Ffioedd cofrestru a hysbysu

Gweithgaredd

Cofrestru cyforgronfa ddŵr fawr: £778

Gadael i gyforgronfa ddŵr fawr fynd yn segur: £328

Ailddefnyddio cyforgronfa ddŵr fawr sydd wedi'i gadael yn segur: £263

Dirwyn cyforgronfa fawr ddŵr i ben: £197

Adolygiad o’r dynodiad risg: £886

Ffioedd monitro cydymffurfedd blynyddol

Ffi monitro cydymffurfedd flynyddol sy'n berthnasol i gronfeydd dŵr risg uchel: £251

Diffiniadau

Mae ein cynllun codi tâl ond yn berthnasol i gronfeydd dŵr a reoleiddir gennym o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mae “cyforgronfa ddŵr fawr” yn gronfa ddŵr sydd â chapasiti o 10,000 metr ciwbig o ddŵr, neu fwy, wedi’i ddal uwchlaw lefel naturiol y ddaear
  • mae “cronfa ddŵr risg uchel” yn gyforgronfa ddŵr fawr yr ydym wedi darparu hysbysiad ysgrifenedig o ddynodiad terfynol ar ei chyfer sy'n nodi ei bod yn gronfa ddŵr risg uchel

Cofrestru

Pan fyddwch yn cofrestru cyforgronfa ddŵr fawr, rhaid i chi dalu'r tâl a nodir uchod. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • ein gwaith yn dilysu'r wybodaeth a'i chynnwys yn y gofrestr gyhoeddus
  • ein gwaith yn ystyried ac yn penderfynu ar ddynodiad risg y gronfa ddŵr
  • cyfran o'n costau wrth ymchwilio i gronfeydd dŵr anghofrestredig

Nid oes ffi am newid gwybodaeth am gronfeydd dŵr sydd eisoes wedi'u cofrestru'n gywir. Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth lawn a chywir fel y disgrifir yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cofrestru'ch cronfa ddŵr <https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/environmental-topics/water-management-and-quality/reservoir-safety/register-your-reservoir/?lang=cy>.

Gadael i gronfa ddŵr fynd yn segur

Pan fyddwch yn penodi peiriannydd sifil cymwys i archwilio ac adrodd ar y camau y mae angen i chi eu cymryd i adael i’r gronfa ddŵr fynd yn segur, rhaid i chi roi gwybod i ni a thalu'r tâl a nodir uchod. Mae'r tâl yn cynnwys ein costau gweinyddol ar gyfer y canlynol:

  • derbyn, dilysu a chydnabod yr hysbysiad
  • derbyn, dilysu a chydnabod yr adroddiad statudol
  • ein gwaith yn monitro unrhyw fesurau diogelwch a chydnabod ardystiad y rhain
  • diwygio'r gofrestr gyhoeddus

 

Ailddefnyddio cronfa ddŵr sydd wedi'i gadael yn segur

Pan fyddwch yn penodi peiriannydd adeiladu i archwilio ac adrodd ar y camau y mae angen i chi eu cymryd i ailddefnyddio (ail-lenwi) cronfa ddŵr sydd wedi'i gadael yn segur, rhaid i chi roi gwybod i ni a thalu'r tâl. Mae’r tâl yn cynnwys ein costau gweinyddol ar gyfer y canlynol:

  • derbyn, dilysu a chydnabod yr hysbysiad
  • derbyn, dilysu a chydnabod yr ardystiadau statudol
  • monitro mesurau diogelwch
  • diwygio'r gofrestr gyhoeddus

Dirwyn cronfa ddŵr i ben

Pan fyddwch yn penodi peiriannydd sifil cymwys i gynllunio a goruchwylio'r gwaith o addasu cyforgronfa ddŵr fawr i'w dirwyn i ben a’i symud o fod yn destun rheoleiddio, rhaid i chi roi gwybod i ni a thalu'r tâl. Mae’r tâl yn cynnwys ein costau gweinyddol ar gyfer y canlynol:

