Rheoli seddau domestig clustogog gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus (POPs)

Nodi, disgrifio, dosbarthu a rheoli seddau domestig clustogog gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus.

Nodi seddau domestig clustogog gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus

Seddau domestig gwastraff yw unrhyw fathau o seddau – o gartrefi neu fusnesau – sy’n wastraff. Gall seddau domestig clustogog gynnwys llygryddion organig parhaus. Er enghraifft:

  • soffas
  • gwelyau soffa
  • cadeiriau breichiau
  • cadeiriau cegin a chadeiriau ystafell fwyta
  • stolion a stolion traed
  • cadeiriau swyddfa gartref
  • futons
  • bagiau ffa, clustogau llawr a chlustogau soffa

Mae hyn yn cynnwys unrhyw ran sy’n cynnwys neu wedi’i gwneud o ledr, lledr synthetig, ffabrig arall, neu sbwng.

Nid yw’r mathau canlynol o seddau domestig yn debygol o gynnwys llygryddion organig parhaus:

  • eitemau nad ydynt wedi’u clustogi, er enghraifft, cadair bren nad yw ei chefn, na’i sedd na’i breichiau wedi’u clustogi nac wedi’u gorchuddio â thecstil
  • cadeiriau cynfas
  • gwastraff o brosesau gweithgynhyrchu seddau domestig newydd y gall y gwneuthurwr ddangos nad yw’n cynnwys llygryddion organig parhaus

Nid yw matresi, llenni, bleindiau na gwelyau yn seddau domestig, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn y canllawiau hyn.

Disgrifio a dosbarthu seddau domestig gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus

Yn eich nodyn trosglwyddo gwastraff rhaid i chi wneud y canlynol:

  • disgrifio’r gwastraff fel ‘seddau domestig gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus’
  • dosbarthu’r gwastraff gyda’r cod rhestr gwastraff 20 03 07

Rhaid i chi ychwanegu’r disgrifiad hwn ar gyfer seddau domestig gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus pan fo’r eitemau hyn wedi’u cymysgu â gwastraff arall (nad yw’n cynnwys llygryddion organig parhaus). Er enghraifft, mewn sgip neu gilfach o wastraff cartref swmpus.

Rhaid i chi restru’r cemegion perthnasol yn y nodyn trosglwyddo gwastraff.

Llygryddion organig parhaus a chemegion eraill y gall seddau domestig gwastraff eu cynnwys

Mae seddau domestig clustogog gwastraff yn aml yn cynnwys un o’r llygryddion organig parhaus canlynol ar gefn y gorchuddion ac yn y sbwng:

  • decabromodiffenyl ether (DecaBDE) – y mwyaf cyffredin
  • hecsabromoseiclododecan (HBCDD)
  • pentabromodiffenyl ether (PentaBDE)
  • tetrabromodiffenyl ether (TetraBDE)

Gall y cemegion hyn hefyd halogi leinin a wadin sydd mewn cysylltiad â sbwng neu orchuddion.

Mae’r cemegion peryglus canlynol hefyd yn debygol o fod yn bresennol:

  • antimoni triocsid – synergydd carsinogenaidd a ddefnyddir yn aml gyda DecaBDE
  • paraffinau clorinedig cadwyn ganolig – a ddefnyddir yn aml mewn lledr synthetig i’w wneud yn hyblyg

Gall deunyddiau gwrthdan eraill, a chydrannau peryglus o PVC, fod yn bresennol hefyd.

Gwastraff o brosesau gweithgynhyrchu seddau domestig clustogog

Pan fyddwch yn gweithgynhyrchu seddau domestig clustogog mae’n rhaid i chi wybod pa gemegion sydd yn y cydrannau canlynol:

  • gorchuddion
  • sbwng
  • leinin
  • wadin

Mae cyflenwyr o rai gwledydd yn dal i gyflenwi deunyddiau sy’n cynnwys cemegion, er enghraifft deunyddiau gwrthdan, sydd yn llygryddion organig parhaus.

Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu wrth weithgynhyrchu seddau domestig clustogog yn cael ei ddisgrifio a’i ddosbarthu’n gywir. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall eich contractwr gwastraff ei reoli’n briodol.

Dylech labelu’ch cynhyrchion newydd yn glir gan nodi’r cemegion sy’n bresennol yn eu cydrannau. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n briodol yn y dyfodol, gan gynnwys pan fydd rhywun:

  • yn eu hailddefnyddio
  • yn eu hailgylchu
  • yn cael gwared arnynt

Didoli a storio seddau domestig clustogog gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus

Rhaid i chi ddidoli a storio seddau domestig clustogog gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus mewn ffordd sy’n sicrhau nad yw’r gwastraff hwnnw:

  • yn cael ei niweidio
  • yn rhyddhau llygryddion organig parhaus
  • yn cael ei halogi â gwastraff arall

Rhaid i chi osgoi cymysgu seddau domestig clustogog gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus â gwastraff arall yn ystod y camau canlynol sy’n ymwneud â’r gwastraff:

  • cynhyrchu
  • storio
  • casglu
  • trin

Mae hyn yn cynnwys mewn:

  • sgip neu gynhwysydd
  • cilfach mewn canolfan ailgylchu gwastraff y cartref, gorsaf drosglwyddo, neu safle trin

O dan amgylchiadau eithriadol, gallwch gyfiawnhau peidio â gwahanu ymhellach pan fo’r ddau amod hyn yn berthnasol:

  • eich bod eisoes wedi cymryd pob cam rhesymol
  • nad oes unrhyw ddewisiadau eraill

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fyddant yn derbyn hyn.

Gallwch gasglu seddau domestig clustogog gwastraff ar yr un cerbyd ag eitemau gwastraff eraill (er enghraifft, wrth gasglu gwastraff swmpus ar garreg y drws) cyn belled ag y bo’r mathau o wastraff:

  • heb fod yn gymysg
  • yn cael eu casglu mewn ffordd sy’n sicrhau nad oes modd i un math o wastraff halogi’r gwastraff arall
  • wedi’u gwahanu oddi wrth y gwastraff arall pan fyddant yn cael eu dadlwytho o’r cerbyd

Os byddwch yn cymysgu gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus â gwastraff nad yw’n eu cynnwys, rhaid i chi reoli’r llwyth cyfan fel gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus hyd nes y gallwch wahanu’r seddau domestig clustogog. Rhaid i chi ddinistrio’r llygryddion organig parhaus hyd yn oed os yw’r ffaith bod y gwastraff wedi’i gymysgu wedi gwanhau lefel y llygryddion hyn fel ei bod yn is na’r terfyn crynodiad.

Gwahanu eitemau cyfan o seddau domestig clustogog oddi wrth wastraff cymysg

Mae hyn yn cynnwys pan fo’r gwastraff wedi’i gymysgu’n anfwriadol neu’n amhriodol.

Ni chewch wahanu eitemau cyfan o seddau domestig clustogog oddi wrth wastraff cymysg oni allwch ddangos nad yw wedi halogi’r gwastraff arall, er enghraifft gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon neu wastraff mewn sgip.

Gall halogiad ddigwydd pan fydd darnau o sbwng, gorchudd, leinin neu ddeunydd wadin yn cael eu rhyddhau o’r eitem.

Os bu halogiad, rhaid i chi reoli’r llwyth cyfan fel pe bai’n wastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus.

Nodi eitemau cyfan sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus ac eitemau cyfan nad ydynt yn eu cynnwys

Gallwch nodi seddau domestig clustogog gwastraff nad ydynt yn cynnwys llygryddion organig parhaus a’u storio ar wahân.

