Hysbysiadau iechyd planhigion statudol

Mathau o hysbysiadau statudol

Rydym yn dosbarthu tri math o hysbysiadau statudol.

Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol

Hysbysiad yw HIPS sy'n gofyn am ddinistrio'r coed o fewn cyfnod penodol o amser. Mae'r cyfnod o amser hefyd yn dibynnu ar ble yng Nghymru y mae'r coed:

Yn y Parth Cyfyngu ar y Clefyd (DLZ) mae angen cwblhau'r gwaith erbyn naill ai'r 31 Mawrth nesaf neu 31 Awst nesaf, gan ddibynnu ar ba bryd y cafodd y clefyd ei gadarnhau a chan ganiatáu cyfnod rhesymol o amser er mwyn cwblhau'r gwaith.

Ym Mharth Craidd y Clefyd 2 (CDZ2), mae angen cwblhau'r gwaith erbyn naill ai 31 Mawrth neu 31 Awst ymhen tair blynedd, gan ddibynnu ar ba bryd y cafodd yr haint ei gadarnhau.

HIPS(m)

Hysbysiad symud yw HIPS(m) , ac mae'n gofyn bod y deunydd heintiedig yn cael ei gadw ar y safle, neu os caiff ei symud, dim ond unigolion trwyddedig sydd i wneud hynny; nid oes gofyniad i ddinistrio (cwympo'r) coed.

HIPS(mr)

Mae HIPS(mr) yn hysbysiad cyfyngu ar symud ar gais. Caiff y rhain eu dosbarthu yn y gaeaf pan na ellir archwilio coed, ond mae'r perchennog wedi dewis eu cwympo trwy Gais Trwyddedau Cwympo Coed ac mae wedi cytuno i drin y coed fel pe baent wedi'u heintio. Mae ganddo'r un gofynion â'r hysbysiad symud arferol. Er y gwneir cais amdano, nid oes gofyn o hyd am ddinistrio (cwympo'r) coed.

Mae gan bob HIPS radiws o 100 metr o leiaf o gwmpas unrhyw goeden heintiedig neu symptomatig gan mai dyma'r pellter y caiff y mwyafrif o'r sborau eu taenu yn y lle cyntaf.

Y caniatâd y bydd ei angen arnoch er mwyn cwympo coed

Os oes gennych HIPS, yna mae hyn yn rhoi gorchymyn i chi gwympo'r coed a nodwyd yn yr hysbysiad. Nid oes angen unrhyw ganiatâd pellach arnoch.

Os rhoddwyd HIPS(m) i chi neu rydych wedi gwneud cais am HIPS(mr) i chi, yna bydd angen caniatâd arnoch i gwympo'r coed, trwy Gais Trwyddedau Cwympo Coed gan ein Tîm Gwasanaethau Trwyddedu.

Torri rhywogaethau eraill o goed yn yr ardal goch ar eich map

Dim ond rhywogaethau a enwir yn Adran 3 yr hysbysiad all gael eu torri fel rhan o’r HIPS.

Os ydych yn dymuno torri unrhyw rywogaethau coed eraill nad ydynt wedi eu heintio bydd angen trwydded cwympo arnoch.

Gwneud cais am drwydded cwympo

Mesurau bioddiogelwch

Rhaid i’r dull o dorri a symud eich pren gydymffurfio â chyfarwyddiadau bioddiogelwch a nodir dan y drwydded symud a ddarperir i’r cludwyr gan Ymchwil Coedwigoedd.

Er mwyn atal symud y clefyd i safleoedd eraill, rydym yn argymell bod camau diogelu syml yn cael eu cymryd fel cadw at lwybrau, brwsio baw a dail oddi ar esgidiau neu deiars wrth adael coedwig ac, os ydych chi eich hun yn gweithio yn y coed neu o’u cwmpas, ystyriwch ddefnyddio diheintydd priodol.

Rydym yn eich cynghori i gynnal yr ymagwedd hon am dair blynedd o leiaf ar ôl torri coed heintiedig oherwydd y gall sborau o’r clefyd barhau i fod yn weithredol am y cyfnod hwn.

Darganfyddwch ragor am fioddiogelwch.

Symud pren heintiedig

Chwiliwch am restr o’r melinau sydd wedi eu trwyddedu i brosesu llarwydd heintiedig ar wefan Ymchwil Coedwigoedd.

Gwnewch gais am drwydded symud os ydych eisiau symud y pren eich hun.

Ailstocio

Os yw’r torri wedi ei wneud yn unol â HIPS yna nid oes gofyniad dan y Gorchymyn Iechyd Planhigion i ailblannu, ond os yw’r torri’n esgor ar golled sylweddol o lastiroedd, gallai olygu bod torri amodau wedi bod yn unol â Rheoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) 1999. 

Cyngor ar dorri ac ailblannu

Ni allwn ddarparu cyngor uniongyrchol ar dorri neu ailblannu ar gyfer safleoedd unigol nac argymell contractwyr.

Os ydych yn ansicr ynglŷn â sut i fynd i’r afael â gweithrediadau coedwigoedd neu geisiadau am grantiau gallwch gysylltu ag asiant coedwigaeth preifat. Gallwn roi rhestr i chi o asiantau coedwigaeth. Gallwch hefyd ddefnyddio asiant nad ydyw ar y rhestr.  Cysylltwch â ni ar treehealth@naturalresourceswales.gov.uk. 

Nid ydym yn argymell eich bod yn ailblannu gyda choed sydd yn agored i Phytophthora ramorum. 

Ymweliadau gan weithwyr iechyd coed proffesiynol

Gall cydweithwyr o Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wneud arolwg bellach o’r ardal oddi amgylch ac efallai y byddan nhw’n dymuno ymweld â’ch coetir hefyd. Byddan nhw’n cysylltu â chi cyn ymweld.

Efallai y byddwn hefyd yn ailymweld â’r safle fel rhan o’n gwiriadau cydymffurfio safonol er mwyn sicrhau bod yr hysbysiad wedi ei gyflawni, ac i benderfynu a yw hi’n briodol cau/dirymu’r hysbysiad.

Cyfnod yr hysbysiad statudol

Fel arfer, rydym yn dirymu’r hysbysiad dair blynedd ar ôl gorffen torri’r coed, os yw’r holl ddeunydd sydd wedi ei heintio wedi cael ei dynnu oddi yno.

Diweddarwyd ddiwethaf