Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Beth yw Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol?
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol i'w cael ledled y DU. Fe'u sefydlwyd er mwyn diogelu eu bywyd gwyllt, eu cynefinoedd neu eu nodweddion daearegol o ddiddordeb arbennig, ac er mwyn caniatáu i bobl eu hastudio.
Erbyn heddiw, mae'r rhan fwyaf o'n gwarchodfeydd natur ar agor er mwyn i bawb allu chwilota, dysgu a mwynhau ynddyn nhw.
Lle maen nhw a beth maen nhw'n ei gynnwys
Mae gan Gymru 76 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol er mwyn helpu i ddiogelu amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a thirweddau, megis:
- copaon uchel yr Wyddfa ‒ cartref rhai o’r rhywogaethau hynaf o blanhigion yn y DU
- twyni tywod ysgubol Morfa Harlech a Morfa Dyffryn ‒ yn cynnwys gwastadeddau llaid a morfeydd heli sy'n fannau bwydo pwysig i adar gwyllt yn y gaeaf
- coedlannau derw hynafol Coedydd Maentwrog yn Nyffryn Ffestiniog – cartref tua 170 o rywogaethau o gen
- corsydd mawn Cors Caron yng Ngheredigion ‒ gyda phlanhigion sydd wedi ymaddasu i’r amodau asidig, megis gwlithlys, andromeda'r gors a phlu’r gweunydd
- ynysoedd anghysbell megis Sgomer ger glannau Sir Benfro – un o’r mannau bridio pwysicaf i adar y môr yn ne Prydain
Sut maen nhw'n cael eu dynodi a'u diogelu?
Er bod y rhan fwyaf o'n gwarchodfeydd natur ar agor i bawb eu mwynhau, mae eu bywyd gwyllt a'u cynefinoedd yn aml yn fregus iawn ac yn cael eu diogelu gan y gyfraith.
Mae'r Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol yng Nghymru wedi cael eu diogelu fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae'r rhan fwyaf hefyd wedi cael eu datgan o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE fel Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) neu Ramsar (gwlyptir) ac mae'r dynodiadau hyn yn cynnig amddiffyniad cyfreithiol pellach.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dethol ac yn dynodi Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, neu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Ymweld â gwarchodfeydd natur
Mae pob Gwarchodfa Natur Genedlaethol ar agor i'r cyhoedd oni bai bod rhesymau iechyd a diogelwch neu gadwraeth natur yn cyfyngu ar fynediad.
Mae eu rheoli yn gydbwysedd bregus rhwng annog ymwelwyr a gwarchod y safle.
Gall mynediad hefyd gael ei gyfyngu mewn rhai gwarchodfeydd oherwydd peryglon megis hen weithfeydd mwyngloddio neu gorsydd.
Dysgwch am rai o’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol y gallwch ymweld â hwy.
Sut maen nhw’n cael eu rheoli?
Rydyn ni'n rheoli 56 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru, naill ai yn gyfan gwbl, neu mewn partneriaeth.
Mae gan bob un o'n gwarchodfeydd Uwch-reolwr Gwarchodfa, sydd â’r gwaith o warchod y safle, datrys problemau mynediad a delio gyda thirfeddianwyr ac ymwelwyr.
Mae'r gweddill yn cael eu rheoli naill ai gan gyrff gwirfoddol, megis Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB neu'r Ymddiriedolaethau Natur neu awdurdodau lleol.
Mae’r coedwigoedd yr ydym yn eu rheoli fel rhan o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru wedi eu hardystio hyd at safonau’r Forest Stewardship Council® (FSC®). Ein côd drwyddedu yw FSC – C115912.
Nid yw’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yr ydym yn eu rheoli (gan gynnwys coetir ar y gwarchodfeydd hyn) wedi eu hardystio. Mae rhai o’n taflenni gwybodaeth i ymwelwyr yn defnyddio nod masnach nad yw’n cydymffurfio â’r FSC® a gallai rhai o’r taflenni hyn awgrymu hefyd fod ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn rhai ardystiedig. Mae ein corff ardystio yn ymwybodol o’r gwall hwn ac wedi cytuno y gallwn ddefnyddio stociau o’r taflenni hyn er mwyn osgoi eu gwastraffu.