Sut ydym yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru
Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n cynrychioli 6% o arwynebedd tir Cymru.
Rydym yn helpu i gynnal, cefnogi, gwarchod a gwella Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Diben a rôl Ystad Goetir Llywodraeth Cymru
Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn adnodd coetir, ac rydym yn ei rheoli i greu buddion llesiant amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i bobl Cymru a thu hwnt, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r ystad goetir yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy gloi carbon. Mae hefyd yn darparu cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt ac yn cynnig lle ar gyfer hamdden. Mae'n darparu cyflenwad da o bren, sy'n cefnogi cyflogaeth a bywoliaethau gwledig.
Dewch i gael gwybod mwy am ddiben a rôl Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Strategaeth Coetiroedd i Gymru
Rydym yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ei bod yn cefnogi’r gwaith o gyflawni strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru.
Mae'r rôl hon yn hollbwysig gan fod Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn cynrychioli tua 40% o Adnodd Coedwig Cymru, sy'n gorchuddio ardal o 123,000 hectar. Mae hyn yn golygu mai ni yw'r rheolwr tir mwyaf yng Nghymru
Mae ein rheolaeth o'r coetir hefyd yn cefnogi blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru fel:
- gwneud Cymru'n sero net
- mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur
Sut mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru o fudd i Gymru
Rydym yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i'r safonau uchaf yn y DU ac yn rhyngwladol o ran rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy. Mae'n ffurfio rhan o'r ystâd goedwig ardystiedig ddi-dor hiraf yn y byd.
Mae pob coetir yn unigryw, ac rydym yn eu rheoli'n unigol i sicrhau eu bod yn gallu darparu'r cydbwysedd gorau posibl i bobl, yr amgylchedd, bywyd gwyllt, a chynhyrchu pren yn gynaliadwy.
Cynhyrchu pren
Ein nod yw dod â hyd at 835,000 metr ciwbig o bren i'r farchnad bob blwyddyn.
Ni yw'r cyflenwr pren ardystiedig mwyaf yng Nghymru — 'cymeradwyaeth' annibynnol ein harferion coedwigaeth cynaliadwy.
Ynni adnewyddadwy
Rydym yn datblygu potensial ynni gwynt ac ynni dŵr Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, gan gefnogi ymgyrch Cymru tuag at sero net. Mae ynni gwynt ac ynni dŵr yn darparu ffynonellau trydan glân ac adnewyddadwy, sy'n helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Planhigion, anifeiliaid a hamdden
Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gartref i amrywiaeth anhygoel o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys rhai o'r prinnaf yn y DU. Fel rheolwyr tir cyfrifol, rydym yn rheoli ein gweithrediadau i ddiogelu a gwella'r cynefinoedd hyn.
Mae'r tir yr ydym yn ei reoli a'i warchod yn lle ardderchog i ymweld ag ef, ar gyfer gweithgareddau llawn adrenalin, dysgu yn yr awyr agored, neu fyfyrio tawel.
Dysgwch fwy
Os hoffech wybod mwy am werth coetiroedd, cysylltwch â’n Tîm Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy.