Dŵr Gwastraff Trefol
Cyfarwyddeb Trin Dŵr Gwastraff Trefol
Mae'r Gyfarwyddeb Trin Dŵr Gwastraff Trefol (91/271/EEC) ('y Gyfarwyddeb) yn un o nifer o gyfarwyddebau'r Undeb Ewropeaidd (yr UE) sydd â'r nod o wella'r amgylchedd dŵr i'r anifeiliaid a'r planhigion sy'n byw ger y dŵr ac ynddo, yn ogystal ag at bwrpasau hamddena, ac fel adnodd ar gyfer dŵr yfed, glanweithdra a masnach. Cafodd y Gyfarwyddeb ei mabwysiadu ar 21 Mai 1991. Mae'n ofynnol i aelod-wladwriaethau'r UE weithredu'r Gyfarwyddeb trwy eu deddfwriaeth genedlaethol.
Beth yw 'dŵr gwastraff trefol'?
Diffiniad y Gyfarwyddeb o 'ddŵr gwastraff trefol' yw'r cymysgedd o ddŵr gwastraff domestig o geginau, ystafelloedd ymolchi a thoiledau, y dŵr gwastraff o ddiwydiannau sy'n gollwng i garthffosydd, a dŵr ffo o heolydd ac arwynebau anhydraidd eraill, er enghraifft toeon, palmentydd a heolydd sy'n draenio i garthffosydd. Enw arall ar ddŵr gwastraff trefol yw 'carthffosiaeth'.
Pam trin dŵr gwastraff trefol?
Er taw dŵr yw'r rhan fwyaf o ddŵr gwastraff heb ei drin (yn gyffredinol, mae llai na 0.1% ohono yn solidau), heb iddo gael ei drin byddai'r dŵr gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu bob dydd yn achosi difrod sylweddol i'r amgylchedd. Dyma rai o effeithiau dŵr gwastraff heb ei drin:
- Difrod cronig i ecosystemau o ganlyniad i ostyngiad yn lefelau ocsigen mewn dyfroedd sy'n ei dderbyn. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod deunydd organig yn pydru yn y dŵr
- Difrod i ecosystemau a gorfaethu dyfroedd o ganlyniad i lefelau gormodol o faetholion mewn dŵr gwastraff
- Niwed posibl i iechyd pobl gan bathogenau mewn dŵr gwastraff sy'n gollwng i ddyfroedd sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau hamdden fel nofio a chanŵio
Effeithiau ar yr amgylchedd
Mae dŵr gwastraff heb ei drin hefyd yn cynnwys sbwriel carthffosiaeth a charthion solet eraill sy'n gallu effeithio ar yr amgylchedd. Gall yr effeithiau hyn gynnwys mogi gwelyau afonydd neu fod yn beryglus i fywyd gwyllt sy'n eu llyncu. Gall carthion solet hefyd niweidio masnach trwy wneud traethau a glannau afonydd yn llai deniadol i ymwelwyr.
Casglu dŵr gwastraff
Cyn gallu trin dŵr gwastraff, mae'n rhaid ei gasglu. Bob dydd yng Nghymru, mae dros 18,000 cilometr o garthffosydd yn casglu dŵr gwastraff o gartrefi, safleoedd trefol, masnachol a diwydiannol, a dŵr ffo o heolydd ac arwynebau anhydraidd eraill.
Systemau casglu
Mae pum prif fath o systemau casglu:
- Draenio dŵr wyneb, casglu glaw sy'n llifo i ffwrdd o heolydd ac ardaloedd trefol, a dŵr sy’n llifo’n uniongyrchol i ddyfroedd lleol
- Carthffosiaeth gyfun, sy'n casglu dŵr glaw ffo a dŵr gwastraff o safleoedd domestig, diwydiannol, masnachol ac eraill
- Draeniau budr sy'n casglu dŵr gwastraff domestig o gartrefi (nid yw dŵr glaw’n cael ei gasglu)
Trosglwyddo carthffosydd preifat yng Nghymru a Lloegr
Ar 1 Hydref 2011, newidiodd perchnogaeth carthffosydd preifat o berchnogion y cartrefi i gwmnïau carthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr. Erbyn hyn, cwmnïau carthffosiaeth sy'n gyfrifol am drwsio carthffosydd oedd yn arfer bod yn eiddo preifat ac sydd wedi chwalu neu wedi eu rhwystro.
Lefelau trin dŵr gwastraff
Gall y driniaeth mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff gynnwys y camau hyn:
- Triniaeth gychwynnol, i dynnu grut a graean ac i hidlo solidau mawr allan o'r dŵr
- Triniaeth sylfaenol, i setlo'r mater crog mwyaf - deunydd organig fel arfer
- Triniaeth eilaidd, i dorri'r mater organig sy'n weddill i lawr yn fiolegol a'i leihau
- Triniaeth drydyddol, i fynd i'r afael â llygryddion amrywiol gan ddefnyddio prosesau triniaeth gwahanol
Monitro gollyngiadau o ddŵr gwastraff i'r amgylchedd
Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff rheoleiddiol sy'n goruchwylio gweithrediad rheoliadau dŵr gwastraff trefol ac adrodd cysylltiedig ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r swyddogaeth reoleiddio yn cynnwys cyfrifoldeb am ollyngiadau parhaus gan y diwydiant dŵr, sectorau amgylcheddol a gollyngiadau preifat, yn ogystal â gollyngiadau ysbeidiol, er enghraifft o orlifau carthffosydd cyfunol neu ollyngiadau argyfwng.
Awdurdodi gollwng
Fel arfer, bydd angen awdurdod gollwng ar unrhyw ollyngiad i ddyfroedd wedi'u rheoli.
Bydd yr awdurdod yn nodi safonau ar gyfer monitro elifion o weithfeydd triniaeth. Ar gyfer gollyngiadau ysbeidiol, gall yr awdurdod nodi faint gaiff ei ollwng, neu gall nodi bod rhaid sgrinio gollyngiadau i gael gwared ar sbwriel carthffosiaeth. Yng Nghymru a Lloegr, yr enw ar awdurdodau gollwng yw 'Trwyddedau Amgylcheddol'.