Gallwch ddefnyddio fflworoleuedd pelydr-X (XRF) i sganio am bromin, sy’n dangos bod llygryddion organig parhaus yn debygol o fod yn bresennol. Fodd bynnag, rhaid i chi sicrhau eich bod:

  • wedi cael yr hyfforddiant cywir ar gyfer defnyddio XRF a defnyddio dyfais addas
  • wedi darllen yr astudiaeth o lygryddion organig parhaus mewn seddau domestig gwastraff er mwyn deall yr hyn sy’n ofynnol
  • yn cysylltu â ni i wirio a oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i’ch trwydded a’ch system reoli
  • yn gallu dangos bod eich proses yn gweithio a’i bod yn gywir – mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am y dystiolaeth hon

Cael gwared ar seddau domestig gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus

Rhaid i chi losgi seddau domestig gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus neu wastraff cymysg sy’n eu cynnwys.

Rhaid i’r llosgydd gwastraff dinesig neu beryglus (neu odyn sment) fod wedi’i awdurdodi i dderbyn gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus.

Ni chewch ddefnyddio unrhyw ddulliau eraill o drin, ailgylchu neu waredu gwastraff.

Cynllun wrth gefn ar gyfer cau llosgydd

Pan na all y llosgydd dderbyn y gwastraff, gallwch wneud y canlynol:

  • storio’r gwastraff hyd nes bod y llosgydd yn gallu ei dderbyn
  • ei anfon i losgydd neu odyn sment arall sydd wedi’i awdurdodi i’w dderbyn a’i ddinistrio

Ni chewch ei anfon i unrhyw fath arall o weithrediad i’w waredu neu ei adfer, er enghraifft gweithrediad tirlenwi.

Mae angen i weithredwyr llosgyddion fod â chynlluniau wrth gefn yn eu lle i reoli’r gwaith o dderbyn gwastraff gan gwsmeriaid sydd â seddau domestig clustogog gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus i’w dinistrio. Ni chânt anfon y gwastraff hwn i safleoedd tirlenwi yn ystod cyfnod cau a gynlluniwyd neu nas cynlluniwyd.

Paratoi’r gwastraff i’w ddinistrio

Os yw’n ofynnol gan weithredwr y llosgydd i’r gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus gael ei ddarnio, oherwydd na ellir trin eitemau cyfan o seddau domestig clustogog gwastraff, rhaid i chi sicrhau:

  • eich bod yn defnyddio offer darnio y tu mewn i adeilad
  • nad ydych yn caniatáu i allyriadau pwynt di-dor neu allyriadau gronynnau ffo adael y weithfa neu’r adeilad

Rhaid i chi reoli allyriadau gronynnau ffo drwy wneud un o’r canlynol:

  • cyfyngu a lleihau’r weithfa rwygo
  • gweithredu system echdynnu aer leol i’r weithfa leihau
  • gweithredu system echdynnu aer adeilad llawn o dan bwysau negyddol i’r weithfa leihau

Rhaid i chi ddefnyddio hidlwyr bagiau ar y weithfa leihau sydd wedi’u cynllunio i ryddhau gronynnau sy’n llai na 5mg/m3 o faint. Rhaid sicrhau bod offer monitro pwysau parhaus gyda larwm wedi’u gosod arnynt er mwyn gwneud yn siŵr bod yr hidlyddion yn gweithio’n gywir.

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • peidio â thynnu deunyddiau i’w hailgylchu oni allwch ddangos nad ydynt yn cynnwys llwch, ffabrigau neu sbwng gweddilliol sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus
  • anfon unrhyw allbynnau neu weddillion o brosesau trin sy’n cynnwys y deunyddiau, ffabrigau neu sbwng sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus sydd i gael eu dinistrio
  • anfon unrhyw fân ddeunyddiau, llwch neu ronynnau a gynhyrchir gan y broses i gael eu dinistrio, a disgrifio’r gwastraff sydd i’w drosglwyddo fel gwastraff sydd ‘yn cynnwys llygryddion organig parhaus’
  • sicrhau bod seddau domestig clustogog gwastraff sydd wedi’u darnio ac sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus wedi’u storio y tu mewn i adeilad, neu mewn cynhwysydd wedi’i selio, neu wedi’u byrnu a’u lapio’n ddiogel

