Sut i gael gwared o deiars gwastraff

Fel busnes neu unigolyn sy’n cynhyrchu teiars gwastraff, mae’n rhaid i chi wneud popeth o fewn eich gallu i gael gwared ohonynt yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Teiars gwastraff eich busnes

Dylid cymryd camau penodol pan fyddwch yn cael gwared o’ch teiars gwastraff.

Gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod pwy sy’n casglu eich teiars

Rhaid i bobl sy’n casglu eich teiars gwastraff gael eu hawdurdodi i wneud hynny.

Gwiriwch a yw eich casglwr gwastraff wedi cofrestru gyda ni (Cymru)

Os yw busnes eich casglwr gwastraff yn Lloegr, gwiriwch gydag Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gwybod i ble mae eich teiars gwastraff yn mynd

Holwch eich casglwr gwastraff i ble mae’n cludo eich teairs. Dylai fynd â’r teiars gwastraff i safle sydd wedi’i drwyddedu i ddelio â nhw.

Gwiriwch fod gan y safle drwydded.

Cadw cofnodion

Pan fydd y casglwr gwastraff yn dod i nôl eich teiars gofynnwch iddo am nodyn trosglwyddo gwastraff. Bydd hwn yn dweud wrthych i ble bydd eich teiars gwastraff yn cael eu cludo.

Bydd angen i chi lenwi rhan ohono ac yna’i arwyddo.

Dylech gadw copi o’r nodyn hwn am ddwy flynedd. Gallwn ni, neu eich awdurdod lleol ofyn i chi am gopi ohono.

Storio teiars gwastraff

Dylech storio cyn lleied o deiars ag sydd bosibl ar eich safle.

Gofalwch fod teiars yn cael eu cludo o’r safle’n rheolaidd.

Os ydych yn storio pentyrrau o deiars, dylech wneud hynny am gyfnod byr yn unig. Gofalwch fod y teiars yn cael eu storio’n ddiogel ymhell o unrhyw ffynonellau a allai achosi tân.

Teiars gwastraff yn y cartref

Darganfod beth i’w wneud gyda theiars gwastraff yn eich cartref (Cymru yn ailgylchu).

Rhowch wybod am bryderon ynghylch pobl sy’n casglu gwastraff

Os ydych yn credu :

  • fod rhywun yn cael gwared o wastraff yn anghyfreithlon
  • fod rhywun yn storio gwastraff yn anghyfreithlon
  • nad yw rhywun yn cydymffurfio â’i drwydded neu ei esemptiad

rhaid i chi beidio â rhoi eich teiars gwastraff iddo

Rhoi gwybod i ni am weithgaredd y tybiwch ei fod yn anghyfreithlon.

Dyletswydd gofal gwastraff

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb cyfreithiol i drin gwastraff yn ddiogel ac mewn ffordd gyfrifol. Yr enw ar hyn yw ein dyletswydd gofal.

Darganfod mwy am rolau a chyfrifoldebau gwastraff sefydliadau.

Darganfod mwy am gael gwared o’ch gwastraff cartref.

Diweddarwyd ddiwethaf