.
Buddion coetir i’ch cymuned leol
Mae coetiroedd yn gallu helpu i wella iechyd a lles. Maen nhw’n cynnig lleoliadau ar gyfer chwarae, addysg a dysgu, gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau cymunedol. Mae prosiectau coetir cymunedol yn ffordd wych i bobl a busnesau lleol ddod at ei gilydd i greu coetir yn eu hardal leol.
Buddion coetir i fywyd gwyllt
Mae coetiroedd yn darparu cynefin cyfoethog ar gyfer planhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys peillwyr a rhywogaethau prin.
Buddion coetir i’r amgylchedd
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw plannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 a 180,000 hectar erbyn 2050 i helpu Cymru i gyflawni targedau lleihau allyriadau carbon. Mae hwn yn cyfateb i blannu o leiaf 5,000 hectar y flwyddyn.
Mae coetiroedd yn gwella ansawdd yr amgylchedd gan eu bod yn:
- helpu i ddiogelu ansawdd cyflenwadau dŵr yfed
- rheoli llifogydd
- amsugno llygryddion niweidiol a gwella ansawdd yr aer
- cynnig cysgod ac yn amsugno sŵn
- sefydlogi priddoedd, lleihau erydiad a thirlithriadau
Plannwch goed i greu coetir
Gallwn eich helpu i ddechrau plannu coed a chreu’ch coetir eich hun. Gall Llywodraeth Cymru a Coed Cadw hefyd ddarparu grantiau a rhagor o gymorth.