Cewch anfon ffracsiynau metel i fwyndoddwr awdurdodedig addas sy’n gweithredu o dan god adfer R4. Pan fo’r gwastraff yn cynnwys ffabrig a sbwng, rhaid i chi ddosbarthu a disgrifio’r gwastraff fel ‘gwastraff cymysg sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus’. Os ydych yn gwneud unrhyw waith trin rhwng prosesau, rhaid i chi:

  • fod â rheolaethau priodol ar gyfer lleihau allyriadau
  • anfon unrhyw allbynnau neu weddillion sy’n cynnwys y ffabrig a’r sbwng i gael eu dinistrio

Mae’n bosibl y bydd gweithredwr y llosgydd yn gofyn i chi gymysgu’r seddau domestig clustogog gwastraff sydd wedi’u gwahanu â gwastraff arall er mwyn:

  • hwyluso’r gwaith o’i lwytho
  • rheoli’r gwerth caloriffig
  • optimeiddio’r broses hylosgi

Pan fyddwch yn cymysgu’r gwastraff, rhaid i chi wneud hynny mewn ffordd sy’n defnyddio cyn lleied o wastraff nad yw’n cynnwys llygryddion organig parhaus â phosib er mwyn osgoi’r canlynol:

  • rhyddhau gronynnau sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus
  • halogi mwy o wastraff nag sydd raid

Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i gael cyngor ar sut i wneud newidiadau i’ch system reoli a’ch trwydded os ydych am osod offer i baratoi gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus ar eich safle.

Sut mae’n rhaid i weithredwyr tirlenwi reoli seddau domestig clustogog gwastraff

Rhaid i weithredwyr tirlenwi beidio â derbyn unrhyw seddau domestig clustogog gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • seddau domestig clustogog gwastraff sydd wedi’u gwahanu
  • gwastraff cymysg sy’n cynnwys seddau domestig clustogog gwastraff
  • gwastraff sydd wedi’i ddarnio neu wedi’i dorri i fyny sy’n deillio o waith trin gwastraff sy’n cynnwys seddau domestig clustogog gwastraff, gan gynnwys tanwydd sy’n deillio o sbwriel (RDF) a thanwydd solet wedi’i adfer (SRF)
  • gronynnau gograu tro sy’n deillio o waith trin gwastraff sy’n cynnwys seddau domestig clustogog gwastraff, gan gynnwys llwch o systemau hidlo aer

Rhaid i’ch gweithdrefnau derbyn gwastraff sgrinio allan seddau domestig clustogog gwastraff. Rhaid i chi roi’r math hwn o wastraff mewn cwarantîn a’i anfon i losgydd awdurdodedig priodol i’w ddinistrio.

Ni chewch anfon seddau domestig clustogog gwastraff i safle tirlenwi oni bai eich bod wedi cael cadarnhad nad ydynt yn cynnwys llygryddion organig parhaus. Rhaid i’r cadarnhad hwn ddod o safle sydd â gweithdrefnau wedi’u dogfennu ar waith ar gyfer nodi a gwahanu seddau sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus yn gywir. Gweler yr adran ar ‘Nodi eitemau cyfan sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus ac eitemau cyfan nad ydynt yn eu cynnwys’.

Trin: gwahanu deunyddiau sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus oddi wrth ddeunyddiau eraill

Gallwch wahanu’r sbwng a’r ffabrig sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus oddi wrth ddeunyddiau eraill mewn sedd ddomestig. Rhaid i’ch trwydded amgylcheddol awdurdodi’r gweithgaredd hwn.