  • derbyn, dilysu a chydnabod yr hysbysiad
  • derbyn, dilysu a chydnabod ardystiad interim a therfynol
  • diwygio'r gofrestr gyhoeddus

Adolygiad o’r dynodiad risg

Gallwch gyflwyno cais i ni adolygu dynodiad risg eich cronfa ddŵr ar unrhyw adeg. Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth sy'n cefnogi'ch achos dros newid y dynodiad. Mae'r tâl yn cynnwys y canlynol:

  • ein gwaith yn adolygu'r dynodiad presennol ac adolygiad desg o'r dystiolaeth newydd a ddarparwyd
  • dyroddi hysbysiadau statudol
  • diwygio'r gofrestr gyhoeddus

Nid yw'r tâl hwn yn cynnwys y canlynol:

  • caffael unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol gennym
  • ymweliadau safle neu gyfarfodydd

Os byddwn yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn aneglur neu nad oes digon o dystiolaeth, efallai y byddwn yn gwneud ein penderfyniad yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd gennych. Fel arall, efallai y byddwn yn rhoi argymhellion ynglŷn â thystiolaeth ychwanegol y bydd angen ei darparu ar eich cost eich hun. Efallai y byddwn hefyd yn darparu cost ar gyfer yr amser a'r deunyddiau i ganiatáu i ni gaffael yr wybodaeth ar eich rhan. Bydd angen i chi dalu'r gost ychwanegol cyn i ni wneud unrhyw waith ychwanegol.

Bwriad gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol, neu i ni ei chaffael, yw ein helpu i sicrhau ein bod yn seilio ein penderfyniad ar dystiolaeth, ond nid yw hyn yn awgrymu y bydd y dystiolaeth ychwanegol yn newid ein penderfyniad ynglŷn â'r dynodiad presennol. Pan nad oes digon o dystiolaeth, neu os yw’r dystiolaeth yn aneglur neu os oes gennym amheuaeth, byddwn yn dynodi cronfa ddŵr fel cronfa ddŵr risg uchel.

Ffioedd monitro cydymffurfedd blynyddol

Mae taliadau monitro cydymffurfedd blynyddol yn daladwy ar gyfer pob cronfa ddŵr risg uchel yr ydych yn gyfrifol amdani. Mae’r tâl hwn yn adennill cyfran o’r costau ar gyfer gwneud y canlynol:

  • monitro terfynau amser statudol sy'n berthnasol i'ch cronfa ddŵr
  • darparu nodiadau atgoffa, cyngor ac arweiniad ar draws cymuned y gronfa ddŵr
  • derbyn, prosesu a chydnabod datganiadau statudol a chyfarwyddiadau a ddarparwyd gan eich peiriannydd goruchwylio
  • cyfran o'n costau ar gyfer y gwaith o gynnal y gofrestr gyhoeddus

Mae’r tâl hwn yn daladwy o’r dyddiad y mae eich cronfa ddŵr wedi’i dynodi’n gronfa ddŵr risg uchel. Os caiff eich cronfa ddŵr ei dynodi ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn, byddwn yn codi ein tâl ar sail pro rata yn unol â’r nifer o ddyddiau sy'n weddill yn y flwyddyn.

Eithriadau lle na chodir tâl

Nid yw ein taliadau yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

  • costau yr awn iddynt sy'n ymwneud ag unrhyw gamau gorfodi y gallwn eu cymryd. Mae costau gorfodi yn cael eu hadennill fesul achos
  • dadgofrestru yn dilyn datgomisiynu cronfa ddŵr
  • cost rhaglenni ymchwil a datblygu
  • darparu gwybodaeth mewn ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol
  • ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio, ymgynghoriadau ar geisiadau am drwyddedau, ac ymholiadau cyffredinol
Diweddarwyd ddiwethaf