Os byddwch yn gwahanu â llaw, rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • bod yr holl sbwng a’r tecstilau wedi’u tynnu’n gyfan gwbl, a’ch bod yn rheoli unrhyw ran o’r eitem sydd â sbwng a thecstilau ynghlwm wrtho fel gwastraff s’n cynnwys llygryddion organig parhaus
  • eich bod yn atal neu’n cynnwys unrhyw lwch, neu unrhyw ddarnau o sbwng a thecstilau sy’n cael eu rhyddhau o’r deunydd, a rhaid i chi reoli’r llwch a’r darnau fel gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus
  • eich bod yn storio deunydd sydd wedi’i wahanu sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus y tu mewn i adeilad, o dan orchudd, neu mewn cynhwysydd wedi’i selio
  • na chaiff unrhyw lygryddion organig parhaus eu rhyddhau i’r garthffos neu ddŵr wyneb

Os ydych yn defnyddio prosesau trin mecanyddol, rhaid i chi hefyd ddilyn y canllawiau yn yr adran ‘Paratoi’r gwastraff i’w ddinistrio’. Cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru os oes angen cyngor arnoch ar sut i weithredu eich proses drin fecanyddol yn gyfreithlon.

Trin: cywasgu seddau domestig gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus

Caniateir cywasgu seddau domestig gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus. Fodd bynnag, rhaid i chi gymryd camau rhesymol i atal, cadw a chasglu unrhyw ollyngiadau o ddeunydd neu lwch sydd wedi’i halogi â llygryddion organig parhaus a gynhyrchir gan y broses gywasgu.

Gallwch wneud hyn trwy wasgu’r gwastraff yn araf i gyfyngu’r holl ddeunyddiau o fewn y gofod yr ydych yn gweithio ynddo. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio’r canlynol:

  • cydiwr neu fwced i gywasgu’r gwastraff yn gyson
  • system paciwr rholer yn y cynhwysydd
  • proses gywasgu drwy ddyrnu i mewn i gynhwysydd

Rhaid i chi wirio’n rheolaidd nad yw gronynnau’n cael eu rhyddhau yn ystod y broses gywasgu. Gallwch reoli unrhyw ronynnau a ryddheir drwy wneud y canlynol:

  • niwlio a defnyddio chwistrellau dros y cynhwysydd
  • defnyddio canonau atal llwch symudol sydd wedi’u lleoli’n addas
  • chwistrellu wyneb y gwastraff cyn ei gywasgu gan ddefnyddio chwistrellwr o becyn ar eich cefn

Rhaid i chi anfon y gwastraff cywasgedig hwn ac unrhyw ddeunydd neu lwch halogedig i gael ei ddinistrio. Ni chewch ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Allforio seddau domestig gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus i’w llosgi

Dim ond i wledydd yr Undeb Ewropeaidd neu Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop y cewch allforio seddau domestig clustogog gwastraff i’w llosgi ar gyfer adfer ynni (R1).

Os yw’n ofynnol gan safle’r llosgydd yr ydych yn anfon y gwastraff iddo eich bod yn paratoi’r gwastraff i’w ddinistrio, gallwch wneud hyn cyn belled ag y bo’ch safle, neu’r safle yr ydych yn ei ddefnyddio, wedi’i awdurdodi’n briodol. Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i wirio sut i sicrhau bod eich system reoli a’ch trwydded yn cwmpasu’r gwaith trin hwn.

Os ydych yn allforio tanwydd sy’n deillio o sbwriel (RDF) neu danwydd solet wedi’i adfer (SRF) sydd wedi’i wneud o seddau domestig clustogog gwastraff, neu sydd wedi’i wneud yn rhannol o seddau domestig gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus, rhaid dinistrio’r llygryddion hynny.

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn ei gwneud yn glir bod llygryddion organig parhaus yn bresennol ym mloc 12 – ‘dynodi a chyfansoddiad’ – eich hysbysiad.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf